Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
Advertising
D. THOMAS Hafod, Swansea. r WEDDING RINGS dND KEEPERS* GOLD & SILVER CHAINS, &c., ELECTRO-PLATE, SPECTACLES, &c., &c. Large assortment, various qualities, lowest prices. Any article sent carriage paid.
Y DIWEDDARAF AM Y STRIKE.
Y DIWEDDARAF AM Y STRIKE. Nid oes un cyfnewidiad yn sefyllfa anmmunol pethau yn nglyn a Strike y Tan, Rhymney, a'r Barry. Y mae y ddwy ochr mor gadarn heddyw (dydd Mawrth) ag ar ddechreuad yr ymdrechfa, ac oni chaniateir i ryw drydydd person ymyraeth, nis gellir dweyd beth fydd y diwedd. Dydd Llun, cynaliodd y dyn- ion gyfarfod, a datganasant eu diolch- garwch i Syr E. J. Reed am ei ym- adyt'iad yn y mater. Ar yr un pryd, pasiwyd penderfyniad i'r perwyl hwn, sef. os cytunir i enwi cyflafareddwr, fed y cyflafareddiad i fod ar hawliau fwreiddiol y gweithwyr, ac nid ar yr awliau fel y maent yn bresenol— wed; eu lleihau i raddau helaeth. Yna dysgwyliai y cyfarfod yn awyddus am ganlyniad ymdriniaeth y Cyfar- 0 y v vddwyr, y rhai oedd wedi cyfarfod yn y Taff Vale Offices. Gwrthododd y Cyfarwyddwyr roddi bysbysrwydd i gynrychiolwyr y wasg, ond am 2.15 y prydnawn anfonasant at Mr. Harford, yr ysgrifenydd cyffredinol, i'w hysbysu eu bod hwy wedi rhoddi ystyriaeth i'r byn a ofynid gan y gweithwyr, ond nas galient dderbyn y cyfryw. Hofyd, anfonodd y Cyfarwyddwyr at Syi E. J. Reed, nas gallent ei dderbyn ef fel cUinolwr, gan eu bod yn credu fod ei sefyllfa effel aelod dros ydrefyn rhwystr Iddo weithredu mewn modd dibartioL Feily y spif pethau heddyw. Ar dder- byniiid yr ateb oddiwrth y Cyfarwydd- wyr, rhoddwyd cyfarwyddiadau i ych- wanegu nifer y pickets, a gwneir dar- pariadau ar gyfer strike faith. Dylai y penderfyniad a 'fabwysiadwyd gan v-yr y rheilffyrdd neithiwr (nos Lun), ar 01 ymdriniaeth faith a difrifol, ddwyn yi aunealldwriaeth rhyngddynt hwy a'r Cyfarwyddwyr i derfyniad buan. Yn naiuriol ddigon, y mae yn flin gan y dynion fod e i telerau wedi cael eu gwrthod, ond yc hytrach na derbyn y cyfrifoldeb o gadw yri nilaen y frwydr hon, sydd yh sicr o fod yn pr dwyol os pery yn hwy, y maent wedi pond rfynu rhoddi awdurdod i Mr. Har- ford gyfarfod â Mr. Inskip, er setlo y mater rhyngddynt hwy eu hunain. Os y bydd i Mr. Inskip wrthod y cynygiad hwn, mewn sefyllfa annymunol iawn, ond A wn y bydd iddo weled fod cyfiajrader I a c;yrit)liaeth yn gwaeddu yn groch a«i iddo ei dderbyn.
GWEITHFAOL A MASNACHOL
GWEITHFAOL A MASNACHOL SEFYLLFA Y FASNACH Lo. Bute Docks, Caerdydd, Awst 9, 1890. Yn ystod y tri diwrnod cyntaf o'r wyth- nos a aeth heibio, yr oedd galwad anar- ferol am 10 yn y dociau, ond oddiar dydd Mercher diweddaf, nid oes dim masnach wedi ei wneud yn Nghaerdydd. Y mae y fasnach lo wedi ei pharlysu yn hollol. Yn Ngogledd Lloegr, y mae perchenog- ion glofaol yn derbyn cryn elw o herwydd y Strike. Yn Newcastle-on-Tyne, y mae pris y glo ager wedi codi Is. neu Is. 6c. y dynell.
---...."" AT BEIRIANWYR AC…
AT BEIRIANWYR AC AGERDANWYB GLO- FEYDD NEDD A THAWE. Cynelir cyfarfod gan beirianwyr ac ager- danwyr y glofeydd uchod yn y Landore Inn, nos Sadwrn nesaf, Awst 16eg, i'r dyben o dderbyn adroddiad o'r cyfarfod a gynaliwyd yn Abertawe dydd Iau, Awst 7fed. Cofied pawb o honoch y bydd 6c. yn ychwanegol ar bob person i'r gyfrinfa, ar gyfer treuliau. Yr eiddoch, J. EVANS, F Y W. WHITCOMBE,\ °
CYFARFOD Y GLOWYR YN NGHWMAFON.
CYFARFOD Y GLOWYR YN NGHWMAFON. Cynaliwyd cyfarfod gan lowyr Cwmafon yn ysgoldy Waun-y-Maen, dydd Sadwrn, pryd y penderfynwyd yn unfrydol gyflwyno y gorchwyl o benderfynu safon prisiau y gwahanol wythienau yn y dosbarth i Mr. W. Abraham (Mabon), A.S., Mr. W. Evans, is-oruchwylfwr y Rhondda, a chyn- rychiolaeth fechan o'r gweithwyr eu hun- ain, y rhai yn fuan a gyfarfyddant a chyn- rychiolaeth oddiwrth y meistri, er dadleu a phenderfynu y gwahanol achosion mewn dadl. Rhoddwyd diolchgarwch unfrydol i Mr. Abraham am y dyddordeb yr oedd efe wedi ei gymeryd yn yr helyht, ac am ei anerchiad rhagorol y diwrnod hwn. 0 barthed y eyfarfod a gynaliwyd yn Aberafon, prydnawn dydd Sadwrn, pryd yr oedd Mr. D. Morgan, Aberdar, a Mr. W. Abraham yn bresenol ar ran cynrych- iolwyr y gweithwyr ar y Scale, methwyd dyfod i ddealldwriaeth yn nghylch etholiad aelod o'r Scale i gynrychioli y dosbarth hwnw.
AT BEIRIANWYR NEDD A THAWE.
AT BEIRIANWYR NEDD A THAWE. MR. GOL.Caniatewch i mi ofod fechan o'ch newyddiadur clodwiw mewn cysyllt- iad a'r mater uchod. Y mae yn hysbys i'r cyhoedd, drwy y Daily News yr wyth- nos ddiweddaf, i gyfarfod gael ei gynal yn Abertawe, Awst 7fed, 1890, gan berchenog- ion gweithfeydd glo y dosbarth uchod. Yr oedd Mri. Evans a "Whitcomb yno ar ran y peirianwyr, &c. Yr oedd cais am ddau beirianwr o dan wahanol feistri i'w hanfon i'r cyfarfod, sef o dan Vivian, Glasbrooks, Dynevor, Ac., yr hyn beth a ganiatawyd gyda'r parodrwydd mwyaf, i'r dyben, wrth bob rheswm, o gefnogi a chadarnhau ein cynrychiolwyr ger bron y meistri. Pender- fynasom ein bod fel dosbarth yn sefyll am yr hyn oeddynt yn geisio trosom. Y maent wedi setlo y mater, mae'n debyg. am rhyw 10 y cant, tra yr oedd penderfyniad y dos- barth ein bod i sefyll ar 20 y cant, ac mai down tools oedd i gymeryd lie os na chelid yr un peth ag Aberdar. Ni wnaeth neb o honom gymaint a breuddwydio y buasai hynyna yn cymeryd lie, oddieithr iddynt gael y safon crybwylledig. Mewn gwirion- edd, nid oedd hawl nac awdurdod gan- ddynt o gwbl i gytuno yn y modd hwn. Fe ddylasent ddyfod a'r genadwri o flaen cyfarfod y dosbarth, yn hytrach na thori y penderfyniadau, gan nad oedd y meistri yn caniatau yr hyn yr oedd y dosbarth yn ofyn am dano. Gallasem feddwl fod undeb yn dechreu teyrnasu yn ein plith i gario ein penderfyniadau allan heb i neb dynu'n ol; os bydd tf wedi ymranu yn ei erbyn ei bun, ni ddichon hwnw sefyll. Yn unol a phob rheswm, paham y mae yn rhaid i'r dos- barth hwn gymeryd peth fel yma yn wahanol i bob man arall ? Mae'r fasnach yn fywiog, prisoedd y glo yn uchel, ac y mae argoelion mai ar lan y bydd am beth amser. Nid oes amheuaeth na fuasem yn cael yr hyn sydd yn rhesymol, fel y maent wedi ei gael mewn manau ereill, pe buasai undeb mewn gwirionedd yn bodoli rhyngom. UNDEBWR.
CYFARFOD CYNGRAIR GLOWYR Y…
CYFARFOD CYNGRAIR GLOWYR Y DEHEUDIR. Cynaliwyd cyfarfod o'r cyagrair hwn ddydd Mercher diweddaf yn y Bute Inn, dan lywyddiaeth Mr. D. Morgan, goruch- wyliwr glowyr dosbarth Aberdar a Merthyr. LlaiPwyd yr is-gadair gan Mr. Thos..$llis. Yr oedd Mr. Thomas Richards.^ vsgrifr enydd, yn bresenol, ac hefyd Mri. Alfred Onions, Alfred Barret, Morgan Weeks, Thos. Thomas, Joseph Phillips, John Davies, Benjamin Ashton, Evan Jones, William Evans, Thos. Davies, John Rich- ards, a Lewis Miles. Y pwnc cyntaf fu dan sylw oedd y newyddiadur newydd at wasanaeth y glowyr, pryd yr hysbysodd Mr. Isaac Evans (trwy ganiatad y pwyllgor) fod yr adroddiadau o'r gwabanol lofeydd yn gefnogol iawn. Penderfynwyd fod ceis- iadau am argraffu y cyfryw i'w gofyn. Yna rhoddodd y gynrychiolaeth a ap- wyntiwyd i gyfarfod a Mr. B. Pickard, A.S., adroddiad o'r hyn oedd wedi cael ei wneud gyda golwg ar uno dosbarth Deheu- dir Cymru gyda chyngrair Prydain Fawr. Wedi peth siarad ar y pwnc, penderfynwyd ar fod i gynrychiolaeth o'r cyngor gael ei ethol i gyfarfod a phwyllgor llywodraethol cyngrair Prydain Fawr gyda golwg ar gyf- newid y rheolau fel ag i ganiatau glowyr Deheudir Cymru i gadw y Sliding Scale yn mlaen, ac os na chaniateid hyn, fod i bob ymgais i ymuno derfynu. Cymerodd dadl lied faith le yn nghylch y priodoldeb o wrthwynebu ymgais i sef- ydlu cyfundrefn o double shift. Yr oedd y cyngor yn unfrydol y dylai y mudiad, os deuai yr wyth awr i fodolaeth, gael ei wrth- wynebu. Pasiwyd y penderfyniad canlynol ar y pwnc,-Fod i gynrychiolaeth gael ei ethol o'r cyngor, wyth mewn rhif, i gyfar- fod a'r meistri er ceisio dwyn oddiamgylch gytundeb boddhaol ar y pwnc."
AT WEITHWYR GLOFEYDD CWM ABEBDAR…
AT WEITHWYR GLOFEYDD CWM ABEBDAR A PHOB GWEITHWYR GWIRIONEDDOL EREILL. GYFEILLION,—Bydded hysbys genych y cynelir Cyfarfod Mawr (Mass Meeting) o holl weithwyr gwirioneddol Cwm Aberdar o bob gradd, nos Fercher nesaf, yn March- nad-dy Aberdar, iddechreu am haner awr wedi saith, er datgan ein teimlad ar y streic ofidus sydd rhwng gweithwyr Rheil- ffyrdd y Taff, Rhymni, a'r Barry. Bydd naill ai Mr. Harford neu Mr. F. W. Evans yn bresenol yn anerch y cyfar- fod.-—D. MORGAN, Goruchwyliwr y Glowyr. O.Y. Tebyg y bydd cyfarfod hefyd yn Merthyr nos Iau, pryd yr anerchir y cyfarfod gan yr un boneddigion.-D.M.
EFFEITHIAU Y STREIC.
EFFEITHIAU Y STREIC. Y mae miloedd lawer o lowyr y ddwy Rhondda a lleoedd ereill yn segur er's rhai dyddiau, a chymaint ag sydd a modd ganddynt i fyned, wedi myned i newid awyr am bymthegnos. Nid yn unig y mae y glofeydd yn segur, ond y mae amryw o'r cwmniau wedi codi y ceffylau o'r ystablau tanddaearol, er eu gollwng i bori am y dyddiau segur. Bydd y golled arianol i'r dosbarth a effeithir gan y Strike yn ugeiniau o filoedd o bianau yn wythnosol. Dechreuir dyoddef prinder nwyddau ac angenrheidiau yn rhai conglau o'r Rhon- dda, gan y gorfodir masnachwyr i fyned naill ai i Bontypridd, Treherbert, neu Penygraig, am bob peth a werthir, gan mai dyna y lleoedd agosaf i unrhyw reil- ffyrdd sydd yn rhedeg. Y mae Ilythyrau, newyddiaduron, &c., yn cael eu trosglwyddo ¡ mewn cerbydau, fel y gwnelid haner can' mlynedd yn ol, tra y mae pob peth o'r fath, oriau ar ol eu hamser arferol yn cyr- haedd i bob man.
^ DAMWAIN ANGEUOL YN Y MARDY.
DAMWAIN ANGEUOL YN Y MARDY. Nos Sadwrn diweddaf, am 11 o'r gloch, dygwyddodd damwain angeuol i ddyn o'r enw Thomas Thomas, yn Mhwll No. 2, Mardy, trwy i gwymp trwm syrthio arno, a'i ladd yn uniongyrchol. Brodor oedd o Maentwrog, Gogledd Cymru; dyn sengl, ac oddeutu 21 oed.
IDAMWAIN ANGEUOL AR Y REIL-FFORDD…
DAMWAIN ANGEUOL AR Y REIL- FFORDD GER CASTELLNEDD. Nos Sadwrn diweddaf, cymerodd dam- wain angeuol ofidus le yn agos i Gastell- nedd. Y mae yn ymddangos fod swyddog perthynol i'r linell, o'r enw James Harris, yn dychwelyd adref i Briton Ferry nos Sadwrn, ac yn ei gwmni ei wyr, naw oed; a phan rhwng Mynachlog Nedd a Briton Ferry, rhedwyd drosto, a lladdwyd ef yn y man gan gerbydres eiddo. Diangodd y bachgenyn, yr hwn a ddywedai ei fod ef wedi ceisio gan ei dadcu i gymeryd gofal o'r gerbydres. Adroddodd yr helynt wrth ei famgu. Cafwyd y corff wedi ei ddryllio yn fawr.
-..-------+--------LLYTHYR…
-+- LLYTHYR CARWR HUNANLEIDDIAD. Y dydd o'r blaen cynaliwyd trengholiad yn milwrdy Colchester, ar gorff milwr o'r enw Charles Williams, yr hwn a chwyth- odd allan ei ymenydd o herwydd ei fod wedi cweryla a'i gariadferch y noson flaen- orol. Yn y trengholiad darllenwyd y llythyr canlynol: — Fy anwylaf Alice fechan. Yr ydwyf wedi gwneuthur yr hyn y credwn oedd oreu. Gobeithio na fydd i chwi hiraethu am danaf yn awr wedi i mi fyned. Ceisiwch fy anghofio mor fuan ag y gellwch; a pheidiwch a gwneud dim a milwr arall, canys ni chewch hwynt oil fel yr ydwyf fi wedi ymddwyn tuag atoch. Yr ydwyf wedi gadael rhywbeth i chwi, fy anwylyd, i gofio am danaf. Yr ydwyf wedi gadael i chwi fy oriawr arian a'm cadwen. Dywedwch wrth eich mam nad ftllaf fod yn ddigon diolchgar iddi am ei thynerwch tuag ataf. Dywedwch wrth eich holl gyf- eillion fy mod wedi anfon fy ffarwel atynt. Yn awr, y mae yn rhaid i mi ddweyd ffarwel am byth, fy anwylyd, a Duw a'ch bendithio. Oddiwrth eich anwyl Charlie."
MARWOLAETH DISYMWTH.
MARWOLAETH DISYMWTH. YR ydym yn cael fod un o yrwyr henaf llinell y Taf, o'r enw David Thomas, ac yn byw yn Cathays, Caer- dydd, wedi marw yn dra disymwth prydnawn dydd Sul diweddaf. Yr oedd wedi bod yn bresenol yn ngbyfarfod ei gydweithwyr sydd ar streic prydnawn dydd Sadwrn, ac yn eu cyngori i fod yn wrol a diysgog, fod llwyddiant yn sicr. Dydd Sul, modd bynag, yr oedd yn wael iawn ei iechyd, a gwaethygodd yn barhaus nes iddo anadlu ei olaf am naw o'r gloch nos Sul. Yr oedd wedi bod yn ngwasanaetb y cwmni am 46 o flynyddoedd.
Advertising
BARA! YMENYN! YMENYN GOREU CAERFYRDDIN! 1DARA JJROWN 0 WENITH pUR. GAN MRS. PHILLIPS, GROCER, COMMERCIAL PLACE, ABERDARE Cerddoriaeth GAN D. W. LEWIS, F.T.S.C. Pedalr o Anthemaa hwylns heb fod yn rhy anhawdd: DEU WC El ATAF FI,' Solffa, pris ceinlog. • PROFWCH A UWELWOH,' Solffa, pris lio.; Hen Nodiant, 4c. 'HOSANNA YN Y GORUCHAF," Solffa, Ie. 'DYSJ I MI DY DDEDDFAU,' blant a chorau bychaln, pris lo. pEDAIR 0 HEN ALAWON CYMREIG,- — Bryn Hyfryd, Heolwen y Crlatlon, Bryulaa I Canaan, a'r Ffigysbren, y pedwar ar yr on copl, wedi en cynghaneddo at wasanaeth Cymanfa- oedd Canu, &c. DWY YMDEITHGAN (Mareh)-'Blodao'r ..A.. Oes' ac 'I'r Gtoleani,' cyfaddas i Ysgolioa Sabbothol, priB oeinlog yr un. Yi oil i'w cael gan D. W. LEWIS, Stationer, Brynaman, R.S.O. j MAE PAWB YN CANMOL QUININE I BITTERS GWILYM EVANS. Meddyginiaeth Lysieuol Bur ac Effeitbiol. i QUININE BITTEBS GWILYM EVANS. Mae y Quinine Bitters yn feddyginiaoth hollol lysieuol, ac yn cynwys chwerw lysiau a melus-lysiau wedi eu haddas gymysgu i ffurfio y feddyginiaeth oreu a ddyfeisiwyd erioed er cryfhau y cyfansoddiad, puro y gwaed, a symud ymaith effeithiau gwahanol glefydau. Cynwysa rinweddau iachaol Quinine, SaraspariHa, Saffrwn, Lafant, Dant y Llew, Crwynllya (Gantian), Cynghaw (Burdock), &c.; mewn gair, y mae braidd pob llysieuyit a gweiddyn meddyginiaethol yn y meddyglyn rhyfedd hwn, ac y maent wedi cael eu parotoi a'u cyfartalu i wneud cymysgedd celfyddydgar o'r fath mwyaf hapus a llwyddianus i sicrhau cydweithred- iad yr elfenau meddyginiaethol a gynwysir yn y llysiau byn, ac i gyrhaedd yr amcan oedd mewn golwg with barotoi y feddygin. iaeth hon. Yn yr oes hon, trwy ddargan- fyddiadau gwyddonol ac ymchwiliadau meddygol, mae amryw ddarpariaethau llys- ieuol at buro y gwaed a symud anhwylderau yn cael cu cynyg i'r cyhoedd, ond tystiol- aeth miloedd yn y wlad hon a gwledydd I ereill yw, nad oes yr un meddyglyn adgryf- haol i'w gystadlu a QUININE BITTERS GWILYM EVANS! Tystiolaeth Bwysig—Meddygin- iaeth Anffaeledig. Dywed Mrs. Capt. Davies, Steam Packet, Llanelli Mr Gwilym Evans, Anwyl Syr,—Yr wyf yn • I teimlo dan rwymau, ac mae yn bleser genyf eich hysbysu < o'r lies dirfawr a dderbyniais ° trwy gymeryd eich Quinine nrrmmi? £ = Bitters rhagorol. Yrwyfyn q 57 mlwydd oed, a bum am 7 mlynedd yn dyoddef llawer S gan Bronchitis. Yn ystod y nxKrjT v1wr tymhor bwn bum dan ofal GWILYM amryw feddygon o dro i dro, a cbymerais lawer matU o ieddyginiaeth, ond yr oil yn aneffeithiol i ymlid yr afiech yd ymaith. Yn y diwedd yr oeddwn wedi myned mor wael fel y bum am bedwar mis yn teimlo caethder mawr, ac ar adegau yr oeddwn yn mron mogi. Bum am wyth- z nosau yn methu bwyta tam- aid o fara, ac yn methu cysgu ond ar fy eistedd. Yi OTTTNTNT? £ oedd yn boenus i rai yn yr S n8"y«ed j* BITTERS oc anadlu. Rhai pryiiau S DpaUwn 'ywbSm' GWILYM mynyd. Pan yn y cyflwr hwn, cymhellwyd fi i roddi EVANS prawf ar eich Quinine Bitters chwi; ond gan fod cynifer o feddygOD a meddyginiaethau ereill wedi methu fy ngwella, > nid oedd genyf fawr ffydd ynddo pan yn dechreu. Ond teimlwn yn fuan ei fod yn gwneud Has i mi. Pender- fynais ddal ato, ac yn mhen o ychydig amser yr oeddwn yn 3 cael cj sgu yn gysurus, fy QTTINTNE co archwaeth at fwyd yn gwella, -j a minau yn cael bias arno j BITTERS ac erbyn hyn yr wyf yn teimlo yn holliach, a chystal riwrtr viwr 5 ag erioed. Credaf mai yn fy G medd y buaswn cyn hyn oni- T?VANS g bae am Quinine Bitters ui Gwilym Evans. Hyderaf y 2 bydd y dystiolaeth hon yn galondid i ereill i roddi prawf arno pan yn dyoddef gan yr afiechyd poenus uchod. Yr eiddoch yn ffyddlawn, Sarah Davies, Ebrill 18fed, 1889. QUININE BITTERS GWILY41 EVANS. Meddyginiaeth Bur, Meddyginiaetb Lysieuol, Meddyginiaeth Effeithiol, Meddyginiaeth Lwyddianus, Meddyginiaeth Oreu yr Oes. Mae pawb yn ei channcol, Nid yw byth yn siomi, Rhydd nerth i'r gwan, Adfenad iechyd i'r claf, A mwynhad bywyd i bawb MEDDYGINIAETH OREU YR OES. QUININE BITTERS GWILYM EVANS Pris poieli, 28 9c.; eto, dwbl faint, 48 6c I'w gael yn mhob man. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w ga? 1, danfonir ef am y pris- iau uchod yn rhad a dyogel drwy y post i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y perc&enogion, | QUININE BITTERS MANUFACTURING CO. (LIMITED), LLANELLY, SOUTH WALES. Gellir cael Qninine Bitters GwilymEvans yn America oddiwrth y prif oruchwyliwr,—R. D. Williams, Medical Hall, Plymouth, Pa LargestStock IN WALES. 22CT. Gold WEDDING RINGS JgCT. GOLD KEEPERS I E NGLISH pATENT LEVER t WATCHES 1 JgRAZILIAN CRYSTAL SPECTACLES 1 WILLIAMS, WATCHMAKER & JEWELLER, 29,CastleSt., SWANSEA. Gymry bofft de'wch at y Cymro, Os am heirdd fodrwyau aur; Oriaduron ac awrleisiau, Gemau, a chadwynau claer. Yspectol gelfydd, hin-fynegydd, Gwres-fesurydd, cwmpawd mor; Geir gan WILLIAMS, Heol-y-Castell, Trowch i mewn i wel'd ei 'stor. WE have not been obliged to raise our prices of' FLOUR Owing to the advance, as we have still 3,000 Sacks at Old Price 2S. AND 2s- 2D- PER SCORE. We give the best value possible in SUGARS, CRYSTALS, 2D. AND Q1D. PER LB. 4 LUMP, 21D- PEJl LB. ALL TEAS REDUCED-, 2D. PER LB. Try our unequalled CEYLON and CHINA BLEND, 2/- per lb. Prime Breakfast Bacon, 5D. PER LB. FINE, 4d. per lb. FINEST HAM, 6d, per lb. This is a Speciality. Matterson's Waterford Bacon, 8D. PER LB. Finest Cheese, 5d. & 6d. PER LB. STEAM MADE BREAD (Clean Manufacture), 4 ID. & 5D. PER 4LB. LOAF. q Delivered Daily to any part of the town. W. Richards, 167 and 168, HIGH STREET. 83, HIGH STREET. 1, PRINCE OF WALES ROAD. 22, BRIDGE STREET. 2, FABIAN STREET, ST. THOMAS. 104, COURTNEY STREET, PENTRE. NEATH ROAD, LANDORE. WOODFIELD STREET, MORRISTON. Anthem GyacUeidfaol,— 'T LAWENHEWCH YN YR ARGLWYDD (' Rejoice in the Lord,1) Cyfansoddedlg i Gymanfa Gerddorol Rhanbarth LTchaf Doffryn Aberd&r, 1890. Oyfieithwyd y gelriaa i'r Gymraeg gan y Parch D. Onllwyn Brace, pris ltc. Pob archebloa I'w hanfon i'r awdwr, M. D. LLOYD, 44, Wind Street, Aberdar. TOWN HALL, CASTELLNEDD. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod prydnawn dydd Sadwrn, Awst 30ain, 1890. Cedelrydd,—A. Rasaell Thomas Yaw. Arweinydd.-John Arnold, Ysw., Maer Castellnedd. Beirniad,—D. W Lewis, Ysw., F.T.S.C., Brynaman. I'r c6r, heb fod dan 40 mewn nifei, a gano yn oreo 4 Molwch yr Arglwydd,' Dr. Parry, gwobr, B6 i'r cor, a 10s. 6e. i'r arweinydd buddagol. I'r parti gwrywod, ddim o dan 12 mewn nifer, a gano yn oren 1 Sailors' Chorus,' Dr. Parry, gwobr £1 la. Programs i'w cael am Ie. yr nn, trwy y post, l-fe. gan yr Ysgrifenydd, WILLIAM EVANS, 20, Bosh Row, Meliucrythan, near Neath. Yr eisteddfod i ddechreo am ddau o'r gloch y prydnawn.
Advertising
D. THOMAS Hafod, Swansea. <T.SNTS' AND LADIES' SILVER WATCHES, 18/ 21/ 25/ £ 5 3LISH LEVEES, from 52/- to 105/ Guaranteed and kept in order for three yea s, or exchanged (unless damaged) if not satisfactory.
. YR WYTHNOS
YR WYTHNOS Y MAE yn cael ei hysbysu fod 150 o weit' wyr gwaitb copr y Morfa, Aber- tawe, y rhai nad ydynt yn aelodau o uiideb y gweithwyr, yn bwriadu, os carnateir iddynt gan y meistri, i ddych- weJyd at eu gwaith ar yr hen delerau. NID yw streic gweithwyr y reilffyrdd yn e feithio ond ychydig ar weithwyr Dowlais. Y mae y gweithiau yno yn myned rhagddynt fel arfer, trwy fod llawer o lo y cwmni yn myned i Birken- head, tra y mae llawer yn myned yn awr i Casnewydd ar byd llinell Aber- honddu a Merthyr. Y MAE streic yn debyg o gymeryd lie gan iowyr Durham, a hyny mewn can- lyniz-td i wrthodiad y meistri o gytuno i gyfundrefn o wyth awr i un dosbarth, a saith i ddosbarth arall o'r gweithwyr. Gwnawd canlyniad y ballot yn hysbys nos Sadwrn—dros gael streic, 30,486, yn erbyn 8,728. DYDD Sadwrn diweddaf, yr oedd eynnlliad lluosog wedi dyfod yn nghyd i gladdfa Wednesbury pr bod yn dyst- ion o angladd un Mrs. Bolton, priod masnachwr adnabyddus, yr hon oedd wedi marw trwy i'w gwaed gael ei wen- wynu gan frathiad nodwydd rydlyd, yr bon a aeth i'w llaw ddeau pan yn glan- hau bord. DYDD Mercher diweddaf, yn ngweith- iau dur Consett, cyfarfyddodd dyn ieu- anc, o'r enw Joseph Lancaster, a'i ddiwedd, trwy gael ei losgi trwy ffrsvydriad damweiniol nigot dur. Caf- oJd dau weithiwr arall eu niweidio yn fawr. YN Castellnedd y dydd o'r blaen, bu farw menyw o'r enw Hannah Main- waring, mewn canlyniad i niweidiau a ddb) byniodd trwy ymladd a menyw o'r enw Jeannette Bray. Yr oedd y ddwy dan ddylanwad diod pan yn ymladd a'u gilydd. UN diwrnod yr wytbnos ddiweddaf, darfu i fenyw o'r enw Lawrence, gwrMg i weithiwr yn byw yn New- castle, Penybont, syrthio yn farw pan yn cweryla a menyw arall. Y MAE yr adroddiadau sydd yn cyr- haedd y wlad hon o Madrid yn ein hys- bysu fod y Cholera yn gwneud galanas- dra dychrynllyd yn nhalaethau Toledo a Valencia, a bod yr awdurdodau yn ceisio cadw y ffeithiau gwirioneddol oddiwrth y cyhoedd. Y MAE yn cael ei hysbysu fod men- ywod yn awr yn ymgymeryd a bod yn arddwyr, a bod rhai o honynt yn llwyddianus neillduol yn y gorchwyl. Y mae hysbysiadau hefyd i'w gweled riev/n newvddiaduron yn gofyn am nrwydd menywod. i
AT GYFRINFA COEDWYB CWM ABEBDAR.
AT GYFRINFA COEDWYB CWM ABEBDAR. Frodyr,-Bydded hysbys i chwi oil y cynelir ein cyfarfod misol dydd Llun nesaf, Awst 18fed, yn ystafell y gyfrinfa, i ddechreu am naw o'r gloch y boreu. Cof- ied pawb fod yno yn brydlon. Hefyd, y mae dymuniad i'r ymddiriedolwyr fod yn bresenol y tro hwn, gan y bwriedir ym- drafod a chyllio y gyfrinfa. YSG.
i-(LLANELLI.
LLANELLI. Cynaliodd glowyr y cylch uchod eu cyf- arfod' y Llun cyntaf o Awst, yn y Ship Inn, Llanelli. Ychydig iawn oedd yn bresenol, dichon mae yr atdyniad i'r gwa- hanol ddrelgampau a gynelir ar y dyddiad hwn sydd i gyfrif am hyny. Daeth y pen- derfyniadau canlynol o flaen y cyfarfod:- 1. Fod dymuniad ar i bwyllgorau y glo- feydd hyny nad yw y Show Cards cyffred- inol wedi bod ynddynt, drefnu ar i hyny gael ei wneud mor fuan ag y byddo modd. '2. Fod dymuniad ar i ddosbarth Nedd, Tawe, a Llanelli, fabwysiadu cynllun i ymddwyn at yr undebwyr a'r anundebwyr sydd ar ol mewn taliadau ar ddydd y Show Cards-yr un rheol i'w harfer yn mhob glofa trwy y dosbarth. 3. Cyhûddiadyn erbyn yr ysgrifenydd- -Yr ydym ni, pwyllgorau unol Pwllcae a Bryngwyn yn dymuno galw sylw y cyfar- fod at y priodoldeb o ddiswyddo yr ysgrif- enydd am ei esgeulusdod yh nghylch hys- bysu y cyfarfodydd a gynaliwyd Gorph. 1, 19, a 26. Wedi cael eglurhad ganddo, yr hyn a wnaeth trwy ddyddiad y llythyr- nod ar yr amlen, &c., syrthiodd y pender- fyniad i'r llawr. 4. Fod y cyfarfod hwn yn gweled yn briodol dori cyfarfod y prydnawn heibio er mwyn rhoddi mantais i'r glowyr i weled y gystadleuaeth naddu a'r sefyll coed yn y Stradey Park, yn Sports blynyddol y { Llanelly Town Band. Llwynhendy. EVAN R. JONES.
GLOFA Y CAWDOR, DOSBARTH Y…
GLOFA Y CAWDOR, DOSBARTH Y GLO CAREG. Dymunwyf wneud ychydig sylwadau ar y Strike sydd yn myned yn mlaen yn y lofa uchod yn bresenol. Amser maith yn ol, meddylid nad oedd y dafol yn pwyso yn gywir. Gellir dweyd am y dafol hon ei bod wedi gwasanaethu ei chenhedlaeth -yn enwedig y meistr-a chredwn y dylai bellach gael adnabyddiaeth a pherchenog siop yr hen haiarn. Bu Inspectors y Weights and Measures yma, a chondemn- iwyd hi. Buwyd yn siarad a'r Manager ar y mater, a gwnawd ihyw fath o gytun- deb i weithio ar yr anaod y byddai i dafol newydd gael ei gosod i fyny, ond er fod y glowyr allan er's tair wythnos, nid oes argoel am dani. Credwn, er hyny, pe bu- asai pawb wedi cadw draw, y byddai pob- peth wedi ei setlo cyn hyn. Ond yn lie hyny, y mae yn y lofa hon rhyw haner gaffers a chynffongwn, sydd yn gweithio er dechreu y Strike, y rhai nad ydynt yn gofalu am neb arall ond iddynt hwy gael gweithio-dynion y bydd i ni yn y DARIAN nesaf eu henwi ar g'oedd gwlad. Glanaman. 0 MURMUR AMAN.
PWYLLGOR GWEITHIOL DOWLAIS.
PWYLLGOR GWEITHIOL DOWLAIS. Bydd y pwyllgor yn cyfarfod nos Sadwrn nesaf yn y Red Cow. I ddechreu am 5.30 o'r gloch. Gobeithio y bydd i bawb cyn- rychiolwyr ymdrechu bod yn bresenol y tro hwn, neu byddwn dan orfodaeth i'ch ceryddu am eich hesgeulusdod.—YSG.
. ELIM, GRAIG, CEFN PAPC.
ELIM, GRAIG, CEFN PAPC. Gorph. y 26ain, 1890, cynaliwyd Gwyl De yn y capel uchod, pryd y darfu i nifer luosog. bersonau fwynhau eu hunain o'r danteithioa paratodedigf Yn yr hwyr cynaliwyd Eistedd- fod fechan, pryd y cymerwyd y gadair gan P. George, C.M., Birchgrove; Arweinydd abeirn. iad yr Amrywiaeth, Mr. Lewis Hopkin (L. ap Ionawr), Cathelid; beirniad y Canu, Mr. T. W. Jones (A.C.), Pontardulais; Cyfeilydd, Mr, John Morgad, Buildings. Enillwyd y gwahan- ol wobrwyon gan y Mri. David Grove, Build- ings Griffith Lewis, Graig; Rees Walters, Graig; D. E. Evans; David Lewis (Dewi Ionawr); Wm. Morgan, Treforris; R. S. Hu- ghes; P. Jones, Fardre; Miss C. Rees, a A. Jones. Prif ddarn corawl Clychau Hedd' (Odlau'r Efengyl), rhanwyd y wobr rhwng Parti Salem, Llangyfelach, a Pharti Elim, Graig, Cefn Pare. J. T. JONES.