Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Llanelli a'r Cylch.

Y 3ded

Ymweliad Lleufer-

.Af arwolcletJr..

Trengholiad.

Damwain Druenus.

Cwmafon a'r Cylch.

V PARCH J. SPINTHER JAMES,…

NODION 0 FERTHYR.

News
Cite
Share

NODION 0 FERTHYR. GAN CYNGG. Dygwyddodd damweiniau lawer yn y cylch yma yn ystod y dyddiau diweddaf hyn. Dydd Merchar di vedrlaf, cynhliwyd trengholiad ar gymaint a phedwar o berson- au, y rhai a gollasant eu bywydau yn agos i'r un dyddiau trwy ddamwain. Y cyntaf oedd geneth fechan dwy flwydd oed o'r enw Mary Richards plentyn Mr a Mrs Tpos Richards, j 8, Horeb street, Penydarren. Yr oedd y fechan wedi myned i dy cymydog o'r enw Mrs Williams, yr hon oedd ar y pryd ar y llofft. Pan glywodd y plant yn gwaeddi, brysiodd lawr dros y grisiau, a chafodd y plentyn a'i dillad ar dan. Gwnaeth bob peth yn ei gallu i osod y tan allan, ond bu farw y plentyn foreu dydd Mawrth, am haner awr wedi tri o'r gloch. Prydnawn dydd LIun, cyfarfyddodd dyn ieuanc o'r enw Phillip H Jones a damwain angetiol yn y gwaith trwy ] ddarn o lo syrth- io arno. Yr oedd yn preswylio yn z, Park View, Heolgeryg, ac nid oedd ond 15 mlwydd oed. Y dydd canlynol, lladdwyd person arall 0)1' enw Daniel Lewis, 90, Grawen, Brecon road, tra wrth ei orchwyl gwaith yn y Cyf- arthfa, trwy gael ei daro gan y drams oedd yn rhedeg ar y ffordd a elwir New Dock. Yr oedd yn 57 mlwydd oed. Cyfarfyddodd person arali o'r enw John Lewis, 32, Ynysfach, a damwain angeuol tra yn gweithio yn Mhwll y Castell, dydd Gwener wythnos i'r diweddaf. Mae yn ymddangos i gwymp o lo syrthio arno, gan ei daro ar ei wegil Dygwyd ef adref ar y^ stretcher gan ei gydweithwyr ar unwaith, a5 bu farw am 5 o'r gloch prydnawn dydd Sul Boreu dydd lau, dygwyddodd tro braw- yehus i un o'r cerbydau trydanol tra yn teithio o Dowiais i Ferthyr. Gadawodd y cerbyd ei orsaf yn Nowlais am 8 o'r gloch foreu dydd lau, yn cael ei yru gan berson o'r enw Willson Clarke, yr hwn sydd yn gorwedd yn wael ei gyflwr yn y clafdy. Mae yn ymddangos i'r gyrwr golli ei lywoorjteth ary cerbyd rhywle tua phenuchaf yr heol newydd. Yr oedd y conductor wedi sylwi fod y cerbyd yn cyflymu yn barhaus, ac acth i ofyn i'r gyrwr os oedd rhywbetb o Ie ? Gwelodd gapan y gyrwr yn syrthio, ac aeth i'w jgyrchu dan feddwl myned yn ei olyn yr orsaf nesaf, ond gwelodd ar unwaith fod y cerbyd yn rhedeg yn wyllt a direol, ac yn y cyflymdra mwyaf fe ruthr- odd oddiar y rheiliau yn erbyn un o'r pyst mawrion sydd ar ochr yr heol ychydig yn uwch i'r lan na'r ysbytty cyffredinol. Yr oedd wedi cadw ar y rheiliau hyd y fan hono, ond methodd a throi ar y tro sydd yn yr heol, y gyrwr o hyd yn parhau i wneyd pob peth yn ei ally i w ati.1, ond i ddim pwrpas. Yr oedd tair boneddiges ieuanc yn y cerbyd—Harriet }ones, 35, Market street, Dowiais Janet Williams, 5I Blanch street; ac Edith Williams, 23, Hi°-h street, Caeharris, y rhai a neidiasant allan, a diaugasant heb lawer o niwed. Dyma yr anhap cyntaf o nod sydd wedi dygwydd yn nglyn a'r cerbydau hyn er pan y maent wedi eu dwyn i'r dref, a gobeithio mai y diweddaf ydyw hefyd. I 'I Cyn y bydd y wodion hyn wedi gweled goleu dydd, bydd y Privy Council yn Llun- dain wedi eistedd ar y cwestiwn o gorffoli y dref, a chawn weled yn y dyfodol agos beth fydd y canlyniad. Yr ydym yn cael fod Mr Sydney Simons yn gweithio yn egniol dros y dref, a chlywsom ei fod yn lied hyderus y try pethau allan yn ffafriol. Gwelwn fod y gwynt oedd yn chwythu yn gryf yn erbyn i'r dref gael ei ohorffoli 5 mlynedd yn ol wedi troi yn hollo! erbyn hyn, ac yn ei ffafrio bellach. Cyfeiriwn at drigolion Mertfryr Vale; cynaliwyd cyfarfod cyhoedd- us yno ychydig ddyddiau yn ol i bleidio y cais, a phasiwyd penderfytaiad unfiydol drosto. Deallwn fod amryw ddeisebau eto allan, ac yn. cael eu harwyddoyn gyffredinol trwy y cylch. Mae hyn yn dwyn ar gof i mi gymaint wnaed yn y cyfeiriad yma yr adeg hono, pan oedd petitions o'r ddau dy yn cael eu harwyddo, a chymaint o dwyll arferwyd gan y gwrthwyoebwyr. Yr oedd enwau ar eu petitions o ugeiniau o ddynion oedd yn huno yn eu beddau flynyddau cyn bod son am wneyd y cais o gwbl, ac enwau canoedd oecMynt wedi rhoddi eu henwau yn wiri Ineddol i'r ochr arall. Llwyddasant trwy hyny i wneyd y petition yn ddifudd yn ngolwg y Commissioiior. Fel y mae yn wybyddus i lawer o ddar- Fienwyr y DAPJAN, y mae cynghor y dos- barth yn gwneyd ymgais i ychwanegu rhif ei aelodau trwy ranu yr adran presenol yn ddwy, ac felly i gael cymaint arall o gyn- rychiolwyr. Mewn pwyllgor a gynaliwyd yr wythnos ddiweddaf mewn perthynas a hyn, pasiwyd penderfyniad i wneyd cais i ranu pedair Ward allan o'r chwech, gan adael adran y Cyfarthfa a Merthyr Vale fel y maent yn bresenol. Y mae cymdeithas yr eglwysi rhyddion wedi tynu allan amryw benderfyniadau i'w cyfdrfod nos Lun, yn Hope Hall. Yn rnhlith pethau ereill, penderfynwyd i benodi pwyllgor Ileol yn mhob Ward, er mwyn penodi cynrychiolwyr i'r etholiad nesaf at gynghor y dosbarth; ac hefyd benderfydiad yn gofyn i'r cynghor i beidio gosod y ddeddf mewn gweithrediad cyn yr etholiad nesaf. Fe gafodd y Cymreigyddion noson hapus dros ben yn gwrando ar Mr John Beynon, arweinydd y Welsh Glee Party tu yn ym- weled a'r Unol Dalaethau o'r cylch hwn dro yn ol. Testyn y papyr oedd Tro i'r Am- erig. Fel hyn y teimlai Blodeufryn, wedi gwrando ar y boneddwr yn darllen ei bapyr rhagarol Heb boen y caed heno gan Beynon—mawr Ei Amerig droion; Draws ei thir a thros ei thon, Ar g'oedd y Cymreigyddion. BLODBUFRYN. I Cymerwyd rlrm yn y cyfarfod gan y Mri G P Evans, loan Bydir, Cerddwyson, Gwilym ap Iorwerth, Merthyrfab, ac ereill, a rheolid y cyfarfod gan Gwernyfed Cain benod gaed gan Beynon—o hanes r, Ein henwog gym'dogion A wyddai o'u noavreddion—yn hafal Hyn aeth i sisia! yn iaith y Saeson. 'E wyddai'r Cymreigyddion-o bosib' Y b'asai John Beynon' Yn dwyn cyfres o hanesion Y dyrus daith dros y don. 0 dyma bethau doniol-a glywsom. Yn glwysaidd rhyfeddol; Da i ni ei ddod e' nol A gwiriau mor rhagorol. CYNOG. Deallwn fnd cofgolofn wedi ei gosod uwchben bedd y bachgenyn bychan Willie Llewelyn, yr hwn gollodd ei fywyd ar y mynydd uwch law Hirwaun. Fe gasglwyd digon o arian gan gyfeiliion o Aberdar a Merthyr i osod cofgolofn hardd uwch ei ben, a pheth dros ben. Deallwn fod yn mwriad y cyfeillion hyny gyflwvno gweddill yr arian i rieni Llewelyn bach, a da iawn y gwnant. Mae yr Henadur J W Evans, Aberdar, a'r cyfeillion sydd wedi bod yn cydweithio ag ef, yn teilyngu clod am eu gwasanaeth yn y peth hwn. Cydymdeimlir yn fawr a theulu Mr Phil- lips y Cloth Hall, yn ngwyneb yr amgylch- ia<! pruddaidd y maent wedi myned trwyddo yn iiiarwolacth Mrs Phillips. Bu farw yn od o sydyn yo ystod nos Wener wythnos i'r diweddaf. Yr oedd Mrs Phillips yn gyd- marol iach yn myned i'w gwely am 11 o'r gloch, ond erbyn y boreu, pan aeth un o'r merched i'w galw am 8 o'r gloch, cafwyd ei bod wedi marw, a'i geneth fach 4 blwydd oed yn cysgu yn ei hymyl. Yr oedd yn ddynes garedig, a gair da iddi yn y gymyd- ogaeth, ac yn aelod ffyddlon yn eglwys Seion, Twynyrodyn.. •

Yr Hen a'r Newydd.

Advertising