Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
SUPREMACY In the Furnishing Business of South Wales and Monmouthshire is the Watchword OF Bevan&Co. Hi x im: iteDJ | REGISTERED AS <* rpHE CARDIFF FURNISHERS," Their exceedingly low prices have attracted to them the largest trade of its kind in the principality, with the result that they are more determined than ever, not only to retain, but to further increase their exten- sive trade. No effort will be spared J in giving every customer the highest satisfac- tion as to prices and quality, while Íàthe immense stocks give purchisers the best and largast selection in the district, and comprise everything required for furnishing through- out. T..L OODS JJILIVERED FREE .K" BY ROAD OR RAIL, WITHIN ONE JJUNDRED MILES OF CARDIFF. I JLLUSXRATED QATALOUGE1 pOST FREE", ON APPLICATION, Special attention is directed to the excellent and very durable Satin Walnut Bedroom Suites at following prices (glass door to Wardrobe and Marble Top and Tile Back to Washstand) SEVEN AND A HALF GUINEAS! TEN GUINEAS! EIGHTEEN GUINEAS! Very Handsome Bedroom Suites in Amer- £ ican Black Walnut, zC22 10s. Perambulators from £11s. .A very fine selection of Carpets, Linoleums, [ Floor Cloths, Hearth Rugs, &c. Tapestry Carpet, from IOtd. per yard. Brussels, from Is. 11id per yard. Bevan&Co. LIMITED, "THE CARDIFF FURNISHERS," DUKE STREET & gT. MARY STREET QARDIFF. DIM OND. DIM OND ychydig anwyd a pheswch, a dim ond ei esgeuluso, efe a arwain i'r Bron- chitis, y Darfodedigaeth, a'r bedd. Dim ond cymeryd cwrs rheolaidd o QUININE BITTERS GWILYM EVANS gellir dianc rhag y peryglon bygythiedig. DIM OND ychydig boen yn y cylla, ycbydjg lai o archwaeth at fwyd, ychydig w ynt yn y frest, ydynt rai o arwyddion cyntaf Diffyg Treuliad. Dim ond cymeryd QUININE BITTERS GWILYM EVANS mewn pryd, ni fyddai dim ond mwynha wrth bob pryd o fwyd. DIM OND ychydig boen rhwng yr ys- gwyddau neu y cymalau, neu ychydig flino, sydd yn dangos perysl yn yr Afu. Dim ond QUININE BITTERS GWILYM EVANS sydd yn sicr o wella holl ddoluriau yr Afu DIM OND teimlo ychydig yn isel, ychydig yn drymaidd, oedd y dyn ar y dyntaf, ond yn raddol aeth yn waeth waeth nes syrthio i ganol y pruddglwyf, ac i iselder yspryd parhaol, nes gwneud bywyd yn faich iddo, a'i holl gyfeillion i flino yn ei gylch. Pe byddai dim ond cymeryd cwrs da o QUININE BITTERS GWILYM EVANS a gljnu wrtho, xryrid y pruddglwyf a'r meddyliau isel oil i ffwrdd. DIM OND ychydig welwder yn ngwyneb y mab neu y ferch ieuanc oedd yr arwydd cyntaf o'r gwendid derfynodd yn angeuol Dim ond eymeryd QUININE BITTERS GWILYM EVANS mewn pryd, byddai adferiad yn sicr. DIM OND crio ac edrych yn ddihwyl, a pheidiu 'd'od yn mlaen' wna y baban ar y fron os na fydd llaeth y fam yn bur. Dim ond i'r fam gymeryd QUININE BITTERS GWILYM EVANS daw y plentyn yn gryfach arall. Mynwch ef heb oecti. TYSTIOLAETHAU. Summer Grove, Birmingham, Ohwef. 20, 1889. Acwyl Syr,—Y mae yn hyfryd- wch genyf allu anfon y dystiolaeth hon i chwi. Bum ar adegau am dros bum' mlynedd yn dyoddef xjixjixn gan glefyd yr ysgyfaint (bronchitis), EH £ 3 £ 3 ac mewn canlyniad yr oedd fy holl SUS nerves wedi eu gwanhall. Buamryw o o o feddyaon yn gweini arnaf o dro i Z Z Z dro, ond nid oeddwn yn cael fawr O O O ueSt O'r diwedd, cymhellwyd fi i pq § § roddi prawf ar Quinine Bitters Gwilym Evans, a da genyf allu dweyd, yr wyf yn ddyn newydd hollol, a bydd i mi ei ganmol wrth bawb.—Yr eiddoch yn gywir, T. SHARPE. QUININE BITTERS GWILYM EVANS Oak Street, Oswestry, Mawrth 27ain, 1889. Anwyl Syr,—Y maej yn bleser genyf anfon y dystiolaeth hon i chwi, a theimlaf ei bod yn ddyled 2 0 Q swydd arnaf wneud hyn, gan fy QOP mod wedi derbyn y fath les wrth WWW ddefnvddio eich Quinine Bitters, ar ol bod yn dyoddef yn hir oddi- O O Ci5 wrth annrheuliad a gwendid (ac yr wyf yn ddiolchgar fod y fath fedd- yginiaeth wedi ei darganfod).- Yr eiddoch, &c., E. DAVIES. QUININE BITTERS .GWILYM EVANS Gerizim, Mehefin 4ydd, 1889. $W W Anwyl Syr,—Yr wyf yn ddiolch- En EH Eh gar am eich meddyainiaeth werth- C5 ed O0ddwn yn dyoddef fe fe oddiwrth anhwyldeb a diffyg ar- te trj td chwaeth at fwyd bob dydd Llun, OOO yn ganlynol i bregethu ar y Sul. SSS Cymerais botelaid o Quinine Bit ters a chefais les mawr oddiwrtho. ø ø ø Byddai yn werth i bawb sydd yn £ S fS dyoddef anhwyldeb wneud prawf P:4 P:4 P;4 0 hono. Gallaf ei gymeradwyo yn galonog.—Yr eiddoch, &c., (Parch) DANIEL DAVIES. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. i Paham y dyoddef weh oddiwrth ddoluriau pan y mae meddyginiaeth naturiol, syml, ac effeiihiol i'w chael yn QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Pris, Poteli, 2s, 9c eto dwbl fairt, 48 6c. blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12s. 6c. I'w gael yn mhob man. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, daufonir ef am y prisiau uchod yn rhad a dyogel drwy y post i un- rhyw gyfeiriad yn y Deyrnaa Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogioa QUININE BITTERS MANUFACTURING CO., LIMITED, LLANELLY, S. WALES. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prif oruchwyliwr, R. D. WILLIAMS, Medical Hall, Plymouth, Penn. ALBERT HALL, ABERTAWE. pYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lie uchod dydd Lion, Tachwedd 3ydd tGwyI Mabon), 1890. Llywyddion,—D. Randell, Yaw., A.S Llan- elli, a T. Jones Parry, Yaw., Abergavenny. Beirnlald,—John Thomas, Yaw., Llanwrtyd, a T. Price, Ysw., Merthyr. Arwefnyddt-W. Abraham, Ysw. (Mabon), A.S. I'r cor, heb fod dan 150 o nifer, a gano yn oreu Ye Nations, offer to the Lord,' gwobr £ 50, a 211 arwelnydd pob cor anfaddagol. I'r cor, heb fod dan 50 mewn nifer, a gano yn oreu 4 Datod mae Rhw)'mau,' J. Thomas. gwobr £12.. I'r parti gwrywaldd, heb fod dan 40 mewn nlfer, a gano yn oren I Wyr Philistia,' D. Jenkins, Uymraeg nen Saesneg, gwobr £ 10. I'r Drum and Fife Band a chwareno yn oren onrhyw ddwy Alaw Gymraeg (trefnlanb Peters) cyhoeddedlg gan B. Parry, Abertawe, gwobr £33s. Y programs, yn cynwya pob manylion, I'w cael am lc., trwy y post, 1tc. gaa yr ysgn.,— B. W. Rosser, Cwm Board School, Swansea, ac E. Thomas, Biaencrymlin, Llansamlet. Pob gobebiaethau ac ysgrifau i'w hanfon i'r Editor, TARIAN Office, Aberdare." Pob Taliadau ac Hysbysiadau i'w cyfeirio at Mills & Evans, TAR IAN Office, Aberdare.
ARDDANGOSFA FLODAU ABERDAR.
ARDDANGOSFA FLODAU ABERDAR. Agwedd newydd yn nglyn a'r uchod y flwyddyn hon oedd cystadleuaeth mewn gwneuthur bara. Rhoddid gwobrwyon am wneuthur torth bedwar pwys, ac hefyd am dorth saith pwys. Enillydd y First Prize o 5s. am y dorth bedwar pwys oedd Miss Annie Powell, 61, Gadlys Road, Aberdar, yr hon hefyd a enillodd 2s. 6c. am y dorth arall. Dengys hyn yn eglur i bawb fed y bara a werthir gan Mri. S. M. Powell a'i Fab, Gadlys Shop, Aberdar, o'r fath oreu, yn ol barn bon- eddigesau mwyaf cyfrifol yr ardal.-GoH.
♦ EISTEDDFOD NANTYMOEL.
♦ EISTEDDFOD NANTYMOEL. BEIRNIADAETH Y FARWNAD I WM. WILLIAMS. Derbyniwyd chwech marwnad. Ap Lleddf.—Cana o ran syniadau a dywed- iadau barddonol ar y cyfan yn lied nerthol, ond yn hollol anmherthynasol. Dylai marw- nad fod yn gweddu y person y cenir ar ei ol, ond y mae Ap Lleddf yn canu i Wm. Williams fel pe buasai yn canu i un o ddynion galluocaf y wlad. Nid oes ond ychydig, mewn gwirion- edd, o nodweddion gwrthddrych y farwnad ynddi. Adolphus.-Treulia ef haner ei nerth i ym- ddyddan ag angeu—i'w gwestiyno ac i ddar- lunio dydd y farn. Can anystwyth iawn yw hon. Y mae ei gorfanau-lawer o honynt— yn gloffiou- Defnyddia, er cynghanedd ac odl, yr un geiaiau yn ami; megys: gu, cu, anwylgu, llawengu, &c. Defnyddia yn ami iawn eiriau unsill lie y dylai geiriau Iluosill fod. Er mwyn cynghanedd, cana fel hyn:— Sancteiddiodd y bedd-du yn wely i'w was." Y mae yr enw o flaen yr ansoddair ymia yn anghywir. "Du-fedd" fuasai yn gywir. Marwnad ddibwynt yw hon. Cywair Lleddf.—Cynwysa y farwnad hon lawer o nodweddion y gwrthddrych,ond ychydig os dim barddoniaeth sydd ynddi. Yr hyn sydd yn tynu oddiwrth y farwnad hon yw ei bod mor ddi-farddoniaeth. Defnyddia y gair fri' mewn cysylltiad hollol anmherthynasol yn y llinellau canlynol:— 0 mor hoff oedd ef o gann Canu oedd ei fri' o hyd— Ca'dd wrth farw fri' ei fywyd Can a thelyn yn y nef. De Foe.—Cynwysa y farwnad hon eto lawer o nodweddion y gwrthddrych. Y mae ynddi am belli darawiad barddonol, ac ambell i benill cryf yn mhlith rhai gweiniaid. Nid yw yn cario allan ei ffigyrau bob amser i derfyniad boddhaol. Nid oes dim yn ddymunol nac yn farddonol mewn adrodd y modd y daeth y di- weddar Mr. Williams i gyfarfod a damwain. Gallasai hon fod yn well mewn ystyr gelfydd- ydol. Prudd.-Marwnad mewn diwyg lenyddo1 dda, ac ynddi lawer o darawiadau barddonol- Gallasai fod yn fwy nodweddiadol o'r gwrth- rych. Nid ydyw yn eyffwrdd a'r ddamwain nac a'r gwrthrych fel Ifor. Eto, y mae yn farwnad dda iawn. Cyfaill.—Cynwysa y farwnad hon lawer o'r hyn oedd yn nodweddu yr ymadawedig, a cheir ynddi lawer o darawiadau barddonol. Ond y mae ynddi rai pethau sydd i'm tyb i yn tynu oddiwrth ei gwerth, megys,- Gonest fel y gyrchen fu,' Yn y gadair nesa'r tan.' Yn rhy werinol. Nwyd siaradus.' Dawn fuasai yn well. I Rhwng ei goffin del a'i gryd,' Feddrod oer. Heblaw hyn, nid ydyw yn dy- wedyd dim am dano fel canwr. Ond er hyny, y mae hon eto yn farwnad dda, ac nis gallaf wneud dim sydd yn well na rhanu y wobr rhwng Prudd a Chyfaill. HYWEL CYNON.
Y GOLOFN GERDDOROL.
Y GOLOFN GERDDOROL. GAN CELT. Adoly giad. Llawenhewch yn yr Arglwydd," gan M. De Lloyd, G.T.S.C., Aberdar. Cyfieithiwyd y geiriau i'r Gymraeg gan y Parch. D. Onllwyn Brace. Ai nid geiriau o'r Beibl ydyw y rhai hyn ? A pha reswm sydd dros ddweyd eu bod wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg ar gyfer yr Anthem hon ? Ar tud. 6, gan fod y gair I nabl' yn ddeusill, dylasid rhoddi dan nodyn iddo; gwna un y tro i'r gair Saesoneg I lute.' Y mae llawer o fanau gweigion yn y copi hwn (Sol-ffa), a buasai yn well pe buasai yr awdwr wedi anfon copi Hen Nodiant i mi er mwyn gweled beth sydd ganddo ynddynt. Dylasai yr awdwr roddi y metronome rate, o herwydd pechod yr arwelnydd di-awen fydd ei chanu yn rhy araf, ac os gwneir hyny, cyll ei hamcan, ac yn ddiau hefyd, feddylddrych yr awdwr. Gresyn fod y cordiau gweiniaid yn tud. 1, a ban 4 wedi dygwydd; ac hefyd tud. 5, ban I, 2, y symudiad i'r 5ed rhwng y Bass a'r Air. Hefyd, ai nid fe (yn lie f) ddylasai fod yn ban olaf yr ail score ar tud. 6 ? Gyda hyn o eithriadau, y mae yn y cyfansoddiad hwn lawer o dlysni, ac hefyd rai rhanau pur effeithiol, megys tud. ond nid yw yr awdwr yn tori unrhyw dir newydd. Y mae yn felodus drwyddi, ac ond ei chanu mewn amser priodol, dyweder M. 60 twice, h.y., curo dau 60 mewn bar, y mae yn sicr o fod yn bur dderbyniol fel Anthem Gy- nulleidfaol, ac hyderaf glywed fod llawer eangach gwerthiant arni nag i Gymanfa Gerddorol Rhanbarth Uchaf Dyffryn Aberdar, i ba un ei chyfansoddwyd. Anhapus ydyw r1 y Tenor yn yr enghraifft hon o tud. 5,- ac nis gall y llygad a'r glust basio heibio iddo. Yr ydwyf yn pigo y pethau hyn allan, nid er mwyn beio yn unig, ond fy mod yn credu y dy- lasai yr awdwr wneud yn well, ac yn ddiddadl pan y cymer fwy o bamdden i adolygu a chyw- iro ei gyfansoddiadau cyn eu hargraffu ni fu- asai y camsyniadau uchod wedi dygwydd, o herwydd olion brys ydyw y pethau hyn i hen law fel Mr. D. Lloyd.
CERDDORIAETH GYMREIG. PA BETH…
CERDDORIAETH GYMREIG. PA BETH YDYW ? Dyma destyn erthygl arweiniol Y Cerddor am y mis hwn gan Mr. D. Jenkins, Mus. Bac. Y mae y testyn ynddo ei hun yn haeru fod y fath beth yn bod a cherddoriaeth Gymreig, a meddyliwn wrth ddarllen yr erthygl y buasai yr awdwr talentog yn dangos yn eglur i mi pa beth ydyw. Ond ar ol myned trwyddi, nid wyf damaid callach. Y mae yr awdwr yn fy arwain i dre' Caerdroia rhesymeg, ac yn fy ngadael yno, a pha fodd y deuaf allan ? Y dull yr esbonia yr ysgrifenydd yr holl bwnc ydyw, fod yn anmhosibl' penderfynu pa beth y c yn sydd na pha beth nad sydd yn Gymreig.' Y mae hyn yn dwyn i fy nghof ddull Euclid o brofi rhai o'i broblems-reductio ad absurdum. Y mae penawd y nodyn hwn yn destyn gwir ddyddorol, ac ar yr adeg a'r cyfwng presenol, yn amserol hefyd, a gresyn na fuasai yr erthygl hon yn rhoddi rhyw faint o oleu ar y mater. Os ydyw prif bapyr cerddorol y gen- edl am fod yn llusern i'r traed,' y mae yn rhaid iddo wrth glaerineb gwahanol i r hyn geir yn yr ysgrif hon. Ymbalfalu mewn ty- wyllwch teimladwy wna yr efrydydd a'r dar- llenydd oni cha lewyrch i'w arwain at y nod. Math o anti-climax ydyw diwedd yr ysgrif.
COLEG Y TONIC SOL-FFA.
COLEG Y TONIC SOL-FFA. Ymddengys fod cyfnewidiadau mawrion gymeryd lie yn y dull o arholi am drwydded au a dewis arholwyr ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn nesaf. Y mae Cyngor y Coleg wedi gwneud yn ddoeth i roddi yr arholiadau ar amserau neillduol, ac hefyd fod yr oil o'r tests i fod yn newydd ar eu cyfer. Gelwir ar ar- daloedd i ddewis bwrdd o chwech i lywyddu ac i gario allan yr holl arholiadau. Y mae hyn yn gam yn yr iawn gyfeiriad, ac yn gyn- llun ag yr ydwyf fi fel un wedi bod er ys blyn- yddoedd yn ceisio ei ddwyn i sylw. Mewn cwrs naturiol pethau, bydd y rhan fwyaf o'r gwaith o ddewis dynion cymwys i arholi yn syrthio i ran Cynadledd y Solffawyr, a dylai hwn fod yn bwnc i'w setlo yn y eyfarfod nesaf. Son am r
GYNADLEDD SOLFFAWYR Y DEHAU,
GYNADLEDD SOLFFAWYR Y DEHAU, A ydyw y pwyllgor yn ymsymud i'w chynal eleni, fel y penderfynwyd yn Nhreorci ? Nis gwn a gafwyd pwyllgor wedi hyny, o herwydd nid oes unrhyw rybudd na hysbysiad wedi fy ngyraedd i. Ymddengys fod yr hyn a ys- grifenais yn nghylch y cylchlythyr Saesonaeg hwnw wedi achosi i un o'r swyddogion ffromi yn aruthr.' Fy amcan yn traethu fy marn fel y gwneuthum oedd gwneud lies, ac nid achosi tramgwydd i neb, a dyledswydd ydoedd siarad yn blaen. Ond yn lie eymeryd fy awgrym yn yr ysbryd priodol, ceisiwyd cyfiawnhau y camgymeriad trwy ei wneud yn waeth, sef fod y swyddogion ereill-y llywydd a'r is-lywydd -yn rhanog yn y gwaith o roddi yr oll o'r penderfyniadau a gweithrediadau cyfarfodydd Caerdydd a Tbreorci yn yr iaith Saesonaeg. Pe buasai angen am byn, ni fnaswn yn dweyd gair yn ei erbyn. Os bydd i'r gynadledd gym- eryd lie eleni—a gobeithiaf y gwna-o her- wydd fy mod yn credi ei bod yn gwneud daioni, dylid rhanu y Dehau i wabanol adranau arholiadol, a dewis cerddorion i gynrychioli Coleg y Tonic Solffa yn mhob adran. Ar ol gwneud hyn, dylid anfon y rhestr at yr awdur- dodau i Lundain er mwyn i'r Cyngor gymer- adwyo neu anghymeradwyo y personau. Dylai y gynadledd gael cymaint a hynyma o awdur- dod neu reolaeth ar fater yr arholiadau, a chredwyf nas gall dim fod yn well er daioni a hyrwyddiad y gyfundrefn na bod y gynadledd. —aelodau o ba un fyddant yr arholwyr—yn dewis y personau cymwysaf i arholi efrydwyr.
DAFYDD A SAUL.
DAFYDD A SAUL. Mae yn dda genyf weled fod y Mri Novello, Ewer a'u Cyf. wedi prynu gan Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., hawlysgrif yr uchod. Daethpwyd i delerau dewy offerynoliaeth Mr. Joseph Bendet.
BUDDUGOLIAETH Y GWEITHWYR.
BUDDUGOLIAETH Y GWEITHWYR. Diolch i Dduw dyma y streic drosodd gyda ei holl drafferth a'i helynt. Cafodd y gweithwyr yn rhinweddol bob peth a geisient, a da hyny, oblegyd nid oedd- ent yn gofyn dim ond yr hyn oedd yn hollol deg a rhesymol. Paham y darfu i'r cwmniau wrthod eu cais ar y cych- wyn sydd ddirgelwch; rhaid fod yma ryw ddylanwadau o'r golwg na welai llygaid y cyhoedd mo honynt. Gellid meddwl wrth siarad tal rhai o'r cyfar- wyddwyr eu bod wedi penderfynu rhoddi eu traed ar wddf eu gweithwyr sonient am ddysgu gwers i'r gweilch, ac am eu darostwng fel na chodent eu penau am oes. Ond trwy rinwedd eu hundeb a'u cyd-ddealldwriaeth, y mae gweithwyr ein gwlad yn anorchfygol pan fyddo cyfiawnder ac uniondeb o'u plaid. A'r gweithwyr enillodd y gon- cwest, a chafodd y cwmniau lyfu y llwch. Yr ydym yn falch o ymddygiad y dynion trwy yr holl helynt; ymddyg- asant fel bodau rhesymol. Ni ddarfu iddynt ddinystrio meddianau, na chodi mewn terfysg, na gwneud dim annheil- wng o ddynion yn ymdeimlo a chyfrif- oldeb eu sefyllfa. Gwir fod y farn gyhoeddus o'u plaid oddiar y cychwyn. Datgenid hyny, nid yn unig yn y new- yddiaduron, ond ar ben pob heol, gan bob dau a siaradant a'u gilydd, a diau fod cydymdeimlad y cyhoedd wedi bod yn gymorth iddynt i gadw eu heneidiau mewn amynedd. Dangosodd y gweith- wyr eu bod yn berchen ar lygaid craff, dealldwriaeth glir, a barn addfed; cymerasant bwyll i ddeall y cynygion a wneid iddynt, a glynasant yn ffyddlon wrth eu hiawnderau. Pob parch iddynt. Credwn fod dylanwad yr efengyl, ac 61 addysg yr Ysgol Sabbothol i'w ganfod yn amlwg yn eu hymddygiadau. Bu yr holl ymdrafodaeth yn gredid i'r genedl, ac yn deilwng o bobl Cymru, y genedl fwyaf ei breintiau dan haul y nefoedd. Nis gallwn hefyd lai na chanmol eu ffyddlondeb i'w gilydd, a'u ffyddlondeb i'w harweinwyr. Bu y glowyr yn nghymoedd Rhondda, Aberdar a Mer- thyr yn gywir ac yn ffyddlawn i'w cyd- weithwyr oeddent ar y rheilffordd. Er fod y streic yn peri i'r glofeydd gael eu hatal, ac felly eu bod hwythau yn gor- fod bod yn segur, ni ddychymygodd y glowyr am droi yn fradwyr. Yr oedd boll gydymdeimlad eu henaid gyda y rhai oedd yn sefyll allan. Y mae hyn yn elfen newydd, ac yn arwydd cryf o ddyrchafiad y dosbarth gweitbiol, a hyny nid yn unig mewn synwyr, ond hefyd yn y rhinweddau moesol uchaf. Gwelwn yma ernes o ddyrchafiad y gweithwyr yn y dyfodol. Y peth cyntaf o bwys i'r werin yw iddynt aros gyda eu gilydd ysgwydd wrth ysgwydd, gan sefyll yn fyddin gref anorchfygol yn erbyn pawb fyddo yn ymosod ar eu hiawnderau. Yn awr, gan fod y streic drosodd, a'r gweithwyr wedi cael yr hyn a hawliant, hyderwn fod cyfnod hir o lwyddiant wedi gwawrio ar ein gwlad. Y mae y glowyr i gael codiad eto; byddant yn sefyll o ran cyflog bellach cyfuwch ag y buont yn nghof neb sydd yn fyw. Yr ydym yn gobeithio na bydd iddynt wario eu harian ar oferedd; na foed iddynt roddi eu henillion caled i'r tafarnwr, ond bydded iddynt gynilo i gyfarfod a'r dydd drwg, yr hwn sydd yn sicr o ddyfod, fel y mae y nos yn canlyn y dydd. Hoffem weled ein dynion ieuainc yn bresenol yn rhoi arian heibio er cael addysg iddynt eu hunain, fel y gallont ymgymhwyso ar gyfer sefyllfaoedd uwch mewn bywyd. Dywedwn wrth weithwyr ein gwlad yn ngeiriau yr Ysgrythyr, "Pob peth sydd eiddo chwi." Nid oes unrhyw sefyllfa mewn masnach nac mewn dysg nad yw yn bosibl iddynt ei chyrhaedd, ond iddynt roddi eu nod yn uchel, ac ymroddi i weithio ati. Dyma y colegau yn agor, a'r ysgolion canolraddol ar 1 gael eu sefydlu; bydd yn meddiant y Cymro gystal manteision i ymddyrchafu ag unrhyw genedl dan haul y nef. Bydded iddynt ymbarotoi yn yr amser I da presenol i gymeryd meddiant o honynt yn y dyfodol. Un gair etc. Cladder pob anghariad ac ymryson gyda y streic mewn ebar- gofiant tragwyddol. Os bu rhai dynion heb fod mor gywir a ffyddlawn i'w cydweithwyr ag y dylasent; os buont yn sigledig yn eu hymddygiad, ac fel pe yn barod i roi ffordd, nag ymddialer arnynt, na ddangosed neb wyneb sur iddynt, diau genym fod arnynt gywil- ydd o honynt eu hunain, a'u bod yn edifarhau mewn llwch a lludw. Wrth longyfarch ein gilydd ar derfyn un o'r trobwyntiau mwyaf difrifol yn hanes masnach ein gwlad, na fydded dim ond cariad cyffredinol yn teyrnasu.
MR. MUNDELLA YN LLAN-FAIRMUALLT.
MR. MUNDELLA YN LLAN- FAIRMUALLT. Gwreiddio yn ddyfnach, ddyfnach y mae Ehyddfrydiaeth yn ein gwlad. Beth bynag yw* rhagolygon Ceidwad- aeth, yn mha ran bynag o'r deyrnas y mae ei haul yn ymddyrchafu, nid oes un gwawr ar ei hacbos yn Ngbymru. Profid hyny gan y dorf fawr a ddaeth yn ngbyd i dref Buallt i wrando ar Mr. Mundella gan y brwdfrydedd a dreiddiai trwy y cynulliad, a chan don yr areithiau. Mr. Mundella o bawb sydd wedi gwasanaethu Cymru. Efe a fu y prif offeryn i gael rhodd frenhinol i goleg Aberystwyth ar y cychwyn; y mae o hyny hyd yn awr wedi bod yn ffyddlawn i addysg ein gwlad, ac yn gyfaill calon i'r Dywysogaetb. Felly croesawir ef i'n mysg tuhwnt i nemawr. Yr oedd yn dda genym weled ei fod mor glir ei lygad i ganfod ein hangen- ion, a'i fod yn eu dadleu mor groew a chryf. Credwn fod penderfyniad Rhydd- frydwyr Cymru i hawlio eu hiawnderau, eu gwaith yn anesmwytho yn ngwyneb claerineb rhai o'n gwladweinwyr mewn cysylltiad a dadgysylltiad, wedi agor llygaid Rhyddfrydwyr Lloegr. Deallant yn awr nad yw angenion y Dywysog- aeth i gael eu cau allan o'r program. Nid ydym am fygwth; gwell genym roddi bygwth heibio, ond rhaid i ddadgysyllt- iad yr Eglwys yn Nghymru ganlyn Home Rule i'r Iwerddon, onide bydd tymer y wlad yn debyg o ddangos ei hun mewn ffordd annymunol. Da genym fod Mr. Mundella yn deall hyn, a'i fod mewn cydymdeimlad agos a'n pobl, ac yn hyn y mae gobaith cryf am undeb Rhyddfrydwyr Lloegr a Chymru.
NODION POLITICAIDD.
NODION POLITICAIDD. Cyflwynwyd Mr. Abel Thomas, aelod Seneddol newydd Caerfyrddin, i Dy y Cyffredin, dydd Llun diweddaf, gan Mr. Cyril Flower a Mr. David A. Thoma-- Llongyfarchwyd ef gan y Rhyddfrydwyr fel y cerddai i fyny lawr y Ty, ac eilwaith ar ei waith yn ysgwyd Haw a'r Llefarydd. -¥- Cymerodd dadleuaeth bwysig le yn Nhy y Cyffredin dydd Mawrth diweddaf ar y pwnc o apwyntiad sub-inspectors o biith y gweithwyr yn ein glofeydd. Y mae yn dda genym weled enwau Mr. S. T. Evans, Mr. D. A. Thomas, a Mr. Pritchard Mor- gan yn mhlith y rhai a gefnogent y cyfryw. Gobeithiwn na adewir i'r pwnc hwn orphwys lie y mae, ond y parheir i'w ddwyn ger bron nes y gwneir rhywbeth yn y cyfeiriad hwn. Dywedai yr Ysgrifenydd Cartrefol y byddai yn dda ganddo benodi gweithwyr profiadol i'r swydd pe byddai y cyfryw i'w cael yn feddianol ar y cym- hwysderau celfyddydol angenrheidiol. Y mae yn sicr fod rhywbeth yn annealladwy yn hyn. Y mae yn ein plith luaws o weithwyr wedi pasio yr arholiad am fyned yn oruchwylwyr glofaol, a hyny yn y dosbarth blaenaf, ac eto fe ddywed yr Ysgrifenydd Cartrefol nad oes gweithwyr profiadol i'w cael yn meddu digon o wybodaeth gwyddonol neu gelfyddydol. Odid na chynhyrfa y sylwadau o eiddo yr Ysgrifenydd ymchwiliad pellabh i'r pwnc. >;< Yn ystod tymor Seneddol, 1890 yr hwn sydd yn awr wedi terfynu, cymerodd 250 o ymraniadau le yn Nhy y Cyffredin, a phob ymraniad yn cymeryd ugain mynyd o amser. Cymerwyd i fyny felly 83 o oriau yr aelodau mewn cerdded i'r gwa- hanol bleidfanau. Fel y canlyn yr oedd presenoldeb Aelod- au Cymru, ac y pleidiasant:— MON :-Thomas Lewis 116 BRYCHEINIOG :—W. F, Maitland 66 ABERTEIFI :-W. Bowen Rowlands 89 CAERFYRDDIN :— Dwyrain—David Pugh 3 „ Abel Thomas 3 Gorllewin—J. Lloyd Morgan 144 RHANBARTH CAERFYRDDIN Syr A. K. Cowell Stepney, Barwnig 19 SIR GAERNARFON:— Arfon (Gogledd)-W. Rathbone 54 Eifion (Deheu)—J. B. Roberts 119 RHANBARTH CAERNARFON:- I E. Swetenham 3 ¡ David Lloyd George 102 SIR DDINBYCH :— Bromfield (Dwyrain)—Y Gwir Anrhyd- eddus G. O. Morgan 112 Dyffryn Clwyd (Gorllewin)-Col. W. Cornwallis West 55 RHANBARTH DINBYCH :—Yr Anrhyd. G. T. Kenyon 61 SIR FFLINT :-Samuel Smith. 121 RHANBARTH FFLINT :—John Roberts 109 SIR FORGANWG :— Dwyrain-Alfred Thomas 67 Gower (Gorllewin)-D. Randell 114 Canol—S. T. Evans 139 Rhondda-W. Abraham 83 Dehau-A. J. Williams 81 Caerdydd-Syr E. J. Reed. 95 Merthyr—D. A. Thomas 176 Rhanbarth Abertawe-Syr. H. Vivian. 54 Tref Abertawe-L. L. Dillwyn 149 SIR FEIRIONYDD :—T. E. Ellis 48 SIR DREFALDWYN Stuart Rendel 75 RHANBARTH TREFALDWYN :—Yr Anrhyd. F. Hanbury Tracy 51 SIR BENFRO William Davies 35 1 PENFRO AC HWLFFORDD :-R. C. Mayne 87 SIR FAESYFED Yr Anrhyd. A. H. J. Walsh 43 SiR FYNWY :—Crogledd—T. P. Price 86 Dehau—Col. yr Anrhyd. F. Morgan 93 Gorllewin-C. M. Warmington 94 I Rhanbarth Mynwy-Syr G. Elliott 35
I MWNFEYDD AUR CYMRU. j
MWNFEYDD AUR CYMRU. j Yn Nhy y Cyffredin, nos Fercher yr wyth- nos ddiweddaf, pan y pleidleisiwyd 23,875p. i Swyddfa y Coedwigoedd, &c., cymerodd Mr. Pritchard Morgan, aelod ieuengaf Merthyr ach- lysur i alw sylw y Ty at bwnc Mwnfeydd Aur Cymru, ac at yr ymgais oedd wedi cael ei wneud yn ystod y blynyddoedd diweddaf i sef- ydlu ymgymeriadau mwnfaol newyddion yn y Dywysogaeth. Dywedai fod rhyw 30,000p wedi eu gwario mewn un dyffryn yn Ngogledd Cymru, i'r dyben, pe yn bosibl, i wneud i fwn- fa aur i daluei ffordd. N a chymerodd Swyddfa Coedwigoedd y Llywodraeth un ran yn nghefnogaeth yr ymgymeriad, ond pan y dechreuwyd ar y gwaith o ddwyn allan y mwn, gwnaeth awdurdodau y Swyddfa hon, ar ran y Goron, hawlio rhan o'r cynyrch a gafwyd o feddianau tirol deiliaid ei Mawrhydi, y rhai oedd wedi bod yn eu meddiant am flynyddoedd. Hyd yr adeg hono, nid oedd neb wedi hawlio rhan o'r cynyrch mwnawl yn Nghymru ar ran y Goron, ac nid oedd neb wedi gwneud ym- gais i weithio y mwn. Yn yr ymgais o weithio y mwnfa, fod cymaint a 100,000p. wedi eu rl gwario mewn peirianau, &c., er ceisio eu gwneud i dalu. Ond yn awr, fod y Goron wedi hawlio cyfran o'r oil fwn a gynyrchid, a'r can- lyniad o hyn oedd, rhoddi terfyn ar yr ymgais. Hyd yn hyn fod yr ymgais o ddyfod o hyd i'r mwn gwerthfawr mor gostus fel am bob 5p. a werid, nad oedd ond 4p. wedi dyfod yn ol. Ond, er y cwbl, fod gwobrau i weithiau aur, a chyda'r gwelliantau mewn gwyddoniaeth, y gellid gweithio mwngloddiau digynyrch gydag elw. Fod cyfoeth mawr y trefedigaethau Awstralaidd wedi ymddibynu yn unig ar gynyrch eu mwnfeydd. Yn Victoria, flynyddoedd yn ol, fod royalti o 1/6 yr wns wedi ei roddi ar yr aur a gynyrchid, ac effaith yr ardrethiad oedd cau i fyny haner y mwn- gloddiau yn y drefedigaeth, codi terfysg rhwng y mwnwyr a'r awdurdodau lleol, a cholliad amryw fywydau. Fod Trefedigaeth New South Wales wedi cyfranu 20,000p. er cynorthwyo ymchwilwyr, ac yn Victoria yr oedd y swm o 80,000p wedi ei bleidleisio gan y Llywodraeth er cynorthwyo ymchwiliadau, tra nad oedd dim hawliadau o royalties yn un or trefedigaethau, canys pe buasent yn cael eu hawlio, yr effaith fyddai rhoddi terfyn i'r ymgymeriadau mwn- yddol yn gyfangwbl. Fod y Goron yn hawlio 3t y cant o holl gynyrch mwnfeydd Cymru, a'r canlyniad o hyn oedd cymeryd oddiar 500 neu 600 o bersonau y gwaith oedd ganddynt i enill eu bara beunyddiol. Yr oedd yr hawl hwn o eiddo y Goron yn bawl henafol, yn dyddio yn ol o amser Elizabeth, ac er yr adeg hono fod yr hawl wedi ei wneud, mwy neu lai, yn y wlad hon, a'r canlyniad oedd, fod pob ymgais i wneud rhyw ddaioni o weithiau mwnawl y wlad yn myned yn fethiant. Fod aur yn nwydd y gellid ei droi yn arian ar unwaith dros yr holl wlad, fel os gwariai un lOOp. mewn cyflogau, a'r cynyrch yn 103p. mewn aur, y gallai dyn gadw yn mlaen gyflogi dynion gyda'r lOOp. yr wythnos o gyflog. Ond os byddai i r Llywodraeth hawlio 31'3 y cant fel royalties ar y cynyrch, y byddai hyny yn 773 1-3 y cant ar y profid oedd yn angen er cadw y dynion yn mlaen wrth eu gwaith. Effaith hyn oedd lladd yr ymgymeriad, ac yr oedd efe ei hun wedi gorfod myned i'r Court of Chancery er cael y gyfraith wedi ei phenderfynu ar y pwnc. Nid oedd arno ef eisieu cymeryd i fyny amser y pwyllgor, ond mai dyna yr unigfantais a gelai, unwaith yn y flwyddyn, i ofynp'r Llywodraeth i ystyried yr holl bwnc. Yn Queensland, fod yr aur a gynyrchid o feddianau y Goron yn cyrhaedd l,500,000p., ac yn New South Wales fod cynyrch y mwnfeydd arian yn cyrhaedd miliwn a chwarter yn flynyddol. Yn y wlad hon-gartref, yr holl gynyrch mwn arian yn flynyddol oedd 50,000p. neu 60,000p., ac eto nid oedd y Goron yn gwneud un hawl, er fod arian yn llawn cymaint o fwn Brenhinol a r aur. Am y ddwy flynedd yr oeddynt hwy wedi cario yn mlaen y gwaith mwnyddol yn Nghymru, yr oeddynt wedi talu 2t y cant o elw ar yr ymgymeriad, a chyda hawliadau y goron i'w cyfarfod, yr oeddynt wedi ei chael yn anmhosibl i fyned yn mlaen a'r gwaith yn y Dywysogaeth. Pe byddai i'r Llywodraeth roddi addewid y byddai iddynt godi y Royalty allan o'r elw, ac nid o'r cynyrch, credai ef y galluogai hyny y cwmni i fyned yn mlaen, a hyny gyda mantais i bawb a bertbynai iddo; ac os oedd y Llywodraeth yn cytuno i'r eglur- had hwn ar y mater, dangosent eu bod yn awyddus i gynorthwyo cyfalaf a llafur. (Cym.) Mewn atebiad dywedodd y prif gyfreithiwr y byddai yn ddiau yn beth i'w ddymuno pe codid y Royalties oddiar yr elw ac nid oddiar y cynyrch, ond y byddai yn beth anhawdd iawn i'w gario allan. Os byddai i'r aelod an- rhydeddus gyflwyno cynllun iddo, y byddai yn dda ganddo roddi ystyriaeth iddo.
ABERTEIFI.
ABERTEIFI. Cynaliwyd eisteddfod yn y lie anghysbell uchod yn ddiweddar. Y prif ddarn corawl ydoedd 'Rise up, arise" (Mendelssohn), a rbanwyd y wobr rhwng cor Blaenanerch a chor Aberteifi, y rhai oeddynt wedi bod yn cael eu coachio gan Eos Morlais a Mr. Taliesin Hopkins, Porth.