Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

BRWYDR WATERLOO, YN NGHYD…

-:01:-| MARWOLAETH A CHLADDEDIG!AETH…

News
Cite
Share

-:01:- MARWOLAETH A CHLADDEDIG- AETH MR. JOHN JAMES WILLIAMS TREFUV CHAF, GER AB'ERTEIFI. Dydd Mawrth, y 4ydd o'r mis hwn, bu faa v- y brawd ieuanc uchod yn yr oedran cyri irol o 28 miwydd oed. Cafodd ei daraw gan yr inflammation, ac ni fu yn glaf ond tri c wn-tod. Yr oedd allan gyda'r gweision dydd Gwener, yn gweithio ar y fferm, a bu farw fel y dywedwyd dydd Mawrth, heb fod neb o honom wedi clywed braidd @i fod yn glaf. Yr oedd Mr Williams yn fab i'r diweddar Mr David Williams, Treuchaf, ac yn un o ddau o blant. Mae y chwaer, yr hon sydd yn fyw, yn briod a Mr R. Da.vies, Tynewydd, Llangoedmor, ac yn aros yn Trefere. Am eu bod mor hoff o'u gilydd, ni fynai Mr Williams iddi ymadael ag ef tra fyddai yn aroo yn sengI, ac ni raid dweyd fod Mrs Davies yn teimlo yn alarus iawn ar ol brawd oedd mor anwyl. Nodweddid y brawd ieuanc hwn gan amryw rinweddau, pa rai oeddynt yn werth i bob dyn ieuanc eu hefelychu. Yr oedd, Mr Williams yn ddyn ieuanc gwylaidd, dys- taw, a hynod o ddiymhongar; ni chlywid ei swn ef oni welid ef, a byddai bob amser yn meddwl peth drosodd la.wer gwaith cyn ei ddweyd. Fel dyn ieuanc crefyddol, yr oedd yn batrwn i fechgyn ieuainc yr eglwy^s a'r gymr y dog aeth i'w efelychu. Pan fu farw ei dad yn 1892, nid otedid ond 18 oed. Ond v boreu cyntaf ar ol ei gladdu, daeth ei fam, yr hon iyddl wedi ei ragflaenu, a'r Beibl iddo i'w ddarllen, ac i John y deiliad i fyned a weddi; ond aeth gwrthddrych ein hysgrif ei hunan i weddi, ac felly cadwodd y ddy- ledswydd deuluaidd ar yn ail a'r deiliad hyd y diwedd. Ac yn hyn, ddarllenydd, yr oedd, ein brawd ieuantc yn lesiampl ac yn gymer- iad gwerth i edrych arno. Pan y mae gweddio Duw yn gyhoeddus yn mron. a myn- ed allan o'r ffasiwm, nid- colled fechan yw colli cymeriad fel hyn. Yn yr eglwys hefydi He yr oedd yn aelod, gwnaeth ei hun yn ddefnyddiol. Cafodd ei witeyd yn ddiaco-ni yn lie ei dad, cyn; ei fod yn 22 oed, ac yn drysorydd yr eglwys cyn hyny a llanwodd y Ille a roddwyd iddo gyda'r lledneisrwydd a'r ffyddlondeb mwyaf trydwyr; ac y mae ei le heddyw yn 'ag, a'r galar yn fawr ar ei 01. ■"Ei haml a lachludodd tra'r ydoedd hi yn ddydd. Gostylngodd Efe ei nerth ef ar y ffordd, byrhaodd ei ddyddiau." Dydd Sadwrn, yr 8fed, daeth tyrfa fawr vn nghyd i dahl'r brymvvynas olaf i'r ymadaw- edig. Yn y ty, preigethodd y Parch. H. FI. amgylchiad. 0 herwydd gwaeied'd ei chwaer, Mrs. Da.vies, y traddod^d pregeth felly yn y ty. Ar ol cario'r corff allan 01 flaen y ty, rhoddwyd gair allan i'w ganu: "I Galfaria trof fy wyneb/' etc., ac nis gwydd- em am ddim. yn well i'w wneyd o dan yr am- gylchiad, yn nghanol tywyllvvch ac annhrefn marwolaeth oedd mor anesboniadwy i res- wm daearol, na throi am oleuni i Galfaria, He mae pob nos yn troi yn dragwyddol ddydd. Cyn gorphen canu, cychwynwyd •tua'r gladdfa yn Ffynonbedlr. Yr oedd dy- muniad wedi ei a,rwyddo gan ieuenctyd yr eglwys am gael cario corph Mr Williams, yr hwn a garent mor fawr, i dy ei hir gartref. Felly trefnwyd fod y gwrywiaid, er mwyn trefn i gerdded o flaen yr arch. Yr oedd yma gynhebrwng hynod o luosog, fel ag yr n I In oedd yn cyraedd o Trefere hyd Ffynonbedr, pelkier yn agos i filldir o ffordd. Yn y capel, siaradwvd gan Mr Basset, B., Peny- pare; Mr Morris, Tanner's Hall; Mr Morris, Capel Mair a Mr Williams, y gweinklog. Ar lan y bedd, dywedwyd ychydig eiriau yn bwrpasol iawn: gan Mr Evans, Gideon, 3, gweddiodd Mr Pricey B., Ferwig. Yna saf- odd pawb yn fud am, ysbaid, fel pe byddai pob un wedi ei hoelie ar y fan y safai. Ond er mor arthawdd, gwelem y sa er ma en, yn disgyn yn wyiaidd i lawr i'r bedd, ac yn tynu y ceryg oerion dros wyneb ein cyfaill ieu- anc. a'r dyrfa o hyd yn aros yn Uonydd fel pe yn methu a chredu fod yn rhai<l gadael John James Williams ar ol yn y bedd. Na, nid yw efe yno, ond ni a grechvn fod yr ysbryd anfarwol yn iach dragwyddol a,r fryniaiu) anfarwoldeb yr ochr dra i'r bedd'. Bydded i'r amgyichiad clifrifol hwn beri i ieuenctyd yr eghvys yr oedd yr ymadawedig yn aeilod 0< honi, a Ixoll ieuenctyd yr ardal, ystyried a chofio nad oets and un o ddau le yn ôu haros y tu draw i'r Hen. Pa un o'r ddau ? B'le ceir ninau, hoff ddarllenydd, Wedi myn'd i'r ochr draw, Ai yn mhlith gelynion Iesu., Ynte ar y ddeheulaw? Cyfaill.

;o: PRYD F ERTH WCH.

EGLWYS Y BEDYDDWR,I HEOLYFLLIN,…

! ABERNANT.

—2 :0 :--. MORIATT, CILFYh…

[No title]

Advertising