Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

BETHESDA.

News
Cite
Share

BETHESDA. Anghyfiawnder Sefydliadau Eglwysig.Nos Fawrth, y 7fed cyfisol, yn Ysgold^ y Cefnfaes, cafwyd darlith nodedig o alluog ar y testyn uchod gan y Parch. Evan Jones, Caernarfon. Yr oedd y cynulliad yn dra phoblogaidd a brwdfrydig. Llywyddwyd gan y Parch. R. S. Williams. Gwladlywiaeth Ddwyreiniol" Iarll Beacons- fieltL—Yn yr un ysgoldy, ar derfyn y ddarlith grybwylledig, cynaliwyd cyfarfod er rhoddi Cyf- leusdra i'r ardalwyr ddatgan en barn ar nodwedd ryfelgar a bygythxol gweithrediadau y Prifweinid- og a'i gydswyddogion. Gwasanaethai yr un bon- eddwr parehedig yn hwn eto fel llywydd. Wrth agor y cyfarfod gwnaeth Mr. Williams araeth gampus ar y pwnc. Awgrymodd hefyd mai dydd yr etholiad ydyw yr adeg fwyaf manteisiol er ysgoi yr aflwydd mae'r Iuddew am lusgo'r genedl iddo. A dangosodd yn dra chlir, rwymed- igaeth pob etholwr i aberthu pob mantais, a lies personol ar allor llwyddiant egwyddorion mawr- ion cyfiawnder a heddwch. Mewn araeth wresog gan Mr, W. J. Parry, cynygiwyd y penderfyniad canlynol:—"Mae y cyfarfod cyhoeddus hwn o drigolion Bethesda, Gogledd Cymru, yn dymuno dadgan ei argyhoeddiad dwih nad oes unrhyw sail gyfiawndros i Loegr fyned i ryfel a Rwssia; ac yn credu y byddai rhyfel o'r fath, ar ran y wlad hon yn drosedd gwaradwyddus, mor ni- weidiol i'w buddianau ei hun, ac o anghydweddol a hawliau cyfiawnder; ac hefyd yn dymuno gwasgu ar y Llywodraeth y ddyledswydd bwysig i symud o'r ffordd bob rhwystr i alluoedd Ewrop ymgynull mewn cynhadledd." Eiliwyd y cyn- ygiad yn dra hyawdl ac ymresymiadol gan Mr. R. Jones, Cloth Hall; a chefnogwyd gan y Parchn. R. Rowlands, Trenys, a S. Roberts, Carneddi; a chymeradwywyd ef gan y dorf gyda'r unfrydedd mwyaf trwyadl. Cynygiwyd yr ail benderfyniad gan Mr. MoSea Evans, Gerlan, yr hwn sydd fel y canlyn:—" Mae y cyfarfod cyhoeddus hwn o drigolionBethesda, Gogledd Cymru, yn credu foci ymddailgosiad rhyfelgar presenol Llywodr- aeth ei Mawrhydi, yn ddianghenrhaid a bygyth- iol ae o'r farn mai y ffordd oreu i ddyrehafu buddianau ao anrhydedd gwirioneddol Prydain Fawr a chenedloedd Ewrop yn gyffredinol ydyw, nid drwy xyfel gostus, greulawn, a phechadurus; ond drwy ymgynghoriad pwyllog a chyfeillgar ar y cwestiwn mewn cynhadledd o'r gwahanol alluoedd. Os bydd i'r Llywodraeth ofynbarn y Senedd ar y mater, gobeithiwn y bydd i'n Cynrychiolydd, Gr. S. D. Pennant, wneud yr oil a all drwy bleid- leisio, ao yn mhob modd arall i wrthwynebu y rhyfel, ac felly ddyrehafu egwyddorion rhyddid, uniondeb, a heddwch." Eiliwyd y eynygiad gan Mr. J. H. Jones, Hatter; a phasiwyd. Hefyd pasiwyd yn unfrydol, benderfyniad yn awdur- dodi'r llywydd i.,anfon copi o'r penderfyniad cyntaf i'r Prif Weinidog, a'r Ysgrifenydd Cartref- ol, ac o'r ail i Mr. Pennant, Cynrychiolydd y sir. Oddiwrth yr ymddangosiadau o barch oedd i'w ganfod yn y gwyddfodolion i Mr. Gladstone, a Mr. Bright yn y cyfarfod, pan grybwyllai y siaradwyr eu henwau, credwyf na bydd Bethesda yn ol i un ardal mewn arwyddo y "gofeb." Wedi'r diolchiadau arferol, ymwahanwyd. Cymdaithas My ddfry dig.—Ymddengys fod ych- ydig o arwyddion bywyd yn nodweddu Rhydd- frydwyr Bethesda, y dyddiau hyn. Maent wedi dyfod i deimlo eu bod yn rhywbeth amgen. na mummies, neu ddelwau difywyd, i gael eu harwain gan fympwy boneddwr ieuanc dibrofiad, nas gallodd, (hyd y gwyr y cyhoedd), roddi bodolaeth i'r un syniad politicaidd, er pan y mae yn cynrychioli y sir. Wrth edrych dros ei bleid- leisiau yn y Senedd, canfyddir ei fod wedi votio o blaid. y chive' miliwn," ac wedi gwrthwynebu "Ysgrif y Mynwentydd," Mr. Osborne Morgan. Gan hyny, y mae trwy y gyntaf wedi cynorthwyo yr Iuddew, i gario ei gynlluniau a'i ddarpariadau rhyfelgar, y rhai sydd yu tueddu yn uniongyrch- oli ddinystrio masnach y sir, ac yn anocheladwy barlysu llwyddiant a chysuron y chwarelwyr yn gyffredinol; a thrwy yr ail, y mae wedi cadarn- hau gorsedd meibion Left, i deyrnasu yn fwy baiarnaidd yn y mynwentydd; ac wedi eu gallu- ogi i lenwi eu llogellau yn mhellach, trwy osod trethi trymiou ar barch a thynerwch y byw i goff- adwriaeth y marw. Yn ngwyneb y cyfryw ym- ddygiad diystyro feddianau y bobl, nid rhyfedd ydyw fod y dosbarth mwyaf goleuedig o'r ethol- wyr yn dechreu blino ar amynedd "Issachar" sydd wedi eu nodweddu yn rhy hir: yr hwn a ddar- lunir gan yr hen "batriarch Jacob," fel "asyn asgyrnog yn gOrwedd rhwng dau bwn: ac a wel lonyddwch mai da yw, a'r tir mai hyfryd; efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd gaeth dan deyrnged." Dymunol ydyw fod arwyddion. bywyd ya ym^aogoa fel y crybwyllwyd, Mae Oymdeithas Ryddfrydig" ar gael ei sefydlu yn yr ardal; a chan fod y Rhyddfrydwyr mor lluosog yn y cymydogaethau hyn, dysgwylir iddi gael cefnogaeth galonog. Cofied y Bhyddfrydwyr a'r etholwyr oeddynt yn cael y fath fwynhad, ac yn dadgan eu cymeradwyaeth drwy guro dwylo i'r egwyddorion a draethwyd yn nghyfarfod nos Fawrth, am fod yn ffyddlon iddynt ddydd yr etholiad. Hyderaf na bydd i neb o hbnom, yn rhagor, fyned mor hananol ag ymffrostio ein bod yn Rhyddfrydwyr o waed, yn gystal ac o egwydd- orion: gan fostio ein bod yn ddisgynyddion o'r anfarwol Wm. Pritchard, Clwchdernog, a'r tadau Ymneillduol sir Gaernarfon, ac ar ddydd y prawf, chwareu rhan bradwyr. Ac hefyd, yr wyf yr un mor hyderus, na bydd i neb o honom chwaith ddarostwng ein hunain trwy geisio gwneud neb o'n Samsoniaid Ymneillduol yn gyff gwawd yn y Felin Fawr mwy, rhag ofn i ysbrydion yr hen gewri ardderchog ruthro arnom, a'n llwyr ddy- fetha. COCHWILLAN. ABERTAWY. Agoriad Hermon, Plas Marl.—Mac y capel hwn yn sefyll rhwng Glandwr a Threforis, ac fel yr wyf yn deall taw Siloh a'r Tabernacl ydynt y perthynasau agosaf sydd gan Hermon yn ei gych- wyniad a'i agoriad. Parchn. W. E. Jones ae R. Thomas oedd y ddau bregethwr cyntaf y cyfar- fodydd, ac hefyd y ddau lywydd yr agoriad. Cynllunydd y capel newydd oedd Mr. T. Free- man, Brynhyfryd; a'r adeiladydd oedd Mr. T. White, Abertawe. Mae y ddau, fel yr wyf yn clywed, wedi rhoddi boddlonrwydd hollol i'r eglwys yn eu gwaith o'r adeilad. Y mae gan- ddynt gapel prydferth a tblws wedi ei godi, heb ddim o'r gorwychder diangenrhaid yn pertbyn iddo. Mae yn hynod ysgafn i wrandaw, a rhwydd iawn i siarad ynddo, yn ol pob tebygolrwydd. Y peth rhyfeddaf am y capel hwn ydyw, ei fod wedi cael ei adeiladu am bris mor isel a £ 2,500. Mae yn sicr o fod yn ddyledus i bwyllgor yr adeilad newydd ddiolchgarwch cyffredinol ardal Plas Marl am eu gwasanaeth o gael capel mor hardd i eistedd tua 750 o wrandawyr am y pris isel uchod. Gobeithio y bydd iddynt yn eu teml newydd ei llenwi o bobl yn caru yr Arglwydd, ac y bydd y Brenin ei hunan yn eu plith yn llenwi y lie â'i ogoniant, ac yn eu llywodraethu a'u har- wain i'r ddinas hoddfa. Pregethwyd gan y Parchn. canlynol nos Sadwrn, Mai 4ydd, W. E. Jones, Treforis, ac R. Thomas. Dydd Sul can- lynol, B. Williams (Hwfa Mon); Dr. T. Bees; B. Williams, Canaan; a J. Lewis (B.), Belle Yue. Eto dydd Llun am 10, 2, a 7 o'r gloch, Hwfa Mon; 0. R. Owens, sir Benfro; W. Jenkins, Pentre Estyll; ac F. Samuel. Nos Ian, Mai 9, B. Phillips, Treforis, yn Saesoneg. Y Sabbath diweddaf, O. Evans, Llanbrynmair; T. Davies, Horeb D. Jones, B.A., Capel Seion; D. Jones, Cwmhwrla ac L. Davies, Sketty; a nos Lun, sef cyfarfod diweddaf yr agoriad. pregethwyd gan J. Ossian Davies, Llanelli; ac O. Evans, Llanbryn- mair. Nid oes angen dywedyd i Plas Marl gael gwyl ragorol dda yn eu cyfarfodydd agoriadol nad a. yn angof yn fuan o feddwl a serch y gwranda- wyr. Mae poblogrwydd a dylanwad y rhan fwyaf o'r gweinidogion yma bellach wedi cyrhaedd conglau pellaf Deheudir a Gogledd Cymru, heblaw Llundain ei hunan. Yr oedd y cynulliadau yn dra lluosog, a'r efengyl werthfawr yn cael ei thraddodi gyda nerth. Credaf y bydd dylanwad annileadwy y weinidogaeth yn gadael argraff dwfn ac arosol yn y lie. Clywais fod y casgliadau hefyd a'r addewidion wedi d'od i mewn yn lied dda ag ystyried amgylchiadau isel masnach y dyddiau yma. Cyfarfod Ghwarterol y Bedyddwyr.—Cynaliodd y brodyr y Bedyddwyr eu cyfarfod chwarterol perthynol i'r sir hon yina yn capel y Belle Vue, ar y dyddiau Mercher a Iau, Mai 8fed a'r 9fed. Cynaliwyd y gynadledd y dydd cyntaf. Yr oedd yn bresenol yn yr eisteddiad tua 70 o weinidog- ion ac aelodau. Cadeiriwyd gan y Parch. W. Harris, Heolyfelin, Aberdar. Siaradwyd ar am- ryw faterion perthynol i'r enwad, ond y peth mwyaf neillduol oedd cyfnewid ychydig ar rai o reolau y gymdeithas. Hefyd, pasiwyd yn un- frydol fod penderfyniad oddiwrth y gynadledd, yr hon oedd yn cynrychioli 140 o eglwysi, a 2,300 o aelodau mewn llawn gymundeb, i gael ei anfon i'r Anrhydeddus W. E. Gladstone ac i Arglwydd Beaconsfield, i ddiolch i Mr. Gladstone a dynion da eraill oedd wedi bod yn gwneuthur eu goreu i geisio rhwystro y wlad yma i fyned i ryfel a Rwssia, &c. Pregethwyd gan y Parchn. Rees, Cwmafon; James, Porthcawl; Humphreys, Caer- dydd; Jones, Llancarfan; Davies, Aberaman; Samuel, Cwmbach; Salaphiel, Cefncoedycymer; Evans, New Bridge; Jones, Llanfair; Hum- phreys, Cwmafon; N. Thomas, Caerdydd; Evans, Cadlys; Evans, Hirwain; Jones, Canton; Edwards, Llancarfan; Harris, Longhor; Jones, Gilfachgoch; Jenkins, Black Mill; James, Bridge End; Jones, Ferndale; a Jones, Maesteg. Yr oedd pregethu nerthol a chynes iawn yn Belle Vue. Ni fuom mewn cyfarfodydd a chymaint o amenau ynddo er's blynyddoedd. Mae Mr. Lewis, yr hwn sydd wedi d'od yma yn ddiweddar o Maesteg, yn llawn bywyd ac egni at waith. Dywedodd ar ddiwedd y cyfarfodydd fod ganddo tua 15 i'w bedyddio y nos Sabbath nesaf, a bod Mr. A. J. Parry yn Bethesda wedi bedyddio naw neu 10 nos Sabbath diweddaf. Felly, mae y ddwy eglwys yma yn gweithio yn dda iawn. Rhwyddineb neillduol iddynt i fyned rhagddynt yw dymuniad pob Cristion, ond heb broselytio neb o eglwysi eraill. W. D. i r: 1 CILCENIN. Bwrdd Ysgol.-Mae y Bwrdd hwn wedi cael ei sefydlu yma er's tua thair blynedd bellach, ac er fod llawer o ddweyd yn ei erbyn ar lawer tro gan y plwyfolion, trwy ragfarn a diffyg gwybodaeth i raddau helaeth, eto mae wedi gwneud gwaith rhagorol. Cafwyd tir yn rhad iawn gan y foneddiges dda Mrs. Saunders, Tymawr, ac arno saif yn bresenol ysgoldy tlws i gynwys 100 o blant. Trueni o'r mwyaf na buasai ychydig mwy o frys yn cael ei wneud i'w gwblhau. Agorwyd yr ysgol ar yr 8fed o Hydref 1877, ac er hyny hyd yn bresenol, mae ar ei chynydd parhaus. Gwledd— Dydd Llun y pasc, anrhegwyd plant yr ysgol â. gwledd ddanteithiol o'r ffurf gyff- redin, te a bara brith gan y Bwrdd yn cael ei gynoEthwyo gan haelfrydedd Mrs. Saunders, Ty mawr; T. H. R. Winwood, Ysw., Tyglyn Acron, ac eraill. 'Does dim eisieu dweyd fod y plant yn eu llef- ydd yn brydlawn—tua 100 o honynt yn edrych yn siriol, a boneddigaidd. Ar ol canu y Doxology, dechreuwyd y gorchwyl o ddiwallu anghenrheid- iau y corff. Yr oedd yn gweini arnynt wrth y byrddau, y boneddigesau canlynol:—Mrs. Jones, Penwern; Mrs. Hamer, Rhiwlas; a Mrs. James, Pencnwc; ynoael eu cynorthwyo gan Miss Jones, Penwern; Miss Hamer, Rbiwlas; Miss Jones, Plas: a Miss Jones, Bidaren. Talodd Mrs. Vaughan, Brynog, ymweliad a'r ysgol pan oedd y plant yn nghanol y gorchwyl o fwyta; dangosai yn hynod o foddlon gyda phryd- ferthwch a boneddigeiddrwydd y rhai bach. Caf- odd cheers gwresog gandddynt ar ei hymadawiad. Dangosodd y plant eu diolchgarwch i'r Bwrdd am y te mewn dwy ffurf yn neillduol—trwy fwyta yn helaeth, a thrwy roddi cheers brwdfrydig 'ar y diwedd. Yr oedd Mr. Jones, Penwern; Mr. Hamer, Rhiwlas; a Mr. Janess, Llaethdy; yn cael eu boddloni yn fawr gan y plant yn eu holl ymddygiadau. Cyfarfod Adloniadol.-Ar ol i bob peth fyned drosodd mewn perthynas a'r te, cafwyd gwledd, ond nid mor llawn o felusion, o natur arall. Aiff yn rhy faith i enwi yr rhai a gymerasant ran ynddo. Yn ol yr hyn oeddwn yn ddeall ar y gynulleidfa (nid oes genyf farn ar ganu fy hun), gallaswn feddwl mai marwaidd a difywyd oedd- ynt. Selection da hefyd, gallaswn feddwl, ond dim digon o "go" i bobluchel hwyliog a chwaeth- us (?) Cilcenin. Gobeithio y ceir y fath gyfarfod eto ynj fyan ond rhaid i'r rhai oedd yn flaen- Uaw gyda hwn gymeryd awgrym y go yna ag i'r bobl ffurfio dycliymyg mwy aruchel am gyngherdd. Rhag blino y CELT ieuanc a meith- der, rhoddaf fy ysgrifell heibio yn bresenol. GOHEBYDD. RHYDWYN, MON. Cyngherdd.—Cynaliwyd cyngherdd yn nghapel y Bedyddwyr yn y lie uchod nos Fawrth, y 7fed cyfisoi, o dan lywyddiaeth ddeheuig Mr. John Ellis, cenadwr y morwyr yn Nghaerdydd. Ni oddef gofod i ni wneuthur sylwadau maitb, trwy ddodi trefn y cyfarfod, felly ni wnawn ond nodi y boneddigesau a'r boneddigion canlynol fel rhai a gymerasant ran gyhoeddus yn y cyfarfod:—Mri, J. W. Thomas (Pencerdd Mon), W. Jones (Seir- iol Wyn), Eos Cybi, Mrs. Kneen, Miss E. Roberts, Mr. Owen Jones, Mr. Roberts, Caersrybi; a'r Parch. W. Thomas. Chwareuwyd ar yr Harmon. ium yn gampus gan Mr. Parry, Caergybi. Dj. angenrhaid ydyw i'r cantorion uchod wrth gan- moliaeth oddiwrthym ni. Mae eu henwau yn eithaf hysbys fel cantorion gwir dda. Gwnaeth y c6r hefyd ei ran yn ganmoladwy iawn dan ar. weiniad Mr. J. Hughes, ysgolfeistr. Elid i mewn trwy docynau swllt. Yr elw at adgyweirio yr addQldt. IQAN EHXDDLMDO