Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
-.;JJ
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
;JJ Nodiadau gan y Gol. 3 "Ymdrech yn mhlaid y ffydd"—Oddiwrth ein Gohebydd Cyffredinol 4 Y Golofn Ddirwestol ■ ..5 Bethesda- Abertawy-Gilcenin -Rhydwyn.. 6 Bethlehem- Manchester —Llundain —Wig— Dowlais—New Tredegar—Reheboth 7 PRIF ERTRYGL- Y Rhyfel-Y Wladfa 8 O'm Hawyren—Cell Gyfraith y Gelt-Birken- head-Abertawy 9 Gohebiaethau .10 Ymylon y Llwybrau-Eglwys Seisnig Aber- ystwyth-Adolygiad-Cerygydrudion 11 J. R. a "W. N."—Hebron—Groeswen—Sciwen Towyn—Cydweli ■ .12 Brynsiencyn-Hirwau-Bethesda-Galwad- Ffestiniog-Bangor-Gwernogle 13 Priodasau, Marwolaethau — Barddoniaeth- Hysbysiadau 14
tttlbhtban Qvttt 11 (ifll.
News
Cite
Share
tttlbhtban Qvttt 11 (ifll. YSDRYD MILWEOL EIN BRENHINES.— Yr oedd darllen yn y newyddiaduron y dyddiau o'r blaen am ein Grasusaf Fren- hines, a'i merch hynaf, Tywysoges goron- og urddasol Germani, a'i merch ieuangaf, y Dywysoges brydweddol Beatrice, yn myned gyda'r fath rwysg a glee i wer- syllfa Aldershot i adolygu nerth a threfn y sefydliad milwraidd yno, yn achos o ofid a galar i ganoedd o'r deiliaid yn yr adeg gynhyrfus yma, am eu bod yn ystyried rhodres trwstfawr y fath ryfelgarwch yn ddianrhydedd i'r goron, yn niweidiol i'r wladwriaeth, ac yn esiampl beryglus i lysoedd gwledydd eraill y byd. Yr ydym yn ystyried fod y fath ymddygiad o eiddo ei Mawrbydi yn dduwch ar ei benywaeth, yn ganer ar ei dynoliaeth, yn bla ar ei gwladgarweh, yn bylor o gylch ei llys, ac yn debyg o fodyn gvymwl ar ei choffadwr- iaeth tra y bydd dim adgofion am ei theyrnasiad. Bu clefyd "rhyfel ar y 'menydd" yn nychu rhai o'i hynafiaid brenhinol. Gobeithio y cedwir hi o gyr- haedd y fath glefyd. Poeth ac enbyd iawn ydyw ei gynddaredd. Hoffid yn fawr iddi allu sugno ychydig o olew balm tang- nefedd i'w chalon fel y feddyginiaeth fel- usaf a iachusaf i wrthweithio y fath fever ofnadwy. Pe buasai ein G-rasusaf Fren- hines a'i merched tywysogaidd, a'r Counts, a'r Countesses, a'r G-enerals, a'r Captains ribanawg oeddynt yn eu gosgorddlu yn rnyned i "CONGRESS HEDDWCH i wenu yn ymerodrol, er amlygu eu cymeradwy- aeth o egniadau y tangnefeddwyr i sefydlu heddwch a chydweithrediad dros y ddaear, buasai ein calonau yn gorfoleddu wrth ddarlleu a chlywed a meddwl a son am y fatn ddyngarwch heddychol; a buasai y coffadwriaeth am eu cariad a'u hewyllys da yn fendigedig yn oes oesoedd. Ond yn wir y mae darllen a meddwl am y draul a'r drafferth a gymerir yn awr yn Mhrydain a gwledydd eraill i gyfnerthu y sefydliadau rhyfel, yn achos o ddychryn a dyryswch ag ydynt yn esgor ar y niweid- iau mwyaf ofnadwy.
[No title]
News
Cite
Share
THE HERALD OF PEACE.—Cawn yn rhifyn Mai, Hanes dechreuad Cymdeithas Heddwch yn Lloegr—Anerch Pwyllgor y Gymdeithas at eu cyfeillion—Cofeb at awdurdodau Treaty of Paris "-Cyfarfod mawr Undebau Hedd—Cynhadledd Hedd y Gweithwyr—Henry Richard, A.S., ar Alwad allan y Cartrefluoedd-Careharu yn Ffrainc am wrthod myned i'r filwriaeth -Anogaeth i bregethu mwy ar Heddwch —Nawddedigion Lloegr- B uddugoliaeth- au Malayaidd Lloegr-Sydney Smith a Count Llopis ar Ryfel-Barn Mr. Bright, Arthur Helps, Burritt, Spurgeon, Syr Wilfred Lawson, Esgob Gibralter, Esgob Manchester, ac eraill ar y dyryswch pres- enol-Cymdeithas Heddwch y Merched— Trethoedd Rbyfel yn andwyo Cuba-Cyr. ardfodydd, darlithiau, &c. Llawnder mawr o bethau pwysig am ddwygeiniog y mis.
[No title]
News
Cite
Share
LLWYNOG TN' T PuLPUD.—Ryw byth- efnos yn. ol, ar adeg helwriaeth yn Swydd Kent, darfa i lwynog cryf, pan yr oedd cyfarthiad y cwn a bloedd yr helwyr yn gwasgu ar ei wynt, ddianc i eglwys, a dringo i'r pulpud am noddfa a diogelwch. Ond druan o'r llwynog, cafodd ei lusgo o'r lie cysegredig mewn munud, a'i ail gychwyn i redeg am ei fywyd. Wrth gyfeirio at y tro, y mae y Rock, un o newyddiaduron yr Eglwys Wladol yn aw- grymu fod llawer o lwynogod deudroed yn nhrwst parhaus helwriaeth fawr y byd, neu wrth, browlio am ysglyfaeth iddynt eu hunain ac i'w cenawon, yn dringo i bulpudau yr Eglwys; ac y mae y Bock yn cwynfan mewn gofid, am nad oes dim modd i'w chynulleidfaoedd droi y llwyn- ogod hyn allan o'i phulpudau.
[No title]
News
Cite
Share
EGLWYS NEWTDD.—Darfu i Eglwyswyr Little Hampton yn ddiweddar, drwy eu bod yn bollol anghymeradwyo defodau Pabaidd awdurdodau yr eglwys yno, ymneillduo, ac adeiladu Eglwys newydd, a'i galw yn "Reformed Episcopal Church," yn Eglwys Esgobol Ddiwygiedig. Y mae yr Eglwys newydd o fewn cylch esgobaeth Chichester, ac y mae yr Esgob wedi rhoddi rhybudd cyhoeddus, os daw un- rhyw Esgob i weinyddu yn yr Eglwys newydd hono, y bydd iddo ef ei ystyried yn "transgressor and intruder," hyny yw,, yn droseddwr ac ymyrwr-yn un sydd am ddringo i'r gorlan fel lleidr mewn ffordd anghyfreithlawn. Byddai yn dda i rai o esgobion ac archesgobion y gwa- hanol enwadau anghydfFurfiol, wylio ar eu hyspryd a'u geiriau rhag iddynt lithro i nwydau a gormes pabaidd Esgob uchel Chichester.
[No title]
News
Cite
Share
EKYFELGAEWCK HOGYN.—Yr oedd hogyn difarf j^n ddiweddar yn eistedd ar gyfer hen weinidog heddyçhgar, lac yr oedd calon yr hogyn rhyfelgar yn cy- nhyrfu a'i wyneb yn lloni wrth feddwl a dweyd, "Ein bod yn ymyl cael rhyfel gogoneddus." Druan o'r bychan dibrofiad a dienaid! gorfoleddu bod rhyfel mawr gogoneddus yn ymyl! Nid oedderioed wedi gweled 750 o filwyr o gatrawd 800 yn cael eu tori i lawr fel gwel.lt gan dan- belenau, fel y bu yn y German War." Ni welodd.erioed gant o bentrefydd byeh., ain tlysion yn cael eu dryllio yn llwch gan y magnelau. Ni welodd erioed y meirch rhyfel yn carlamu i'r charge" a'r march- ogwyr archolledig yncael eu. llusgo gan- ddynt ar y Ilawr yn eu gwaed. Ni wel- odd erioed genllysg cochion tan rhyfel yn disgyn ar fythynod y tlodion, ac yn- lladd eu teuluoedd a'u hanifeiliaid. Ni welodd erioed y clwyfedigion yji ymdreiglo yn eu gwaed, ac yn grnddfan am gael marw o'u poen, o herwydd nad oedd neb i'whymgeleddu. Nichlywodd weddwon na phlant amddifaid erioed yn wylofain am fod y tad ag oedd o'i fodd yn Uafurio :er darparu bara at eu cynal wedi cael ei ladd ar faes y rhyfel. Ni welodd erioed mo'r ysbrydion uffern rhyfel wedi cael eu. g-ollwng ar draws y gwledydd i ddifrodi ac yspeilio, a tbreisio o lloiruddio. Ni cheisiodd ddeall erioed beth ydoedd yspryd sac athrawiaeth Tywysog tangnefedd. Nid ydyw yu coflo iddo erioed ddarllen y bregeth ar y mynydd, ac nid ydyw yn debyg y daw byth i fwynhau yatyr ben- digedig y geiriau Gwyn eu byd y tang- nefeddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw."
[No title]
News
Cite
Share
METSTR COLEG T DjBjINDOD, CAEB- GRAWNT.—Adroddir ei fod bob amser yn bert ei ymadrodd ac yn barod ei ateb. ,Yr oedd un o aelodau iemngaf y Coleg qof,y ColeL, yn ddiweddar yn lled boeth ei selam wneud cyfnewidiadau trwyadl yn holl ddeddfau a threfniadau y sefydliad, ond atebodd yr hen athraw Dr. Thompson yn bur dawel, Gwell i ni arfer arafwch na bod yn rhy hyderus am Iwyddiant cyn- lluniau ydys eto heb brofi, oblegid yr ydym i gyd oil yn ffaeledig, hyd yn nod y rhai ieuangaf o honom. ze'aallga
[No title]
News
Cite
Share
CENEIGEN.—Cosb dyn arno ei hun am fod yn israddol i'w gymydogion. Gwneir, medd St. Gregory,, y cenifgenllyd yn fwy annedwydd gan Iwyddiant eraill na chan n ei afiwyddiant ei hun. Qian, meddai Montaigne, nas gallwn; gyrhaedd enwog- .rwydd, gadewcii i ni ei gablu..