Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL. G WELAF oddiwrth y papyrau Cymraeg a Saesonaeg, fod Temlwyr Da Cymru wedi cynal cyfarfodydd blynyddol yr Dweh Demi, elehi, yn Mhorthmadog, a bod yno gryn rwysg yn nygiad yn mlaen y ser- emoniau. Tipyn o urddas ar gyfarfodydd yr Uwch Denil Gymreig oedd cael pres- enoldeb dau o svuyddogion- pluog TTwcli Deilwng Brif Demi y byd ynddynt, sef y brawd W. Ross o Scotland, a'r brawd Joseph Malins o Birmingham. Rhodd- wyd iddynt y derbyniad mwyaf brwd- y I frydig gan eu brodyr temlyddol Cymreig; a chawsant le amlwg yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Ac wrth son am y cyfarfod- ydd, y mae yn dda genym ddeall eu bod yn lluosog anghyffredin, a bod areithiaa galluog a dylanwadol wedi cael eu tra- ddodi ynddynt. Y mae cryn ragfarn yn erbyn Temlyddiaeth, o herwydd ei defod- a'i chyfrinion ac y mae arnryw o hen ddirwestwyr yn sefyll draw oddi wrthi o herwydd y pethau hyn. Dichon y gellid gwneud ar lai o'r cyfryw bethau. Ond dylid ymdrechu edrych drwy y pethau bychan ar ameanion mawrion Temlydd- iaeth, ac ar yr elfenau hyny sydd yn hanfodol i'w bywyd. Dylid edrych arni fel cymdeithas ddirwestol gref a llwydd- laniis, a'i humcau i sobri y byd; ac er ei holl ddiffygion, y hi yw y gymdeithas ddirwestol oreu a welodd y byd eto. Ac megys y mae defodau yr Hen Oruchwyl- iaeth wedi eu dileu i roddi lie i un well,-a hyny o fywyd oedd ynddi wedi ei lyncu i fyny i Gristionogaeth; felly hefyd y gall hanfod Temlyddiaeth fodoli yn annibynol ar yr holl seremoniau sydd o'i chwmpas. Dywedaf o eigion calon, llwydd mawr i Demlyddiaeth. Pa bryd daw gwawr o'r dwyrain? Torodd gwawr o'r dwyrain filiynau o weithiau ar feibion dynion, nes dywedyd o honynt, "melus yn ddiau yw y goleuni, a hyfryd yw i'r ilygad weled yr haul." A byddai yn felus iawn i ni oil gael pel- ydryn o oleuni gwleidyddol o'r dwyrain y dyddiau hyn. Ond tywyllu, yn hytrach na goleuo, y mae hi yn y dwyrain pan yr ydym yn ysgrifenu. Bu yn arwyddo ychydig oleuni ychydig ddyddiau yn ol; ond galwodd ein llywodraeth ni am y locustiaid o India, a duodd yr awyr yn eu dyfodiad i For y Canoldir, nes oedd yn dywyllwch, fel tywyllweh yr Aipht gynt. Wel, dyma y tal y mae Sion Bwl yn gael am gymeryd y gweision presenol i'w wasanaeth. Y maent yn gwybod sut i bluo yr hen wr yn iawn. Y mae Ar- glwydd Beaconsfield-yr hyn o'i gyfieithu yw Arglwydd Cae'rmochyn--yn gwybod yn dda sut i drin yr hen frawd. Y mae o yn brolio dewrder yr hen Johny Bwl, ac yn dweyd y medr o guro dau neu dri o'r dynion goreu y naill ar ol y llall; dyry botelaid o frandi o'i flaen, a rhwng y gweniaith a'r breci y mae yr hen ddyn yn anghofio ei fod ef ei hun yn myned yn hen, a bod yr hogiau ieuaine oedd yn hawdd iddo fo guro gynt, wedi dyfod i gyflawn faintioli gwyr erbyn hyn. Ac wedi cael yr hen Sion, druan, i'r agwedd meddwl yma, ca Arglwydd Cae'rmochyn wario ei arian am oferedd fel Ilif yr afon. Ac wrth weled Cae'rmochyn yn chwareu pranciau mor anheilwng o'i swydd uchel fel pen gwas, y mae dau o'r gweision mwyaf cydwybodol wedi ymadael cyn pen eu tymor. Ac er pan y mae Cae'rmochyn mewn swydd, ni chafodd erioed y. fath driniaeth ag a gafodd gan Derby, pan oedd yn rhoi ei resymau dros roi ei Ie i fyny yn y weinyddiaeth. Y mae yr araeth ofnadwy hono—araeth na seiniodd rhwng muriau Ty yr Arglwyddi, ond anfynych, ei ehyffelyb-heb ei hateb eto; ac heb ei hateb y bydd hi byth. Dyged Gladstone a Bright a Richards eu holl resymau cryfion yn erbyn rhyfel, nid yw yn efteithio dim ar Cae'rmocbyn a'i deulu, rhyfel fynant hwy: ystwythed Rwssia Fawr i ddyfod i gyfarfod eu gel- ynion yn mhob peth rhesymol, wna hyny mo'r tro, rhaid iddynt hwy lusgo y wlad i ryfel. Y mae rhyfel yn eu calon. Go- beithio y gweryd y nefoedd ni rhag y fath drychineb. Ond os llwyddant i llusgo y wlad hon i ryfel, heb ddim achos am dano, ac yn ngwyneb sefyllfa farwaidd masnach yn ein plith, yr ydym yn proffwydo y dygir ein teyrnas i ddinystr nad esgorir mo hono yn yr oes hon, ac hwyrach am oesau dyfodol. Peth sobr i wlad bechu nodded rhagluniaeth oddi wrthi. Ac y mae meddwl am greulonderau anfad y Saeson, yn nghyda'r gwastraff dychrynllyd sydd yn y wlad hon yn awr yn ddigon a pheri i bob dyn ystyriol ofni nad yw yr amser hwnw yn'bell. Ai tybed mai yr un gweision a ddewisa Bwl eto pan ddaw eu tymor i fyny ? Cawn weled. [Dylasai yr uchod ymddangos dro ynol.— I • GOL]

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

CELT-Y CELTAU-CYMRY.