Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
[No title]
Nid oes y fath beth a chadair esmwyth i ddyn anfoddog. Dyma a ysgrifenodd boneddiges yn ei dyddlyfr,—" Nid ydwyf yn gobeithio ond cael pasio trwy y byd hwn ond unwaith. Unrhyw weithred dda gan hyny a allaf ei gwneud, neu gymwynas a allaf ei dangos i'm cydgreaduriaid, gadawer i mi ei wneud yn awr. Na fydded i mi ei oedi na'i esgeuluso yn awr, canys ni chaf deithio y ffordd hon eilwaith." 0 na fyddai holl wragedd ein gwlad o'r un ysbrydiaeth i wneud daioni. Y mae boneddwr yn Berlin wedi mynu pfir o wydrau i'w geffyl, yr hwn oedd wedi agos colli ei olygon. Y mae yr hen greadur yn awr yn gallu gweled pobpeth, ac mor ysbrydol ag erioed. Nid yw y gwydrau yn ymddangos i fod yn unrhyw rwystr iddo. Cafodd Willie Lewis, tair blwydd oed, yr anffawd y dydd o'r blaen o golli ei dad. Pan yn dechreu tywyllu un diwrnod, gwelodd ei fam weddw yn wylo yn chwerw ar ol ei phriod. Rhedodd Willie allan, a dringodd i ben post llidiard y glwyd yn ymyl y ty, gan edrych i fyny tua'r ser, ac a ddywedodd a'i holl galon a'i lygaid yn ei eiriau,—" 0 Dduw, Duw, anfon fy nhad yn ol o'r nefoedd; anfon ef ar unwaith yr ydym ei eisien yn awr; anfon^ ef ar frys, canys y mae fy mam yn wylo." Dydd Iau yr wythnos ddiweddaf cyr- haeddodd hen foneddiges o'r enw Hannah Pemherton, yr hon sydd yn awr yn byw gyda'i mab-yn-nghyfraith—Mr. E. D. Robinson, yn Elvethan-road, Edgbaston, ei chan' mlwydd oed. Ymwelwyd a hi gan luaws o'i phlant a'i hwyrion hyd y bedwaredd genedlaeth. Ganwy.d hi yn Lancaster-street, Awst 14, 1790, yr hyn sydd yn cael ei brofi gan ysgrifen ei mam ei hun ar y Beibl Teuluaidd. Ei henw morwynig oedd Hannah Packrill. Bu ei mam fyw nes bod bron yn 100 oed. Y mae yr hen foneddiges hon mewn medd- iant o'i galluoedd corfforol a'i iechyd, gyda'r eithriad nad yw ei chof a'i chlyw gystal ag y bu.
Y MAE GAN JUSTICE WILLS AIR…
Y MAE GAN JUSTICE WILLS AIR I'W DDYWED Efe a ddywed,—" Yr ydwyf o r un farn. Nid yw yr achos, mewn un wedd, yn rhydd oddi- wrth ddiffygion, ac, fel fy nghyfaill dysgedig, nid ydwyf yn gwneud un achwyniad am feith- der y ddadl sydd wedi bod ar y pwnc. Yn yr achos hwn y mae hawl yr achwynwyr i gael eu dalu am y< tolliadau sydd wedi eu gwneud, sef yw hyny, hawliant gael eu talu am y pwysau a benderfynwyd yn yr unigffordd y cafodd ei wneud. Y mae y 17eg adran yn parotoi ar fod y cyflogau i'w talu yn unol a phwysau y mwn a dorwyd neu a dynwyd allan ganddynt, sef y torwyr glo, yr hwn sydd i'w bwyso. Yna ar hyny, y mae proviso wedi ei wneud, yr hwn a ddywed, nad oes dim i atal perchenog y weitbfa rhag cytuno a'r gweithiwr ar fod tolliadau i'w gwneud ar unrhyw ddef- nyddiau nad ydynt fwnau wedi cytuno i gael eu codi. Yr ymadrodd yn yr ail adran ydyw, mwnau wedi cytuno i gael eu codi,' ystyr yr hyn ydyw, os nad yw y pleidiau wedi cytuno fod y mwn sydd i'w godi i'w ddeall mewn ys- tyr heblaw yr holl nwydd sydd wedi i'w godi. Yn awr, yn yr amgylchiad hwn, wrth ystyried ei bwysigrwydd, a ydyw hwnw yn gytundeb a ganiateid gan y Dieddf Seneddol ? A oes rhywbeth yn y Ddeddf Seneddol a ymyrai ag ei ? 0 gwrs, pan y mae y fath gytundeb un- waith wedi ei wneud, yn gymaint a'u bod i gael eu talu, nid o dan y fath amgylchiadau, ond ar bwysau gwirioneddol a gwerth y mwn yr hwn y maent wedi ei gael allan. Effaith ail ran yr adran, wedi ei roddi ar y cyntaf ydyw, ei fod yn lleihau y mwn a ddygir allan' ganddynt yn y cyntaf fel ag i gytuno a'r geiriau i'r mwn y contractwyd i'w gael allan ganddynt yn ail frawddeg yr adran. Yna, y mae yn ymddangos i mi fod y proviso hwn, mor belled ag y mae yn gwahardd y ddoddf i ymyraeth a gwneud cytundebau o'r natur hwn, yn foddlon, ac na fwriadwyd dywedyd, a gallant gytuno ar fod i gyfanswm y toll- iadau hyn gael eu penderfynu mewn unrhyw ddull a ddewisont, neu y bydd iddynt gytuno arnocanys pe felly, ni fuasai, naill ai wedi eyfeirio at y cynllun o wneud y tolliadau, neu ynte pe wedi cyfeirio ato, buasai wedi dweyd y tuhwnt i'r cynllun a ddarparwyd mewn rhyw ddull arall ag y gallant gytuno arno." Yn awr, yn yr amgylchiad hwn yr oedd atal- bwyswr. Y mae yn rhaid dweyd ei fod yn ym- ddangos i mi fod y ddeddf Seneddol, wrth weithio allan y dull hwnw, yn golygu gwrthod dulliau ereill, ac fe wyddis yn dda beth oedd amcan gwreiddiol y ddeddf hon. Yn gymaint a bod annealldwriaethau parhaus rhwng meistri a gweithwyr, y rhai a esgorent ar strikes andwyol ac yn yr hwn yr oedd yr ach- wyniad cynredin a pharhaol, fod y peth y cy- tunwyd arno ganddynt yn anfoddhaol, a hyny o herwydd ei fod yn anghyfiawn ynddo ei hun; ac er ei fod yn un y cytunwyd arno gan y pleidiau, eto yn un a allai weithredu yn goll- edus i'r gweithwyr—a dyma oedd swm yr achwyniad parhaus. Amcan y ddeddf hon oedd rhoddi atalfa i'r oil o hyny, trwy ddweyd,—Ni cheWch fod yn rhydd i wneud y cytundebau rhain, y rhai ydynt yn agored i'r diffygion hyn, a'r rhai a gynyrchant y canlyniadau dinystriol rhain ar fasnach y wlad, ac i'r amcan o atal y drygau hyn, penderfynwyd cyfanswm y toll- iadau yn y dull penodol ac effeithiol hwn: y mae yn anmhosibl peidio gweled mai amcan y personau a roddasant y geiriau yn y ddeddf, oedd fod y cyfanswm i'w benderfynu gan y bancwr neu bwyswr, a'r atalbwyswr, a r per- son a ddefnyddiodd iaith adran y 18fed, a'r yr un pryd, oedd, y gallai un atalbwyswr wneud beth bynag oedd yn angenrheidiol er pender- fynu beth oedd y cyfanswm a'r tolliadau, a ffurfiwyd y ddeddf Seneddol ar y cynllun hwn. Nid wyf yn dweyd fy mod yn gosod i lawr seil- iau fy nedfryd yn yr achos presenol, canys y mae yn agor i fyny bwnc eang a dyrus, ac nid yw yn angenrheidiol, yn fy nhyb i, i bender- fynu yr achos presenol. Y mae yr achos hwn yn berffaith eglur lie y mae atalbwyswr, ac nid oes amheuaeth nad felly yr oedd yma, ac yn gymaint a bod yr atalbwyswr, yn ol adran 18, yn ddyn cymwys i wneud yr hyn oedd yn angenrheidiol er cael allan y pwysau yn unol a'r hon yr oedd y gwethwyr i'w talu. Yn awr, a ydyw y tolliadau yn yr achos hwn wedi eu penderfynu ? P'am y maent wedi cael eu pen- derfynu, nid gan y banciwr o gwbl, mewn un- deb a'r atalbwyswr nac heb yr atalbwyswr? Os dywedir mai yr hyn a wnawd yn yr ail beiriant, yn yr ail bwyso, sydd i'w feddwl wrth yr hyn a ddywed adran y 17eg, yna dangosir nad yw y bancwr wedi ei wneud. Ond pa fodd y mae wedi ei wneud ? Y mae wedi cael ei wneud gan fachgenyn sydd yn rhoddi lawr y bwysau a arddengys y peiriant. Y mae yn ymddangos i mi fod hyn yn groes i'r ddeddf Seneddol, ac nad oes dim tolliadau i'w gwneud yno ag y dylai y meistri broffidio ocldiwrthynt." Fe welir nad yw yr achos hwn, fel y dadleua y meistri, yn union yr un peth ag achos Aber- earn. Yn achos Netherwill, yr oedd y pwysau ar y Billy yn cael ei benderfynu gan fachgenyn yn annibynol ar yr atalbwyswr oedd wrth y peiriaut pwyso; ond yn achos Abercarn, yr oedd y pwysau yn y peiriant neu y Billy yn cael eu cymeryd gan y pwyswr ei hun. Ond yn y ddau achos, y mae wedi cael ei newid yn nglyn a'r bancwr, ac felly y mae, yn ol barn y ddau farnwr dysgedig hyn yn y Queen's Bench, yn gystal a barn y Barnwr Owen, yn anghyf- reithlon.
--------TRIOEDD I RYFEDDU…
TRIOEDD I RYFEDDU ATYNT. GAN DR. E. PAN JONES, MOSTYN. Yr unig dri achos y carwn ryfeddu atynt y dyddiau hyn yw ymddygiad pobl at Gladstone, at Stanley, a phenderfyniad y Rhyl, ond yn anffodus yr wyf wedi rhyfeddu cymaint yn ddiweddar fel y mae fy ngallu i ryfeddu wedi ei lwyr hysbyddu. Y mae pobl yn cymeryd arnynt gredu yn Gladstone fel gwleidyddwr Rhyddfrydig, ac arweinydd mwy perffaith na'r un fu yn y byd o ddyddiau Moses i ddyddiau Salisbury, ond ar yr un pryd yn symbylu yr Hen Wron yn ddibaid, eisieu iddo symud yn mlaen, a gwneud fel hyn ac fel arall, ond rhaid fod y bobl sydd yn proffesu ffydd yn Gladstone fel arweinydd politicaidd, ac eto yn ei symbylu, ac yn ceisio ei wyrdroi i'w sym- bylu a'u mympwyon ei hunain, naill ai yn tybio ei hunain yn gallach nag ef, neu eu bod wedi cael eu dal gan wallgofrwydd barnol. Credu fod Gladstone yn bob peth, ac eto credu eu hunain yn ddigon doeth i'w ddysgu, galw eu hunain yn Rhyddfrydwyr Gladstonaidd, eto Gladstone yn erbyn dadgysylltu, a hwythau dros ddatgysylltu; byddai cystal i chwi geisio ymresymu ag asynod gwylltion yr anialwch a cheisio dangos eu gwrthyni i'r bobi hyn. Y mae gweled fel y mae y G.O'M. yn dal sym- byliadau doethwyr y dadgysylltiad beb roddi y ffordd yn peri i mi feddwl mwy o hono yn awr nag a feddyliais o hono erioed o'r blaen. Y mae yn amlwg ei fod yn deall y cwestiwn yn ei wabanol agwedd^u, yn deall yr anhaws- derau, ac yn rhy gall i gymeryd ei arwain ar ei ben i drybini, gan nifer o hunanolion mwy aa haner deillion. Dywedai un mai y ffordd y byddai efe yn cadw terfysgwyr yn dawel yn yr eglwys oedd eu codi yn flaenoriaid, ac yua y byddent yn dyfod fel pobl ereill, a dywedir y byddir yn fynych yn codi aelodau aflonydd o Dy y Cyffredin i Dy yr Arglwyddi er mwyn eu cadw yn ddystaw, a phe gellid cael gan nifer o etholaethau i gymeryd trugaredd ar nifer o bersonau sydd yn galw eu hunain yn Feder- asiwn, a'u hanfon i'r Senedd, hwy a newidient eu can ar bwnc y Datgysylltiad. Mae yr amgylchiadau yn newid wedi yr elo dyn i'r Senedd. Mae credu yn Gladstone ac ar yr un pryd ceisio ganddo ef i newid ei gredo ei hun, mor anesboniadwy i mi ag athrawiaeth y Shogun. Buasai mor briodol i bobl Israel gynt wasgu ar Dafydd i adeiladu y deml ag i bobl Cymru wasgu ar Gladstone i ddatgy- sylltu--rhyfelwr oedd Dafydd, ac am hyny ni chafodd adeiladu; Eglwyswr yw Gladstone, am hyny ni fyn ddatgysylltu; cafodd Dafydd gasglu y defnyddiau at y deml, ac y mae Gladstone wedi casglu o'i gylch ddefnyddiau at ddatgysylltu. Mae yn sicr i ddylanwad Gladstone fod yn help mawr i gael llawer o'r Rhyddfrydwyr presenol i'r Senedd, ond y mae gwasgu arno ef i ymgymeryd a'r gwaith ar ol iddo wrthod gynifer o weithiau yn brawf o ddiffyg synwyr cyffredin. Byddai gystal beio Allsopp am beidio troi yn ddirwestwr a beio Gladstone am beidio troi yn ddatgysyllt- wr.
EDMYGWYR STANLEY.
EDMYGWYR STANLEY. Mae y rhai hyn yn llu mawr, a proffesant ddangos parch mawr a dwfn iddo, canant ei glodydd ar ben pob heol, gan floeddio mawr yw y Stanley,' ac ar yr un pryd gwaeddant yn groch bastard, bastard, workhovse, workhouse. Caniatawn yn rhwydd mai Cymro ydyw, er nad yw o'r pwys lleiat yn fy ngolwg, ond os yw y bobl hyn yn ei edmygu fel y proffesant paham y taflant ei haniad anffodus i'w wyneb o hyd. Dywedai un o'i edmygwyr y dydd o'r blaen pan yn dadleu ei haniad Cymrreig, ei fod ef yn adwaen ei holl gysylltiadau, ac mai y tebygolrwydd oedd yn awr, ar ol iddo godi i fri, ei fod yn dewis cadw ei haniad o'r golwg. Atebwyd ef yn y fan, wel, os ydych chwi yn ei edmygu fel y mynwch i ni gredu, mae eich gwaith yn cyhoeddi mor groch yr hyn y mae efe yn ddymuno gadw o'r golwg yn profi, a dweyd y lleiaf, eich bod chwi yn ddyn anghar- edig a difoes. Beth feddyliech chwi o ddyn a gyhoeddai gyfrinach fyddech chwi yn ddy- muno gadw yn ddirgel. Ond pa ddaioni a wnaeth efe ? Nid wyf yn amheu na wnaeth lawer o waith, ond faint o dda, faint o les i ddynoliaeth ? Bu fyw yn galed, dysgodd ddaearyddiaeth Affrica, tywalltodd lawer o waed gwirion, taenodd drueni trwy aneddau miloedd o anwariaid, cymerodd yn ei ben mai efe sydd ddyn, ac mai gydag ef y bydd marw gwybodaeth am hawliau dyn, ac nad yw dyn- garwyr a heddwch-garwyr yr oes ddim ond swp o ffyliaid penfeddal. Dywedai ei fod yn myned i ryddhau Emin Pasha-Ellmynwr, estron, dyn na fu erioed yn gaeth, dyn na fu erioed mewn angen help—buasai mor briodol iddo ddweyd ei fod yn myned i ryddhau Gol. y DARIAN a rhyddhau Emin Pasha. Llwydd- odd i gael gan hwnw i'w ganlyn am ychydig 9 fisaedd o seibiant, ond brysiodd hwnw yn ol at ei waith gynted y gallai, a dywedir fod Stanley wedi tramgwyddo wrtho am wrthod o hono ddyfod i'r wlad hon i ganmol Stanley am ei waredu. Tebyg y ceir goleuni mwy cyn hir ar yr ymgytch i waredu Emin. Mae galw Stanley yn olynydd i Livingstone yn sarhad ar goffadwriaeth y dyn da hwnw. Ac nid oes yn fy meddwl un amheuaeth na fydd banesiaeth y dyfodol yn dangos i Lewis Jones a'r fintai o Gymry aeth i Patagonia, wneud mwy o was- anaeth i wareiddiad, dynoliaeth, a chrefydd, nag a wnaeth Stanley a'i barti.
.CAN Y BLOTYN DU.
CAN Y BLOTYN DU. Gwrandewch y stori greulon, Fu gynt yn ngwlad y Saeson, Gerllaw i gaerau pentref Caer, 0 fewn i Gornwal dirion. Hen wr oedd yno'n taro A'i blant o i ddeutu'n bordro, A'i fab hynaf yn ddiwad, A'i fwriad ar drafaelio. I'r mor fe fynai fentro, Yn brentis ca'dd ei rwymo, Dros saith mlynedd efo'r Black Prince, Nis gwyddai ei ffrins oddiwrtho, Bn hefyd dri saith gaua,' Ar gost y Twrcs a'r India, Yn 'speilio'r gwyr a'u taflu i'r mor, 'Nol dwyn eu cyfoeth pena'. Ca'dd dywydd drwg annyddan, Daeth gwynt yn groes i'w amcan, Fe chwytha'r Hong mewn cyflawn hwyl, I'r lan i Gornwal hafan. I dy ei chwaer fe gerddai, Fel dyeithr fe ofynai, A oes trafaeliwr i chwi'n frawd ? A ydyw'n ddiwawd gartre'? Mae i mi frawd, gobeithio, A'i fwriad ar drafaelio, Ac ar ei fraich mae Blotyn Du, Nis gwn be ddarfu iddo. Fi yw'r trafaeliwr caled, A'r Blotyn Du sy i'w weled Pa sut mae hynt fy mam a'm tad ? Pa sut mae'm stad yn 'styried ? Mae'r stad yn ddifai ddigon, Pob rhodd sy'n rhwym a graslon, Ond ei bod wedi myn d ar feth, Ac arni beth dyledion. Dywedodd yntau, ymroaf I wneud pob brys a allaf; Bore fory codi'n lion, A'i holl ddyledion talaf. I dy ei dad fe gerddai. Fel dyeithr fe letyai; Fe ro'i god i wraig y ty, I'w chadw hyd y bore. Y gwr a'r wraig ddywedai'n isel, Ni gawsom hyn mewn gafael; Mae genym ddigon ar ein tro, Os gallwn ei fwrdro'n ddiogel. Y mab oe'n cysgu'n gywrain, A'r gyllell lem hwy Uadden', A'i fam ei hun mewn purion pwyll, Yn dal y ganwyll weren. I'r daflod wair hwy taflen', Ac yno hwy gadawen', Nes caent hwy le mewn dirgel fan, Roi'i ddwyrudd dan ddaearen. Ei chwaer ddoe yno'n foreu, A phob ryw fath o foethau, I roeso ei hanwyl frawd i r wlad, Am dano i'w thad gofynai. Pwy frawd wyt ti'n ymofyn ? Nis bu yma neithiwr undyn: 0 do yn wir, na wadwch ddim, Dangosodd imi'r Blotyn. 9 Dechreuat'r hen wr dyngu, Pwy felldith a ddaeth imi I Os lleddais i fy mab fy hun, Dof finau i'r un dihenydd. Yr hen wraig hithau dd'wedai, Os fi fu'n dala'r goleu, Fe gaiff y gyllell yn ei Hid, Wneud fy nihenydd inau. Fe welai'r ferch dair celain, Nis gall'sai fod yn llawen Ac aeth maes o'i chof, ac felly bu, Nes rhowd hi tan ddaearen.
PONTYPRIDD ACADEMY.
PONTYPRIDD ACADEMY. Pasiodd Mri. C. Thomas, Amwythig, a H. Jenkins, Llantwit Fardre, dau o ysgolheigion Mr. E. Dunmor Edwards, M.A., Pontypridd Academy, yn llwyddianus yr wythnos ddi- weddaf yr arholiad am dderbyniad i Goleg y Bedyddwyr, Pontypwl.
CYFARFOD Y BOREU.
CYFARFOD Y BOREU. Ar ol araeth fer gan y llywydd—C. E. D Morgan-Richardson, Ysw., awd yn mlaen fel y canlynTenor Solo, 'O! na byddai'n haf o hyd,' rhanwyd y wobr rhwng Samuel Rees, Treorci, a H. Morris. Aberteifi. Beirniadaeth ar yr englynion i 'Elusen,' goreu, James Jones, Penlancych, Boncath. Cystadleuaeth i gorau o blant, 'I'r gad, i'r gad,, goreu cor Aberteifi, dan arweiniad Mr. Ceredig Evans. Am y cyfieithiad goreu o'r Deathbed, goreu, Mr. Williams, ysgolfeistr, Blaenporth. Canu Arthur a Myfanwy,' goreu, Miss Jones, Pen- Ian, Tanygroes, a Mr. Tom Ellis, Blaenanerch. Y goreu ar y traethawd ar The advantages of a Mechanics' Institute,' oedd Mr. Ceredig Evans. Datganu Ye breezes of the morning,' goreu-cor Blaenanerch, dan arweiniad Mr. B. James. Adrodd I Charge of the Light Brigade,' goreu-Richard Raymond, Panty- geneu. Solo Baritone, Y Cymro,' goreu, Mr. D. Davies, Blaenpistyll. Wyth penill ar Siomiant,' goreu—Thomas Evans, Beulah, Castellnewydd Emlyn. Rhanwyd y wobr am ganu Rise up, arise,' rhwng corau Aberteifi a Blaenanerch.
CYFARFOD Y PRYDNAWN.
CYFARFOD Y PRYDNAWN. Ar ol araeth bwrpasol gan Syr C. E. G. Phillips, Barwnig, awd yn mlaen fel y canlyn: -Am yr Ymdeithgan oreu ar y geiriau, Brwydr derfynol iachawdwriaeth'; gooem Ellis Ellis, Blaenanerch. Soprano Solo, 'Y Plentyn a'r Gwlith'; goreu, Mrs. Margaret Rees, St. Clears. Adroddiad Cyflafan mab y bugail,' goreu—Jas. D. Owens, Plas, Penbryn. Datganu Bavaria,' goreu-cor Blaenanerch, o dan arweiniad Mr. D. Davies, Blaenpistyll. Pryddest, Y Gobaith Dirwestol,' goreu-Miss Ann Parry, Blaenanerch. Tenor Solo, 4 Com- fort ye,' goreu-W. James (Eos Morganwg, Aberaman. Traethawd, Temperance in the light of the Scripture,' goreu-Miss Ann Parry, Blaenanerch. Canu Nyni yw'r meib- ion cerddgar,' goreu-parti Trecynon, Aber- dar, dan arweiniad Mr. J. R. Evans, A.C. Pedwarawd, Good night, beloved,' goreu— parti Ellis Ellis, Blaenanerch. Cystadleuaeth gorawl, Toriad dydd ar Gymru,' goreu—cor Blaenanerch. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngerdd, pryd y gwasanaethwyd gan Miss Jones-Morewood, Miss Sarah Jones, Abertawe; Mr. T. Price, Merthyr; a Mr. W. Davies, Rhydychain. Ar- weiniwyd y ddau gor cydfuddugol gan ein cyfaill Mr. Taliesin Hopkins, Porth, Rhondda. Nis gallwn derfynu heb ddweyd fod y doniol Gurnos wedi dangos ei allu a'i fedr fel arwein- ydd eisteddfodol yn yr eisteddfod hon, ac hefyd yn eisteddfod Llangranog y dydd Mer- cher blaenorol. Cadwai y dorf fawr yn dawel ac astud a'i ddifyrwch pur, ac yr oedd yr addysgiadau a daflai allan yn wir deilwng o hono ei hun. Agorodd yr orsedd yn deilwng o'r hen sefydliad iachus. Cauwyd hi yn y prydnawn pryd yr oedd canoedd yn bresenol.
AT Y PARCH. E. GURNOS JONES.
AT Y PARCH. E. GURNOS JONES. Syr,-Dymunwn arnoch gyhoeddi eich beirniadaeth ar y traethawd 'Prydlondeb, testyn cystadleuol yn Eisteddfod Cadoxton, Awst 4ydd, 1890. Rhydd cyhoeddiad eich beirniadaeth foddlonrwydd i luaws heblaw DBWI.
DOWLAIS.
DOWLAIS. GWYL Y BANCIAU.-Nid oedd dim o bwys yn myned yn mlaen yma ar y dydd hwn, gyda'r eithriad o fod rhai o'r Cymdeithasau Dyngar- ol yn gorymdeithio trwy brif heolydd y lie, y rhai sydd yn ymgynull yn y Corner House, Bruce Hotel, a'r New Inn. Yr oeddynt yn cael eu blaenori gan seindorf bres, ac yr oedd eu banerau, &c., yn edrych yn hardd iawn, a rhif aelodau y gwahanol gymdeithasau yn bur foddhaol. Nis gallem lai na theimlo yn hap- us i feddwl fod yn Nowlais y fath Gymdeith- asau Dyngarol, a gwedd mor ddymunol a lle- wyrchus arnynt, a charem pe bai y cymdeith- asau hyn yn cael mwy o gefnogaeth oddiar ddwylaw ein boneddigion, masnachwyr, &c., canys diau y maent yn foddion i gadw ein trethoedd yn llawer is na phe buasent, pe na bai y cymdeithasau hyn mewn bod. DAMWAIN ANGEUOL.—Prydnawn dydd Llun, y 4ydd cyfisol, cyfarfyddodd dyn o'r enw Den- nis Sullivan, Caeharris, a damwain druemus trwy syrthio o dan siwrne ar waelod y Lower Branch Incline, cafodd ei lusgo o dan yr ol- wynion am ychydig ffordd, ac anafwyd ef i'r fath raddau fel yr oedd yr olwg arno braidd yn annyoddefol i'r llygaid, a bu farw yn union- gyrchol. Cynaliwyd trengholiad arno y dydd Mawrth canlynol, pryd y dyfarnwyd yr achos yn ddamwain angeuol.' OYFARFOD ANRHEGU. — Nos Iau diweddaf, cynaliwyd cyfarfod er anrhegu y Parch. J. M. Davies, diweddar weinidog eglwys Hermon (M.C.), ar yr achlysur o'i ymddiswyddiad o'i fugeiliaeth. Cadeiriwyd gan Mr. Davies, Balaclava-road, mewn modd anrhydeddus a dymunol. Cafwyd anerchiadau gan y Mri. J. Francis, D. Evans, J. Williams, E. George, R. Price, J. G. Jones, J. B. Evans, a T. Jones; y Parchn. W. Williams, Bethania; Jones, Gwern- llwyn Davies, Calfaria; a Morris, Bryn Seion. Yr oedd yr holl anerchiadau yn fyr ac i bwr- pas, a phob un yn cyd-dystiolaethu (' heb neb yn tynu'n goes') am Mr. Davies fel dyn Duw, yn bregethwr hyawdl, yn weinidog ffyddlawn, yn gyfaill caruaidd, yn gymdeithaswr dymun- ol, ac yn gyaorthwywr i'r tlawd a'r anghenus Cyflwynwyd i Mr. Davies ar ran yr eglwys gan Mr. R. Richards dros ddeugain o gyfrolau, gweithiau rhai o'r prif awduron, cafodd Mrs. Davies ei chyflwyno a set o Tea & Coffee Ser- vice arian, ar ran yr eglwys gan Mrs. Wil- liams, Vaughan-street, a Llyfr Hymnau hardd gan Miss Rees ar ran y dosbarth y bu Mrs. Davies yn athrawes arno am lawer iawn o amser. Siaradwyd gan amryw o'r cyfeillion yn ddymunol iawn am serchawgrwydd a ffydd- londeb Mrs. Davies yn holl wasanaeth y cysegr. Wedi cynyg y diolchgarwch arferol, a chael can gan Miss S. A. Davies, aeth pawb adref gan ddymuno gwenau y nefoedd ar Mr. a Mrs. Davies.
YSGOLDY Y BWRDD, CEINEWYDD.
YSGOLDY Y BWRDD, CEINEWYDD. Cynaliwyd cyngherdd fawreddog yn y lie uchod nos Sadwrn Awst 9fed, 1890, er budd i weddw y diweddar David Phillips, Cwmdar, yr hon sydd yn preswylio yn y lie uchod ac yn wael ei hiechyd. Gwasanaethwyd gan y personau canlynolMisses Maggie C. Lewis, Maud Davies, Jane Davies, Helena Jones, a Mrs. Dr. Jones, a Mri. Francis Davies, William James (Eos Morganwg), Dr. R. Jones, J. W. Jones, Samuel Richards, Tom Evans, yn cael eu cynorthwyo gan y Cwmbach Glee Society dan arweiniad Mr. William F. Roberts. Gwasanaethwyd ar y berdoneg gan Miss Lucy Davies. Cymerwyd y gadair gan Dr. Jones, a gwnaeth ei waith yn rhagorol. Chwareuwyd ar y berdoneg hefyd gan Mrs. Dr. Jones. Wedi talu y diolchgarweh arferol i'r cadeirydd a'r gwasanaethwyr oil, diwedd- wyd y cyfarfod trwy i Eos Morganwg ganu Hen Wlad fy Nhadau. Mae clod mawr yn ddyledus i'r ymwelwyr am gymeryd at y gorchwyl o wneud y gyngerdd mor llwydd- ianus. Cafwyd lie llawn a llawer yn gorfod troi ymaith am nad oedd lie iddynt. Cafwyd canu da gan bawb, a barn un o'r areithwyr oedd na fu y fath gyngerdd yn y lie o'r blaen. UN OBDD YNO.
--Y BILLY FAIR PLAY A'I WERSI.
Y BILLY FAIR PLAY A'I WERSI. GAN MR. W. ABRAHAM (MARON), A.S. 0 herwydd ei effeithiau uniongyrchol ar y dosbarth glofaol eang hwn, ni fu dedfryd cyfreithiol nag arall a dtlysgwyliwyd mor frwdfrydig gan feistri a gweithwyr a chanlyu- iad yr apel a wnawd yn erbyn dedfryd y Barnwr Owen yn achos y glo man. Or braidd y gall dyn symud o'r naill le i'r llall heb ei fod yn cael ei boeni am ei farn ar y canlyniad; ac er na all neb siarad gyda phenderfyniad, eto nis gall y dedfrydau sydd eisioes wedi eu rhoddi ar ddau achos cyffelyb yn Nhy yr Arglwyddi lai na rhoddi cyfeiriad a dylanwad i'r achos hwn.
BARN Y JUSTICE STEPHEN.
BARN Y JUSTICE STEPHEN. Dywedodd Mr. Justice Stephen, pan yn traddodi ei farn ar achos Bourne v Cwmni Glofaol Netherwell (cyfyngedig), yn Llys y Queen's Bench, Gorphenaf 13eg, 1887 :—"Yr ydwyf wedi dweyd eisioes, mewn ychydig eiriau, yr hyn yw fy marn ar yr achos, ac ar yr hwn y mae sail fy nedfryd, yr hwn yn sicr yw adran 17eg; ac yn ddigon i benderfynu yr achos. Geiriau yr adran hono ydyiat, Fod y mwnwyr i'w talu yn ol pwysau y mwn a ddygir allan ganddynt, a bod i'r cyfryw fwn gael ei bwyso ar ol hyny. Y mae achos y Llynvi yn dal y gall feddwl, neu y gellir cytuno iddo feddwl, mwnau effeithiol—glo mawr fel i'w wahaniaethu oddiwrth lo man. Yna y mae y proviso yn dweyd y gall y glo man gael ei dolli neu ei dynu allan-ond nid yw yn dweyd hyny mewn cynifer o eiriau, ond yn cynwys hyny yn mhlith pethau ereill. Yna y mae yn dweyd os na lenwir y basgedi (neu y trams) yn iawn neu mewn achosion neillduol ereill, fod y tolliadau i'w pender- fynu gan fancsman neu bwyswr, neu atal- bwyswr (os bydd yno un) neu mewn achos o anghytundeb, trydydd person, i gael cytuuo arno gan y perchenog, y goruchwyliwr, neu lywydd y lofa ar un llaw, a'r personau cyflog- edig yn y weithfa ar y llaw arall.' Yn yr achos hwn y mae yn ymddangos fod gwahaniaeth yn nghylch y tollau (deductions) hyn-trwy fod y tolliadau yn cael eu gwneud mewn dull nad oedd yn cael ei nodi gan y ddeddf Seneddol. Y mae yn ofyniad ag y dy- lai y ddeddf Seneddol ateb ei gyffelyb. Y mae yn ymddangos nad y banksman na'r atal- bwyswr a wnaeth y tolliadau, ond mewn ffaith ) y llanc oedd yn edrych ar ol yr hyn a elwir yn Billy Fairplay; ac, er y dywedir fod y glo- wyr wedi cytuno i'r cynllun hwn o benderfynu yr annealldwriaetb, yn lie yr un a nodir gan y ddeddf Seneddol, eto, yr ydwyf yn credu fod y ddeddf yn eglur, ac nad allant gontractio eu hunain allan o honi trwy ddealldwriaeth o'r natnr hwnw, ac felly yr wyf yn tystio fod yn rhaid rhoddi d edfryd i'r achwynydd am y swm aofyna."
. CHWAREUAD 'BLOOWEN' AC 'ARIANWEN.'
CHWAREUAD 'BLOOWEN' AC 'ARIAN- WEN.' SYR,-Goddefwch i mi wneud ychydig syl- wadau ar lythyr Shoni Hoy, yr hwn a gy. hoeddwyd yn TARIAN Y GWEITHIWR am Gor- phenaf Blain, 1890. Y mae eich gohebydd gwerinol yn onest iawn yn cydnabod ei enw, ac y mae ei nodiadau cawdelog yn wir deilwng o'r fath enw penchwiban a gwerinol; a phe buaswn i heb weled ei enw, hyny yw, ei ffug- enw o gwbl, buaswn yn cael fy argyhoeddi ar unwaith mai un o'r Shonis oedd awdwr y llythyr dan sylw wrth ei ddarllen. 'A little learning is a dangerous thing,' medd y bardd Seisnig, ond rhag ofn nad yw addysg Shoni Hoy yn caniatau iddo ddeall namyn y Gymraeg, rboddaf y dyfyniad ger ei fron yn yr iaith hono,- Yf ychydig ddysg, fe feddwi, Yf yn ddyfnach ac fe sobri.' Baich ysgribliad Shoni Hoy yw, fod rhyw Domos Domos, yn byw yn Nghwm Rhos, Tredegar, a'i fod yn amddiffyn chwareuad Blodwen' ac Arianwen' (Dr. Parry) yn y chwareudy ac y mae yn ymddangos fel pe byddai yn ochain yn ddirfawr wrth geisio synu fod unrhyw fath o lenor, neu fardd, yn byw yn Nghwm Rhos, am mai yao y cafodd set o ddanedd gyntaf. Ond tybed, Syr, ei fod wedi bwrw ei ddanedd sugno? Ymddengys hefyd fod y ffaith ei fod ef yn credu yn wahanol i Mr. Thomas am Dr. Parry, yn gwneud iddo amheu nad oes penboethiaid crefyddol, dallbleidwyr, a rhai moesol ym- ddangosiadol mewn eglwysi crefyddol. Oes, mewn gwirionedd, Syr, a chaniatewch i mi sibrwd yn nghlust eich gohebydd fod yntau yn tebygoli yn fawr i'r dewisolion a adna- byddir wrth yr enw poblogaidd Peugameniaid. Y mae creaduriaid ystyfnig, anhywaith i'w cael yn Nhredegar, ac hwyrach fod gan y Bod Mawr ddyben neillduol iddynt; ond beth yw amcan eu bywydau, rhaid i mi adael i rywrai sydd yn fwy hyddysg na myfi i'w wneud yn hysbys i chwi, Syr. Y mae llawer o honynt yn cael eu rhestri yn mhlith dynion crefyddol, y rhai pad ydynt yn meddu ar ddim amgen hunanoldeb ac anwybodaeth, ac o herwydd hyn y maent fel llestri gweigion, yn gwneud y swn mwyaf yn yr eglwysi i'r rhai y perth- ynant. Gallesid meddwl fod gan eich gohebydd rhywbeth o bwys i'w ddweyd yn nghylch Dr. Parry a'r brawd tawel Mr. Thomas, ond y mae wedi troi yn fethiant hollol arno y tro hwn, beth bynag. Ond boed hyny fel ag y bo, y mae Mr. Thomas yn foneddwr eithaf cymhwys i roi barn deg ar helynt Operas Dr. Parry yn eu holl gysylltiadau, ac fel y cyfryw nis gallasai lai nag amlygu gofid i'r Cymry gael eu camliwio gan benboethiaid crefyddol pan ddygwyd Blodwen' ac Arianwen' ger- bron y cyhoedd yn Nghaerdydd y tro cyntaf. Beth yw y Parch. Mr. Spurr ond penboethiad crefyddol ?- Mewn gallu wynebu wnaeth-efe ar Fyd o lygredigaeth; (!!) Hwn o Dduw ei hun a ddaeth A delw' ysbrydoliaeth. Ymddengys i mi fod eich gohebydd gwerinol yn tuchan yn fawr wrth gyfeirio at auaddas- rwydd y chwareudy i ddwyn Blodwen' ac Arianwen' gerbron y cyhoedd. Dywed mai geudy yw y chwareudy, ond y mae yn addef fod testynau Dr. Parry yn lan, ac y mae yn teimlo o herwydd eu bod yn cael eu twmlo i'r geudy. Dichon fod llawer, heblaw pobl Cwm I Rhos, yn gorfoleddu fod beirniad o safle urdd- asol eich gohebydd gwerinol yn cydnabod Blodwen' ac Arianwen' yn lan, er hwyrach nad ydynt yn gofidio mor ddwys ag ef o her- wydd fod eu hawdwr wedi 'eu twmlo i'r chwareudy.' Wel, os ydyw safle y chwareudy mor llygredig ag y myn eich gohebydd ei fod, nid Dr. Parry sydd wedi ei ddarostwng. Nid yw yr adeilad yn wahanol i unrhyw adeilad arall, ac o ganlyniad, rhaid mai yr hyn sydd yn myned yn mlaen ynddo sydd yn ei lygru. Ond pe buasai ef a'i gor yn canu ei Ebenezer' (8.7.4 M. 7.) yn y chwareudy, hwyrach y buasai Shoni Hoy a'r Parch. Mr. Spurr, yn nghyd â. llawer ereill o'i grachfeirniaid, yn cydnabod fod,- Cor o ogoniant yn cywir ganu Ei glod arosawl glywid i'r Iesu, Ar ei anfoniad ai'r nef i wenu, Daear goronwyd, gan fraw dirgrynu Wnai bro'r dyfnder mewn dieter du-a chrog Euogrwydd llwythog agwrdd i'w lethu." Ai nid wrth fyned a chyfansoddiadau uwch a phurach iddo yw y ffordd effeitbiolaf i well- hau y chwareudy ? Ai nid y goleuni sydd yn ymlyd y tywyllwch ymaith ? Ie yn sicr. Y mae Cymru wedi dyrchafu ei hun yn uch- el mewn moesoldeb a chrefydd ymarferol, ond rhaid i bob dyn cydwybodol gyfaddef fod lle- oedd ag syad yn llawn mor llygredig a'r chwareudy ynddi. Wel, sut y gellir ei diwyg- io ? Fe allesid meddwl wrth lythyr eich go- hebydd, mai wrth gadw yn ddigon pell oddi- wrthynt; hyny fyddai oreu yn ddiau i ddyn- ion fel y Phariseaid gynt, y rhai oedd yn meddu proffes allanol yn unig—fel beddau gwyngalchog oddiallan, ac yn llawn budreddu oddifewn. Dr. Parry yw yr unig Ddoctor Cerddorol a fedd y Cymry, a bydd ei enw ar gael pan fydd enwau bodau cyffredin fel Shoni Hoy' wedi myned i ebargofiant. Dywed ef mai 'yn y goleuni y gwel allu oreu,' os felly, paham na fuasai yn ymddangos ya y goleuni ar faes y DARIAN, yn Ile cuddio mewn tywyllwch gwerin- ol a chorachaidd. Ond, fe ddichon -mai y ffordd oreu iddo yw aros yn Nghwm Rhos am dipyn eto, pa fodd bynag, hyd nes iddo ddod yn well athronydd, a cheisied gan Twm Dafydd geg- agored, a Shoni Evan Nel ei arwain i'r myn- ydd i anadlu awyr mwy iachus nag sydd yn geudy Cwm Rhos. Byddai hyny yn fwy man- teisiol iddo na bradychu ei anwybodaeth gres- ynus yn nghylch beirdd a barddoniaetli y Cymry. Y mae yn rhy anwybodus i ganfod mai dyfyniad o Gytuydd y Farn, gan yr an- farwol Gwronwy Owain yw Twrdd ac anferth rhyferthwy' &c., sydd yn llythyr Mr. Thomas, ac heblaw hyn, y mae yn ceisio gwneud gorchest-gamp, wrth ymbalfalu yn nghanol hen ysbleddach cregin- ol, clogyrnog, a gwerinol. Nid wyf yn ei farnu, syr, ond yn ol ei iaith ei hun. Yn mhellach, dywed, Y gellir gweled drwg yn y chwareudy heb ei brofi.'—Athraw- iaeth dywyll iawn yw hon eto, ac y mae yn profi y gellir canfod drwg yn nghalon Shoni Hoy' yn ol ei leferydd ei hun, ac o ganlyniad, yr wyf yn ei gynghori i beidio llosgi ei fysedd eto yn y drafodaeth hon, canys y mae Operas Goganol Dr. Parry yn sicr o wneud llai o ddrwg i'r cyhoedd na'r bobl hyny sydd byth ae hefyd yn ceisio gwthio eu hunain ar rith angylion y goleuni i gymdeithasau moeol a chrefyddol. Pobl selog, anwyliadwrus, yw y rhai hyn yn y cyffredin, ag sydd heb wybod- aeth, a'u lioff waith yw barnu, pwyso, a mesur llyfrau, a dynion cyhoeddus. Barnant bre- gethwr pan na wyddant ddim am y ffordd sydd yn eu liarwain i fywyd tragwyddol. Barnant feirdd pan mewn gwirionedd na wyddant ddim am feirdd na barddoniaeth gwlad eu genedigaeth. Yn yr un modd barn- ant gerddoriaoth pan na wyddant yr un nod- yn. Soniant lawer am grefydd ac athrawiaetfi y Beibl, er nad ydynt byth yn ei ddarllen, eto, mynant ddal man-lwch y clorianau yn eu dwylaw llygredig eu hunain. Wrth derfynu, yr wyf yn cynghori Shoni Hoy' i lanhau ei dy ei hun cyn mentro i lanhau geudai ei gym- ydogion. Heblaw hyn, dysged y ffordd i iawn ddefnyddio y gair rant' a pheidied ag ar- ddangos ychwaneg o'i arrant nonsense i'r cy- hoedd. Ydwyf, syr, yr eiddoch yn ostyngedig, CRESCENDO.
PENDERFYNIAD Y RHYL.
PENDERFYNIAD Y RHYL. Yn Hydref, 1885, cynygiodd Mr. H. Edwards, Huyton Quarry, benderfyniad mewn cyfarfod yn Hope Hall, yn yr hwn yr oedd Gol. y Faner yn llywyddu, i'r perwyl, Fod i'r aelodau Seneddol dros Gymru i ymffurfio yn blaid i hyrwyddo pob mesurau Cymreig, megys dat- gysylltiad a dadwaddoliad yr Eglwys, addysg ganolraddol," &c. Tri yn unig ddarfu bleid- leisio drosto, a'r rhai hyny oeddynt estroniaid i'w gilydd. Yr oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwnw y rhan fwyaf o aelodau y Federasiwn, ond yr oedd pob un o honynt mor benderfynol yn erbyn Mr. Edwards a disgyniad morthwyl ager, a synent ei fod yn rhyfygu taflu y fath asgwrn cynen i'r cyfarfod. Yn mhlith y rhai hyny yr oedd yr Undebwr aiddgar R. A. Jones, o Liverpool, yr hwn sydd yn awr yn ymgodymu a J. Bryn Roberts am benderfyn- iad y Rbyl. Gwelir gan hyny fod y syniad o gael plaid Gymreig i hyrwyddo, heb son am rwystro, yn wrthodedig a dirmygedig gan R. A. Jones a r Federasiwn yn 1885, ond yn awr wele hwynt yn barnu yn ddoeth i ffurfio plaid Gymreig i rwystro. Gan nad beth ellir dweyd am y dymunoldeb o gael plaid o rwystrwyr Cymreig yn y Senedd, gellir dywedyd nad yw aelodau y Federasiwn fu yn gwneud y penderfyniad hwn ond gwyr ieuainc yn y ffydd rwystrol hwn, canys yn 1885 ni fynent gymaint a chlywed son am blaid Gymreig, neu tybed eu bod yn gwrthwynebu cynyg Mr. Edwards am eu bod yn rhy lawn or gras dieflig hwnw sydd yn gwahardd i ddyn gredu y gall da fod mewn dim heb fod arno ddelw ac argraph eu Clymblaid eu hunain. Mae y Federasiwn yn anwybyddu Mr. Edwards yn union yr un fath ag y gwnai Crt-awdwr Cyngreiriau Dinbych a M. D. Jones, Michael Davitt, a minau. Son am oed ffydd y Federasiwn, na, nid yw hi eto fwy na chwe' mis; cenhedlwyd hi gan gamgymeriad yr hynaws Evan Jones yn nglyn ag etholiad Lloyd George, tyfodd fel cicaion Jonah a gwasanaethai fel pabell i'r Parch. Evan Jones gael lie i lechu yn ngwres yr ymosodiadau, ond yn sicr, y mae y babell yn rhy fawr, yn rhy gostus, ac yn rhy beryglus. Da, ebe rhywun, i un ddyoddef ac na ddifether yr holl genedl, ond ebe'r North Wales Federasiwn, da yw i'r holl genedl ddyoddef fel na ddifether un Evan Jones. Mae doethineb a gras politics yr oes hon yn bethau rhyfedd, ond gan nad faint wyngalchir ar y brawd, wel, yr un lliw fydd efe o hyd, ac fel yr eir yn mhellach oddi- wrtho, duach, duach yr ymddengys o hyd. Y mae ar y Federasiwn ddelw yr henaduraeth drefnyddol, y Conference Wesleyaidd, a Cen- tral Committee cynllunedig Independia, pobl fel y great unpaid, nad ydynt yn gyfrifol i neb. Tybed pe buasai y bohl oedd yn Rhyl yn gyfrifol i ryw etholaeth y buasent yn rhy- fygu myned i gymaint o draul i wyngalchu camgymeriad un brawd ? a choelied ein cy- feillion neu beidio, rhaid i bob aelod o'r Fed- erasiwn fod wedi ei ddewis gan rywrai cyn y gallant ddysgwyl cael dylanwad er daioni, ie, rhaid iddynt fod wedi cael eu hethol gan y bobl ac yn gyfrifol i'r bobl yn union fel yr Aelodau Seneddol, a goreu i gyd po gyntaf y trefnir i'r aelodau gael eu hethol gan y bobl, ac nid gan eu gilydd fel yr ydys wedi gwneud hyd yma. Nid oes genyf amser na gofod i fanylu ar gyfansoddiad y Federasiwn, yn unig edrycher ar siroedd Dinbych a Fflint, dros y naill ceir firm y Faner-Mri. Gee a'i Fab, a Mr. J. Parry, Llanarmon-Methodist arall- am y rhai y gellir dywedyd, y tri hyn yn un y maent yn cytuno. Tybed nad oedd yn Sir Ddinbych neb ond y tad, y mab, wel, a Jno. Parry yn werth i'w benodi yn aelod o'r Federasiwn. Ni ddewiswyd Deb o Sir Fflint hyd nes i fy hen gyfaill Mr. Bryan godi ei gloch yn y cyfarfod, a hwythau er mwyn ei gadw yn ddystaw, a wnaethant iddo le yn mysg y brodyr ar draws pob trefn a rheol flaenorol, ac yr oedd efe yn un yn y Rhyl yn gwyngalchu. Nid yw y Federasiwn mewn gwirionedd yn ddim ond cyfarfod Blaenoriaid," coder y gymdeithas i dir uwch na chlymbleidiaeth en- wadol. Rhaid i aelodau y Federasiwn gael eu dewis gan y bobl, yn gyfrifol i'r bobl, yn deall y bobl,i yr barod i gario allan ddymun- iadau y bobl, nis gellir edrycb ar y rhan fwyaf o honynt fel y mae pethau yn myned yn mlaen yn bresenol, ddim amgen ymhonwyr hunanol, uchelfrydig, rhai yn credu, trwy farchogaeth ceffylau pren, y gallent gael drws agored i'r Senedd. Y mae yn eu plith nifer fechan o wyr heb ddeall eu dichellion hwynt, pobl o safle ac ymddiried, ac yn nghysgod y rhai hyny y maent yn meddwl llwyddo, a phe gellid anfon pedwar o honynt i'r Senedd, ac un i Dy'r Arglwyddi, cai y wlad lonydd gan y gwaew Federasiwnaidd am ryw hyd.
... EISTEDDFOD ABERTEIFI.
EISTEDDFOD ABERTEIFI. Dydd Mercher, Awst 13eg, cynaliwyd yr eisteddfod uchod mewn pabell eang a chyfleus. Y beirniaid oeddynt-y ganiadaeth, Mr. W. Davies, U.C.W., Rhydychain; Mr. Tom Price, G. & L., Merthyr; a'r Parch. W. Evans, L.T.S.C., Cilgerran; y rhydddiaeth, Parch. E. Gurnos Jones, Casnewydd-ar-Wysg.
---"-GLOWYR DEHEUDIR CYMRU…
bleidwyr y mudiad hwn eu bod yn egwyddorol gredu y byddai undeb o'r fath yn fanteisiol i lowyr Deheudir Cymru. Ond gyda phob dyledus barch i'w syn- iadau, rhaid i mi ddatgan yn groew fy mod yn barnu yn wahanol. Yn annibynol ar bob teimlad o gulni cenedlaethol, credwyf y byddai undeb o'r fath yn anfan- tais mewn ystyr fasnachol a lleol i ni fel glowyr Cymreig. Yn y lie cyntaf cyn ei gwneud yn bosibl i ffurfio y fath undeb, byddai yn rhaid i ni droi o'r neilldu y gyfundrefn ag sydd wedi costio i ni gym- aint o ymdrech a thrafferth i geisio ei pherffeithio i'w sefyllfa bresenol er rheol- eiddio ein cyflogau, sef y Sliding Scale. Gwelais yn y newyddiaduron fod dir- prwyaeth wedi eu penodi yn Crumlin gyda'r amcan o gyfarfod a rhai o swydd- ogion y Cyngrair Cenedlaethol er cael clywed os oedd yn bosibl i ni barhau yn aelodau o'r Sliding Scale a bod yn aelodau o'r Cyngrair; nis gwn a gawsant y wybod- aeth hon ai peidio. Ond credwyf fod atebiad swyddogion y Cyngrair i Mr. Henry Barnes, goruchwyliwr y glowyr yn swydd Stafford, yn gymwysiadol i Gymru. Mewn cyfarfod mawr o lowyr Deheudir Stafford, a gynaliwyd yn Oldbury yr wyth- nos ddiweddaf, dywedai Mr. Barnes ei fod wedi derbyn gohebiaeth oddiwrth swyddogion y Cyngrair Cenedlaethol i'r perwyl fed yn anmhoslbl i lowyr Stafford i fod yn aelodau o'r Cyngrair heb ddifodi eu Bwrdd Cymodol, neu yr hyn a alwant yn "Wages Board." Wedi clywed yr atebiad, penderfynodd y cyfarfod yn unfrydol eu bod yn glynu wrth eu Wages Board. Pell ydwyf o gredu fod ein Sliding Scale bresenol yn berffaith, nac ychwaith ei bod un gronyn yn berffeithiach o herwydd fy nhipyn cysylltiad i a hi, ond yr ydwyf yn credu hyn sef ei bod yn ei chyflwr diwyg- iedig presenol yn foddion i gadw ein cyf- logau yn nes i bris y fasnach nag y buont erioed o'r blaen, hyd yn nod yn y tymor a gyfenwir yn "amser dda," sef o 1872 i 1875. Felly o dan yr amgylchiadau a fyddai yn ddoeth i ni aberthu ein cyfun- drefn heddychol bresenol, ac ail ddechreu cyfnod arall o frwydro ar antur am ein hiawnderau. Yr wyf wedi clywed mai un o resymau pleidwyr yr undeb a'r Saeson ydyw er mwyn bod yn allu cryfach i wrth- sefyll gostyngiad yn ein cyflogau. Amcan eithaf teilwng yn ddiau, ond ofnwyf y try allan yn anymarferol pan y try troell mas- nach yn ei hoi, ac y bydd yn rhaid i ni blygu i'r amgylchiadau er holl nerth ein hundebau. Yr wyf yn ddigon hen, er fy ngofid, i gofio rhywbeth am streics a'u heffeithiau oddiar y "streic fawr" yn y blynyddau 1856 a 57, ac yr ydwyf wedi sylwi braidd yn ddieithriad fod y streics hwyaf a chreulonaf wedi cymeryd lie i wrthscfyll gostyngiad tra yn ddyledus, ac nid i hawlio codiad yn ein cyflogau pan oedd masnach yn ei ganiatau, codai hyn yn ddiameu oddiar anwybodaeth arwein- wyr y bobl o sefyllfa wirioneddcl masnach, ac nid oddiar eu bwriad i gamarwain o'r mynud yr argyhoeddid y werin fod y gos- h- Jau yn ddyledus, taflent i lawr eu c ymgymodent a'r amgylchiadau, waethygwyd fel rheol drwy eu ■Jgrwydd hwy eu hunain. >L cymaint ffaeleddau y Sliding Scale, )r ydym yn rhwym o addef mai yn ei sefydliail hi y cawsom y cyfleusderau cyntaf i ddyfod o hyd i bris gwerbhiadol y <lo, dnvy archwilio llyfraii y cyflogwyr, ac <tvriwyf y bydd gollwng y cyfieusdra .rthfawr hwn o'n gafael, ar gyfrif man- sion djchymygol ac ansicr, yn ein gyru n ol o leiaf ugain mlynedd i dywyllwch y gorphenol, heblaw y byddwn drwy uno a'r Saeson yn chwareu ein hunain a'n budd- ianau a'n manteisiou masnachol lleol i ddwylaw cenedl ag sydd wedi arfer bod yn rhy barod i anwybyddu ein hawliau a'n nodweddion cenedlaethol fel Cymry. Yr ydym oil' yn barod i waeddi "Home Rule i Gvmru" mewn ystyr wladwriaethol, dywedaf finau yn mhellach, Home Rule i Gymry mewn ystyr fasnachol hefyd. Yr eiddoch yn undebol a gwladgarol, DARONWY.