Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GWAS MAWR JOHN BULL.

News
Cite
Share

GWAS MAWR JOHN BULL. HEN foneddwc cyfrifol iawn yw John Bull, mae ganddo yr Establishment eangaf a goreu yn yr holl fyd, cydnabyddir ef yn barchus a chyda llawer o edmygedd gan ei gymydogion. Cryn gamp yw cael myned yn was mawr i John. Nid oes ond ychydig iawn yn deilwng o'r swydd—mae ei safle gymdeithasol yn urddasol dros ben. Nid yw yn un darostyngiad ar ei feistr, neu ar unrhyw ben coronog arall i'w wahodd at eu bwrdd, neu i dderbyn y eyfryw wahoddiad oddiwrtho. Coeliwch n, mae y gwas mawr yma yn gryn Syr, a rhydd ei swydd iddo ddylanwad afrifed, nid yn unig yn ei gartref, ond hefyd yn mhob gwlad wareiddiedig o dan haul; oblegid drwyddo ef yn benaf y dwg John Bull ei holl drafodaeth, gartref ac oddi- cartref yn mlaen. Arno ef yr ymddibyna i fesur mawr gysur a llwyddiant y teulu, ie hefyd heddwch a chymydogaeth dda rhwng John a'i gymydogion. Nid yw John, druan, mwy nag eraill, yn ymddwyn yn gall a doeth bob amser yn ei berthynas a'i weision mawr. Gallem ddysgwyl y byddai yr hen greadur yn ddigon gofalus ar ol cael bachgen da, i'w gadw; ond mae rhyw ysfa ddisymwth yn codi arno weith- iau i'w newid: a gyr o'i wasanaeth un o'r bechgyn goreu a droediodd daear, a chyf- loga y llipryn mwyaf diwerth a esgorodd gwraig arno-un na wna ddim ond bydd- aru ein clustiau "With his abundance of superfluous breath." Ac a'i ffalsder Smiles and murders while he smiles, And cry content to that which grieves his heart, And wet his cheeks with artificial tears, And frame his face to all occasions." Rhai peryglus iawn yw y gweiaion rhagrithiol a thwyllodrus yma, a hollol ddiWerth i bob daioni. Mae John wedi newid ei weision mawr ryw 2G o weithiau er 1783 ;■ yn mysg y 2G cafodd rai godid- og, ac eraill digon symol, ac eraill gwael iawn. Ond gair sydd genyrn am y ddau ddiweddaf. 0 Chwef. hyd lihag. 18GS, y gwas oedd Beaconsfield, vr hwn a adna- byddid y pryd hwnw wrth yr enw Benja- min Disraeli, ond wnai e ddim o honi/ac apeliodd John at ei deulu am eu barn ar y mater, a rhoisant farn gondemniol a crushing ar Dis. Cyflogodd yntau yn union Mr. Gladstone, gwr wrth fodd calon y teulu; gwr o ddysg a dawn. o'r radd flaenaf, ac un o argyhoeddiadau clwfu, a godidog o gydwybodol, gonest, a dirag- rith YIl ei lioll weithrediadau. Cafodd yn y gwas yma weithiwr difeft a didor. Gweithiai yn galed ei hun, a gwnai i bawb o'i gydweision weithio hefyd. Yr oedd ganddo lygad i weled y gwaith oedd eisieu ei wneud, a chalon ddewr i ymosod arno. Yr oedd teulu yr Ynys Werdd yn bur ailonydd ac anfoddlawu i'w cyflwr. Gwyddai y gweision o'r blaen beth oedd yn eu blino ond ni feddent ar ddig-on 0 wrolder i symud yr achos o'u haniddig- rwydd. Gwnai John Bull iddynt gynal sefydliad crefyddol nad oedd a fynent ag ef. Gwaith anliawdd oedd cwrdd a hwn, oblegid yr oedd gobaith elw llawer un yn cael ei beryglu. Codwyd cri ddolefus pan welwyd fod y gwas Gladstone yn myned i ymosod ar y gwaith. Parddu- wyd ei gymeriad, do, dywedwyd pob dryg- air a fedrai malais a drygioni ddweyd am dano. Ond gwnaeth y gwaith er hyn oil. I lawr y daeth yr Eglwys Sefydledig yn yr Iwerddon. Eto, rhoddodd i Pat clenant right o'r iawn ryw, ac nid rhyw gellwair o beth. Nid heb ymdrech a llafur caled y caed hyn oddiamgylch, ond gwnaeth, a hyny yn effeithiol. Heblaw yr ucbod, gwnaeth lu o welliantau eraill hefyd. Yn Lloegr a Chymru diwygiodd yr etholaeth, drwy ei phuro a'i heangu; a thrwy y tugel dyogeledd bob etholwr oddiwrth unrhyw berygl yn rhoddiad ei bleidlais. Mawr yr ymdrech wnaeth gorthrymwyr i'w rwystro yn hyn ond 'doedd dim troi yn ol arno. Difododd werthu swyddau yn y fyddin, gan sicrhau chwareu teg i'r neb sydd am enwogi ei hun i gyrhaedd drwy ymroddiad a thalent y safle. Cawsom befydganddo Jill addysg anmhrisiadwy o werthfawr. Dyogela hwn y fantais o addysg elfenol dda i bob plentyn cyn gorfod troi allan i'r byd. Bydd yr oesau dyfodol yn bendithio ei enw am hwn. Cropiodd dipyn ar rwysg y "Beer Boy," ac awgrymodd y 0 gwnelai ragor. Rhoddodd derfyn ar rai hen swyddi nad oeddynt da i ddim ond i roi arian yn mhoced segurwyr. Talodd i Ifwrdd y Smiths, y Jonses, y Macs, a'r Pats oedd yn ein dociau, fel y gwas hwnw yn helpu ei gydwas i wneud dim. Gwnaeth ein prifysgolion lawer yn fwy cenedlaethol nag y cafodd hwynt; ond rhaid i ni wrth &c., &c., &c. Mae adrodd yr oil wnaeth yn ormod. Gwnaeth mewn 5 eisteddiad ddeng mwy o waith na wnelai llawer drwy eu hoes, a gwnaeth hefyd waith na wnel- ent hwy mo hono. Peth arall nodedig yn y gwas Gladstone oedd cynildeb. Peth newydd a dyeithr i John oedd cael gwas gofalus am y pres. Talu crogbris am bobpeth, ie, miliynau, am ddim oedd ef wedi arfer wneud; ac er ys blynyddau, methai yn lan a chael dau ben y llinyn yn nghyd. Ond yn ystod gweinyddiaeth Mr. G., yr oedd ganddo ddig-on, a digon dros ben. Talodd filiynau o ddyled ein hen feistr. Talodd filo dair miliwn i America. Prynodd y Telegraph; a'r hyn sydd yn syndod, gwnaeth hyn oil a lleilutodd y trethi ar yr ion pryd; a phan gyflwynodd ei swydd i fyny yn Chwefror, 1874, yr oedd ganddo yn g-ynysgaeth i'w olynydd chwc milium. Gofalodd hefyd am urddas ei feistr. Ni bu arno ef erioed eisieu Supplementary Vote er i Ewrop barchu ei feistr. Cadwodd mewn hedd- wch a'i gymydogion. Yn yr ymryson gwaedlyd fu rhwng ei gymydog o Efrainc a Germani, cadwodd- ef mewn perflaith heddwch a'r ddau. Ond er yr holl rin- weddau yma yn y '74 fythgofiadwy myn- 0 odd John gael gwared ar y gwas rhagorol hwn. O'r Bible a'r Beer Boy y daeth hyn fwyaf. Dylai Bull wrido at hyn. Ar ol ymddiswyddiad yr hell. was, cyf- logodd was newydd, un oedd wedi bod yn ei wasanaeth o'r blaen, ac wedi methu. Fe fedra dynion call, ar rai prydiau, fyned yn ffol anuyoddefol; ac felly y gwnaeth John Bull yn y weithred hon. Wrth i ni. gymharn hwa a'r gwas. arall, mae enw Earl Baconsfleld yn myned yn wael. Ond i ddechreu, beth am waith ? Dun gwaith. Rest and be thankfull," yw ei arwydd- air. Nid oes sylwedd mewn dim wna er lies y wlad. Twyll i gyd yw. Dyna y tenant rights^ er enghraifft. Nid yw yn werth y papyr yr ysgrifenwyd ef arno. Beth o werth yw deddfwriaeth ganiataol ar gwestiwn fel hwn ? Dim. Dywedir i ni ei fod ef ei hun wedi ei wneud yn ddi- werth rbyngddo ef a'i denantiaid. Es- iampl noble, onide, o un yn gwneud gwaith cydwybodol. Ni fwriadodd iddo fod yn ddim ond llwch yn llygaid y ffermwyr. Am dwyll ac ystryw o'r natur yma, mae yn ddiail o dalentog. Beth am ei gynildeb ? Mae yn aicr o fod y creadur mwyaf gwastrafilyd a gwrddodd John erioed ag ef. Gwariodd y chwe miliwn gafodd gan ei gydwas yn union. Ac er holl fantais y meddianau brynodd ei gynwas, a lleihau Hog y ddyled, &c., mae mewn eisieu yn barhaute. Gorfu arno gael chwe miliwn arall yn ddiweddar, ac y mae bum miliwn mewn diffyg eleni. Wrth gwrs, cyfoda y trethi. Nid yw ef na'i gydweision yn edrych mwy ar arian na phe baent yn geryg. Nid yw yn cydweled a neb o'i gymydogion. Mae ynormodogecrwriddim. Cafod,gan hyny, ar ei ben ei hun; a mwy na hyn, os y ca ei ffordd bydd yn union mewn rhyfel gwaed- lydaRwssia. Ygwir y w, mae wedi gwneud enw ei feistr yn anmharchus iawn ar y Cyfandir, a rhaid cael Gladstone yn ei ol cyn y ceir yn ol yr hen syniad am John Bull-hen greadur galluog ond hollol ddi- rodres, uwchlaw gwag deitlau dirmygedig fel y rhai grewyd" gan Dis. Mae y gwas Beaconsfield hefyd yn cadw y teulu mwyaf afreolus, anfoneddigaidd, a blagardaidd a fu gan John erioed. Yn mhob cysylltiad mae ymddygiad Dis yn ddirmygedig. Nid oes ofal yn y byd ganddo am ei air. Haerai fod y Cyfrin-gyngor yn happy family pan yr oedd y ddau oreu yn ym- ddiswyddo o herwydd anghydfod par- haus. Hyd pa bryd y ca hwn eto fod yn ei rwysg ? Nid hir, mi obeithiaf; daw yn alw i gyfrif arno maes o law, a myn John gyfrif pan y tery hyny yn ei ben. Rhaid iddo ddyfod y :fl wfYddyn ar ol y nesaf. We1, doed pan y delo, mi hyderaf y gwna y Celtiaid oil ddefnydd iawn o'r cyfleus- dra i gael yr hen was anwyl Gladstone yn ei ol, neu o leiaf un eyffelyb iddo. J. M. P. O.Y.—Yr wyf yn deall na wna ceffylau Lloegr a Chymru mo'r tro i'r gwas mawr yma, C) rhaidIeu cael wrth y miloedd o America; ac wrth gwrs, darostwng worth ceffylau ei wlad ei hun. Cofiwch hyn, ffermwyr, ddydd y count (yr etholiad).— J. M. P.

[No title]

CIPDREM AR FYWYD YN MHLITH…