Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

COLOFN DIRWEST.

News
Cite
Share

COLOFN DIRWEST. (GAN Y PARCH. D. S. DAVIES). Y MAE yr argraff ar feddwl llawer o ddi- otwyr selog y deyrnas hon fod deddf atal- iol Maine yn fethiant hollol yn y dalaeth hono. Nid llwyddiant neu afiioyddiant mewn amser byr yw'r prawf goreu o un- iondeb a gwerth unrhyw symudiad. Dylid penderfynu hyny wrth egwyddorion eraill. Nid oes neb o honom yn ameu mai Crist. ionogaeth yw y gyfundrefn oreu ar y ddaear; a chredwn nad oes neb yn mhlitb annuwiolion ein tir yn ewyllysio gweled Mahometaniaeth, neu Hindwaeth, neu rhyw gyfundrefn gyffelyb yn llwyddo i ymlid Cristionogaeth o'n gwlad. Ond y mae Cristionogaeth yn ymddangos yn fethiant mewn llawer man, ac wedi cael ei llygru yn druenus mewn rhai gwledydd, a cholli tir mewn llawer man ar ol bod yn hir yn ei enill. Er hyny y mae yn hawdd profi nad oes ar y ddaear gyfundrefn i'w chymharu a Christionogaeth mewn eglur- der, dyfnder, a goludoedd ei dylanwad da. Mae cosbi llym am ladrad yn Mhryd- ain, ac y mae llawer o ladron yn y deyrn- as er hyny. Ai methiant gan hyny yw'r ddeddf yn erbyn lladron P Cymhwyser yr ymresymiad hwn at ddeddfau yn erbyn troseddwyr eraill. A yw y ffaith fod mwy neu lai o bob math o droseddau yn bod yn ein gwlad yn profi mai methiant yw holl gyfreithiau'r deyrnas ? Na, pe byddai troseddiad yn llawer lluosocach nag ydynt, byddai hyny yn argyhoeddi'r wlad yn fwy fyth o'r angen am ddeddfau llymion eto cewch glywed y diotwyr yn gwaeddi yn uchel fod y ddeddf ataliol yn fethiant yn Maine am fod sicrwydd fod yno werthu diodydd meddwol yn llechwr- aidd. Fel y gwelsom uchod gall deddf fod yn llwyddiant, hyd nod lie byddo llawer yn ei throseddu; ond y mae yn dda genym gael gosod o flaen ein darllen- wyr, dystiolaeth y cawr dirwestol, Neal Dow, mewn llytbyr at olygydd y New Yorh Tribune:- "Syr, yr wyf yn boff iawn o'r Tribune. Cefais ganddo lawer iawn o wybodaeth an- mhrisiadwy, heblaw difyrwch mewn llawer ffordd. Byddai yn well genyf fod heb fy nghinio, na bod heb ymweliadau cyson y Tribune, y rhai sy'n llawer mwy o werth na'u pris. Gwyr y Tribune lawer iawn o bethau, ac y mae rbai pethau ar nas gwyr, ac un o honynt yw sefyllfa y gred gyhoeddus yn Maine ar y fasnach feddwol. Mewn ffordd dyner, awgrymodd y Tribune i mi-fel pe nas gwyddwn-fod gwasgu deddf yn mhell tu hwnt i'r hyn y mae y gred gyhoeddus yn ei ofyn, yn sicr o arwain i wrthweithiad yn ein holl ymgyrch yn erbyn y grog-shops. Yr oedd y gwirionedd hwn bob amser yn ein golwg, ac felly buom yn ofalus i barotoi meddwl y cyhoedd erbyn pob symudiad newydd yn mlaen. Gwnaethom byny cyn ceisio'r ddeddf ataliol gyntaf yn Maine. Mae'r ddeddf yn llawer llymach yn awr na'r pryd hwnw. Pasiwyd y ddeddf wreiddiol yn y Ty trwy bleidlais 86 yn erbyn 40 yn y Senedd o 18 yn erbyn 10; ac yn Ionawr 1877 pasiwyd cyfraith lawer iawn llymach na dim a fuasai o'i blaen, heb gymaint a phleidlais wrthwynebol yn un o'r ddau Dy. Yr oedd hono yn gwahardd gwneuthuriad pob diod feddwol ond cider, dan benyd o X200 o ddir- wy, a thri mis o garchar am bob diwrnod y rhedai distylldy neu ddarllawdy. Ar y 12fed o Fawrth diweddaf (1877)ydiffoddwyd ytaaau yn mhob un o'r lleoedd hyny yn Maine; ac y mae'r gweithrediad hwn wedi cael ei gadarn- hau gan y ddwy blaid wleidyddol (y Gwerin- wyr a'r Democratiaid)—Rhyddfrydwyr a Thorïaid yr Unol Daleithiau) yn eu Cynghorau Talaethol. Mae'r fasnach fedd- wol yn gohoetial eto yn Maine, yn ddirgel- aidd: yn eiu diuasoedd a'n trefydd mawtion yn cael ei dwyn yn mlaen bron yn hollol -• gan yr iselaf Wr aflanaf o'n poblogaeth dramor, ac yr ydym yn penderfynu ei diddymu. Gwir a ddywedwch fodpwy llgor y Ty o'r farn y byddai deddfu pellach yn anfuddiol (inexpedient). Gwnaeth pwyllgor arall yn union yr un peth yn 1866 pan ofynais am ddeddf i gau y distylldai, darllawdai, a'r gwindai, ond yn 1877 bu i'r Ddeddf wrafa ei ■ ganiatau yn unfrydol. Y flwyddyn hon gof- ynais am gosbau digonol i gau flfeuau whiskey y Gwyddelod, ond nid wyf yn eu cael. Y flwyddyn nesaf, ceisiwn eto. Nac anghofied y Tribune ein bod yn deall yn berffaith mor angenrheidiol yw peidio rhydynu y gred gyhoeddus. NEAL Dow. Portland, Maine, Matorth10, 1878." Credwn y byddai yn well i ni lenwi y golofn ddirwestcl y tro hwn a phethau Neal Dow. Ysgrifenodd un T. White o Bangor, Maine, i bapyr masnachol yn New York fod Deddf Maine yn fethiant, yn nychu masnach, wedi gosod llawer o westdai (llwyddianus gynt), dan forthwyl y sirydd, fod cymaint o ddiodydd medd- wol yn cael eu gwerthu ag erioed, ac wedi gosod y ddinas dan ddyled, &c., &c., &c. Ysgrifenodd un W. C. King am eglurhad, a chafwyd llythyr maith oddiwrth Mr. Dow. Dyfynwn ychydig ohono:— "Wrth ymddyddan a'r cyfryw, clywais hwynt lawer gwaith yn taeru fod Deddf Maine yn fethiant hollol, a bod dani gymaint wirod yn cael ei werthu yn y Dalaeth ag erioed. A chlywais lawer eraill o honynt yn dweyd fod y ddeddf drwy yru y gwirodydd allan o'r Dalaeth, wedi gyru allan lawer o fasnach gyfreithlon o elw mawr, na ddychwel byth, er niwed mawr i'r dalaeth. A chlywais hefyd yr un personau, ar wahanol adegau, yn gwneud y ddau fath o haeriadau; ac un- w&ith clywais ddyn deallus yn gwneud y ddau haeriad yn yr un ymddyddan a ddygai yn mlaen yn mhresenoldeb dyeithriaid. Ym- yrais inau gan ddweyd nas gallai ei chael y ddwy ffordd, h.y., 'Cymaint o wirod yn cael ei werthu ag erioed,' ac yna, 'prinder gwir- odydd yn gyru masnach allan p'r Dalaeth.' "Y mae Cwestdai Bangor, wrth gwrs, mewn ffordd ddrwg; ni byddent felly, pe caent werthu gwirodydd yn ddirwystr. Ond y bobl fyddai yn ei chael yn ddrwg wedyn, yn enwedig y gwyr ieuainc, tra byddai y gwirod-dai yn nofio mewn llwyddiant, gan ysgubo i mewn arian y bobl yn gyfnewid am dylodi, cardotiaeth, gwarth, carpiau, gwall- gofrwydd, ac angau anamaerol. Mae'r gwestdai yn llawer rhy fawr, ac yn rhy ddrud i'w rhedeg w rth hyny o fasnach gyfreith- lon ag sydd yn Bangor. Pe caniateid iddynt gadw ystafelloedd gamblio a phuteiniaid gallent Iwyddo, efallai, heb werthu gwirodydd, ond y mae'r olaf ynlwaeth na'r lleill, mewn gwirionedd, yn arweiniad iddynt, tra y mae y rhai hyny yn ddrygau anfesurol wrthynt eu hunain. Mae llawer o bobl, pa un bynag ai doeth ai annpeth, yn credu fod alcohol mewn rhyw ffurf neu gilydd, yn ddefnyddiol, os nad yn angen- rheidiol fel meddyginiaeth. I gyfarfod a'r syniad hwn, y mae gan bob tref a dinas awdurdod i sef- ydlu goruchwyliwr' i werthu gwirod i ddybenion meddygol a chelfyddydol. Eiddo y dref yw'r oruchwyliaeth hon, a ebyflog y goruchwyliwr yn sefydledig—yn dibynu dim ar y swm o wirod a werthir. Y mae'r oruchwyliaeth hon yn Bangor yn ddiau wedi cael ei chamarfer, am fod y gor- uchwyliwr yno yn elyn i 'Ddeddf Maine,' ac y byddai yn dda ganddo ei dwyn i ddianrhydedd. "Nid gwirionyn yw Mr. White, ar lawer o beth- au, ond beth arall ydyw pan awgryma fod atal y gwastraff annhraethol o arian ac amser, ac iechyd a bywyd ar alcohol, yn cael effaith ddrwg ar fas- nach? Ar gyfartaledd byddai cyfran Maine o'r ddyled genedlaethol am yfed tua C2,600,000, ac ynyblynyddoeddgynt yr oeddem yntreulio ein cyfran yn llawn. Dywedais lawer gwaith ar y llwyfan a thrwy'r wasg, y byddai can' mil o bun- au yn ddigon i guddio ein treuliau diotawl, ac nid oes neb wedi cynyg gwadu hyny. Y mae'r gwahaniaeth yn cael ei gynilo i'r dalaeth drwy Ddeddf Maine,' ac nig gall y £ 2,500,000 a enill- wn, ac nid a wariwn ar wirod, gael effaith ddrwg ar fasnach." Da genym, gan hyny, fod y ddeddf ataliol yn uuril Maine mor llwyddianus ag unrhyw gyfraith ag sydd Y14 ein gwUid ninau.

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL.