Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

"YMDRECH YN MHLAID Y FFYDD."

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL. MEGYS yr oedd Jerusalem yn nyddiau y gwyliau Iuddewig, felly y mae Llundian yn mis Mai. Y mae y rhan fwyaf o gymdeithasau dyngarol a chrefyddol y byd yn cynal eu huchel wyliau yn y Brifddinas yn ystod y mis hwn. Un o'r prif gyfar- fodydd yw cyfarfod mawr y Feibl Cym- deithas yn Exeter Hall. Yno y mae larll Shaftesbury yn gadeirydd er's chwarter canrif; ac yno y cydgyferfydd archesgob- ion ac esgobion ar yr un esgynlawr, ac i bleidio yr un achos, a gweinidogion ym- neillduol. Yr oedd yn dda genym weled enw ein gydwladwr hyawdl Mr. Herber Evans, Caernarvon, fel un o'r prif siariad- wyr yno eleni; a gwell fyth genym ddeall fod y Gadair wedi dyfod i Gymru eleni. Yr ydym yn cofio fod yno ychydig flynydd- oedd yn ol pan yr oedd yno un Dr. Thomp- son New York yn siarad; a churodd bawb, ac aeth o'r gadair i America; ac yr oe d yn eithaf genym weled gweinidog Ym- neillduol, o wlad heb Eglwys Sefydledig ynddi, yn dangos i'r Esgobion oedd ar yr esgynlawr, beth yw siaradwr. Ond balch- ach ydym o weled y Cymro talentog o