Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

HAKES HYNODI

--.--.----NODION 0 FERTHYR…

Eisteddfod Flynyddol Soar.

Y Glust.

Y TJuddugol.

.Fy Narlun.

Y Buddugol.

,. ABERDAR.

HEN WAG.

HIRWAIN.I

HIRWAUN.

Advertising

I Y FOESEG NEWYDD.

News
Cite
Share

Y FOESEG NEWYDD. Mae dull presenol gweithwyr o fugeiliol eu hawliau wedi galw i fodolaeth ddull newydd o ymddwyn, h.y., tuag at eu hun- ain yn o gystal ac at eu meistri. Yn yr hyn oil a wneir yn awr gan weithwyr, nid a'r hunan yn unig y mae yn ofynol ym- gynghori, eithr a'r lluaws hefyd. Mae y pwys, bellach, nid yn y personol ond yn y cyfunol, oblegyd fod hyn yn wahanol hollol i'r hyn a fu y mae wedi galw yn anucheladwy i fodolaeth foddau a ll'urfiau newydd o weithredu. Yn wir, goreu pa gyntaf y gwelir fod yna wyddor newydd i 1 Y 'I', raddau pell yn prysur ymllurfio fan h)n, a gwyn fyd na ddeallid hi yn well. Y Foeseg Newydd ynte, lie mae hi ? Yn yr argyfwng pwysig o dyfu ac ymddad- blygu; mae gwreiddiolder amgylekiadau bywyd cymdeithasol wedi esgor ami hi, ac y mae weithian yn ei chryd. Prin y mae eisieu nodi ei bod o'r pwys mwyaf i'w thyfiant fod yn un iachus, cryf, llun- iaidd a chydnerth. Tebyg iawn na fydd ei thyfiant hithau yn wahanol hollol i eiddo pob peth gwerthfawr arall, sef y cymer hyny le gan achosi peth poen ac annghyfleusdra. Er hyny, tyfu a wna, canys y mae nerth lawer y tu cefn i bob tyfiant, yn arbenig un fel hwn. Nid oes dim yn ddyeithr na chyfrin yn ymddangosiad y Foeseg Newydd. Bia. ei genedigaeth mor naturiol ag eiddo y frwd. Oes y trefni yw yr oes hon—oes cydweith- rediad cymdeithasol. Termau llosgedig y blynyddoedd hyn i weithwyr ydynt— Cyflafareddiad,' Isafnod,' Uwchafnod,' 'Levies,' 'Agent,' a'r 'Federation.' Pob parch iddynt, ond cyn wir a'r pader, y maent yn tybied dull newydd o weithredu —angen newydd am lawer o ddoethineb a gochelgarwch—a syniadau clir am y 11 wybrau dyogelaf i'w pwrcasu. Nid oes neb o feddwi teg a gweiediad syml, a ddywed ddim yn erbyn y trefniant dan sylw. Anmhosi bl oed d disgwy I yn wahanol o dan yr amgylchiadau. Gyda lledaeniad addysgr diflaniad hen ddulliau, ac angen- ion cynhenid, nid yn unig yn naturiol, ond yn anocheladwy, gwelodd gweithwyr fod eu llwyddiant a'u dyogelwch mewn undeb a chydweithrediad. llaeth dynion canol rhwng mei& ri a gwe L wyr i fugeil- io buudianau yr olaf fod p. th angen am ¡ hyn efallai na fydd yr un beiddgarweh i gyfaddef, canys pa gylch yn hanes dyn I faeledig sydd heb eisieu goruchwyliaeth a safolJ. ivlcdd bynag, doethneuannoeth, eyfiawn neu annghyfiawn, dyma y trefniant heddyw o dan ba un y mae gweithwyr yn enill eu bara a chaws—glowyr yn arbenig. Fan hyn. fel yr awgrymwyd, mae gorweddiad y Foeseg Newydd. Yn awr, awgrym amlwg yr amserodd yw, fod y wyddor uewvdd heb ei llwyr feistroii. Yn wir, ] prin efallai eio y gellir disgwyl gwahano!. Mae y tir yn ..newydd, yr argyfysgau yn i ddyeithr, 'a:r darolhebau. Fl rhai gwydn. Mae am bell gneuan galed i'w chael, ac ar j ol peryglu dwy res 0 ddanedd ardderchog i'w thori, un goeg a fydd wedy'n. Y gwir yw, y mae angen mawr am wybod beth, sut, a phryd i gyflawni? Sul i symud neu sut i aros ? Llefaru fai ddoeth neu ynte tewi ? Gweithio fai grefydd neu ynte streic ? Dyma y gamfa yn ddios y mae gweithwyr yn sefyll wrthi yn bresenol mewn mawr angen am gynorthwyo i'w chroesi yn weddus a diogel. Mae y naill wrthdarawiad gweithfaol ar ol y Hall wedi suro llawer cwpan bellach. Pwy geir yn awdurdod—neu o'r hyn lleiaf yn gynorthwy—ar y mater ? Oes brophwyd? Y mae llawer yn preffesi mai eu heiddo hwy yn unig yw'r gweledig- aethau cywir, tra y bydd ereill llawn cystal a hwythau yn cwyno fod cymaint o niwi yn pasio yn lie iheulwen oleu. Beth bynag, y mae un peth yn ffaith, os na chaiff y gweithwyr eu dysgu gan brolf- wydi, byddant yn sicr o gael eu dysgu gan angenrhaid a phroliad. Bid sicr, ysgol rhad iawn yw hono, ond coiier eu bod yn un galed hefyd, a hyny am ei bod yn dysgu mor drylwyr, ac weithiau y mae llawer o ramant a dyoddefaint yn nglyn a Z-1 meistrolaeth ei gwersi. Tybed nad oes cryn ddyogel wch a ifafr y 0 yn gorwedd yn nghyfeiriad y ddau awgrym canlynol. Ceisiwn eirio y cyntaf fel hyn--Nis gall yr un trefniant, beth byuag fyddo eifaint c £ i nodwedd, byth gym- eryd lie egwyddor oleuedig. Mae sawl cynyg y 0 bellach wedi ei wneud ar y peth, ac y mae y canlyniadau yn ddiareb. Tra'r vdym yn edrych ar rhengoedd llafur yn cael eu dysgyblu, eu nerthoedd yn cael eu canoli, gan barotoi ar gyfer ymrysonfeydd posibl. Nid ydym er dim am eu hanwybyddu a'u conyemnio, eithr yn hytrach eu llon- gyfarch. Ond mantais yn sicr ftnsai, pe gofelicl fod y cyfryw symudiadau yn amddifad o bob cymhelliad i ddrwg- dybiaeth a pherygl. Efallai mai prin digon o reswm dros gredu eu bod felly yw y ffaith fod rhai yn tybied hyny. Hyn, fodn bynag, ydym am bwvsleisio, ni ddichon trefniant (organisation,) lie bynag y bo, byth lanw lie egwydder. Peirian- waith yw trefniant. Tybia egwyddor foes ac ysbrydolrwydd. ac n;d gvviw fod y cyntaf heb yr olaf os amgen, ni bydd ond brad, a thrueni, a dinystr. Ie, ond i ba beth y sonir am egwyddor gweithwyr? Tybed fod eiddo meistriaid yn ddiargyhoedd ? Nid ydym yn dweyd hyny, a mwy na thebyg fod olion hen ffeudeliaeth a yormes yn hir yn marw, ac yn marw yn galed. Er hyn oil, adeg hyfryd fydd yr adeg hono pan fydd 'thf, I gweithfaoedd wedi peidio a bod yn fIauau lie bydd dynion yn darostwng cyrff; synwyr cyffredin ac egwyddor o dan draed y swllt a'r sofren. Nid elw i un ochr mwyna'r llall ar bob cyfril, ond ar gyfrif medrusrwydd, egwyddor, a dynoliaeth. Ni wna un trefniant byth y diffyg hwn i fyny. Yn yr ail awgrym fer-ir gcnym yn werth ei gofio ydyw hwn, *v7.i wna y trefniant cyfiaumaj byth ddigon 0 iawn dros annoeth- ineb a phrinder rhagwelediad. Ar bob cyfrif, rhwydd hynt i'r canolwr i fugedio •buddianau y gvveithiwr c decl. P.vy yn fWY teilwng o chwareu teg P Eto, gofaled C, y canolwr- goreu pa gyntaf y sylweddola j hyny-ei fod yn bugeilio pethau anhawdd. Y plant anhawddaf eu trin yw y rhai hyny y bydd eu rhieni yn meddwl gormod o honynt. Melldithir hwy a gormod o rydd- id a thynerwch. Felly mae buddianau He bynag y byddant. Mae pob buddiant yn Joseph caiff hwn siaced fraith ber h bynag fydd y canlyniadau Eto, Josephiaid yn ddiau yw pob un o fuddianau meistriaid, ac y mae iliwiau y siaced i bob un a'u gwisgasant celly yn swyn a boddlonrwydd. Yn awr, dyma gylch ac y mae gwasan- aethu ynddo yn ddiau yn galw am lawer 0 ddoethineb, rhagwelediad, ac ystwythder. Cadw y pethau anwyi hyn mewn trefn ac heddwch Mae gyru un o honynt i wylo yn wgus, yn ddigon i ferwi sir gyfan. Gwel'd yr un anwyl yn cael cam Mae yr hwn a'i pia yn colli pob rheol a rheswm. Prin y mae eisieu nodi mae yr un yw yr hanes, beth bynag fydd ffurf y buddiant hwnw. Efallai mai nid y swllt neu y sofren fydd efe, ond hwyrach, dipyn o ragfarn—cysgod hen ddefod, neu arliw un newydd. Yn wir, y mae wedi digwydd cyn hyn, pan nad oedd y buddiant yn fuddiant o gwbl, ond yn unig y tybid hyny. Modd bynag, cymwynaswr yw y canolwr hwnw yn ddiau i'r rhai a gynrychioia, ei fod yn wr iiygad graff, a sicr o i ergyd, canys nid J dyw yr un orgrnisotion sydd y tu cefn iddo, beth bynag fyddo ei maintioli, yn ddigon o iawn dros annoethineb a byr- bwyiidra, I wneud stori hir yn un fyr, credwn fod diogelwch tyfiant iachus y Foeseg Newydd Gymdeithasol yn gorwedd i raddau pell yn nghyfeiriad y ddau awgrym uchod. Nid cyfrwysdra yn unig sydd yn myned i setlo yr anhawsderau. Un cyfrwys iawn oedd Charles Peace, ond fe'i crogw: d am ei fod mor gyfrwys, ac mae ei olynwyr yn cael eu crogi eto be b dydd yn bersonol a chym- c'cithasol. Na, bydd yn rhaid i weithwyr gyfranu o'u penau a'u calonau tuag at berffeithiad y Foeseg Newydd. Nid pen 1 yn unig ond calon hefyd yw y dyn lluniaidd, cyfan, a chreadur hyll fai hwnw na feddai ond pen yn unig. Felly, undeb a threfn- iant: pob peth yn dda, ond gofaler fod y rhai hyny yn cael eu llywodraethu gan yr egwyddor a'r cydwybodoirwydd mwyaf goieuedig. Tebyg y derfydd y streics i gyd rhyw ddiwrnod, ond y pryd hwnw bydd Mah y Saer yn cael mwy o le dipyn nag a gaiff yn bresenol. X.

-:0 :—1— LI BAN US, TREFFOREST.

CAERSALEM.

CWMTWRCH.

Advertising

... Tystiolaethau.

Advertising

-:0 :-->--< TYCROES, PANTYFFYNON.