Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

iALAW CYNLAIS A'I ANWlREDDAU.

News
Cite
Share

ALAW CYNLAIS A'I ANWlREDDAU. I MR. GOL., AC ANWYL GYDWEITHWYR,- Teim- lwn ni, sydd a'n henwau isod, ei bod yn llawn bryd i ymaflyd yn y dyn ofnadwy hwn-Alaw Cynlais—a'i grogi wrth golofnau y wasg, gan ddadlenu ei weithredoedd a'i anwireddau, a'i arddangos i holl weithwyr Deheudir Cymru fel cymeriad peryglus. Credasom ei fod wedi cyrhaedd eithafbwynt ei ryfyg yr wythnos cyn y ddiweddaf, pan iadrataodd cin henwau, yn ngbydag enwau eiu cyloiUioc, a'u gosod wrth ei lith. Ond gwelwn nad oedd hyny'n ddigon ganddo; na, rhaid oedd iddo daenu'r anwireddaum mwyaf disail am danom, gyda'r amcan o hunan-les, a thynu dialedd trigoliou Hirwaun am ein penau, yn nghyda niweidio ein hamgylchiadau a'n newynu ni a'n teuluoedd. Nos Sadwrn, Ebrill 19eg, ymgyfarfyddodd yr holl haliers yn Vestri y Wesleyaid Cymreig, a phenderfynasant yn unol i gyflwyno yr annealldwriaeth presenol i ystyriaeth pwyll- gOT unol y Sliding Scale, os buasai ein goruoh- wyliwr, Mr. Morgans, yn ngyda Dosbarth Aberdar a Merthyr, yn caniatau. Ni ddaeth- om ni, sydd a'n henwau isod, i wybod dim am y penderfyniad uchod hyd prydnawn y Sab- both canlynol, pryd y daeth personau o'r pwyllgor atom gan ein hysbysu yn nghylch y penderfyniad, gyda thaer ddymuno arnom ymuno a'r ddirprwyaeth i gario y penderfyn- iad ger bron y goruchwyliwr a'r dosbarth. Wedi taer gymhelliad, boddlonasom fyned; ond er ein syndod, wedi cyraedd consulting room ein goruchwyliwr, pwy oedd wedi gwthio ei hun i'n mysg ond yr Alaw hwn. Dyma feiddgarwch Yr wythnos cynt wedi lladrata ein henwau, yn nghydag ysgrifenu y fath gymysgedd o anghysonderau ac anwireddau, nes cynhyrfu y goruchwyliwr i'w waelodion, efe oedd y cyntaf i ymwthio ger ei fron fel pe buasai yn un o angylion glan y goleuni; ond, beth bynag, wele yr Alaw ar ei draed, a'r wen ragrithiol dros ei holl wyneb, yn cyflwyno y penderfyniad i sylw yr arweinydd. Wedi cael barn ein goruchwyliwr ar y mater, siaradwyd ar y priodoldeb neu'r anmhriodoldeb o gyf- lwyno y penderfyniad i'r Executive Committee i'w gadarnhau neu ei wrthod. Dywedasom niuau, sydd a'n henwau isod, air ar y mater, set mai gwell, yn olein barn ni,oedd cyflwyno y penderfyniad i sylw y gweithfeydd, gan eu bod yn cyfranu tuag atom, ac hefyd, fod y cwestiwn mor bwysig i saith o ddynion i'w benderfynu. Dyna'r oil eiriau ddarfu i ni lefaru; ond daeth yr Alaw hwn yn ol i Hir- waun, a'i anadl yn ei ddwrn, gan hau y pethau mwyaf ffiaidd am danom ni ein dau, trwy ddweyd mai ni fu yn achos i rwystro i'r penderfyniad i lwyddo gyda'r Executive Com- mittee, ac fod atalfa y Tower Colliery i'w briodoli yn gwbl i ni. Gyd-weithwyr, dyma engraifft deg o ddyn wedi syrthio mor ddwfn i'r pechod o ddweyd anwireddau, fel nad yw'n prisio beth ddywed am ddim na neb, os bydd mantais yn deilliaw iddo trwy hyny. Dechreuodd yn y DARIAN am Ebrill 17eg, yn ei gryglwyth anwir- eddau, y rhai y mae ein goruchwyliwr wedi eu profi; a'r wythnos ddilynol, yn ceisio arwain trigolion Hirwaun i gredu mai ni fu'n achos i rwystro yr annealldwriaeth gael ei setlo dydd Llun, Ebrill 21ain. O! Alaw, Alaw, sut y gelli godi dy ben a dangos dy wyneb i weithwyr Cymru wedi esgor ar gymaint o anwireddau, a thrwy hyny niweidio dy gydweithwyr yn dy ymyll Da tithau, dos i'th gaban ac wyla ddagrau edifeirwch, a chwareu dy berdoneg nes gyru'r lien ysbrydion aflan i rhyw Gadarrah draw, fel na ddychwel- ont byth yn ol. Terfynwn yn awr gyda dweyd, Dos, ac na phecha mwyach." RICHARD DAVIES, WILLIAM JENKINS.

LLANSAMLET—MARWOLAETH.

GLYN NEDD-LLWYDDIANT CERDDOROL.

TONAU, ABERDULAIS.

CWMBACH-MARWOLAETH.

..'! TRENGHOLIAD TANCHWA Y…

.----+----.-----YSTALYFERA.

BRYNAMAN.

TREHARRIS.

-----_.-AT ALAW CYNLAIS, HIRWAUN.

Advertising

GWYN HALL, CASTELLNEDD.