Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

YR WYTHNOS.

-:o: BRYN, GER CWMAMAN.

NODIADAU.

News
Cite
Share

NODIADAU. Y mae cyflwr anffodus ein cydgenedl yn y diriogaeth hono-y dymunai gwladgarwyr cywir, uniondyb, os dim dadl, ei galw yn Wladychfa Gymreig '—erbyn heddyw yn creu teimladau dwfn tuag atynt yn eu hel- bul. Yr oedd y ddirprwyaeth gymhellwyd o bob rhad o Gymru i ymweled a Mr Cham- berlain yn Swyddfa y Trefedigaethau, yr wythnos ddiweddaf, y mwyaf dylanwadol aeth o'r Dywysogaeth erioed. Er iddynt fethu yn eu hamcan blaenaf i gael cynorth- wy y Llywodraeth i gludo 500 o Gymry Patagonia i Canada, bu hyny yn symbyliad nerthol i'r ddirprwyaeth ddangos eu cydym- deimlad yn ymarferol trwy danysgrifio tua phymtheg cant o bunau cyn ymadael. Da iawn. 'Un cyffyrddiad o Natur a wna y byd ar dan.' • 0 Yn awr, a yw ddim rhywbeth yn eich tin" chwi a minau i wneyd yr un peth? Ai nid yw yn ddichonadwy i wneyd y peth yn bwne cenedl, a myn'd a'r blwch casglu o gwmpas yn enw gwladgarwch, a chael gwel'd beth o werth ydym yn ol hyn a hyn y pen ? Y mae sefyllfa Cymry Patagonia yn rhy hysbys i fanylu-yn sicr fod pethau lawn cynddrwg ag amlygir, ac nid yw wiw yn awr ail-adrodd daroganau y gorphenol; mae pawb yn gall wedi'r digwyddiad, a phwy Gymro heddyw a groqyn o anturiaeth yn fyw na fu yn feddyl- iol rhywbryd 'Yn bwyta gwenith o Batagonia.' --0-- Brwydr ffyrnig yw streic y Penrhyn. Cyn- aliwyd cyfarfod yn y Memorial Hall y nos o'r blaen i. gydymdeimlo a'r gweithwyr. Siaredid yn rymus rhyfeddol gan Dr Lunn, a lywyddai, a Dr Clifford. Crybwyllwyd amryw bethau ddylent gael eu gwneyd yn hysbys drwy y wlad yn nghylch gwahardd- iadau gorthrymus Arglwydd Penrhyn. Fe wrthoda ei arglwyddiateh hawl y gweithwyr i gael goruchwyliwr i ymdrin mewn unrhyw annealldwriaeth rhyngddo ef a'r awdurdod- au, nac hyd yn nod ganiatau iddynr ymdra- fod trysorfa y cleifion a gynelir ganddfnt ond drwy swyddogion penodedig ganddo. Dywedodd Dr Lunn fod Bethesda n i. 15,000 preswylwyr wedi ei difrodi mor Ilwyr ag un o drefi De Affrica. Dywedai Dr Clifford fod yntau am lechen lan '— llawer henach na llechen Rosebery. Y llinell gyntaf arni oedd— Gormes y cryf ar y gwan ac yr oedd am ddileu hono oddiarni. Pan mae goreuon y deyrnas yn cymeryd y fath ddyddordeb yn mhynciau llafur, y mae gobaith am ddyrchafiad y werin. Yr an- hawsdra ydyw eu cael i deimlo dyddordeb ynddynt eu hunain yn fynych. -0-- Y mae etholiadau lleol yn yr ymyl eto, a chynrychiolwyr llafur laweroedd yn debyg o ddyfod ar y maes. Mewn rhai lleoedd eeir y cymdeithasau llafur yn ddifraw— bydd eu harweinwyr yn hepian-eiddigus, neu yn-wel, dewch i ni ddweyd hyny am dro— yn llygredig; yn bethau y gellir eu gwasgu i gildwrn! Mewn cymydogaethau ereill, y mae tuedd i orweithio yr egwyddor o gyn- rychiolaeth llafur. Dylid gofalu am hyny, oherwydd nid yw cynrychiolydd, mwy na'r boneddwr arall hwna, yn soniarus iawn wrth ei dynu gerfydd ei glustiau. Yn sicr i chwi, wy' wedi ei threio hi! -0> Yr iaith Gymraeg, mae hithau yn cael ei thynu dros y g010sg ambell dro mewn Ile- oedd annhcbyg yn fynych. Y mae y fonedd- lges dafod ystwyth-ml a ddywedwn dafod- rydd, oni bai fod ei ystyr yn cael ei gam- ddeall-Gwyneth Vaughan yn anerch cyfar- fodydd ar ran Cymdeithas y Ddraig Goch, ac yn llawdrwm ar y newyddiaduron Cym- reig am gyfieithu ne vyddion Seisnig. Wel, y mae hyny yn bo-th digon diflas i Gymro yn fynych, ond mi buaswn yn boffi gwybod hefyd- ar rar rhai o fechgyn yswil y papyr- au newyddion—sut gebyst mae hercyd nhw dros Glawdd Off a mewn unrhyw ffordd arall? Ond fe ddaliwn flychaid o Bine Pills fod yr hct sydd ar benau boneddigesau cym- deithas y ddraig goch yn arddull diweddaf Paris, heb grybwyll am fanylion dyddorol ereill. -0- Gwelwn fod rhai o bwyllgorau addysg y cymydogaethau gweithfaol yn talu sylw i addysgu Cymraeg yn yr ysgolion dyddiol, a gallwn yn galonog ddywedyd gyda Gwyneth Vaughan mai 'deffro mae dydd' ar yr iaith. Yr wythnos ddiweddaf, gwelais bapyrau yn cael eu gwasgaru i gymeryd pleidlais y trethdalwyr ar y pwne. Gofynid os oeddynt yn gefnogol i ddysgu Cymraeg i'w plant.' Wel, nid dim yn angen mewn holiad o'r fath o dan gronglwyd lie yr wyf fi 9 17, yn ymgysgodi, ond mi welais i bapyr pleid- lais mewn ty lie yr oedd y gwr a'r wraig mewn cryn benbleth sut oedd ateb, a hyny yn onest. -01-- 'Nawr yr oedd y papyr pleidleIsio wedi ei argraffu yn Seisnig, a chofiwch chwi Seisnig School Board hefyd ond nid o'r fan buno y codai yr anhawsder, oherwydd yr oedd y ddau yn deall Seisneg yn dda-o ran hyny, Saeson o nhw. Yr oedd y gwr yn ddyn cydwybodol, ac yn hyny o beth yr oedd y wraig yn gyfartal. Ond yr oedd y papyryn yn gofyn iddynt dori croes o dan yr Yes neu .LVO, cs-oeddynt yn gefnogol i roddi addysg Gymreig i'w plant,' a sut oeddynt i weith- redu, oblegyd nid oedd plant ganddynt. Fe geisiai fwrw'r draul fel trethdalwr, ond ni fedrai yn ei fyw wastadhau pethau o'r cyfoiriad hwna, gan fod y cwestiwn yn syml, A oeddynt yn gefnogol i roi addysg i'w plant? A'doedd ganddynt yr un chwaith- ach ychwaneg, ac yr oedd y dincod yn dis- gyn yn naturiol ar ddanedd y plant Wrth gwrs, yr oedd y wraig am drwsio pethau, ond yr oedd y gwr yn anfoddlon llindagu ei gyd- wybod a rhubanau amryliw y wraig. Yr oedd y cwestiwn yn syml, ond yn ei siml- rwydd yr ymresymai. Sut gallai efe, er yn 1 drethdalwr, a hawl fel y cyfryw, i roi'r croes, eto ni theimlodd erioed mor anodd ei < chario! Bron nad oedd arno gywilydd drosto'i hun, yn ei wel'd yn cael ei gornelu, a hyny ar air ei hunan. Cofiwch chwi, yr oedd yn frwd dros ddysgu Cymraeg i'w blant, tase rhai ganddo. Wrth reswm, nid bai Bwrdd Ysgol Llanwyno oedd hyny, ond byddai lawn cystal iddynt fod digon bonedd- igaidd iddynt beidio ceisio gwneyd y treth- dalwr soniedig yr hyn nad oedd, 5nd dwy i ddim am gadw tvrrw am hyny, oherwydd fe benderfynodd y wraig dynged y papyr pleidleisio yn dawel fach --(}- Y mae pobl Birmingham yn beaderfynol o ysbeilio'r cenedloedd mewn rhyw ddull neu gilydd. Fel y mae yn hysbys, y mae gwaith dwfr Cwm Elan, Sir Faesyfed, yn aruthrol ei faintioli, a darnau gwerthfawr i hanes Cymru yn cael dyfrllyd fedd. Gor- chuddir yn fuan yr ardal lie y bu y bardd Seisnig ardderchog Shelley yn preswylio am ysbaid. Ai yma, tybed, y gwrandawodd yr Ehedydd yn canu ac yn I tywallt cawod o felodedd' i lawr, a'i weled Like a poet hidden In the light of thought?' Tra mae ef 'wedi ei gasglu at freninoedd meddwl,' fel y canodd yn fendigedig am ei gyfaill Keats.

LLECHRES Y "LECHEN LAN."

Advertising