Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
!1t ®gthtt0S..' cXo"
News
Cite
Share
!1t cX o" Collodd Mr. Stanley o New Tor It, neu yn hytrach Mr. Eowlands y Gymro, dri o'i weis- ion gwynion, a thros ddau gant a haner o'i gynorthwywyr Affricanaidd, pan ar ei ym- chwiliadau dhveddar yn ystod ei deithiau o saith mil o filldiroedd yn Affrica.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae Bwrdd Ysgol Llundain yn gofyn treth o haner miliwn o bunau yn y flwyddyn at eu hysgolion, neu fel y dywedant, at ddysgu plant y ddinas. Bydd hyny yn dreth o haner coron y pen ar bob un yn Llundain. Yr ydytn yn credu y gallasai y drefn wir- focldol, pe cawsai dipyn o gefnogiad, heu hyd yn nod dipyn mwy o chware teg, wneud y gwaith yn rhatach ac effeithiolach, ac yn enwedig yn llawer mwy teg a boneddigaidd. z,
[No title]
News
Cite
Share
Y mae y newyddiaduron Eglwysig yn ym- ffrostio fod y cynulleidfaoedd yn eglwysi TVest end, Llundain, yn bur lluosog, ond mai teneuon ydyw y cynulleidfaoedd yn yr East end. Y maent drwy hyny yn tori grym eu henganmoliaeth i'r Eglwys Wladol, y zD pan yr ymffrostient wrth bawb, ac yn mhob man, mai Eglwys y dyn tlawd ydyw."
[No title]
News
Cite
Share
"Ak^iagedcotaid."—Y mae rhai heblaw swyddogion ein sefyelliaclau milwraidd, sef duwinyddion duwiol proffwydol iawn, mewn pryder a gofid dwys y dyddiau hyn, rhag i heddwch gael ei sefydlu yr adeg yma; oblegid y maent yn ystyried y rhaid cael mwy o ryfeloedd yn y Dwyrain, er palmantu y ffordd i'r mil- blyuyddoedd, neu er cael arwydd sier eu bod yn agosau. Sail eu syn- iad ydyw y prouwydoliaethau yn Mat. xxiv., "Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas; a bydd newyn a nodau a daeargrynfaau mewn manau; a decbreuad. gofldiau yw hyn oil: ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hyny, y tywyllir yr haul, a'r lien ad ni ryad ei goleuni, a'r ser a syrthiant o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir, ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn." Y mae rhai o esbonwyr y proffwydolÙwthau hyn, yn ofni yr oedir y cyflawniad o honynt drwy i'r Sultan blygu i ymheddychu a'r Czar felly y'maent am dipyn ychwaneg o lyfel, a newyn, a nodau, a gofidiau," fel arwyddion. fod y mil blyu- yddau yn agosau. Oud nid oes genym farn uchel am dduwinyddiaeth nac am Gristion- ogaeth yr hen esbonwyr ydynt bob amser yn chwilio yr hen broftwydoiiaethau er cyfiawn- hau a chanmol cyfiawnderau a gogoniantau gorchestiou a difrod rhyfeloedd.
[No title]
News
Cite
Share
Rfn-EELOEDD A SON Alt E YEELOEDD.—Y mae yn alarus a dychrynllyd i feddwl fel y mae "Golygwyr a phrif ohebwyr llawer o'n newyddiaduron, cr boddhau eu noddwyr enwog, y sydd dda ganddynt ryfel, yn defnyddio eu holl ddonian, ac yn arfer eu holl gyfrwvsdra i gynhyrfu a chryfhau yspryd rhyfelgor drwy holl gylchoedd y wlad. Lr i ni gssel golwg lawn a theg ar hen ddadl ddyrys y Dwyrain, byddai yn dda i ni astudio adroddiadau ac vstadegau yr Herald of Peace am y misoedd* diweddaf. Yr ydym yn credu fed llygredigacth a gormes llywodr- aeth Twrci wedi bod nid yn o unig yn nych- dod ond yn warth annileadwy iddi, ac yn golled a dyryswch ofnadwy i'wgwlad. Nid ydym am ddadleu fod nwssia wedi bod yn lan oddiwrth lygredigaethau. Yr ydym yn credu ei bod wedi bod yu euog o liir ortnrymu yn waradwyddus o greulawn. ycVm yn credu hefyd y gallasai drwy ei dylanwadau rnoesol wneuthur llawer mwy er iachau y "clyn claf," ac er lleihau gormes, ac er puro moesau y byd nag a wnaeth; yr ydym yn credu. fod ei gormes o oea i oes wedi bod yn bur drwm ar rai o'i deiliaid a'i thaleithiau, ond yr ydym yn ystyried mai cynddaredd gwallgofrwydd fyddai i Loegr ormesol ymiaddgar yiiirutbro i ryfel a Rwsia yn yr adeg gynhyrfus bresenol, oblegid byddai i felldithion a beichiau y fath ryfel ofnadwy orlethu galluoedd Ewrop am lawer oes. Dylai y dosbarthiadau llafurus a ifydd- lawn a drcthir mor drwm i ddwyn beichiau y wladwriaeth, ardystio ar unwaith yn y modd difrifolaf yn erbyn y fath ryfel. Nid oes dim ond yr hunanoldeb cyndynaf all luddias i lysoedd mawrion y byd gyfansoddi uchel lys cydwladwriaethol er terfynu. eu dadleuon mewn heddwch,. fel y gallont gyd- ymanog a chydymroddi i gariacl a gweithred- oedd da, ac agor y pyrth i Iwyddiant a ded- wyddwch y mil blynyddoedd.
[No title]
News
Cite
Share
"TrwYSoa Tangneeedd."—Y mae ysgrif gref gynes yn y Christian Life am Mawrth 30, ar yspryd a theyrnasiad "Tywysog Tang- nefedd." Galara yr ysgrifenydd am fod teyrnasoedd ybycl yn cydymlithro yn ol i hen yspryd barbaraidd rhyfel, yn lie cydym- dynu yn rnlaen i yspryd efengyl hedd—eu bod yn eysegru eu doniau i astudio y cyn- lluniau goreu i drfefnu eu byddinoedd ac i wneuthur arfau rhyfel, yn lie i drefnu mes- urau er dyogelu a helaethu achos heddwch, Cyfeiria at greulonderau a chollediou erchyll y Crimean War, a'r Franco-German a'r Russo-Turkish Wars, a dengys fod y rhyfel- oedd diweddar yn annhraetho1 fwy creulawn a barbaraidd na hen ryfeloedd y Xerxesiaid a'r Alexandriaid a'r Cesariaid, a rhyfeloedd Groeg a Ehufain a Garthage. Dengys fod arfau tan" yr oesau diweddaraf wedi gwneuthur rhyfeloedd yn llawer mwy erchyll nag arfau brwydrau mwyaf gwaedlyd yr hen oesoedd. Y mae yn syn-ryfeddu fod teulu- oedd yn medru darllen a gwrando a siarad ac ysgrifenu mor ddideimlad am greulon- derau rhyfel; ac y mae yn rhesymu fod y fath. ddideimladrwydd yn cyflym arwain y wlad i anffyddiaeth am gymeriad llywodraeth Dnw. Y mae yn ymofidio drwy ei galon am fod y fath awyddfryd yn ymferwi yn awr drwy brif gylclioedd Hwssia a Lloegr am gael cyfarfod eu gilydd ar faes y rhyfel. Y mae ganddo yn niwedd ei ysgrif ran o bregeth a draddod- wycl yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, yn Llun- dain, gan y gwladgarwr efengylaidd, y Deon enwog Sydney Smith, ar adeg esgyniad ein brenhines i'r orsedd, yn moreuddydd ei bywyd. Yr oedd y Deon yn dangos ei barch iddi, a'i ddymuniad da am ei llwyddiant, yn yr ymadroddion canlynol" Gobeithio y gwneir argraff ddwys ar galon y foneddiges ieuanc hon am ddrygaudyehrJrnllyd biiyfel, He y bydd ynddi awydd pryderua i gadw ei deiliaid mewn tangnefedd heddychol. Y felldith drymafall ddyfod ar ddynionydyw rhyfel. Nid ydyw y gwastraff a'r llygredig- aethau a'r troseddau ^gyflawnir mewn blyn- yddau o Jieddwch, ond pethau bychan ac ysgafn mewn cymhariaeth i'r drygau a wneir mewn blynyddau o ryfel. Yn amser rhyfel y mae Duw yn cael ei anghofio—y mae holl egwyddorion cariad yr efengyl yn cael eu matnru dan draed—y mae pob llafur. buddiol yn cael ei ddystrywio, a phob diwydrwydd yn cael ei ddiffodcl. Gwelir y gwr a'r brawd, a'r tad a'r mab yn trengu mewn ing a thru- eni ar faes; y gwaed, mewn gwlad bell; gwelir y teimladau goreu yn cael eu.gwario yn ofer, a chalumui. tyner yn tori. Olywir ocheneidiau y gweddwon a'r amddifaid ar ol galanas y brwydrau, cerddir ar draws y clwyfedigion pan y maent yn ocheneidio am gael ma.rw o5u poenati. Carwn ddywedyd wrth yr eneth ieuanc frenhinol sydd newydd ^sgyn i'r orsedd, A ddolwcli Dduw,' drwy garu tangnefedd. Nid i ofal eich dyngarweh brenhinol chwi y perbbyna y chwilio am fwyd a dlllad i'r cardotyn anghenus: elusen bychan i rai isel ydyw hyny; gallaf fi a'm bath wneuthur hyny. Rhaid i chwi eangn eich calon at drueni ac angen helaethach..ff dynoliaeth. Rhaidi ehwi ofidio, dros famau a y teuluoedd ydynt yn gweled eu gw^r a*n meibionyncael eu rhwygo oddiwrthynfc; a rhaid i chwi gydymdeimlo a'f! lluOedd o gleifion gweiniaid sydd yn gruddfan yn yr yspytai, ac yn gwedd'io dros eu brenhines ijsuanc a'u hanadliadau olaf. Tosturiwch/^ 08 chwi wrth wallgofrwydd y-nfyd y dynioti "T ydynt yn parhau i ddysgu lladd eu gilydd y dynion ydynt yn parotoi o hyd at ddarnio eu gilydd, ac i liwio y ddaear a gwaed eu gilydd. Dyna ddylai fod maes mawr eich tosturi. Dyna ddylai fod eangder cylch eich dyngarweh. DifFoddwch ar unwaith bob awydd uilernol all enyn yn eich calon am. ogoniant milwraidd. Gall gwenieithwyt: drygionus eich cynhyrfu i hyny, er mai! tywysoges ieuanc ydych. Nid ydyw eich bpd o'r rhyw deg yn ddigon i'ch dyogelu rhag hudoliaethau gogoniant milwraidd. Barotowch at gael tystio pan ar eieh gwely angau, 'Niwnaethum amddifaid na gwedd- won rhyfeloedd drwy fy nheyrnasiad. Fy awyddfryd penaf ydoedd heddwch. Defn. yddiais holl nerth fy nghymeriacl, a-holl allu ac awdurdod fy sefyllfa i atal cynddaredd dynion rhyfelgar, ac i droi eu meddyliau at alWedigaetbau o ddiwydrwydd a, gonest- L rwydd. Dyma fu Cristionogaeth fy ngor- seidd; dyma fu efengyl fy nheyrnwialen: yn y Bordd yna yr ymdrechais addoli fy Mhryn- wr a'm Barnwr. Buasai yn enill ac yn ddedwyddwcli anmhrisiadwyi holl wledydd y byd pe buasai eu tywysogesau a'u tywya- ogion yn gwrando ar gynghorion fel,rhai y Deon ffyddlawn Sydney Smith.
[No title]
News
Cite
Share
Amddieftnydd TE BGLWYs."—Y mae gan ei iohebwyr, bron yn mhob rhifyn, dri phwnc mawr i geisio eu hesbonio a'u hainddiftyn:— 1. Fod credoau a chanonau a defodau gosod- edig a sefydledig yn perthynu i'r Eglwya Wladol; a bod holl awdurdodau y Ilywodr. aeth a holl lysoedd yr Eglwys dan y rhwymau tynaf i'w hategu a'u cadw ac mat braint a benditbiddiydywcael bod dan iau y llyw- odraeth. 2. Ehesyma yr' AmddiffynyM yn;c ddbniol fod holl weinidogion yr Eglwy^^x Wladol, er manyled ei deddfau, yn cael credu a phregethu yr hyn a ewyllysiant, ac y mae yu gwresog ymorfoleddu ac yn hyf ymffrostio am fod y iath ryddid gan weinidogion yr Eghvys Wladol. 3. Ymaeyr Amclditrynydd yn parhaus wawdio Ymneillduwyr, Reyn enwedig yr Annibynwyr, am eu bod yn gpddef i'w pregethwyr esbonio efengyl Crist, yn ol argyhoeddiad eu cydwybodau. Y mae yn uchel frolio rhyddid yr offeiraid i gael; pregetbu yn ol eu cred, hob ymgaethiwo yij.i 0 e ga h rhwymau y credoau gwladol, tra y rriae yn goganu am fod rhyddid felly gan bregethwyr Ymneillduol. Dadleu-afod rbyddid felly yn lies i'r Eglwys Wladol, ac yn anrhydedd i'w hofFeiriaid; ond-haera bod yfath ryddid gan Ymneillduwyr yn benrhyddid ag sydd yn arwain i anffyddiaeth. Ehaid cael amddifFyn- ydd cyfrwysach na'r un sydd yn Rhyl i. fedru cysoni y fath groes-haeriadau, Buasai^ Eg- lwysi Sefydledig wedi ben bydru mewn defod- aeth, wedi hen ymgaledu mewn rhagrith, a Phariseaeth, ac;anffyddiaeth, ac wedimeddwi ar. waed y saint, oni buasai gwres a goleuni gweinidogaeth yrhén. ddiwygwyr YmaeilU- duol.