Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DOLGELLAU.

News
Cite
Share

DOLGELLAU. Carchar y Sir.—Wedi hir siarad yma ac acw yn efail y Gof, yn siop y Crydd, ac ar fwrdd y Teiliwr, fod y llywodraeth am symud y ciucharorion sydd yn ngharchar Dolgellau i Ruthin, erbyu hyn y mae y peth yn ffaith bwysig i dref fechan gynyddol Dolgellau. Y mae yr oil o'r carcharorion i gael eu symud i Ruthin erbyn y cyntaf o F&i. Fe fydd hyn yn dipyn o golled i fasnachwyr Dolgellau, ac hefyd i amryw o segur swyddwyr oedd yn cael brasder oddiwrth y sefydliad. Ni wyddis eto beth a wneir a'r carchar, gan nad oes dim wedi ei benderfynu yn ei gylch eto. Ond y mae yna si y gwneir hospital ardderchog o'r hen garchar. Y mae hyn wedi codi oddiwrth y son sydd ar led fod amryw o foneddigion wedi bod yn chwilio am le i. adeiladu hospital i'r dref. Eraill a ddywedaut fod y carchar i gael ei wneud yn dyloty yn lIe yr un presenol, a bod y tyloty presenol i gael ei werthu i adeiladu Lodging Houses, amfodei saffe yn fanteisiol iawn at hyny. Ond nid oes sicrwydd i'r naill na'r Hall eto. Cyngherdd.—~Nos Lun, Ebrill 23, sef noson' Ffair y Blodau, cynhaliwyd cyngherdd mawreddog yn y Public Rooms er budd Mr. John Bryant. Y dadganwyr oeddynt Eos Brychan, Miss Cordelia Edwards, ac amryw eraill. Aethant drwy eu gwaith yn ganmoladwy. Y Band of Hope.—Nos Fercher diweddaf, ydoedd y noson benodedig i ddiweddu cyfar- fodydd y Band of Hope perthynol i'r eglwys Annibynol y He uchod, am y tymhor sydd wedi myned heibio ac o ganlyniad, pender- fynwyd ei gael yn gyfarfod ar radd mwy cyhoeddua nag arferol. Yr oeddid wedi tybio unwaith ei gynol yn yr Ysgoldy o dan y capel, ond gwelwyd mai mwy buddiol myned i'r capel, gan fod yr harmonium, yno. Felly yr aed. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. D. Griffith, y gweinidog a dechreu- wyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan Mr. E. Evans (Ieuan Wnion). Wedi hyny aed yn mlaen gyda'r cyfarfod a da oedd genym weled cymaint o'r ieuenetyd perthynol i'r Gobeithlu yn myned trwy eu gwaithmorddeheuigmewn canu, adrodd, a dadleu,&c. Hefyd caed amryw gystadleu- aethau yn ystod y cyfarfod. 0 ddeg a ddaeth yn mlaen i ddarllen yn ddifyfyr, rhoddwyd gwobr gyfartal i Misses K. Griffiths, Jane Lloyd, a Jane Roberts. A'r goreu am ateb gofyniadau yn hanes Dafydd a roddid ar y pryd, ydoedd Mr. Robt. R. Jones; a Mr. John Rees yn ail. I sillebu geiriau a roddid ar y pryd, daeth naw yn mlaen a dyfarnwyd Mr. John Rees yn oreu, a Robt. R. Jones yn ail oreu. Dylid crybwyll hefyd i'r plant ganu amryw donau yn dra swynol, o dan ar- weiniad Mr. John Bryant (Eos Brychan), a chaed can Hen Walia, gwlad y gan ganddo yntau, pryd, mewn canlyniad i'r encore a gafodd, a ganodd "Hen Feibl mawr fy mam." Canfyddem ol llafur mawr ar y plant; ac y mae clod yn ddiau yn ddyledus i'r Eos, a Mri. J. Edwards a W. Jones am y llafur diflino a gymerasant gyda hwy drwy ystod y gauaf. Chwareuid yr Harmonium, gan Mr. J. Roberts, gynt o Lanuwchllyn, a beirniadid y cyfan o'r cystadleuaethau gan Mri. E. Evans (Ieuan Wnion), J. Edwards, a W. Jones, Cemlyn House. Caed cyfarfod hapus iawn, ac ar. wyddion o foddhad i'w weled ar y rhai oedd yn bresenol. CAPEL SUL, CYDWELI. Eisteddfod Llun y Pasg.—Dechreuwyd am haner awr wedi dau. Cadeiriwyd yn dde- heuig gan R. Thomas, Ysw., Cottage, beir iadwyd y.caiiu, y traethodau, a'r farddoniaeth, gan Mr. D. Buallt Jones, Tonypandy, ac arweinydd y dydd oedd y Parch. W. C. Jenkins. Cyfarchwyd yr Eisteddfod gan fardd Seisnig, yna awd at waith y cyfarfod. Canu "Toriad y Dydd," goreu, Myrddinwr. Beirniadaeth "Hanes Elias," goreu, Miss Rees, Bont farm. Canu "Cydgan y Morwyr," Eos Meilog a'i barti, a chawsant y wobr. Beirn- iadaeth "Can i'r wawr," goreu, Ehedydd Nant- saer. Canu "Rwy'n gweddio drosoch chwi." cor Pembrey (plant) gawsant y wobr. Beirn- iadaeth y "Law Ysgrifen," (i blant) gan Mr Harry Chard, yr ysgol Frytanaidd," goreu, W. Davies ac O. Griffiths yn gyfartal. Canu "Let the hills resound," (dau gor) Capel Sul, a Phenygraig, yr olaf yn mlaen af. Beirniad- aeth "Hanes Ruth," goreu, Miss S. Hughes, Henblas, Cydweli. Canu y "GwenithGwyn," goreu, Miss Jones, Glanyferi. Beirniadaeth y traethawd ar "Ddyngarwch," goreu Ehed- ydd Nantsaer. Canu yr "Orphwysgan," er cof am Alaw Ddu, pedwar cor yn cynyg, Re- hoboth, Soar, Capel Sul, Penygraig. Gwobr- wywyd yr olaf. Bu. cystadlu tyn rhwDg Capel Sul a'r buddugol. Beirniadaeth y "Penillion i Gapel Sul," goreu John Thomas, Nantsaer. Cafodd hwn hefyd y goron ar yr eriglynion i'r "Gwlithyn." Pedwar yn canu ar yr olwg gyntaf, goreu, Eos Meiliog a'i barti. Felly gorphenwyd yr Eisteddfod yn ddiddig am haner awr wedi pump. Rhoddodd y Jjeirn- iaid galluog. ar ddim a glywsom yn amgen, foddlonrwycld cyffredinol. Cyngherdd yr hwyr.—Ty gorlawn eto fel am ddau o'r gloch yn union am haner awr wedi saith. Dacw y cadeirydd llawn yn ei Is, a Miss Dunn fedrus wrth yr Harmonium, a Miss S. Hughes, gyda Miss E. Davies, yn .dilyn y "Ddeilen ar yr afon;" dyna "Stop ar Mixio Sa'sneg," gan Williams a Beynon; "Mae nghalon yh Nghymru," gan J. Rey- nolds, gan chwareu'r Harmonium ei hun; Jack's yearn," gan H. Chard can gan R. Jones, Sardis a "Beddgelert" gan D. Buallt Jones. Nid heno y dechreuodd efe ganu- campus; eto, dyna y "Bwthyn ar y Traeth," gan Miss Jones, Glanyferi; "Wyres fach Ned Puw," gan Mansel a Malephant; a'r "Village Choristers," gan J. Anthony a'i barti; canodd EosMeilog a Mr. T. Evans, Caerfyrddin, hefyd ddwywaith yn gampus iawn ;ac i lanw yr interval, cawsom "Lar- beard watch," gan y ddau olaf yn ardderchog; dyna y "Wers Sol-fa," gan Stephens a Jones, Sardis; "Mary a Morgan," gan Beynon a Davies a'r "Teithiwr ar y Berwyn," gan J. Reynolds; dyna Eos Meilog i'r lan eto, ac mewn atebiad i'r encoriad, yn canu Sion caru pawb wyt ti;" Buallt eto yn gollwng allan "The White Squall," ac os do, cafodd encoriad hearty. Mae y cyngherdd yn gwella er fod rhai yn dechreu anesmwytho. Dyna eto, "Glyndwr," gan Mr. D. Lewis, Pinghed Hill, gwir dda; ond clywch "Glychau aur Glynceiriog," ganddo ef a Miss B. Thomas- dyna un o'r pethau goreu heno; ond dyma Buallt ar ei draed yn canu "Hen Wlad fy nhadau," a ninau yn uno yn y cydgan, gan derfynu haner awr wedi naw. ( awsom ddi- wrnod teg a chynulleidfaoedd gorlawn. U. BANGOR. CYMAINT yw y parotoadau gogyfer a'r Pasg, fel mai bychan yw y sylw a delir i achosion eiaill o fewn y ddinas yr wythnos hon. Y mae cynllunio a threfnu at y Groglith a Llun yPasg, yn ilanw meddyliau yr ieuanc a'r hen y dosbarth cyntaf yn trefnu i roddi visits, a'r olaf i dderbyn yr unrhyw, a phawb yn ymdrechu i wneud yr amgylchiad yn destyn hyfrydwch i edrych yn ol ato am fis- oedd i ddod. Ond fel copa craig yn nghanol tonau y mor, cafwyd un digwyddiad a godai ei ben uwchlaw y cynhwi f i gyd, sef ANNUAL DINNER Y SENEDD. Yn y British Hotel, Nos Fercher, y 17eg cyfisol, cydymgynullodd tua haner cant o'r aelodau i ystafell gyfleus yn y gwesty uchod, ac ymddangosai pob un fel am arddel ei berthynas a'r gymdeithas, pan gyfranogai o'r danteithfwyd gorflasus a osodwyd mor ddes- tlus o'i flaen, er clod i'r Gwestwr a'i gogydd- ion. Ar ol cwblhau y rhan hono o'r gweithred- iadau a berthynai i'r danedd, symudwyd yn mlaen at ran y tafod, yr hon a gyflawnwyd er mawr ddyddordeb ac adeiladaeth. Cymerodd y llwnc-destynau eu trefn arferol, gan ddech- reu gyda ei Mawrhydi y Frenhines, a di- weddu gyda y wasg. Derbyniwyd hwyut gyda banllefau o gymeradwyaeth, yn enwedig y rhai hyny a ddalient berthynas uniongyrch- ol a'r gymdeithas a'i swyddogion, yn neiilduol felly y llywydd (J. H. A. Hall, Ysw.), a'r is- lywydd (John Thomas, Ysw., B. A.) Cafwyd anerchiadau blasus, buddiol, a grymus, gan Mr. David Williams, Capt. Savage, Dr. Ellis, Mri. W. C. Davies, H. Lewis, Josiah Hughes, T. M. Williams, B.A., M. Douglas, ac eraill. Daethai y ddau olaf a enwyd, yr holl ffordd o Lundain er mwyn bod yn bresenol. Go- beithiwn y bydd y senedd-dymor nesaf yn agor mor flodeuog ag yr oedd y tymor hwn yn cau. Bangor, Ebrill 20,1878. GOIIEBYDD, MERTHYR TYDFIL. A WELSOCII chwi'r C-ELT? Dyma ydyw y gofyniad rhwng y llenorion yr wythnos hon, ac y mae y man-lenorion a'r mawr-lenoi ion yn eich pwyso a'ch mesur i'r mymryn. Yr ydych, yn dechreu yn addawol. Y mae gran dda ar y rhifyn cyntaf. Wrth gwrs, bydd genych ohebydd rheolaidd galluog yn y lie hwu; oud byd hyny, dichon yderbyrliwch lith oddi- wrthyf fi yn awr ac eilwaith. Agwedd hynod sydd ar y lIe lwn ynawr yn mhob ystyr y ffwrneisiau mawrion wedi diffodd, swn y troliau a'r olwynion trystfawr wedi distewi; a'r lie y gwelid llu o bob galwedigaeth o gylch y gweithiau yn myned ac yn dyfod at ac oddiwrth eu gwaith, nid oes braidd neb i'w ganfod ond y glowr gwynebddu yn awr yn dilyn ei alwedigaefch, ac nid yw hwnw, druan, yn cael amI rhyw haner gwaith, ac felly haner cyflog. Y mae efe yn fynych ar nos Sadwrn, ya Dwyn ei geiniog dan gwynaw, Rhoi angen un rhwng y naw. Digon a ddangosai gyflwr y lie ydyw, y ffaith fod dros bedair mil o blant yn cael ciniaw rhad bob dydd yn y Soup Kitchen, ac y mae canoedd lawer o'r rhai byny nad ydynt yn cael tamaid yh ystod y dydd ond yr hyn a gant yno. Y mae haelfrydedd dideifyn braidd wedi ei ddangos gan y wlad yn gyffi edinol tuag at y lie, mewn cyfraniadau arian, bwyd, a dillad; ac y mae argraff yr haelfrydedd hwnw i'w ganfod yn amlwg iawn. Y ffaith yw y buasai canoedd wedi newynu yma oni buasai yr haelfrydedd anghymharol hwn. Ac yr ydym yn dychrynu wrth feddwl beth fydd cyflwr teuluoedd tlodion y lie pan derfyno y cinio rhad Buwyd ar y cyntaf yn rhoddi tocynau er cyfranu bwyd i'r tlodion, ond buan y gwel- wyd nad oedd hyny yn ateb. Ymddiriedid y tocynaurrsiopwyr, tayarnwyr, a gweinidog- ion, ond cafwyd alian yn fuan fod y tafarn- wyr yn xhoddi y tocynau i'r rhai a yfent fwyaf yn eu tai hwy, a'r siopwyr yn eu rhoddi i'w cwsmeriaid hwythau, ac yn cadw amryw docynau er talu yr hen gount, ac ambell weinidog bach culfarn sectcl, yn porthi ei braidd ei hun; a rhwng fod pob un o'r partion yn meindio busnes ei hunan, yr oedd y gwir dlawd, yn cael ei esgeuluso. Felly gorfuwyd newid yr oruchwyliaeth, ond yr oedd y management yn llaw dynion tra chelyd eu calonau, fel mewn gwiiionedd, mai twyllwyr haerllug sydd wedi cael rhan fawr o'r hyn a fwriadwyd i'r gwir deilwng dlawd. Y mae fund HENRY RICHARD gair da, a thybir fod Ylla radd mwy o gytiawnder yn nglyn a hi. Y mae Merthyr, mewn ystyr Wleidyddol, wrth un aelod Seneddol, er fod yno ddau mewn enw. Nid ydyw Mr. Fother- gill wedi eistedd yii y Senedd oddiar pan ddygwyddodd y trychineb anffodus iddo. Y mae ychydig bersonau a alwant eu hunain yn Bwyllgor Anghydffurfiol, wedi dewis aelod yn barod i lanw yr adwy; ond dylasai yr ychydig bersonau hyny golio, mai y bobl sydd yn awr yn meddu y gallu i anfon aelod i'r Senedd, ac nid rhyw bwyllgorau hunan-