Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

Eisteddfod Penderyn.

NODION 0 RHYMNI.

News
Cite
Share

NODION 0 RHYMNI. Yr wythnos hon eto y mae genym i gof- nodi marwolatth un o aelodau Brass Band Gwilym Gwent, pan oedd y cerddor athry- lithgar hwnw yn arvrain ei chwythwyr ar hyd heolydd Rhymni tlÚ deugain mlynedd yn ol. Ei enw yw Eleazer Jones—yr un enw a'i dad, yr hwn a letyai Gwilym Gwent yn 14, Morgan's row, pan gylansoddwyd 4 Yr Itaf,, cyn i Gwilym Gwent symud o Rhymni i Gwmbach Yr Eleazer hwn, gladdwyd ddydd Llun diweddaf, oedd bed fellow Gwilym Gwent am y blynyddoedd olaf y bu Gwilym yn byw yn Rhymni. Dysgodd Gwilym ef i chwareu y Piccolo yn ardder- chog, ac hefyd dysgwdd ef i yfed cwrw lawn cystcJ a by y. Oni bai yr olaf, buasai Eleazer Jones yn un o'r cerddorion goreu, ac yn un o'r dynion mwyaf defnyddiol a fagodd Rhymni. Claddwyd ef yn swn clychau y Llan, pryd y gwasanaethwyd gan Ficer Fisher a'i gyn- orthwywr. Gadawodd weddw ac amryw o blant i alaru ar ei ol. Gwr rhagorol oedd Eleazer hynaf, ac yn Egtwyswr disglaer. Yr oedd yn un o ysgolfeistri olaf ysgolion gwaddoledig Mad- am Bevan, cyn i Eglwys Loegr i lyricu y gwaddol hwnw fu yn seren foreu addysg Cymru. Ysgrifenai fel copperplate, ys dy- wedai yr hen bobl, a thra y lletyai Gwilym Gwent gydag ef, efe oedd clerc y cyfansodd- wr canigau aidderchog. 'Ys,rifenodd I Yr Haf' iddo i g) stadleuaeth, ac i un o brif Brass Bands y Saeson, cyn erioed i Gwilym i symud o Rhymni. Gwnaeth y flwyddyn ddiweddaf-yn ei thl anc-gipio amryw o hen Gymry RhymnI gyda hi i'r bedd. Hen Gristioi ffyddlon, ac un o aelodau hynaf eglwys Seion, oedd Mr Samuel Lloyd Jones, Penuel row. Rhoddwyd ef i huno ei hun olaf gyda'i anwyl Farged ddydd Llun drweddaf, pryd y gwasanaethwyd gan v Parch R E Peregrine, B.D. Hefyd yr un dydd, daearwyd rhan farwol Mr Thomas Jones, Upper High street. Hen lowr ffyddlon, diwyd a pharchus gan ei gyd- weithwyr oedd y Jones hwn etc, er na chafodd capel nac eglwys fawr o'i sylw eri oed. Ni chafodd yr hen flwyddyn fyned heibio yn ddlsylw gyda ni. Bu y Watch-Night' boblogaidd yn yr Eglwys Sefydledig, fel arfer, pryd y gwvsanaethwyd gan Ficer a'i guradiaid. John Wesley oedd tad y Watch-Niaht, ond y mae yr hen faia wedi mabwysiadu y plentyn hwn, ac yn canu ei hwiangerdd yn soniarus. Yr un noson, yn nghaj el Moriah, rhodd- odd y cor ddatganiad a-Odercho, o Jeph- <-ba/ dan arweiniad Mr Arthur Perkins (Ap Dyfnwal Dyfed). Cymerwyd y prif gymer- iadau i fyny yn beraidd gan Miss Howells, Mri T F Jenkins, a J Mathews. Llywydd- wyd yn bur daclus gan Mr J W i rice, y Terrace. Cyfeiliwya gan Mr Charles Edwards. Da genym weled cymdeithasau llenyddol a dadleuol y lie yn cymeryd safle mor an rhydeddus ar ddechreu y flwyddyn. newydd Yn Ebenezer, dan lywyddiaeth Mr D W Dp-vies. Dangosodd y gymdeithas ei bod yn liawn bywyd ac yni. Darllenodd Dewi Carno bapyr rhagorol ar Ddylanwad yr Ysgol Sul ar ienyddiaeth y Cymry.' aiar- adwyd yn mheJlach yn bur dalentog gan y P?:rch D Oliver, a Mri David Watkins, DI Jones, a John H Griffiths. Adroddwyd amryw ddarnau gan Mr Owen Davies, Pont- ic ttyn, un o adroddwyr goreu Cymru. Can- wvd yn swynol gan D Jones, Elizabeth Jones, ac Annie Evans. Yn nghymdeithas Brynhyfryd, cafwyd dad1 hwyliog ar y Gwrthwynebiad Goddefol,' fel mai rhai am gyfieithu y Passive Resist- ance—dau air digon clogymog. Arwein- iwjd y pleidiau gan Mri Morgan Richards, a j H Griffiths (Ap Aeron). Cymerwyd rhan gan Mri J T Williams, Ben Jones, Ben Probert, ac Osman Williams. Llyw- yddwyd yn ei goreu gan y Parch B T Lva> >. 'Watch-Night at Home' oedd hi yn nghapei y rabernacl y nos olaf o'r flwyddyn. Yn Lrvnar yr hwyr, cafwyd te cymrfeiihasol, neu\-mg°m,west fyrddoi, ac wedi hynygyng- herdd ftasus-yr oil yn adloniant diniwed. Wedi hyny, cyfarfod crefydaol o fawl a gweddi— mawl am drugareddau ysbiydol a thyn horol yr hen flwyddyn, a gweddi am ail argraffiad o honynt y flwyddyn ddyfodol. Yn absenoldeb bugail da y praidd, Mr Griffiths, cafwyd presenoldeb y Parch J Rowlands, Arolygydd y Dosbarth, a Mr Tom John, Hirwaun (Co!eg Birmingham yn bresenol), ac a fu yn bugeilio corlan y Wesleyaid yma am ddwy flynedd cyn myned i'r Coleg. Cefais inau Watch-Night yn fy llyfrgell, 1 ac ar dranc yr hen flwyddyn, tua deucideg o'r gloch, ceisiais ddweyd gair yn ngheiniotv y gynghanedd fel hyn,— y gynghanedd fel hyn,— Daeth awr wan nineteen and three—1 huno, Mae'i hanadl yn rhewi; Ysig hwyrnos, ac oerni n Ingol ddaeth i'w hangladd hi. Mae y blynyddoedd a'r canrifcedd yn pasio heibio yn gyflym i feddau y gorphen- ol, ond fe ddrwed yr athronwyr fod y natur ddynol yn aros yr un, ac nad oes ynddi gyf- newidiad yn nghylchdro y blynyddoedd. Ond mae Mr H G Wells yn ei lyfr, Dis- covery of the Future,' yn amheu honiadau, ac yn ceisio Drofi fod yr haul i ddiffodd yn hir cyn diwedd y byd. Felly, bydd yn rhaid i'r natur ddynol i fyned dan ryw gyf- newidiadau mawrion ar y blaned hon cyn y gall fyw heb haul. Collodd y byd Uenyddol luaws o" enwog, ion y flwyddyn ddiweddaf. Y mwyaf, ac un o arw) r llenyddol y byd, oedd Herbert Spencer, ac o gwmpas yr haul mawr hwn, ac yn mhlith y Saeson, y cawn oleuadau pur danbaid, megis Salisbuiy, Mommsen, Lecky, Henley, Whistler, Phil May, &c. \n Nghymru, aid ydyn; vn cofio i ni golli ond pedwar cymeriad gwn 0:.r -Haethol, sef Llawdden, Silvan Evans, Dr Parry, a'r Parch E Gurnos Jones. Mae rnai yn gwrthod rhoddi y safle olaf, ond chwareu teg i Gurnos, mae ei enw yn air teuluaidd yn Nghymru, a'i ddoniau wedi chwareu ar glust pob Cymro 0 Fon i Fynwy. heblaw iddo gipio dwy gadair genedlaethol. Yn ystod y flwyddyn daeth dllan lyfrau lawer, a'r rheiny fwyaf o honynt yn sothach isel, yn enwedig yn yr iaith Sacsneg. Er hyny, mae lluaws o emau gwerthfawr yn eu mysg. Mae Bywyd Gladstone gan Mr Jno Morley yn sefyll ar ben y rhestr, ac yn werth i fechgyn leuainc Cymru i dreulio rhai o nosweithiau hirion y gauaf yn ei gwmni Y mae y cymeriad ardderchog, a'i weithred- oedd da, yn cael eu datguddio gyda y fath ff)ddlondeb a gallu, fel y mae yn allu mawr i ddiwyllio y meddwl. Yr wyf i newydd orphen y gyfrol gyntaf, ac yn barod i wysebu am wledd yr ail gyfrol. Llyfr y flwyddyn, Cenedl y clogwyni,' yw cyfrol gyntaf gwaith Dyfed, a bydd ei darllen yn ddiwyll- lant ac o adloniant in pobl leuain;, f noson gyntaf o'r flwyddyn newydd, bu ymgomwest de a nodachfa bur lwyddianus gan blant yr Eglwys Sefydledig; ac am dair noson yn olynol, bu y cor plant yn rhoddi adloniadau i dyrfaoedd mawrion yn yr Hall gyda chanu, adrodd, a dawnsio, &c. Yr oil dan arweiniad y cerddor ieuanc dis- glaer, Mr D W Joseph. OWAIN GLYNDWR.

Mae Cenad i ti Ddywedyd Drosot…

I Ceinewydd.

Rheilffordd JDrydanol.\

Cymdeithas Ddarbodol y j Glowyr.…

Marwolaethau Americanaidd.

-----'--_.---'..-.--.-"-----------.-""…

[No title]

Advertising

----I Dau Air o Dreorci.

:NONNI.

Advertising