Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL. -"I

[No title]

News
Cite
Share

-:0:- Brawd i'r Parch Silvester Horne, M.A., ydyw Mr Fred y I Horne, yr hwn a fu yn ymgeisydd aflwyddianus yn Ludlow dro yn ol. Siaradai y Sabbath o'r blaen yn mhwlpud ei frawd yn Llundain ar I Ddinas a Gwlad-eu dibyn- iaeth ar eu gilydd.' Baich ei araeth oedd ateb y gofyniad, 'Pa- ham mae pobl y wlad yn cyrchu i'r dref a'r ddinas ?' Nid am nad oes lie iddynt yn y wlad. Mae digon o le iddynt yn y wlad, ac y mae yn llawn o wagleoedd. Nid am fod cyflogau yn isel yno yTch- waith. Mae cyflogau y wlad i fyny a chyflogau y trefydd. Pa- ham, ynte ? Nid am eu bod yn weithwyr anhylaw ac annghelfydd. Medrai gweithiwr y wlad yn ei frordd ef weithio mor gywrain a'r crefftwr yn y ddinas yn ei ffordd yntau. Mae a fyno hen ddeddfau annheg amaethyddiaeth a hyn, ac mae oerfelgarwch ac anffyddlon- deb y Senedd i syrnud i roi gwell deddfau tirol i'r wlad, yn cyfrif fod cynifer yn gadael y wlad am y dref, lie y cant well rhvddid ac uwch cymhellion i'w llwyddiant mewn masnach. Heblaw hyny, yr oeddynt yn y wlad o ddydd eu genedigaeth hyd ddydd eu marwol- aeth o dan lygad y parson, priest, o'r esquire. Nid oedd yn bosibl iddynt i symud yn mlaen nac yn ol, i'r lan nac i lawr, heb fod un o'r rhai hyn, neu y tri yn un, a'u llygaid arnynt. Vn y dref, caws- ent fwy o lonydd gan alluoedd o'r fath, a diolchent am dano. Traeth- odd yn helaeth ar yr hyn a allasai y trefydd wneud i'r wlad. Un peth ydoedd gweithio o blaid idd- ynt gael gwell deddfau, gan fod mwyafrif y pleidleiswyr yn y dinas- oedd a'r trefydd a'r gweithfaoedd mawrion, ac nid yn y wlad. Cyf- eiriodd at y dynion sydd allan o waith yn y ddinas-yr unemployed -a dangosodd iddynt fod chwareu teg i'r labrwr yn y wlad yn chwar- eu teg yn ogystal i'r gweithiwr yn y ddinas.

[No title]