Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

"YMDRECH YN MHLAID Y FFYDD."

News
Cite
Share

"YMDRECH YN MHLAID Y FFYDD." YE oedd Paul, wrth ysgrifenu at y Philip- iaid, penod i. 27, yn eu hanog i "gydym- drech gyda ffydd yr efengyl;" ac y mae Judas, brawd Iago, adnod 3, yr un modd, yn anog credinwyr i "ymdrechu yn mhlaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint." Y mae y ddyledswydd felly yn un o'r pwys mwyaf. Y mae yn perthyn i ffydd yr efengyl ei ffeithiau a'i hathrawiaethau a'i hordinhadau,-a gwaith buddiol pwysfawr ac adeiladol ydyw eu hystyried, ac ym- drechu o'u plaid. Ond y mae hanes yr eglwys yn profi fod ymdrech rhai o blaid ffydd yr efengyl wedi gwneud mwy o niwed nag o les iddi,-wedi bod yn fwy o dramgwydd nag o gyfnerthiad ar ffordd ei llwyddiant. Y mae rhai wedi bod yn bur dyn am eirio manylion ei hathrawiaethau, yn ol eutrefniad a'u hesboniad eu hunain, er eu selio mewn credoau a'u cyfleu mewn gweithredoedd,—er cael sel cyfraith wrth- ynt. Nid ydym yn gallu credu fod peth felly yn gynorthwy i ddylanwad ffydd yr efengyl, nae yn gymelliad i achos cariad. Nis gall oleuo deall na thyneru cydwybod yr enaid a ymrwyma wrth gredo seliedig felly, gan fod pob dyn, fel deiliad teyrnas yr efengyl, yugyfrifol i'w Farnwr. Nis gall credo gorphenedig felly fod yn lies i eglwys vchwaith; oblegyd ysprvd rhydd a brawdol i gydymresymu mewn cariad, yn nghylch holl bynciau mawrion y Beibl, ydyw nerth a iechyd, bywyd a gweithgar- wch eglwys. Y mae seliad credo maith, manwl felly hefyd yn brofedigaethus i enwad, neu gyfundeb; ac y mae lawer pryd wedi achosi cynenau a rhwygiadau arswydus o niweidiol. Yspryd rhydd brawdol i chwilio yr Ysgrythyrau ydyw y mwyaf efengylaidd,-y mwyaf hawddgar yn y galon, a'r buddiolaf a'r dedwyddaf mewn teulu, mewn ysgol, mewn eglwys, mewn cynhadledd, mewn cymanfa, mewn cyfundeb, mewn gwladwriaeth, ac yn mhob man. Y mae rhai dynion, dynion da, cydwy- bodol, duwiolfrydig, gweithgar yn Lloeg • a Scotland a CHYMRU, gwledydd eraill,- a hyny hyd yn nod yn y dyddiau diweddaf hyn, yn wresog eu sel, ac yn ddiwyd eu hymdrech, i "amddiffyn y ffydd," sef y ffydd y maent hwy wedi dderbyn neu wediffurfio; y ffydd y maent hwy wedi gyffesu ac wedi selio. Os beiddia rhyw frawd gynyg mymryn o oleu "newydd" ar ryw air, neu ryw adnod, neu ryw bwnc, y maent ar unwaith yn ei nodweddu fel cyf- eiliornwr rhyfygus; er dichon ei fod mor gryf ei feddwl, mor rydd ei galon, mor dduwiol ei brofiad, mor ddysgedig, mor ymchwilgar, ac mor oleuedig a hwythau: ac y maent ar unwaith am ei ddiarddel o'u holl gylchoedd crefyddol. Y mae y fath ymddygiad phariseaidd wedi bod bob amser yn niweidiol i'r gwirionedd, ac i achos cariad a duwioldeb. Y ffordd oreu, os cyfeiliorna rhyw frawd, fydd ceisio ei argyhoeddi, a'i adgyweirio, a'i ymgeleddu "mewn ysbryd addfwynder;" a dylai yr adgyweiriwr gofianad ydyw yijtau ei hun ddim bob amser yn "anffaeledig." Nid oes neb anffaeledig ar y ddaear fach ddrwg yma, ond y "Llew" newydd coronog, Leo y trydydd arddeg; a'i epil yn mhobfeg- lwys, Romish or English, Turkish or Greekish, sefydledig neu ansefydledig/os byddant am fod yn debyg iddo. Bu yn Nghymru, ac yn mysg Ymneill- duwyr Cymru, driugain mlynedd yn ol, rai dynion da, doniol, a gweithgar iawn, yn frwd eu sel am ddysgyblu brodyr mor dduwiol ac efengylaidd a hwythau, o herwydd "system newydd" eu credo. Buwyd yn eu diraddio a'u condemnio mewn cynhadleddau, yn eu gwthio o'r neilldu mewn cyfarfodydd, ac yn ceisio mertbyru eu gweinidogaeth; ond dalias- ant eu tir yn foneddigaidd, eglurasant bynciau eu ffydd mewn yspryd cariadlawn; ac o'r diwedd deallwyd a chydnabyddwyd eu bod yn deall yspryd a llythyren yr efengyl yn well ac yn llawnach na'u her- lidwyr. Y mae "rhwymau" y credoau seliedig yn achosi llawer o anghydwelediad ac o adyryswch poenus, mewn gwahanol gylch- oedd yn y dyddiau hyn. Os darllenwn adroddiadau Convocation" Esgobion a Deoniaid yr Eglwys Sefydledig, cawneu bod yn cwyno yn barhaus yn erbyn rhyw ganghenau o'u credoau a'u canonau sef- ydledig. Y mae Principal Rainy a Syr Henry Moncreiff, blaenoriaid y mwyafrif yn Free Church Scotland, mewn cryn ddy- ryswch pa fodd i ddysgyblu Dr. Begg a'i gefnogwyr, am eu hanghydffarfiaeth a rhai o osodiadau Henaduriaeth eu Heg- lwys "Eydd:" ac y mae Henaduriaeth enwog "Free" Aberdeen mewn cyfyng- gyngor, pa fodd i ddysgyblu professor Smith a'i ddysgyblion, yn y dull mwyaf effeithiol, am eu cyfeiliornad gyda golwg ar ysprydoliaeth rhanau o groniclau yr Hen Destament. Y mae dadl go boeth hefyd yn awr yn "United Presbyterian Church," Scotland, gyda golwg ar rai o bynciau eu ffydd a ffurf eu gwasanaeth, ac ofnir y bydd i'r ddadl arwain i rwyg- iadau. Y mae cryn gynhwrf hefyd yn rhai o gynhadleddau y Wesleyaid, am fod rhai o'u gweinidogion a'u hathrawon yn gwyro ychydig oddiwrth gredoau eu tadau gyda golwg ar sefyllfa ddyfodol: ac y mae Dr. Farrar yn ei chael yn lied drwm, o wahanol gyfeiriadau, am ei fod yn def- nyddio ei ddysg clasurol i esbonio y geir- iau,-damnio, hell, Hades, Sheol, Tartarus, Gehenna, everlasting, Sfc., dipyn yn wahan- ol i'r hen esboniadau. Y mae y pwys mawr o lynu wrth hen gredoau hefyd wedi dechreu achosi ychydig o ddyryswch a dadl yn yr UNDEB CYNULLEIDFAOL; ac Lmae rhai Undebwyr yn Nghymru yn d dyn am wasgu pawb i ddwyn iau yr hen gredoau. Y mae rhai brodyr enwog o enwad llydan, cryf, a gweithgar, y Bed- yddwyr, am gau allan o'u "cymundeb," grefyddwyr dysgedig, cydwybol, ydynt yn methu cydolygu a hwy yn nghylch Bed- ydd. Y mae yn alarus i feddwl fod methu cydweled yn nghylch pynciau nad ydynt yn hanfodol i dduwioldeb yn dramgwydd ar ffordd cymundeb y saint. Y mae yr ysgrifenydd bellach yn hen. Y mae wedi cael cysur ac addysg lawer tro yn nghym- deithas cyfeillion o wahanol enwadau. Y mae am chwilio y Beibl yn ddiragfarn, ac am adnabod y gwir megys ag y mae yn yr Iesu; ac y mae hefyd am arddel a chyffesu ei ffydd; ond hoffai ar yr un pryd gyfeill- achu a chymuno yn rhydd a chariadlawn gyda chyfeillion nad ydynt yr un farn ag ef ar bob mater. Y mae yr hen arferiad babaidd orthrymus o geisio rhwymo addol- wyr i dderbyn hen gredoau, ac i gydffurfio a hen drefniadau, wedi bod yn achos o ddyryswch ac o orthrymder yn mbob oes o'r byd, a thrwy holl hanes yr eglwys. Ceir yn hanes Oliver Cromwell engraifft go eglur o'r drwg mawr o geisio sefydlu a selio credo yn y dull crybwylliedig. Yr oedd Cromwell ei hun am ganiatau rhydd- id llawn i'r rhai y tu allan i'r Eglwys Sefydledig" i addoli yn y dull y dewissnt; a rhyddid hefyd iddynt bregethu y ffydd yn Nghrist." Yr oedd caniatau y fath ryddid, medd Cromwell, yn un o egwydd- orion sylfaenol ei Lywodraeth. Ond pen- derfynodd ei Barliament i fynu gwybod a chyhoeddi, neu i fynu penderfynu a selio beth ydoedd Y ffydd yn Nghrist a darfu iddynt ethol Is-bwyllgor o'u duw- inyddion goreu i benderfynu y mater. Etholwyd pedwar ar ddeg o A.S., a'u duwinyddion i gyfansoddi y gyffes. Dy- munodd yr Is-bwyllgor seneddol hwnw gael caniatad i alw Duwinyddion Clerigol i'w cynorthwyo; a galwyd Dr. Owen, Dr. G-oodwin, Richard Baxter a Nye, a Byrddaid o dduwinyddion enwog eraill, er iddynt allu cytuno beth oedd i fod yn bynciau sylfaenol y Ffydd yn Nghrist," ag oeddid i'w "goddef" Yr oedd y gyn- hadledd wedi cyfarfod ac eistedd a dechreu ar ei gwaith cyn i Baxter druan gyrhaedd yno o Kidderminster. Yr oedd Baxter am gyffes fer iawn,a, syml iawn, am ei fod yn ystyried yr arweiniai erthyglau manwl i brofedigaeth a dyryswch; a bu bron iddo gael ei ddiarddel o'r gynhadledd am ei fod dros. symledd. a byrdra. Yr oedd yr hen enwog Ddoctor Owen, yr Annibynwr dysgedig, yn dyn boethwyllt, neu yn "bull-mad" yn ol yr hanes, am wneud a selio y manylion oil fel "Fundaments," neu erthyglau sylfaenol y ffydd yn Nghrist;" ac unodd y gynhadledd ag ef i gyfansoddi a selio y fath gyffes, yr hyn a arweiniodd i lawer o erledigaethau chwerwon a buasai llaweroedd o ddynion mwyaf "rhagorol" y deyrnas yn cael eu merthyru heb drugaredd pe buasai awd- wyr y gyffes yn gallu cael eu hewyllys. Y mae hanes yr eglwys yn llawn o'r fath siamplau o drais a gormes. Y. mae bron bob hen gredo felly, ar ol cael ei ddefn- yddio am ei dymor yn oruchwyliaeth gormes, yn cael ei wthio o'r neilldu o'r golwg i lwydo yn llwch anghof. Ceisiwn, gan hyny, gael mwy v frawdgarwch ac o gydweithrediad yn eglwysi y saint, oblegyd dyna y ffordd effeithiolaf i gyrhaedd unol- iaeth barn am bethau mawrion yr efengyl. S. R.

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL.