Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

COLOFN DIRWEST.

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

Gaernarfon yn syfrdanu miloedd Exeter Hall. Yr oedd ei gyfeiriad medrus at yr hyn a wnaeth y Beibl i Gymru, yn gwag- hau a difodi ei charcharau, yn annesgrif- iadwy o effeithiol. Maddeuer i ni am ddweyd fod yn falch genym mai gweinidog Annibynol yn nhref Caernarfon yw y dyn mwyaf ei ddoniau yn yr holl deyrnas. Dangosodd Mr. Evans yn eglur pa mor ddyledus yw Cymru i'r Beibl; a gobeithio y bydd dylanwad daionus yr "Un Llyfr" yn para i gynyddu yn ein gwlad. Amser a ballai i ni grybwyll am yr Undeb Cyn- ulleidfaol, ac am y dadleu a fu yno yn nghylch "y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint." Ac nis gallwn aros i sylwi ar areithiau hwyliog cyfarfod mawr Cym- deithas Rhyddhad Crefydd, yn nghapel Spurgeon. ond yn unig ddweyd ei fod yn unnodedigofrwdfrydig a lluosog, ac yn dangos yn eglur na-j ydvw hyd y nod pynciau pwysig y Dwyrain yn llwyr-dynu meddyliau y dadgysylltwyr oddiwrth yr achos sydd mor agos at eu calon. Y mae yn dda genym weled yr awyr yn clirio ychydig ar bwnc y rhyfel, rhwng y wlad hon a Rwssia. Yr ydyin yn gobeith- io yn gryf, drwy ddoethineb dynion a rheolaeth rhagluniaeth Duw, y cawn ni heddwch ar y ddaear eto. Yr oedd sylw- adau anatebadwy John Bright ar gyfrifol- deb gwlad Gristionogol fel Brydain i gario rhyfel yn mlaen ar dri cbyfandir ar unwaith yn ofnadwy ddifrifol. Ni chafodd Beacons- field mo'i rostio mor ddiseremoni gan neb eto ag a gafodd gan John Bright. Caffed yr araeth anfarwol hono-yn yr hon yr oedd holl ogoniant areithyddol Bright yn tanbeidio-ei dylanwad priodol ar y wlad. Un o'r pethau sydd wedi bod yn ein synu ni fwyaf yr wythnosau diweddaf yn ei gysylltiad a phwnc y Dwyrain yw, fod Llundain yn ymddang-os mor ffafriol i ryfel. Llundain, y ddinas fawr, ryddfrydol, prif ddinas fasnachol yr holl fyd, ac un y buasai rhyfel yn ei handwyo; yr oedd clywed Llundain, yn anad un man yn y deyrnas, yn codi ei lief o blaid rhyfel yn ein synu yn lan. Ond y mae ein cyd- wladwr galluog Henry Richards, A.S., yn ei araeth yn nghyfarfod y Dadgysylltiad yn Llundain, wrth grybwyll am y rhyfel, yn eg'luro y pwnc. Dywed efe mai gwe- hilioo Llundain-pobl heb gymeriad na meddianau-yw y rhai sydd yn ffafriol i ryfel; ond fod cyfan-gorff pobl Llundain fel arall. Dyma rydd-gyfieithiad o'i eiriau- Yr wyf yn oredu ein bod wedi cael ein twyllo gyda golwg ar Lundain; y mae terfysgwyr baldorddus wedi eu galw i'r front, ac wedi ein camarwain gyda golwg ar bobl y ddinas hon. Yn awr, yr wyf yn meddwl y gallaf anturio dweyd, pan gawn ni y bobl iawn yn nghyd—preswylwyr difrifol, crefyddol, meddylgar y brif ddinas fawr hon-y cawn ni weled fod Llundain ar bwnc rhyfel neu heddwch yn iach i waelod ei chalon." Ac ar hyny cyfododd y gynulleidfa fawr ar ei thraed, i ddang'os ei chymeradwyaeth. Yr ydym yn credu yn sicr fod Henry Richards yn iawn. Yr ydym yn deall nad all Mr. Gladstone, o herwydd prysurdeb gyda phethau eraill, ddyfod i Gaernarfon ar hyn o bryd; ond coleddir gobaith cryf y ceir ef o hyn i ddi- wedd yr haf, wedi i brysurdeb materion Seneddol fyned drosodd. Cofied y Celtiaid oil ddyfod yno yn holl frwdfrydedd eu gwaed Cymreig i roddi croesaw calon iddo. Ond nis gwyddom pa fodd y gall yntau fod yn arweinydd y blaid ryddfrydigyn y dyfodol, heb ddyfod yn ddadgysylltwr.