Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Yn Ei Gamrau Ef. --'--

News
Cite
Share

Yn Ei Gamrau Ef. BETH WNELAI YR IESU? PENOD VIII.— (FARHAD.) Beth yw hyny i ti? Canlyn di fyfi" g £ Neu cymerwch achos Mr Norman, golygydd y Daily News. Anturiodd ef ei holl ffortiwn mewn ufudd-dod i'r hyn gred- ai fyddai ymddygiad tebygol Iesu, a gwn- aeth chwyldroad hollol ar y dull o ddwyn y papyr yn mlaen, heb wybod llai na meth. iant fyddai. Yr wyf yn anfon copi o bapyr ddoe i chwi. Mae arnaf eisieu i chwi ei ddarllen yn ofalus. Yn ol fy meddwl i, mae yn un o'r papyrau mwyaf dyddorol a hynod a argraffwyd erioed yn yr Unol Dalaethau. Y mae yn agored i feirniad- aeth, ond beth allai yr un dyn byth ei gynyg yn y ffordd yma fyddai yn rhydd oddiwrth feirniadaeth ? A chymeryd i ystyriaeth bobpeth, y mae gymaint uwch- law y dull cyffredin o ddwyn allan bapyr dyddiol, fel yr wyf wedi rhyfeddu at y canlyniad. Dywed wrthyf fod mwy o ddarllen arno yn barhaus gan bobl Grist- ionogol y ddinas. Y mae yn bur hyderus o'i lwyddiant yn y diwedd. Darllenwch ei erthygl olygyddol ar bwac yr arian, hefyd ar yr etnoliad agos- haol yn Raymond, pryd y daw pwnc y trwyddedu yn mlaen. Y mae'r ddwy erthygl yn mysg y goreuon o'i safle ef ar y pwnc. Dywed na fydd byth yn dechreu erthygl, nac mewn gair, unrhyw ran o waith ei bapyr, heb yn gyntaf ofyn, Beth wnelai yr Iesu?' Mae'r canlyniad yn amlwg ddigon. Dyna Milton Wright, hefyd, y masnach- wr. Mae ef, fel y mynegwyd i mi, wedi gwneud y fath chwyldroad ar ei fusnes, fel nad oes yr un dyn yn Raymond yn cael ei garu yn fwy nag ef y dydd heddyw. Mae gan ei glercod a'i weithwyr ef ei hun serch rhyfeddol tuag ato. Yn ystod y gauaf, pan yn gorwedd yn beryglus o wael gartref, cynygiai ugeiniau o glercod eu gwasanaeth i wylio neu gynorthwyo yn mhob modd dichonadwy, a llongyfarchid ei ddychwel- iad i'r ystordy gyda phob arwyddion o lawenydd. Dygwyd hyn oddiamgylch gan yr elfen o gariad personol sydd wedi ei dwyn i mewn i'r fusnes. Nid geiriau gwag ydyw y cariad hwn, ond dygir yn mlaen y busnes ei hun o dan gyfundrefn o gyd- weithiad nad yw yn edrych ar rai fel is- raddiaid, ond cyfranogiad gwirioneddol o'r holl fusnes. Edrycha dynion ereill yr heol ar Milton Wright fel dyn rhyfedd iawn. Y mae yn ffaith, fodd bynag, tra y mae wedi colli yn drwm mewn rhai cyfeiriadau, mae wedi ychwanegu ei fusnes, a heddyw, perchir ac anrhydeddireffel uno fasnach- wyr goreu a mwyaf llwyddianus Ray- mond. I A dyma Miss Winslow eto. Y mae hi wedi dewis cysegru ei thalent wych i dIod. ion a thrueiniaid y ddinas. Cynwysa ei chynlluniau sefydliad cerddorol, lie bydd canu a dosbarthiadau, cerddorol yn nodwedd. Mae yn frwdfrydig gyda gwaith ei bywyd. Mewn cysylltiad a i chyfeilles, Miss Page, mae wedi cynllunio cwrs mewn cerddoriaeth, yr hwn, ond ei gario allan, a wna lawer er dyrchafu bywyd y bobl sydd i lawr yna. Nid wyf yn rhy hen, fy anwyl Caxton, i beidio cymeryd dyddordeb yn ochr ramantus llawer o bethau sydd wedi bod yn bruddaidd ddigon yn Raymond, a rhaid i mi ddweyd wrthych y deallir yma yn gyffredinol fod Miss Winslow ar fedr priodi y gwanwyn yma a brawd Miss Page, yr hwn oedd unwaith yn troi mewn cym- deithas uchel, ac yn y clybiau, a'r hwn gafodd ei argyhoeddi mewn pabell lie y cymerai ei ddarpar-wraig ran flaenllaw yn y gwasanaeth. Nid wyf yn gwybod holl fanylion y rhamant fechan yma, ond tybiaf fod yna stori fechan yn amdoedig ynddi, a byddai yn ddyddorol iawn ei darllen, pe gwyddem hi oil. I Nid yw y rhai hyn ond ychydig o eng- reifftiau o ganlyniadau mewn bywydau unigolion mewn ufudd-dod i'r ymrwymiad. Bwriadwn son am y LIywydd Marsh, Coleg Lincoln. Mae wedi graddio yn yr un coleg a ninau, a meddwn ryw gymaiut o adna- byddiaeth o hono pan oeddwn flwyddyn yn mlaen arno. Cymerodd ran flaenllaw yn y symudiad dinesig diweddar, ac edrychir arno fel un y cyrhaedda ei ddylanwad yn mhell yn yr etholiad agoshaol. Rhoddes argraff arnaf, yr un modd a'r dysgyblion ereill yn y symudiad hwn, fel un oedd wedi ymladd allan rai cwestiynau caled, a chym- eryd i fyny rai beichiau gwirioneddol sydd wedi, ac yn parhau i achosi y dyoddefaint hwnw y sonia Henry Maxwell am dano- dyoddefaint nad yw yn alltudio, ond megys yn angerddoli llawenydd pendant ac ym- arferol. Ond dichon fy mod yn eich blino a'r llythyr maith yma. Yr wyf yn alluog i osgoi y teimlad o swyn mae fy holl arosiad I yma wedi ei gynyddu. Rhaid i mi ddweyd rhywbeth wrthych am y cyfarfod yn yr Eglwys Gyntaf heddyw. I Fel y dywedais, clywais Maxwell yn pregethu. Ar ei gais taer, pregethaswn drosto y Sul blaenorol, a dyma y tro cyntaf i mi ei glywed er y gymanfa bedair blynedd yn ol. Yr oedd ei bregeth y boreu heddyw mor wahanol d'w bregeth y pryd hwnw, fel pe buasai wedi cael ei meddwl a'i phregethu gan ryw un yn byw mewn planed arall. Teimlais i'r byw. Credwyf i mi golli dagrau. Teimlai ereill yn y gynulleidfa yn debyg i un. Ei destyn oedd—' Beth yw hyny i ti, canlyn di fyfi ?' Ac apeliad an- arferol o ddwys ydoedd at Gristionogion Raymond i ufuddhau i ddysgeidiaeth Iesu, a dilyn ei ol, yn annibynol ar yr hyn wnai ereill. Nis gallaf roddi i chwi hyd yn nod amlinelliad o'r bregeth, gan y cymerai ormod o ofod. Ar ddiwedd y gwasanaeth yr oedd cyfarfod fel arfer, yr hwn sydd wedi dyfod yn nodwedd amlwg yn yr Eglwys Gyntaf. I'r cyfarfod yma y daw pawb fyddo wedi gwneud ymrwymiad i wneud fel y gwnai yr Iesu, a threulir yr amser mewn brawdoliaeth gyfeillgar, cyffesiadau, cwestiynau mewn perthynas i'r I hyn wnai lesu mewn achosion neillduol, ac mewn gweddi mai yr un arweinydd mawr ¡ yn mywyd pob dysgybi fyddai yr Ysbryd Glan. I 4 Gofynodd Maxwell i mi ddyfod i'r cyfarfod hwn. Ni ddatfu i ddim erioed, Caxton, yn fy holl fywyd gweinidogaethol, wneud i mi deimlo cymaint a'r cyfarfod hwnw. Ni theimlais bresenoldeb yr Ysbryd eriod mor nerthol. Cyfarfod o adgofion ydoedd, ac o'r cydgyfeillach mwyaf cariad- lawn. Cludid fi yn ol yn anwrthwynebol o ran fy meddwl i flynyddau cyntaf Cristion- aeth. Yr oedd rhywbeth oddeutu hwn oedd yn apostolaidd yn ei symledd a'i ddilyniad o Grist. Gofynais gwestiynau. Un oedd, megys yn creu mwy o ddyddordeb na'r un arall, oedd gyda golwg ar helaethrwydd aberth y dysgyblion Crist onogol o'u heiddo personol. Dywed Henry Maxwell wrthyf nad oes neb hyd yn hyn wedi esbonio ysbryd Iesu yn y fath fodd fel ag i roddi i fyny ei feddian> au daearol, rhoi ymaith ei holl gyfoeth, neu mewn unrhyw ffordd lythyrenol, efelychu Cristionogion urdd St. Francis, Assisi, er esiampl. Cydsynient oil, fodd bynag, os teimlai unrhyw ddysgybl y gwnai lesu hyny yn ei achos ef, nas gallai fod ond un atebiad i'r cwestiwn. Cyfaddefai Maxwell yn rhwydd ei fod ef i raddau yn ansicr gyda golwg ar ymddygiad tebygol lesu pan y daethai i fanylion cadw ty, meddianiad cyfoeth, a chael moethau bywyd. Y mae yn amlwg ddigon, fodd bynag, fod llawer o'r dysgybli )n hyn fwy nag unwaith wedi cludo eu hufudd-dod i Iesu i'r terfyn eithaf, yn ddisylw o golled arianol. Nid oes brinder, dewrder, neu gysondeb ar y pwynt yma. Y mae hefyd yn wir fod rhai o'r dynion mewn masnach a gymerasant yr ymrwymiad, wedi colli symiau mawrion o arian yn eu hefelychiad o'r Iesu, ac y mae llawer iawn, fel Alexander Powers, wedi colli sefyllfaoedd da ar gyfrif yr anmhosibl- rwydd o wneud yr hyn arferent wneud, ac ar yr un pryd wneud yr hyn deimlent wnai Iesu yn yr un lie. Mewn cysylltiad a'r achosion hyn, y mae yn hyfryd cofnodi y ffaith fod llawer o'r rhai ddyoddefasant yn y ffordd yma wedi cael eu helpu yn arianol gan y rhai sydd eto yn berchen moddion. Yn yr ystyr yma, ystyriwyf ei bod yn wir fod y dysgyblion hyn a phob peth gan- ddynt yn gyffredin. Yn sicr ddigon, y mae golygfeydd y bu'm yn dyst o honynt yn yr Eglwys Gyntaf yn y cyfarfod hwnw ar ol, yn gyfryw nas gwelais erioed eu cyffelyb yn fy eglwys fy hun, nag mewn un eglwys arall. Ni ddychmygais erioed y gallasai y fath gydgyfeillach Gristionogol fodoli yn yr oes yma ar y byd. Yr wyf bron annghredu fy synwyrau fy hun. Byddaf megys yn gofyn i mi fy hun, ai dyma derfyn y bedwaredd ganrif ar bym- theg yn America ? Ond yn awr, anwyl gyfaill, dyma fi yn dyfod at wir achos y llythyr, cnewyllyn yr holl gwestiwn, fel y mae Eglwys Gyntaf Raymond wedi ei wthio arnaf. Cyn i'r cyfarfod derfynu heddyw, cymerwyd mesur er sicrhau cydweithrediad yr holl ddysgybl- ion Cristionogol yn y wlad yma. Credaf i Henry Maxwell gymeryd y cam yma ar ol hir ystyriaeth. Lied awgrymodd hyny i mi un diwrnod pan elwais arno, a phan oeddym yn ymdrin ag effaith y symudiad hwn ar yr Eglwys yn gyffredinol. I I Beth,' ebai, pe byddai i'r holl aelodau eglwysig yn gyffredinol yn y wlad yma wneud ymrwymiad a byw i fyny iddo ? Y fath chwyldroad achosai yn ngwledydd cred Ond pa'm na wnant ? A, ydyw wedi dilyn lesu os nad yn foddlon i wneud hyn ? A ydyw yn fwy nag a ddylai y dysgybi ei wneud ? A ydyw prawf-safon dysgyblaeth yn is heddyw nag yn amser Iesu ?' Nis gwn beth oedd yr oil ragflaenodd neu ddilynodd ei feddwl am yr hyn ddylid ei wneud y tu allan i Raymond, ond ym- ffurfiodd y meddylddrych o'r diwedd yn gynllun er sicrhau cydgyfeillach holl Grist- ionogion America. Gofynir i'r eglwysi, trwy eu bugeiliaid, i ffurfio cynulliadau o'u dysgyblion yr un fath a'r un yn yr Eglwys Gyntaf. Gofynir am wirfoddolwyr yn nghorft mawr yr aelodau eglwysig yn yr Unol Dalaethau, y rhai a addawant wneud fel gwnai lesu. Siaradodd Maxwell yn neillduol ar ganlyniad y cyfryw weithrediad cyffredinol ar gwestiwn y dafarn. Mae yn ddifrifol ofnadwy gyda hwn. Dywedodd wrthyf nad oedd yr un cwestiwn yn ei feddwl na chai y dafarn ei threchu yn Raymond yn yr etholiad oedd ar dd'od. Os felly, gallent fyned yn mlaen gyda dewrder i wneud y gwaith achubol ddechreuasid gan yr efengylydd, ac a gymerid i fyny yn awr gan y dysgyblion yn ei eglwys ef ei hun. Os buddugoliaetha y dafarn eto, bydd yma wastraff ofnadwy, ac, yn ol ei farn ef, diangenrhaid o aberth Cristionogol. Ond gan nad faint wahaniaethwn ar y pwnc yna, mae wedi argyhoeddi ei eglwys fod yr amser wedi dyfod er cael cymdeithas a Christionogion ereill. Yn sicr ddigop, os gaUai yr Eglwys Gyntaf wneud y fath gyfnewidiadau mewn cymdeithas a'i ham- gylchoedd, dylai yr eglwys yn gyffredinol, trwy gytundeb felly, nid o giedo, ond o weithio gynhyrfu yr holl genedl i fywyd uwch a syniad newydd am yr hyn yw bod yn ddysgybl i Grist. Meddylddrych ardderchog ydyw hwn, Caxton, ond dyma'n union y lie teimlaf fy hun yn petruso. Nid wyf yn gwadu na ddylai y dysgybl Cristionogol ddilyn ol Crist mor agos ag y mae y rhai yma ya Raymond wedi ceisio. Ond nis gallaf ym- atal rhag gofyn beth fyddai'r canlyniad pe gofynwn i'm heglwys yn Chicago wneud hyny. Yr wyf yn ysgrifenu hwn ar ol teimlo cyffyrddiad difrifol, dwfn, presenol- deb yr Ysbryd, ac yr wyf yn cyfaddef wrthych, fy hen gyfaill, nas gallaf alw i fyny yn fy eglwys ddwsin o fasnachwyr adnabyddus, neu mewn galwedigaethau dysgedig, a wnaent y prawf yma, gan beryglu yr oil fyddai yn anwyl ganddynt. A eilwch chwi wnead rhywfaint yn well yn eich eglwys chwi ? Beth gawn ni ddweyd ? Nad atebai yr eglwys i'r alwad, Deuwch i ddyoddef?' Y mae canlyniadau yr ym- rwymiad, fel y cedwir efyn Raymond yma, yn ddigon i wneud i unrhyw fugail grynu, ac yr un pryd hiraethu am rywbeth cjffel- yb yn ei blwyf ei hun. Yn sicr ddigon, ni welais i yr un eglwys erioed yn cael ei bendithio mor amlwg gan yr Ysbryd a hon. Ond—a ydwyf fi fy hun yn barod i gymeryd yr ymrwymiad, yma ? Yr wyf yn gofyn y cwestiwn yn onest, ac y mae arnaf arswyd gwynebu atebiad gonest. Gwn yn burion y byddai yn rhaid i mi newid llawer yn fy mywyd pe ymgymerw ;> chanlyn Ei ol mor fanwl. Yr wyf wedi gti vv iy uuu yn Gristion am flynyddau lawer. Am y deng mlynedd diweddaf, yr wyf wedi mwynhau bywyd ag ynddo yn gymharol nemawr o ddyoddef. Yr wyf yn cyfaddef yn onest fy mod yn byw yn mhell oddiwrth bynciau bwrdeisdrefol a bywyd y tlodion, y llygred- ig, a'r truenus. Beth ofynai ufudd-dod i'r ymrwymiad yma geayf fi ? Yr wyf yn petruso ateb. Mae fy eglwys yn gyfoethog, pobl yn dda arnynt, a boddlongar. Nid yw safon eu dysgyblaeth, yr wyf yn gwybod, o natur i ateb i alwad i ddyoddef neu golled personol. Yr wyf yn dweyd Yr wyf yn gwybod.' Dichon fy mod wedi cyfeiliorni trwy beidio deffro eu bywyd dyfnach. Caxton, fy nghyfaill, yr wyf wedi siarad o eigion fy nghalon wrthych. A gaf fi fyned yn ol at fy mhobl y Sul nesaf, a sefyll i fyny o'u blaen yn fy eglwys fawr yn y ddinas, a dweyd, Bydded i foi ddilyn Iesu yn fanylach. Bydded i ni gerdded yn ei ol Ef lie y bydd i hyny gostio rhywbeth mwy nag a gyst yn awr. Bydded i ni ym- rwymo peidio gwneud dim heb ofyn yn gyntaf Beth wnelai yr Iesu ?' Pe yr awn o'u blaen a'r genadwri yna, byddai yn un ddieithr a brawychus iddynt. Ond pa'm ? Ai nid ydym mewn gwirionedd i'w ddilyn Ef yr holl ffordd ? Beth yw bod yn ddilyn- wr i Iesu? Beth mae ei efelvchu yn olygu ? Beth olyga canlyn ei ol Rt' ?'' Gadawodd y Parch Calvin Bn.sce, D.D., Eglwys Nazareth, Chicago, i'w ysgrrfbin sythio ar y papyr. Yr oedd wedi dyfod i ymwahaniad y ffyrdd, a theimlai yn sicr mai eilgwestiwn ef oedd cwestiwn am ddyn yn y weinidogaeth ac yn yr Eglwys. Aeth at y ffenestr ac agorodd hi. Noson dawel iawn ydoedd. Tarawai awrlais yr Eglwys Gyntaf haner nos. Fel y peidiai, dyna lais clir, nerthol, yn nghyf- eiriad y Rectangle, yn cael ei chwyfio ato megys ar edyn dysglaer: 4 Rhaid i Iesu ddwyn y groes ei hun, A phawb trwy'r byd yn rhydd Na y mae croes i bawb yn wir, A chroes i minau sydd.' Llais un o hen ddychweledigion Gray ydoedd, un o'r nos-wylwyr yn yr ystordy, yr hwn weithian ddiddanai ei hun yn ei oriau trymllyd, trwy ganu penill neu ddau o ryw hoff emyn adnabyddus. Trodd y Parch Calvin Bruce oddiwrth y ffenestr, ac ar ot peth petrusder, penliniodd ar y llawr. 4 Beth wnelai yr Iesu ?' Nia ymollyngodd erioed o'r blaen mor drwyadl i ddatguddiad ymchwilgar yr Ysbryd o Iesu. Bu ar ei liniau am hir amser. Aeth i orphwys, a chysgoddynannesmwyth, gan ddihuno yn ami. Cododd cyn iddi gwbl ddyddio, ac agorodd ei ffenestr eilwaith. Cododd yr haul gan arllwys diluw o oleuni dros y ddinas. Pryd y bydd i wawr dysgyblaeth newydd arwain i mewn oruch- aflaeth conwest rhodio yn nes at Iesu ? Pryd y troedia gwledydd cred yn fwy manwl y llwybr wnaeth Efe ?

" PEIDIWCH " I FWNWYR.

O'R GADAIR WELLT.

Y BObiiOEDD. ! _i

Advertising