Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
25 articles on this Page
I DOSBARTH Y GORLLEWIN.
DOSBARTH Y GORLLEWIN. Dydd Llun diweddaf, yn y Workman's Institute, Abertawe, cynaliwyd cyfarfod gan gynrychiolwyr gweithwyr y dosbarth hwn. Llywyddwyd gan Mr Whiting, Cwmogwr, ac yr oedd yn bresenol Mri W Jones, Bryncoch, ysgrifenydd, Roger H Williams, trysorydd, W Davies, Idris Walter, Benjamin Evans, J Jones, aelodau y Pwyllgor Gweinyddol, a Mr John Williams. Cynrychiolid 57 o gyfrinfaoedd yn rhifo 10,508^ 41) aelodau, gan 47 o gyn- rychiolwyr. V Yn herwydd y cynydd mawr sydd yn nifer y glofeydd sydd wedi ymuno a'r dosbarth, penderfynwyd fod y swydd o Is-oruchwyliwr yn cael ymgeisio am dani. Enwau yr ymgeiswyr i fod yn llaw yr ysgrifenydd erbyn y 15fed o'r mis presenol. Penodwyd fod1 mab Mr Williams i gyflawni y gwaith clerigol hyd y penodiad. Derbyniwyd vfl aelodau o'r dosbarth Cyfrinfa y Glj|Bf (182 o aelodau.) Etholwyd Mr W E Morgan, Alltwen, yn aelod ar Bwyllgor ^Gweinyddol Cyngrair Mwnwyr Defieudir Cymru. Cafodd yr etholiad hwn1 dderbyniad gwresog gan y cynrychiolwyl: oeddynt yn bresenol. Etholwyd Mr H E Morgan a Mr Owen Williams yn pchwilwyr y cyfrifon. Yn nesaf, cafwyd anerchiad gan Mr Jno Williams, yr hwn a ddywedai ei fod yn credu y gellid rhwfo y cwch trwy y cyfwng presenol yn liwyddianus gyda medr. Fod yr amser yn gåIW arnynt i fod yn bwyllog a thawel, ac i .weithredu ar yr ochr amddi- ffynol. Yr oedd yn dda ganddo hysbysu fod yr holl o'r glowyr, oddigerth rhyw ychydig yn nosbaath Llanelli, wedi cadw at y cytundeb wnawd yn Nghaerdydd. Yn y cyfarfod a gynaliwyd dydd Sadwrn, dywed- odd wrth y dynion hyn nas gallasent erfyn cynorthwy cp na charient allan y cytundeb. Yr oedd ei gydymdeimlad gyda'r gweithwyr hyn yn eu cais, gan fod yn rhaid iddynt gario 25 tunell a 4 cant o lo yn droednoeth 60 o latheni am 3/6 y dydd. Ei fod wedi dymuno i'r cyflogwyr ddadleu y mater. Ei fod wedi cael ei awdurdodi i benderfynu yr annealldwriaeth ar yr amod eu bod yn cael 6c. neu 9c. y dydd o godiad. Pasiwyd penderfyniad yn unfrydol yn cymeradwyo yr hyn wnawd gan yr Agent mewn perthynas a glofeydd yr Eagles Bush a Broadoak.
-0-RHODDI RHYBYDDION. YN CFLYNEN.
-0- RHODDI RHYBYDDION. YN CFLYNEN. 0 ganlyniad i benderfyniad cyfarfod cyffredinol a gynaliwyd yr wythnos ddi- weddaf i roddi rhybyddion personol dydd Gwencrinweddaf, gwnawd telerau rhwng cynrychiolwyr y gweithwyr a'r perchenog- ion er cyflwyno un rhybydd cyffredinol ar ran yr Undebwyr, a rhoddwyd yr un can- lynol i'r cyflogwyr: — Syr: Y mae gweithwyr glofa Celynen, drwy hyn, yn rhoddi rhybydd o un mis, os na fydd yr ychydig sydd yn annghysylltiedig yn bre- senol a Chyngrair Mwnwyr Deheudir Cymru yn ymuno erbyn y 30ain diwrnod a'r mis hwn, byddwn fel mwyafrif o'r gweithwyr cyflogedig yn y gweithfeydd hyn yn gwrthod cydweithio a hwy ar ol y dyddiad uchod. — Arwyddwyd ar ran y gweithwyr gan Lewis Hughes, cadeirydd; ac E. Evans, ysg.
—o— GLOFA ABERCARN A'R BRYDLES…
—o— GLOFA ABERCARN A'R BRYDLES (Loose.) 0 dan delerau arferol Bwrdd Ysgol Mynydd-lslwyn, gwnaethant dydd Mawrth diweddaf, selio cytundeb am ychwanegu adeilad Ysgol y Cwmgarw, a gwnaethaut y telerau angenrheidiol er cario yn mlaen y gwaith, ond o herwydd hysbysiaeth oddi- wrth rhywun a ddaeth i glywedigaeth y Bwrdd fod les a thrafodaeth glofa Aber- carn, a berchenogir gan y Mri Watts, Wood, a'i Gwmni, i derfynu yn 1892, fe benderfynwyd i ofyn i'r Gymdeithas Addysg i ganiatau i'v gwaith gael ei yru yn mlaen am chwech mis. Erbyn yr amser hwnw bydd y Cwmni a'r Bwrdd Addysg yn debygol o dderbyn gwybodaeth sicr yn nghylch dyfodol y les. hr mwyn poblog- aeth gynyddol Abercarn mawr obeithir y bydd i'r trefniadau hyn fod yn gyfryw ag i atal y pwll fod yn segur.
CYMDEITHAP Y GLO-BERCHENOGION.
CYMDEITHAP Y GLO-BERCHENOGION. Cynaliwyd cyfarfod dydd Mercher di- weddaf, o Gymdeithas Glo-berchenogion Deheudir Cymru a Swydd Fynwy yn Nghaerdydd. Yr oedd y gynadledd yn un breifat, ac ni chaniateid i'r wasg fod yn bresenol.
1 ABERDAR.
1 ABERDAR. GLAN BRIODAs.-Dydd Llun diweddaf, yn nghapel y Gadlys, Trecynon, unwyd ¡ mewn glan briodas Mr Frederick Arnold I un o swyddogion Swyddfa y I.lythyrdy yn Aberdar-a Miss Maggie Evans, merch hynaf y Parch a Mrs Benjamin Evans (Telynfab), Gadlys. Cyflawnwyd y gwas- anaeth yn y capel gan y Parch T. Hum- phreys, Cwmaman, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch J. E. Lewis, gweinidog gyda'r Wesleyaid Seisnig yn y dref. Wedi yr uniad, cafwyd cyfarchiadau gan y Parchn T. Davies, Gwawr; T. Jones, Carmel; James Griffiths, Calfaria; ac R. E. Wil- liams (Twrfab). Wedi y gwasanaeth yn y capel, aeth nifer o gyfeillion a peerthyn- asau ar wahoddiad y Parch B. Evans a'i briod i fwynhau y boreufwyd priodasol I parotoedig. Yr oedd y byrddau wedi cael eu harlwyo o'r bwydydd goreu, ac wedi eu haddurno a blodau amryliw. Eisteddodd y cyfeillion a'r perthynasau canlynol i lawr i fwynhau eu hunain,-Parch B. Evans, Mri Gwilym Evans, W. Arnold, Parchn J. E. Lewis, T. Humphreys, R. E. Williams, Mrs Phillips, Mrs Kestell, Miss Evans, Ysgoldy y Pare Mr Harry Evans, Misses Ethel Evans, Sarah K. Evans, Lizzie James, Clyndu, Treforris; E. Edwards, Richmond road, Mountain Ash; Mrs Hughes, Mount Pleasant; Miss Maggie f Williams, Gadlys road; Miss A. K. Thomas, Usk; Mr A. E. Harmston, yr Henadur J. W. Evans, Mr Keestell Parchn J. Griffiths, T. Jones, W. Thomas, Mrs J. G. James, Pencoed; Miss Emily Price, Miss Winifred Morgan, Barry; Parch T. Davies, Gwawr; Mr D. M. Rich- ards, Merthyr Express; Fred Lewis, A ber- dare Times; G. M. Evans, TARIAN; Mr a Mrs J. B. Arnold; Miss J. M. Arnold, Mri W. K. Arnold, Frank Arnold, a M. H. Arnold. Derbyniodd y briodasferch amryw o anrhegion costus, y rhai a gyhoeddir yr wythnos nesaf.
I . PRIZE DRAWING ABERDAR…
I PRIZE DRAWING ABERDAR A'R CYLCH. Dymunir hysbysu fod y Drawing uchod ar ran George Taylor, yn cael ei ohirio o'r 1 leg o Fedi, hyd dyddiad pellach, ac hefyd dymunir ar bawb i wneud eu goreu gyda'r achos, gan fod y sefyllfa yn lied isel. Os oes angen llyfrau ar unrhyw rai, y mae digon i'w cael gan yr ysgrifenyddion,- EVAN JONES, 6, Abernant Row, Aberdar. THos, J. HAMER, 12, Ynyscynon St., Cwmbach.
ANGLADD Y DIWEDDAR HENADUR…
ANGLADD Y DIWEDDAR HENAD- UR D. DAVIES. I Dydd Gwener diweddaf, gwelwyd yr I angladd fwyaf yn Merthyr er ys amses maith. Yr oedd yr Henadur yn barchur I iawn drwy y sir, fel yr oedd ei edmygwyr yn lluosog yn yr angladd. Cymerodd y gladdedigaeth le yn nghladdfa y Cefn. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch W ¡ S Jones, Sion, Merthyr, a'r Parch Thos. Lewis, Casnewydd. Yn nghapel y Tabernacl, gwasanaethwyd gan y Parchn Thomas Jenkins, Ainon H O Hughes, Dr Rees, Cefn John Thomas, D Price, I W Morris, Treorci Charles Davies, Caerdydd B Thomas, Llundain y Prif Athraw Edwards, Caerdydd, a Mr Alfred j Thomas, A.S. Ar lan y bedd gwasanaeth- J wyd gan Dr Gomer Lewis, a'r Parch E T j Jones, Llwynpia. Yn herwydd sydynrwydd yr amgylchiad ac afiechyd, methodd Miss Davies, a bod I yn bresenol yn yr angladd.
I MERTHYR. !
I MERTHYR. Mr. Joseph Owen yn Gadeirydd y Cynghor 1 Trefol ac yn Uwchgwnstabl, í Tybed na ddylai rhywrai symud er mwyn rhoi eyfle i gyfeillion Mr Owen i osod anrhydedd arbenigrwydd ar yr an-, rhydedd deublyg a rowd arno gan dref j enwog Merthyr ? Maa caei y ddwy gadair yr un pryd yn beth eitbriadol iawn, ac yn J rhy eithriadol, byderwyf, heb i holl gyfeill-1 ion ein hanwyl gymrawd gael cyfle i'w longyfaich ar ei d .yrcbafiad, Ffurfied cyfeillion Merthyr yn bwyllgor i dynu allaa 'gynllun i gael Banquet gy- hoeddus, a cbyflwyno anerchiad teilwng i I' Mr Owen a fydd yn arcs yn nheulu- y gwron o genedlaeth i genedlaeth, ac vn mynegu j i'r oes a ddel pa mor uehel y safai ef yn syniadau gor.uou dref Merthyr. Y mae ein tref a'r wlad eddiamgylcli mewn galar o kerwydd oolli yr eowog Henadur David lbaviee mor sydyn ac aimjggwyiianwy. i Gw»a«th waith mawr yn ei ddydd, Hun- t odd, fel Dafydd o'i fIaeR, wedi gwasaxiaethu ei genedlaeth yn dda. Codwn yn up gwr i tmriiycedau yr hwn sydd hyd yr awrhon yr aros. G vell o lawer ei goroni yn fyw na gwyngaSehu ei fedd wedi iddo farw Yr wyf yl.1 barod i gyf ranu il ls at y iiirditio, g'va am ngeiniau a gyfranent LRyDiia-) mwy. Gallwn ofyn, Pwy yn fwy pared i gyfranu at acbosion teilwng na'r cytfiH Mr Owen ? Pwy gymer y blaen i alw pwyiigor yn nghyd ?
Advertising
Pob Gwr a Gwraig Drwy holl wlad a odyleut fod yn wyliadwrus rhag y clefyd peryglus, y Dropsy Ddwfr A Dropsy Wynt Yn eu holl ganghenau, oblegyd fod canoedd yn colli eu bywydau yn fiynyddol drwy y clefydau peryglus hyn, ac hefyd ddylent fod yn wybyddus o'r Feddyg- iniaeth lwyddianus ar eu cyfer, sef HUGHES'S Dropsy Pills Mae llu mawr drwy y wlad wedi eu hiachau o'r clefyd hwn, ac y mae yn syndod mor effeithiol y maent er iachau y Gravel, Diffyg Dwfr, Diflyg AnadI, Gwynt, Chwydd yn yTraed Coesau a'r Bol, Asthma, Curiad y Galon Cramp, Poen Cefn, Tewdra Afiach, GWYQt yn y Stumog, Penysgainder, Poen yn y Corflrwymedd, Arenau Afiach, Nid oes dim i'w cymharr ), hwynt yn eu hefteithiolrwydd at y clefydau hyn, Dar- Ilener a ganlyn :— Anhebyg o Fyw. Anwyl Syr,—Y mae yn dda genyf ddwyn tystiolaeth i rhagoroldeb eich Dropsy Pills tuag at lwyr iachau y Dropsy. Bu fy nhad n dyoddef oddiwrth yr anhwyl. der hwn chwech mis ac yn anhebyg o fyw, ond pan gymerodd eich Pills fe lwyr well- haodd yn fuan, a bu yn ailuog i weithio an: 10 mlynedd. D. JONBS. 12 Brynmorfa, Conwy. RBODDI FYNY Y DOCTOR. Syt,-Ar ol derbyn eich 11 Hugheia's Dropsy Pills" mi a benderfynais rhoddi heibio medd yginiaeth y Doctor, fel ag i roddi prawf teg ar eich Pills chwi. Yr wyf wedi bod yn dyoddef yn enbyd am hir am- ser gan chwydd mawr yn y cluniau, aren- au drwg, grafel, diffyg anadl, a phoen cefn. Wedi bod dri mis tan law doctor, yr wyt yn profi fod eich Pills" chwi wedi gwneuthur mwy o les mewn un wythnos na holl foddion y doctor. Mae'r chwydd wedi cwbl ddiflanu, ac yr wyf yn bur ddi- olchgar am y waredigaeth hon. Ydwyf, G. HUNTON. Nolan Place, Stockton. tefFe ddylai pob dynes eu cymeryd achlysurol. Yn ddioed danfoner am Hughes's Dropsy Pills. Jacob Hughes, Manufacturing Chemist, Pena h, Cardiff. RIZYBUDD. S r ER mwyn sicrhau ,3 .N pawb rhag twyll, go- ■. e v faler gael y Trade „ "t,f Mark hwn, sef llun Diamond a'r geiriau V • y' Dropsy Pills oddi- fewn ar bob blwch, ac enw Jacob Hughes ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth drwy yr holl deyrnas am lIlt, 2/9 a 4/6; trwy y post, 1/3, 2/9, 4/6, oddiwrth y Perchenog,- YN Y MOR Fe gafwyd o hyd i Feddyglyn ag sydd yo dra effeithiol at glefydau y Gwddf, y Frest a'r Ysgyfaint, yr hwn mewn undeb a'r Extracts o lysiau nodedig ar lan mor y Pacific, a-wna i fyny y feddyginiaeth mwyat lwyddianus a woi- gm odd y byd erioed. Y mae yn awr yn cael ei wneud i fyny mown potelan ac ya cael el alw wrthjyr enw Sea Weed Lung Life Fe wellha yn umongyichoi y Peswch acAnwyd, Bronchitis, Asthma,Crygai, Dolur Gwddf, Group, Whooping Gough, neu Y Pas, Diphcharia Gacanrh, yn dffeithol i ragflt anu y DABFODED: GAETH. gan Chemists, neu urn ay w Batent Medi cine Dealer am 2/9 a 1/ .1. Sea Weed Lung Lile, MYL ''C ei yr env yn ilawn ar bob potel, a." )herswadi r chwi i gymeryd Aim ati.I ab rdd trafferth 'w gael dan- foner g tm 3/- neu 1/3 at JA BHUGHES Manufacturing Chemist, P< ii'tfe, Cardiff
Advertising
p -s- T* WILLIAMS -i- JLJ! tmm)! "ML Castle Street, Swansea t Largest St-) k in Wales 201.NG RINGS VA LD KEEPERS ENGLISH NT T EVER -WATCHES GRAZILLAN 1R1STAL GPECTACLES GRAZILLAN IRISTAL GPECTACLES
Advertising
WILLIAMS W ATCBMAKEB AND JEWELLER: C as tIe Street, Swansea Gymry hoff I de'wch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau anr; Oriaduron ac awrleisian, Geman a chadwynau claer; Yspectol gelfydd, hin-fynegydd, Gwres fesurydd, cwmpawd mor, Geir gan Williams, Heoi y-Casteli, Trowch i mewn i welld ei stor.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. Deallwn fod yr Ardalydd Bute yn gwella yn araf oddiwrth ei anwylder. Nos Sadwrn, yn sydyn iawn, bu farw y Parch Stephen Jones, gweinidog y Bedydd- wyr, Ruabon. Meddylir y daw prawf Dreyfus i ben yr wythnos nesaf, ac fod 4 allan o'r 7 barnwr yn ei ffafrio. Cafodd gweddillion y diweddar Henadur D Davies, Glebeland, Merthyr, eu claddu dydd Gwener, pryd yr ymgasglodd yn nghyd dyrfa fawr anarferol. Cafwyd rhai cawodydd trymion yn ystod yr wythnos, ac felly daeth y sychder hir- barhaol i ben er mawr foddlonrwydd y lluaws. Deallwn fod y Muzzling Order yn nglyn a'r cwn i ddod i rym ar unwaith mewn rhanau helaeth o Sir Gaer a Sir Forganwg. Y mae gwerthwyr llaeth Merthyr a'r gymydogaeth wedi penderfynu mai 4c y peint fydd y safon hyd ddyddiad pellach. Yr wythnos ddiweddaf, bu farw y Parch E Rowe Evans, gweinidog y Bedyddwyr, Castellnedd, a gynt o Ferthyr. Cafodd gwaith yn Narllawdy Treharris ei atal am dair wythnos, yn herwydd i'r dwfr gael ei droi ymaith gan awdurdodau Cyn- ghor Merthyr. Bu hogyn, Robert Owen, 16 oed, farw yn sydyn yn Nhreharris y dydd o'r blaen, a chredir iddo gael ei wenwyno tra yn ym- drochu yn y gamlas, dwfr pa un sydd dra anmhur. Da genym ddeall fod rhanau helaeth o waith Dowlais wedi eu hail-gychwyn, yn awr fod y gwlaw wedi disgyn. Y mae Mr Cecil Rhodes wedi rhoi archeb i gwmni Americanaidd am filiynau o droed- ¡ feddi o goed at wasanaeth y rheilffyrdd newyddion yn Affrica. Mewn brwydr yn y Soudan yr wythnos ddiweddaf, cafodd dau o feibion y Mahdi eu lladd. Am ymdrochi yn y mor heb y wisg briodol yn Felixtowe, yr wythnos ddiwedd- af, cafodd y Barnwr French, Q.C., Llun- dain, dalu 40s. a'r costau! Yn Zansibar a Pemba, yn ystod y flwyddyn diweddaf, cafodd 2,735 o gaethion eu rhyddhau. Cymerodd tan dinystriol le yn Prestatyn ger Rhyl, yr wythnos ddiweddaf, pryd y llosgwyd y 11) thyrdy a'r maelfa yno, ac y gwnawd niwed i'r swm o £4,000. Bwriada Tywysog Cymru dychwelyd o'r cyfandir gyferbyn a Rhedegfa Doncaster, y Sul nesaf. Ar 01 gwasanaethu dan Gwmni Haiarn a Glo Tredegar am 40 mlynedd, y mae Mr John Reynolds, goruchwyliwr cynorthwyol, wedi ymddiswyddo. Yn Dowlais, y dydd o'r blaen, bu farw Miss Margaret Jenkins yn 86 mlwydd oed. Bu yn ngwasanaeth teulu Crawshay Bailey am flwyddi meithion. Yn ol y ddedfryd a ddychwelwyd yn y trengholiad ar achos y danchwa yn nglofa y Llest, cyfrifir mai y goleu nbeth achlysur- odd yr anffawd dinystriol. Yn Moscow, Rwssia, y mae terfysgoedd wedi tori allan, a ffactrioedd a pheirianau wedi eu dinystrio. Dywedir y bydd tymhor yr I oysters eleni y goreu er's 40 mlynedd. Dywed un gohebydd o Rennes y gellir disgwyl clywed tynghed Cadben Dreyfus o bellaf ddydd Iau nesaf. Ar fynydd uchel yn yr Alps, Switzerland, yr wythnos ddiweddaf, collodd teithiwr Seisnig o'r enw Jones a dau o'r guides eu bywydau. Yn ol cyfrifiad, y mae 20 o weithiau fwy o lo yn China nag sydd yn holl Ewrop. Y mae tafarnwr yn Brynmawr yn rhoi gwobrwyon o foteli o chwisgi i'w gwsmer- ¡ iaid wnant dduo pibau clai oreu mewn wythnos! Yn y llys yn Mryste, dydd Mercher, hysbysai y cadeirydd ar y fainc mai y tafarnau a gedwid oreu yn mhob ystyr yn y ddinas oeddynt y rhai a drwyddedid i I fenywod. Yn ol y ffigyrau, ceir fod tlodion Lloegr a Chymru wedi lleihau mwy yn ystod y 3 mis diweddaf, nag mewn unrhyw gyffelyb gyfnod yn ystod y 40 mlynedd diweddaf. Hysbysir fod Mrs. Baker G. Eddy, sylfaenyddes y sect a adnabyddir fel y Christian Scientists, yn gorwedd yn ddifrifol o wael yn Concord, New Hampshire, America. Y mae Dr. Danford Thomas, crwner, Llundain, yn gwadu ei fod wedi cydsynio i sefyll dros Orllewin Mynwy yn yr ethol- iad cyffredinol nesaf. Cyfarfu Mr. Ernest Bowen Rowlands, bargyfreithiwr, a damwain yr wythnos ddiweddaf, tra yn teithio ar ei olwyneg! y mae, er hyny, ar wellhad. Dydd Sul, bu farw Mr Thomas Harris, Ysgolfeistr, St Ffagan's, Aberdar, yn dra sydyn. Yn y coed, yn Dorking, dydd Mawrth, cafwyd un Henry Botting, gard'iwr, wedi crogi ei hun am y rheswm, meddai, mewn nodyn a adawodd ar ei ol-I ei fod yn an- nheilwng o gyflog ei feistr'—mewn gair, yn ysbeilio ei feistr
. MARWOLAETH MR T. HARRIS,…
MARWOLAETH MR T. HARRIS, YSOLPEISTR, TRECYNOjN. Blin genym orfod cofnodi marwolaeth Mr Thomas Harris, yr hwn fu yn ysgol- feistr am flynyddau yn ysgol Sant Fagans, Trecynon, Aberdar. Cymerodd yr am. gylchiad pruddaidd le dydd Sul diweddaf, o effeithiau paralytic stroke. Cymer yr angladd le prydnawn dydd Mercher, yn gadael y ty-School House, Windsor st., am dri o'r gloch,-boneddigion yn unig.
!Gweithfaol a Masnachol,j
Gweithfaol a Masnachol, -0- GLOFEYDD Y GORLLEWIN. Y mae yn dda genym am yr argoelion ffafriol sydd yn awr yn bodoli y bydd i'r tywyllwch a fodolai yn y gweithfeydd uchod ddyfod i oleuni. Bu i'r trefniadau a wnawd dydd Mawrth diweddaf yn Nghaerdydd, rhwng y glowyr a'r perchenogion yn nglyn a chario yn mlaen y tri pwll ar ddeg, y rhai, a chaniatau y buasai i'r trefniadau uchod syrthio yn ddiles, a fuasai yn segur, wneud gwaith da, a rhoddodd hyn foddhad mawr i bawb yn enwedig y rhai ag sydd yn dibynu yn unioigyrchol ar y glofeydd hyn. Hefyd crea lawenydd yn y gweithiwr alcan, o herwydd y mae eu hymddibyniaeth hwy ar lofeydd y Gorllewin yn fawr, ac y maent megys yn glymedig wrth au gilydd. Ond fodd bynag, nis gellir dweyd fod yr anghyd- welediad wedi ei gwbl orphen, ond wedi ei oedi y mae ond y mae teimlad cyffredinol yn bodoli y bydd i'r teimlad dymunol a ddangoswyd dydd Mawrth diweddaf esgor ar ganlyniadau dymunol, o herwydd bydd i'r perchenogion i ddelio yn bersonol gyda chynrychiolwyr y gweithwyr, a bydd i gyf- artaledd o gallineb gael ei defnyddio o'r ddwy ochr. Da genym ddeall, mewn dwy o'r glofeydd-sef y Garngoch a Gorseinon, fod cynllun wedi ei sicrhau er trefnu yr an- ghydfod, yr hwn gynllun sydd wedi ei gych- wyn. Y mae hwn yn foddhaol-mor foddhaol nes peri i ni ofyn paham na sicr- heir yr unrhyw gynllun gan y Meistri Glassbrook a'i feibion, a'u gweithwyr: a glofeydd yr Eaglesbush a'r Broad Oak, lie ) mae y streic wedi bodoli am rai misoedd ? I Bydd yn rhaid i'r streic yn y lleoedd hyn gael ei therfynu rywbryd, a doethineb a ddywed, goreu po gyntaf y cytunir ar del- erau heddwch. Nid yw yr anhawsdra yn y naw pwll arall yn anorfodol. Ceir achos cryf er gwastadhau yr anghydfod, a diam- heu y dengys y gweithwyr ysbryd i syrthio i mewn, neu gydnabod i raddau, fel y gwnaeth eu cynrychiolwyr dydd Mawrth diweddaf-gwnaethant hwy roddi i fyny yr hawl am delerau i'r rhai oedd yn gwrth- olygu. Y mae llawer o bethau yn Neheu- dir Cymru yn bresenol yn dangos fod llafur yn gwasgu am ei hawliau, ond dyddorol hefyd ydyw sylwi fod y gweithfeydd alcan. a chyflogwyr glofeydd y Gorllewin a'u gweithwyr, yn sicrhau mesurau er adgy- weirio eu gwahaniaethau yn amgylchyredig i fyrddau y gynadledd, ac nad ydynt mor barod ag y maent wedi bod hyd yn ddi- weddar i ganiatau i Streics gymeryd lie. Yn ddiddadl y mae hyn yn eaffaeliad mawr i bob math o waith a llafur.
Y Tramwyr yn gwrthod Givcithio.
Y Tramwyr yn gwrthod Givcithio. Gyda bod y wawr yn tori ar yr achos uchod, wele gwmwl arall yn codi. Y mae tua pedwar ugain o dramwyr yn Glynea, St. George, Morlais, a glofeydd Glyncoed, yn nosbarth Llanelli, wedi penderfynu atal gweithio oni ychwanegir eu cyflogau rhag blaen. Mewn gair, ni chydnabyddant delerau Caerdydd o gwbl; a'r canlyniad yw y bydd i fil o bersonau ereill fod yn segur. Deallwn fod y cam hwn wedi ei gondemio gan Gymdeithas M wnwyr y Gorllewin, a Ffederasiwn Deheudir Cymru. Cyngor- odd Mr John Williams, y goruchwyliwr, hwy i beidio bod yn annoeth yn y mater. Da genym ddeall fod pob ymdrech yn cael ei wneud i setlo y cwestiwn.
'COKERS' EBBW VALE.
'COKERS' EBBW VALE. Deallwn fod y gweithwyr uchod, yn rhifo tua 20ain mewn nifer, sydd yn ngwasanaeth cwmni Ebbw Vale, wedi rhoddi mis o rybydd am godiad yn eu cyf- logau.
GLOWYK ABEKDAR A MERTHYR.
GLOWYK ABEKDAR A MERTHYR. Mewn cyfarfod o lowyr Aberdar a Mer- thyr, a gynaliwyd dydd Llun diweddaf yn Ngwesty y Rheilffordd, Trecynon (Mr John Watkins, Aberaman, yn y gadair; a Mr Elias Morgan, Nantmelyn, yn yr is-gadair), fe benderfynwyd y bydd i'r goruchwyliwr yn y dyfodol argraffu yr adroddiad Misol, ac hefyd mantolen arianol yr ysgrifenydd, .ac i'w hanfon i bob un o'r pwyllgorau er eu uefnyddioldeb.—Hefyd penderfynwyd fod i bob aelod dalu am ei badge yn chwarterol. —Yr oedd adroddiad y Ddeddf Iawnol yn hynod o foddhaus-yr hawliau oedd o 16/- i 19/- yn wythnosol wedi eu talu yn ystod y mis i'r dynion, ac o 5/- i 8/- i blant.-Caf. wyd ymdriniaeth bellach ar bwnc y llyfr newydd,' a phenderfynwyd i gynorthwyo penderfyniad y Pwyllgor Gweinyddol i alw ar Bwyllgor Canolog Deheudir Cymru a Sir Fynwy i alw yn nghyd rhag blaen gyn- adledd o Fwnwyr Deheudir Cymru i edrych i mewn i'r mater.—Penderfynwyd hefyd na fydd i unrhyw benderfyniad yn y dyfodol gael ei ddiddymu cyn bod yr unrhyw wedi bod mewn grym am ddeuddeg mis.
YNYSYBWL.
YNYSYBWL. Bu y Meistri David Morgan, Aberdar: a Mr Ben Davies, yn anerch cyfarfod o'r gweithwyr cyflogedig yn nglofa Lady Windsor, y lie uchod, yn y Bwrdd Ysgol, nos Liin diweddaf. Y testyn oedd Undeb- aeth Grefftol,' a gwnaethpwyd cais at yr oil nad oeddynt yn aelodau o'r Undeb i ymuno a'r gyfrinfa leol heb oedi. Cyngorwyd yr aelodau hefyd i dalu i fyny eu holl gyfran- iadau eyn 16eg o Fedi—noson y gyfrinfa lawn.
PEIRIANWYR GLOFAOL.
PEIRIANWYR GLOFAOL. Y mae a*nghydwelediad difrifol rhwng y peirianwyr a'r stokerrs' yn bodoli yn lied gyffredinol. Y maent yn gwneuthur ymgais am godiad yn eu cyflogau. Maent wedi rhoddi mis o rybydd i ddiweddu y cytundebau presenol. Yr hyn a ofynant ydyw 4/6 y dydd o gyflog sefydlog, yn lie 3/7 i fyny i 4/- y dydd. Effeithia hyn ar I ugain mil o weithwyr.
, CYMDEITHAS DDARBODOL Y GLOW/R.
CYMDEITHAS DDARBODOL Y GLOW/R. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol Bwrdd Llywodraethol y gymdeithas uchod yn Nghaerdydd, dydd Iau, Awst y 30ain, o dan lywyddiaeth Mr Louis Tylor. Yr oedd hefyd yn bresenol Col. Wilkinson, Dr Parry, Meistri Joseph Price, H. Richards, B. Ashton, T. Davies, J. Lewis, T. Screen, H. Beddoe, D. Bowen, H. Thomas, C. Powell, W. Wells, M. Reynolds, M. Roberts Jones, a Evan Owen, yr ysgrifen- ydd cyffredidol.-Ar gynygiad y llywydd, pasiwyd pleidleisiau o gydymdeimlad gyda dyoddefwyr tanchwa y Llest; ac hefyd ag Ardalydd Bute, yn ei gystudd blin.- Dang- osai y mynegiad arianol fod cyfraniadau y gweithwyr o dan y cynllun a gymeradwy- wyd gan brif gofrestrydd y Cymdeithasau Dyngarol yn 3,489p, a chyfraniadau y meistri yn 6p65p. Talwyd ar farwolaeth- au 150p i weddwon, 38p.; i amddifaid, 36p ac i aeIodau anafus, 2,691 p. talwyd 1 weddwon oeddynt ar y trysorfeydd yn flaenorol, 2,993p; i amddifaid, 2,270p; a 3,364 i aelodau anafus. Rhif yr aelodau o dan y cynllun ar y 30ain o Fehefin oedd 21,271, cynydd o 501 ac yr oedd ar y trysorfeydd ar ddiwedd y chwarter 913 o weddwon, 1,371 o amddifaid, ac amryw ganoedd o aelodau anafus parhaus.
GLOFEYDD °ABERNANT.
GLOFEYDD °ABERNANT. Rhoddi Rhybvddion i'r Holl Weithwyr. Y mae prydles glofeydd Abernant oddi- wrth ystad y Bute, a gyflwynwyd yn mlynyddoedd mebyd y ganrif bresenol, ac' wedi ei throsglwyddo drwy amryw ddwy- law nes dyfod yn eiddo i'r diweddar Mr Rowland Fothergill, a'i nai, Mr Richard Fothergill, Tenby (unwaith yn Aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Merthyr ac Aberdar), ac a ddaeth drachefn chwarter canrif yn ol yn eiddo Mr James Lewis, Y.H., Plasdraw, yn terfynu ar ddiwedd y mis presenol. Rhoddodd Mr Lewis, dydd Gwener diweddaf, rybyddion i'r holl weithwyr i ddiweddu y cytundebau ar y 30ain cyfisol. Gan rod tua phymtheg cant o weithwyr yn gyflogedig yn y glofeydd hyn, y mae y rhagolygcn yn dra anffafriol. Yn ychwariegol at ran helaeth o weithwyr glofa y Werfa, perthynol i'r Meistriaid J. Evens a'i gwmni, ac yn cael eu dal gan yr un cwmni o dan brydles oddiwrth Mr James Lewis — amcangyfrif y rhai nas gallwn roddi sicrwydd cywir o honynt-y mae yr holl weithwyr cysylltiedig a'r lofa, megys seiri, meiswniaid, peirianwyr, &c., wedi cael rhybyddion. Nid oes dim yn wybyddus hyd yn hyn yn nghylch dyfodol gweithfeydd Abernant, ond ni fydd yn ddim llai nag effaith annileadwy ar Aber- dar os erys y gweithfeydd yn segur am unrhyw gyfnod. Yr unig ran o'r glofeydd hyn sydd heb deimlo yr effaith ydyw pwll y De Winton-yr un newydd sydd yn cael ei weithio yn ngwaelod Parc Aber- nant, yr hon sydd yn awr yn agored, ac yn cael ei dal gan Mr James Lewis, o dan brydles oddiwrth ystad y De Winton.
Y Cwestiwn o Ataliad.
Y Cwestiwn o Ataliad. Nid yw y posiblrwydd am ataliad yn nglofeydd Abernant a'r Werfa heb greu dyddordeb yn Aberdar a'r cylch. Oddiwrth ymofyniadau a wnawd o fan sydd yn de- bygol o fod yn gywir, yr ydym yn deall fod gobeithion na fydd i'r gweithfeydd beidio. Fel yr ydym wedi egluro yn barod, y mae y brydles yn terfynu yn niwedd y mis presenol, a bu cyflafaredd- iad rhwng Syr W. T. Lewis (ar ran yr Ardalydd Bute), a Mr James Lewis, i'r hwn y cynygiwyd adnewyddu y brydles, ond gwrthododd ei derbyn. Mae y dra- fodaeth hon, fodd bynag, wedi cael ei thori ymaith gan y gwrthoda Mr Lewis Lewis feddianu y brydles. Fodd bynag y mae vmgais wedi ac yn cael ei gwneud yn awr, gyda golwg ar fcr gweithfeydd gael eu cario yn mlaen heb ataliad yn un o'r cangenau. Beth ydyw natur y cyf- lafareddiad hwn nid yw yn wybyddus, ond gwyddom fod Syr W. T. Lewis a'i holl egni er ceisio cael moddion i'r lie gael ei weithio, ac i gadw draw ataliad. Dywedir yn lied gyffredinol yn y gweithfeydd am- gylchynol, — cymerer y son am yr hyn ydyw ei werth-fod cwmni glofaol cryf yn Nyffryn Aberdar yn ceisio dyfod i delerau er meddianu y gwythienau glo sydd yn cael eu gweithio yn awr yn Abernant. Os ydyw hyn yn golygu cymeryd drosodd y gweithfeydd dan sylw, ofnir y bydd i'r glo gael ei weithio o ranbarth isaf Aberdar, a'r canlyniad o hyny fydd i nifer fawr o bersonau o ddosranau Abernant a Trecyn- on ymadael i Gwtnbach ac Aberaman. Nid oes amheuaeth y buasai yn llawer mwy dymunol er Hes Aberdar i gwmni newydd gymeryd at lofeydd Abernant. Pa un o'r ddau gynllun uchod a gymerir i'w gario trwodd, y mae yn anhawdd iawn yn awr i'w benderfynu. Da genym, fodd bynag, allu hysbysu nad oes ond argoel wan y bydd i'r gweithiau gael eu llwyr atal. Y Peirianwyr. Rhoddwyd rhybyddion gan yr holl beir- ianwyr sydd yn gyflogedig yn y gweith- 'feydd uchod i derfynu eu cytundeb ar y 30ain o'r mis hwn.
—o— lCYFLAFAREDDIAD Y BWLLFA.
—o— l CYFLAFAREDDIAD Y BWLLFA. Mae'n wybyddus fod yr anghydfod yn nglofa y Bwllfa, Rhondda, yn nglyn a'r tal am dori haenau y pedair a'r chwe' troed- fedd, i gael ei setlo drwy gyflafareddiad, I ond y mae oediad wedi cymeryd lie drwy I afiechyd un o'r contractors. Yr ydym yn 1 awr yn deall fod Mr T. Richards, goruch- wyliwr cyffredinol glofeydd y Lewis I Merthyr, Hafod, wedi ei apwyntio ar ran y cyflogwyr; a Mr Ben Davies, o Ffeder- I asiwn y Rhondda, ar ran y gweithwyr. Te- i bygol y byddant yn cyfarfod yr wythnos hon er myned i mewn i'r holl gwestiwn.
—o— ANNGHYFIAWNDER MEWN GLOFEYDD.
—o— ANNGHYFIAWNDER MEWN GLOFEYDD. Wedi darllen llith o dan y penawd hwn, yn eich rhifyn diweddaf, gan rhywun a eilw ei hun yn Lief o'r Laia" er mwyn ychydig o eglurhad, dymunaf gyfeirio ychydig o ofyniadau ato, sef 1 Onid wrth y dyaell y telir y glowr am y glo; os felly, pa beth a olyga wrth swllt a grot am dri neu bump cant ar ugain o lo 2 Yn mha lofa y telir swllt a grot am dri neu bump cant ar ugain o lo ? 3 A ddarfu i Bwyllgor Gweithiol y Federation tmrhyw amser, arwvyddnodi rhyw gytundeb," a oedd yn "marn y gweithwyr fel cyfangorff yn annheg neu yn annghyfiawn." Os yw hyn yn wir, pa bryd, pa betk, ac yn mha le y cymerodd hyn le? Fel aelod di- stadl o'r Federation, credaf fod genyf hawl i ofyn y gofyniadau uchod, ac hyderaf y bydd i Lef o'r Lofa fod cystal a'u hateb. j BLACK DIAMOND.
. HIRWAUN.
HIRWAUN. Rhwng wyth a naw o'r gloch nos Sad- wrn diweddaf, darganfyddwyd fod tan wedi tori allan yn y Foundry perthynol i waith Steel y lie, perchenog yr hon yw MrSnape. Anfonwyd hysbysrwydd o hyny yn ddioed at y Fire Brigade yn Aberdar, ond mewn ychydig funydau yr oedd y tan wedi cym- eryd gafael yn y nenfwd a syrthiodd holl o hono i fewn. Gwnaeth pobl y lie eu goreu i'w ddiffodd, ac aeth llawer o amser heibio yn absenoldeb Fire Brigade yn lie. Wedi ca-I yr hydrant i weithio, nid hir y buwyd cyn cael yr afael drechaf ary tan, Achub- wydgwerth canoedd o bunau. Gwnaeth Mr Isaac H Jones, Goruchwyliwr glofeydd Hirwaun waith da yn nglyn a'r tan.