Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

UNDEB YSGOLION SABBATHOL YR…

News
Cite
Share

UNDEB YSGOLION SABBATHOL YR ANNI- BYNWYR YN PENLLYN AC EDEYRNION. YR oeddis yn teimlo fod capelydd yr undeb dy- wededig yn rhy wasgnrog a phell oddiwrth eu gilydd i genhadon yr Ysgolion roddi eu presenol- deb yn rheolaidd bob clau fis yn nghyfarfodydd yr undeb y mae o'r pen uchaf i'r pen isaf, neu o gapelydd uchaf Llanuwchllyn i Glyndyfrdwy, oddeutu 26 neu 27 o filldiroedd o ffordd, ac nid yw rhif y capelydd ond 16, nid amgen, Ebenezer, Carrnel, Peniel, Cynllwy'd, Pandy (pum' capel perthynol i Lanuwchllyn), Bala, Ty'nybont, Bethel, Rhydywernen, Soar, Bettws, Glyndyfr- dwy, Corwen, Cynwyd, Llandrillo, Llandderfel. Ond fel yr hysbyswyd yny CELT eisoes, y mae yr undeb dywededig yn bresenol wedi ei ranu yn ddau undeb, i bob pwrpas, ond i gynal cymanfa a chyfarfodydd cyffelyb gyda'u gilydd; y saith capel cyntaf a enwyd uchod i fod gyda'u gilydd, a'r naw olaf i fod gyda'u gilydd, a chynlialiodd yr undeb yn ei phurf bresenol ei gyfarfod olaf yn Bethel, Ebrill 28. Yr oedd capel Rhydywernen, a chapel Soar, wedi eu cau am y dydd, a'r Ysgol- ion wedi dod i Bethel i gael eu holi yn y mater- ion yr oeddynt wedi bod yn Ilafurio ynddynt. Yr holwyr oeddynt y Parchn. M. D. Jones, Bala, a T. Davies, Llandrillo. Y pwnc oedd y benod gyntaf o Colossiaid Ysgol Rhydywernen am 10 y boreu yn cael ei holi yn y darn cyntaf, Ysgol Soar am 10 yn y darn canol, ac Ysgol y lie am 6 yn y darn olaf. 0 flaen holi Ysgol Soar, holwyd plant y tair Ysgol gyda'u gilydd yn y 14 benod o'r Fam a'r Plentyn," gan Mr. J. Jones, Hendre, Bhydywernen. Yr holi yn fywiog ac yn dda, a'r Ysgolion a'r plant yn ateb yn dda. Dechreuwyd y cyfarfodydd gan Mri. W. Roberts, Cefnddwy- sarn, H. T. Adams, Myfyriwr, a J. Jones, Bala. Dywedwyd penodau allan gan Mr. E. Ellis, Rbydywernen, a dwy lodes o Ysgol Soar, a lodes o Ysgol Bethel. Canmolid hwy am ddweyd yn uchel a dealladwy. Cafwyd cyfarfodydd siriol a da ar hyd y dydd. Am haner awr wedi haner dydd cynhaliwyd pwyllgor yn y capel, pryd yr oedd swyddogion a chenhadau yr ysgolion, ac amryw eraill, yn bresenol. 1. Derbyniwyd casgliadau yr ysgolion. 2. Darllenodd y Trysorydd y cyfrifon, pa faint o arian oedd wedi dderbyn oddiwrth yr Ysgolion, a pha faint oedd yntau wedi ei dalu. 3. Rhanwyd yr arian gweddill oedd yn llaw y Trysorydd rhwng y ddau undeb-yr un faint i bob un. 4. Fod y ddau undeb yn uno a'u gilydd i gynal y gymanfa yn flynyddol, ac i gyd-dalu y gost. 5. Fel yr hysbyswyd eisoes, bydd y Gymanfa nesaf yn cael ei chynal yn y Bala, Mehefin 19, y cyfarfod cyntaf am haner awr wedi naw, y llall am un, a'r Hall am bump. 6. Fod Mrv J. Parry, Shop, Bala, i arwain y canu yn y gymanfa. 7. Fod Mr. J. Parry i ymholi a phobl Ty'ny- bont yn nghylch yr adeg y cynelir Cyfarfod Ysgol cyntaf yr undeb yno. 8. Fod yr ysgrifenydd i ymholi a phobl Cyn- wyd a ydynt hwythau am gael cyfarfod cyntaf yr undeb yno, ai nad ydynt, ac i hysbysu hyny i'r Ysgolion. 9. Yn nghyfarfod cyntaf y ddau undeb, bydd swyddogion yn cael eu dewis i gario yn mlaen y gweithrediadau- cofied yr ysgolion am hyn. Yr oedd y pwyllgor hefyd yn dymuno am i'r ddau undeb beidio a bod yn ddieithr i'w gilydd eto, er eu bod wedi ymwahanu, ond mai y dyben mawr oedd, ymwahanu i wneud mwy o waith, ac i fod yn fwy buddiol a defnyddiol; ac ond i gyfarfodydd y ddau undeb rbag Haw, beidio a chael eu cadw yr un amser, gall rhai o'r naill undeb a'r llall ymweled a'u gilydd weithiau eto- a dichon y byddai hyny yn llesiant, yn lie byw yn rhy ddieithr. Yn Nghynwyd, Mai 5, mewn pwyllgor ar ol Ysgol y boreu, darfu i'r cyfeillion dderbyn y Cyf- arfod Ysgol nesaf yn rhwydd ac yn llawen, i fod yno Mehefin 30, Sabbath olaf yn y mis fel arfer. Trefn y cyfarfod fydd fel y canlyn:—Am 10 y bore, holir yr Ysgol yn Matt. xxv. 1-14, dameg y deg morwyn am 2 holir y plant gan Mr. D. Williams, yn y 6cd benod o'r Fam a'r PJentyn- Crist yn Nain ar nl hyny, traddodir anerchiadiiu gan genhadau yr undeb ar yr Ysgol Sabbathol anfonir pynciau iddyr.t. Am 6 o'r gloch, hydd rhywun yn pregethu. Nis gwyr y cyfeillion pwy fydd yn holi, na phwy fydd yn pregethu, ond fel y mae lluaws yn gwy- bod, y mae Mr. Pritchard, y gweinidog, yn bur wael er's Ilawer o amser bellach, ac mae y cyf- eillion yn Nghynwyd yn dysgwyl yn bryderus y bydd ef wedi gwella erbyn hyny, ac y bydd yn alluog i holi a phregethu. Y mae yr esrlwysi sydd dan ei ofal yn gweddio llawer am iddo gael ei adfer i'w ief-hyd fel cynt. Y mae y gymanfa bron yn ymyl, dysgwylir fod yr Ysgolion yn llafuvio yn y materion sydd gau- ddynt, ac yn y Tonau a'r Emynnu, fel y gellir cael cymanfa lewyrchus, ond heb lafur yn flaen- orol, nid oes bosiblei chael hi. R. D. EDWARDS, Ysgrifenydd. PWLLHELI. Dirwest. -Cynhaliwyd Dosbarth Deml Lleyn ac Eifionydd, yn neuadd y dref, dydd Sadwrn Mai 4. Agorwyd yn y drydedd radd. Daeth lluaws 0 gynrychiolwyr at eu gilydd o wahanol fanau, i ymdrin a gwahanol achosion sydd yn dwyn cysylltiad a'r dosbarth, i wrandaw ar adrodcliadau y Dirprwywr Neillduol, yr hwn oedd yn hynod anogaethol i fyned yn mlaen gyda yr achos da hwn yn y dyfodol, ac ar ol gwrandaw adroddiad gan y Gradd Demlydd, awd yn mlaen i ethol swyddogion am y iflwyddyn ddyfodol. Dewiswyd y Brawd John Ellis yn Radd Demlydd, yn olynydd i'r Brawd Plenydd. Terfynwyd y cyfarfod am bump o'r gloch, a chynhaliwyd cyf- arfod cyhoeddus am saith yn yr un lie, dan lyw- yddiaeth D. E. Williams, pryd yr areithiwyd gan Cadben Thomas, Carnarvon, Robert Williams, a Plenydd. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfod dirwesqol yn Four- crosses, nos Wener, Mai 10, o dan lywyddiaeth D. E. Williems, yr hwn a ddywedodd yn ei anerchiad agoriadol, y dylid bod gyda'r achos o ddifrif yn yr adeg bresenol, fod yr ymyfed, a'r gyfeddach, a'r diota ar gynydd, fod dros 4,000 o dunelli o ddiodydd meddwol yn dyfod i Pwllheli bob tri mis, ac felly fod yr achos yn galw am i bawb ddyfod allan fel un gwr. Yna galwyd ar y brodyr eadlynol i areithio, Griffith Williams, Pencaenewydd, R. Williams, 0. N. Jones, Beth- esda, a Cadben Thomas, Carnarfon. Ar ol talu diolchgarwch i'r cadeirydd a'r areithwyr, terfyn- wyd y cyfarfod mwyaf dyddorol a gynhaliwyd mewn cysylltiad a dirwest. UN OEDD YNO. LLANIDLOES. Capel Seion.—Addoldy Cynulleidfawyr neu Annibynwyr y dref hon yn y lie hwn. Adeilad- wyd ef yn y fl. 1824, ar lecyn o dir a adnabydd- id yprydhwnw wrth yr enw "Indian Square yn heol y Bontfer, ac a brynasid i'r perwyl gan y ddiweddar Mrs. Evans y Doctor. Yr ydoedd erbyn hyn wedi myned yn hen ac adfeiliedig iawn, yn enwedig rhyw ranau o hono. Felly, fe ddaeth y frawdoliaeth i'r penderfyniad i lynu capel newydd, lawer helaethach, harddach, a mwy cyfleus i addoli. Y cynllunydd o hono yw Mr. John Humphreys, Treforris, Morganwg; a'i ad- eiladydd yw yr anturiaethus Mr. John Hope Owen, o'r dref hon. Y mae wedi cael ei osod iddo, am y swm o fil a phum cant a haner o bunau, yn nghyda defnyddiau yr hen gapel at ei ddybenion ei hun ac y mae, yn ol y cytundeb, i'w orphen yn mhen naw mis. Traddodwyd dwy bregeth am y tro diweddaf yn yr hen un, ddydd Sul, Eb. 28, 1878, oddiwrth Hosea, ii. 21-23, ac Exod. xxxiii. 12—17, gan y Parch. J. Silin Jones, y gweinidog. Pregethwyd ar yr achlysur o osod careg sylfaen yr addoldy hwn i lawr, gan y di- weddar Barch. Abel Jones, gweinidog y Bedydd- wyr y lie hwn, oddiar Esra iv. 2 a 3, a hyny yn mis Ebrill, 1823, os nad wyf yn eamsynied. Tra bydd adeiladwaith y capel newydd yn cymeryd lie, bydd yr eglwys yn ymgyfarfod yn Bethel, hen gapel y Trefnyddion Calfinaidd. Dechreu- wyd tynu ei ranau mewnol i lawr dydd Mercher, Mai y cyntaf, a thebygol y bydd llawer o'r adeil- ad wedi ei chwalu a'i dynu i lawr cyn y bydd hyn o hanes yn meddiant darllenwyr y CELT. CLYWEVOG.

CANOL Y FFORDD.