Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

-"Y BELEN BRES. --I

News
Cite
Share

Yslcri Hiii-fuddugol y Nadolig. -"Y BELEN BRES. Gwada yr oes olou hon fod y fath beth ^g ymweihi lau sbrydion ymadawedigion ar fuchedd hon yn beth posibl. Priodola f idolaeth y syniad i ofergoel- iaeth y personau hyny sy'n gredinwyr yn eu hymweliadau nosawl. Gan hyny, rhaid fy mod i, Ceinwen Llewelyn, yn greadures ofergoelus yn ol syniad yr oes oleu hon, gan i mi, pan yn ferch ieuanc ddeunaw oed, weled yspryd fy nhadcu, Syr Glyndwr Davies, yn ei ystafell wely, nos cyn y Nadolig, 1880, a hyny yn mhen tri niwrnod a thair nos wedi dydd ei gynhebrwng. Rhoddat i chwi yr hanes mor fyr a chryno ag sydd bosibl i mi. Nid oedd botieddwr a berched ac a gerid yn fwy gan bieswyiwyr Liaojicuwtxi na fy niweddar dadcu Syr Glyndwr Davies, Plaseurog. Yr oedd yn hael a charedig, etc, yn llyma dialed os torid ar draws ei ewyllys. Gan iddo fab a merch o'r enwau Cadifor ac Eiluned. Ar enedigaeth ei ferch, collodd ei anwyl briod drwy angeu disyfyd. Tyfodd Cadifor ac Eiluned i i fyny yn dal a lluaiaidd, yn deg a gwrid- goch yr olwg. Cawsant yr addysg oreu, a throi yn mysg mawrion y prif ddinas- oedd. Yr oedd Cadifor ddwy fiwydd yn henach nag Eilunen. Un diwrnod, syn- wyd fy nhadcu yn ogystal a'i wasanaeth- yddion, a phreswylwyr Llanfedwen, gan y newydd, braidd anhygoel, fod Cadifor wedi syrthio mewn eariad a merch i amaethwr cyffredin drigau ar ddarn o ystad fy nhadcu, tra y gallasai o ran ei safle ei ddysg, a'i edrychiad graenus a boneddigaidd gael pendefiges yn briod wraig. Cododd fy nhadcu wrthwynebiad cryf i'r garwriaeth: ond nid eedd dim yn tycio. MynorM Cadifor briodi merch yr amaethwr, a bu yn ddigon o bechod yn erbyn fy nhadcu, nes y darfu iddo wahardd y Plas i Cadifor, yn nghyd a ran a ddi- gwyddai iddo o'r da. Aeth yntau yn llidiog a'i amaethwraig i Ihndd i Lerpwl, ac agorodd dipyn o fusnes yno. Ond buan y cafodd allan nad oedd ei wraig mor dyner-galon ag y tybiodd yn nhymor ei gudd-garwriaeth ei bod. Trodd allan yn wraig front, wyllt, boeth ei thymer, a dioglyd, heb drefn ganddi i gario yn mlaen fusnes, na boneddigeiddrwydd i droi mewn cymdeithas. Yr oedd y cyf- newidiad hwn mor fawr yn hanes ei fywyd fel y gofidiodd yn fawr, a thorodd ei galon dan fin ei ofid. Bu farw yn mhen chwe' mis wedi dydd ei briodas. Pan glywodd fy nhadcu am farwolaeth disymwth ei fab, gofidiodd yn fawr, ac archodd ddwyn ei gorff yn ol i Plaseurog, a chladdodd ef yn anrhydeddus. Ei weddw ddur-galon a ddychwelodd i'r amaethdy at ei tbad a'i mam. Yn mhen pedwar mis wedi mar- wolaeth ei gwr, ganwyd mab iddi, a bedyddiwyd ef a'r enw Cadifor ar ol ei dad. Tyfodd i fyny yn fachgen gwyllt a chryf. Hysbyswyd ef gan ei fam am ei berthynas agos a Syr Glyndwr, a chymell- odd ef i fyned yno yn weddol fynych. Ymserchodd yr hen wr yn y bachgen, a chafodd ganddo groesawiad gwresog bob tro y deuai i'r palas. Ac efe eto ond 14eg oed, bu farw ei fam, a chymerwyd ef gan fy nhadcu i'r plas, i fyw gydag ef, a'i ddwryn i fyny fel ei etifedd. Priododd fy mam, sef Eiluned, a masnachwr cyfoethog o Gaerfyrddin, o'r enw Ivor Williams, a minau, Ceinwen, yw yr unig blentyn o'r briodas hone. Nid oedd dewis-wr fy mam yn hollol wrth fodd fy nhadcu am nad oedd o achau digon uchel. Ond ni chododd wrthwynebiad cryf i'r uniad am iddo glywed ei fod yn wr o fri a dylanwad yn mysg preswylwyr y dref y masnachai. Wedi i mi dyfu i fyny yn 15eg oed, ac wedi cael addysg dda, gofynodd fy nhadcu i fy nhad a mam a gawswn ddyfod i fyw ato i Plaseurog, ei fod yn fy hoffi yn fawr. Gwelsaiit hwythau mai doeth fyddai cydsynio a chais yr hen foneddwr, gan y gallae-ai; y n v ry*n A rqwr droi a11^n Vr» fantais i mi. Clywais hwy yn sibrwd— Os na wnai efe ei gwneud yn etifeddes, o herwydd fod Cadifor ganddo er's mwy na dwy flynedd, geill adael swm go dda yn flynyddol iddi wedi ei ddydd eL' l'ipalas at fy nhadcu yr aethum, ac yr oeddwn wedi bod yno am dair blynedd pan ddigwyddodd peth hynod a chyjfrous yn fy hanes. Yr oedd fy nhadcu wedi penderfynu unwaith i wneud Cadifor yn etifedd ei ystad. Ond trodd allan vn fachgen gwyllt a gwastaffus. Elai" i ddyled parhaus drwy gamblo, a phethau drwg cyffelyb, a dywedai fy nhad yn fynych, a lluaws o'i adnabyddion, mai ysbryd ei fam ac nid ei dad oedd yn Cadifor,' ac awgrymodd fy nhadcu iddo fwy nac unwaith y gwnai newid ei ewyllys yn fy ffafr i os na ddiwygiai. Pan glywodd hyn, ceisiodd genyf ddyfod yn gariad-ferch iddo. Ond yn annibynol ar y ffaitn fy mod wedi ymrwymo fy hunan i Arthur Llewelyn, o'm tref enedigol, yr aeddwn wedi cael digon o le i ddeall mai bywyd o anhapusrwydd fyddai bywyd y fun briodai Cadifor Davies. Gwyddai fod fy nhadcu wedi gwneud ei ewyllvs o'r I plas a'r ystad iddo, ond fod yn rhaid iddo dalu pum' cant yn flynyddol o honi i mi am fy oes, ac i fy mhlant ar fy ol, os byddai genyf rai. Yr oedd y ffaith hon yn un rheswrxi cryf ganddo dros geisio genyf ei dderbyn fel fy narpar-wr. Ofnai hefyd y gwnai fy nhadcu newid ei ewyllys yn fy ffafr, am ei fod yn byw bywyd mor anystyriol a phechadurus. Oddeutu wvthnos cyn dydd Nadolig, 1880, cyffrowyd fl a gwasanaethyddion y plas, yn nghyd a lioll breswylwyr Llan- fedwen gan y ne-ydd ofidus fod corff marw Syr Giyndwr wedi ei gael yn yr afon lifai oddeutu cbwarter milldir islaw Plaseurog. Cynaliwyd cwest' ar y corfl", a dygwyd y rheithfarn o foddiad ddamweinioL3 Yr oedd fy nhadcu yn arferrhodioar hyd glan yr afors> a tbybiodd llawer, heb- law y rheitliWyr, mai llithro i'r afon yn ddamweiniol wnaeth a boddi. Ond yr oeddwn i a Sara y brif forwyn, a Wallace, y bwtler, yn amheus o hyn. Wedi y cynghebrwg, darllenodd y cvfreithiwr, Mr Lost, yr ewyllys, ac yr oedd, fel y nodais, yn rhoddi y palas a'r ystad i Cadifor, a phum' cant 0 bunau yn flynyddol i mi, &c. Dangosodd Cadifor ar unwaith ei awdur- dod yn y plas. Dywedodd gyda gwyjieb heriol a geiriau trwst, fod yn rhaid i mi naill a'i dyfod yn wraig iddo neu ymadael a'r plas gyda dechreu y flwyddyn newydd. Dywedodd yn mhellach ei fod yn myned i reddi rhybudd i Sara, y brif forwyn, a Wallace, y bwtler, am na chafodd ond gwg ar eu gwynebau tuag ato tra y bu ei dadcu byw. Derbyniais ei delerau yn hollol ddigyffro, sef ei wrthod fel fy nghwr, ac ymadael a'r plas yn ddioed wedi yNadolig. Edrychodd yn ddigllon arnaf, a throdd ei gefn tuag ataf gan ddweyd—' Ail-ystyr- wch eich penderfyniad, Ceinwen,' ac ym- aith ag ef. Dywedodd Sara a Wallace y buasent yn ymadael yr un diwrnod a minau. Yr oedd Cadifor yn awr wedi bod yn feistr y plas dri diwrnod, a'r dydd canlyn- ol oedd Dydd Nadolig, ac ymddangosai yn debyg o droi allan yn Nadolig anhapns i mi. Gwrthododd Cadifor fyned i gysgu i ystafell wely fy nhadcu, a dywedodd y cawswn i y fraint os carwn. Dvwedais yr awn i gysgu yno ar yr a mod fod Sara, fy morwyn, yn cael dwyn ei gwely i fewn i'r un ystafell am ei bod yn ystafell fawr, a minau dipyn yn ofnus wedi v ddamwain ofidua i fy nhadcu. Cydsyniodd a'm cais. Y noson cyn Nadolig, 1880— cyneuasom dan yn iawn yn ystafell wely fy niweddar dadcu, a dygasom wely Sara i fewn iddi. Aethom ein d wy bob un i'w wely, mi yn ngwely fy nhadcu, a Sara yn ei gwely ei hun. Ar ol siarad am y Nadolig oedd wrth y drws,' ac am y cyf- newidiad gymerai le yn ein hanes yn fuan, syrthiasom i gysgu, tua deuddeg o'r gloch. (I'w barhau.)

Gorthrwm y Deddf Addysg.

[No title]

TREORCHY. j TREORCHY.i

CALENIG YR AWEN.

----.--c----Llanilltyd Fardref.I

Y CoIIedig.

Advertising