Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
I?i LiSfeinife -0- BROWN BREAD Of exceellent quality as made from Reynolds' Noted Pure Wheat Meal Choicest Cereal Products of the Globe used in the manufactnre of this Meal. Made only by J. REYNOLDS & Co., GLOUCESTER. Sold by all Flour Merchants and Bakers in South Wales. Ask for REYNODS' PURE WHEAT MEAL, and note name as above, For our Flour Brands see next week's advertisement. EBBW VALE Annual Chair Eisteddfod CENTRAL HALL, MONDAY, OCTOBER 2ND, 1899. President,—Alderman W. H. Powell, J.P. Adjudicctors: Music,-E. Evans, Esq. (Llew Buallt), Builth; Literary,—Rev. T. Mafonwy Da vies, Blaenafon. Male Voice Competition—'Valiant Warriors' m." Jenkins), not under 50 voices, £20. ] Choral Competition—' Mor Hawddgar yw Dy Bebyll' (' How amiable are thy Tabernacles'), Dr. Parry, not under 60 or over 80 voices, prize £15 and Bound Volume of Strand Magazine,' given by Sir George Newnes. Juvenile Choir—'Sweet and Low,' Sn dosept Barnby, S.A.T.B not over 15 years of age twelve adults allowed, 13t prize, Y.6 2nd. t2. Poem—Bardic Chair, value t5. goios— £ i Is. each. Quartette—prize R3 Programmes, Id. each, by post ljd.—T. G. D/. VIES, Hon. Secretary, 16, Market Stiee;, Ebbw Vale. • Ysgol y Bwrdd, Sciwen, ger Castellnedd. CYNELIR Eisteddfod Fawreddog Yn y lie uchod yn gysylltiedig ag Eglwys y J Tobernacl, Sciweu, Tobernacl, Sciweu, Dydd Sadwrn, Hydref 7fed, 1899. Llywydd,-S. T. Evans, Ysw., Y.H., A.S. Arweinydd y dydd a beirniad yr amrywiaeth,- John Gwawr Williams, Ysw., Cynrychiolwyr y Glowyr. Beirniad y gerddoriaeth,-Mri. Rhys Thomas, F.T .S.C., Ystradgynlais, a H. Afanfryn Hill, Cwmafon. Cadeirydd y pwyllgor,—Parch. J. Evans Jones. Trysorydd,-Mr David Harris. Ysgrifenyddion-Mr David Lloyd, Jun., 1, Queen's Road, Skewen, near Neath; a Mr Thos. Williams, Co-operative Buildings, Skewen. Prif ddarn corawl-Ilr bor, heb fod o dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu Teyrnasa lesu mawr,' refniad D. Emlyn Evans, gwobr JElO ac Organ gwerth jei4, ac Oriawr arian l'r arweinvdd budd- ugol. Hefyd bydd Medal arian i arweinyddion y tri chor nesaf at y goreu. 1'1' parti, heb fod o dan 25 mewn rhif, a gano yn oreu Myfauwy,' Dr. Parry, peuill cyntaf a'r olaf, gwobr £4 ac oriawr arian i'r arweinydd buddugol, a Medal arian i arweinydd y parti ail oreu. Am fanylion pellach gwel y rhaglenoddiwrth yr ysgrifenyddion, drwy y pest am He. z NEW TOWN HALL, PONTYPRIDD. CYNELIR EISTEDDFOD GVDEiRIOL Yn y lie uchod dydd Llun, Tachwedd 27ain, 1899. Prif Ddarn Corawl—'Y Gwanwyn,' G. Gwent, gwobr je30. Parti Meibion—' Wyr Philistia,' D. Jenkins, gwobr deio. Corau Plant—' Awn yn mlaen,' R. Price, gwobr £7 Deuawdau, 30s.; Unawdau, JE1; Adroddiadau, 15s. a 10s. 6c. Canu penillion gyda'r delyn i blant dan 15 oed, gwobrau 15s. Pryddest Goffadwriaethol i'r diweddar Thomas Davies, Trealaw. Manylion i'w cael gan y Parch. J. R. Jones, Pontypridd. Gwoar £2 2s. a chadair gerfiedig gwerth jBo 5s. 40 llinell o farddouiaeth, cyfaddas i adroddiad- Gorchfygwr Pen Peniei,' gwobr 10s. 6c. Traethawd-Safon beirniadaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr jei Manylion pellach gweler y program am y pris arferol 'an yr Y sgrifenydd H. T. RICHARDS, 1, Arcade Chambers, Pontypridd. Allan o'r Wasg. Pris 6ch. William Ewart j Gladstone, AWDL Testyn y Gadair Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Caerdydd, 1899, GAN H LLEP GWAREIDDIAD," SEF Gwilym J. Davies (GwilymGwyl't), Cwmbach, Aberdar. Cynwysa hefyd ddarlun o'r diweddar Wladweinydd enwog. Pob archebion at yr Awdwr. Y gwir yn erbyn y byd. MaKKKT H A.LL Eisteddfod NEATH, MONDAY, 2ND OCTOBER, 1899. Adjudieators,—Music, Mr John Price, Rhhmney, and Mr Seth P. Jones, Penclawdd Brass Band, Mr S. Schofield, Tonyrefail; Recitation, Mr Seth P. Jones. „ President,—Evan Evgns Bevan, Neath. Conductor,—Mr John P. Reynolds. Cwmpandy, Neath. Accompftnist,—Mrs. LI. R- liowen, Swansea. Chief Choral Competition, not under 80 voices, Worthy is the Lamb,' Messiah, gwo.br £ 30 and 91 to each unsuccessful conductor. Male Voice Competition, not under 35 voices, Comrades in Arms,' prize £10. Juvenile Choir Competition, not under 33 voices, including 8 adults, children 15 years of age and under, 'Sleighing Glee,' Dr Parry, prize £ 8. Congregational Choir Competition, not under 25 voices, tune 'Dolau,' prize £ 2 2s and a (^old Medal to the conductor, published by the author. T. Perrot, Wind Street, Neath. T. Perrot, Wind Street, Neath. Brass Band Contest, Sou A Wales and Monmouth Shire Association Rules, Band not under 24 in unmber, Selectious I Gems of Modern Melodies,' prize JE10 second 94. Mareh, Royal Review,'prize JB2. j Both published by Wright and Round. < Programmes Id each by post I fe. Hon. See., D. E. Thomas,LoElderslea,LondonRoad NeMJa. FFYNON TAF. Mae y ffynon enwog hon yn awr yn agored, ac onid ydyw yn drneni fod cym- aint-yn enwedig gweifhwyr a'u teuluoedd -yn parhau i ddyoddef poenau y rhiwma- tic pan y gallant gael esmwyth-had ar un- waith. Bydd gwellhad sicr a dyogel mewn ychydig wythnosau. Gall canoedd dystio i rinwedd y ffynon hon, y rhai fuont ynddi y tymhorau diweddaf. Nid yw pris y tocyn, yr hwn sydd yn parhau dros yr holl dymhor ond 3s. 6ch. FRONGOCH MINE (LEAD & BLENDE). Trawscoed, Cardiganshire. WANTED IMMEDIATELY FROM 50 to 100 MINERS. Regular employment given, and Good Wages made. Apply-THE MANAGER, Frongoch Mine, Devil's Bridge, Cardiganshire C V FANSODDIADAU CERDDOROL GAN ==IiI.('\ D. THOMAS, F.T.S.C. CANEUON, Gyda geiriau Cymraeg a Saesneg. Rhyfeddol uwyn fy Ngwlad,' T. neu S., 6c. 0 tyr'd yn ol,' T. neu S., Is. 'Gwlad fy Nghalon,' B. neu C., Is. AFTHEMAU. 0 deuwch, canwn,' Solffa, Ie. 'Cenwch i'r Arglwydd,' Solffa, lie., H.N., 4c. Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd,' Soiffa, lie. Cyfaddas fel Anthem Goffadwriaethol. Canig-(Glee) 'Yr Afonig,' Solffa, lie., H.N., 4c. CANTATAS. The Wise King,'Soitt'a, 6c., H.N., Is. ec.^Can be performed with or without character. The Woman ol Canaan, Solffa, 6c., O.N., Is. 6c. Derbynir galwadau fel beirniad cerddorol ac arweinydd cymanfaoedd. Am delerau &c., cy- feirier,-D. THOMAS, Curwen House, Park Street, Bridgend. Pontardawe Fifth Annual EISTEDDFOD, SEPTEMBER 16TH, 1899. Chief Choral—4 Y Blodeuyn Olaf (Am- brose Lloyd). Prize, £10 and Gold Medal. Male Voice—'In the Sweet' (Protheroe). Prize, £ 5 and a Silver Medal. Juvenile Choir—4 Tu draw i'r hen lor- ddonen (J Rees)' Prize, C2 10s. and a Silver Medal. Programmes may be had, at the usual price. Further partculars may be obtained from the Hon. Secs.-Messrs. J. L. Williams, Gwalia House, Pontardawe, and T. D. Williams, Gwyn street, Alltwen, Pontar- wdae, R.S.O., Glam. NOVEMBER 27th, 1899~ DOWLAIS 7th ANNUAL EISTEDDFOD MALE VOICE CHOIRS (not under 50 voices)- Where is He ?' (Beethoven s Engedi), 1st prize, JE25 2nd do., £ 5. CONGREGATIONAL CHOIRS, not under 58 voices—' Y Blodenyn Olaf,' by J. A. Lloyd. 1st prize, jei0 and Medal; 2nd do., R.3 and Medal. CHILDREN S CHOIRL-1 Youth's the season made for joys,' two-voice chorus, by E. Markham Lee, published by Curwen and Sons, Prize £3 and Silver Cup. Further particulars and programmes shortly. W. WHITBY, Hon. Sec., Warwick House, Dowlais, The Sawe. Mem. Academy Llansawel, Uandilo. Head Master: REV. T. GLYN-JAMES, Is '"•* „ B.A. (London), Lat<r tDr. Berraan Scholar, Presbyterian College, Carmarthen, Late Bennet King Scholar, New College, London. Lecturer in Homiletics: REV. D. B. RICHARDS, Crugybar. Preaching supplies very plentiful. The Ladies' Department very suecsssful. Apply for term to the Headmaster. Andrews' New Hall, Queen St., CARDIFF, ON WEDNESDAY, NOV. 8th, 1899. AN EISTEDDFOD Will be held on above date. Chief Choral, 'Ar don o ftaen gwyntcedd,' D. Parry, prize R15 15s. with Gold Medal. Male Voice, On the Ramparts,' prize 915 with Gold Medal. Solos. £1 Is. each. Adjudicators, M. O. Jones, Esq.: Prof. J. Morgan Harris, R.A.M.; Rhedynog Price, G.F .S Programmes from Silvanus Davies, Aelybryn, Montgomery Street, Cardiff. NEUADD GYHOEDDUS TREHARRIS —o— CYNELIR Eisteddfod E PAWREDDOG, yn y lie hwn DYDD MhRCHER, HYDREF 4, 1899. Beirniaid-Mri D. W. Lewis, Ysw., Brynaman; Michael Thomas, Ysw., Merthyr Vale; Seddon, Ysw., Kettering. Prif ddarn—' Worthy is the Lamb.' Gwobr, £15.. Y Programs yn barod ac i'w cael oddi- wrth yr Ysgn. am lg, prwy i Post am 1-Le. 2 Ysgn.—J. H. MORRIS, 10, Cardiff road, Treharris. D. DAVIES, 2, Windsor PI., Treharris Yn awr yn barod. Solffa 6c., 'DILYN YR IESTT Odl Gerdflorol ar ffarf Cantatg, syml, i Gorau bychain, a Chymanfaoedd. 'Following Jesus:' A Sacred Code for Small Choirs (Soli & Chorus),with String, Flute, and Organ, or Harmonium Accompaniment. (Performiwyd eisoes gyda llwydl^nfc mawr yn addoldy Nazareth, Ab .Ian. CANTATA Q-YSEGR& A'}, Y BIJGAIL DA ("THE GOOD SHEPHERD"). Pedwerydd Argcaffiad. Pris 2s. 6c.fSoIffa" Is 3c. Rhestr gyflawn o Anthemau, Cyd- ganan, Cantatas, Caneaon, &o. fi OJdiwrth yr awdwr-Tyalaw, Llanelli. Market Hall, Aberdar. CYNELIR Eisteddfod Fawreddog Yn y lie uchod Boxing Day, Rhag. 26, 1899. Beirniaid-Mri. M. O. Jones Treherbert, a J. S. Williams (Pencerdd Ogwen), Carnarfon. Prif Ddarn Corawl—" Worthy is the Lamb." Gwobr zC25 ail wobr, J65. Parti Meibion—"Little Church." Gwobr JE20 ail wobr, £ 5. Bydd y Programs yn barod mewn ychydig amser a gellir eu cael am y pris arferol oddiwrth yr Ysg- GRIFFITH GRIFFITHS, 2, Ynyslwyd street, Aberdar. University College of South Wales & Monmouthshire, CARDIFF, (A Constituent College of the U aiversity ot Wales .1 DEPARTMENT OF MINING. Thh Course of Study provided in this departs ment includes a libaral education in all branche of knowledge required to enable a candidate to obtain an appointment as an Inspector of Mines, to acquire a First-class Manager's Certificate, and to pass the Examination held by the Surveyors' Institution of London. By the kind permission of the President and Council of the South Wales Institnte of Engineers, the Mining Mine Surveying and Geological Lec- tures and Demonstrations will be held at the Insti- tute-buildings, Park Place, Cardiff, during the ensuing session, which begins on October 2nd, 1399, and ends on June 22nd, 1900. Lectures on all other subjects, including Assay- ing, will be held at the College as heretofore. For further particulars and a prospectus of the Mining Department apply to J. AUSTIN JENKINS. B.A., University College, Secretary and Registrar. Cardiff, Sept., 1899. Symadladau Llongawl Mri Jenkins, Williams, a'a Cwmni, Merchants' Exchange, Caerdydd. Gathorne wedi gadael Casnewydd am Huelva, Medi 7fed. North Tyne wedi cyrhaedd Kingis Lynn o Huelva, Medi 7fed. Rowtor wedi cyrhaedd Newport, Unol Dalaethau America, Medi 8fed. Powis wedi gadael New York am^Lis- bon, Medi 9fed. Fob gohebiaethau, hanesion. ac ysgrifau, i'w hanfon i'r E iitor, TARIAN Office, Cardiff Street Aberdare. Pob Taliadan ac Hysbysiadau i'w cyfeirio at G M. Evans, TARIAN Office. Aberdare.
[No title]
ANFFORTUN ar ol anffortun sydd yn dygwydd i'n cydgenedl yn y Wladfa yn Mhatagonia. Gellir dweyd fod y cymylau yn dychwelyd iddymt ar ol y gwlaw. Y maent wedi cael byd o helbul gyda y Llywodraeth Arianaidd. Torodd hono ei holl addewidion i'r Gwladfawyr, a gesyd ar eu hysgwyddau iau drom. Ond yn awr, dyma drychineb arall, yn y ffurf o lifeiriant na welwyd ei fath yno o'r cychwyn, wedi eu gorddiwes. Gwlawiodd yn rhyfedd o drwm draw tua chymydogaeth yr Andes daeth y dwfr i lawr fel diluw ar hyd yr afon, gan orchuddio dyffryn y Chupat, a dinystrio tai ag anifeiliaid. Nis gallwn ddweyd maint y dinystr, am nad yw y manylion wedi ein cyrhaedd, ond yn oh yr adroddiad diweddaf, rhaid fod y golled yn fawr iawn. Am filldiroedd lawer oddiwrth yr afon yr oedd y wlad yn for; y cnydau oeddent wedi eu 11 wyr ddinystrio, yr anifeiliaid a fodd- wyd, a'r tir a ddadsylfaenwyd. Dywedir fod tref Rawson wedi cael ei hysgubo ymaith agos oil; nid oedd nemawr or prif adeiladau yn aros. Ofnwn fod bywydau lawer wedi eu colli, er nad yw yr hanes wedi ein cyrhaedd eto. Diau y bydd ton o gydymdeimlad a'n brodyr yn y wlad bell yn cyniwair trwy y Dywysogaeth o gwr i gwr. Nid oes neb dvnion yn gyfrifol am y trychineb hwn rhaid ei briodoli i Raglun- iaeth, Ni dciylai j cydymdeimlad ychwaith fod yn gydytnieimlad gwag dylai esgor ar gymorlh i'r Gwladfawyr. Ondcya cychwyn yt) ycyfeirialol hwnw, gwell aros am ych- waneg o wybodaeth. GYDA dyddordeD "~N77^RR hanes cyfarfodydd Unae ^Beayddwyr yn Rhymni. Dyma y tro cyntaf, am ba reswm nis gwyddom, i'r Uiideb ymweled a'r Cwm hwn. Ac eto, nid lie dyeithr i'r Bedyddwyr ydyw Rhymni. Yno gynt y bu y ddadl enwog a elwir weithiau yn Ffair Fedydd; yno y bu y pregethwr cryf a'r lienor llafurus MATHETES, yn cyfaneddu. Y mae yn bur sicr hefyd nad hir y bydd Undeb y Bedyddwyr cyn ymweled eto a'r Cwm. Dymunem alw sylw at ddau beth gymerodd le yn yr Undeb. Uu yw araeth y cadeirydd. Yr oedd ar lefel mwy dyrch- afedig, yn llawnach o'r ysbrydol a'r pur na'r areithiau arferol o'r gadair. Nid oedd mor ddoniol ag eiddo Dr. GOMER LEWIS yn Aberdar, nac efallai mor llawn o ath- rylith ag ambell un arall; ond braidd na fentrem ddweyd fod Mr. DAVIES lawn mor lednais a phur, ac yn ymddyrchafu i dir- iogaethau mwy ysbrydol. Diau ddarfod iddo gyffwrdd a'r un pwnc angenrheidiol yn ei vmdriniaeth a bvwvd mewnol vr eglwvs. Y mae cael hwnw yn lan a gloew yn an- feidrol mwy pwysig na chynyddu mewn aelodau, ac na chasglu arian. Y peth arall yr hoffem alw sylw ato ydyw papyr y Prif- athraw ROBERTS ar Addysg. Nid rhaid dweyd fod yr ymdriniaeth yn alluog, a bod y Prifathraw yn gosod hawliau addysg gerbron yn oteu ac yn gadarn. Os yw y wlad i Iwyddo, rhaid i gerbyd addysg fyned yn ei flaen. Fel arfer, tori ei gyhoeddiad a wnaeth Mr. LLOYD GEORGE. Yn sicr, y mae yn bryd i'n haelodau seneddol ddysgu bod yn ffyddlon i'w hymrwymiadau. 0 NID ydym yn gwybod am ddim mwy gwarthus na'r modd y dygid prawf DREYFUS yn mlaen yn Ffrainc. Y mae y milwriad a eistedda ar y fainc fel llywydd y llys yn ddyn gwan y mae mor glir a'r dydd ei fod yn llawn o ragfarn at y cyhuddedig, ac weithiau, bydd yn colli ei dymher, gan ysgrechain fel porchell mewn llidiart. O'i gwmpas ceir prif swyddogion byddin Ffrainc fel mintai o ellyllon, yn ceisio dyfeisio y cynlluniau mwyaf uffernol i bardduo DREYFUS, a'i arddangos i'r byd fel dyn euog. Nid digon ganddynt dyngu celwydd eu hunain, ond y maent yn cyflogi dyhyrod haner gwallgof i wneud yr un peth. Dydd Sadwrn diweddaf, cyhoeddwyd dedfryd o ddeg mlynedd o garchanad iddo. Er hyny, y mae DREYFUS yn ngolwg y byd yn ddyn rhydd, ac yn nghyfrif Ewrop fod swyddogion byddin Ffrainc wedi profi eu hunain yn dwyllwyr, gan wyrdroi ffeithiau, dyfeisio anwireddau, a ffugio ysgrifau. Rhaid y daw trallod arnynt. Os na ddaw, y mae yn sicr o dynu dial ar y wlad. Nid yw yn bosibl i un- rhyw wladwriaeth lwyddo gyda chreadur- iaid mor filain yn swyddogion. -:0:- Nis gallwn lai na chywilyddio wrth ddarllen hanes yr ymladdfeydd teirw sydd yn cael eu cynal yn un o'r porthladdoedd agosaf atom perthynol i Ffrainc. Eu hunig amcan yw boddhau nwyd y bobi sydd yn ymhyfryddu mewn creulondeb. Nid oes prawf sicrach o fod cenedl yn ymddirywio ac yn colli ei dynoliaeth, fla'i bod yn gwaeddu am dywallt gwaed anifeiliaid a dynion er eu cynhyrfu. Cawn y genedl Rufeinig, pan wedi colli ei gwroldeb, a'r Ysbaeniaid masw yn brestnol, yn ymbleseru mewn gweled dynion yn ymladd ag anifeil- iaid gwylltion, ac nid pwysig yn eu golwg fod dyn weithiau yn colli ei fywyd yn y frwydr. Y difyrwch sydd yn cymeryd yn Boulogne yn awr yw dynion yn ymladd a theirw. Cymer hyn le ar y Sul, ac nid yw yr Eglwys Babaidd sydd yn oruchaf yn y ddinas ddim yn codi ei llais yn erbyn. Gwaeth na'r cyfan, Prydeinwyr gan mwyaf sydd yn cynal y sport. Ymwelwyr Seisnig gan mwyaf a lanwant y lie, a bydd pleser- fadau yn cyrhaedd yno ar foreu y Sabboth o Loegr, yn llawn o ddynion, yn awyddus am edrych ar y chwareuon creulon. Dy- wedir fod canfod gwaed yn lltfo o gorff y tarw neu o gorff y dyn sydd yn ymladd ag ef yn eu cyffroi i orphwylledd. Byddant yn gwaeddu weithiau fel gwallgofiaid pan fyddo y dyn yn cael y gwaethaf, Bravo'r tarw 1 a phryd arall bydd y tarw yn cael ei hyssio am nad yw yn ymladd yn ddigon ffyrnig. Wrth ddarllen am y golygfeydd ysgeler, ac am yr edrychwyr barbaraidd yn ymhyfrydu yn y fath greulonder, nis gallem lai na gwrido o herwydd ein bod yn ddynion. 0 Bu cynadledd y gweithwyr yn eistedd trNY gydol yr wythnos ddiweddaf yn Plymouth. Yr ydym yn edrych ar y gyn- adledd fel cynulliad o bwysigrwydd dirfawr; dyma senedd llafur, ac er na fedd awdur- dod i lunio cyfreithiau, y mae ei llais yn cael ei glywed a'i deimlo trwy yr holl fyd. Bu Uu o gwestiynau dan sylw, gormod i ni allu cyfeirio at y degwm o honynt. A.r rai materion, ceir unfrydedd hollol, a byddai yr ymdriniaeth yn llyfn a thawel. Bryd arall, byddai annghydwelediad, a cheid dadl frwd, ac weithiau torai allan yn ystorm. Pasiwyd penderfyniad o blaid codi yr oedran y bydd plant yn gadael yr ysgol ynddo, ac yn dechru gweithio. Gwel- ir fod barn senedd llafur o blaid addysgiant gorfodol plant. Condemniai un gyda ffyrnigrwydd waith cenedl yn adeiladu ei chyfoeth a chwys plant. Pwnc arall y pasiwd penderfyniad cryf arno oedd llafur Sabbothol. iTr oedd y gynadledd am wneud i ffwrdd a hyn hyd byth ag sydd bosibl. Ond rywsut, nid oedd yn gyson a I hyn, oblegyd gwrthodai y cadeirydd yn bendant roddi y cwestiwn i fyny parthed llafur ary Sul mewn tafarndai. Tybed fod y waiters ydynt yn cael eu cadw i mewn yn Lloegr Sul gwyl a gwaith i werthu cwrw a gwirod, yn fodau rhy isel i gydymdeimlad gweithwyr y wlad ? Nis gallem lai na theimlo fod y gynadiedd yn hynod o an- nghyson a hi ei hun yn y mater hwn. DIFFYG gorphwysdra, ac aflonyddweh dibendraw, a deimlir yn awr trwy holl gylchoedd llafur. Nid yw ein gweithwyr mewn un modd yn foddlon ar eu cyflwr; credant fod y rhai sydd yn eu cyflogi yn cael mwy na'u rhan gyfiawn o elw, a'u bod yn ymgyfoethogi ar eu cefn hwy. Efal" mai yn mysg y morwyr y teimlir yr afl ¡ yddwch gryfaf ar hyn o bryd. Y mae u I harweinwyr hwy mewn amryw o'r prif borthladdoedd yn bygwth streic. N;d -Jym yn sicr eu bod yn gywir wrtlj haeru, | tod y rhai sydd wedi suddo eu hannn mewn Uongau yn derbyn elw rhesymol. Gwir fod y managers yn derbyn elw mawr yn fynych, ac yn ymg) foethogi yn brysur. Ond am y rhai sydd wedi gosod eu harian ar y Ilestri, byddant weithiau flynyddoedd heb ddim Hog. A chyda hyny byddant yn colli y corff. Eto, rhaid i bawb gyfaddef nad yw y morwyr, sydd yn ymladd y fath beryglon, yn cael y tal dyledus iddynt. Yr ydym yn rhestri y glowyr a'r morwyr yn yr un dosbarth: yn nghanol perygl y cyflawna y naill a'r llall eu gor- uchwylion,. a dylai y tal am y gwaith fod yn fwy oblegyd hyny. Ar yr un pryd, hyderwn na thyr streic allan yn mysg y morwyr. Pe y cymerai hyny Ie, beth a ddeuai o'n bara beunyddiol ? Oblegyd ar wledydd tramor yr ydym ni yn dibynu am gynaliaeth.
-------------------PRYDAIN…
PRYDAIN A'R TRANSVAAL. Duo y mae yr awyrgylch yn barhaus yn nghyfeiriad y Transvaal, a chryfhau y mae y tebygolrwydd am ryfel. Yn Mhrydain Fawr ac yn mysg y Boeriaid, gwneir parotoadau rhyfelgar gyda'r cyflym- dra mwyaf. Ac eto, nis gwyr y naill wlad na'r llall yn iawn am beth y maent yn myned i ymladd. Nid oes un tsstyn rhyfel gwirioneddol yn bod y mae y pynciau mewn dadl yn rhai hawdd eu penderfynu heb dywallt gwaed. Y drwg yw, fod y naill wlad wedi colli ymddiried yn y llall, a hyny nid heb beth rheswm. Nid rhyfedd fod pobl y Transvaal yn teimlo yn ddrwgdybus wrth gofio ruthr ynfyd 'Dr.JIM,j a pheth- au ereill; llafuriant dan y gred fod Lloegr yn benderfynol o gael eu gwlad, ac mai pa fwyaf a roddant i mewn i Mr. CHAMBER- LAIN, mai uchaf oil y bydd yntau yn codi ei delerau. O'r ochr arall, teimlir yn y wlad hon nad yw yr Arglwydd KRUGER yn onest; ei fod yn ceisio llwydo'i dwfr, ac nad yw yn bwriadu cyflawni ei addewidion. Dygwyddodd dau beth o bwys yn nglyn a hyn er pan ysgrifenasom o'r blaen. Un yw araeth Mr. JOHN MORLEY. Yn anffodus, y mae Mr. MORLEY, rywsut, nas gwyddom yn iawn pa fodd, wedi colli llawer o'i ddylanwad hyd yn nod yn mysg y Rhydd- frydwjjr; ond y mae cryn bwys yn ei eiriau eto, gan fod pawb yn credu yn ei allu, ac argyhoeddedig o'i onestrwydd. A than deimlad o gyfrifoldeb dwys y llefarai y tro hwn. Condemniai ryfel a'r Boeriaid yn y modd cryfaf; addefai eu bod yn feuis ac yn flinderus, ond maentymiai nad oes yr un achos digonol yn bod dros dynu y cledd o'i wain. Ei gynghor ef oedd, amynedd. Drwg genym weled un o'r aelodau Cymreig, sef Mr. ELLIS GRIFFITH, yn cyfeirio at y cynghor mewn ton ddirmygus, ac yn dweyd mai amynedd yw y cynghor a roddir yn gyffredin gan ddynion i bobl ereill. An- hawdd genym gredu nad yw araeth Mr. MORLEY wedi cynyrchu cryn ddylanwad hyd yn nod yn mysg y Toriaid. Y peth arall pwysig a gymerodd le yn y cysylltiadhwn oeddcyfarfyddiad y Weinydd- iaeth. Ni fydd aelodau y Llywodraeth un amser yn cyfarfod yr adeg hon oni bai fod pwnc o bwysigrwydd uniongyrchol yn galw am ymdriniaeth. Ac nid oes amheuaeth nad mater y Transvaal a'u dygodd yn nghyd. Bu yr ymgynghoriad yn faith, ac yn ddiau yn ddwys, ond nis gwyr neb i ba benderfyniad y deuwyd. Credir fod y weinyddiaeth yn rhanedig Mr. CHAMBER- LAIN, Mr. GOSCHEN, a Due DEVONSHIRE yn awyddus am ryfel, a Arglwydd SALISBURY, Mr. BALFOUR, ac Syr MICHAEL HICKS- BEACH, yn fwy annhueddol i ddadweinio y cledd, Syndod hefyd fod y rhai a ymgyf- enwant yn Rhyddfrydwyr, o blaid tywallt gwaed, a'r Toriaid rhonc yn erbyn. Ni fu erioed fwy o angen gweddio am i'r Arglwydd wasgar y bob! sydd dda ganddynt ryfel. Yn mysg y blaenaf t)'r cyfryw, gallwn restru y Times. Dyma y newydd- iadur mwyaf ffyrnig ei don sydd yn dyfod allan o'r wasg y mae ar ei eithaf yn ceisio cyffroi teimladau drwg. Bydd bob dydd yn gyflawn o fygythion. Y llall yw Mr. CHAMBERLAIN. Bob amser braidd pan fyddo yr awyrgylch yn dechreu clirio, a'r argoel am heddwch yn dyfod yn fwy gobeithiol, bydd ef yn traddodi araeth filain, gan ddwrdio a bygwth. Fel y Gwyddel, nid yw un amser yn agor ei safn nad yw yn gosod ei droed ynddi. Ac yr ydym yn ofni y rhaid gosod rhai o'r aelod- au Cymrelg yn mysg y rhai sydd dda gan- ddynt ryfel yn yr amgylchiad hwn. O'n rhan ein hunain, yr ydym yn datgan gobaith y llwyddir i gael pethau i drefn heb dywallt gwaed. Ond y mae ein gobaith yn awr yn bur wan. Bydd y dafol yn debyg o fod wedi troi un ochr neu y llall erbyn y bydd y llinellau hyn yn cael eu darllen.
. AECANIA.
AECANIA. Y mae meistradoedd Cymreig Alcania o'r diwedd wedi symud y gwaradwydd a roddid arnynt o fod yn alluog i ddwyn eu hunain les, a hyrwyddo y busnes yn mlaen yn y modd goreu. Dydd Mawrth diweddaf gwnaeth sylweddoli y gwaith o sefydlu Undeb, yr hon am dair flynedd oedd yn hollol anmhriodol ac annghytunus. Fe benderfynwyd i drafod annghydwelediadau gyda chynrychiolwyr y gweithwyr wrth y gynadledd fyrddol, ac y mae yn fater o hyfrydwch i ddeall fod y gwneuthurwyr atcan Cymreig i gael eu llongyfarch ar eu llwyddiant yn sefydlu Cymdeithas y Gwneuthurwyr Llafnau a Sheets. Vmgynullodd nifer fawr o gyflogwyr yn yr Exchange, Abertawe. Llanwodd Mr Trubshaw, Llanelli y gadair. Yn mysg boddhad cyffredinol, etholwyd Mr Ernest Trubshaw, Llanelli, yn gadeirydd eyntaf y gymdeithas newydd, Etholwyd Mr Beun- mont Thomas, Lydney, gadeirydd dirprwy- ol, a Mr T W Jones yn ysgrifenydd. Fe gvhoeddwyd fod boneddwyr oedd yn trafod tri chant o felinau yn barod wedi arwyddo telerau y Gymdeithas, ac fe wneir yr un peth eto gan ereill sydd yn trafod 30 o felinau allan o 66 o felinau ereill oedd allan o'r dosbarth, megys y Wyddgrug, a thra y dysgwylid i berchenogion ereill i arwyddo, n'd oedd ond dwy neu dair o weithfeydd t wedi gwrthod gwneud hyny. Fe ben- tkTtynwyd ar ol ychydig o ymdrafodaeth i \Y odd cynrychiolwyr y gweithwyr i Gyn- aa dd Gyffredinol yr wythnos nesaf.
LLYTHYR4. NEWYDD
LLYTHYR4. NEWYDD GAN FACHAN 1FANC. Mishdir y DARIAN,-Y mae y byd gwar- eiddiedig wedi bod a'i anal yn i ddwrn am wythnosa yn awr yn dishgwl am ddiwadd Trial Dreyfus, ac er nad yw'r achos yn perthyn yn acos iawn i ni yma ar yr olwg gynta, ma bron pob un sy yn teimlo dyddordeb yn y ffordd ma'r byd yn mynd yn mlan, wedi bod yn teimlo dyddordeb yn yr achos hwn. Ma'r diwadd wedi dod, a ma'r resylt wedi creu cyffro nas gwyr neb beth fydd ei ben draw. Yr oeddwn wedi ein pensyfrdanu wrth ddarllan hanes di- oddefiadau yr Iddew Dreyfus ar Ynys y Diafol am bum' mlynedd, a phob dyn ys- tyriol ag oedd yn meddu gronyn o ddyn- garwch wedi ei enill i gydymdeimlo ag ef, hyd y nod a chaniatau ei fod yn euog o'r trosedd brwnt o fradwr, a thrwy ymyriad dyngarwyr y cafodd y fantais i gael ail dreial—yr hwn yn awr sydd wedi gorphen fel seliad i'r treial cyntaf. Dyw a ddim iws i fl i dowli llinyn mesur dros allu doethion barnol un wlad, hyd y nod iy ngwlad fy hunan ond fe allwn feddwl fod gyta ni rhwpath i'w ddysgu yn y fysnas hyn. I ni yn siarad ac yn synu fod gwlad oleuedig fel Ffrainc yn cal i riwlo yn gyfangwbl gen y sowdjwrs, a fel i ni wedi gweld yn y trial hyn nag odd dim argiwments a chomon sens ddim yn cal un sylw genti nhw. Dim ond ffordd u hunen nela'r tro, a fe allwn i feddwl fod gyta ni yn y wlad hon le i gym- eryd lesin orwthi nhw. I ni yn lied duedd- ol i frago yn bod ni yma yn y cwrts of justis, o'r majistrets meetins lan i'r seisis, yn rhci cyfiawnder mor bell a sy bosib, ond ma arno i ofan fod cwrts marshal yn sowd- jwrs nina yn gwinto dicyn bach o'r un clefyd a chwrt Rennes; a nag yw yn gwlad ni ddim yn gwpod ond chytig iawn beth sy yn cal i gario mlan yno. Falla cewn ni report amball waith am amball un yn cal u wech mish am ddishgwl yn gas ar rhw officar, ne am wilia iaith i hunan, ne rhw gic bach lletwith, na fydd y big bygs ddim yn lico, ond am yr ins and owts sy yn cal u trafod yn yr Army a'r Nafy i ni yn ddi- con amddifad o'r wybodaeth. Dyna beth arall sy yn dangos yn ddicon plaem fod dy- lanwad milwr yn fwy yn Mhrydan Fawr yn ogystal a Pfrainc, na ma Mawar yn feddwl, vw u bod nhw yn gallu doti u dwy- lo yn mwrs y wlad fel ma nhw yn dewish heb ofyn dim i'r wlad am hyny. Pryd bydd isha gneid rhw act newydd i gal tocins i helpu rhw amcan sosial ne sifil, ma rhaid cat*v'r pwnc o flan y wlad am flyn- ydda, a wilo miwn i bob cornal ffordd ma gneid, a ble ma cal tocins, yr un shwt a ma i yn awr bothti penshwns i hen ddyn- on, ond os bydd isha miliwn o buna a mil- oedd o fywyta i ddiffendo whims y capit- alits a'r aristocrasy, ma nhw yn cal u ffin- do mwn amsar bach heb gonsylto dim a'r wlad na'r aelodau Seneddol sy yn cynrych- ioli y wlad. Ma'r Gyfarmant a'r Officars yn diall u gilydd i'r dim, a ma nhw yn gw- pod i'r dim ble ma doti pawena ar beth fydd isha arni nhw heb dwtsh u heta i neb o drethdalwyr y dyrnas. Ma nhw yn ddi- con ciwt i gatw pobpath o'r golwg nes bod i yn rhy ddiweddar i ddoti stop ar u mwf- mants nhw. Dyna fysnas y Transfaal yn awr yn brawf o'm argiwmant i. Ma Joe Brum a gwyr y powdwr a'r cleddyfa wedi gneid y cwbl yn u ffordd nhw'u hunen, a dyma ni yn beio gwyr Ffrainc am u bod yn caniatau i gymeryd eu llywodraethu get y blydhounds sy a dim mwy o olwg genti nhw ar fywyd dyn na bywyd pilipala. Ma'n bryd i ni acor yn llyced i gal golwg ar yn sefyllfa ni yn hunan, wath ma cysylltiadau agosach nag i ni yn meddwl rhwng y gallu milwrol a'r gallu llywodraethol ar ein pen- tan ni.
Y BYD YN MYND I RYWLE.
Y BYD YN MYND I RYWLE. Dyna'r rheswm mawr fod gyta ni rhw- patn i wilia a 'sgrifenu arno. Dw i ddim ond ifanc fel i chi yn gwpod, ond dw i ddim yn meddwl fod hen ddynon wedi gweld y byd yn mynd yn nghynt i rhwla nag yw a yn awr. W i wedi gweid lawar gwaith- bysa addysg yn dod a ni i'n lie, ond ma pethach erill yn scwto'u hunen ne yn cal u scwto wth gwt addysg sy'n spoilo y mwf- mant mawr o oleuo'r byd. Ma rhw air mawr gyta'r boys sy yn cymryd arni nhw i fod yn ledars mwn ediceshon fel yn an- hebgorol angenrheidiol (ys gwetws y traethodwrs) i helpu ediweeshon i fynd yn mlan, a hwnw yw-recrimshon. Odd y plant slawar dydd yn arfadd wara yn weddol gyson, a weddol deidy, a os neb yn lico gweld plant yn wara ac yn enjoyo u hunen yn well na fi, ond ma hi wedi mynd yn system yn awr fod cymant o bwys fod crotyn ne grotan yn dysgu reido'r beic, wara cricet, a ffwtbol, tenis a golff, ag yw a iddi nhw ddysgu tw and tw is ffor, yr at- las, a'r jeography, gramar a composishon, a phethach felna odd yr hen ysgolfeistri yn pwno i'n pena ni ys llawar dydd. Dyna beth sy yn od hefyd fod y deleit at y lein yna yn citsho yn y plant yn nghynt na'r deleit at lyfra, a dw i ddim yn gwpod fod neb o nhw wedi cal u cosbi am ffaelu dysgu yn y lein yna. Ma recreeshon ac amiwsant yn cymryd yn nobi iawn, a ma'n ienctyd ni yn tori dash dychrynllyd yndi nhw hefyd, a ma lie i ofni fod amiwsmant arall yn dechra dod i gal sylw yn acos ato ni, fel epidemic orwth y fforinars, a fe fydd gofyn i swyddogion y sanitary meddyliol yn gwlad ni fod ar y lwc owt onte fe fydd yma heb yn wpod iddi nhw. Beth w i yn pwynto ato yw- YMLADD TBIRW. Fel i chi wedi cal ar ddeall yr wthnos ddwetha ma'r fysnas greulon yna wedi dod o fewn can' milldir i'n glanau ni a, manteis- on yn cal u cynyg i wyr y wlad hon i fynd iddi gweld nhw ar delera ishel bob dtdd Sul, a ma llawar o ddynon a mynywod, ne falla ta gentlemen a ladies ddylwn i weid, yn mynd bob dydd Sul iddi gweld nhw, a rhai o nhw yn cal bias anghyffretin wth hyny yn ol pob cownt. Dyw hyn yn ym meddwl i ddim ond rag- ymadrodd i'r gem ddod yma, fel ma petha erill wedi dod o'r blaen, a'r dcsbarth ucha sy yn helpu introdiwso pethach o'r short bob amsar. Os dim ots yn y byd beth fydd cwality y sport, na faint o gost fydd i'w gal os bydd a yn unol a'u chwaeth nhw, a ma rhw flys am rhwpath newydd yn para yndi nhw o hyd, wath os dim arall genti nhw i neid.