Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

YR WYTHNOS.

-0--NODIADAU. i

PEN YG RAIG.

News
Cite
Share

PEN YG RAIG. Blin genym yr wythnos hon yw cofnodi marw. laeth dth'symwth ac annysgwyliadwy Mr Thomas Morgan, Hendreforgan Road, Penygraig, yr hyn a gymerodd le boreu Sabboth, Chwefror 9fed, 1902, yn 64 mlwydd oed. Gcnedigol o Llantrisant yd- oedd yr ymadawedig, ond symudodd oddi- yno tua dwy flynedd ar hugain yn ol, i Dinas, Cwm Rhondda, a bu yn aelod ffydd- lawn yn eglwys Methodistiaid y Dinas. Ni fu yn hir yno cyn i'r eglwya ei ethol i'r swydd o flaenor, yr hon swydd a lanwodd er boddhad yr eglwys yn gyffredinol. Bu hefyd 0 yn drysorydd trysorfa weinidogaethol yr eg- 9 0 lwys uchod, a chyflawnodd y swydd yn an- ihydeddus ond y. blynyddau diweddaf o'i oes, toiodd ei gysylltiad ag achos y Meth- odistiaid am rhyw resymau, ac ymaeio iodd gyda y Bedyddwyr yn Mhenygraig, a bu yn aelod ac yn flaenor ffyddlawn hyd ei farwol- aeth. Bu hefyd yn lianw y swydd o drysor- ydd i'r Feibl Gymdeithas yn rhanbarth Penygraig a'r cylch. Yr oedd llawer o rinweddau la yn per- thyn I'r ymadawedig, ac yr oeddynt i'w gweled yn amlwg iawn yn ei fywyd Yr oedd yn weithiwr difefl gyda phob rhan o achos crefyddol; a pha mor ddistad bynag y byddai, yr oedd yn sicr o'i chyflawni i ber- ffeithrwydd. Beth bynag a fuasai ei law yn ymaflyd ynddo, yr oedd yn ei wneyd gyda'i holl egni. 'Roedd yn dda genym ei weled yn dysgu twr o blant yn yr Ysgol Sabbothol, ac yr oedd yn hawdd canfod ei fod wrth ei fodd gyda'r gwaith; ymserclfai y plant ynddo yntau, nes yr oedd cariad y naill yn ymdoddi megys yn nghariad y Hall. Elfen arall oedd yn perthyn iddo ydoedd ei ffydd- londeb yn mhob moddion o ras. Ni fyddai yn absenol oni b'ai fod rhywbeth pwysig yn ei atal. Yr oedd ganddo hefyd dymer bwyllog ac ystyriol; pe gofynech ei farn ar fater pwysig, gofalai am bwyso a mesur y mater hwnw cyn y dywedai ei farn ac wedi cael y farn hono, gallech weithredu yn ei hoi. Ni amheuai neb ychwaith ei dduwiol- deb—tystiolaethai pawb ag oedd wedi dyfod i gysylltiad ag ef ei fod yn ddyn yn ngwir ystyr y gair. Adlewyrchai ei fywyd ar bawb o'i amgylch, a bu byw yn y byd i ateb dyben ei fodolaeth, sef gogoneddu Duw. Bywyd o weithio ydoe id ei fywvd ef ar ei hyd, a dyna ydoedd ei dlymunial—:ael gweithio tra yr ydoed 1 hi yn ddy id caays y mae y nos yn dyfod, pryd na d lichon neb weithio. Ac erbyn hyn y mae efe wedi mvned oddiwrth ei waith at ei w )br. Dydd Iau, y 13eg cyfisol, daeth tyrfa lu- osog i gludo ei weddillion inirvot i fyei- went y Methodists i, LLA itrisi-.it, pryl y gwasanaethwyd gan y Parcti D C Jones, Soar; a'r Parch James Morris, M.L. P.jri-y- graig, a'n gweddPyw ami Uduw pob didlan- wch ddyddanu y wed Iw a'u plant yn y bro- fedigaeth lem sydd wedi eu goddiwe idyd, sef colli priod ffyddlon a thad tyner a gofalus, a bydded i'r oruchwyliaeth yma o eiddo rhagluniaeth fod yn foddion es'feithio* i ddwyn y gwed-dill o'r teulu i gysegra eu bywyd yn llwyr iwasanaeth yr un Ihwag y bu eu tad yn ei wasanaethu, ac o hyn y daw daioni.—E. ROWLANDS.

FWNC DOCTOR Y GW MTH.

) F k Crl vV li, .\.