Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

Advertising

.---" YR WYTHNOS. i

DINAS—GWAHODDIAD BTJGEIL-!…

: 0: CAPCOCH.

--0"'-MERTHYR TLDFIL AR DDYDD…

News
Cite
Share

--0" MERTHYR TLDFIL AR DDYDD GWYL DEWI SANT. Mae Mawrth wedi d'od i fewn i Fer- thyr eloni fel oen, ys dywed yr hen hohl; wn i ddim a ai allan fel llew eto ai peidio. Nid yw wedi dwyn fawr o lawenydd gydag ef i Ferthyr eleni i'r gweithwyr, neu'r glowyr yn fwyaf neillduol; ac wrth gwrs maent hwy yn cymeryd i fewn bob peth sydd yn dal cysylltiad a'r enw gweithwyr yma, mewn ystyr beth bynag. Wel, mae tua 2,000 a honynt (sef y rhai sydd yn gweithio yn mhwll Abercannaid), wedi cael rhybtfdd y boreu hwn y bydd y cytundeb rhyngddynt a'r perchenog yn terfynu yn mhen y mis. Mae rhyw si allan er's lawer dydd nad yw y pwll yma yn talu i'w weithio, ac mai. colli arian ynddo mae y perchenog bob blwyddyn; felly nid yw yr hyn sydd wedi digwydd y boreu yma yn hollol | annisgwyliadwy i lawer. Wrth gwrs, nid oes neb yn gwybod eto beth sydd i j ganlyn y rhybyddion hyn, pa un ai | ceuad y pwll i fyny, neu ei ad-drefnu, neu beth. Ychydig o swn arall sydd i'w glywed rhwng pob dau yma neddyw, j a phob un yn ceisio prophwydo a dyfalu j beth fydd y canlyniad. Gobeithio, er mwyn y dref a'r cylch, y try pethau allan yn well nag ydym yn feddwl. Yr oedd Merthyr wedi arfer yn ystod y tair blynedd diweddaf gael ciniaw fawr yn un o hotels mwyaf y dref i ddathlu yr wyl hon, ac wedi arfer gwa- hodd y bobl fawr a'r Saeson i'r wyl. Yr oedd yr wyl yn cael ei chynal o dan I nawdd Cymdeithas y Cymrodorion, ond I, nid oedd llawer iawn o nodwedd Gym- reig ar y wledd er hyny. Gwir fod y delyn yno bob blwyddyn, a gwir fod y beirdd yno bob blwyddyn; ond Seison I oedd yn cymeryd y rhan fwyaf blaen- llaw yn y cyfarfod, ac yn barod i wawdio y sawl fuasai yn arfer iaith yr Hen Ddewi. Nid dyna sydd i gyfrif yn hollol am na chawsom gini' N eleni, ond hyn, fe ddarfu i'r gymdeiJ ias roddi ciniaw gwerth pedwar swl]am dri, i tua 80 i 100 0 bobl am y t xir blynedd diweddaf, ac nid oedd yn gweled en ffordd yn glir i wneyd hyny eleni. Dyna paham na chawsom wledd eleni fel arfer. Cynaliwyd cyfarfod i ddathlu yr wyl, er hyny, nos Wener, Chwef. 28ain, yn festri Soar, a daeth yno gynulliad yn medru gwerthfawrogi pethau Cym- reig mewn gwirionedd. Daeth yno I fyddin o feirdd. Ni fu y dref yma erioed mor gyfoethog o feirdd ag ydyw i yn bresenol. Bu deuddeg o honynt yn cymeryd rhan yn y cyfarfod, drwy ddarllen cynyrch eu hawen i'r wyl neu am ei wrthddrych. Siglodd deuddeg arall eu penau, gan datgan eu anmhar- odrwydd i gymeryd rhan. Y sawl fn yn gwasanaethu gyda'i hawen oedd Gwernyfed, Ieuan Dyfed, Pelidros, I Alaw Tydfil, oeiriosydd, Blodeufryn, (Y Gwir Flodeufryn, cofied y gwr o Mountain Ash), loan Bydir, Merthyr- fab, Mr. Roberts, ysgolfeistr; Cynog, a Matharam. Cymerwyd y gad air gan lywydd y gymdeithas, W. Edwards, Ysw., am wyth o'r gloch, yr hwn a ddywedodd, yn mhlith pethau ereill, fod yn wir dda ganddo weled fod ad- fywiad yn cymeryd lie ar hyd a Bed y wlad mewn pethau Cymreig, ac fod arwyddion yr amserau yn dweyd fod yr hen iaith i fyw yn hir er gwaethaf pob rhwystrau. Caiwyd ar ddeall fod y Bwrdd Ysgol y boreu hwnw wedi mab- wysiadu y cynllun o ddysgu. yr iaith iaith Gymraeg yn yr isgol ddyddiol, trwy y Direct Method," cynllun sydd yn cael ei fabwysiadu ar hyd y wlad gan y Byrddau yn lied gyffredinol erbyn hyn, yn enwedig mewn rhai parthau. Treulir dwy awr o leiaf bob wythnos i'r iaith yn unig. Darllenwyd gwahoddiad oddiwrth Cymrodorion Caerdvud i aâon dau gynrychiolydd i gynadledd sydd i'w chynal yno, mewn perthynas a diogeli enwau Cymreig, y rhai sydd yn cael eu llvgru mor an- faddeuol gan y Saeson y dyddiau yma. Cafwyd araeth penigamp gan y Parch. John Thomas ar Ddewi Sant a'i Amseuau." Cymerwyd rhan hefyd gan Mr. J. M. Bowen, Matthew Bowen, ac ereill. Yr oedd Mair Morlais yno yn canu, ac yr oedd ar ei huchelfanau wrth ganu Dydd Gwyl Dewi Sant." Cafwyd can gan Mr. Robert Alun, datganwr newydd yn y dref hon. Cyfeiliwyd yn ol ei medr arferol gan y foneddiges obeithiol, Miss Hannah M. Williams, merch Gwernyfed. Tro chwythig iawn gymerodd le a-r Dwynyrodyn dydd Iau diweddaf, sef hunanladdiad merch ieuanc o'r enw Margaret Ann Williams, trwy wen- wyno ei hun. Dywedodd y coroner yn

- CYFARFOD MISOL DOSBARTH…

--:0: CYNRYCHIOLAETH LAFUR-

-:0:-Gwledd yn St. James's…

Y Gyngherdd.

Advertising

Dosbarth Aberdare.

Cwmdar.

Advertising