Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
-.1 -—■ Uarttoomartij.
—■ Uarttoomartij. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl GyfansoddiadauBarddonoI yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— Taos. WILLIAMS (Brynfab), Hendre Farm, Trefforest, Pontypridd.
TANCHWA Y MORFA.
TANCHWA Y MORFA. Uwch ardal esmwyth y Taibach Ymdorai'r seirian wawr, A'r glowyr dewr gyfodai'n iach O'u nosawl hun i lawr; Yn gweini'n serchog 'nol eu rhawd Oedd gwraig, neu chwaer, neu fam, Ar briod hoff, ar fab, neu frawd, Na cheisient iddynt gam. Sirioldeb ddawnsiai ar bob grudd, Hawddgarwch fel y rhos Yn agor welwyd doriad dydd Ar wedd eu natur dl6s; Y tad gusanai'r baban bach, Ac yntau wenai'n fwyn, A'r plant o'i gylch wnaent ganu'n iach, Tra'u cartre'n llawn o swyn. Wrth gefnu ar yr aelwyd glyd, Meddylient eto gwrdd Ar derfyn dydd, tra'r teulu'n nghyd Fel cynt o gylch y bwrdd; Ni thybient pan ddyferi wnaeth Dros eu gwefusau cun Y gair "ffarwel," fod pen y daith A hwythau bron yn un. Ymadael wnaeth y dewrion m&d Y boreu'n lion eu drych, A myn'd gan adael pob mwynhad, I fyw ar grystyn sych; At enau'r pwll yn wrol aeth Y dynion aiddgar hyn, Heb wybod am yr ingol saeth Ymguddiai yn y glyn. i :¡.: Trwy'r lofa'n llu ar wasgar maent yn awr, Dan bwys o ludded yn ymdrechu'n ddiwyd, Yn haner noeth, a'u chwys yn mwydo'r llawr, Wrth geisio am adnoddau rheidiau bywyd; Ust! dyna dwrf ofnadwy'n tori draw t Mal twrf taranau'n rhwygo yr holl weithfa; Gan ysgwyd fel daeargryn ar bob llaw, Nes siglo i'w gwaelodion seiliau'r lofa! I Ow! mae y rhwygiad erfawr megys twrf Myrdd o gyflegrauln arllwys ar eu gilydd, A'r nwy dinystriol yn ysgubo ffwrdd 0 flaen ei nwydol wane pob peth gyferfydd Ymrolia'r llosgnwy yn dafodau hir 0 dan, gan estyn ar y dde a'r aswy; A llosgi'n oddaeth lwch y lofa'n glir, [wy. Tra'r nenfwd syrthia'n ddarnau n y rhyferth- Gan swn dirgrynol yr ysgydwad erch, Mae'r glowyr trwy'r anelwig le'n ymwylltu; A'r rhai sy'n fyw o fewn y lofa dderch, Ar drothwy'r adwyth du, sydd yn llewygu; I'r elfen eirias, Ow I aberthu wnawd Ugeiniau o anwyliaid tyner-galon! [cnawd, En hesgyrn chwalwyd, llosgi wnaeth eu Yn gamedd hyrddiwyd hwy i fro'r marwolion. Wrtb geisio dianc syrthiai'r glewion wyr Yn dranc i angeu'r tagnwy ffals gwenwynig, A than gwympiadlau enfawr, er mawr gur, Fe'u claddwyd yno'n bentwr maluriedig; Ow I ofnadwy awr t a phwy anghofia'r dydd Pan yrwyd y trueiniaid ar amrantiad I wydd eu Barnwr, o'u hargeliaeth gudd, Tan bang marwolaeth dygn, ac ingol deimlad? Ar faes anhygytch y trychineb du [chwalu! A'u cyrff yn mhalf y danchwa'n cael eu Mae saith a phwedwar ugain arwr cu, 0 olwg byd, ag angeu yn ymdrechu! Heb gar, heb gyfaill mwyn i dderbyn pwys Eu pen wrth dynu yr anadliad olaf, Na neb i wrando'u blin och'neidiau dwys Mewn amgell dywell yn yr awr ddiweddaf. Y coedwaith cryf ddinystriwyd lawr yn sarn, Tra'r meirw'n gymhlith rhwng y fflamiau gwynias; A gwadnau'r lofa'n gollwng darn r'ol darn, A'r llwybrau erwyll lanwyd a galanas; Dych'mygaf glywed swn dolefus gri! Y truein wyr yn gwaeddi am ddiaiagfa! I Heb obaith cael ymwared o un tu, Ond marw i gynddeiriogrwydd bar y danchwa. Fel trydan treiddiai'r newydd ar bob clust Nes llanw'r dyffryn hardd a mor o alar! Cyfodai gwaedd ar waedd, a phawb yn drist A redent tua'r fan yn lluoedd anwar; Gan ru ofnadwy ddifrod yno mae Yr holl breswylwyr wedi'u syfrdanu, A llanwyd i'r ymylon gwpan gwae, Ar ben y globwll dychryn sy'n teyrnasu; Y mamau calonrwygol welir 'nawr Yn gwasgu eu babanod at eu dwyfron, A'u hysgrechiadau'n gwelwi'r dyrfa fawr I A bloedd ar floedd yn hollti yr uchelion; Ar fin gwallgofi maent, ac ing a braw Sydd yn gorlenwi aelfryd eu mynwesau, A llefau'r plant, a'u hochain yn ddidaw A glywir yn ymholi am eu tadau. O Dduw tirionaf, lor ein Ceidwad wyd, A chadarn dwr i'th eiddo'n nydd cyfyngder; Ac atat ti, 0 1 Dad, ein gweddi gwyd, Ond ateb di'n ymbiliau yn dy amser; Ar ran y gweddwon a'r amddifaid oil, Bydd di yn gymhorth hawdd yn mhob symud- Sych ymaith ddagrau galar yn ddigoll [iad, O'th gysegr fry a thywel gwyn dy gariad. Pontrhydyfen. GWILYJI GLAN AFAN.
YSBYTY CYFFREDINOL MERTHYR.
YSBYTY CYFFREDINOL MERTHYR. Dyma loches-deml iechyd Na wyra ben i aur byd; Dyngarwch o dan goron, Swn y nef a geir yn hon. Mae gan drefwyr Merthyr mwy Le odiaeth canmoladwy I ado'r clwy, a daw'r claf Oddiyno'n ddianaf. Un a'i glun fu dan y glo A phoen a ffon aiff yno, Ond buan y daw bywyd I roddi ei liw ar wedd lwyd Y glew a'r bywiog lowr, A o'r lie yn arall wr. Pwy ddwed werth hon i Ferthyr, O! na foed ei hawr yn fyr. The Academy, Pontypridd. JOHN ADAMS.
GWLITHYN.
GWLITHYN. Arddunol, gwylaidd, fychan wlithyn cu, Darfelydd dwyfol sy'n dy luniad di; Mor syml yw dy wedd, mor bur ac iach, Mae byd o feddwl yn dy fynwes fach Yn ddistaw iawn disgyni yn y nos O'r nefoedd fry i fynwes las y rhos; Ar doriad gwawr fel nefol berl dysglaeri, Nes trethi talent byd i dy addoli. Ai bach ddyferyn ydwyt, wlithyn syw, Ddisgyna oddiar Ddwyfol fys fy Nuw Yn rhinwedd pur, yn werthfawr faeth i gyd, Er bywiol adgyfnerthu'r llysiau drud; Santeiddiaf win neu falm i'r egin gwan, Yn neifiol sychder poethwynt ddaw i'w rhan Ireidd-dra mwyn, arddunol lesni hyfryd Ar bob llysieuyn,—defnyn wyt o fywyd. Pentre Ystrad, RICHARD ADAMS (Garnfab.
- Y GENINEN,
Y GENINEN, Delw anfarwoldeb yw deilen-werdd Ein hurddawl geninen: Ein cenedi rhag pob cynen Yn bur to, fel ei barf wen. DAUíWY,
Advertising
CWYNION Y CLAF. Pethau gwerth eu darllen. Miloedd yn cael eu 0- hiachau. Pa beth yw Asthma ? Anadliad byr, brysiog, a llafurus. A oes rhagor nag un math o Asthma? Oes, dan: un yn barhaol, a'r llall yn dyfod yn mlaen ar adegau. Gelwir y cyntaf yn continual, a'r olaf yn periodical. Pa beth sydd yn achosi Asthma ? Culhad, crebychiad, a dirwasgiad y pibau meinion sydd yn arwain o'r corn gwynt i'r ysgyfaint Pa feddyginiaeth sydd wedi rhoddi esmwythad buan i aneirif o bersonau a ddyoddefent oddiwrth Asthma 1 Balsam Honey Tudor Williams MEDICAL HALL, ABERDAR. Pa beth yw Bronchitis 1 Math o dan neu fflamychlad yn ngbainc-bibau y gwynt y (Bronichal Tubes). A oes rhagor dag un cyflwr ar Brodchitss 1 Oes, y mae dau fath, sef yr Acute a'r Chronic. Y mae y cyntaf yn fwy enbyd a fflamychol na'r diweddaf, ac yn IIawer mwy agored i ymleau i gorff yr ysgyfaint., Pa rai ydynt arwyddion Acute Bronchitis 1 Twymyn, tyndra annyoddefol yn y frest, anadliad brysiog, pesychiad gwichlyd, a thafliad i fyny phlegm, yr hwn sydd yn y Stage gyntaf yn wyn a gwydn, ond yn olynol sydd yu melynn ac yn ymdewychu. Y mae y Pulse fynyebaf yn wan, y tafod yn atgas, ac yn gydfycedol a'r arwyddion uchod ceir poen pen, ymdeimlad o wendid a diffygiad, salwcb, a phryder mawr. Pa rai ydynt arwyddion Chronic Bronchitis ? Pesychiad parhaus, anadliad poenus a byr, llawer o phlegm, ac y mae yr arwyddion hyn drachefn yn cynyddu gyda thywydd oer a gwlyb. Pa feddyginiaeth sydd yn y farchnad feddygol ar hyn o bryd, a gyfrifir y meddyglyn D'wyaf digyffelyb at symud a gwella yr anhwylderau annifyr a phoenus uchod ? Balsam Honey Tudor Williams Y mae y feddyginiaeth bon yn myned ar ei hunion i eisteddle y fflamychiad, ac yn ei ddiffoddi can sicred ag y diffodda dwfr din. Pa beth sydd yn achosi y PAs (Hooping Cough) ? Achosir yr afiechyd poenus heintus hwn gan bresenoldeb rhyw wenwyn neillduol a drosglwyddir trwy'r awyr i ran neillduol o'r Nervous System, a elwir gan feddygon y Pneumongastric neu y Vagus Nerve. A ydyw y peswch hwn yn un angeuol ? Ydyw; cyfrifir ei fod yn profi yn farwol i gynifer a 15,000 o blant yn flynyddol yn Nghymru a Lloegr. Pa beth yw peswch ? Math o symudiad dirdynol (Convulsive Motion) yn cael ei achosi gan rhyw gyffroad (Irritation) yn nghroen femrwn y corn gwynt. Ar ba adegau y mae pobl yn fwyaf tueddol i ddyoddef oddiwrth beswch 1 Pan fo'r awyr yn Haith, yn oer, neu yn wlyb. Pa beth yw'r feddyginiaeth oreu at wella y pAs mewn plant, ac anwyd a pheswch yn mhob cyflwr arnynt ? Atebwn heb betruso mynyd, BALSAM OF HONEY TUDOR WILLIAMS. — Mae eu gwerth yn anmhrisiadwy. G CANMOLAETHAU Y CLEIFION—DA EIRIAU Y DYODDEFWYR. Anwyl Syr,—5Tr wyf yn cael fod eich meddyginiaeth ar gyfer peswch yn gwneud lies mawr i fy mhlant. Byddwch cystal ag aiifcn Parcel arall i mi mor fuan ag y byddo modd. Os gellwch, arfonwch i mi ar bob cyfrif gyda throad y Post. Yr eiddoch yn ddiolchgar, JOHN WEBSTER, leu., 16, Salford, Clitheroe. Ion. 28aic, 1889. Anwyl Syr,—A fyddwch mor garedig ag aufon i mi botelaid o'ch Balsam of Honey, am yr hyn yr amgauaf Stamps. Arferem ei gael yn Mheuygraig, Cwm Rhondda, am naw mlynedd. Nis gwn a ydwyf yn snfon y swm gofynol o arian, ond os nad wyf, anfonaf y gweddill wedi derbyn eich medd- yginiaeth digyffelyb. Gwel'haodd un o fy mhlant, yr hwn sydd erbyn hyn yn grotyn cryf. Yr wyf wedi treio y ddau fferyllydd sydd yn Normanton, ond nid yw ganddytt. A wnewch chwi adael i mi wybod a oes genych oruchwyliwr yn yr ardal hon, Yn dysgwyl yn bryderus, JOHN BERRY, 34, St. John's Terrace, Normanton. Mebefin 14eg, 1889. Mr. Williams, Syr,—Gwellhawyd plentyn bychan i mi yn holliach trwy gymeryd eich Balsam of Honey. Yr oedd yn pesychu yn enbyd, ac yr oedd ei anadliad a'r poen yn ei frest mor ddrwg fel nad oeddem yn dysgwyl iddo fyw. Yr wyf wastad yn cadw botelaid o hono yn y ty yn barod ar gyfer taro. Y mae y plant yn ei hoffi, ac yn ei gymeryd ya awchus. Yr eiddoch yn gywir, Mrs. M. EDWARDS, 19, Woodland Street, Mountain Ash. Mawrth 4ydd, 1889. Anwyl Syr,—Yr wyl wedi dyoddef oddi- wrth beswch poenus, yn nghyd a phoeriad gwaed, am yr wyth mlynedd diweddef, yn gyplysedig a bron gaeth, yr hyn oedd bren a'm lladd, a'r hyn a achosai nad allaswn gysgu na gorwedd yn fy ngwely yn y nos. Gadawyd Handbill yn fy nhy rhai misoedd yn ol, a meddyliais y buaswn yn treio Balsim of Honey Tudor Williams, ac anfon- ats ty mab am botelaid at y fferyllydd agosaf. Cefais esmwythad ar unwaith; prynais un arall, ac yr wyf yn diolch i Dduw fy mod yn awr wedi fy llwyr wella trwy eich Balsam of Honey rhyfedd. Gellwch gyhoeddi hyn yn mhob papyr drwy'r byd. Yr eiddoch yn gywir, MARGARET LEWIS, Jones' Row, Carmarthen Row, Medi 16eg, 1889. Abertawe. Anwyl Syr,-Cydnabyddaf fel un wedi dyoddef oddiwrth anhwylderau y frest, mai Balsam of Honey Tudor Williams ydyw y feddyginiaeth oren a dreiais erioed ar gyfer Bronchitis. Yn ol fy marn i, Did oes un feddyginiaeth yn gyfartal iddo. Gallaf yn onest ei gymeradwyo i bawb. Yr eiddoch, &c., MRS. LIGHT, 84, Bedford Street, Roath, Cardiff. CYNGHOR HEN GOLLIER 0 GWM- GARW. Methu cysgu, methu cerdded i'r gwaith gan ddiffyg acadl ac Asthma. Wedi cerdded yno, gorfod eistedd i lawr am gryn dipyn cyn rhoddi un cnoc. Gwelais hanes am Balsam of Honey Tudor Williams, penderfynais rhoddi treial iddo. Trwy ei gymeryd yr wyf yn llawer gwell, ac yr wyf yn awr yn medru cysgu a cherdded i'r gwaith. Yr wyf yn myn'd a photel fach o'r Balsam of Honey yn fy mhoc i'r gwaith fel y gallwyf ei gymeryd pan ddaw pylau o'r mogiant yn mlaen. Ar ol cymeryd dose fesimlwn fy mrest a'r pibau gwynt fel yr oeddynt pan oeddwn yn grwt. Mae hen golliere sydd yn debyg i mi, yn dyfod ar awr giniaw i'r taleen ataf i gael dracht o'r moddipn bach hynod hwn, ac y maent oil yn siarad yn uchel am dano, ac y maent yu awr yn fy ngalw Doctor Tudor Williams. Fy ghynghor i bawb ag ydynt yn dyoddef oddiwrth yr hen ddoluriau poenus hyn, y ar iddynt roddi treial nniongyrchol Balsam of Honey Tudor Williams. BALSAM OF HONEY MR. TUDOR WILLIAMS, ABERDAR. Balsam of Honev Tndor Williams Meddyginiaeth heb ei hail; Clodydd hwn sydd wedi cerdded I bob gwlad o dan yr haul Meddyginiaeth natur ydyw I liniaru Ing a loss Darganfyddlad anmhrisiadwy Oyffyr gwerthfawroca'r ces. Pethan gwerthfawr ni ch fynglr- Rhald i'r cyfryw cyn bo hlr 'Hedeg ar adenydd trydan Dros gyfOLnlau lie a air Clefion Prydain Fawr ac Ewrob, Cleifion yr Amerig w&r, Yrant gyda thil-archebion Am y Balsam o 'Bberdar. Nodi'r oil o'r rhai wellhawyd Gan y Balsam par, diall, Hawddach 1m' na gwneathnr hyny Fyddai d'wedyd rhif y dail; Tystiolaethau canmoliaethns Gan bersonau fuont dost A ddylifant I'w perchenog Bob diwrnod gyda'r Post. Rhai a flinid gan yr Asthma, A'r Bronchitis flwyddl maith, Gan r pesweh, diffyg anadl, Methu cysga, colli gwaith Amddifadu cysur bywyd Ydoedd dirdynladol boen, Ond drwy Balsam Tador Williams Adnewyddwyd i'w llawn hoen. l^ooaog wddf-ddolarian— ^vrygni, Quinsy, Croup, a'r P^s, Mae y Balsam anghymarol At y eyfryw'n foddion gras I bereidctio y llais dynol, Meddyginiaeth oreu'r byd, Prif areithwyr a'r prif ganwyr Bryna'r Balsam hwn i gyd. Meddyginiaeth fine, sinweddol, Hyfryd yw 1 dafod fant, Digyffelyb ei heffeithiao I lachan dolurian plant /Tra y llifa'r Dar a'r Cynon Ar eu gralan yn ein gwlad, Perchir enw Tudor Williams Am el wyrthtol Falsam rhad. D. ONLLWXN BRACE. I Ar werth mewn costrelaa, Is lie., 2s ge., a 4s. 6c., gan bob Chemist a Druggist. Gofynweh yn eglur am Tudor Williams's Patent Balsam of Honey. Y mae cryn arbediad wrth brynu y costrelau mwyaf. I'w gael yn mhob man. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ei am y prisiau uchod yn rhad a dvogel drwy y post i unrhyw gyfeiriad ym y Deyrnas Gyiunol, yn nniongyrchoi oddiwrth y PBRCHBlSroa, D. Tudor Williams, R.D.S.L., Medical Hall, AberdareJ ^/WILLIAMS* I (POlfTAKDAWE) W orm Lozenges. Am yn agos I ddeng mlynedd ar hngaln, y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon wedi profi yn llwyddiant perffaith. Y mae yr effaith a gA ar blant etddil a gwanaldd (h/d y nod pan wedi en rhoddi fyny yn anwelladwy)- megys gwyrthiol. Y mae y plentyn tenan, gwynebwelw a difywyd trwy gymeryd y Lozenges, yn cael gwared o'i blauan poenyd- iol ac yn dyfod yn gryf, lach, a bywiog, nes y mae yn ymffrost yn lie pryder ei warcheldwyr. Syr,—Yr wyf am beth amser wedi defn- yddlo eich Anthilmintic ceo Worm Lozenges yn fy nhenla, ac yn eu cael yn feddyginiaeth gyfiym ac effeithlol at Ascarides (Llyngyr man), ac y mae eu ffnrf gyflens yn eu oymer- adwyo yn fawr I blant.—W. HUTCHINSON, Fleer Howden. Ar wertn mewn blychen am glc, Is. lto, a 2s. 9c, gan bob Chemist, non am 13 neu 34 Stamps oddiwrth J. DAVIES, Chemist, 30, High Street, Swansea. Danfonir list o Destlmonials, &c., ar dder- bynlad cats am danynt. Os ydych yn dyoddef ODÐIWRTH DDOLUR Y PEN, ANHWYLDERAU Y GERIAWG, DIFFYG TREULIAD, RHWYMEDD, GEWYNWST, A DOLUR Y WYNEB, TREIWCH NI LLYSIEUOL KERNICK Y maent yn fychain, aa felly yn bawdd i'w oymeryd, ac nid yw yn angenrheidiol i aros yn y ty tra yn eu cymeryd. Y maent yn oryfhau V cyfansoddiad, ao y maent wedi eu treio gan filoedd, ao wedi eu datgan fel y Y FEDDYGINIAETH OREU YN Y BYD. Tyetiolaeth oddiwrth J. BALBIRNIE, Yaw., M.A., M.D., darlithiwr ar 'Physiology,' aw- dwr 'Traethawd ar y Turkish Batb,' &o-: "Yr wyf wedi archwiho y Peleni a adna- byddir wrth yr enw I Kernick's Vegetable Pills.' Yr wyf yn ardystio fod en defnyddyn hollol lysieuol. Yr wyf wedi proi fen heffaith, ac ystyriaf hwynt y Peleni ryddhaol goren ag yr ydwyf yn gwybod am danynt. (Arwyddwyd), JOHN BALBIRNIE, M.A., M.D." Y mae Peleni Kernick yn oryfhau a bywiocau yr holl gyfansoddiad, ac nid ydynt yn gofyn unrhyw reolau neillduol mewn perthynaB i ym- borth, ao y maent yn oael eu cydnabod fel y feddyginiaeth oren sydd wedi ei dargarifod. Ar wertb mewn blychan 71o, Is Ho a 2s 9o. WADE'S BLOOD & NERVE RESTORER. Y mae Adferydd Gwaed a Giau Wade Conwil Elvet, 15th Nov., 1888. Anwyl Syr,—Yr wyf wedi cyfarwydio canoedd swrer o gleifion i gymervd eich Blood & Nerve Re- atoer, hyny gydwr canlyniadau mwyaf dymunol. Ydwyf, &C.JOIIN DAVIES. yn cael ei gymeradwyo fel darpariaeth ddiogel a sicr er gweUhau anhwylderau gienol a chyhyrol, Iselder Ysbryd yn tarddu oddiar or-efrydiaeth, y prudd- glwvf, giboen f Neuralgia )), aolur pen, ayeniamiad y galon, Ilewygon mewn menywod ieuainc a chanol oed, yn cael eu dilyn a chwys oer a brwd gwridiad y wyneb, disborthiant, neu anhwyl. derau nychol, megys eiddo Bright a'r arenau. Gan fod y cyffyr yn cael ei sugno i mewn i'r gwaed, ac yn ei gyfoethogi, y mae yn gwellhau y Manwynion, neu Glefyd y Brenin, Chwyddiadau Chwar- ennol, Anmhuredd y Gwaed yn mhob rhyw, &c, Darperir yn unig ac ar werth gan J. WADE, Fferyllydd, Llanelli, sir Gaer- fyrddin, mewn poteli 2s. 6c. a 4s. yr un, y rhai a ddanfonir yn rhad drwy y Post ar dderbyniad eu gwerth mown Postal Order. GAMJEE'S ORIENTAL SALVE. (Fel ag ei danfonwyd i'r Gwir Anrhyeddus W. E. Gladstone, A.S.) Iacha Losgiadau, Doluriau, Piles, Rheuma- tism, Parlys, Lumbago, Cymalau Anystwyth, Chwythiadau Gwynion, Craugenau, Afiechyd y Glun, Anhwylderau vn y Frest a'r Lungs, &c., &0, Mae eanoedd o achosion wedi eu hiachau. Para GAMJEE'S EAST INDIAN PILLS y Gwaed ffieiddiaf, iachant Ddiffyg Treuliad, Anhwylderau yr Afu, Piles, Gravel, a Gwynt; adferant yni i'r oyfansoddiad gwanaf; a ohy. frifir hwy y goreu at bob Anhwylderau Ben. ywaidd. Hollol lysieuol a diflas. Ysgrifenodd y Parch. H. Thomas, Abertawe, Maent yn feddyginiaeth ddyogel a chyflym.' Dywed pawb a'n profasant mai hwy yw MEDDYGINIAETH OREU Y BYD. MI. wn blyohan 7lo, Is lie, 2s 9o, a 4s 6c yr uD, gan bob fferyllydd, neu yn rhad am y swm uchod (gyda chyfarwyddiadau arbenig, os yn angenrheidiol) oddiwrth y gwneutharwr- CHARLES MAGGS. 13, Wind St.. Swansea. AT YMFUDWYR. JOHN JAMES, 19 & 27, WHITCOMBE STREET! ABERDAR, (GYNT O'R CROWN HOTEL), A ddymuna hysbyso el gyfeillion yn amgylch- oedd Aberdar a lleoedd eraill trwy y beheadlr, ei tod yn oruchwyliwr penodol dros y llinellau canlynol :-Dominion Line, Beaver Line, yr Inman Line, Anchor Line, a'r White Star. Ceir pob gwybodaeth yn nghylch hwyllad agerlongao, a'r prisiau i wahanol ranau o'r America a gwledydd ereill. Telir sylw neilldtiol 1 docynau (prepaid tickets a fydd wedi ea derbyn o'r America. Cofiwch y cyfeiriad uchod. r:E?'Dim cysylltiad a Chymro Gwyllt. YGRAND EISTEDDFOD Will be held in a large marque, at KIDWELLY On Bank Holiday, August 4th, 1869. ,Adjudicator, -Mr W. T. Samuel, G. & L. For Choirs, not less than 80 in number, I Ffarwel 1 ti, Gymru fad,' Dr. Parry, prize X20. Male Voice Party, not less than 30 in number, Wyr Philistia,' D. Jenkins, Mus. Bac., prize XS. Glee Party, not less than 30 in number, 1 0 hush thee, my baby,' Sullivan, prize X3. Fife and Drum Band, not less than 15 in number, Selection of Welsh Airs (Mr James Peters), Third Series, viz., 'The Lamb's Fold,' &c., prize £1 10s. Programmes, containing full particulars, on appli- cation to E. Y. DAVIES, Secretary, West End Villa. Arrangements will be made for cheap trains. MARKET HALL, LLANELLY. THE LLANELLY MUSICAL EISTEDD- FOD and FESTIVAL will be held at the above place on Monday, June 30th, 1890. Conductor,—Mr. J. George, Llanelly. Adjudicators, -Signor Alberto Randegger, London D. Jenkins, Esq., Mus. Bac., Aber- yatwyth. Chief Choral Competition—To the Choir, not less than 150 In number, that shall best render (a) 'Rise op, arise' (St. Paul); publishers, Novello k Co., 1, Berner's Street, London, W., O.N. 3d., Solfa 2d.; (b) Ffarwel i ti, Gymru FAd '(Dr. Parry) publishers Hughes & Sons, Wrexham, O.N. 4d.; Solfa ld., prize X100. Male Voice Competttion-NDt less than 30 voices, Wyr Philistia,' from David Æ Goliath, D. Jenkins, prize Cl5. To the Brass Band that shall best render the Selection 4 Victory,' published by Wright and Ronnd, 34, Erskine Street, Liverpool, not to exceed 25 Instrument; no reeds; prize £10. Programmes may be had on receipt of I-La. 2 in Stamps, from the Sees.,—J. Jennings, Jeremiah Williams, and J. George. ARBED MILOEDD 0 1 FYWYDAUt Y mae yn ffaith fod REES'S Bronchial Syrup Wedi arbed miloedd o fywydau drwy wella braidd bob cyflwr ystyfnig o Beswcb, Croup, Bronchitis, &c. Y mae yn ffaith ddylid ei ystyried y tymoi presenol, fod mwy o fywydau yn cael eu colli drwy afiechyd y ddwyfron nac un dolur arall. Y mae y tystiolaethau y mae y per- chenog yn ei dderbyn yn ddyddiol, yn profi fod Rees's Bronchial Syrup yn foddion anmhrisiadwy at bob math o besweh, ac yn enwedig i blant; y mae ei flas mor felus fel y gellir ei roddi iddynt yn ddidrafferth. Tystiolaeth oddiwrth y Parch. W. D. Thomas. Gibea, Brynaman. Anwyl Syr,—Gallaf ddwyn tystiolaeth uchel iawn i'ch Bronchial Syrup, am fy mod wedi derbyn lleshad mawr oddiwrtho mewn achosion o anwyd trwm a pheswch caled. Felly gallaf yn galonog ei gymeradwyo i sylw y cyhoedd. Ydwyf, yr eiddoch yn bur, W. D. THOMAS. Coffee Tavern, Brynaman. Syr,-Hyderaf y bydd i fi!oedd osod prawf arno, ac yn sicr ni siomir hwynt. Yr eiddoch yn gywir, P. H. COWLING. I'w gael mewn poteli, Is 1tc. a 2s, 9c. 2 Aofonir ef drwy y Post yn rhad am y pris- jedd uchod. Darparedig yn unig gan Wm. REES, A.P.S., CHEMIST, BRYNAMAN, CARMARTHENSHIRE. STEDDFOD CAERFFILI, LLUNGWYN, 1890. Bydded hysbys I'r byd y cynelir Eisteddfod Flynyddol Caerftilt ar y dydd uchod, Yn ngwyneb haul a llygad goleuni,' 4 A Gair Daw yn uchaf.' Llywydd,—Alfred Thomas, Ysw., A.S. Belrnfaid y gantadseth,-Mr D. Emlyn Evans ac Eos Morlais; y farddoniaeth,—Gwilym Elian. Blian. Carvkidaeth. I'r cor, ddim dan 80 o nifer, a gano yn oreu Rise up, arise,' &c., gan Mendelssohn, gwobr i'r goreu, £ 50 J all wobr, £10 j a XI i bob ar- weinydd cor a gystadleuo. I'r lleisiau gwrywaidd a gano yn oreu The Martyrs of Arena,' ddim dan 40 o nifer, gwobr X15. I'r selndorf pres a chwareuo yn oreu The Heavens are Telling,' Haydn, T. A. Halgh, Anlaly Road, Hull, gwobr gyntaf, £12; all wobr, B5. Cerddoriaeth. Am yr Alaw oreu, gyda chyfelllant, ar y gelrlau Gwladgarwr,' gwel y rhaglen, gwobr zei 108. Y mae y rhaglen gan yr Ysgrifenydd, I'" gael am lc., trwy y llybhyrdy am ltc. Aufoned pawb at yr Ysgrifenydd am fanylion pollach.-D,I. Williams, Globe Inn, Caerphilly. BRYNAMAN- CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lie uchod dydd Sadwrn, Mehefin 28itin, 1890. Belrnlald :-y gerddorlaeth, D. Jenkins, Ysw., Mus. Bac., Aberystwyth yr amrywiaeth,—M. D. James, Ysw. (Dewi ab lago), Llandllo. Prif Destynau Corawl. I'r cor, heb fod dan 60 mewn nifer, a gano yn oaeu 'Ffarwel i bl, Gymra fad' (Dr. Parry), gwobr X16, a chadalr hardd i'r arweinydd. I'r cor, heb fod dan 40 mewn nifer, a gano yn orou 4 Bendithlaf yr Arglwydd' (D. Row- lands, Cwmtwrob), gwobr £ 5, a Baton i'r atweinydd. I'r Drnm and Fife Band a chwareuo yn oreu 'Morfa Rhuddlan' a'r 'Caerphilly March,' gwobr £ 2. I'r co o blant, heb fod dan 30 o rlf, a gano yn oreu Dysg i mi dy ddeddfau, 0 Arglwydd' (D. W. Lewis, F.T.S.C., Brynaman). Canfateir 8 mewn oed i'w cynorthwyo. Gwobr zCl 10s. Rhestr o'r holl destynan i'w cael trwy y post am lie. gan yr ysgrifenydd,-William Morgan, Park Street, Brynaman, R.S.O. PMOD A SENGI».—Llyfr poblogaidd i Wragedd a Merched leuainc (142 o dudalenau).-Mirs Guthrie, Bookseller, E hyL t —i——M■——i——M—■—m TEMPERANCE HALL, TREDEGAR. CYNELIR Seithfed Eisteddfod y Cymrodor- Ion yn y lie uchod dydd Linn, Mai 12fed, 1890. Belrnlad,—Mr T. Price, A.C., Merthyr. A-weinyddr-Mr T. L. Davles, Tredegar. I'r cor, heb fod dan 80 o rif, a gano yn oretr I The Heavens are Telling,' Haydn, gwobr -22G a £ 1 i'r arweinydd. Rhoddir 10s. i bob ar- weinydd anfoddagol. Hefyd, rhoddir Xl Is. am y datganlad gorea o'r Trio. I'r cor o'r un gynulleldfa a gano yn oreu y don Cymrodorion,' gan J. Evans, A.C., i'w chael ar y program, gwobr zt3. I'r cor o blant a gano yn orea Buidagol- laeth,, gan T. Price, A.C., gwobr zEl 10s. a 55.. i'r arweinydd. Programs i'w chael oddiwrth yr ysgrifenydd- Ion,—John Evans a T. L. Davies, Coffee Tavern Chambers, Tredegar. Pedalr Cantawd rhwydd a syml at wasanaeth corau bychain a plant: THE VILLAGE CHILDREN, Operetta, gan D. Jenkins, Mus. fa (Cantab)., pris, H.N 2s 60.; Sol-ffa. 80 gyda chyfell- lant i Strings, Flutes, a C arinetts. CANTAWD YR YSGOL Gan J. T. Rees, Mas. Bac. (Toronto), Soi-fta, 6c.; H.N., 2s.-ail argraffiad. Book of words, ltc. R 0 S I N A Cantawd at wasanaeth y Gobelthlo a'r Temlwyr Da, gan Alaw Manod, Sol-ffa, 60.: H.N., 2s. Yn barod Tachwedd laf. GWEDDI'R ARGLWYDD, Cantawd syml at wasanaeth yr Ysgol Sabbotbol. gan D. Emlyn Evans. Y gelrlau gan Dyfed, a'r cyfieithiad i'r Saesneg gan y Parch. T. Johnes. I fod yn barod Ionawr, 1890. Yr oil o'r Cantawdau uchod i'w cael oddiwrth D. JENKINS, Mus. Bac. (Cantab.), Aberys- twyth. CANIATEIR CLUDIAD RHAD i Forwyn- ion o 17 1 35 mlwydd oed, gydag Agerlong Qaeensland, lie y mae gofyn mawr am y cyfryw, a chgflogdda, trwy iddynt dalu ip. am gyfreidiau y llong, yn nghyd a'r oludiad i'r orsaf yn Llundain. Caniateir Cludiad Cynorthwyol hefyd i lafurwvr mewn cysylltiad a thir, megys lafar- wyr amaethyddol, Garddwyr, Mwnwyr, Chwarelwyr, &c., ac I fenywod, megys gwnlad- yddesau, mamaethod profiadol, &c. Dilynir pob llestr gan Feddyg a Maetb. wraig brofiadol, a phan gyrhaeddir pen v daith, cymerir yr boll deithwyr i Orsaf y Llywodraeth yn ddidr aul. Ceir ffurfiau ymofyniad, prisiaulY gwerslyfrau, a phob gwybodaeth ar ymofyn A The Agent-General for Queens 1, Westminster Chambers, Victoria Street, Lond. b Mr. Owen Morgan, Asbgrovs, T efforeai. Dylai yr holl bersonan fydd yn f-u oludiad i'r drefedigaeth ymofyn + Wysiau (Land Order Warrants). Cei a phob manylion ond ymofyn yn Sw y Llongau fydd yn cludo y teithwy prif oruchwvliwr dros Queensland, Ni roddir dir-wysiau 1 bersonau a ap iddynt adael Lloegr. JERUSALEM, RESOLFE B YDDED hysbys y cynelir Eisted lie uchod dydd Llun (Gwyl Ma' 5ed, 1890. Llywydd,—S. T. Evans, Ysw., A.S worth, Castellnedd. Beirniad y cyfansoddiadau, yr ach ac arweinydd y dydd,—Watcyn Wyi, ford. Beirniad y canu,—Mr Rees Evans, Cyfellydd y dydd,—Mr Richard Abexdar. Prif ddarn corawl—I'r cor, heb fod mewn nifer, a gano yn oreu I E, Chorus,' Handel, gwobr X20, a Batoi gwerth zCl 5a. i'r arweinydd buddugol. Ail ddarn corawl—I'r cor, heb fod o mewn nifer, a gano yn oren Dyddlau d; fel glaswelltyn,' T. Davies, G.T.S.O., X4 10s,, a Chromatic Pltchpfpe l'r arweiuy^ I'r parti Male Voices, ddim dan 16 mewt nifer, a gano yn orea Can y Medelwyr,' Emlyn Evans, gwobr X2. Am y Bryddesb Goffadwriaethol oreu i drl o ddiaconlaid Eglwys Jerusalem a gkddwyd y flwyddyn ddiweddaf, gwobr j31 10g. I'r hwn a naddo ac a safo B&r o Goed oreu bydd hawl ganddo I ddewls un i'w gynorthwy"; Gwobr £ 1; all wobr, 10a. Gellir cael coplau o'r gerddoriaeth gan Mr D. Harries, Resolfen. Am fanylion pellach gwel y program, I'w gae! am y prls arferol gan yr Ysgrifenydd,—John Barclay, Stag Cottage, Glyn Neath Road, Neath. LLANHARRAN. pYNELlR EISTEDDFOD FAWREDIOG yn y lie uchod Mat 5ed (Gwyl Mabon). Beirniad y gerdderiaeth, Mr R. C. Jenkins, arweinydd Cor Llanelli. Beirniad y farddoniaeth, &c., Parch E. Gurncs Jones, Casnewydd. Prif ddarn—' The Martyrs of the Arena,' I gorau o felbion heb fod dan 30 mewn rhif, gwebr 910; ail wobr, X3. AU ddarn—' Mai,' John Thomas, i goran heb fod o dan 25 muwn rhir, gwobr t5. Programs yn awr yn barod, ac i'w cael am y pris arferol, gan John Morgan, Ysgrifenydci, Llanharran. Yr elw at drysorfa gynorthwyol Tanchwa y Morfa. POSTPONF-MENI- OF Rhymney Prize Drawing. The Committee have beat, unavoidably com- pelled to postpone the Prize Drawing for the benefit of James Rees, from March 3rd to May 5th, 1890, All duplicates and money to be sent to the Secretary, Evan Jones, 16, Thomas' Row, Rhymney, by the 22nd April. D. D. WILLIAMS, WHOLESALE AND GENERAL BOOKBINDER, MACHINE RULER, PERFORATOR, AND ACCOUNT BOOK MANUFACTURED, 56, Castle Street, Merthyr Tydfil. Account Book ruled to any pattern, and bound in any style. Parcels returned within 14 days after receipt of same. JOSEPH GEORGE, Teacher of Music, & Organist of St. Barnabas Church, Waunarlwydd, Is open to receive engagements as Accompanist at Eisteddfodau, Oratorios, Cantatas, and Concerts. Lessons given 10 Singing, Piano, and Oran, .A,ddrese,-Eleclfaleju, Waunarlwydd, Swansea