Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

-"Y BELEN BRES. --I

Gorthrwm y Deddf Addysg.

[No title]

TREORCHY. j TREORCHY.i

News
Cite
Share

TREORCHY. j TREORCHY. i ¡ Cymdeithas Gorawl Noddfa. ¡ MR GOL.,—Oymnnaf am ofod fechan o'ch newyddiadur er traetiiu ychydig ar gyngherdviau diweddaf y Gymdeithas uchod. Er cymaint yr atdyniadau yn ein trefydd a'n cynioedd yn Nghymru y Nadolig a'r Boxing Day iweddaf, nid y lleiaf ydoedd Treorchy. Yr oeddem yn clywed swn traed tyrfaoodd yn ymdeithio tuag yno, er cael clywed prif waith ein cyd-wladwr a'n hanwyl ddiweddar Dr Parry, sef yr Emmanuel,' yu nghyd ag un o brif weithiau Mendelssohn, sef yr Elijah,' a chredaf fod pob un gafodd y fraint o wrando y cyfryw wedi cael mwy na llawn ei ddisgwyiiadau. Nid oedd un arbediad wedi bod ar arian nac ar drafferth er eu gwneud yn dderhyriiol, a da genyf, Mr Gol., longyfarch y pwyllgor yn eu llwyddiant o'r cyfryw. Os oeddent yn taitrn 'hailt i'r soprano, Madame Sobrino, cawsom wledd wrth ei gwrando yn cymeryd ei rhan. Mae y foneddiges yma y* meddu a'r un o'r lleisiau soprano goreu a glywsom eriotd, y llais mwyaf cyfan yr oedd yn medru gwneud y sain isaf cystal a'r uchaf, a'r nchaf cystal a'r isaf. Cymerodd ei rhan yn rhagorol yn yr Emmanuel' yn nghyngherdd y pryd- nawn, er y credwn y gallasai wneud yn well pe buasai wedi cymeryd ychydig yn rhagor o drafferth i'w ddysgu yn llwyr- ach. Yr oedd yn amlwg ddigon nad oedd wedi imeistroli y gwaith i'r graddau i'w galluogi rhag camsyniadau, a'r cam- syniadau hyny mewn geiriadaeth. Yr oeddwn yn eu hesgusodi pan yn gwneyd sain wallus, ond pan yn gwneud y fath gamsyniad ag a wnaeth yn solo, Behold the Angel of the Lord,' sef Flee frOlti Egypt' oedd ei geiriad, ac i unrhyw un suld yn gwybod ychydig o hanes y Mab Bychan,' r oedd y fath eiriad yn wrthun. Rhaid gosod camsfniaclau o'r natur "na i fewn yn nghwd difaterwck. Yr hwyr, yn yr Elijah,' cymerodd ei rhan yn fen- j digedig. Cyn ei bod wedi haner gorphen Hear ye, Israel,' yr oeddwn wedi maddeu y cyfan. Teimlwn fod y solo ardderchog yma dan reolaeth gandd., a bod ei dat- ganiad meistrolgar wedi cydio yn y gynulleidfa fawr nes tori allan mewn banllef o gymeradwyaeth. Y contralto, Miss Gwladys Roberts, yn meddu ar lais ardderchog, ond dichon heb fod mor gyfoethog a'r soprano, nac ychwaith mor wrteithiedig. Teimlwn fod y foneddiges hon yn meddu ar lawer o deimlad, yn gymaint felly nes yr ofnwn weithiau fod ei theimlad yn sugno mwy 0 sain nad oeald ei llais yn ganiatau, a thrwy hyny, ar brydiau, yn cymylu y donydd- iaeth. Yr oedd yn cymeryd ei rhan yn rhagorol, gyda'r eithriad bychan a nod- wyd. Cawsom ganddi ddatganiad gorph- enedig o,r solo, 0 rest in the Lord,' yn nghyd a llawer o bethau ereill. Yr oeddwn yn hoffi y tenor. Mr Seth Hughes, nid yn unig am ansawdd ei lais, ond am y dyddordeb oedd yn gymeryd ya ei waith. Rhoddodd ddatganiad llawn 0 deimlad, ac yn wir orphenedig o'r solos, If with all your hearts' a 'Then shall the righteous.' Llanwodd ei le yn wir foddhaol. Am y bass, Mr Charles Tree, wel, y mae hwn wedi ei fendithio a phob peth er gwneud canwr llwyddianus. Y mae yn feddianol ar un o'r lleisiau goreu, yn nghyd a medr i daflu rhyw ysbrydiaeth i'w ganu y tuhwnt braidd i ddim a glyw- ais. erioed. Cymerodd ei ran yn yr Emmanuel yn neillduol ofalus. Amlwg ydoedd ei fod yn deall ei hun-(a rhyng- och chwi a minau, Mr Gol., mae hyny yn llawer o beth)-deall ei gynulleidfa, yn nghyd a deall yr hyn ydoedd yn ei ganu. Rhoddodd gychwyniad uchel i'r Elijah ar y geiriau, 1 As God, the Lord of Israel, liveth,' &c., nes oeddwn yai teimlo ar un- waith ei fod yn feistr ar ei waith. Yr oedd yn gwella hyd y terfyn. Pwy na theimlai ei hun yn cael ei orchfygu gvda'r datsaniad o'r solo,' Is not His Word" like a Fire I a It is enough ?' Cymerodd ei ran hefyd ar ben Carmel yn hynod drama- vddol ac efteithiol. Teimlwn ei fod o'r dechreu i'r diwedd yn medru gwneud chwareu teg a'r cymeriad ydoedd yn ei gynrychioli, a bod y cymeriad ag yntau i yn ffitio eu gilydd i'r dim. Yll sicr, y mae hwn yn un o'r goreuon. Gobeithio y cawn ei glywed eto ar fyr. Dyna, Mr Gol., air ar y pedwarawd, a chredaf nas gellir yn rhyw hawdd iawn î gael ei well. Acer cystal oedd, mentraf ddweyd, heb yr un petrusder, fod y cor cystal ag yntau. Yr oedd eu datganiad, yn dangos ol gwrteith dwfn. Yr oedd y donyddiaeth yn bur—gydag eithriad neu ddwy-o ddechreu'r Emmanuel: hyd ddiwedd yr 'Elijah.' Yr oedd gofal neillduol hefyd yn cael ei ddangos wrth ddatganu y rhanau tyner, nes cario ar y gynulleidfa ddylanwad nad anghofir yn fuan. Teimlwn fod y gwahaniaeth rhwng y cryf a'r tyner yn cael sylw canmoladwy, ac wrth hyny, yn rhoddi chwareu teg i'r naill a'r Hall i gario ei genhadaeth arbenig ei hun. Er dangos hyn, cymeraf y gyd- gan,' Nature trembled to its centre,' allan o'r Emmanuel.' Yr oeddent yn cydio ya y braw sydd yn nechreu y gydgan, gan ei daflu fel pelen dan i ganol y gynulleidfa, ac ar unwaith dyna y tyner yn cael ei dyhidlo gyda'r geiriau, Holy angels, mute with terror, Gazed upon the solemn sight,' &c., mewn effeith fendigedig. Yr oedd y cor yn medru defnyddio y cryf a'r tyner heb yr un anhawsder. Datganodd- y cor i hefyd y gydgan gyntaf vii yi- Elijah,' Help, Lord,' yn deilwng 0 honynt eu hunain, Yr oedd yr attack yn nerthol a phendant. Thanks be to God a Be not afraid yn wir feistrolgar. Yr oedd v datganiad o'r gydgan dlws, dawel, a hamddenol, He, watching over Israel/ yn bobpeth ellid ei ddymuno, er fod v darn yma 0 nodwedd wahanol i' darnau ereill ydvm wedi eu henwi. —T:n oi e^ith— I gydag iiii or darnau goreu ganwyd. Teimlaf ei bod yn ddyledswyud arnaf ddiolch i Mr Thomas, nid yn unig am ei fedr, ond hel'yd am ei chwaetii fel ar- -■ eiiiyri- Yr oedd corhchd dan reui- acth hollol o'r dechreu i'r tcrfyn. Ni ddiangodd o'i afaelion gymaint ag un- waith. Y cyfan yn cael ei wneud heb yr un brys, ac yn hollol hamddenol. Nid oes neb ond y profiadol yn gwybod y llafur mae dysgu y llyfrau hyn wedi gostio i'r arweinydd diameu fod llafur 0 du y cor, end llawer mwy i'r arweinydd. Yr ydwyf o galon yn dymuno diolch iddynt am em bod wedi anturio dysgu yr Emanuel.' Nid ydym yn gwybod ei fod wedi cael ei ddyagu ond rhyw ddwywaith neu dair yn N ghymru o'r blaen. Ac nid gorchwyl hawdd ydyw ei ddysgu mae yn anhawdd, ac yn galed ond er ei fed felly, cawsom berfiormiadau ardderchog. Teilwng 0 sylw hefyd ydoedd gwaith y gerddorfa, dan arweiniad v talentog Mr Gomer Jones, Maesteg. Gwnaeihant eu rhan i foddlonrwydd hawdd gwybod eu bod oil yn deall eu gwailli, ac yn fyw i'w gwaith. Yr oedclvrn yn mawr hoffi y 'cdlo yn chwareu r obhgato gyda'r solo, 'It is enough.' Yr oedd y chwareuydd yn dangos ei fod ) n feistr ar ei offeryn. Carwn yn y ran yma gymhell ein gwahanol gymueithasau corawl. pan yn perfformio llyfrau o'r natur yma, i beidio rhyfygu gwneud hyny heb gymhorth y Gerddorfa. Heb y cyfryw, gwaith ar ei haner fydd y goreu. Yr @edd y dyn iawn hefyd wrth yr organ. Nid hawdd ydyw cael organydd i ddeall ^cyirmion yr offeryn yma ceir ar hyd a lied y wlad ganoedd yn ei chwareu, ac yn credu eu bod yn deall y cyfan ond organyddion bychain, bychain ydyw llawer o honynt wedi'r cyfan. Nid oes yr un offeryn yn cael mwy 0 gam na'r organ, Ondj da genyf longyfarch Mr Jones, ei ly fod wedi oerdded yn mhell i dir yr organydd. a'i fod wedi gv/noctkar ei waith yn y cyngherddau yma gyda'r fath feistrolaeth. Credaf, Mr Gol., na fyddai yn iawn gorphen hyn o nodiadau heb roddi gair o anogaeth i'r pwyllgor, y cor,a'r arweinydd I i fyned yn eu blaen i'r un cyfeiriad. Dal- iwch ati, gyfeillion. Dyma dir sydd eisiau i ni fel cenedl ei feddianu. Ai nid dyma un 0 secrets goruchafiaeth y corau Seisnig y blyuyddoedd diweddaf ? Ie, yn ddiameu, maent wrthi drwy y flwyddyn yn dysgu y llyfrau goreu, ae wrth hyny yn profi y lleisiau braidd mewn pob math 0 gerddoriaeth, tra y mae ein corau ni yn Nghymru yn canu yr un darn am ugain mlynedd. Unrh) w gor a ddvsga haner dwsin, neu lai, 0 ddarnau neillduol, gall y cyfryw gystadlu bob mis am yr ugain mlynedd nesaf hyny yw, os bydd yr ugain nesaf yn byw yn yr un ogof a'r ugain mlynedd ddiweddaf. Cofier, nid ydym am ddweyd dim yn erbyn cystadleu-1 aeth ond cofier hefyd y dylem vr ysbryd yma 0 fewn terfynau rheswm a chrefydd. Onid oes rhyw duedd ynom i gredti mal enill n vr Eisteddfod ydyw yr anrhydedd uchcii eiiir ei enill yn uglyn a chanu ac a cherddoriaeth ? Mae Mr Thomas wedi esgyn i'r brigyn uchaf yn y cyfeiriad yna, ond credaf ei fod wedi esgyn i dir nwcli a gwell pan yn arwain yn ei gapel y fath weithiau elasurol, a hyny gyda'r fath fedr. Yr oedd Mr Thomas yn foneddig- aidd a hollol hunan-feddianol. Nid oes eisiau eich, cymhell yn Dreorchy, mi wn, i wneyd yn fawr 0 hono. Un o'r amryw- iol ffyrdd sydd genych i'w barchu ydyw bod yn ffyddlon iddo. Dylem fel cenedl fod yn falch 0 hono. Un arall sydd a llaw amlwg iawn yn y mudiad yma ydyw Mr W. P. Thomas. Gellir yn hawdd briodoli llawer 0 1wydd- iant y cyngherddau yma iddo ef. Mae j fel wedi ei eni i'r gwaith. Nid yn ami y ceir dynion o safleoedd Mr Thomas yn cymeryd rhan mor fiaenllaw yn y cyfeiriad yma. Mae ef a'i gynorthwydd, Mr E. T. Michael, yn deilwng 0 ganmoliaeth. Gaf fi. eto eich cymbeU fel cymdeithas i barotoi ar gyfer y nesaf; mae llawer yn edrych ya miaen gyda boddhad. Mr Gol., bum bron gadaal allan y rhan bwysicaf yn nghyngerdd yr hwyr y Sadwrn, sef y boy soprano. Fel oeddem j yu deall, yr oedd y bychan yma 0 dan j anfantais gan anwyd, ond gwnaeth ei waith yn rhagorol. Yr oedd mor gwl' a'i dad, a cliarwn ddiolch i Madame Sobrino am ei hymddygiad boneddigaidd yn cynorthwyo y gwan. Gobeithio fod ymdrech y gymdeithas wedi ei goroni a llwyddiant arianol; buasai yn llawer gwell. yn y cyfarfod yma pe buasai yr adeilad yn llawer mwy, 0 her- wydd yr eedd canoedd yn gorfod troi yn en hoi o eisiau lie. Yr oedd y capel eang wedi ei crienwi yn mhell- cyn amser dechreu. Bydded i ninau fel cymydog- aethau wneud ein rhan er cael y Gym- deithas yma i fyw yn hir, ac i wneud llawer o waith yn y dyfodol. Hyn yw dymuniad ( R.D.

CALENIG YR AWEN.

----.--c----Llanilltyd Fardref.I

Y CoIIedig.

Advertising