Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

CELT-Y CELTAU-CYMRY.

News
Cite
Share

CELT-Y CELTAU-CYMRY. ER hynafiaeth a gwrhydriy Celtiaid, ni chawn fod dysgeidiaeth yn eu plith. Ni cMywsom fod ganddynt ar lan y Mor Da a glenydd y Danube, ya Bulgaria, yn Hungari, na'r Eidal, na Ffrainc, na'r Yspaen, na Phrydain Fawr. Nid oes gwybodaeth a fu ganddynt yn eiddo iddynt eu hunain egwyddor lythyrol, yr A B C, fel y dywedir, yn arwyddion o seiniau, ac felly nad oedd ganddynt lyfrau yn ysgrif- enedig ar-na phapyr na "phlagawd (mem- rwn), nac yn gerfiedig ar na gwydd na main, sef coed a cheryg, nac ar glai yn friciau gwedi eu crasu fel yr Assuriaid.* Ni a gawn fod planfa neu gymdaith (colony) o Roegiaid wedi ymsefydlu yn Massilia (Marseilles), yn Ffrainc, a bod llythyrenau ganddynt, a bod y Galiaid yn gwneuthur defnydd o honynt, ond heb lanio egwyddor o'u heiddo eu bunain. Yr oedd y Galiaid wedi cyrbaedd graddau o wareiddiad yn amser Julius Caesar, ac YI1 berchen ar ryw gymaint o wybodaeth trwy gyfrwng llythyrenau y Groegiaid yma. A oedd y llythyrenau hyn mewn arferiad, nell yn wir, yn adnabyddus i'n teidiau, Celtiaid, neu Gymry Prydain Fawr, nis gwyddom. Gymaint o ddysgeidiaeth ag oedd yn mhlith y Frydeiniaid, gan y Derwyddon yr oedd, ac ni lifai allan i blith y werin. Gelwid hwy wrth yr enw hwn oddiwrth y gair derw-derwydd, derwyddon (the oak- mrn, the man of the oak). Yr oedd y dderwen yn bren santaidd ganddynt, yn gystal a'r uchel-lawr (mnletoe), a than ei gysgod, yn dra thebyg, y byddent yn addoli, neu yn rhoi hyfforddiad i'w dysgyblion. Pan laddwyd y Derwyddon gan Suotonius Paullinus, diflanodd y wybodaeth ag oedd ganddynt, beth bynag ydoedd, ac ni adferwyd hi byth mwyach. Hen ddosbarth hunanol ac arglwyddaidd oedd y Derwyddon, yn cyfyngu gwybod- aeth iddynt eu hunain, ac yn cadw y genedl i lawr mewn anwybodaeth a thyw- yllwch i drengu o eisieu gwybodaeth, gan atal rhagddi bob awydd ac egni am ddyfais a chelfyddyd. Yr oedd cyfyngu y ddysg- eidiaeth i uH llwyth neu ddosbarth o'r bobl yn gamgymeriad mawr, ac yn un o'r rhesymau, fel y cawn sylwi eto, o aflwydd, a ffaeledigaeth, a marwolaeth v Celtau yn y byd. Pan yr oedd y Rhufeiniaid yn ein gwlad, yr oedd ganddynt hwy eu hegwydd- or, eu ABC, a hon oedd gan y Pryd- einiaid, os oedd ganddynt egwyddor o gwbl, ac egwyddor y Rhufeiniaid sydd yma y dydd heddyw. Felly, nid allasai fod ysgolion gan ein teidiau i addysgu eu plant. Yr oedd ysgolion t gan y Uhuf- einiaid pan oeddynt yma, a diau i lawer o ieuenetyd Celtaidd gael hyfforddiadau defnyddiol ynddynt. Ond nid oedd yma ysgolion Celtig neu Brydeinig, ac y maent wedi byw oddiar hyny ar lythyrenau y

[No title]

CIPDREM AR FYWYD YN MHLITH…

CELT-Y CELTAU-CYMRY.