Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Jft&rctabtfebb, Set*
News
Cite
Share
Jft&rctabtfebb, Set* MASNACH YD. Y mae y Farchnad Yd yn dra sefydlog y dyddiau hyn, fel nad oes fawr gyfnewidiad er yr wythnos ddiweddaf. MABCHNAD LERPWL, DDYDD MAWKTH, Mai 14. Arosai y farchnad yn sefydlog am y prisiau blaen- orol. HAECHNADOEDD CYMREIG. ABERtSTWYiH, Ebrill 29.—Gwenith o 7s 60 i 8s Oc y mesur; haidd, 5s Oo i 6s Oc ceirch, 3s 9c i 48 6c ymenyn ffres, 16c i 18c y pwys; dofed- nod, o 4s Oc i 6s Oc y cwpl; pytatws o 8s 00 i 9s Oc y canpwys. Bangor, Mai 8.—Gwenith, o 47s Oc i 49s Oc y chwarter; haidd, 33s Oc i 38s Oc; ceirch, 26s Oc i 30s Oc; blawd ceirch, 36s Oc i 37s Oc y 240 pwys. CAERNARFON, Mai 4.—Gwenith, o 46s. Oc. i 49s. Oc. y chwarter; haidd, o 34s. Oc. i 38s. Oc. y chwarter; ceirch, o 26s. Oc. i 29s. Oc. y chwarter; blawd ceirch o 35s. Oc. i 37s. Oc. y 240 pwys. Gwbbcsam, Mai 2.—Gwenith gwyn, o 7s 6c i 7s 9c y mesur; yr hen wenith coch, o 7s 3c i 7s 9c y bwsel o 75 pwys; ceirch, 3s 8c i 4s 60 y bwsel o 46 pwys; haidd at fragu, 6s 100 i 7s 2c y 38 chwart; eto, at fain, Os Oc i Os Oc; pytatws 5s 6c i 5s 9c y 90 pwys; ymenyn ffres, o Is 4c i Is 5c y pwys; cig eidion, 9c i 10c y pwys; cig defaid, o 10c i lie y pwys; cig lloi, 7a i 8c y pwys; ednod, 4s Oc i 5s 6c y cwpl. Cbobsoswalll, Mai 1.—Gwenith o 7s 4c i 7s 10c; haidd at fragu, 6s Oc i 6s 9c; ceirch, 3s 6c i 4s 6c; pytatws, Os Oc i Os Oc y mesur o SO pwys; ymenyn, 14c i 16c y pwys; ednod, 5s Oc i 6s Oc y cwpl. KHBTHYN, Ebrill 29.-Gwenith coch, 16s Oc i 18s yr hob; ceirch, o 7s 6c i 9s Oc; yr haidd at fraga, o 14s Oc i 16s; eto at falu, o 10s i 13s 6.
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. t)aeth amryw erthyglau ac adroddiadau i law pan ydoedd y rhifyn hwn wedi cael ei gysodi. Er- fyniwn ar ein Gohebwyr i anfon yn brydlon, ac i ysgoi meithder hyd y gallant, oblegid y mae y gohebiaethau yn dylifo i mewn, ac yn parhau i jjrôni, a hoffem gyfarfod dumuniad pawb hyd y Ballam, Wedi eu cysodi, ond gorfodwyd ni eu gadael allan o herwydd gorlawnder a meithder NeWyddion Cymreig—Ymdrech yn mhlaid y ffydd —Sefyllfa Masnach America-Y Pulpud, Y Llwy- fan, Y Wasg-Cell Cyfraith y Celt-Olm Hawyren —Festiniog, Llundain, Manchester, &c., &c. D S.—Gofaler am anfon y Gohebiaethau yn gryno, byr, eglur, a phrydlon.
TELERAU Y "CELT."
News
Cite
Share
TELERAU Y "CELT." I drwy'r post am chwarter (talu yn mlaen) 0 1 6 2 eto eto 0 2 6 3eto eto 0 3 3 4 eto eto 0 4 0 Os na tbelir yn miaen, pris 1 drwy'r post am dri mis fydd 1/9; 2 eto, 3/3; 3 eto, 4/3; 4 eto, 4/6. Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle eyntaf i'n hysbysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i ddod i law bob 3 mis. Telerau i America 2g. yr un yn cynwys cludiad. D.S.—Sylwer yn fanwl ar yr uchod. HYSBYSIADAU PARHAOL. 1 fodfedd, 9c. y tro 2 fodfedd, 1/3 eto 3 mod- ledd, 1/8 eto; yn nghyda 4c. am bob modfedd ychwanegol. HYSBYSIADAU CYFFREDINOL. Y tri thro eyntaf 2c. y llinell 4i6tro lie. 7 i 10 tro lc. „ D.S.—Hysbysiadau Double Column dwbl y pris iichod.
Y RHYFEL.
News
Cite
Share
Y RHYFEL. MAE Arglwydd Beaconsfield, Goliath y Tor'iaid, yn dal i ddod allan i herio bydd- inoedd y Rwssiaid, drwy anfon milwyr Mahometaidd yr India i Malta; ac y mae yn prynu llongau rhyfel mawrion, ac yn adeiladu rhai eraill, ac y mae efe yn cryfhau y llynges a'r fyddin yn mhob dull ag y medro. Yr oedd Goliath (hen gawr y Philistiaid gynt), yn ddigon gonest i gydnabod mai rhyfel oedd yn ei galon, tra y mae Arglwydd Beaconsfield yn gwau ei waewffon, ac yn trin ei gleddyf, i gadw'r heddweh, medd efe! Mae'n wir fod ambell un yn cael ei gadw rhag yswagro ac ymladd, drwy dynu'r gob, a dangos dyrnau ar ei gyfer; ond y mae mil am bob un fel arall, wedi ei demtio i ymladd, drwy gael ei hectro i ymosod. Mae ein cefnderwyr, y Gwyddelod, yn hynod hoff o drin eu pastynau, er mwyn cadw trefn a thang- nefedd yn yr Iwerddon, meddent hwy! Er holl ymdrech y Gwyddelod i ddysgu trin eu ffyn, mae llai o heddwch yn yr Iwerddon na manau eraill. Y bobl sydd yn dysgu mwyaf i drin eu dyrnau, er mwyn bod yn alluog i amddifiyn eu hun- ain, yw'r dynion a welir y rhan fynychaf yn ymladd. Ychydig iawn o ffydd sydd i'w roddi yn nghynlluniau Arglwydd Beaconsfield i sicrhau heddweh, drwy barotoi cymaint at gario yn mlaen ryfel anferth. Nid oes gormod o hyder i'w roddi ar y Rwssiaid, am eu bod yn penderfynu na roddant Kars na Batoum i fyny; a dichon oa ildiant lawer o fanau eraill. Pan y cyhoeddwyd rhyfel yn erbyn Twrci, sicr- hai y Czar mai ei unig amcan oedd rhydd- hau Crist'nogion gorthrymedig Twrci oddiwrth orthrwm llywodraeth y Sultan. Mae y Czar yn bur debyg i lawer cyf- reithiwr, yr hwn wrth ei gyflogi i am- ddiffyn fydd yn cymeryd arno gwneud ei oreu i'ch cadw rhag i arall fyned a'r eiddo ar gam ond pan ddeuir i dalu y bil, cieir gweled mai neidio at leidr mawr i'ch cadw rhag y bychan fyddis wedi ei wneud, ac mai gwir amean y eyfreithiwr fydd cael eich arian i'w logell ei hun, yn lie eu gad- ael yn llogell eich niweidiwr. Nid oes un amheuaeth na fyn y Rwssiaid rai o wled- ydd Twrci, dan yr esgus o godi tal am y rhyfel, ac na chaiff y cyfryw wledydd lywodraethu eu hunain. Nid eu rhydd- hau a gaiff pobl y gwledydd hyny, ond newid eu meistri. A barnu wrth hanes blaenorol Rwssia yn Poland a manau eraill, nid oes un amheuaeth na hoffai y Rwssiaid gael Caercystenyn a'r oil o Twrci i fod yn feddiant iddynt hwy eu hunain. Byddai y Czar wedi hyny yn teyrnasu o for i for. Y mae ef eisoes yn llywodraethu hyd derfynau eithaf y ddaear. Nid oes modd meddwl yn wahanol i byn am y Weinyddiaeth Doiiaidtf. Maent yn sicr o fod a'u llygaid ar yr Aifft i gymeryd meddiant o honi os medrant, pa un bynag a yw'r bobl yn dewis ai peidio, a hairent. gael meddiant o Caercystenyn, a mauau eraill. Ymladd am yr ysglyfaeth yw hi bellach. Mae hen arth fawr y Gogledd wedi rhuthro i Twrci, a Iledu ci phalfau am dani, a'i gwasgu nes yw hi yn dolefain, ac y mae yr hen lew Prydeinig wedi clyw- ed y miri, ac wedi rhuthro allan o'i ffau i weled y frwydr farwol, ac y mae ef yn crwcydu yn y llwyn yn awr i roddi naid ar gefn yr arth, a dwyn yr ysglyfaeth rhwng ei danedd. Dywedir fod ar lewod, er gwroled ydynt, ofn tan. Mae Gladstone a Bright wedi bod yn cyneu tanau cyrddau cy- hoeddus drwy'r holl wlad i atal Prydain rhag myned i ryfel, ac y maent wedi arafu gryn lawer ar dymherau dynion poethion. Mae Gorschakoff, prif gynghorwr y Czar, wedi cael ei daro a chlefyd boneddigaidd yn ei ddeudroed, fel y mae ef yn gorfod cilio adref, yn lie bod yn ymgyndynu yn nghynghorau Rwssia. Pe byddai modd i roddi ergyd o'r parlys eto i dymherau cyndyn ein Prif Weinidog, byddai go- baith wed'yn am drefnu pethau yn fwy heddychol. Ar y cyfnewidiol y mae'r hinraddyr (weather-glass) er's wythnosau weithiau i fyny, ac weithiau i lawr, ac nid oes un dewin a fedr ddweyd a ddaw ystorm rhyfel ai peidio. Mae cymylau duon yn ymgodi heddyw, a fory bydd yr awyr wedi clirio llawer, ac arwyddion fod yr ystormydd yn cilio, a'r tywydd i fod yn deg. Dywedir yn awr fod tebygolrwydd y bydd cynhadledd Ewropaidd yn cael ei chynal eto, lie yr ymdrechir dod i gytundeb drwy ymgyng- horiad, yn He drwy ryfel. Ond cwmwl du iawn yw, fod Rwssia yn prynu gwib- longau i ddyfetha masnach Prydain ar y mor, cyffelyb i'r "Alabama," drwy yr hon y dyfethwyd cymaint ar fasnach yr Unol Daleithiau yn ystod gwrthryfel y caeth- feistri, yr hwn y darfu pendefigion Lloegr ei gynorthwyo gymaint. Mae yr Unol Daleithiau yn cael cyfle i dalu. y pwyth yn ol yn awr i'n llywodraeth ninau, drwy werthu gwiblongan i'r Rwssiaid. Cynt y cwrdd dau ddyn na dau fynydd," medd yr hen ddiareb. Nid oes amheuaeth na winciodd ein gweinyddiaeth Brydeinig y pryd hyny ar fynediad yr "Alabama" allan; ac ymddygodd ein llywodraeth yn anfrawdol tuag at gyfeillion rhyddid y caethion yn yr America y pryd hyny. Eu pwnc oedd dinystrio gweriniaetb, er i hyny gadw miliynau mewn caethiwed.. Hefyd, gwerthasant arfau, pylor a phlwm i'r Deheuwyr; ac yr oedd eu cydym- deimlad yn fwy gyda'r Do na'r Gogledd. Mae'r Americwyr yn awr yn cael cyfle i roddi arfau yn llechwraidd i Wyddelod, yn ngwasanaeth ltwssia, i ymosod ar ranau o Canada, os bydd y rhyfel yn myned yn mlaen. Cymylau duon iawn yw, fod Prydain yn gwneud y fath barot- oadau at ryfel, drwy barotoi byddin, ac ychwanegu ein llynges, yr hon eisioes ydyw y llyges fwyaf yn y byd. Ond y mae y Weinyddiaeth Doryaidd yn sicr- hau-nad ydynt hwy am ryt'el. Paham ynte yr ydys yn parotoi cymaint at frwydro?
MARWOLA.ETH DDISYFYD PRIOD…
News
Cite
Share
MARWOLA.ETH DDISYFYD PRIOD MR. JOHN BIUUHT, A.S. Cymerodd yr amgylchiad gofidus le bore Linn, Mai 13, yn One Ash, Rochdale. Yr oedd yr ym- adawedig yn cydaddoli gyda'i brodyr y Crynwyr y dydd blaenorol. Ei hafiechyd oedd clefyd y galon Yr oedd Mr. Bright ar y pryd yn Llundain. YMGAIS I LOFRUDDIO YMSRAWDWR GEIiMA^I. Pan oedd ei uchelder yn marchogaeth yn ei gerbyd ar un o heolydd Berlin mi o'r .Jyddiau divveddaf, saethwyd ato gan frad-iofrudd, yr hwn a aracanai eiymddifaduo'ifywyd. Cafodd yrymera\y-.iwr ddi- angfa gyfyug. Y mae yr adyn aulaji me.vu dalfa.