Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

YR WYTHNOS.

-:o: BRYN, GER CWMAMAN.

NODIADAU.

LLECHRES Y "LECHEN LAN."

News
Cite
Share

LLECHRES Y "LECHEN LAN." Creodd areithiau Arglwydd Rosebery yn Le'rpwl y dyddiau diweddaf lawer o gyffro yn nghylchoedd gwleidyddol y wlad. Er mai ar hvyfan Rhyddfrydol y safai, ym- ddengys fod ei eiriau yn disgyn fel y gawod wlaw-y tviier-wlaw yn go gyfartal ar y naill blaid a'r lIall. Gyda meddwl rhydd ac ago red siaradai yn ddifloesgai ar bync- iau cartrefol a thramor, ac ar yr olaf haeddai sylw arbenig. Datganai yn glir nad oedd yn awyddu am safle arweinydd plaid-nad oedd amgen na chyngorydd ar gyfwng pryderus yn hanes ein gwlad. Ac o safle mor fanteisiol, nis gailai lai na gwasanaethu ei genedlaeth, gan nad ydym yn y blynyddoedd diweddaf hyn yn cyfran- ogi yn rhy flysiog o goginiaeth bob dydd chwilotwyr poblogrwydd y llwyfan wleid- yddol, ac y mae Ilais gwr o'r rheng flaenaf, ag a wyr I hywbeth arm weithrediadau mewnol y Llywodraeth Brydeinig, yn beth dymunol. Ac yn yr ystyr eangaf i wleid- yddiaeth-y wedd Ymnerodrol arni, gall Arglwydd Rosebery sefyll yn dalgryf, a chodi ei ddeheulaw, a dywedyd Mi wn i bwy y credais Teimlid fod ei welediad yn glir a chyrhaeddbell ar wladlywiaeth dramor, ac amfygai unp'ygrwydd ar yr holl gwestiyn- au gytlyrddai. Ond a'i gysylltiad arhaglen y blaid Ryddfrydol, tra yn aredig ei gwys ei hun, ni awgrymodd pa hyd yr arosai rhwng dau gorn yr aradr, nac ei dysgwyliai y byddai Asquith a'i weision ereill yn hau ar ei ol. Beth bynag am hyny, y mae ei gyngor i'r blaid Ryddfrydol yn parhau yr un- i gael Ldechen Lan,' ac yn hyny ymddengys pa mor anymarferol y mae, yr hyn sydd yn cyffwrdd yn ddiddadl a'i ddiffyg mawr fel gwladweidydd cartrefol, a'r hyn yn ddiau fu yn achos o'i fethiant yn nhymor byr ei weinyddiaeth. Mae y syniad o I lechen lan i gynifer o bleidiau fydd yn gwneyd i fyny y blaid Ryddfrydol fel halen ar frÍw. Meddylier am Arglwydd Rosebery rhyvt- foreu—y cyn- taf o Ebrill dyweder-yn cymeryd at y gorchwyl o ail-drefnu rhaglen y blaid Rydd- frydol. Fleblaw y ffaith bwysig—hanfodol bwysig-yr ystyriaeth o syniadau y bobl- syniadau sydd wedi tyfu yn mywyd y werin, sydd wedi ei meithrin gan hyawdledd y llwyfan, a chan fyfyrdod y Ilyfrgell, ac nad yw aelodaeth Seneddol heddyw yn gynrych- iolaeth berffaith o'r cyfryw. Sut y gallai Arglwydd Rosebery sicrhau y byddai ei raglen yn dderbyniol gan y wlad, a chaniatau y byddai yn alluog i wastadhaa man raniadau y blaid, yr hyn fyddai yn an- nichonadwy iddo gyda gradd o lwyddiant ? Byddai. y gorchwyl hwn yn unig yn ddigon i'w chwalu i'r pedwar gwynt. Ac edrych ar foesoldeb ei amcan, mae -yn fwy nag am- heus, gan nad yw yn edrych ar bynciau y rhaglen Ryddfrydol gyda'r cydymdeimlad a hawliant—rhywbeth y gallai eu cyfnewid ar antur, fel y gall droi bysedd yr awrlais i'r awr y dymunai i'r blaid Ryddfrydol daro. Gwall difrifol yn ei ragolygon yw hyn. Mae yn cyfrif gormod lawer ar ei law ei hun, ac yn cydnabod rhy ychydig i lais y bobl. Mae yn ddiffygiol yn y cydymdeimlad hwnw yn unig all enyn dyddordeb. A phrin iawri,y gallem ddysgwyl i aelod o'r bendefigaeih. urddasol, er ei holl atdyniad personol, sydd yn ymdroi beunydd a beunos ar ochr lachar cymdeithas, fod yn wahanol. Rhy brin y gall wisgo o wychder ei amgylchoecld,1 weled pethau fel y maent, nac yn alluog i weled pethau fel y dylent fod, yn sicr. Na, mae < llechen Ian 7 yn beth annichon- adwy; ac os llechen o gwbl, llechen lawn ddylai fo i, a rhywbeth ami wna i feddwl a chalon y bobl ymhyfrydu wrth ei darllen —rhywbeth a safai fel cydnabyddiaethj leiaf i hawliau y bobl, a llais y bobl sydd i benderfynu yr amlygrwydd mae y gwahanol gwestiynau i gymeryd ar y rhaglen. Gall y gwahanol raniadau sydd yn ffurfio y blaid wneyd gwasanaeth cenadol, ond nis gall unrhyw ddosbarth, chwaethach gwr unigoi, ddweyd yn unbenol yr hyn ddylai y peth nesaf ar y rhaglen fod. Ofnwn fod Arglwydd Rosebery am redeg- plaid ar yr un tir a rhedeg ceffylau, a'a dysgu i neidio ffosydd a chlwydi gydag ys- twythder rhyfeddol. Prin mae moesoldeb Epsom yn gyfartal i draddodiadau gwleid- yddol y blaid etifeddodd waddol werthfawr diwygwyr y gorphenol. Na, mae Arglwydd Rosebery yn annichonadwy—ond fel Ar- glwydd Rosebery

Advertising