Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
CHWI WEITHWYB CYMRU! Bali m -"A I DaliwthSylw Y mae yn rhaid cael CORFF IACH, CRYF, a HEINYF cyn y mae yn bosibl i ddilyn eich gwaith yn HWYLUS, a chyflawni eich dyledswydd yn LLAWEN a DA. Hyn hefyd sydd i'ch hysbysu fod yn auhebgorol angenrheidiol cael (PWflED PUR I dreiddio drwy yr holl gorff er sicrhau yr y&tad hapus hYD. Y mae H S'S f ø- L," D .$' ;j FILLS ú N t B B YN FEDDYGINIAETH BWRPASOL AC HYNOD LLWYDDIANUS I GREU GWAED PUR, GWAED IACH, Li *stmi"; D I.iis GWAED CRYF. A SICRHAU IECHYD PERFFAITH I'R HOLL GORFF. Pa beth a ddywed y Bobl P AOHOS TRUENUS YN ABERDAR.. 5OAS.C.SYR,—Y mae yn ddyledswydd neillduol arnaf i'ch hysbysu o'r effaith ryfedd a gafodd eich Hughes's Blood Pills arnaf. Yr wyf wedi bod yn dyoddef dros naw mlyoedd gan darddiant poenus ar fy nwylaw, breichiau, a'm corff, yn fy analluogi i weithio chwech mis o bob deuddeg; tua dwy flynedd yn ol fe wnaeth y clefyd ymaflyd yn.fy Iigoesau a'm traed, nes peri i mi fethu gweithio. Mi fum o dan driniaeth pob Doctor o fewn cyrhaedd, ond yr oil i ddim pwrpas. Yr oedd fy nglaniau yn orchudd- edig gan glwyfau a chroen pydredig, a'r arogl yn anyoddefol i neb ddyfod i'r ty, a phawb yn credu nad oedd dim gwellhad i mi byth. Ychydig amser yn ol cefais fy anog i gymeryd I Hughes's Blood Pills,' a defnyddio 'Gomer's Balm.' Yr oedd yn syndod yr effaith a gawsant arnaf. Yr wyf yn 58 oed, ni wslais i yn fy ces dim meddyginiaeth tebyg iddynt; y mae fy boll g. wyfau wedi eu gwellhau, mae fy boll gyfansoddiad yn iach, grymus, » bywiog, uc yr wyf yn teimlo wedi fy adnewydda yn fy ngorif a'm meddwl, ac yn bet,d-ithic- y úydd i mi gael gwybod am danynt.—Ydwyf, 13, Oxford Street, Aberdar. JOHN JONES. SYR,—Yr vdwyf yn tyetiolaetha i bob gair o'r uched. Yr wyf wedi bod yn llygad- yst o'r achos hwn am buu.. mlynedd. J. D. REES. Congregational Minister, Aberdar. Pa beth a ddywed y Gweinidogion SYR,-Gyda hyfrydwch yr ydwyf yn dwyn tystiolaeth i rinwedd neillduol eich Pills, sef Hughes's Blood Pills. Mi a gymerais uc flychaid o honynt, a thrwy hyny yr ydwyf yn teimlo mor iach ag erioed. Nid ydwyf yn gwybod am ddim sydd yn ad- newyddu fy nerth fel y Pills hyn. Fy afiechyd oedd Diffyg Trenliad, gyda mawr Wendid a Churiad y Galon Yr ydwyf yn eu cymeradwyo hwynt i bob dyoddefydd. t, Waunarlwydd. PARCH. B. D. WILLIAMS. Pa beth a ddywed y Gwragedd ? SYR,—Yr ydwyf yn teimlo ei fod yn ddyledswydd arnaf i'ch hysbysu o'r gwellhad hynod a dderbyniais drwy gymeryd eich Hughes's Blood Pills. O'r braidd yr oeddwn yn gallu cerddid ac eistedd gan y Piles, Poen yn fy Nghefn, Coesac, a'm Pen, ac yn bur wan. Yn aw: yr ydwyf yn holliach. Cwmbran. MARY JAMES. "l" Hughes's Blood Pills A iacha yn uniongyrchol Gwaed Drwg, Scurvy, Cornwydon, Penddynod, Tarddiantau y Cieen, Afu Ddrwg, Diffyg Traul, Poen Pen, Biliousness, Gwynt, Nerves Egwan Gwnegon, Corffrwymedd, Piles, Fits, ac yn creu Gwaed Croen Nerves Afu Cylla Corff Pur. Iach. Cadarn. Fywiog. Cryf. Heinyf. GWERTHIR MILIYNAU YN FLYNYDDOL. Ar weith gan bob Chemist drwy y Deyrnas am 1/11, 2/9, a 4/6; drwy y post am 1/3, 2/11, a 4/9, oddiwrth y Per:henog, JACOB HUGHES, D.S., A.PH.S., Manufacturing Chemist, PBNAETH, CARDIIPF. Goruchwyliwr yn America,—Mr. R. D. WILLIAMS, Chemist, &c., Plymouth, Pa., gan yr hwn y gellir hefyd cael HUGHES'S DROPSY PILLS BWRDD Y GOLYGYDD. J.D.—Goresgynwyd Prydain gan y Rhufein. iaid gyntaf dan Caesar 55 cyn Crist. i IOAN.- 1. Fe deithis, y camelod goreu800 o fill- diroedd mewn wyth niwrnod. 2. Y mae dau berson yn marw bob eiliad. GWRAIG GYNIL.—Mewn atebiad i'ch gofyniad, fe ddywed y rhai sydd gymwysaf i farnu, y gwna saith pwys o fflwr Americanaidd gy- maint o fara ag a wna wyth pwys o fflwr y wlad hon. YSMOCIWR.—Meddwl y gair 'meerschaum' ydyw 'ffroth y mor.' Y mae yn wyn a meddal pan y dygir ef o'r ddaear, ond a galeda yn fuan. CLUDYDD.—Yn Ionawr, 1840, y dechreuwyd y llythyrdoll ceiniog yn y wlad hon. YMPRYDIWR.—Bu Dr. Tanner fyw 40 niwrnod heb ddim ond dwfr, yn New York, yn 1880, ond collodd 36 pwys yn ei bwysau yn ystod yr amser. YMREOLWR.—Cymerodd yr undeb rhwng Lloegr ac Ysgotland le yn 1707, a'r undeb rhwng Prydain Fawr a'r Iwerddon yn 1801. b Dwy ysgrif arall wedi eu derbyn ar Bwnc Hirwain. Pob Taliadau ac Hysbysiadau i'w cyfeirio at Mills & Evans, TARIAN Office, Aberdare. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'w hanfon i'r Editor, TARIAN Office, Aberdare." Nid amddiffyn 6 Goreu TARIAN ond TARIAN." cyfiawnder"
UNDEB YR YMNEILLDUWYR CYMREIG.
UNDEB YR YMNEILLDUWYR CYMREIG. Nid yw y syniad o undeb rhwng y gwahanol gyfundebau a ystyrir yn ef- engylaidd yn un newydd mewn un modd. Yn Lloegr, y mae y syniad wedi derbyn ffurf allanol yn nygiad i fod y Cynghrair Efengylaidd. Rywsut, nid yw Cymru wedi cymeryd llawer o ddyddordeb yn y Cyngrair hwnw; y mae amgylchiadau ein cenedl mor wa- hanol, ac yr ydym ninau gymaint ar gongl fel nad rhyw hwylus iawn yr ydym yn gallu cydweithredu a'r Saeson. Ac yn mhob cyfarfod ag yr ymunwn a phlant Hengist, rhaid, o angenrheid- rwydd, taflu yr iaith Gymraeg dros y bwrdd. Ar yr un pryd, teimla llawer o brif ddynion ein gwlad y dylai y gwa- hanol enwadau sydd yn cyduno mor llwyr ac mor galonog yn y prif athraw- iaethau ddyfod i fwy o gyd-ddealldwr- iaeth, ac yn fwy galluog i gydweithredu. O'r diwedd, darfu i Mr. Owen, Croes- oswallt, gymeryd y mater i fyny, a'r wythnos ddiweddaf, ar ei wahoddiad ef, cyfarfyddodd pwyllgor i ystyried yr boll gwestiwn yn yr Amwythig. Un peth sydd yn sicr o fod yn ach- lysur beirniadaeth yw, na chynygir cyn- wys yr Eglwys Sefydledig yn y cyng- rair y bwriedir ei sefydlu. Bydd llawer yn barod i ofyn,—Paham y gadewir yr Eglwys allan yn yr oerni ? Ar un ystyr, efallai fod hyn yn arwydd i ryw- rai o ragfarn a cbulni. Addefir fod yn yr Eglwys ddynion gwir dduwiol a gwir efengylaidd. Rhaid cydnabod nad oes yn Nghymru lawer o rai Rhyddfrydig, fel rheol, y mae y clerigwyr nad oes un amheuaeth am eu duwioldeb yn edrych i lawr gyda thipyn o ddirmyg ar eu brodyr Ymneillduol, a'r rhai efengylaidd yw y culaf. Ond yr ydym yn barod i gydnabod fod yn yr Eglwys, ie, yn Nghymru, ddynion rhagorol. Paham ynte na chaent eu gwahodd i'r undeb cynygiedig? Mae y rheswm yn gor- wedd yn y cysylltiad sydd rhwng yr Eg- lwys a'r Wladwriaeth. Edrycha yr Ymneillduwyr ar y cysylltiad hwn fel un anachaidd, gwrthysgrythyrol, a dryg- ionus y maent yn llawn penderfyniad i roddi terfyn arno, a thra yn dymuno Duw yn rbwydd i'r Eglwys fel gallu ysbrydol, nid ydynt yn bwriadu gor- phwys nes ei ddifetha fel sefydliad gwladol. Mae y clerigwyr, o'r ochr arall, yn benderfynol dros yr hyn a dybiant yw eu hiawnderau hyd nes y byddo raid iddynt, ni ollyngant eu gaf- aelion ar y torthau a'r pysgod, ac yn yr ysbryd hwn y maent yn Uusgo yr Ym- neillduwyr ger bron brawdleoedd, gan anfon beiliaid i atafaelu yn eu meddian- au ag werthu eu dodrefn i'r uwcbaf ei gynyg. Tra y parhao y clerigwyr i wneud hyn, ofer son am unrhyw undeb rhwng yr Ymneillduwyr a hwynt. Un- waith y byddo yr Eglwys wedi cael ei dasefydlu a'i dadwaddoli, ac wedi dyfod yn allu ysbrydol, yn lie yn sefydliad gwladol, bydd iddi y croesaw mwyaf i gael lie yn yr undeb hwn, neu unrhyw gynghrair arall. Rhaid i bawb addef fod y meddyl- ddrych o undeb rhwng Ymneillduwyr Cymru yn syniad neillduol o hapus. Ni fwriedir difodi y gwahanol gyfundebau crefyddol; y mae hyny allan o'i cwest- iwn. Tra y byddo meddyliau dynion wedi cael eu ffurfio yn wahanol, a thra y byddont yn tueddu i edrych ar syn- iadau a ffeithiau o wahanol gyfeiriadau, rhaid i'r sectau crefyddol fodoli. Nid ydym yn ameu na fydd y gwabanol bleidiau hyn mewn bod yn adeg y mil blynyddoedd. Yr hyn y cynygir ato yw undeb ysbryd, cydweitbrediad yn nglyn a'r gwabanol bethau y cyduuir arnynt, dileu yr eiddigedd a'r culni sydd rhwng y naill blaid a'r llall, ac felly dyfod yn un fyddin gref, er yn gyfan- soddedig o wahanol adranau, i ymladd yn erbyn y gelyn cyftredin. A ydyw hyn yn ormod i'w sylweddoli, nis gwy- ddom. Beth bynag, y mae yn feddyl- ddrych hapus a dymunol dros ben. Ac yn sefyllfa bresenol y Dywysogaeth, gyda'r goleuni sydd yn tywynu ami, yr I adnabyddiaetb a fedd y naill sect o'r Uall, a'r tebygolrwydd sydd rhwng y naill i'r Hall, ni ddylai fod yn dir rhy uchel i'w gyrhaedd a'i feddianu. i Dywedir rhagor, Os parha yr holl gyfundebau i fagu yr ysbryd a ymddang- osodd yn yr Amwythig, bydd y syniad yn sicr o gael ei sylweddoli. Yr oedd Pawb o'r brodyr yno'n un, Heb neb yn tynu'n groes." Cydunwyd gyda chydgordiad hollol ar bwysigrwydd yr amcan, y dymunoldeb o ymgyrhaedd ato, a'r dull goreu i wneud hyny. Nid oedd gwahaniaeth rhwng Wesley na Chalfin, a gwelai yr Annibynwr lygad yn llygad a'r Bedydd- iwr, ac nis gallwn lai na chymeradwyo y penderfyniadau y deuwyd iddynt, sef anog y pedwar enwad crefyddol i ethol chwech o frodyr, bob un o honynt i ffurfio math o gynhadledd, fel y gallont gymeryd i ystyriaeth y petbau ag y mae yn bosibl cydweithredu ynddynt, a gosod y rhai oedd yn bresenol yn yr Amwythig yn fath o gyfeisteddfod i weled fod hyn yn cael ei gario allan. Diau y syrthia pob un o'r cyfundebau i mewn i'r cynygiad nis gallwn goleddu y syniad am fynyd y bydd yr un enwad yn gwrthod. Diau fod llawer o bethau y gellir cyd- weithredu ynddynt. Un yw yr Ysgol Sabbothol. Mawr fel yr hoffem weled Undeb Ysgolion Sabbotbol Cymru; y fath fantais a roddai i'r gwahanol ysgol- ion i astudio Gair Duw, a'r fath gyfleus- dra i ddynion goreu y genedl i ddwyn trysorau yr esboriwyr enwocaf i gyr- haedd gwerin y Dywysogaeth. Byddai yr undeb cynygiedig hefyd yn gyfle i'r holl enwadau i gydymuno yn erbyn an- ffyddiaeth, materoliaeth, Agnosticiaeth, a Phob aethjarall sydd yn ymosod ar ein crefydd. A da fyddai iddo rwystro yr holl wastraff ar adnoddau sydd yn codi o gydymgais rhwng y gwahanol enwad- au, yr adeiladu gormod o gapelau mewn man bentrefvdd, ac mewn cym- ydogaethau lie nad yw y boblogaeth yn dew. Ond y prif beth fyddai undeb ysbryd, a chalon a theimlad, cyd-ddeall- dwriaeth a dyfod yn alluog i oddef ain gilydd mewn cariad, gwneud i ffwrdd a. phob rhagfarn ffol, gan ei thaflu i'r wadd ac i'r ystlumod. Yr ydym o galon yn dymuno llwydd- iant y cynghrair a gafodd ei eni yn yr Amwythig. Nid ydym am brophwydo gyda golwg arno, oblegyd yr ydym erbyn hyn yn dechreu heneiddio, ac yn cofio am lawer o symudiadau wedi myned i'r gwellt ag y dathlwyd eu gen- edigaeth a sain udgorn, ac y rhagfyn- egwyd pethau gogoneddus yn eu cylch. Yr ydym yn gobeithio y goreu am hwn. Buasem yn hoffi gweled rhagor o oreu- gwyr y genedl, y rhai yr edrycbir i fyny atynt fel arweinwyr y gwahanol gyfun- debau, yn bresenol yn yr Amwythig. Gellir dweyd fod prif ddynion pob enwad yn amlwg trwy eu habsenoldeb. Gyda y Methodistiaid ni welid Dr. Owen Thomas, Dr. John Hughes, na Dr. Saunders yn mysg yr Annibynwyr yr oedd Dr. John Thomas a Dr. TTerber Evans yn eisieu yn mblith y Bedydd- wyr nid oedd Dr. Roberts, Pontypridd, na'r Parch. W. Morris, Treorci, yn bresenol; ac yn mysg y Wesleyaid ni welid y Parchn. John Evans na David Young. Geill fod rhesymau digonol am absenoldeb pob un o'r rhai hyn; yn wir, anfonodd rhai o honynt lythyrau o gyd- ymdeimlad a'r amcan, ond nis gallwn lai nag edrych ar en. habsenoldeb fel peth annymunol, ac fel peth nad yw yn argoeli y goreu am y dyfodol. Ac y mae o bwys deall ar y cychwyn, y rhaid wrth lawer o ysbryd brawdgarwch ac ysbryd pwyll, cyn y geill y cyngrair hwn fodoli a dyfod yn ddylanwad. Mewn ardaloedd ffres, gyda chychwyn- iad achosion newyddion Cymraeg a Saesneg, rhaid wrth synwyr, pwyll, brawdgarwch, ac anhunangaredd di- fesur, cyn y gall yr enwadau beidio taro yn erbyn eu gilydd mewn cydymgais. Nid gwiw cau ein llygaid ar rwystrau; y maent yn sicr o gyfodi, a goreu oil pa gyntaf yr edrychir yn eu gwyneb. Ond yr ydym yn mawr ddymuno llwydd y mudiad newydd, y mae ysbryd Crist- ionogol yn ddiau wrth ei wraidd; os cryfha, geill ddyfod yn allu cryf er daioni, ac er cynydd yr efengyl yn- Nghymru. Pwy na ddymuna Duw yn rhwydd iddo ?
YR EGLWYS A'l THRETH. -\
YR EGLWYS A'l THRETH. Yr ydym ni, amaethwyr Cymru, wedi bod yn cario beichiau trymion yn bur ddi- rwgnach am flynyddau, ond o'r holl feich- iau, yr uh yr ydym yn deimlo yn gwasgu drymaf arnom yw y baich a roddir arnom er cynal Sefydliadau Eglwysig. Pe byddem fel amaethwyr yn derbyn rhyw gymaint o fudd i ni ein hunain oddi- wrth y sefydliadau hyn, ni byddai ein cwynion mor resymol, ond pa fudd sydd yn deilliaw ond i ychydig iawn o honom oddiwrthynt ? Yr ydym wedi clywed offeiriaid cyn yma yn haeru eu bod hwy yn gyfrifol i'r Bod Mawr am bob enaid yn eu plwyfi. Pwy, atolwg, sydd wedi rhoddi y cyfrifol- deb hwn arnynt? Nid ydym ni erioed wedi ystyried y cwestiwn, ac yn sicr nid ydym wedi rhoddi ar neb mewn unrhyw gyfnod o'n hanes y cyfrifoldeb hwn. Nid ydym wedi clywed na darllen erioed am unrhyw gyfarfod nac arall a gynaliwyd genym ni fel amaethwyr er gosod y cyfrif- oldeb hwn ar ysgwyddau neb pwy bynag. Rhaid gan hyny fod y cyfrifoldeb wedi ei roddi arnynt gan rywun arall, neu y mae yr offeiriaid wedi cymeryd y cyfrifoldeb hwn arnynt eu hunain os felly, boed iddynt ddwyn y draul. Pasiwyd Deddf Addysg yn 1870. Trwy y Ddeddf bono y mae addysg elfenol wedi ei sicrhau i bob plentyn mewn gwlad a thref; ac y mae y dreth a daiwn er cynal yr ysgolion vn bur drwm arnom mewn I llawer plwyf. Ond nid ydym yn grwgnach am hyn, gan fod ein plant yn derbyn addysg, yr hyn sydd yn ei gwneud yn > hawdd i gario y baich hwn. Oddiwrth y Sefydliadau Eglwysig nid ydym ni na'n plant yn derbyn unrhyw ad-daliad oddi- eithr fod ambell un o honom yn dwyn ein plant i fyny yn offeiriaid. Cawn ein beio yn ami am hyn. Yr oedd un amaethwr a adwaenem yn dda wedi rhoddi pob man- teision i ddau o'i feibion i berffeithio eu hunain fel meddygon; ar ol iddynt adael y Brif-ysgol, a sefydlu yn agos i'w cartref, nid oedd un o honynt yn mynychu y capel. Nid oedd neb yn beio y tad am hyn. An- fonodd ddau fab arall i Goleg Eglwysig, ac o'r beio oedd arno am hyny; ond teimlai ef yn bur foddlon, a dywedai nad oedd yn gwybod am un ffordd arall trwy ba un y gallai gael unrhyw fudd i'w deulu oddi- wrth yr holl arian yr oedd ef, a'i dad, a'i deidiau wedi dalu i offeiriad y plwyf. Clywsom un arall yn dywedyd, Pa wahaniaeth sydd rhwng dwyn un mab i fyny yn exciseman a'r llall yn offeiriad; cnid swydd wedi ei sefydlu gan y gallu gwladol ydyw un fel y llall. Yr unig beth sydd genyf fi mewn golwg wrth ddwyn fy mechgyn i fyny yn y swyddi hyn ydyw, eu rhoddi mewn ffordd i enill eu bywiol- iaeth a sicrhau iddynt eu hunain sefyllfa- oedd cysurus mewn cymdeithas." Nis gallwn yn hawdd gondemnio yr un o'r ddau dad uchod. Faint o arian y mae amaethwyr Cymru, amaethwyr Anghyd- ffurfiol Cymru, wedi dalu yn ystod y ganrif hon er cynal eglwys estronol yn ein gwlad. Ffrwyth llafur a gofal cyson ydyw pob ceiniog a delir gan amaethwyr fel rheol. Onid ydyw yn iawn fod rhyw werth yn cael ei dderbyn yn ol ? neu rhyw foddlon- rwydd yn cael ei enill i'r meddwl trwy dalu symiau mawrion o arian ? Y mae llawer o feio ar amaethwyr Anghydffurfiol Ceredigion am ddwyn eu plant i fyny yn offeiriaid. Y mae yn anbawdd iawn genym ni eu condemnio ar dir trefnidedd gwladol. Y mae pob dyn yn mhob sefyllfa yn rhwym ar dir pob tegwch o gael rhywbeth yn gyf- newid am yr arian y mae yn dalu, os na fydd yr arian yn cael eu talu at amcanion elusengar. Dywedir fod un ran o dair o'r degwm yn yr amser gynt yn cael ei dalu i'r tlawd; rhaid fod llawer o amser oddiar hyny. Yn awr, nid ydym yn deall fod dim o'r degwm yn myned yn uniongyrchol i'r tlod- ion. A ydyw y tlodion wedi eu hysbeilio ? Y mae rhai pobl, hyd yn nod yn Nghymru y dyddiau hyn, yn synu ein bod ni, amaeth- wyr Cymru, yn talu y degwm yn groes i'n hewyllys. Y syndod ydyw ein bod wedi ei dalu cyhyd yn groes i'n hewyllys. Gormes ac anghyfiawnder o'r mwyaf ydyw ein bod yn gorfod ei dalu o gwbl at yr amcan presenol, ac nid ydyw yn syndod yn y byd genym fod amaethwyr Cymru, rai o honynt, yn cymeryd mantais ar yr unig ffordd sydd yn agored iddynt, sef dwyn eu plant i fyny yn offeiriaid, i gael rhywbeth yn gyfnewid am eu harian i'w teuluoedd. Ar dir cydwybodolrwydd o'r math uchaf, hwyrach nad ydynt i'w canmol; ond pa gydwybodolrwydd all fod yn perthyn i ddynion sydd ar hyd y blynyddau yn der- byn arian oddiar ddwylaw pobl ag y gwyddant wrth eu derbyn nad ydyw y rhai sydd yn talu yn derbyu dim yn y byd yn gyfnewid ? Yr ydym yn dywedyd gor- mod—y maent yn derbyn rhywbeth yn gyfnewid. Gelwir hwy yn hereticiaid, ath- eistiaid, 'a sicrheir hwy yn ami gan offeir- iaid trwyddedig, ac weithiau gan awdur- dodau uwch yn yr eglwys na'r offeiriaid, eu bod yn hollol y tu allan i bob posibl- rwydd i fod yn gadwedig. Gwelsom cyn yma gatecisman yn dysgu y gwirioneddau uchod mewn ysgolion yn derbyn tal oddiwrth y Llywodraeth. Nis gwyddom paham y mynai yr offeiriaid roddi gwaith fel yma ar warau ysgolfeistri, os nad oeddynt yn teimlo eu gwendid eu hunain i allu argyhoeddi pobl o'r gwirion- eddau a ddysgent. Gwendid yn yr offeir- iaid, yn ddiau, ydyw yr achos eu bod yn rhoddi o'u dwylaw unrhyw waith y gellid yn rhesymol ddysgwyl arnynt hwy ei gyflawni. Pa un ai gwendid mewn gallu naturiol, ynte gwendid yn eu paro- toad i'r gwaith nis gwyddom. Ond gallem ni fel amaethwyr ddysgwyl fod dynion sydd yn derbyn canoedd o bunau o gyflog am eu gwaith oddiwrthym, fod wedi der- byn pob manteision er eu cymhwyso i addysgu pobl mewn oed, yn ogystal a phlant yn ngwirioneddau y Beibl yn ogystal ag mewn catecismau o'u gwaith eu hunain, neu gredoau eu seintiau, &c., heb roddi y gwaith ar ysgwyddau neb pwy bynag. Nid diogi ni obeithiwn yw yr achos, ac nid am eu bod hwy yn rhy urdd- asol i gyflawni holl waith eu swydd. Y mae perygl weithiau i ddynion mewn sefyllfaoedd urddasol i anghofio eu hunain, ac anghofio llawer o ddyledswyddau a ddylent gyflawni, ac y mae yn dda fod ereill, er heb fod yn yr olyniaeth, yn ym- gymeryd a'r gwaith. Os oes gwir waith crefyddol yn cael ei gyflawni yn ein gwlad, er mwyn pob tegwch bydded i'r rhai a'i cyflawnant dderbyn y tal am hyny ac nid arall.
PONTMORLAIS, MERTHYR.
PONTMORLAIS, MERTHYR. Yn y capel uchod, nos Lun, Ebrill yr 21ain, traddodwyd darlith ar I W. Prydderch a'i Hynodion,' gan y Parch. H. T, Stephens, Birchgrove. Yn absenoldeb y cadeirydd apwyntiedig, cymerwyd y gadair ganarall, Yr oedd y darlithydd wedi syrthio ar destyn hapus iawn iddo ef, gan ei fod o bosibl yn ad- nabod y gwrthddrych yn well na llawer, a herwydd ei fod wedi bod yn was iddo am. lawer o amser. Felly nid oedd neb yn deall ei hynodion gystal. Un o gymeriad hollol wreiddiol a naturiol oedd Mr. Prydderch, a'f mwyaf ei synwyr cyffredin yn ei oes. Yr oedd yn gall fel y sarff, ac yn ddiniwed fel y golomen. Un o frodorion gwreiddiol sir Gaer- fyrddin oedd ein harwr, genedigol o Gaio, pentref nid anenwog yn ymyl Dolaucothi. Cawsom ei hanes yn frysiog o'i febyd i'w fedd. Yn sicr yr oedd yn perthyn iddo hyn- odion na fuasai gwiw eu cyfrwyo ar neb arall. Digon fod Cymru bepbaladr wedi clywed. dichon am dano ef, yn nghyd a'i hen gyd- ymaith, y diweddar Barch. J. Jones, Llanedi. Y neb a all fwynhau brechdan. fêl oddiar fwrdd natur, galwer ar ein cyfaill o Birchgrove i'w difyru am ddwy awr, ca' y cyfryw flas. HEN LOFFWR. [Betli I yn Merthyr! 0 na buasai eich coel- L bren wedi syrthio yn Aberdar. Ymholwn am danoch un o'r dyddiau nesaf. Byddwn yn wir ddiolchgar am unrhyw air oddi- wrtkyeh.—GOL.]
. AT LOWYR DOWLAIS.
AT LOWYR DOWLAIS. Dydd Iau diweddaf, cynaliwyd cyfarfod gan y dosbarth uchod yn y Forge and Hammer, i'r dyben o ffurfio Fund er cynorthwyo ein cyd- lowyr sydd yn analluog i ddilyn ar eu goruchwylion gan gystudd. Y mae yn wy- byddns i'r rhan fwyaf o honoch fod Iluaws o'r cyfryw i'w cael yn ein mysg, amryw wedi cyfarfod a damweiniau fel nad oes ond gobaith gwan am iddynt byth ddyfod yn alluog i wneu- thur nemawr drostynt eu hunain. Nawr, does angen dweyd dim am deilyngdod yr achos, fe wyddom oil ei fod yn un o'r sefydliadau mwy- af teilwng, ac yn hawlio sylw neillduol; traeni ei fod wedi ei adael mor ddisylw am gymaint o amser genym, da iawn ein bod bellach wedi deffro o'n cysgadrwydd. Yr unig beth sydd genym i'w wneyd yn awr, ydyw agor ein calon- au, a chyfranu* pob un yn ol ei allu eu hun; gobeithio na fydd neb o honom fel y dyn hwnw i'r bwn y gofynwyd am elusen tuag at aehoB o'r fath un tro, pryd y dywedodd, Ydyw, mae'r achos yn deilwng dros ben, ac rwy'n teimlo o galon drosto." 'Does dim amheuaeth genyf nad ydych yn teimlo o galon ebe'r casglydd ond 'rwyf am i chwi deimlo yn eich llogell hefyd os gwelwch yn dda." Gyd-lowyr, bydded fod pawb o honom yn teimlo yn ein llogellau, heblaw hyny I chyrhaedda ein sefydliad da byth o'r amcan. Y mae yn gysur mawr i ni feddwl"fod boncidd- igion o'r lie (masnachwyr vii fwyaf neillduol) yn teimlo cymaint dyddordeb yn yr achos. i Dyuranem ddatgan ein diolchgarwch gwresoc- j af i Mr. Lewis, Auctioneer, Dowlais, am ei ym- t 1 1 drech yn cydweithio er cychwyn y sefydliad, a'i rodd hael o lp. Is. tuag at yr achos; hefyd, i Mr. Jones, American Market, a Mr. W. Mor- gan, Pant, Y maent wedi dangos cydymdeim- lad dwys a'r achos yn eu cyfraniadau haelion- UR; rhoddodd Mr. Jones lOp. 10s. a Mr. Mor- gan lp. Is. Y mae amryw foneddigion ereill wedi addaw rhoddi i ni unrhyw gynorthwy a allant er cario yr achos yn y blaen, a'i wneud yn llwyddianus. Byddai yn dda genym pe gellid cael Fund digon cryf er rhoddi rhyw gyfran yn wythnosol i'r gweddwon a'r am- ddifaid sy'n perthyn i ni gwyddoch fod am- ryw o honynt i'w cael, ac mewn gwir angen. Dewch i ni oil gael gwneutbur yr hyn a allwn, fel na fydd hyny beth bynag yn rhwystr, a chofiwn mai i'r sawl sy'n rhoddi y mae Duw yn cyfranu. A Duw a fendithio lawer eto a'r un gras a'r boneddigion uchod, nes agor eu calonau ac i roddi yn ewyllysgar fel byddo'r sefydliad da sydd wedi ei gychwyn vn troi allan yn fendith neillduol. Yr eiddoch, UN O'R PWYLLGOR. CWMAMAN—MARWOLAETH. Dydd Mercher, Ebrill 16eg, wedi cystudd byr, bu farw Catherine Rees, anwyJ briod John Rees, Incline Row, gynt o Ystalyfera. John Rees, Incline Row, gynt o Ystalyfera. Hebryngwyd ei rhan farwol i Glacldia Gy- hoeddus Aberdar y dydd Sadwrn canivnol, pryd y daeth torf luosog yn nghyd er talu y gymwynas olaf iddi. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod o eglwys y Bedyddwyr yn Nghwm- aman. Yr oedd yn fam fynwesol, yn briod ofalus, a pherchid hi yn gyffredinol fel cymyd- y oges barod a chymwynasgar. Gadawodd ar ei hoi briod a phedwar o anwyliaid i wyio eu colled. Drwy'r afon aeth i'w hoff ddymunol fan. Tra syllem ni'n synedig ar y lan Bydd mwy dan wenau anfarwoldeb pur Uwch pellaf gyrhaeddiadau ingol gur. CYFAILL,
! GOHIRIAD PRIZE DRAWING HIRWAUN.
GOHIRIAD PRIZE DRAWING HIRWAUN. Yn ngwyneb fod arian, yn nghyd a duplicates y Drawing uchod, mor araf yn dyfod i law, y mae y pwyllgor dan rwymau i ohirio y tyniad hyd Mai 26ain, gan obeithio y gwna pawb sydd a llyfrau ac arian ganddynt, ddycliwelyct y cyfryw erbyn yr amser uchod, fel y caffo pob un sydd ganddo docyn cynyg ar y prizes rhagorol yma. Dros y pwyllgor,— EVAN T. EVANS, Ysg.
NODION 0 DREDEGAR.
NODION 0 DREDEGAR. AMGYLCHIADAU Y WLAD. Mawr ydyw twrw cyffredinol y wlad y dyddiau hyn gyda golwg ar y Senedd-dy, a chyda golwg eilwaith ar yr etholiadau. Y mae yr ethohadau damweiniol (casual elections) yn cael y sylw dyladwy, ac yn cael eu gwylied hefyd braidd gan bob dosbarth o gymdeithas. Rhoddir pwys mawr ar y rhai hyn fynychaf hefyd gan eu bod, medd y proffwydi, yn mynegu ansawdd gyffredinolywlad; y maent megys yn arwyddo curiad calon y wlad, neu yn hytrach eu bod yn cyflwyr ddynodi barn cywir y cyhoedd. Mor belled, dywedwn da iawn, ond y cwestiwn pwysig ydyw, a yw pawb, neu a yw pob Cymdeithas Boliticaidd Ryddfrydol yn cyflawni eu dyledswyddau yn ngwyneb hyn? o'r braidd y credwn. Cofus gan ami un o'ch darllenwyr, Mr. Gol., y Cynghrair Rhydd- frydol gynaliwyd yn Nghaerdydd ychydig fisoedd yn ol, a pha fodd yr etholwyd y cynrychiolwyr (?), amryw o honynt, y rhai sydd yn ddigon i ferwi enaid dyn i'w waelod- ion. A ydyw barn y wlad yn mhenglogau tri neu bedwar, wys ? Beth bynag, dyna fel y bu yn yr etholiad hwnw am gynrychiolwyr Cynghrair Caerdydd mewn rhagor nag un na dau o leoedd o fewn cylch fy adnabyddiaeth bersonol i, a chlywais yr un peth am leoedd ereill cyttelyb. Y mae helyntion Gower a Merthyr Tydfil eto yn nghofnodion y gorphenol, a pha beth, tybed, oedd i'w gyfrif am y rhai hyn ? Ysbryd a phenglog un neu ddau, neu dri neu bedwar, yn d'od i gyffyrddiad a werin o bobl-dvna'r oil; mewn geiriau ereill, y classes a'r masses yn gwrthdaraw yn erbyn eu gilydd, a'r galhv mwyaf o angenrheidrwydd yn gorchfygu, sef y masses. Nid ydyw hyn yn rhyfeddod yn y byd, oblegyd nid oes meithriniad undebol wedi bod yn flaenorol, ond y maent yn cadw cyn belled ag ydyw y Dwyrain oddiwrth y Gorllewin oddiwrth eu gilydd hyd nes bydd eisieu dewis aelod newydd, ac yna ceir cyfarfod, ac wedi cyrhaed6 yno y mae pob peth yn barod i'r dim-everything ready, cut and dried, moved, seconded, supported, carried nem. con.-dynalr cwbl, ac os bydd yn bresenol un neu ddau yn meddu tipyn o annibyniaeth meddwl, ac os siaradant yn groes, hwtir a bloeddir arnync, gan ddweyd eu bod yn creu rhwyg yn y gwersyll; a pheth sydd i'w wneud ond rhwygo y fath gyfundrefn ddireswm, fym- pwyol, a rhagfarnllyd? A mwy na hyny, dylid taflu eu hysgogwyr i'r wadd a'r ystlumod i newid awyr-y wlad islaw. Ein barn ni ydyw y dylid cynal cyfarfodydd achlysurol o'r gwahanol Gymdeithasau Rhyddfrydol, drwy holl barthau y wlad, er cael uuoliaeth barn ar bynciau y dydd, a gwyntyllu y gwa- hanol fesurau, ac uwchlaw pob dim ymdoddi i'w gilydd, fel pan ddel galw, fod pob peth yn barod. Dylid taflu golwg dros gofrestr etholwyr y wlad. Pa faint o ganoedd sydd yn mhob etholiad heb bleidlais o ddififyg ymchwiliad prydlon ? Gwyddom am enghreifftiau o bersonau wedi treulio eu hoes yn yr un lie, ac heb bleidlais bob etholiad, yr hyn sydd yn waradwyddus yn ngwir ystyr y gair, a dylid deffro at waith yn ddioedi. Wrth wneud hyn o nodiadau, dysgwyliwn i ysgrifenyddion y gwahanol ddosranau alw cyfarfodydd er cael golwg ar sefyllfa bresenol y wlad. Gwyr pawb sydd yn darllen ychydig. fod yr Etholiad wrth y drws, Ond a chan- iatau y treulid y Weinyddiaeth bresenol ei hamser terfynol, byr fydd hyny, ond y ma.e ein barweinwyr politicaidd yn darogan jm- ddiswyddiad cyn yr Hydref, am hyny,- Cymru! bydd yn barod ar y wys."