Skip to main content
Hide Articles List

24 articles on this Page

--.-.-._---'-Y FASNACH LO.…

Dosbarth Aberiar,

Dosbarth Rhymni.

- Dosbarth y Garw.

Dosbarth 2 Rhondda.

Cwmtwrch.

YR ALCANWYR. j

- Llwyddiant Cwmni y Thomaeiaid,

Pris yr Adnoddau a'r Blwch…

Maer Caerdydd.I -I

Sir Edward Reed

A pel am Atal G weithio.

I ' Hirwaun,

Bwrdd y Golygydd.

I Marwc'ae-1iiau Amerlca^aidd.

Pregeth Rasol.

CONTRACTIO ALLAN.

|Undeb An nghyd ffar fiol…

Anundebiaeth yn Nghwm i Dulais.

Y K hufelaiaicl 5^11 Morgan…

News
Cite
Share

Y K hufelaiaicl 5^11 Morgan wg* I, Gwyddys fod y genedl gadarn enillasant drwy nerth arfau arglwyddiaeth y byd wedi ymgartrefu cyn diwedd y ganrif gyntaf rhwng bryniau Cymru. Nid yn unig ceir yr hanes yn ngwaith Tacitus am lwyddiant Julius Frontinus yn erbyn y Silures (ac, ond odid, y Dematce hefyd), ac e ddo Agricola yii erbyn yr Ordovices a thrigolion Mon ond pa le bynag yr eir yn Nghymru (ag eithrio Sir Benfro), deuir ar draws olion y milwyr egniol anfon?i Rhufain allan i sicrhau ei hawdurdod, olion sydd yn dangos i'r Cymry fod am ganrifoedd dan yr iau. Ac nid amlach a phwysicach mohonynt yn un- rhyw ardal nag yn Ngwent a Morganwg. Vno, yn y fangre elwid gynt yn Isea, oddi- wrth enw yr afon Wysg, ond yn awr yn Gaerlleon ar IVysg, yr oedd cartref a chanolfan un o'r tair lleng o filwyr traed gadwid yn gyffredin yn yr ynys ac y mae liuaws mawr o feddfeini ac arwyddion ereill o bresenoldeb y Rhufeiniaid wedi d'od i'r golwg o bryd i bryd yn y pentref yma a'i amgylchoedd. Heb fod nepell i'r dwyrain yr oedd tref Caerwent, Venta y Rhufeiniaid. lie yr ydys yn awr yn dad- orchuddio sylfeini tai eang, wedi eu had- eiladu yn ol cynlluniau goreu Rhufain. Sait Castell Caerdydd yn nghanol hen gaer Rhufeinig, daeth ei muriau mawr cedyrn o feini nadd yn ddiweddar i'r golwg, ar ol bod am ganrifoedd dan withglawdd o bridd. A,; y mae Cymdeithas Naturiacth- wyr Caerdydd newydd gyhoeddi llyfryn sydd yn rhoi hanes un arall o gaerau Rhufeinig Morganwg, sef hono yn Nghelligaer. An- n fynych, os erioed, y caed desgrifiad mor gyflawn a manwl o unrhyw olion Rhufeinig ¡ yn Nghymru ac nig gall yr hwn sydd am ) ymgydnabyddu a'r math yma o hynsRaethau ¡ wneud yn well nag astudio r modd yr aeth y gymdeithas anturiaethus yma drwy eu If gwaith o ddadlenu muriau Gelligaer a'r hyn a ddygvyd gan wyry rhaw i oleuni dydd. Pentref bychan ydyw Gelligaer ar gefnen o f, nydd rhwng dyffrynoedd Rhymni a Bargoed Taf. Bu gynt yn gilfach fynyddig, yn mhell o ddwndwr trefydd ond erbyn hyn saif yn nghsnol glofeydd y De ac y mae poblogaeth fawr yn prysur ymsymud o'i amgylch. Mae yno ysgol ramadtgol, sylfaenwyd gan un Edward Lew s yn 1715, ac eglwys henafol dan nawdd Catwg Sant Ond hynodrwydd y lie, wedi'r cyfan. ydyw'r hen ga(r adfeiiiedig. Yr oeddys wedi deall er's blynyddoedd fod yma rywbeth o'r fath. ac mai y Rhufeiniaid oedd wedi ei adedadu ond nid oedd prin faen ar faen yn y golwg pan ymgyrnerodd naturiaethwyr Caerdydd, yn Hydref 1899, a rhoi gweith- wwy ar waith i gloddio dros yr oil o gae Y Gaer Fawr' (fel v gelwid ef), nes gorfodi iddo ddatguddio ei ddirgel gyfrinion yn llwyr. Aeth y gwaith y mlaen hyd Awst, 1901 yna, ar ol planio'r cwbl yn fanwl a gwneud nodiadau ar bob tip\n lleiaf ym- ddanghosai o bwys yn y cynllun, cludwyd y Dr;nc1 yn 01 a }l51P'Vyci yr holl ffoeycSci, yan. adael y cae yn wastad fel o'r blaen. Cost- iodd y cwbl dros 4op. Yr oedd caer neu amddiffynfa Gelligaer (nis gwyr neb beth oedd ei henw gan y Rhufeiniaid), fel rhai craill o'r un dosbarth, y: i bedaironglog; yn wir, yr oedd yn lied agos at fod yn ysgwar, gan fod yr hyd yn 4.00 troedfedd a'r lied yn 385. Amgylchyn- id hi gan glawdd o bridd, gyda gwyneb o waith maen ar y tuallan ac ar y tu mewn lied y murglawdd yma oedd ugain troed- fedd. Yr oedd pedwar porth, un yn nghanol pob ochr, wedi eu hadeiladu'n bur i ofalus ac yn ol un cynllun. Ar bob ochr iddynt yr oedd ystafell yn nhrwch y mur, lie y prggwynaVr milwvr 6edd yn gyfrifol am tlgo; a chau'r drysau. Yr oedd peb poith yn ddwy ran a'r hyn a welid oddiallan oedd dau fwa maen yn ymyl eu gilydd gyda drws o waith coed yn mhob un yn agor yn ddwy ddalen yn y canol. 0 fewn y gaer yr oedd llawer o adeiladau, yn dangos y bwriedid hi i fod yn gartref par- haol cryn nifer o filwyr. Rhedai heol lydan o borth y de ddwyrain hyd eiddo'r gogledd- orllewin ac ar ganol hon, yn gwynebu heol arall gyfeiria at borth y gogledd-ddwyrain, ¡ yr oedd prif adeilad y lle-preswylfod y cadfridog, mae'n debyg, oedd a gofal yr am- ddiffynfa arno. Yr oedd llawer o adeiladau eraill o fewn y gaer, sef tai'r milwyr, ystor- feydd, a'r cyffelyb. Pan oedd y cwbl ar lawn waith, rhaid fod agwedd y He yn debyg i un o weithfeydd mawrion yr oes hon canoedd o ddynion yn cyniwair yma a thraw. Gyda golwg ar hanes y gaer, bernir, gan v §wr gydnabyddir yn brif awdurddod heddyw ar Brydain Rufeinig, sef Mr F. J. Haverfield, Rhdychen, iddi gael ei hadeil- adu yn gynar yn y cyfnod Rhufeinig, ac, yn ol pob tebyg, gan Julius Frontinus oddeutu'r flwyddyn 76 o oed Crist. Tybia, hefyd' na bu yn hir iawn yn cael ei chyfan eddu, oherwydd nad oes dim ol adgyweirio arni. Ni chafwyd yr un dernyn o arian yn y lie yn perthyn i'r ail na'r drydedd ganrif. Sylwer nad yw hyn yn profi fod yr angen am filwyr yn y rhan hon o'r wlad wedi darfod, ond yn unig iddynt gael eu hanfon i ryw gaer arall. Pertbysa'r amddiffynfa yn Ngbaerdydd i oes ddiweddarach na hono yn Nghelligaer a hwyrach mai aa 01 enciho o'r olaf y gwnaed y gyntaf yn gadarn, fel y gwelir hi yn awr. Oni wna llafur costus ac ymroddgar cyfeillion Caerdydd symbylu ereill i ddilyn yr un llwybi ? Mawr yw'r awydd i dreiddio'n ddyfnach i ddirgelion hanes Cymru a'r pleser geir pan ddarganfyddir mewn hen lawysgnf ffaitrl newydd oedd yn anhysbys I' o'r blaen; ac eto, mae hanes Cymru, i raddau helaeth iawn, wedi ei hysgrifenu mewn dythrenau mawr; breision yn y meus- ydd Cuii C n traed, dim ond i ni gymeryd y drafferth i sy.nud yr ychydig lwch sydd wedi casgiu ar eu gwyneb. Am bedwar cant o bunau, cafwyd yn gyfh wn hanes u.n o'r amddiffynfeydd mwyaf dyddorol yn Nghymru, hanes oedd yn guddiedig er's (o bosibl) deunaw cant o flynyddoedd.—Y PROFFESWR J. E. LLOYU, ^VI.A., jn y Geninen. Pwy na thosturia wrth y Nadoligwyr tlawd wrth feddwl fod cynauaf yr anrhegion mor fawr a'r doleri yn anaml ?

- Cadeiriad Ab iievin.

ER SERCfiUS GOF

.b---."-.-...- ---_._----"--.--.-.----.,…

[No title]