Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

FA FODD Y CYMERWYD Y GAERFA.

News
Cite
Share

FA FODD Y CYMERWYD Y GAERFA. YSTORI WEDI EI CHYFADDASU I'R DARIAN." GAN HKK FILWR. Ychydig flynyddau yn ol, darfu i gyfaill i mi, yr hwn oedd yn filwr dewr (ond sydd erbyn hyn wedi marw o'r dwymyn) ad- rodd i mi un diwrnod ystori am yr ymladdfa neu y frwydr gyntaf y cymerodd efe ran ynddi. Dylanwadodd yr ystori gymaint ar fy meddwl ar y pryd, fel y cymerais y drafferth o o'i hysgrifenu mor gywir ag y buasai fy nghof yn camatau. Dyma hi, felly, i ddarllenwyr y DARIAN, yn fy null anmhcrffalth ac anghywir Cyrhaeddais fy nghatrawd ar Fedi 4ydd. Yr oedd yn hwyr. Cefais fod y Cyrnel yn y gwersyll. Darfu iddo fy nerbyn yn lied arw; ond wedi iddo ddarilen y llythyr oedd yn fy meddiant oddiwrth fy ngnad- fridog, cyfnewidiodd ei ddull, gan fy aneroh yn foneddigaidd. Trwyddo ef y cefais fy nghyflwyno 1 fy nghadben milwrol. Yr oedd y eadben, ad- nabydyddiaeth o'r hwn ni chefais ond amser byr i'w wneuthur, yn wr tal, tywyll, o olwg wrthwynebol. Yr oedd wedi bod yn filwr cyffredin, ac wedi enill ei "groes a'i arwydd-nodau ereili ar faes y frwydr. Swniai ei lais egwan yn hynod anghym- harol ac annaturiol a'i gorff mawr. Yr oedd hyn yn achos, fel y deallaie wedi hyny oddiwrtho ef ei hun, o fod bwled wedi pasio yn glir drwy ei gyfansoddiad yn mrwydr M Wedi iddo ddeall fy mod newydd ddyfod o Goleg Milwrol F-, ynganodd gyda gwyneb sarug, "Bu farw fy is-ragiaw neithiwr." Deallais ar unwaith beth a feddyliai- Rhaid i ohwi gymeryd ei Ie, ac nid ydych yn werth dim." Yr oedd genyf ateb llym a pharod megys ar fy nhafod, ond ymataliais rhag gwneud defnydd o hono. ^.4^ Codai y lleuad yn dawel tucefni'r Gaerfa yn C-, yr hon a safai tua saeth dau magnel o'n sefyllfan ni. Yr oedd y lleuad yn fawr ac yn goch, fel y mae ei arfer wrth godi; ond y nos hono ymddang- osai o faintioli tuhwnt i'r cyffredin. Am eiliad edrychai neu ymddangosai y gaerfa megys yn dywyll-ddn yn ngwyneb y lleuad dysgleiriol. Ymdebygai i gopa llosgfynydd ar ymbarotoi i ffirwydro. Darfil i hen filwr, yr hwn a safai ger fy mron ary pryd, syllu ar liw y lleuad. -HJ* Y mae yn goch iawn," meddai, y mae yn arwydd y bydd iddi gostio yn ddrud i ni enill y gaerfa ryfedd hon." Yr oeddwn bob amser yn ofergoelus, ao yr oedd y broffwydoliaeth hon, yn dyfod ar y foment hono, braidd yn fy ngosod yn anghysurus. Aethum. i'm gorweddle, ond nis gallwn gysgu. Cyfodais, a cherddais oddiamgylch am dipyn, gan syllu yn fanwl ar linellau hirion y goleuadau tuhwnt i bentref C —. Ar ol i awyr miniog y nos aafiywio fy ngwaed, aethum yn ol at y t&n. Goroh- uddiais fy hun a fy mantell, cauais fy llygaid, gan hydern na agorwn hwynt cyn y boreu. Ond gwrthodai gwsg ymweled a mi. Yn anwybodol darfu i fy synwyrau megys ymgolli. Dywedais wrthyi fy hun ^ad oedd genyf gyfaill yn mhlith y e*m' mil Qjroi^-o.. iwent y i cawswn fy anafu, cawswn ty ngosod; clafdy, Be yn nwylaw meddygon anwybbd- us ae esgeulus. Cured fy nghalon yn arswydus, a gosodais fy maoyn poced a'm dydd-lyfr ar fy mrest fel math o darian.1 Gorchfygwyd fi, beth bynag, o'r diwedd gan Mr. Cwsg. Pan gurai y drums ar cioriad gwawr, yr oeddwn mewn trwmgwsg. Galwyd ni i fyny i'r rhengau. Cafodd y roll ei galw, parotoasom ein harfau, ac ymddangosai pobpeth megys i gyhoeddi y cawsem dreulio diwrnod dibwys arall. Ond tua 3 o'r gloch y prydnawn, daeth brysnegesydd i'r gwersyll gydag arch- ebion. Gorymdeithiodd ein saethwyr cyflym (sharpshooters) i'r maes. Dilynasom hwynt yn araf, ac yn mhen ugain mynyd, gwelsom y gwylwyr Rwsiaidd yn cwympo yn ol ar y gaerfa. Yr oedd genym ynau mawrion i'r de ae i'r flfiwy, y rhai oeddynt dipyn yn mlaen oddiwrthym. Agorasant dan cyflym a buan ar y gelyn, y rhai a atebasant yn uniongyrohol, ac yna yr oedd caerfa C yn orchuddiedig gan fwg. Yr oedd ein catrawd braidd yn guddiedig hefyd oddiwrih dan y Rwsiaid gan ddarn o dir yn codi tipyn o'n blaenau. Yr oedd eu bwledau yn chwibanti drosom, ac yn fynych yn achosi i gawod o dywod a cheryg ddyfod ar ein traws. Tra y rhoddid y gorehymyn i fyned yn mlaen, edrychodd y cadben arnaf yn ddi- frifol. Ceisiais deimlo mor fewyllog ag y medrwn, gan gymeryd calon oddiwrth y ffaith fod y bwledau yn ty mhasio yn ddi- effaith. Edrychwn yn mlaen at yr anrhy- dedd dyfodol gawswn o adrodd, mewn cyfarfodydd hwyrol yn ninas P o ddesgrifio fy mrwdfrydedd a'm gwrhydri yn nghymeriad caerfa C-. Pasiodd y cadfridog heibio ein catrawd. "Wel," meddai, "yr ydych i weled gwaith twym a dyfal yn eich ymosodiad cyntaf." Ceisiais beidio talu dim sylw i'r myneg- iad, gan benderfynu gwynebu'r cwbl fel milwr dewr. Ymddengys fod y Rwsiaid wedi deall nad oedd eu bwledau yn cael un effaith felly, gyrasant dan-belenau i'n plith, a tharawodd un o'r cyfryw fy hot milwrol oddiar fy mhen, gan ladd milwr wrth fy ochr. Yr wyf yn eich llongyfarch," ebai y eadben. "Yr ydych yn ddyogel yn awr am y dydd." Gwyddwn am yr ofergoeliaeth yn nghylch y dygwyddiad, a gosodais fy het ar fy mhen. Bydd i chwi arwain cwmpeini heno," ebai y cadben, "oblegyd ni fydd i mi orfyw y dydd. Bob tro yr wyf wedi cael fy niweidio, mae y swyddog islaw i mi wedi cael ei gyffwrdd gan belen, ac, meddai mewn ton iselach, "dechreuai en henwau oil gyda P." Cherthinais rywfodd, fel y gwnai y rhan fwyaf o bobl wrth y syniad ond tarawyd fi, er hyny, gan y geiriau proffwydoliaethol. Ac er mai ond milwr cyffredin oeddwn, teimlais nas gallaswn ymddiried fy meddyliau i neb, a'i bod yn ddyledswydd arnaf i fod bob amser yn bwyllog a gwrol. Yn mhen haner awr, darfu i'r saethu ar ran y Rwsiaid ategu gryn lawer. Dechreu- asom fyned i gyfeiriad y gaerfa. Cynwysai ein catrawd dri chwmpeini. Yr oedd yr ail i ymosod o'r naill du, a'r ddau arall i ffurfio yn storming party. Yr oeddwn i yn perthyn i'r olaf. Wrth ddod i ben y tir, cawson dderbyn- iad cynes oddiwrth amryw fagnelau. Yr oedd y bwledau yn chwythu neu yn chwibanu yn ofnadwy heibio i mi. "Ond wedi'r cyfan," meddyliwn, "y mae brwydr yn llawer llai arswydus "PP' v dysgwyliwn." Rhuthrasom oIl. yn gyflym yn mlaen. Ar unwaith gwaeddodd y Rwsiaid hwre dair gwaith, ac yna safasant yn dawel heb saethu. Nid wyf yn hoffi y dystawrwydd yna, ebai y cadben. Nid yw yn arwyddo ddim daioni. Yn fuan, cyrhaeddasom wrth draed y gaerfa. Chwilfriwiwyd ei muriau gan ein magnelau, a chydag un waedd fawr, rhed- odd ein ittUwyr am draws yr adfeilion. Cyfodais fy Uygaid. Nis anghofiaf fyth o'r olygfa a gyfarfyddais. Yr oedd y mwg megys wedi codi fel lien tuag ugain troed- fedd uwchlaw y gaerfa. Trwy y niwl glas, gwelwn y milwyr Rwsiaidd yn sefyll megys cof-golofnau gyda'u drylliau. 0 fewn ychydig droedfeddi i mi, safai milwr gydafusee yn barod i danio y magnel. Crynais a chredais fod fy awr ddiweddat wedi dod. "Yn awr am i'r ddawnsfa ddechreu," gwaeddai y eadben. Daeth o'r gaerfa swn curiad y drums. Gwelais y drylliau a'r gynaai yn jael eu hanelu. Clywais y saethiadau a'rergydion mwyaf trystfawr a thanllyd, yn cael eu eaalyn gan yegrechfeydd a chwynfanau. Yoa edryehais i fyny, a chefais fy synu i ddeall fy mod yn fyw. Yr oedd y gaerfa unwaith yn rhagor yn orchuddiedig gan fwg. Yr oeddwn yn amgylchynedig gan y meirw a'r anafedig, Yr oedd y cadben yn gorwedd wrth fy nhraed; yr oedd pelen wedi cario ei ben ymaith, ac yr oeddwn yn orchuddiedig gan ei waed. O'r holl gwmni, dim ond chwech, heblaw fy hun, a safasant yn syth. Dilynwyd y frwydr gan fath o ddi- deimladrwydd. Y fynyd nesaf, daeth y cyrnel yn mlaen gyda'i het ar flaen ei gleddyf, gyda gwaedd o Byw byth fo'r Frenines I" Dilynwyd ef gan y rhai a ddiangasant. Darfu i'r cwbl a ddilynoc1 d ymddangos megys breuddwyd i mi. Rhuthrasom i'r gaerfa, pa fodd nis gwn; ymladdaeom law yn Haw yn nghanol mwg mor drwchus fei nas medrai un dyn weled pwy oedd ei elyn. Canfyddais fod fy nghleddyf yn dyferu gan waed. Clywais waedd o Fuddugoliaeth a cherllaw gwelais lwyth o'r mairw a'r anafedig, Yr oedd y magnelau yn orchuddiedig gan fyrff. Yr oedd tua dau gant o wyr 'frengig yn sefyll gerllaw, yn llnnw eu drylliau, ac yn sychu eu cleddyfau. Yr oedd ganddynt hefyd un-ar-ddeg o garchar orion Rwsiaidd. Yr oedd y cyrnel yn gorwedd megys wedi ei drochi mewn gwaed, ar fagnel toredig. Safai amryw filwyr oddiamgylch iddo. Aethnm atynt. Pwy yw y cadben bynaf ?" clywais ef yn gofyn i Sergeant. Ysgydwai yr olaf ei ysgwyddau. Pwy yw yr is-gadben hynaf ?" Y boneddwr hwn, a daaeth yma neithiwr," ebai y Sergeant yn dawel. Gwenodd y cyrnel goreu y medrai. "Dewch, syr," meddai wrthyf, "yr ydych 'nawr mewn prif awdurdod. Cryf hewch agoriad y gaerfa gyda gwageni goreu y medrweh, oblegyd y mae y gelyn allan mewn nerth. Ond y mae y Cadfridog B yn dyfod i'ch cyn- orthwyo." "Cyrnel," meddwn wrtho, "a ydych wedi eich anafu yn dost ?" Pwff, fy machgen anwyl! Y mae y gaerfa wedi ei ohymeryd

. ■ iir" T I-' i-I.■-

"',," t ""TT"'T.

O'R GADAIR WELLT.

. DIRWEST.

^. LLYTHYRA NEWYDD.

. YR ORSEDD.