Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

-''''' .----.------,--------.------..---Llanelli…

Pwnc Goleuni a Thrafnidtol…

--------------..-------' YNYSBOETH.

News
Cite
Share

YNYSBOETH. MR. GOL.Mae y lie yma yn cynyddu, a ch-edwn fod iddo ddyfodol. Nid wyf yn credu y byddaf o'm lie pan ddywedaf mai buan y bydd Penrhiwceihr, Ynysboeth, ac Abercynon wedi dod yn un rhes o dai a phoblogaeth. Nid oes ond ychydig oddiar pan gychwynwyd iadeiladu yma, ond erbyn heddyw y mae yma luoedd o dai a thrigol- ion lawer yn bvw yn hapus iawn. Tua thair blynedd yn ol, yr oedd yma dai segur, ond erbyn heddyw mae y cyfan yn llawn, a thai newyddion yn cael eu codi yn barhaus, a gallwn feddwl nad ydynt yn cael eu codi yn ddigon cyflym i ateb yr alwad. Fel yma gwelwn fod yr Ynys yn edrych yn mlaen i'r dyfodol agos pan y bydd wedi dod yn gyrcbfa pobl lawer, ae estyn ei breichiau i uno 4bercynon ar uu Haw, a Phenrhiwceibr ar y Haw arall. yn mis Tachwedd, 1899, gweledd y Pareh J F Williams, gweinidog llafurus Calfaria, Abercynon, yn nghyd ag ereill, fod eisieu cael achos i'r Bedyddwyr yn yr Ynys felly, aeth Mr Williams a'r brodyr ati o ddifrif. Decbreuwyd trwy gynal cyfarfodydd gweddi yn nby Mr Jno Bowen. Hwn, mae yn debyg, agorodd y drws i'r arch ya yr Ynys, a chredwn nad yw yn edifar ganddo. Md oedd yno y pryd hwnw ond tri o aetodau; felly, yr oeddynt yn wan, ond cawsant bob help a cbefnogaeth gan y Parch J F Williams a'r brodyr ereill o Galfaria; felly cangen o Gatfaria ydyw y Tabernacl, a changen sydd yn tyfu a liedu yn raddol, a thebyg y daw yn gryf iawn yn fuan. Dywedais mai tri oedd yma yn cychwyn —J Williams, E John, G Bowen, a'r gweinidog, y Parch J R Davies. Yr oedd yr eglwys fach yn yr Ynys ye meddu ar weinidog yn y cychwyn, ac y mae wedi parnau i fed yn ffyddlon a llafurus, ac wedi gwneud daioni mawr, a bydded iddo ddydd- iau a blynyddau lawer i wasanaethuu yn ffyddlon dros y Meistr. Cyn diwedd y fiwyddyn 1899, cawn y frawdoliaeth fach a'i llafurus weinidog yn prynu capel bychan at gynal y gwasanaeth, a dydd olaf y flwyddyn 1899, a dydd cyntaf y flwyddyn 1900, agotwyd y capel, a sefyd- lwyd y gweinidog. Yn blaenori yr agoriad a'r sefydlti, cynaliwyd rhes o gyrddau gweddi pan fu y brodyr canlynol o Eglwys Calfaria yn cyno;thwyo: Parch J F Wil- liams, Mr Evan Howells, Marc Rees, J r Dan/V, Samuel Thomas, Benjamin Evans, Euoch Williams, a James Richards. Cym- erodd y gweinidog a J Williams at chwilio I y lie er cael gweted ¡pa nifer o Fedyddwyr allasai fod yn y lie. Wedi chwilio cawsant fod yno ddeg, pa rai a dderbyniwyd i aelodiaeth eglwysig yn ol llaw, Fel hyn gwelwn fod yma ymdrech a llafur mawr wedi bod yn nglyn a'r achos bach. Nid peth bach oedd i frodyr Calfaria a'u gwein- idog i ddod i fyny i gynorthwyo yn y cyfarfodydd. &c. Nid peth bach chwaith oedd i Mr Williams a Mr Davies oedd chwilio a dod o hyd i ddeg oedd feallai wedi symud yno, a theimlo dipyn yn ddi- galon mewn lie dyeithr, ac wrth ddod o hyd i ddeg yn dod o hyd i ereill hefyd. Pwy fedr ddweyd gwerth a maint y daioni wnawd fei hyn gan y ddau frawd ? iNeb ond Duw a wyr. Dyna ni wedi cae! yn yr Ynys tua 13 neu 15 o Fedyddwyr, beth bynag, o Tachwedd i Rhagfyr, 1899. Fel y nodais, mai ar ddydd uLf un flwyddyn a dydd cyntaf y Hall y bu yr agoriad a'r sefydliad. Gad- ewch i ni ddweyd gair am yr amgylchiad. Mae yn amgylchiad pwysig yn hanes yr Ynys, sef agor capel a sefydln gweinidog yr un adeg. Y gweinidogion fu yn gwas- anaeth u oeddent y Farchn J F Williams, Calfaria, Abercynon, D R Phillips, Cilfyn- ydd T T Hughes, Mountain Ash W P Davies, Weston Super Mare (sef brawd y gweinidog). JV Merton, Bedlinog. Dydd Llun y bu y sefydlu, pan gymer- wyd rhan gan y gweinidogion a enwais, yn nghyd a'r brawd Evan Howells, Calfaria. Felly, ar ddydd cyntaf 1900 y sefydlwyd y brawd Davies yn weinidog ar yr eglwys Fedyddicdig yn yr Ynys, ac y mae'r undeb wedi bod yn un hapus a llwyddianus iawn. Mae yma gynydd wedi hod, ac y parhau i fod o'r cychwyn hyd yma, yn herwydd y mae' ychydig, sef y tri oedd yn dechreu, wedi cael y fraint o weled ereill yn dod i ymuno a hwy i gario y gwaith yn mlaen. Mae Mr Davies wedi bedyddio tuag 20ain, a derbyn tua'r un nifer o'r tir pell, fel y maent yn bresenol o 45 i 50 mewn rhif. Y mae yma rai wedi symud i leoedd ereill, ond er fod amgylchiadau yn symud rhai, y mae ereill yn cael eu galw i'r winllan, yn herwydd y mae yma rai yn aros am y fraint o gael ymuno a'r frawdoliaeth fach o hyd. Fel yma y gwelwn fod y gwaith da yn myned rhag ei flaen yn yr Ynys. )( mae y frawdoliaeth wedi bod yn addoli yn y capel 'zinc' o'r cychwyn, yn ymyl yr hwn y cododd yr eglwys fedyddfa gyfleus iawn. Bwriedir, fodd bydag. i godi capel mwy cyfleus a chanolog, a chredwn y Dydd yma adeilad hardd yn gynar yr haf nesaf, gan fod y gweinidog a'r brodyr yn ddiwyd yn casglu ac yn darparu ar gyfer cychwyn y capel. Bendith ar y gwaith da yn Ynys- boeth. CYFAILL JOHN. (I'w barhau).

[No title]

Advertising

-------.-..----_.----| NCDION…

DAU A DWY.

-:0:-:--ANGEL GETHSEMANE.

-.----...-.. ---Y FAM AT BACHGEN.

--------.-----.-----GLOFAOL.…

jTreharris, r

Adolygiad.

i ICymdeithas Ddarbcdol Deheudir…

---:0:---Caersaiem, Fontyfcerem.

: 0:--BRYNSEfOX (M.C.)., TRECYNON.

[No title]