Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CELT-Y CELTAU-CYMRY.

[No title]

CIPDREM AR FYWYD YN MHLITH…

CELT-Y CELTAU-CYMRY.

News
Cite
Share

Bhufeiniaid ac ysgolion pobl eraill. Fel y gwyr pawb, ysgolion Saesonig sydd yn ein plith yn awr, heb un ysgol Gymraeg trwy y tir. Y mae yn bynod, yn rhyfedd o hynod, na fuasai gan genedl mor Juosog a'r Celtau lythyrenau o'u heiddo eu hun- ain, ac ysgolion at ddysgu a choleddu eu hiaith, yn lie ei gadael i fod yn wyllt a direol. Dehgys hyn fod sefyllfa eu medd- wl yn gysglyd a marwaidd gyda golwg ar wybodaeth, y peth mwyaf angenrheidiol a gwerthfawrocaf iddi. Nid oes genedl arall ar y ddaear ond y Celtiaid yn cynyg cyfranu gwybodaeth trwy iaith na ddecill- ir. A glywyd am y fath beth mewn un- rhyw genedl ond yn mhlith y Cymry, gweddill yr hen Geltiaid yn Mhrydain Fawr ? Pa genedl sydd mor greulon i'w phlant a'r genedl hon, gan eu poeni, trwy beri iddynt gyrhaedd dysgeidiaeth trwy iaith yr hon ni ddeallant! Gwyr llawer o honom trwy brofiad chwerw ac wylofus am y creulondeb hwn. Fel ag nad oedd llythyrenau nac ysgol- ion yn mhlith Celtiaid Prydain, nid oedd llyfrau chwaith yn cael eu hysgrifenu. Pa fodd y gallesid? Ni ysgrifenwyd Llythyreg Cymraeg (Welsh Grammar) erioed cyn tua'r 14eg ganrif o oed Crist, a hyny mewn llythyrenau Bhufeinig. Beth am y 14eg canrif cyn hyny?. Nid oedd yn mhlith y Celtiaid yn yr amser boreu hwn, ac nid allasai fod, ond llafar afreolus. Ni a gyfrifwn y Gwyddelod yn gyffredin yn is na ni, ond erbyn edrych yn nes, ni a welwn mai hwy sydd uwchaf yn hyn beth bynag. Y mae ganddynt hwy eu A B C, peth na fu genym ni erioed. Am yr hyn a elwir Coelbren y Beirdd, neu yr hen lythyrenau Cymraeg, nid ydyw ond dyfais ddiweddar, mor ddiweddar a dechreu y ganrif hon neu ddiwedd y Hall, yn ol rhai, er yr honir gan eraill ei bod i'w chael cyn Crist. Ond y mae yn syn os oedd i'w chael na buasai ,rhyw weddillion o hanes- ion neu farddoniaeth o'r hen amserau i'w cael wedi eu tori ar goed, neu eu cerfio ar geryg, neu eu hysgrifenu ar femrwn. Yn lie hyny, nid oes dim yn y byd yn aros, dim i'w ddangos. Y cenedloedd ag sydd yn byw yn llwyddianus y maent yn dysgu ac yn coleddu en hiaith eu hunain, ac yn myned rhagddynt mewn gwybodaeth, a chelfyddyd, a chadernid. Felly y mae y Saeson, y Ffrancod, yr Ellmyn, yr Italiaid, ac eraill, ond am weddillion y Celtiaid yn Nghymru, Scotland, a'r Iwerddon ag sydd heb ysgolion yn eu hiaith eu hunain, ac yn eu hiaith eu hunain heb gyfranu addysg a gwybodaeth, y maent yn dihoeni ac yn marw beunydd. Bellach, nid oes genym fel Cymry ddim i'w wneuthur ond boddloni i'n eyflwr anghyfleus a blin, trwy gael ein gorfodi i gyrhaedd gwybodaeth trwy y Saesoneg, iaith ag na ddeallwn, ac nid trwy y Gym- raeg, yr iaith yn yr hon y'n ganed; a boddloni ei gweled yn diflanu yn raddol o'n gafael. Y mae yn rhy ddiweddar yn awr i feddwl gwneuthur geiriaduron Groeg a Lladin, neu ryw iaith bellenig arall, a Chymraeg. Y mae yn rhy ddi- weddar mwyach i feddwl ysgrifenu gramadegau i'r hen ieithoedd hyn, nac ysgrifenu llyfrau hanesyddol am y byd, nac ar feddyleg, nac ar philosophi naturiol a fferylliaeth, &c., .yn Gymraeg. Pe gwneid, ni cheid ysgolion yn y rhai y dysgid hwynt, nac onid ychydig iawn i'w darllen. Un oes sydd i ddyn, un oes sydd i genedl hefyd, a phan dderfydd yr un oes hono, ni cha byth ei hadferu i'r naill nac 4 i'r llall. Os esgeulusir gwaith y tymor, dyna fo wedi ei golli. rw harhau.