Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

AMAETHYDDIAETH.

News
Cite
Share

AMAETHYDDIAETH. MR. GOL. Dymunol fyddai i gongl fechan o'r CELT gael ei chysegru i'r dyben i oleuo y Cymry gyda golwg ar y gangen bwysig hon o wybodaeth fuddiol. Y mae gyda'r Saeson a'r Scotiaid, a'r Gwyddel- od, bapyran wythnosol, y rhai a gysegrir yn llwyr i'r amenn hwn; ac yn sier, y maent yn werth rhoi'r tal a ofynir am danynt, a'r amser gofynol i'w darllen. Trinir ynddynt bob peth cysylltied- ig a ft'ermwriaeth—Trin tir; sychu tir gwlyb; y ffordd oreu i godi cnydau; gwalianol achlesoedd; adeiladau, &c., &c., yn nghyda magwraeth anif- eiliaid; a mynych y ueir oyfarwyddiadau medd- ygol rhagorol, a plia fodd i drin y gwahanol aniteiliaid mewn gwahanol glefydau. Telir sylwmanwl liefyd i farchnadoedd y wlad, fel y gallo'r amaethwr larnu beth ddylai gael am ei nwyddau. A oes dim mcJd eael y CELT i lanw'r bwlcLi hwn. yn ei berthynas a Ohymrn? Sicr wyf y gwnai hyn les iddo ef yn gystal ag i filoedd o'i ddarilenwyr. Y mae amryw yn Nghyuaru yn feddianol ar gymwysder neilldnol i ysgrifenu ar wahanol gangenau Ni roddai dim mwy o foddhad i mi na'u gweled yn dyfod i'r maes yn arfog. Dichon fod ambell un yn mhob sir drwy Gymru, o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na'r holl bobl yn byn o bwnc. Gresyn nad ymaflai y cyfryw yn y gorcbwyl. Ai gorinod byfdra ydyw i mi geisio yn ostyngedig, gan fy hen gyfaill galluog J. Thomas, Ysw., Llethr, i ddechreu? Bn efe yn ceisio goleuo y Saeson ar y pen yma er's blyny(ld-tii lawer. Goheithioy claw allan eto yn yr un cvfeiriad, er llesau ei frodyr, y Cymry, drwy offerynoliaetli y CELT. CADWGAN [Y mae amaethyddiaeth yn un o gelfyddydau pwysicaf a hynaf y byd; ac yr ydym yr un deirnlad a Cadwgan, y gallai erthyglau cynwys- fawr ar welliantau amaethyddol fod o werth mawr i Gymru: ond carem iddynt fod yn gryno, ac yn fyrion, ac yn eglur. Bu'r CELT unwaith yu ofni pririder defnyddiau, ond y mae erbyn hyn yn ofni gorlawnder; ac felly erfynia ar ei oliebwyr i grynhoi eu syniadau i cyn lleied o gylcii y ag medrant heb eu gwanycbu.—GOL.] AR YR AWR GINIAW. Mn. GOL.,— Yn y rliifyn cyn y diweddaf o'r CELT, addewais roddi bras ddarluniad o Cliwarelydd y Deheudir yma, gan ddechren yn Trevine, swydd Benfro, gan mai a'r Chwarelydd mae a fynom. Gadawn i'r "dre" ar hyn o bryd, gyda dweyd mai pentref bychan ydyw, ond hynod o ramantus, ar fryn yn min y mor. Nid oes gweithfaoedd yn y gymydogaeth oddi- gerth y Chwarelydd; a thrwy mai ar adegau y gweithir y rhai hyn, y mae adegau tywyll yn cwrdd a'r trigolion, a gorfodir hwythau gan am- gylchiadau i fyned am eu bara a chaws i ryw dir dyeithr. Y mae tair o Chwarelydd yn Trevine, pa rai a elwir yn Trwynllwyd, Pentop, ac Aber- eithy; a rheolir neu gamreolir y rhai hyn gan fan stiwardiaid dibrofiad, fel y cawn sylwi eto. Felly mae pethau yn myned yn ddidrefn, a'r gweith- wyr yn llawn terfysg; arheswm da paham—y mae pob dyn am ei iawnderau, ac mae hyny yn ddy- ledus iddo; ond ffydd wan sydd genyf y ei neb y cyfryw yn y lie crybwylledig, "nes daw arall dro ar fyeI." Ein. harferiad nifel chwarelwyr yn y eyffredin yn mhob man ydyw, cymeryd y fargen bob mis, mewn geiriau yn unig, gan ymddiried o bob tu am degwch yn ngweithiad allan y cymeriad hwnw, hebeisiau rhoddi pin ar bapyr. Felly y gwnaoth ysgrifenydd hyn o linellau, yn nghyda phump eraill yn y lie a nodwyd. Ymddiriedasom ormod yn ngwen felfedaidd y stiward: a'r canlyniad fu, i ni dderbyn am ein caled-waith y mis, ychydig yn fwy na digon i gadw y corff a'r enaid yn nghyd. Dyna i ti ddarllenydd un ffaith allan o'r lluaws; ac os dygwydd i ti fyned yno, cofia pa fodd i weithredu. Dywedant fod cyfiog y gwaith, neu yn hytrach, safon y cyfiog yn wyth ar hugain yr wythnos, y mae hyny yn anwiredd. Gwn i amrai wedi cael eu talu yn ol deunaw swllt, eraill yn ol punt, eraill yn ol pump ar hugain, a lied debyg fod y cynffonau yn cael £1 8s. ac ef- allai fwy. A phrofaf hyny gyda phleser os bydd achns. Credwyf fod yn llawn bryd dinoethi a dadleu argoedd byd, y- rnold yr ymddiriedir tuag atom; yna caiff y byd farnu "A yw y pethau hyn i lod" o hyd ai peidio. Anaturiol o beth i'm tyb i, ydyw gweled Gor- uchwyliwr mewn tafarn gyda'i weithwyr, wedi yr elont i'r "cywair lion," gyda "Sir John," yrwaith a gweithio a fydd hi. Ond pan ddelont i'w lle- oedd priodol, lie y dylai y gweithiwr weithio, a lie dylai y stiwnrd oly<jru ar weithiwr, son am y dafarn a fydd wed'yn; a'r stiward mor ddiyywii- ydd a phnst liidiart yn llefaru, tynga, a gweithr. redu fei v myuo. a phawb fel o dan rwymau i beidio yngan gair yii ei erbyn. Wrth weled y fath ymddygindau, teimlais ar fy nL'halon lawer gwaith waeddi allan yn iaith y bardd- "tiluchier y stiwnrd llechau, Genaw llwm i gllllolllall." Gofier- mai stiward llechau y soniasom am dano, ac nid hen filwr na day mason, fel ag y sydd yu llywo''raethu yu llech-cliwarelauy Deheudir yma. Msie milwr yji ia.wn yn ei Ie, au felly y "saer ma.en," a'r ohwarwlwr yr un luodd. Ond ychydiif iawn o gysylltiadau cclfyddydol sydd rhyngddynt —mae'r milwr am ei fido' ei ddryll a'i gledd; mae'r saer ma< n am ei ddwy droedfedd, ei driwel, a'i blwm; mae'r <hware]wr am ei gyllell a'i ;;un, a'i forthwyl: pob im ) bonynt at y peth y dyg- wyd ef i fyuy. Ond dyna anghysondeb onide, fyddai gweied y chwarelwr yn drilio y milwr, yu dweyd wrtb y saer maen am wneud pob peth yn hollol groes i'r hyn y dylai wneud. Yr un mor anghyson ydyw Clywed milwr a saer niaen yn "cotnatidio" chwarelwr, yr hyn beth nadydynt yu gwybod dim am dano. (I'w barhau.) SEMI WYN. O.Y.Dyma lytbyr yii fy hysbysu fod Chwar- elydd Trevine ar stop —llawer wedi eu taflu ymaith. Y manylion yn y nesaf. Tebygol fod eisieu chwarelwyr yno. Chwarelwyr! ua thwyller chwi gan ddiafol.—S. W. RHYDWYN A'R AMGYLCHOEDD. MR. GOL.— Mewn ffenndy, beb fod ddeg. milldir o Rhyd- wyu, cynhaliwyd y cyntaf o gyfres o gyfarfodydd teuluaidd sydd yn ddiweddar wedi svrtbio i fwy o anfri nag a ddylent. Yr oedd teulu y ty wedi gofalu am ddigon o waith i ddanedd a chylla eu gwahoddedigion; ac yr oeddynt hwythau oil wedi parotoi mwy na digon o waith i'r aelodau bychain hyny sydd a wnelont yn fwy uniongyrchol a'r meddwl. Cyn decbreu, cynygiodd Miss —— fod cynryeh. iolwyr y wasg i gael aros i mewn; gwrthwyneb- odd Mrs. —— y cynygiad, a chafodd y mwyafrif mawr o ddeg allan o ddeuddeg-a bu agos i'r ferch ieuanc ryddfrydig, fu yn ddigon gwyneb- galed i gymeryd plaid y giwaid, gael ei throi allan glda hwy. Rhag i neb roi y bai o hyn ami hi, guddei'er i mi fynegi pa fodd y cefais i yr hanes a ganlyn. Gan ragweled canlyniad y ddadl, llithrais yn ddystaw dan y bvvrdd; a chefais y pleser o weled, trwy dwll bach yn y llian gwyn, Carno, V, L, X. V. B., yn cael eu llusgo allan, rhai drwy deg, rhai gerfydd eu clust- iau, a phob un yn erbyn ei ewyllys. Ciliodd Llwynog Llwyfo, gyda'i gyfrwysdra arferol, i gwpbwrdd llestri oedd wrth ochr y tan; ond, gan fod Mr. (gwr y tÿ), i gael cwpanaid tna'r diwedd, yr oedd yn rhaid myned i guddfa Llwyn- og am blat. Haws dychymygu yr olwg oedd ar y bardd nag yw ei desgrifio. Credaf ei fod wedi dychrynu cymaiut nes anghofio yr holl helynt; felly y mae cofnodi y cwbl wedi ei adael i mi. Bu agos i minau syrthio yn aberth i'm blys, pan roddodd un foneddiges ei phlat a'i chrempog ar ei glin-methais wrthscfyll y demtasiwn, gan fod pawb, ond gwraig y ty, yn cydnabod fod y gremp- og yn dda iawn. Gafaolais ynddi yn sydyn, a diflanodd heb yn wybod i mi! Dyehrynodd Miss —— wrth weled ei bod wedi darfod ei darn mor fuan a bu yn sipian y darn arall o hyny tan y diwedd, rhag iddi ddancos i bawb ei bod yn vulgar. Dyn a'i helpo, ni bu yn ddigon cas i achwyn arnaf, os ffeindiodd mai fi wnaeth. Meddai gwraig y ty,—"Miss —— bach, dowch, bytwch, 'dydach cb'i'n bwyta dim. Ga'i 'ch helpu ch'i a thipyn o'r grempog ymaMae hi yn un wael hefyd: mae y siopwr yna yn cadw hen flawd mor ddrwg," &c. Dywedwyd hyn tua dau ddwsin o weithiau, wrth bob un o'r gwahodd- edigion, yn awr a phryd arall, ar ganol y 'sgwrsys. Gan fod pawb yn canmol y te, ac wedi syrthio mewn cariad ag ef, ac yn holi yn mha siop ei cafwyd, gwelodd Mrs. —— yn dda esbonio "Dropyu bach lleia' 'rioed o rum fydda' i'n ei roi yn y tepot—dyna sy'n gwneud y gwahaniaeth igyd." "Tydi'n resyn fod gwr yn difetha ei hun yn y tafarnau yna." "Yùi wir, y mae, ac mae uhw'n d'eyd fod y wraig Hawn can' waethed a fyntau" "Dear anwyl, yn tydio'n biti fod pobi fel yna yn cael plant i ddim oud i'w gwneud yn feddwon," 'Does dim ond y felldith yn dilyn y ddiod yn mhob man," meddai gwraig y ty,—a gadawyd y pwnc. "A glywsoch ch'i fod eich cefnder, Robert, yn myn'd i briodi, Miss —— ?" -Dear me, naddo; 'does dim fath beth. Fasa fo byth yn edrach ar 'run hogan fel nona: hi ei hun wnaeth y 'stori i gid." 0, nage wir, mi gwelais hi yn myn'd am gropper hefo fo yn A ch." « Tewch a d'eyd." Tewch;" Tewob." Dear anwyl." &c. le, ond peidiweh a son wrth neb 'mod i'n d'eyd." Wllaeth neb cyn myned allan beth bynag. "0, ie, Miss yr oeddwn i yn myn'd i dd'eyd wrthoch ch'i fy mod wedi clywed eich bod chwithau yn myn'd i briodi yn union deg." "Pwy ddley(ludd hyny, -NIrs. "0, mi glywais lawer iawn yn d'eyd, ran hyny." Nag ydw i wir,-ddim hefo Tom beth bynag." Wel, rydach chi'll caru'n glos." "Mau o'n cyboli hefo nhad hyd y fan acw o hyd oud 'does gin i ddim help iddo to, 'rois i 'rioed ddim lie iddo fo:" Ie wir; Miss yr ydach ch'i yn gwneud yn llygad y'ch lie—mae nhw'n dweyd fod o'n ddigon isel yno." "Ella ma' hynaydi'r aohos fodo mor ffond o'eh tad," &c., &t\ Soniwyti am bob priodas sydd i gymeryd lie yn yr ardaloedd >n ystod y flwyddyn 1878, ac am bob carwiiaeth arall nad yw yn debyg o ddyfod i derfyriiad mor ddedwyd. Deuwyd o hyd i afier- woh pob mab. pob merch, a phob ty, yn y plwyfydd Gwnaed sylwadau miniog ar anffydd- londeb priodasol tybiedig, neu arall mewn amryw deuluoedd. Ond, er mwyn y grempog dda a gefais dan y bwrdd, er mwyn y ferch ieuanc garedig bono, ac er mwyn y sport, bydd i mi fod yn ddystaw ar hyn. i-Syddaf yn siwr o'r visit nesaf hefyd, er mai fi oedd yr unig un yn yr ystafell a adawyd heb ei wahodd. Cewch yr hanes gan IOAN RHYDDLAD. O.Y.—Ymaoycyfarfodyddadeiladolacaddysg- iadol yma i gael eu cynal unwaith bob mis.1. R. [Gofaled cadeir-wraig pob cyfarfod te am i bob peth o gylch ei bwrdd gael ei wneud a'i ddweyd yn weddaidd ac mewn trefn, rhag y bydd FlJW loan Rhyddlad ymlechu dan y bwrdd, neu ryw LwynogLlwyfo ymguddio yn y cwpbwrdd: ac os bydd y gwragedd am i'w gwyr ymwrthod a.'i gwirod, rhaid iddynt hwythau ochelyd amen bywyd rhoddi dim rurn yn y tepot.—GOL.] DARLITH Y PARCH. D. CHARLES DAVIES, LLUNDAIN. MR. GOL.,— Y mae yn dda genym allu hysbysu' Gohebydd,' fod Darlith y gwr enwog hwn, ar Anffyddwyr yr oes hon yn eu perihynas a. Christionogaeth," i'w chael gan Mr. Evan Williams, Argraffydd, Dean Street, Bangor, nid am swllt na chwe' cheiniog, ond am geiniog. Nid oes genym ond dymuno gyda'r pwyllgor, y bydd i'r ddarlith gael lledaen- iad helaethacli eto i gadarnhau ffydd y rhai sydd yn eiddigeddus dros burdeb athrawiaeth fawr yr efengyl. I Le'rpwl. S. T. MORRIS. AT Y PARClf. E. STEPHEN (TANYMAR- IAN.) SYR,— A fydclwch chwi mor garedig a hysbysu dar- llenwvr y CELT pa amser yr ydych yn bwriadu cyhoeddi yr "Attodiad" i'ch Llyfr Tonau ac Emynau? Ydwyf, barchedig Syr, Yr eiddoch, Llanuwchllyn. L. J. DAVIES.

[No title]