Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL. -"I

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. "I Pa bryd o'r blaen y bu plaid y Ceidwadwyr mor ddidrefn ac an- nghytunus a phleidgar ? O'r blaen yr oeddynt mor gyfain ac mor gyfunol a pheiriant. Wrth edrych ar ymraniadau yn mhlith y Rhydd- frydwyr, gallasent hwy ganu— Mae pawb o'r brodyr yma'n un heb neb yn tynu'n groes,' ond erbyn heddyw, maent hwythau fel haid o gwn ar scwar y dref, yn llygadrythu ac yn daneddu, ac mae rhai o honynt yn cyfarth yn arswydus. Arwydd er daioni yw hyn. Mae argyhoeddiadau y bywyd newydd yn dechreu cydio ynddynt, ac yn dechreu eu medd- ianu, ac o'r annrhefn hwn, fe ddaw trefn ar fyd cyn bo hir. a fe gaiff Chamberlain a phawb eu lie eu hunain. Mae egwyddorion yn gryfach na dynion. Golygfa go gyffi ous yw gweled Due o Devon a Joseph Chamberlain wyneb yn wyneb, ac yn croesi cleddyfau. Dau allu nerthol ydynt, ond y maent yn wahanol iawn. Ceir sefydlogrwydd ac urddas yn y naiil, a cheir cyfrwysdra a llavver 0 ffalscdd yn y llall. Gwr a'i obaith yn gryf yw Chamberlain, deued hi arno fel y del, ond caiff weled, os nad yw eisoes yn gwel- ed, fody Due yn rhy gryf iddo yn wir. Edrycha pawb yn mlaen at y salle a gymera Mr. Balfour yn yr eisteddiad nesaf. Tybir y bydd yn sicr o ddatgan ei farn a'i bolisi yn groes i Mr. Chamberlain a bernir mai yn hyny y gorphwys ei ddyogelwch. Heb hyny, bydd storm enbyd yn y ddau dy. Ond beth bynag a wna, mae dydd ei Weinyddiaeth siomedig a drwg yn machlud, a gobeithio, ar ol ei machludiad, na chyfyd ei haul am dragwyddoldeb. Ni bu y Rhydd- frydwyr mewn gwell undeb a chyfamod e'r llawer blwyddyn nag ydynt yn awr. Cydunent yn hollol ar y Fiscal Polisi, ac ar y Ddeddf Addysg, ac ar y Fasnach Feddwol, ac mae eu brwdfrydedd yn fyw yn cyfeiriadau ereill sydd yn galw am ddeddfu buan yn nglyn a hwynt. Dywedir Ilawer heddyw am ddy- fodiad y Due o Devon trosodd at y Ryddfrydwyr ie, cofier, y Due yn dyfod at Rhyddfrydiaeth, ac nid Rhyddfrydiaeth yn myned at y Due. Hanes urddasol sydd* i'r Due er dyddiau Q Gladstone. Gwnaeth waith mawr dan yr enw Arglwydd Hartingdon ond mae Lloyd George, mewn pryd, wedi dangos un o'r peryglon, sef y gallasai presenoldeb y Due yn y blaid i arafu yr ymgais sydd mewn Rhyddfrydiaeth am ddeddfau newyddioh Radicalaidd yn nglyn a masnach, tir, a chrefydd.c • -0- J2ii2 v f- Mae Mr Howard Evans. ystad- egydd o brofiad ac ymddiriedaeth, wedi troi allan ei ystadegaeth yn nglyn a'r Eglwysi RI-tyddion yn Lloegr a Chymru. Ceir ganddo rif eisteddleoedd, cyfranogwyr neu aelodau, athrawon Ysgol Sul, a deiliaid neu ddisgyblion yr Ysgol 11 Z,3 Sul. Yn nglyn a'r eisteddleoedd, cyfeiria at luosogiad o 95,147. Mae cynydd o 2,010,530 yn aelod- au yr Eglwysi Rhyddion, sef 28,000 ar y flwyddyn o'r blaen, a cheir cynydd o 3,091 yn rhif ath- rawon yr Ysgol Sul, a 68,309 yn mhlith vr ysgolheigion. Gesyd Mr Evans gerbron nerth cymhar- ol yr Egiwyswyr a'r Eglwysi Rhyddion. Perthyna i'r blaenaf ,dros saith mil o eisteddleoedd, a dros ctdwy fil o gyfranogwyr a pherthyna i'r-i olaf dros 8 mil o eisteddleoedd, a thros ddwy fil o gyfranogwyr. Mae athrawon Ys- gol Sul v blaenaf yn 206,203, a'i hysgolheigion yn 2,919,313 tra y mae athrawon yr olaf yn 3,389,848. Mae i ffigyrau fel y rhai hyn eu oenadaeth. Yr ydym i ddysgu ,J ..i llawer oddiwrth ffigyrau. er rnai rhai digon sych ydynt. Gvvelir oddiwrthynt yn mha\ envvadau raae'r llwyddiant mwyaf, sef y Wesleyaid a'r Bedyddwvr, a'r MethodistiaidCyntefig a'r Eglw} Rhydd Methodistaidd. Dangosn- i iii yn mhellach cin g\vir sefyllfl yn ein perthynas a'r gorpheno!, ac yn ein cyfrifoldeb i'r dyfodol. Caiff rhai-l-enwadau gerydd oddi- wrthynt, a cha enwadau ereilI gymeradwyaeth ynddynt, Rhodd- ant i ni gipdrem ar safle gymharol Eglwysyddiaeth ac Ymneillduaeth. Dengys i'r naill nad oes ganddi le o fath yn y byd i ymffrostio vn ei huwehafiaeth tybiedig a bostfawr, a dengys i'r llall ei dyledswydd i gredu mwy ynddi ei hun, ac i sef- yll gyda mwy o bendantrwydd am ei hawliau ac yn mhellach, gesyd o'n blaen addfedrwydd y wlad i Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad. Mae yn syniad poenus, ac o duedd annymunol iawn, fod Eghvys y lleiafrif yn Eglwys ffafraeth y Senedd, a hyny ar draulscornio dosbarth sydd yn ymladd ti frwydrau ei hun ar ei deilyngdod ei hun, a hyny ar linellau ysbrydol- rwydd mewn crefydd, a rhyddid a chydraddoldeb mewn hawl.

[No title]

[No title]