Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

SARDIS, MYDDFAI.

News
Cite
Share

SARDIS, MYDDFAI. Golygfa mewn addoldy.—Dydd Sabbath, yr 28ain o Ebrill, ar ol gorpheniad y gwasanaeth crefyddol, hysbysodd y Parch. D. Richards, gweinidog y lie, fod yn ei feddiant leni wedi eu hanfon iddo, set deiseb i'w harwyddo gani bawb oedd mewn oed, ac yn deall y perygl o ryfel oedd braidd yn anocheladwy rhwng y wladwriaeth hon a Rwssia, ac mai ei hamcan oedd eynorthwyo y blaid ryddfrydig yn y senedd i geisio atal y weinyddiaeth geidwadol i fyned i ryfel diachos a'r ymerodraeth hono. Ni roddodd unrhyw bwys arni er ceisio denu y gynulleidfa i arwyddo eyi henwau, ac nid oedd achos am hyny, canys yr oedd eu hawydd yn erbyn rhyfel yn ddigon cryf erbyn idtlo: braidd orphen ei ymadrodd, wele ddyn tal, cloff o glun, ar ei draed, ac yn yagwyd ei fraich mewn dull rhyfelgar, ac yn hysbysu y gynulleidfa mai y weinyddiaeth geidwadol oedd yn iawn, aconi buasai iddynt hwy wylio yr adeg, y buasai y Rwssiaid cvn hyn wedi meddianu ein tiriogaethau a'n buddianau, ac nad oedd y ddeiseb yna ddim byd ond achos rhyw newyddiadur yn y Gog- ledd a. elwiry Faner, amcan yr hon oedd ceisio denu y werin i gashau y weinyddiaeth geidwadol, ac i'w drygu hyd eithaf ei gallu end pe buasai genych ddeiseb i'w harwyddo er pleidio y weinyddiaeth geidwadol, mi a arwyddaswn fy enw ddeg o weithiau, a dy- muniad fy nghalon ydyw llwyddiant iddynt, ac ni arwydda i pao hoaa, Enynodd hyny gymaint o ddigofaint y gynulleidfa ato, fel ac y gwaeddodd un dyn nerthol, rhowch y papyr i mi i gael ei arwyddo, ac fe safodd y gynull- eidfa un ac oil i arwyddo eu henwau, ond y ceidwadwr nwydwyllt, yr hwn a aeth allan gan gadw twrw erchyll; a'r Sabbath canlyn- ol, wele ef wedi newid ei gredo, ac yn myned i'r fEglwys Wladol i wrando, dyca i chwi ddyn fel ceiliog gwynt. IOAN DAFYDD. LIVERPOOL. Nos Lun Mai 6, yn nghapel yr Annibynwyr Great Mersey St., traddodwyd darlith ragorol gan y brawd ieuanc Thomas Jones, Sellar St., un a ddygwyd i fyny yn yr eglwys hon. Ei destyn ydoedd Yr Indiaid a'u Crefydd." Cymerwyd y gad air am 7 o'r glocb, gan y Parch. W. Roberts. Wrth agor y cyfarfod cafwyd sylwadau byrion a phwrpasol gan y cadeirydd, yna galwodd ar y darlithydd at ei waith, yr hyn a wnaeth yn anrhydeddus. Yr oedd y ddarlith nid yn unig yn dangos talent a llafur mawr, ond hefyd yr yspryd haelfrydig a christionogol oedd yn rhedeg drwyddi. Yn ychwanegol at y ddarlith yr oedd ganddo amryw ddarluniau tarawiadol i'w dangos i'r gynulleidfa, sef eu duwiau, y rhai a addolir ganddynt. Aeth trwy ei waith yn rhagorol, yn enwedig wrth feddwl mai dyma y tro cyntaf iddoddod allan fel hyn yn gyhoeddus. Hyderwn nad yw hyn ond rhyw flaenffrwyth o'r hyn a welir yn y dyfodol. Gwnaed casgliad ar y diwedd tuag at y Gymdeithas Genbadol. Cyn ym- adael cynygiwyd diolchgarwch cynes i'r darlithydd gan Mr. Lewis, York Villas, a chefnogwyd ef gan Mr. Lloyd Holey, St. Great Mersey St., Liverpool. E. ROBERTS. FFALDYBRENIN. YN nghapel yr Annibynwyr, yn y lie uchod, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol, prydaawn dydd Mercher, sef y dydd cyntaf o Fai. Lly- wydd oedd Mr. T. Price, Wernfendigaid. Beirniaid oeddynt, ar y Farddoniaeth, Traeth- odau, &c., Parchn. H. Jones, gweinidog y lie, a J. D. Evans, Salem; ac yr oedd Eos Morlas yn beirniadu y canu. Cafwyd can gan yr Eos er agor y cyfarfod. Yn ol ei arfer, yr oedd ar uchelfanau. Ar ol cael anerchiadau gan y beirdd, awd yn mlaen fel y canlyn :—Dadganu deuawd, "Gadewch i blant bychain." Cyd- fuddugol, y ddwy Miss Price, Cefncoed mawr, a'r ddwy Miss Jones, Pumpsaint. Dadganu, "Groeswon." Goreu, John Davies, Llwyn- rhos. Adrodd, "Boxer y ceffyl blaen." Goreu, Moses Jones, Tanlan fawr. Dadganu," Cwymp Babilon." Goreu, Cayo Party. Penillion goreu ar "Glefyd y Sabbath." Goreu, John Jones, Bwlch gwynt. Dadganu, "Bardd a'r Afonig." Cydfuddugol, dau o'r Owrt, a dau o Cayo. Araeth ar. "Ddyledswydd Ymneill- duwyr er ymddwyn yn gyson a'u proffes." Goreu, D. Davies, Shop, Pumpsaint. Hefyd, cafwyd can gan Eos Morlais. Am y ddau englyn goreu i'r Ysgol Sabbathol." Goreu, un o dan y ffugenw 'Charles o'r Bala. Dad- ganu, "Iesu'r cyfaill goreu gaed." Goreu, Cayo Party. Am y traethawd goreu ar "Y moddion goreu er gwneuthur yr Ysgol Sab- bathol yn fwy llwyddianus ac etfeithiol." Rhanwyd i hwng tri, sef Evan Evans, Erwion; William Evans, LI wast; a T. Lewis, Ffaeldy- brenin. Dadgauu," Glanyrafon." Goreu, Cayo Party. Darllen dernyn ar y pryd. Goreu, Evan Evans, Crevion. I'r pedwar a ganent yn oreu y dernyn a roddir ar y pryd. Pump yn gydfuddugol. Canodd dau Barty yn iawn, sef dau Barty o'r^lle. Prif gystad- leuaeth y dydd oedd, dadganu Requiem gyn- ulleidfaol. Dau g6r yn sefyll, sef C6r Cayo a Ch6r Cwrtycadnaw. Y goreu oedd y diwedd- af. Oafwyd cyfarfod rhagorol o dda ar y cyfan, a hyderwn y ceir cyfarfod o'r fath eto yn fuan yn yr ardal. Lampeter, T. RICHARDS. CYMRO LLWYDDIANUS. PASIODD Mr. J. T. Phillips, o Goleg Gwestfil feddygol (Veterinary), Edinburgh, yn llwydcl- ianus yn yr arholiadau diweddaf fu ar y myfyrwyr. Deallwn iddo gipio y la wry f mewn amryw o ganghenau oddiar ei holl 6 gydysgolheigion Dysgleiriodd yn benaf mewn Cattle Patholog, physiology, Practi- cal antonomy, Chemistry, a Toxicology, geiriau nad elent yn llai na mwy deallus pe cymerem y dvaffertli i'w cyfieithu. Mab Mr. Phillips o Ysgairholyw, sir Gaerfyrddin yw y Cymro athrylithgar hwn, ac y mae unrhyw un o'i fath yn anrhydedd i'r rhieni a'i magent. Y mae byd gwyn o flaen Mr. Phillips os na bydd y bai arno ei hun. Rhag ei flaen yr elo medd-CYMYDOG IDDO. TREDEGAR. Ni thaily y lie poblogaidd hwn fod yn ddi. sylw am ei adygwyddiadau pwysicaf ar dudalenau eich newyddiadur newyddanedig tia byddo defnyddiau ysgriftnu i'w cae!, a minau a clieiniog yn fy. fiogell i sbario, a'm gallu corfforol a meddyliol mewn hoenus- rwydd megys yn bresenol. Mae poblogrwydd newyddiadur o ba nodwedd bynng a fyddo, yn ymddibynu i raddeu kelaeth, ar fod gohebydd yn gohebu gwahanol ddygwydd- iadau y lleoedd hyny y byddo yn cael ei ddosbaithu. Fel rheol y teulu gartref sydd yn cael ein sylw gyntaf, ac yna oddicartref. Mae genym ddigon o engreifftiau i brofi hyn- yna, ond awn rhagom yn bresenol. Yn mhlith dygwyddiadau yr wythnos hon, y mae CYFARFOD SILLEBOL, ADULAM. Cynhaliwyd y wenynen sillebol hon fel ei gelwir, nos Lun diweddaf, Ebrill 29. 'Roedd y capeJ wedi ei lenwi o wrandawyr astyd, yn awyddus i gael gwerth eu harian oddiwrth y cystadleuaethwyr. Aeth pobpeth yn mlaen yn foddhaol. Y goreu ar y llythyr caru o unarbymtheg o gystadleuwyr oedd Samuel Thomas (Gwgan Gwent), Tredegar a'r brif wobr mewn cerddoriaeth gan gor Penuel, arweiniad y cyfaill ieuanc Rees Morgan. Beirniad ar y cyfan oedd Mr. E. Powell, Tredegar a chadeirydd y cyfarfod oedd Mr. Jones, Elim. Gwnaeth y naill a'r llall eu gwaith yn ganmoladwy fel arferol. Eisiau mwy o'r cyfarfodydd hyn sydd yn ein tref, er enill ein cyd-ieuenctyd oddiwrth bethau gwaeleddus, a chelloedd y diafol. Cynaliwyd un arall o'r un nodwedd yn y Temperance Hall heno, nos Sadwrn. Beirn- iad y cyfarfod hwn oedd Mr. Williams (Eedydd Wyn), Sirhowi. MEILLIONYDD. FELINWEN, GER ABEEGWILI. Gymdeithas Ddirwestol ac U-ndebol Bra-y- ranell.—Cynaliodd y gymdeithas hon ei chyiarlod cyhoeddus cyntaf nos Wener y Groglith. Cym- erwyd y Gaclair gan y Parch D. C. Jones, Aber- gwili. Yr oedd ef fel arfer yn llanw ei le yn rhag- orol. Llywyddwyd gan Mr. T. Lodwick, ieu., Fel- indre, ysgrifenydd y gymdeithas. Yr oedd y cyf- arfod yn cynwysedig mewn canu ac adrodd, a cba- fwyd araeth ragorol ar y diwedd gan Mr. Rees, ysgolfeistr y lie; ac yr oedd yr oil a ganwyd, a adroddwyd, ac a areithiwyd yn gydweddol a dir- west, a chan mai hwn oedd y cyntaf, yr oedd yn gyfryw ag y disgwylid iddo fod. Y mae yr achos hwn yn dra Uewerelius er pan ffarfiwyd y gym- deithas yma, ffurfiwyd hi yn nechreu y flwyddyn, ac y mae yma yn awr o aelodau yn agos iawn i chwech ugain. Gobeithio mai cynyddu a wna ac y ceir gweled yn fuan holl gorsydd meddwdod wedi cael eu sychu gan sobrwydd. Dymunwn i ddirwest gael mwy o sylw crefyddwyr yr oes hon. A chan fod dirwest yn gydweddol a'r efengyl, y mae yn deilwng o gael sylw neillduol gan holl broffeswyr crefydd. Mae fod y byd wedi myned i'r fath sefyllfa i'w briodoli i ddiffyg addysg yr aelwyd, a diffyg cynghorion yn eglwys Dduw felly gwelir fod rhai sydd yn proffesu dirwest yn gwneud gwaith ddylasai fod wedi cael ei wneud gan rieni, gweinidogion a diaconiaid. Hyderaf fod amser gerllaw pryd y caiff fwy o sylw gan y tri dosbarth a nodwyd, ac yna ond cael prif ddynion ein heglwysi i'w phroffesu, bydd y lleill yn eu hefelychu. j. U,

Y GOLOFN DDIRWESTOL.