Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
GLOFA GLANNANT.
GLOFA GLANNANT. Y mae y lofa hon, oedd yn cael ei gweithio gan y Meistri Crawshay a'i gwmni, ag sydd wedi bod yn segur am beth amser, wedi cael ei hail gychwyn, ac fe ddysgwylir y bydd i nifer fawr gael eu cyflogi yn mhen ychydig amser. Y mae Mr. Rees, Merthyr, wedi cymeryd at lofa newydd yn nghymydogaeth Glannant yn ddioedi.
—o— STREIC Y TRAMWYR.
—o— STREIC Y TRAMWYR. Y mae tramwyr yn Glynea, Glyncoed, Morlais a glofeydd ereill yn Nosbarth Llanelli, erbyn hyn wedi cadw yr holl lofeydd yn segur yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Y maent yn bedwar ugain mewn rhif, ac y mae y farn yn lied gyffredinol fod y gyflog o 3/6 am lanw 25 o dynelli a 25 cant o lo, a'i gario 60 o latheni, yn fach. Fel y saif pethau yn bresenol, y mae dros fit o lowyr yn segur, ac yn ymddibynu ar delerau heddwch yn nglyn a'r cwestiwn Dydd Gwener diweddaf mewn cyfarfod yn Llwynhendy, pender- fynwyd fod y tramwyr i osod eu mater yn nwylaw Mr. John Williams, y goruchwyl- iwr, yr hwn a ymdrecha gael ymddyddan gyda r cyflogwyr er cael y mater wedi ei setlo. Deallwn fod yr oediad yn nglyn a dyfod a chynadledd gyfredinol oddiamgylch i'w briodoli i eisteddiad yGyngrair Grefftol, yn yr hon y mae yn bresenol amryw o aelodau y Ffederasiwn.
-0-HWYLUSDOD 1 LANELLI.
-0- HWYLUSDOD 1 LANELLI. Gwnaeth boneddwr o safle, yr hwn sydd yn gwybod llawer am symudiadau llafurol hysbysu yn ddiweddar fod yn mwriad llinell y Great Western i osod llinell newydd o Dafen yn agos i Penprys, ac wedi gwneud cytundeb er dyfod a'r gwaith oddiamgylch a'i chario mor belled a Chwm y Morlais, ac i unrhyw lofa a ddichon I gael ei hagor. Y mae dwy neu dair o foddion er ymeangu llafur y glo yn cael ei ystyried, ac fe obeithir, yn mhen dwy flynedd, y bydd i waith mawr, yn rhoddi cynaliaeth i lawer, gael ei agor yn Llam- wrwg. Ail gychwynodd gwyr Glamwrwg ar eu gwaith dydd Mercher diweddaf, ac fe ddysgwylir oddiwrth y peirianau I newyddion sydd wedi cael eu gosod,y bydd i ddau cant o dynelli o lo gael eu codi. i
- CYMDEITHAS GLOWYR Y GARW.
CYMDEITHAS GLOWYR Y GARW. Dydd LInn diweddaf, yn ugwesty Llan- harran, Pontycymmer, dan lywyddiaeth Mr John Granville, gwnaeth y cadeJrydd gyfeiriad at y danchwa a gymerodd le yn ddiweddar yn nglofa y Llest, a phasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r perthynasau yn eu coiled mewn dystawrwydd. Dywed- odd yr Henadur John Thomas ei fod yn teimlo yn falch fod nifer o gyfarfodydd misol wedi ymdrin a phasio penderfyniad- au mewn perthynas a llusernau dyogel i lowyr. Gobeithiai, ar ol yr hyn sydd wedi cymeryd lie, os buasai angen llu- sernru dyogel, y buasent yn eu cael ar unwaith. Heb ddymuno rhyddhau cwmni y Llest, dymunai wrthdystio i'r si a daenwyd y gellid cadw rhai pe byddent wedi cael cynorthwy yn gynt; Oddiwrth yr hyn a welodd, yr unig un ellid ei achub oedd William Thomas, Tydu; er hyny, nid oedd am esgusodi y goruchwyliaeth am beidio gwneud yr hyn a ddylasent am ddau o'r gloch y bore. Nid oedd am ddweyd llawer ar y reithfarn, gan ei fod yr hyn ellid ddysgwyl oddiwrth gyfan- soddiad o'r fath. Aeth drwy restr y gweddwon a'r amddifaid. Yr oedd yn ddrwg ganddo nad oedd y cyhoedd yn ateb yr apel am danysgrifiadau fel ag y dymunai.-Gofynodd y cadeirydd am i'r gweithwyr yn ngweithiau Tondu gael eu derbyn yn aelodau o'r Gyngrair. Cania- tawyd y cais, gyda dymuniad am i ych- waneg ymuno.—Gwnaeth Mr Jno Thomas adroddiad o'r rhai sydd yn derbyn tal dan y Ddeddf Iawnol, am fis Awst. Mewn cysylltiad ag annealldwriaeth glofa Ion Phillip, y mae y gweithwyr wedi derbyn 6c y dydd, hyd nes fod y cwestiwn yn cael ei benderfynu trwy gyflafareddiad.-Gwrth- ododd y Barnwr Gwilym Williams eistedd fel cyflafareddwr ar yr achos.—Mewn cys- ylltiad a'r annealldwriaeth yn nglofa y y Pare Slip, mae Mr Sims Rees, y goruch- wyliwr, wedi penderfyru gwneud i ffwrdd a'r is-gontracts can gynted ag y byddai hyny yn gyfleus. Rhestr y prisiau i'w drin yn y dyfodol. Cymeradwywyd yr ad- roddiad.—Yn nglofa y Darren, teimlir nad ydyw y gweithwyr yn cael gwneud yn deg A hwy, trwy eu bod yn gorfod d'od allan c t gweithleoedd i yru am 4s y dydd.- Pasiwyd penderfyniad nad oedd gweith-, wyr y Darren i yru neu wneuthur unrhyw waith,am lai na 4s 3c y dydd, neu swm yn gyfartal i'r hyn a enillent yn arferol.- Penderfynwyd rhoddi mis o rybydd i'r cyf- logwyr mewn perthynas a'r annundebwyr.
CYNGRAIR i MWNWYR.
CYNGRAIR i MWNWYR. Cynaliwyd cyfarfod misol Dosbarth Tredegar o Fwnwyr Deheudir Cymru, dydd Llun diweddaf yn y Neuadd Ddir- westol, Mr. Lewis Holloway yn llywyddu. Rhoddwyd awdurdod i'r cynrychiolydd i ddelio gydag annghytundeb y washery yn nglofa y Tytrost, Tredegar, a gwyr lard y Bedwellty, ac hefyd llusernwyr y Pochin, Rhoddwyd awdurdod pellach iddo i gymer- yd y cam angenrheidiol yn nglyn a'r Iawndal am farwolaeth yn erbyn cwmni glofa yr Holly bush, ac am y ddamwain yn Abernant. Cyhoeddwyd fod y peirianwyr cysylltiedig a glofa y Tredegar wedi rhoddi rhybudd er terfynu y cytundebau yn niwedd y mis hwn. Awdurdodwyd yr agent yn nghyd a cynrychiolydd y dosbarth i ymweled ar unwaith gydag awdurdodau y Ffederasiwn ar y mater.
GLOFA LLETY SHENKIN.
GLOFA LLETY SHENKIN. Y mae y lofa hon yn parhau yn segur yn herwydd annealldwriaeth rhwng y gweith ,¡ wyr a'r cyflogwyr. Yr annealldwriaeth j ydyw, pan y bydd gweithiwr yn gweithio I mewn lie gwael, y dylid gwneud ei arian i fyny i'r safon, yr hwn ydyw 4/9 a'r cod- i iad. ¡
HAWLIAU Y PEIBIANWYR.
HAWLIAU Y PEIBIANWYR. Y mae genym achos i gredu y ceir Cyngrair gyffredinol o gynrychiolwyr y Peirianwyr a chyflogwyr Swydd Fynwy, Merthyr a Dowlais, yr hon a gynelir mewn ychydig o ddiwrnodau. Gobeithir y deuir i gydweled yn yr achos hwn, sydd wedi bod yn effeithiol ar y ddwy blaid.
Annealldwriaeth y Bwllfa,…
Annealldwriaeth y Bwllfa, Cwmdar. Yr wythnos hon, bydd Mri Thos Griffiths a Ben Da vies, Ton, yn gwneud ymgais i ddyfod a'r annealldwriaeth-er nad ydynt wedi atal gweithio-i derfyniad.
--Marwolaeth Ceulanydd, .Maesteg.t
Marwolaeth Ceulanydd, Maesteg. t Yr ydym yn sicr y bydd yn flin gan I ein darllenwyr glywed am farwolaeth I y bardd-bregethwr.—y Parch. J. Ceulan- ydd Williams, Maesteg. Gadawodd ar ei ol weddw a naw o blant, gyda'r rhai y cydymdeimlir yn fawr. Ganwyd ef yn agos i Talybont. Ceredigion. Cymer yr I angladd le dydd Gwener nesaf yn nghladdfa Maesteg am 2.30 y prydnawn, yn gadael ei gartref, Bryn Awen, am gapel Caersatem, lie y cymer gwasanaeth angladdol le. I
CAPEL Y GADLYS, ABERDAR.f
CAPEL Y GADLYS, ABERDAR. f Dyddiau Sul a Llun diweddaf, cynal- iwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys I uchod, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn John Williams, Aberteifi; T. T. Jones, Caerdydd; a J. S. Johns, Hirwaun. Cafwyd cynulliadau da a phregethau ¡ grymus, a hyderwn y gwelir ol ffrwyth y cyfarfodydd hyn eto. Cafwyd casgliadau pur dda.
".,....------CYNGHEAIE, MWNWYR…
CYNGHEAIE, MWNWYR DEHEUDIR CYMRU. Gorymdaith yn Merthyr. Yn Mfrthyr, dydd Sadwrn diweddaf, ymgynullSdd y rhan fwyaf o'r gweithwyr i'r wyl flynyddol gyntaf. Y mae yn y dos- barth 3,600 o lowyr, ac y mae 3,300 yn barod wedi ymuno a'r cyfrinfaoedd lleol. Yn ffortunus, yr oedd y tywydd yn ddym- unol. Y cyfrinfaoedd yn bresenol yn yr orym- daith oeddynt Troedyrhiw. Abercanaid, Mardy, Barley Mow, Cefn, Prince of Wales, Three Horse Shoes, Heolgeryg, Globe, Crystal Palace, Pendarren End, Mountain Ash, a Pentrebach. Ffurfiwyd yn orymdaith, pryd yr awd trwy High street i ben Tip yr Undeb. Yr oedd y rhan fwyaf o'r rhai a gymerasant ran yn yr orymdaith yn gwisgo arwydd Cynghrair y Mwnwyr. Blaenorwyd yr orymdaith gan Seindyrf Abercanaid a Thwynrodyn. Wedi cyrhaedd man cyfleus ar y tip, gwnawd esgynlawr o geryg mawrion, ar y rhai y safai Mri Groncutt, y cadeirydd, W Abra- ham, A.8 (Mabon), Thomas Thomas, Cyf- arthfa, a'r Cynghorwr John Evans. Dywedodd y cadeirydd, yn ei anerchiad agoriadol, ei fod yn credu mai ganddynt hwy fel glowyr yr oedd yr undeb goreu yn y wlad. Pe buasent wedi gwrandaw ar eu harweinyddion yn y gorphenol, byddent mewn gwell sefyllfa y dyddiau presenol. Pan y cododd Mabon i anerch y cyfar- fod, cafodd y detbyniad mwyaf brwdfrydig, y dorf yn curo dwylaw amryw weithiau yn olynol. Dywedai fod y diwrnod yn un ag y dylent fod yn falch o hono. Hwn oedd yr arddangosiad leol gyntaf yn y ffurf bresenol yn eu plith. Yr oedd yn arddan- gosiad lleol o un o'r undebau mwyaf effeith- iol. Yr oeddynt yn awr yn teimlo yn gynhes tuag at eu cafiad cyntaf, ac feallai y delai diwrnod pan y bydd iddynt gael rhesymau da a chadarn dros eu ffydd. Deuddeg mflfyn ol, nid oedd neb yn erfyn gweled y fatff undeb ag a berchenogid can- yr.¡r -.J,r' gyfaddef fod ganddynt tuddianau i'w dy- ogelu, ac yr oedd y gorphenol wedi dysgu hyn iddynt. Prif amcanion y Gynghrair oeddynt—1 Y cyflogau 2 Dyogelu bywyd ac aelodau 3 Yr angenrheidrwydd o lei- hau oriau llafur. Yr oeddynt yn sylfaenu eu ceisiadau am gyflogau ar yr un safon ag a delir mewn rhanau ereill o'r wlad-ar gyfiawnder. Yr oedd yn angenrheidiol hyd yn nod i'r werin gael gwybod yr hyn a am. canent yn y mater hwn, a phryd bynag y byddai achos yn cael ei sefydlu ar gyfiawn- der, ni fyddai raid i'r gweithwyr hyny deimlo cywilydd wrth osod eu hachos o flaen y cyhoedd. Cyfeiriodd fod y glowyr yn y maes glo hwn yn gweithio mewn perygl mawr, a bod y glo a weithir yn dda neillduol. Fod y gyngrair yn canolbwynt- io at gael y gwahanol annealldwriaethau wedi eu penderfynu trwy gyflafareddiad, yn lie ymladd beunyddiol o fis i fis a blwyddyn i flwyddyn. Yr oedd y Gynghrair, trwy fyrddau cymodol, yn cael mesur o gyfiawn- der, yr hyn oedd wedi cael ei wrthod idd- ynt yn Neheudir Cymru. Buasent ar y cyntaf o Hydref yn 40 y cant uwchlaw safon 1888, yn lie 1879. Gellir cael hyn nid drwy streics a chloadau allan, er fod eu hundeb hwy wedi cael ei sefydln ar ludw streic maith. Carent i'r cyhoedd wybod fod glowyr Deheudir Cymru am gael yn unig yr hyn a gawsai eu cyfeillion yn Lloegr ac Ysgotland. Ymgeisient gael hyn trwy ddeddfwriaeth, a phobpeth er dyogelu bywydau ac aelodau. Byddai yn fanteisiol i gael y cyflogwyr i'r un golygiadau a hwy, ac yr oeddynt wedi rhoi gwybod hyny idd- ynt mewn amser. Eu bod wedi hys- bysu y cyflogwyr a'r cyhoedd ar ran y rhai a gynrychiolid ganddynt o'r amcan teg hwn, fel aj| 1 roddi iddynt amser priodol i osod petnau ar safon dda cyn terfyniad y cytundeb presenol; pe bai i rywbeth an- hapus ddygwydd, buasai y cyfrifoldeb ar- nynt hwy. Byrddau cymodol oeddynt y moddion goreu i derfynu annealldwriaeth- au, ac ni ddylai streics a chloadau allan gael eu hadnewyddu. Dymunai ar yr ych- ydig sydd heb ymuno a'r Gynghrair i wneud hyny ar unwaith, ac felly i gyflawni eu dyledswydd tuag atynt eu hunain. Aeth yn mlaen i ddangos y buddiant gaed o'r Ddeddf lawnol, a'r modd y medrai y Gyng- rair gefnogi ceisiadau cyfiawn y gweithwyr -fod yr anundebwyr yn gorfod ymladd eu brwydrau yn unigol, ac mai prif amcan pob gweithiwr ddylai i fod yn undebwr, er oael dyogeliad a lleihad oriau llafur. Cynygiodd Mr Thos Thomas, Cyfarthfa, Fod y cyfarfod mawr hwn o weithwyr Dosbarth Merthyr yn llongyfarch eu gil- ydd ar y llwyddiant sydd wedi coroni eu hymdrechion hyd yn bresenol, ond yn her- wydd gwaith rhai o'n cydweithwyr yn par- hau i gadw allan o'r undeb, fod mesurau yn cael eu cymeryd i wneud i'r gweithwyr i ymuno. Er dyfod a hyn oddiamgylch, fod rhybuddion yn cael eu danfon i derfynu cytundebau ar y laf o Hydref,' Dywedai Mr Thomas y byddai hyn yn rhoddi man- tais i'r gweithwyr hyny sydd heb ymuno a'r cyflogwyr i ystyried rhagolygon pethau. Eiliwyd y cynygiad, yr hwn a gariwyd yn unfrydol. Gofynwyd cwestiwn i Mabon mewn per- thynas a chyfrinfa leol oeddynt yn aelodau o ddosbarth arall. Mewn atebiad, dywed- ai fod hyn yn gofgolofn o raniad, ac yn dangos anffyddlondeb yn swyddogion y cyfrinfaoedd lleol. Gobeithiai y byddai i'r ymraniadau hyn derfynu yn fuan.
GLOFA Y WYNDHAM.,
GLOFA Y WYNDHAM. MR. GOL.—Yr wythnos cyn y diweddaf, sef, am Awst 31ain, yr ymddangosodd llythyr bychan yn nglyn a'r lofa uchod gan un a hona ei fod yn un o weithwyr y lofa. Caniatewch i minau ofod fechan yn eich TARIAN yr wythnos hon i wneud sylw o rai o'r pethau a ddywed Un o weithwyr y Wyndham.' Mae yn amlwg nad yw Og- wyan na un o weithwyr y Wyndham wedi dweyd yr holl wir a dim ond y gwir, yn nglyn a'r mater a drafodir ganddynt. Gwn yn ddiamheu, gymaint, os nad mwy, am y mater dan sylw a'r naill a'r llall o honynt. Ni fuaswn yn ymyraeth dim yn y mater onibai fy mod yn teimlo fod y gwir- ionedd yn cael cam, ac fod hefyd, rai pethau yn llythyr un o weithwyr y Wynd- ham sydd yn gamarweiniol. Yn y lie cyntaf, dywed fod y personau hyny y cyfeirir atynt yn cael eu gwarth- ruddo yn awr cynddrwg ag oeddynt cyn i ddim gymeryd lie.' Yr wyf, Mr Gol. yn cymeryd yn ganiataol fy mod i yn un o'r personau uchod. Ac fel un sydd yn gwybod cymaint ag unrhyw un am yr annghydfod y cyfeirir ato, ac yn cymeryd rhan mor flaenllaw a neb pwy bynag ynddo, rhaid i mi gydnabod nad wyf yn gwybod dim am y gwarthrudd y sonia 'Un o weithwyr y Wyndham am dano. Mae 4 awdurdodau y Wyndham,' oddiar derfyniad yr anneall- dwriaeth diweddaf, yn ymddwyn mor foes- gar a boneddigaidd tuag at y personau oedd yn yr annghydfod uchod ag y geliir dysgwyl iddynt wneud. Etc gellid medwl wrth y wedd roddir ar bethau gan I Un o weithwyr y Wyndham,' nad oes fawr o ddim ond Ilefydd gwael i'w cael yn y Wyndham. N id wyf am ddweyd nad oes yn y Wyndham lawer o lefydd gwael, fel yn mhob glofa arall, ond y mae yno gystal arian yn cael eu henill ag sydd mewn glofeydd yn gyffredin. Am y llefydd gwael, nid wyf am ddweyd eto fod pawb yn cael yr hyn sydd yn foddhaol am weithio ynddynt, mwy nag mewn glofeydd ereill, ond yr wyf yn beiddio dweyd fod y ffigwr yn mhell o fod uwchlaw 2/6 a 3/- y dydd. Diehoa fod yr ysgrifenydd yn cyfeirio at un enghrai% gypierodd yn d^iwedd^r- ae osk mai at Hcflao y c^feiriar. wel, yr «edd ymddygfiid y? personau yn yr engraiftt hono yn hollol groes i egwyddorion Undeb y Gweithwyr wrth fyned i weithio i'r lie yr aethant, fel nad oes gan y gweithwyr ddim lie i achwyn ar ymddygiad yr awdurdodau tuag atynt. Nid yw awdurdodau y Wynd- ham yn cael chwareu teg yn mhob achos. Nid iawn mewn glowyr ydyw ymadael o un lofa am eu bod yn gweithio mewn llef- ydd gwael, ao yn dyfod i'r Wyndham, ac os bydd iddynt gael Ile gwael yno, ac na chant eu talu yn unol a'u dysgwyliad, dygant y mater i sylw yr Undeb ar un. waith. Yn awr, Mr Gol., yr wyf yn dweyd y dylasai fod yr hyn a wnant ag awdur- dodau y Wyndham fod wedi ei wneud ag awdurdodau y lofa Ile y gweithient yn flaen- orol. Ond y mae y ffaith fod hyn yn cael ei wneud yn ami yn awgrymu fod awdur- dodau y Wyndham yn fwy parod i gydna- bod hawliau y gweithwyr, ac yn fwy parod i'w talu am eu Ilafur. I Dwy ffaith amlwg yn nglyn ag awdurdod- au y Wyndham ydynt, eu bod bob amser yn barotach nag awdurdodau glofeydd cyfagos.i gydnabod hawliau ac egwyddorion Undeb y Gweithwyr, ac hefyd i gynorth- wyo eu gweithwyr pan yn gweithio mewn llefydd gwael. Na feddylied neb am foment fod genyf y cydymdeimlad lleiaf ag awdurdodau unrhyw lofa sydd yn ymgais at ddarostwng eu gweithwyr o dan eu traed yr wyf bob amser wedi arfer aweyd yn eglur a chroew yn erbyn hyny, ond teg i'r gwirionedd gael ei le priodol. Yr eiddoch yn gywir, EDWARDS.
. GLOFEYDD Y GORLLEWIN.
GLOFEYDD Y GORLLEWIN. Gyda bod pawb o'r bron yn edrych yn mlaen gyda hyder cryf am ddiwedd ar yr anhyfrydwch sydd wedi bodoli yn y gweith- feydd uchod, ac i'r gweithwyr fyned yn mlaen a'u gwaith gan ymddibynu ar gyn- rychiolaeth a'r ddwy ochr yn Nosbarth y Gorllewin, daeth tua pedwar ugain o dramwyr Glynea, St. George, Morlais, a Glyncoed allan, gan benderfynu nas ail gychwynasent nes y cawsent ychwan- egiad yn eu cyflogau. Y maent wedi gwrthod gwneud dim gyda thelerau Caerdydd: a phan y terfynwyd eu rhy- byddion dydd Iau diweddaf, daethant allan drwy yr hyn yr effeithir ar fil o weithwyr ereill. Nid oes ond y dosbarth hwn yn unig wedi gwrthgilio, ond y mae ereill yn dal yn ffyddlon yn eu hymddiriedaeth o'u cynrychiolwyr. Edrychir ar y mater gyda gofid, gan ei fod yn gwanhau gobeithion eu gydweithwyr am heddwch. Y mae y gwrthgiliad wedi cael ei gondemnio gan Gymdeithas Mwnwyr y Gorllewin a chan Gyngrair Mwnwyr Deheudir Cymru, ac y maent yn benderfynol o gael eu hathraw- iaeth wedi ei chydnabod. 0 herwydd hyn, os na weithia y tramwyr, cymerir symud- iadau er cael y gwaith i fyned rhag ei flaen. Fe sylwir yn fanwl ar bob symudiad a gymerir, a dangosir gallu y Federasiwn i reoli ei haelodau.
—1 CAMGYMMERIAD DIFRIFOL.
— CAMGYMMERIAD DIFRIFOL. Wedi bod am ddeng awr ar hugain mewn I dalfa, am ei fod ef yn edrych yn debyg iawn i leidr hynod o Chicago, cafodd Mr. Jesse F. Smith, masnachwyr parcbus a chy- I foethhg o Lluudain, ei ryddbau ddydd Mawrth gan heddgeidwaid Washington, gydag ymddiheurad Hawn am camgym- meriad difrifol. Yn ffcdus iddynt, cym- merodd Mr. Smith ei garchariad anghy- flawn yn yr ysbryd goreu ac nid oes ganddo y bwriad lleiaf i ddwyn ei achos o dan sylw y Llywodraeth Brydeinig.
Advertising
Pob Gwr a Gwraig Drwy holl wlad a odyleut fod yn wyliadwrus rhag y clefyd peryglus, y Dropsy Ddwfr A Dropsy Wynt Yn eu holl ganghenau, oblegyd fod canoedd yn colli eu bywydau yn rtynyddol drwy y clefydau peryglua hyn, ac hefyd ddylent fod ya wybydduB o'r FedHyg- iniaeth lwyddianus ar eu cyfAr, aif HUGHES'S Dropsy Pills Mae Ilu mawr drwy y wlad wedi eu hiachau o'r clefyd hwn, ac y mae yn syndod mor effeithiol y maent er iachau v Gravel, Diffyg Dwfr, Diffyg AnadI, Gwynt, Chwydd yu yTraed Coesau a'r Bol, Asthma, Curiad y Galon Cramp, Poen Cefn, Tewdra Afiach, Gwynt yn y Stumog, Penysgafnder, Poen yn y Corflrwymedd, Arec.au Afiach, Nid oes dim i'w cymhal" i hwynt yn ea hefteithiolrwydd at y clefydau hyn, Dar. lIener a ganlyn Anhebyg o Fyw. Anwyl Syr,—Y mae yn dda genyf ddwyn ty.0,, eth 1 rhagoroldeb bj'ch Dropsy Pills tuag at lwyr iachau y Dropsy. Bo fy nhad n dyoddef oddiwrth yr anhwyl- der hwn chwech mis ac yn anhebyg o fyw, ond pan gymerodd eich Pills fe lwyr well- haodd yn fuan, a bu yn alluog i weithio an: 10 mlynedd. D. JONBS. Mj^rysipfra.vCQnwy. modbi fthy Y DOCTOR. Syr,—Ar ol derbyn eich "Hughes'# Dropsy Pills" mi a benderfynais rhoddi heibio medd yginiaeth y Doctor, fel ag i roddi prawf teg ar eich Pills chwi. Yr wyf wedi bod yn dyoddef yn enbyd am hir am- ser gan chwydd mawr yn y cluniau, aren- au drwg, grafel, diffyg anadl, a phoen cefn. Wedi bod dri mis tan law doctor, yr wyf yn profi fod eich "PiUs" chwi wedi gwneuthur mwy 0 les mewn un wythnos na holl foddion y doctor. Mae'r chwydd wedi cwbl ddiflanu, ac yr wyf yn bur ddi- olchgar am y waredigaeth hon. Ydwyf, „ Gr. HUNTON. Nolan Place, Stockton. ISf'Fe ddylai pob dynes eu cymeryd achlysurol. Yn ddioed danfoner am Hughes's Dropsy Pills. Jacob Hughes, Manufacturing Chemist, Pena h, Cardiff. RHYBUDD. EB mwyn sicrhau Pawb rkag twyll, go- faler gael y Trade pi Mark hwn, sef llun S. Diamond a'r geiriau ,<"> Dropsy Pills oddi- fewn ar bob blwch, ac enw Jacob Hughes ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth drwy yr holl deyrnas am l/Hi 2/9 a 4/6; trwy y post, 1/3, 2/9, 4/6, oddiwrth y Perchenog,— ;7 YN Y MOR Fe gafwyd 0 hyd i Feddyglyn ag sydd yn dra effeithiol at glefydau y Gwddf, y Frest a'r Ysgyfaint, yr hwn mewn undeb a'r Extracts o lysiau nodedig ar lan mor y Pacific, a-wna i fyny y feddyginiaeth mwyat lwyddianus a wel- odd y byd erioed. Y mae yn awr yn cael ei wneud i fyny mewn potelau ac yn cael ei alw wrthyr enw Sea Weed Lung Life Fe wellha yn uniongyrchoi y Peawch acAnwyd, Bronchitis, Asthma,Crygni, Dolur Gwddf, Group, Whooping Gcugh, neu Y Pas, Diphtheria Cataarh, yn effeithol i ragflaenu y DABFODEDIGAETH. gan Chemists, neu unrhyw Batent Medii cine Dealer am 2/9 a 1/11. Sea Weed Lung Life, Myner ei gaet yr enw yn llawn ar bob potel, ac na pherswadier chwi i gymeryd dim arall, Os bydd trafferth 'w gael dan- foner Stampsam 3/- neu 1/3 at JACOB HUGHES Manufacturing Chemist, Penartt, Cardiff
Advertising
WILLIAMS Castle Street, Swansea Largest 8to *k in "Wales 8(37 C* OX. G RINGS LD KEEPERS ENGLISH NT T EVER ™ -L'WATOHES BRAZILIAN IRISTAL jgPECTACLES
Advertising
WILLIAMS I WATGBMAKEB AND JEWELLER: Castle 8treet, Swansea Gymry hoS! de'wch at y Cymro Os am beirdd fodrwyau aur; Oriadorou ac awrleisian, Gemau a chadwynau claer; Yspectol gelfydd, hin-fynegydd, Gwres-fesnrydd. owmpawd mor, Geir gan Williams. Heol- Y -l..&stell, Trowch i mewn i wAJ'd ei star.
L..-YR WYTHNOS.
L.. YR WYTHNOS. Yn Llundain, dydd Mercher, torodd allan ystorom fawr o fellt a tharanau, gyda gwlaw trwm. Cododd y gwres yn uchel eto yr wythnos ddiweddaf, er gwaethaf y ffaith ein bod yn gwynebu ar yr ail wythnos yn Medi. Y mae dros 10,000 o filwyr o bob gradd wedi eu gwysio i fod yn barod yn ddiymaros gogyfer a'r posiblrwydd i ryfel dori allan yn y Transvaal. Ymddengys fod Dreyfus wedi ei gael yn euog pt", a'i ddedfrydu i garchar am 10 mlynedd. Dysgwylir y bydd twrw ofnadwy yn Ffrainc ar el hyn. Y mae yn mwriad nifer o Americaniaid cyfoethog i sefydlu banc arianol newydd yn Llundain. Hysbysir fod streic y morwyr wedi troi allan yn fethiant. Yr oedd Arglwydd Brif Farnwr Lloegr (Arglwydd Russell o Killowen) yn bresenol yn y llys yn Rennes, dydd Gwener, yn gwrando ar brawf Dreyfus. Dywedir fod dros 18,000 o geffylau yn cael eu bwyta yn flynyddol yn Vienna, Awstria. Tra yn ymdrochi yn yr afon yn Aberteifi, yr wythnos ddiweddaf, boddodd bachgenyn o'r enw John Rees, 12 oed. I Yn Aberystwyth, dydd Llun, bu farw ( Arglwydd Lisburne, yn ei breswylfod, Crosswood Park. Mewn mwn copr yn Japan, dydd o'r í blaen, cymerodd gorlifiad Ie, a boddodd 600 o ddynion. I Y mae Arglwydd Wimborne wedi danton cheque am £ 250 at Ficer Llanwonno tuag at dreuliau yr eglwys newydd a godir yn Abercynon. Torodd ewmwl yn Pontrhydyfen yr wythnos ddiweddaf, gan gludo miloedd o I dynelli o'r tir i lawr dros ochr y mynydd i'r gamlas. I Y mae Cynghor Dosbarth y Rhondda J wedi penderfynu helaethu y ddwy gladdfr gyhoeddus yn herwydd cynydd sylweddol .marwolaethau. Ymddengys fod mudiad cyffredinol droed er sicrhau yr ail ddydd Llur yn Hydref yn wyl genedlaethol yn y wla, on, megys Bank Holiday. Prydnawn dydd Mawrth, yn Pari; Phce, Caerdydd, bu farw y cyfreithiwr hytiai yn y dref, sef Mr John Morris. tfwyliodd yr Occam*, yr agerlunc; F", tf yn y byd. ail :n o Lerpwl, dydd W- .;r, gyda 4,000 o dynelli o lo Cy^ in r.; Mer- thyr. Heblaw hyny, cariai d • -s dd fil o deithwyr, a rhifai y dwylaw 450. Y mae pellebryn ctidiv h 5;ncrodres China wedi cael e dde»-) vn, ga M r W Pritchard Morgan, A.S., 11!1 ei wysio i Pekin, y brifdding. ile x fwriada deithio yn fuan. Y mae ficer eg! John, Spalding, wedi ymgymeryd n. uih o baentio ei eglwvs wrtho ei hut, i herwydd diffvg j trysorfeydd, ac y mae 'vrtni er's tair wyth- nos! j Nid yw tunnel y Ccmke-it yn cael ei ystyr- ied yn ddyogel, ac felly bernir na redir I trens i deithwyr dr wyddo bellach, a dis- | gwylir y bydd i Aber jtawf gael ei gosod ar y I main line mor fuan sydd bosibl. Llywydd new? ci(fl Undeb y Bedyddwyr I Cymreig ydyw P a. ch W Morris (Rhos- ynog), Treorci. Ar ol bod yn a W!; ci hunig fab, Sammy Rees, a gollodd < v vvyd yn nglofa y Llest, dychwelodd Mn 1- tee?,' ei fam, i'r ty yn glaf 1 ac aeth i'r gwe;) Yn awr ceir y newydd j ei bod wedi rna» b ;rnir ei bod wedi tori i ei chalon. I Trodd glowyr 'v'» r hyr a'r cylch allan yn un gorymdait! ydd Sadwrn, a chyn- aliasant gyfa. vr ar y tips. i Yn Barce pain, y mae 12,000 o bobl wedi gw lu y trethi, ac hysbysir yn awr fod ddianwyr yn bwriadu dilyn eu Y ma jawtnydd yn Mhontardawe yn herv> ydt ',Ir Hedley wedi taro ar wythien Lle. o ar ystad y Primrose. CeisicxVi l Scott, 35 oed, Blaen- afon, gydi ianladdiad drwy dori ei wddf yc y r yn ol, a gyrwyd ef at hyny gs r neddai ef. Yn y llys, dydd Mav .ddhawyd ef ar yr amod ei fod yr f 0 hyn allan. Nos h:. < cyrhaeddodd y Welsh Fusilees i "embroke Dock, ar ol bod ymaith m mlynedd. DyVl d r Dyke, Merthyr, fod bwyta gormo s vvythau yn achosi y dolur rhydd, A buddia y rhieni a'r plant i ochel) hy Yn ar h, nos Fawrth, eondemniai Mr. J«' ,n !v ley yu y modd mwyaf pendant ryfel ) ynf i a! t Dutch Boers, gan gredu y gall ( d i delerau gyda Kruger pe baem :id farfer pwyll a doethineb Yr > an wedi taflu 22 o'i phorth- laddc 4 agored i fa^nach tramorol. > it :gor yr hyn a elwir Winter Garri > Aberystwyth, yr hyn fydd yn atdyi d 1.1 wr i'r Ile. Yma e y. tchwiliad yn cael ei wneud am berthyr.asH y diweddar Phillip Fox, Aberia-ve. r hwn a ddaeth i'r dref olaf o Calii."ur;a rhyw 10 mlvnedd yn ol. Gadnv.L,ci(.! £5,000 ar ei ol, ac y mae y swm hvvr v ros rhywun neu rywrai ffodus. C I hen wraig 99 oed, dair milldir, yri ddiweddaf yn Wolverhampton, er 0. • ;i thai plwyf, a dywedodd ei bod yn lio y eawsai fyw hyd mis tilr iesaf, pryd y bydd yn gant oed. Cefn, Merthyr. dydd Mawrth, syr j. Mrs. Catherine Griffiths allan o I gai •r«u farw yr un noson. j > ^•1;r fod ffair y Waun yn myned yn I llai o^blwyddyn, ac yr oedd yn liai nag arfer elevji.
iIII.'I"P""-IGweithfaol a…
iIII.'I"P" I Gweithfaol a MasnachoL SEFYLLFA Y FASNACH LO. —o— Caerdydd, Medi lleg, 189g. Yn ystod yr wythnos, cadwyd i fyny y cadernid yn masnach lo Deheudir Cymru, er fod y fusnes wnawd yn ngwerthiad y glo man wedi tawelu. Y prisoedd diweddaf yd) nt,glo ager goreu, 13s 6c i 13s 9c; cyffredin, 12s 6c i 12s 9c ail, 12s i 12s 3c; I glo sych, 13s i 13s 3c; glo man goreu, 8s 6c i 9s; cyffredin, 7s 3c i 7s 6c; ail, I Vs; glo mawr goreu Sir Fynwy, 12s 3c i 12s 6c; ail, 10s 9c i lis 3c; glo tai, 13s i 13s 6c glo man, 10s 3c i 10s 6c; No 2 Rhondda, 9s 9c i 10s 8c: glo man, 7s i 7s 6c; coed pyljau, 16s 9c i 17s ar fwrdd Hong.
--GLOFA PENRHIWCEIBR.
GLOFA PENRHIWCEIBR. Dydd Gwener a dydd Sadwrn diweddaf, yr oedd y glofeydd hyn yn segur yn herwydd annealldwriaeth rhwng y gweith- wyr a chynrychiolwyr eu cyflogwyr. Mor belled ag y gellid deall, yr oedd y ddeall- dwriaeth rhwng y goruchwyliwr a'r glowyr y gallai yr olaf ddyfod i fyny o'r lofa rhwng 4 a 5 o'r gloch pan fuasui nifer digonol ar waelod y pwll i lanw y cage. Mewn amser, yr oedd eisieu gwneud rhyw welliantau ar waelod y pwll, a darfu i'r gweithwyr gan- iatau cais y goruchwyiiwr i aros yn eu gweithleoedd hyd bump. Y mae y gweith- wyr yn awr am fyned yn mlaen yn ol y ddealldwriaeth gwreiddiol, yr hyn sydd yn cael ei wrthod gan y cyflogwyr. Nos Wener diweddaf, cynaliwyd cyfarfod llu- osog o weithwyr, pryd y penderfynwyd ail gychwyn gweithio dydd Sadwrn. Er hyny, nid aeth neb o'r glowyr i waered dydd Sadwrn. Nos Sadwrn, cynaliwyd cyfarfod arall, pryd yr oedd Mr vI. Abraham (Mabon), A.S-. y bresenol. Wedi cael anerchiad gan Mabon, penderfynwyd fod yr anneall- .-th yn cael ei osod yn nwylaw Mabon ar ;l!1 y gweithwyr, a Mr E. M. Hann ar ran y i mni, ac i ail gychwyn gweithio heddyw (dydd Lluun) hyd ddiwedd y mis ar y telerau blaenorol.
PEIRIANWYR &c., GLOFEYDD GORSEINION…
PEIRIANWYR &c., GLOFEYDD GORSEINION A GARNGOCH. Yr'oedd yno berygl yn niwedd y mis diweddaf, y buasau y dosbarth uchod yn dyfod allan ar streic, o herwydd fod y meistri yn gwrthod caniatau eu gofynion yn nghylch eu safonau. Rhcddwyd y mater yn hollol i law Mr. W Hopkins, goruchwyliwr peirianwyr a'r Tanwyr. yr hwn a gyfarfyddodd a pherch- enogion y Glofeydd i ddadleu achos y gweithwyr. Ag y mae yn dda genym allu hysbysu iddynt ddyfod i delerau heddych- lawn, yr hyn delerau a gymeradwywyd yn tawr iawn gan y gweithwyr. Yr ydym yn deall y bydd ymgynghoriad rhwng meistri Sir Fynwy a chynrychiol- wyr y peirianwyr a'r tanwyr &c., yn cymeryd lie dydd Iau, 14eg cyfisol, yn Nghaerdydd, i ymdrafod a gofynion peir- ianwyr &c., pryd y gobeithiwn y deuant i delerau cyn diwedd y mis hwn. Mae achos y cyfeillion hyn yn bur deilwng, ag yn hawlio pob cefnogaeth oddiwrth y dosbarth gweithiol.