Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
-..\-."¡Ioö.-:--:t"-:-Y--:r;…
"¡Ioö.t"Y-r; ARHOLIAD YSGRYTHYROL YSGOLION SABBOTHOL METHODISTIAID CALFIN- AIDD SIR GAERFYRDDIN. Cynaliwyd yr arholiad uchcd mewn 20 o wahanolfanau yn y sir, Ebrill laf, 1890, pryd y darfu i 177 i gael eu harolu gan y gwahanol arhelwyr apwyntiedig gan y cyfarfod misol. Blin genym na buasai ychwaneg yn sefyll, ond y mae y llafur a ddangosir yn y gwabanol bapyrau yn ddigon o dal am bob tranerth a fu yn nglyn a'r arholiad. Yr un pryd yr ydym yn mawr obeithio y daw llawermwyyflwydd- yn nesaf. Da genym weled eglwys Seisnig Llanelli wedi dyfod allan mor rhagorol. Y mae y ffaith fod cymaint o'r eglwys uchod wedi dyfod allan i sefyll yr arholiad yn dweyd llawer am werth bugail gweithgar a llwydd- ianus. Goddefer i ni hefyd ddweyd gair am Llanddarog. Daeth Llanddarog allan yn ar- dderchog. Y maent wedi cipio oddeutu haner gwobrwyon y sir. Y mae hyn eto yn dweyd llawer am lafur y bugail yn ogystal ag am lafur a gallu yr ymgeiswyr. Y mae merched ieuainc Llanddarog hefyd yn deilwdg o gan- moliaeth uchel. Y mae llawer o eglwysi ereill yn y sir yn gwneud yn dda iawn, ond y mae llawer o eglwysi cryfion a galluog heb wneud dim. Gobeithio y dont y flwyddyn nesaf yn llu mawr iawn. Wele yn canlyn yr adroddiad am eleni:-
DOSBARTH I.
DOSBARTH I. Maes Llafnr :-IoAN, pen. 1. Arholwr,-Parch. Lewis Price, Llanelli. Darfu i 28 sefyll yr arholiad, 14 o'r rhai a basiasant i gael tystysgrifau. Rhif cyflawn y papyr—100. Timothy Davies, Carmel, Llanfynydd 78 Evan Davies, Cilycwm 75 Francis Lewis, Llanelli 72 William Stephens, Llanlluan 70 David E. Thomas, Brechfa 68 Alfred Townsend, Talley 65 William Jones, Cilycwm 65 J. R. Thomas, Nantgaredig 62 David Evans, Llanlluan 59 Phillip Perkins, Cefnberach < 58 Sarah Lewis, Cwmbach 56 John Stephens, Cefnberach 53 Thomas Rees, Llangadog 53 Jonathan Davies, Cwmbach 51 Y mae y ddau gyntaf i gael eu gwobrwyo. DOSBARTH II. Maes Llaftir-" Y Gwyliau Iuddewig." Arholwr,—Parch. Thomas Price, Brechfa. Rhif cynawn y papyr-100. Darfu i 21 sefyll, a 18 basio. Henry W. Thomas, Cwmbach 92 Thomas Jones, Llanddarog 92 Mary Treharne, Llanddarog 90 Thomas Evans, Goshen House, Llandovery 90 Anne Jenkins, Lllwynybrain, Llanddarog 88 John Jones, Ffynon, Llanddarog 87 J. Vincent Thomas, Llandovery 84 Mary Morgan, Llwynbach, Llanddarog 81 R. Jane Thomas, Llanddowror 78 Rachel Margaretta Thomas, Llanddowror 78 D. F. Jones, Nantgaredig 77 Rees Gabriel, Cefnberach 72 James T. Stephens, Llanlluan 68 John Samuel, College, Llangathen 64 Thomas Davies, Pensarn 58 John Davies, Cefnberach 57 Thomas Roderick, Ffynon-las, Carmel 57 David Lloyd, Silob, Llanelli 54 Y pedwar cyntaf i gael eu gwobrwyo. DOSBARTH III. Maes Llafur,—" Swper yr Arglwydd." Arhoiwr,—Mr. W. Phillips, Ysgplfeistr, Cydweli. Rhif cyflawn,—110. Yiiigeibiodd 06, a darf u i d. saf y dcla-Li dibs barth cyntaf, gaei eu cymeradwyo fel yn deilwng o dystysgrifau. David Treharne, Llanddarog 103 May Randall, Presbyterian Chapel, Llanelli 89 Madge Williams, 11 88 Thomas Williams, Nantgaredig 87 T John Meurig Davies, Talley 87 Maria Anne Owen, Brechfa 86 Henry LI. Harries, Pres. Chapel, Llanelli 86 Mary Davies, Llystyn, Brechfa 86 John Leigh, Talley 85 Silvaaus Jones, Brechfa 85 Martin P. Thomas, Pres. Chapel, Llanelli 83 Ada Thomas, „ 81 David Theophilus Thomas, 81 W, O. Evans, Talley 80 (Y rhai uchod ydynt yn y dosbarth cyntaf, a'r rhai canlynol a gyfansoddant yr ail ddos- barth.) Fllen Davies, Cefnberach 79 Ernest Gough, Presbyterian Chapel, Llanelli 79 Thomas Morgan, Carmel, Llanfynydd 78 Dan Ivor Jones. Penlar. Llansawel 78 Esther Llewellyn, Trinity, Llanelli 77 Jane Davies, Cefnberach 74 Percy Williams, Pres. Chapel, Llanelli 74 G. Auckland, „ x 71 John Thomas, Bristol House, Llanelli 68 Jennie Williams, Pres. Chapel, Llanelli 67 Mary Catherine Richards, 67 David Samuel, Capel Newydd, Llanelli 6G A. W. G. E. Maclean Hayward, Llanelli 62 D. L. Thomas, Pres. Chapel, Llanelli 60 Ethel Ludford, „ 11 11 59 Helena Davies, Sunny Hill, Llansawel 57 John Jones, Trinity, Llanelli 56 J. MorfuddDavies, Swan Cottage, Llansawel 54 Thomas Thomas, Trinity, Llanelli 61 Y mae y ddau gyntaf o'r dosbarth blaenaf i gael eu gwobrwyo. Dosbarth IV. Maes llafur,—" Hanes Samuel." Arholwr, Miss Mary Bo 10 en, ysgoIfeistres, Llanelli. Darfu i 72 sefyll, a llwyddodd 56 i enill tystys: rifau. Rhif eyflawn-100. W. John Price, Brechfa 91 David Williams, Gilfach, Llanddarog 87 John Hopkins, Pontarddulais 86 Thomas Treharne, Llanddarog 79 Anne S. Williams, Presbyterian Chapel, Llanelli 77 Jane Barret, Talley 69 David Llewelyn, Cwmaman 69 John E. Evans, Talley 68 David Williams, Llandilo 68 David Richards, Rhandir 67 Winifred Anne Evans, Llansawel 68 David Williams, Pontarddulais 66 Janet Lewis, Cwmaman 66 D. E. Davies, Cilwern, Talley 65 David Harries, Kidwelly 65 Maggie Richards, Rhandir 65 Thomas Davies, Cefnberach 65 Evan Thomas, Coldbath, Talley 65 Sidney Leopold Morris, Kidwelly 64 Lilian Beynon, St. Clears 64 Harriet Jones, Cwmaman 64 Sarah Anne Davies, Pontarddulais 64 Thomas Ll. Evans, Pontarddulais 63 D. M. Thomas, Pontarddulais 62 Mary Anne Evans, St. Clears 61 David Bowen, Llandilo 61 Mary Davies, Llanfynydd 60 Tlios. Evans, Presbyterian Chapel, Llanelli 59 Henry Robert Morgan, Talley 59 Nelly Evans, Tanlan, Llansawel 59 T. Gabriel, Cefnberach 57 Anne Beynon, St. Clears 57 Margaret Williams, Kidwelly 56 Anne Stephens, Llanllian 56 Samuel B. Thomas, Presbyterian Church Llanelli 56 William Cleaver, Cefnberach 56 Ebenezer Williams, Kidwelly 55 Gwladys Morgan, Crofft Cottage, Kidwelly, 55 James Davies, Llandilo 55 I. T. Walters, Llanddowror 54 David Davies, Cefnberach 54 Margaretta Jane Evans, Kidwelly 54 Aldred Williams, Post Office, Llansawel 54 Mary Jones, Cefnberach 54 David Thomas, Cefnberach 54 John Thomas, Cefnberach 54 Samuel Thomas, Kidwelly 54 Jane Thomas, Kidwelly 53 Thomas Thomas, Llanlluan 53 Tom Jones, Trinity, Llanelli 53 John Griffiths, Llandilo 53 Sarah Evans, St. Clears 53 Mary Rees, Llanlluan 52 Richard Evans, Cefnberach 52 Margaret Davies, Llanfynydd 51 John Morgan, Carmel, Llanfynydd 50 Y tri cyntaf i gael eu gwobrwyo. Anfoned yr ymgeiswyr gwobrwyedig pa lyfrau a ddymunant gael, a bydd i ni anfon y gwobrwyon a'r tystysgrifau mor fuan ag sydd yn bosibl. Bydded i'r gwahanol ysgolion gofio am y casgliad. Llansawel, JAMES MORRIS, Ysg. Llandilo.
-----' EISTEDDFOD TREALAW…
EISTEDDFOD TREALAW Y GROGLITH. BEIRNIADAETH Y CYFANSODDIADAU GAN BRYNFAB. Y FFUGCHWEDL. Tair chwedl sydd yn y gystadleuaeth—eiddo Hafrenydd, Morgan Rhys, a Mabinogydd. Chwedl fer yw eiddo Hafrenydd. Y mae wedi ei hysgrifenu mewn iaith goethedig. Ond digon prin y gellir ei galw yn chwedl. Y mae yn debycach i hanesyn. Y mae yn rhy ddof ac unrhywiog fel chwedl. Nidoes ynddi ddigon o'r peth hwnw sydd yn cynhyrfu ysbryd y darllenydd. Y mae yn portreadu parch a gwobr rhinwedd yn dda iawn, ond buasai mwy o'r elfen gynhyrfus yn ychwanegu at ei thei- lyngdod. Chwedl dda iawn yw eiddo Morgan Rhys. Y mae yn profi fod yr awdwr yn deall beth yw anhebgorion chwedl. Y mae y plot yn dda iawn, a gweithiodd yr awdwr ef allan yn fedr- us dros ben. Y mae yr iaith a'r arddull yn goeth a naturiol. Ond y mae genym gyhudd- iad pwysig yn erbyn yr awdwr. Y mae amryw o'r amgylchiadau mwyaf cynhyrfus sydd yn ei chwedl wedi eu croniclo gan awdwr arall. Nid oes angen dweyd wrth Morgan Rhys ei fod wedi gwneud defnydd anonest o ystori Ceubren yr Ellyll, yr hon sydd i'w gweled yn Ceinion Llenyddiaeth Gymreig. Buasai y chwedl—' Aneuryn Puw a Bronie yn sefyll yn dyn am y fuddugoliaeth oni bai yr anonest- rwyjld. Chwedl ddirwestol sydd gan Mabinogydd, a'r arwr yw 'Wmffre Llwyd.' Mae yr awdwr wedi gwneud defnydd pwrpasol a dyddorol o'r traddodiadau am y Tylwyth Teg' fel modd- ion i osod allan Weledigaeth Wmffre Llwyd.' Mae y chwedl yn darllen yn flasus iawn Mae yr iaith yn llithrig ac yn eglur. Ac uwchlaw y ewbl, y mae i'r chwedl amcan da. Yn ddios, Mabinogydd bia y wobr.
Y LLYTHYR CARU.
Y LLYTHYR CARU. Daeth 11 o garwyr i'r maes, ac megys ag y mae carwyr yn gyffredinol yn meddu ar nod- weddion gwahaniaethol, felly hefyd y llythyr- au hyn. Mae llythyr loan Meurig yn rhy hirwyntog o'r haner. Ymdrinia a phethau mor sychlyd ac aumherthynasol i garwriaeth, fel mai prin un a gant o ferched ein' gwlad a hoflent ei ddarllen. Llythyr Seisnig yw eiddo Antony. Y mae y carwr hwn yn gwastraffu gormod o sebon ar ei anwylyd, ac y mae ei'Jlythyr lawer yn rhy ■I'aith. Ceir Uytliyr byr a phwrpasol gan Edmyg- ydd. Y mae rhan olaf ei lythyr yn dda iawn. Dechreua Gwilym o'r Cwm yn rhy hen ffas- iynol. Mae ei lythyr hefyd, fel y mwyafrif o'i gyd-garwyr, yn rhy eithafol wrth son am harddwch a swynion ei anwylyd. Ysgrifenodd Arthur Owen lythyr lied bwr- pasol, ond y mae hytrach yn sychlyd. Nid yw wedi ei eneinio gan wlith cariad. Llythyr Seisnig sydd gan Edgar. Y mae yn lythyr da iawn. Ychydig yn ehwyddedig yw ei iaith yntau wrth ddesgrifio ei deiml&dau tuag at Janet.' Llythyr twt a phwrpasol yw eiddo Gwilym. Lied dda ar y cyfan yw llythyr Emrys o-wen. Rhedeg gormod ar yr un llinell y mae. Buasai ychydig amrywiaeth yn well. Nid da gormod o ddim' mewn llythyr caru yn ogystal a rhywbeth arall. Y llythyrau goreu yn y gystadleuaeth ydynt eiddo Mentra Gwen (wag doniol yw hwn), Cynan, Arthur Tudno, a Rhys Pritchard. Y mae y pedwar llythyr hyn yn agos iawn y peth y dylai llythyr caru fod. Nid oes yn- ddynt ormod o sebon meddal a phwffyddiaeth. Byddai sylwadau rhai o'r carwyr sydd yn y gystadleuaeth hon yn ddigon i syrffedu merched rimbuctoo chwaithach genethod craffus a synwyrol Cymru. O'r pedwar a nodwyd, yr ydym yn cael llythyr Rhys Pritchard yn troi y fantol. Iddo ef gan hyny y dyfernir y wobr.
" IOAN, Y DYSGYBL ANWYL."
IOAN, Y DYSGYBL ANWYL." Daeth wyth o feirdd i'r maes ar y testyn hwn. Rhanant i ddau ddosbarth. Yn yr ail ddosbarth, ceir Pedr (1), Pedr (2), Zelotus, Erddig, a Llwchyn Bach. Rhaid taflu Pedr (1) allan o gystadleuaeth am fod ei linellau yn rhy hirion-17 o sillau. Pan gyfyngir cyfansoddiad i hyd neillduol, ystranc annheg yw gosod dwy linell yn un. Lied rydrliaethol yw y llinellau ar y cyfan. Mae llinellau Pedr (2) yn llithrig, ond lied wanaidd yw yr elfen farddonol o'r dechreu i'r diwedd. Penillion ystwyth iawn ydynt eiddo Zelotus. Y mae ynddynt amryw o ergydion barddonol pert. Ond y mae ynddynt amryw o linellau sydd yn profi fod nerth awenyddol yr awdwr yn pallu weithiau. Cywydd sydd gan Erddig. Canodd yn eglur a naturiol. Ond mae ei awen yn methu codi yn ddigon uchel o dan lyfetheiriau y gynghan- edd. Mae gwall yn y llinell:—
' A'i fawr rym i fwrw rhwyd.'.
A'i fawr rym i fwrw rhwyd.' Y mae gan Llwchyn Bach ddarn desgrif- iadol iawn, ond nid yw yn ddigon barddonol. Yn y dosbarth blaenaf ceir Philomel, Y Truan Hwn, Mathew, a Taliesin. Beirdd galluog yw y pedwar hyn, ac nid gorchwyl hawdd yw cael allan y goreu. Llinellau cryfion ac awenyddol ydynt eiddo Philomel. Ond yr ydym yn teimlo ei fod wedi manylu gormod ar rai o nodweddion y dys- gybl anwyl' ar draul esgeuluso nodweddion ereill. Llinellau barddonol iawn ydynt eiddo Y Truan Hwn. Y mae ei awen yntau wedi ei denu ar ol nodwedd neu ddwy yn rhy bell, fel nas gall droi yn ol at nodweddion ereill sydd yn galw am sylw. Pan mae cylch y cyfan- soddiad yn gyfyngedig, rhaid yw bod yn ofalus am gyfartalwch. Y mae yr awdwr wedi defn- yddio daufastardd-air, set I rholio' a 'mentro.' Nid oes ar fardd o allu Y Truan Hwn angen am ddefnyddio geiriau felly. Gan Mathew y mae y tarawiadau mwyaf cyrhaeddbell o'r oil sydd yn y gystadleuaeth ond y mae y tarawiadau hyn yn rhy wasgar- edig—gormod o linellau rhyddiaethol rhyng- ddynt. Mae rhai o'r llinellau a'u corfaniad yn anystwyth. Yr ydym yn teimlo fod y bardd yn methu cael ei draed dano yn iawn, neu ynte fod y darn wedi ei gyfansoddi mewn brys. Gan Taliesin y ceir y desgrifiad cyflawnaf o ddigon o'r 4 dysgybl anwyl.' Mae cyfansodd- iadan v tri blaenorol yn cynwys ysbonciadau awenyddol uwch, ond mae Taliesin yn cadw rhwng y ddau eithafion o'r dechreu i'r diwedd. Taliesin bia y wobr.
CYFLWYNIAD TYSTEB I'R PARCH.…
CYFLWYNIAD TYSTEB I'R PARCH. T. REES, EBENEZER, SIRHOWY. Nos Fercher, Ebrill 16eg, 1890, cynal- iwyd cyfarfod anrhegu y gwr parchedig nchod yn y capel crybwylledig, fel cydna- byddiaeth iddo am ei lafur ffyddlon yn eu mysg am yr ysbaid o 14 o flynyddau. Yr oedd y capel yn llawn yn gynar, o herwydd fod y cyfarfod wedi ei gyhoeddi i ddechreu am saith o'r gloch, er mantais i bregethwyr ac ereill oeddynt wedi dyfod o'r ardaloedd cylchynol i fyned adref gyda'r tren. Yr oedd llu mawr o weinidogion wedi dyfod yn nghyd, a siaradwyd llawer am rhinweddau Mr. Rees fel pregethwr, fel cyfaill, ac fel cymeriad teilwng o'r pwlpud. Cymerwyd y gadair gan Mr. W. Walters, un o'r diaconiaid hynaf a llanwodd hi yn deilwng o hono ei hun. Can- wyd ac areithiwyd bob yn ail, a chafwyd anerchiadau gan dri o feirdd, sef Mr. H. Mey- rick, T. Mafonwy Davies, Blaenafon, a Mr. Mark Lewis, Tredegar, (aelod o'r Bwrdd Ysgol). Cyflwynwyd yr anerchiad a ganlyn i Mr. Rees gan Mr. Lewis Morgan, yn enw yr eglwys a'r gynulleidfa, yr hwn a'i darllenodd yn rhagorol:
ANERCHIAD
ANERCHIAD I'r Parchedig Thomas Rees, gweinidog eglwys Annibynol, Sirhowy, ar derfyn y bed- waredd flwyddyn ar ddeg o'i lafur yn ein mysg, yn y flwyddyn 1890. "BARCHEDIG SYR,—Yr ydym ni, eglwys a chynulleidfa Ebenezer, Sirhowy, yn dymuno oyflwyno i chwi yr anerchiad hwn, yn nghyd a chodaid o aur fel tysteb, o'n serch tuag atoch, ac o'n hedmygedd o'ch llafur ffydd- lawn fel gweinidog da i Iesu Grist, ac o'r esiampl Gristionogol odidog a fuoch i ni, yr hon oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo, a ninau yn ewyllysgar i orfoleddu yn ei goleuni am y pedair blynedd ar ddeg sydd wedi myned heibio, er pan ydych yn ein plith. Chwf a bregethasoch i ni Air y Bywyd yn onest, grymus, ac effeithiol, gan fynegu i ni holl gynghor Duw, yn eglurhad yr Ysbryd, ac mewn nerth; a theimlwn rwymau i ddiolch i'r Hwn sydd yn peri cynydd ar yr hyn a blanwyd ac a ddyfrhawyd ddarfod iddo fen- dithio eich llafur er adeiladaeth yr eglwys a dychweliad llawer o eneidiau at Grist. Fel gweinidog, bu eich cydymdeimlad earn- aidd yn falm I lawer teimlad clwyfus, eich cynghorion bob amser yn ddyogel i'w dilyn, a bu eich arweinyddiaeth ddeheuig, eich ym. roddiad divmod, a lledneisrwydd eich doeth- ineb yn foadion i sicrbau nndeb tangnefeddus, a chydweithrediad unfrydol, nes yr ydym ar hyn o bryd yn gynulleidfa fawr a chysurus, mewn capel prydferth a diddyled. Gyda golwg ar gylchoedd eangach, y mae yn hyfryd genym ddwyn tystiolaeth fod eich parodrwydd gwastadol i gynorthwyo gyda phob symudiad crefyddol, dirwestol, neu wleidyddol, yn hawlio i chwi y parch a'r edmygedd mwyaf diffaant. Dymunwn hefyd yn y modd mwyaf parchus ddatgan ein teimladau llawen a dedwydd parthed ymddygiad prydferth a serohogrwydd rhadlawn eich anwyl briod, Mrs. Rees, yr hon yn ddiau, drwy ei chydymdeimlod llawn ag efengyl Crist, sydd yn gynorthwy nid bychan i chwi yn ngwaith y weinidogaetb. Ac yn awr, ein gweddi yw, ar i Fugail Mawr y defaid ganiatau i chwi flynyddoedd meith. ion eto i fod yn ein mysg yn porthi praidd Duw, ac y bydd iddo eich bendithio chwi a'r eiddoch yn helaeth yn mhob daioni. Duw Hollalluog fyddo eich gwobr mawr iawn. Arwyddwyd dros yr eglwys gan y diacon- iaid.— WM. WALTERS, D. S. STEPHENS, HY. JONBS, THOS. GRIFFITHS. WATKIN JONES, THOS. BEBB, WM. BEBB, THOS. HERBERT, DL. JONES, JOHN DAVIES, RICHARD JAMES, BENJAMIN PHILLIPS. JOHN JONES, HENRY JONES, Trysorydd, B. PHILLIPS, Ysgrifenydd. Yna cyflwynwyd pwrs iddo yn cynwys 50p. 10s., gan Mrs. W. Walters, priod anwyl y cadeirydd. Cydnabyddodd yntau yn hynod o dyner a phwrpasol. Teg ydyw dweyd fod yr anerchiad wedi ei wneud yn gampus gan Sergeant Brothers, Abergafeni. Y mae y frame yn dderw cerfiedig, ao edrycha yn or- phenedig, a bydd yn addum i fur efrydfa Mr. Rees. Dygwyd y gwaith yn mlaen gan bwyllgor o ferched a gwragedd, ac y mae clod mawr yn ddyledus iddynt am y modd deheuig yr aethant drwy y gwaith. Casglwyd tua 55p., ac yr oedd eu trefniadau i fyny i'r nod. Cafwyd rhoddion o Peniel a Bwlchcarn, ger Caerfyrddin, yr ardal lie y ganwyd ac y bed- yddiwyd Mr. Rees. Cafwyd rhodd hefyd o eglwys James:street, Blaenafon, yr hon a sef- ydlwyd gan Mr. Rees. Yr oedd yn ddrwg genym fod trysoryddes y dysteb, Mrs. Phil- lips, yn absenol o herwydd cystudd. Ysgrif- enyddes y pwyllgor oeda Miss Walters (Lhnos Howy), ac yr oedd yn alluog iawn yn ei swydd. Talwyd dyled Ebenezer ycnydig flynyddau yn o gan y pwyllgor hwn—talwyd tua 160p., a chliriwyd y ddyled mewn ychydig fisoedd, felly gwelir fod y rhai hyn yn allu mawr yn yr eglwys yma, ac hyderwn fod oes hir iddynt i wasanaethu cymdeithas yn y ffordd hon. Dymunir hir oes i Mr. Rees i fod yn fendith i'r ardal, ac i grefydd yn y lie. Y mae yn sefyll heddyw yn uchel yn marn y cymydogaethau hyn, ac yn anwyl yn mynwes ei eglwys. Boed nodded y nef arno el a'i deulu yw dymuniad diffuantaf eich GOHEBYDD.
CYMDEITHAS GYDWEITHREDOL FERNDALE.
CYMDEITHAS GYDWEITHREDOL FERNDALE. MR. QOL.,—Gwelwch yn dda y waith hon eto roddi ychydig ofod yn eich newyddiadur er rhoddi yehydig p hanes y gymdeithas uchod, am y bydd yn dda gan gyfeillion Cyd- weithrediad (Co-operation) glywed ei bod yn dyfod yn mlaen mor rhagorol. Nos lau, Ebrill 17eg, cynaliwyd cyfarfod cynredinol chwarterol, pryd y darllenwyd yn nghyntaf daflen o'r cyfrifon am y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 31,1889, ac y rhoddwyd ar ddeall fod y gymdeithas mewn sefyllfa llew- yrchus iawn fel y dengys y rhifnodau a ganlyn: Cyfanswm y derbyniadau am y flwyddyn oedd 43,300p. cynydd ar y flwyddyn flsenorol o 5,797p. Yr oedd masnach y gym- deithas am y flwyddyn yn 48,064p.; cynydd o 7,359. Mewn 11aw ar ddiwedd y flwyddyn, 2,822p.; a 3,000p. yn yr ariandy yn dwyn llog, yn gwneud y cyfanswm mewn Haw yn 5,822p,, a thysorfa bentyredig o l,092p. Y mae y gym- deithas wedi cynyadu mewn gwerth yn ystod y flwyddyn o 3,188p., acyn ei henillion (profits) 2,045p., ac er nad yw ond plentyn naw oed, y mae wedi cynyddu mewn nerth a chorffolaeth yn ystod yr amser hwn yn fwy nag y oynydd- odd y gymdeithas gryfaf yn Nghymru o'r un natur mewn ugain mlynedd. Bu llawer o guro arni pan oedd yn ieuanc; diystyrwyd hi gan lawer, a dywedwyd pob drygair yn ei erbyn, ao ni ohydnabyddid hi o un dylanwad o gwbl, ond erbyn heddyw y mae y rhod wedi troi, ac y mae rhai yn ofni ao yn crynu. Teimlir ei dylanwad nid yn unig yn Ferndale, ond filldiroedd o amgylcb. Xalwyd tewy y flwyddyn ddiweddaf ar gyfartaledd y swm o dri swllt y bunt o dividend. Wedi darllen y daflen flynyddol, cymerad- wywyd hi yn unfrydol, yna awd yn mlaen i ddarllen y aaflen chwarterol, sef y chwarter cyntaf o'r flwyddyn 1890, a'r ddeunawfed-ar- hugain o ddechreuad y gymdeithas, pryd y rhoddwyd ar ddeall fod y gymdeithas yn par- hau i fyned rhag ei blaen mewn llwyddiant, fel y dengys y riiifnodau canlynol:-Swm y gwerthiadau yn y per nwyddau, &c., (groceries, Sc.), oedd 10,169p., cynydd ar y chwarter blaenorol o 69p. 15s. yn wythnosol; swm gwerthiadau y cigydd am y chwarter oedd l,654p., cynydd ar y chwarter blaenorol o 26p. 12s. yn wythnosol. Cyfanswm y gwerth- iadau am y chwarter oedd ll,825p., cynydd ar y chwarter blaenorol o lOlp. yn wythnosol. Arian mewn Haw ar ddiwedd y chwarter 5,697p., a 3,000p. yn yr ariandy yn dwyn Hog, yn gwneud y cyfanswm mewn llawyn 8,697p., a chanddi drysorfa bentyredig o l,110p., a phawb o'i gofynwyr wedi eu talu. Talwyd y dividend ar y groceries, Sc., yn ol pump swllt y bunt ar y pryniadau, ac ar y cig 3s. 4c. y bunt ar y pryniadau. Rhif yr aelodau ar ddi- wedd y chwarter oedd 956-byddant yn fil ar fyr. Rhif yr aelodau yn prynu cig y chwarter diweddaf oedd 516, dyma y nifer fwyaf eto yn y rhan hon o'r fasnach. Felly gwelir fod y gymdeithas yn casglu nerth fel y mae ei blynyddoedd yn amlhan. Y mae ceisiadau dyddiol am aelodiaeth, ond cyn y gallwn dderbyn llawer i fewn eto, bydd rhaid i ni ymestyn cortynau ein preswylfeydd o herwydd fod ein maelfa yn bresenol yn rhy fach i wneud chwareu teg a'r aelodau sydd ynddi yn awr, heb son am dderbyn rhagor i fewn. Pan awd i ymofyn tir tua wyth mlyn- edd yn ol i adeiladu, yr oedd y pwyllgor gweithredol y pryd hwnw yn credu fod yr an- turiaeth o godi y faelfa bresenol yn anferth o fawr, ac nid oedd modd yn y byd eu darbwyllo i gymeryd y tir nesaf atynt at wasanaeth y cigydd; ond wedi hyny gorfu i'r pwyllgor gy- meryd tir yn mhell oddiwrth eu hystordy, ac erbyn hyn y maent yn rhwym o gredu fod y faelfa yn rhy fechan o lawer, ac y maent yn penderfynu myned ati o ddifrif i ymhelaethu y lie, fel y gellir rhoddi rhagor o bersonau i wasanaethu ar yr aelodau, a rhoddi pob rhwyddineb i'r fasnach fyned rhag ei blaen. Nid oes eisieu i mi ddweyd fod y cyfarfod wedi cymeradwyo y daflen chwarterol yn un- frydol. Cafwyd clywed rhagor na'r uchod yn y cyfarfod, ond nid ydym i ddweyd y cyfryw yma, o herwydd mai y ffyddloniaid yn unig sydd i gael clywed hyny, a chynghorwn bawb o'r aelodau i fod yn bresenol yn y cyfarfod chwarterol, er iddynt gael clywed yr holl fan- ylion perthynol i'r gymdeithas. Yr oedd yn dda genym weled cymaint wedi dyfod yn nghya, ond dylai pob aelod gymeryd dyddor- nghya, ond dylai pob aelod gymeryd dyddor- deb yn y mudiad, a rhoddi ei bresenoldeb yn y cyfarfodydd hyn. Yr eiddoch, yn ddidwylt; AELOD.
GORSEDD Y BEIRDD.
GORSEDD Y BEIRDD. ARHOLIKDAU AM URDDAU YN EIS- TEDDFOD BANGOR Am Urdd Bardd, arholir gan Hwfa Mon Dyfed, a Berw, yn Awdl Berw ar Y Fren- hines Victoria Arwrgerdd Cadvan ar John Penry;" Pryddest Glanffrwd ar "Y Gym- raeg;" (Gwelir Cyfansoddiadau Eisteddfod Llundcmi 1887); a Gweithiau Barddonol Goronwy Owen. Am Urdd Ofydd, bydd Elis Wyn o Wyrfai, Cadvan, a D. Adams, yn arholi yn Nghramadeg Cymraeg Dewi Mon, ac ysgrifau Elfed yn Y Genmem ar ,,Farddoniaeth Gymreig: Hanes- yddol a Beirniadol." Ymddengys pob manlyion am le ac amser yr Arholiadau yn Nhrefnlen ddyddiol yr Eisteddfod. "1") S. Y mae'r Orscdd yn unfrvdol wedi cymeradwyo ypenderfyniadibeidio rhoi Urdd Bardd nac ychwaith Urdd Ofydd (oddigerth Urdd Anrhydeddus) i neb, o hyn allan, oni fyddo wedi myned drwy yr arholiad yn llwy- ddianus.
ADOLYGIAD AR GYMANFA Y BEDYDDWYR.
ADOLYGIAD AR GYMANFA Y BEDYDD- WYR. Y mae Cymanfa y Groglith a'r Pasg, 1890, i'w rhifo bellach gyda'r gorphenol. Ffurfia un Ebenezer newydd, ond saif tu ol i'r gwersyll; a chan mai deddf anwrthwynebol yw i ni fyned yn mlaen, nis gallwn wneud dim ond edrych ar ei thyrau yn ymgodi eu penau yn erbyn gorwel y gorphenol. Tra y mae y Gymanfa ei hun gyda'r pethau a fu, nid felly ei dylanwad. Er y gall y tonau a achosodd ymgolli i lygad dynol yn mhlith y myrddiynau o ddylanwadau ffafriol a gwrthwynebol, y mae deddf parhad gallu a nerth yn ein sicrhau y bydd i'w dylanwadau ymdroellu ar draethau tragwyddoldeb. Nid oes genyf ond gobeithio y bydd i'r dylanwadau hyny fod yn dda di- gymysg i bawb a fynychasant y cyfarfodydd. Ofnus oeddem o lwyddiant y Gymanfa. Yn ystod y blynyddau diweddaf, y mae lleihad amlwg yn y cynulleidfaoedd i'r hyn fuont yn oea euraidd eu hanes, pan y tyrai y lluoedd, fel tyrfa yn cadw gwyl, i gynteddu ty Dduw ryw haner awr neu awr cyn dechreu yr oedfaon, ao y methai hyd yn nod y rhai a ddelent yn amserol gael mynediad i mewn, neu o leiaf, gael lle i eistedd. Pryd hwnw gwarchodai pobl gartref yn nhymhorau y gwyliau, a da oedd ganddynt fyned i fwynhau y gwleddoedd crefyddol darparedig. Ond wedi dyfodiad yr oes haiarn i'w hanterth, a'r trens rhad yn rhedeg i bob man, a llawer o swn byddarol a thawch taglyd y ddinas i fwynhau tawelwch paradwysaidd ac awyr iachusol hen ardaloedd a chartrefi eu genedigaeth yn hen Walia Wen. Ofnem y buasai ein cynulleidfaoedd y yn waelach eleni nag erioed, yn neillduol gan fod y tywydd mor ddymunol a phrofedigaethus. Siomwyd ni, ao nid ydym yn ddigon hunanol i gweryla a'n siomedigaeth. Yn ol yr hanes a gawsom, yr oed6l cynulleidfaoedd da yn mhob capel, gwell nag a gafwyd am rai blynyddau. Peth arall a achosai bryder i lawer oedd fod llawer o waed newydd wedi ei ddwyn i fewn i blith pregethwyr gwahoddedig y Gymanfa., Nid oedd ond dau neu dri o honynt yn adna- byddus i eglwysi y cylch, a dim ond dau o'r deg oeddynt yn ymylu ar drothwy henaint. Hwyrach fod llawer yn edrych ar y pregeth- wyr, yn ngwyneb eu hanwybodaeth o honynt, fel defnyddiau amrwd, ac yn analluog i ddal i fyny anrhydedd pwlpud y bedyddwyr. Ond siomwyd pawb ar yr ocbr oreu, gan i'r gwaed newydd brofi ei hun mor las a'r hen waed ty- wysogol anrhydeddus. Onid yw yr eglwysi yn amddifadu eu hunain o'r talentau dysgleiriaf a'r doniau gwerthfawrocaf drwy alw yr un rhai byth a hefyd i'w cylchwyliau ? Onid yw enwadau yn gwneud cam a hwynt eu hunain drwy gyfyngu eu hunain i gylch bychan o bregethwyr enwog, y rhai a elwir bob amser i gyfarfodydd mawrion ? Onid yw hyny yn rhoddi argraff ar yr anwybodus o hanes yr enwad nad oes ond ychydig o bregethwyr ganddynt, a bod y gweddill yn silod salw islaw sylw ? Hefyd, onid yw hyny yn tueddu i ddigaloni dynion ieuainc galluog ac addawol, a thrwy hyny niweidio yr enwad y perthynant iddo a niweidio crefydd Mab Duw ? Dylai pob eglwys, wrth alw dau bregethwr i gyfar- fod mawr, ddewis un adnabyddus i'r lluaws, yr hyn a roddai, nid yn unig newydd-deb yn y eyfarfodydd, ond safle newydd i'r enwad, ac i grefydd hefyd. Nid ydym ac nis gallwn an- wybyddu pregethwyr galluog poblogaidd ac adnabyddus, ond carem ychwanegu at eu nifer. Trodd yr ymbrawf allan eleni gyda'r Bedyddwyr yn llwyddiant perffaith, a gobeith- iwn y daw yr eithriad yn rheol, ac na chedwir yn dragywydd at hen linellau ceidwadol. Rhaid i enwadau, fel unigolion, anturio, er bod yn agored i siomedigaethau a methiantau, os ydynt i lwyddo. Mewn canlyniad i gyfarfodydd y Gymanfa, teimlwn ein hymddiriedaeth yn dyfnhau yn mhwlpud y Bedyddwyr. Yn un peth, nid oes amheuaeth nad yw pregethwyr y Bedyddwyr yn berffaith deyrngarol i egwyddorion dwyfol ddatguddiad ysbrydoledig. Ni chlywsom sain aneglur mewn un bregeth, ac ni theimlasoiL fod neb am wneud cyfaddawd ag amheuon ac ysbryd yr oes. Pregethent yr hen wirionedd- au sylfaenol gyda newydd-deb symbyliadol, a melusder dymunol. Ond tra y cadwent at yr hen wirioneddau, amrywient yn eu talentau. Nid oedd dau yr un fath. Cafwyd pregethau duwinyddol, athrawiaethol, esboniadol, ac ymarferel. Yr oedd rhai o'r pregethwyr yn feibion y daran, ac ereill yn feibion dydd- anwoh. Cawsom ein synu gan y cryf a'r nerthol, a'n swyno gan y tlws a'r arddunol. Yr oedd rhai wedi eu llwytho a bendithion efengyl, ac ereill a melldithion deddf. Clyw- som ambell un wedi ei danio gan genadwri baich yr Arglwydd yn erbyn arferion amheus a llygredig yr oes, ac nid anghofiwn yn fuan y bregeth ar gadwraeth y Sabboth, yr hon oedd yn well na bod yn alluog, gan ei bod yn gynyrch calon wedi ei thanio gan sel dros santeiddrwydd deddfauyr Arglwydd. Byddai yn fendith pe traddodai pregethwyr dyeithr ambell bregeth o'r nodwedd hyn mewn cyfar- fodydd mawrion, gan y gallant wneud hyny yn fwy didramgwydd ac effeithiol na'r gwein- idog. Teimlwn mai un rhagoriaeth canmol- adwy yn mhlith pregethwyr y Bedyddwyr yw yr amrywiaeth bron diderfyn a'u nodweddant. Ac y maent mor anghlerigol yn eu gwisgoedd ag y gallant fod. Nid oes ganddynt y cad- achan a'r gwasgodau, a'r cotiau, a'r hetiau sydd fel pe byddent wedi eu lladrata o ryw siop deiliwr pabyddol. Gobeithiwn y cad- want bob amser at symlrwydd a naturioldeb yn mhob peth perthynol i'w safle a'u gwaith pwysig. Nis gallwn lai na chyfeirio at y cyfarfod dirwestol yn Bousfield nos Sadwrn. Yr oedd yn gyfarfod rhagorol, a phrofai fod y Bedydd- wyr yn flaenllaw gyda'r achos dirwestol. Un peth a'n tarawodd yn ddymunol oedd cael ar ddeall fod gweinidogion y Bedyddwyr yn teimlo dyddordeb dwfn, ac yn cymeryd rhan flaenllaw gyda'r gobeithluoedd. Y mae hyn yn addawol iawn. Os yw y byd i ddyfod yn sobr, rhaid gwneud dirwestwyr o'r plant. Ynddynt hwy y mae gobaith dirwestiaeth a chrefydd, a aylai y dyddordeb ynddynt gy- nyddu mewn canlyniad. Y mae cyfarfodydd y Gymanfa wedi achosi i ni deimlo yn llawen a hytryd, a gobeithiwn y bydd y cynhauaf yn deilwng o'r hau. Y gweinidogion a fu yn gwasanaethu yn y Gymanfa eleni oeddynt y Parchn. Dr. Wil- liams, Rymni; W. Harris, Heolyfelin, Aber- dar; P. Williams (Pedr Hir), Tredegar; J. Williams, Aberteifi; J. Thomas, Blaenyffos; T. Jones, Middlesborough; E. Evans, Amlwch; M. James, Bedwas; W. Evans, Llangynidr; Silas Morris, M.A., Llangollen; T. T. Jones, Caerdydd; D. Thomas, Cwm- bach, a W. H. Jones, Brynsiencyn, Mon.
. TRECYNON-MARWOLAETH.
TRECYNON-MARWOLAETH. Ebrill 17eg, yn ei phreswylfod, 65, Mill St., Trecynon, yn 54 mlwydd oed, Margaret, gweddw y diweddar gyfaill calon a Christion cywir, Mr. Isaac Davies, gynt yn flaenor yn eglwys Carmel, Trecynon. Yr oedd gwrth- ddrych ein sylw yn gwaelu yn ei hiechyd er ys misoedd, ond yn cadw ar ei thraed cyhyd g y medrai. Gorfu iddi ildio o'r diwedd i gadw ei gwely, dydd Sul, y 14eg o'r mis hwn, ac ar v dydd Iau canlynol ehedodd ei hysbryd at Dclu.w, yr bwn a'i rhoes Y dydd Linn can- lynol ymgasglodd tyrfa fawr o'i chydnabod a'i chyfeillion yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol. Awd i gapel Eben- ezer, lie y cynhelid gwasanaeth crefyddol. Dechreuwyd gan y Parch, D. M. Jones, Carmel, trwy ddarllen rhan o air Duw a gweddio, a rhoddwyd ychydig sylwadau rhag- orol a phwrpasol iawn gan y Parch. J. Grawys Jones, ei gweinidog. Yna, aethpwyd yn or- ymdaith tua'r gladdfa gyhoeddus, lie y dodwyd ei chorff i orwedd gyda phriod anwyl. Gad- awodd ar ei hoi ddwy ferch fach i alaiu eu colled. Yr Arglwydd yn ei ras a'u cysuro yn eu gofid, ac a gymero ofal o honynt. Chwareu- wyd y Dead March' ar yr organ gan y cyfaill Thos. Lewis, Ebenezer.—CLUDYDD.
AT Y PARCH. MORRIS MORGAN,…
AT Y PARCH. MORRIS MORGAN, TRE- FORIS. SYR,—A fyddwch chwi mor garedig a rhoddi ychydig eglurhad ar y llinellau canlynol ydynt i'w gweled ar tudalen 5 o Adroddiad Blyn- yddol Cymanfa Ddirwestol Deheudir Cymru a Sir Fynwy am y flwyddyn yn terfynu Medi 30ain, 1889."? Dan y penawd, Dirwest ac Etholiad y Cynghor Sirol, dywedwch—" Cur- wyd noddwyr y fasnach (sef y fasnach feddwol mi feddyliwn) ar hyd yr boll linell, a hyny yn ami gan arwyr dirwestol." Fel prawf o hyn, enwch Merthyr yn dychwelyd yr Henadur Thomas Williams, Llywydd y Gymanfa, ac ewch yn y blaen, a dywedwch—" yn gystal a nifer o ddosbarthiadau yn y Rhondda, lie y gwelid y glowyr yn cludoarweinwyr dirwestol dros ben y boneddigion lleol wenent ar y fas- nach ddinystriol." Mae amryw o honom tua'r Bodringallt yma yn teimlo yn ddwys o herwydd yr awgrym- ladau deflir allan drwy y brawddegau uchod. Un o'r boneddigion llcol a fethodd fyned i fewn oedd y diweddar Mr. David Evans, Bodring- allt, a chariodd y glowyr ereill y rhai nad oeddynt yn arweinwyr dirwestol mewn un modd dros ei ben ef. Nid oedd Mr. Evans yn ddirwestwr proffesedig, ond pell iawn oedd o fod yn un a wenau ar y fasnach ddinystriol. Un arall a orchfygwyd oedd Mr. Hood, Llwynpia, ond nis gellir ei restri ef gyda'r boneddigion lleol, oblegyd yn Nghaerdydd y taigianai efe. Ac nid ydyw ef yn givenu ar y fasnach. Un arall a orchfygwyd oedd Mr. Idris Wil- liams, Brynglas, yr hwn a ystyrir yn ddir- westwr, ac a gydnabyddir felly drwy y Cwm hwn. Yr hwn hefyd sydd yn cyfranu yn flyn- yddol at eich cymdeithas chwi, nid yn unig ar adeg yr etholiad, neu mewn canlyniad i hyny, ond flynyddau cyn bod son am y County Council." Nid ydyw chwaith yn gwenu ar y fasnach ddinystriol. Gorchfygwyd hefyd Mr. Thomas Griffiths, Manager Cymer Colliery, gan Dr. Naunton Davies, ond nid am fod y Dr. parchus yn ddir- westwr, nac ychwaith am fod Mr. Griffiths yn un a wenai ar y famach ddinystriol y bu hyny. Gellir dweyd yr un modd am orchfygiad Mr. Thomas Jones, Maindy. 0, ie, gyda Haw, sut y bu gyda'r Parch. Hugh Jones, Penygraig, mae ef yn un o'r dirwestwyr mwyaf selog yn y Rhondda; eto, gorchfygwyd ef gan Mr. Thomas Jones, boneddwr lleol, ond nid mewn un modd yn ddirwestwr, nac ychwaith yn un sydd yn givenu ar y fasnaeh ddinystriol. Diau y gwel y Parch. Morris Morgan fod ychydig eglurhad yn ofynol ac yn iawn yn yr amgylchiad hwn. Gwyr pawb pwy a orchfygwyd, a dylai pawb o ddarllenwyr yr adroddiad gael gwy- bod nad oedd neb o'r cyfryw yn foneddigion lleol a wenent ar y fasnach ddinystriol. Yr eiddoch, J. W. B.
:! DYFFRYN RHONDDA.
DYFFRYN RHONDDA. Dydd Llun, Ebrill 21ain, ydoedd dydd mawr yr wyl gan gantorion y Methodistiaid Calfin- i. aidd yn nosbarth uchaf y Rhondda. Cynal- iwyd cyfarfod y boreu yn Bethel, Heolfach, c. a'r prydnawn a'r hwyr yn Jerusalem, Ton. n Fel ag y dysgwylir mewn ardal lie y mae v cerddoriaeth yn cael y fath sylw, yr oedd y canu yn ardderchog. Nid ydym yn coflo e clywed gwell erioed yr oedd vr ysbrydiaeth dwyfol sydd yn moliant plant Duw i'w deimlo [. yn nerthol iawn trwy y dydd, ac yn cael effaith annileadwy ar y cynulleidfaoedd en- lt fawr oedd yn gwrando. Y mae cymanfaoedd l, canu y dosbarth hwn yn enwog erioed, ond a, yn ddibetrus gallwn ddweyd am yr un eleni, ? ti a ragoraist arnynt oil.' r Ond nid yw yn rhyfedd eu bod cystal pan I gofiwn fod prif arweinydd corawl Deheudir r Cymru wedi bod yn eu parotoi yn y Rehearsals, i sef Mr. D. T. Prosser (Eos Cynlais), ac er mai byr oedd yr amser gafodd, eto gwnaeth ei ran yn ganmoladwy. Arweinydd y gymanfa oedd Mr. Tom Price, Merthyr; dyraa y tro cyntaf iddo fod yn arwain cymanfa y dosbarth hwn, a llanwodd ei swydd yn anrhydeddus. Gyda'r nifer arferol o donau, yr anthemau l ganwyd eleni oeddynt, Gweddi yr Arglwydd' (Dr. Parry), 'Arglwydd, chwiliaist ac adna- buost fl (Edward Jones), a I Cofia yn awr dy Greawdwr' (T. Price). Mewn cydsyniad i ddymuniad cyffredinol, canwyd yr olaf ddwy- waith. Gobeithio y dilynir y cynghorion dif- rifol gafwyd trwy y dydd a bendith y Nef- oedd, canys yn sicr yr oedd yr holl wasanaeth yn Haw yr Arglwydd. UN OEDD YNO.
. TAITH 0 FFOREST FACE I AWSTRALIA.
TAITH 0 FFOREST FACE I AWSTRALIA. GAN D. EVANS, GYNT 0 RAVEN HILL. [Parhad.] Llun, Medi 30ain. —Diwrnod twym iawn heddyw, heb awel yh chwythu, pob un ar ei eithaf yn ceisio cynyrchu tipyn o awyr iddo ei hun drwy wneud fan o'i het neu rywbeth cyfleus oedd gerllaw. Teimlwn yn gampus y diwrnodau hyn, yr hinsawdd yn cytuno a mi yn rhagorol. Cawsom dipyn o gyngherdd yn yr hwyr, y mae genym ddigon o offer cerdd yma-perdoneg, telyn, banjo, a chrwth,# ae y mae yma chwareuwyr da iawn hefyd. Cysgu ar y bwrdd, wedi teithio 323 o filldiroedd. Mawrth, Hydref laf.—Twym iawn heddyw eto, ona fod awel fach ddymunol yn chwythu; gweled pysgod mawrion y prydnawn. Cysgu ar y bwrdd heno, wedi teithio 322 o filldiroedd. Mercher, Hydref 2il.Boreu braf, myned heibio Eden, ond prin gweled y tir oeddem, colli golwg arno ganol dydd. Cysgu ar y bwrdd eto, wedi teithio 316 o filldiroedd, Iau, 3ydd.—Parhau yn dwym o hyd, cael cipolwg ar dir Affrica ganol dydd. Cododd y gwynt yn y prydnawn, ac ysgydwodd dipyn ar yr hen dy, nes i rai o'r teithwyr deimlo ei effeithiau, ac yn wir yr oedd ambell un yn ddoniol iawn hefyd. Pe buasent wedi bod wrth y dobin' am ddiwrnod cyfan, ni fuasent yn fwy meddw. Cysgu yn y bunk, gaufod yr hin yn oerach. Myned i'r gwely am naw, wedi teithio 320 o filldiroedd. Gwener, 4ydd.—Codi am saith; yr oedd llawer o'r rhai oedd yn cysgu ar y bwrdd wedi haner eu boddi, canys yr oedd wedi bod yn noswaith arw iawn, y mor yn golchi dros y bwrdd, ond y mae wedi tawelu erbyn heddyw. Gwlawio yn drwm trwy y boreu. Gwelais lawer o adar hedegog yn yr hwyr; myned i'r gwely am naw, wedi teithio 322 o filldiroedd. 5ed, 6ed, 7fed, 8fed.-Dim yn neillduol, mor ar bob llaw. Mercher, 9fed.-Cyrhaeddasom Celcmbo am bedwar yn y boreu, a chyn pen awr, yr oedd y llong wedi ei hanigyl-hd gan gychod yn llawn o ffrwythau i'w gwerthu. Ar oi boieu- fwyd, aethum i gael golwg ar y lie. Wed cyflogi cyfarwyddwr, bum yn cerddrd tipyn o amgylch, ond yr oedd yr hin mor boeth fel y penderfynais hurio cerbyd. Y lie cyntaf aelt.oin iddo oedd y Ocrddi..i-id oedd yiiia lawer o amrywiaeth, ond yr oedd pobpeth yn newydd i mi. Yr oedd yn dreat gweled y cocoa-nuts yn tyfu, y mae Ceylon yn cael ei chuddio gan y coed hyn. Yr oedd y Ring Cocoa-nuts' yn edrych yn bert, mor felyn ag aur, a'u dail tua naw a deuddeg troedfedd o hyd. Oddiyno aethum i'r Amgueddfa, yr hon oedd yn dda iawn. Aethom yn ol ar hyd ffordd arall i gael edrych am y dyn enwog hwnw Arabi Pasha. Wedi dyfod o hyd i'r ty, aethom i fewn, ac 0 I'r syndod a'm meddian- odd wrth feddwl fy mod wyneb-yn-wyneb a'r gwr y clywais gymaint o son am dano yn yr Hen Wlad. Ysgydwodd law, a dywedodd ei fod yn falch i'n gweled, ac wrth holi tipyn arno, deallasom nad oedd dim yn ei flino, ond y carai weled ei wraig a'i blant. Gwaherddir hyny iddo; y mae rhyddid iddo fyned trwy Ynys Ceylon, ond ddim i'r caerau wrth ochr y mor. Wedi ysgwyd ilaw eilwaith, ymadaw- som, diolchodd i ni am ein hymweliad, ao aethom yn ol i'r llong. Codi yr angor an. bedwar yn y prydnawn, "i fyned i Albany, wedi cymeryd 3,000 o dynelli o lo i fewn. Myned i'r gwely am ddeg; o'r 5ed i'r 9fed, telthiasom 1135 o filldiroedd. Iau, lOfed.—Codi am saith, gwlawio cawod ydd trymion trwy y dydd, a'r hen dy dipyn yn anesmwyth; llawer yn achwyn heddyw eto eu bod yn glaf. Myned i'r gwely am unarddeg wedi teithio 277 o filldiroedd. Gwener, lleg.—Codi am saith, boreu gwlyb, a'r gwynt yn chwythu yr hen lestr fel pe bu- asai yn ddig wrtho, ond yn myned yn gyflym tuag yn mlaen, serch hyny. I'r gwely am ddeg, wedi teithio 363 o fllldiroedd. (I'w barhau.)
NEUADD DDIRWESTOL, ABERDAR.
NEUADD DDIRWESTOL, ABERDAR. Nos Lun diweddaf, Ebrill 21, 1890, o dan nawdd amryw o foneddigion yr ardal, rhodd- wyd perfformiad o'r Gantata enwog, Holi- day Concert" (Murdoch), gan blant perthyn- ol i gapel yr Annibynwyr yn Salem, Robert's Town. Yr oeddynt yn edrych yn drwsiadus anghyffredin, ac yn myned trwy eu gwaith yn rhagorol iawn. Arweiniwyd gan Mr. R. Hop- kin, A.C., arweinydd y Trecynon Glee Soctety. Cyfeiliwyd ar yr organ gan Mr. Thomas Thomas, Ysgol Feistr, Robert's Town, ac ar y perdonegau gan y cyfeillion Mr. Wigley a Mr. Jenkin Morris, Trecynon. Yr oedd yno gyn- ulliad rhagorol. Gan fod y Neuadd mor llawn y noswaith hono, penderfynwyd rhoddi ail berfformiad nos Fercher, pryd y cafwyd per- fformiad da. Gobeithio y cant dipyn, o elw oddiwrth y cyngherddau hyn. Mae clod mawr yn ddyledus i Mr. R. Hopkin am y dra- fferth a'r dyfa,l-barhad y mae wedi ei ddangos yn nygiad y plant i'r fath berffeithrwydd. Pob llwydd iddo yw gwir ddymuniad CLUDYDD.
GWYN HALL, CASTELLNEDD.
GWYN HALL, CASTELLNEDD. Nos Iau, Ebrill 17eg, rhoddodd cor cape] Zion, Sciwen, yn fwyaf neillduol, ddatganiad o'r draethgan ardderchog, 'Judas Maccabeus' (Handel), yn y Neuadd uchod, yn cael eu cyn. orthwyo gan gerddorfa fechan o offerynau tant a choed, dan ofal Miss Meta Scott, R.A.M. Chwareuwyd ar yr organ yn bur ofalus gan y foneddiges ieuanc, ond ym- arferol iawn, Miss C. A. Jones, Neath (Cert. Hon. R.A.M.), yn cael ei chynorthwyo gan yr unawdwyr enwog canlynol:—Soprano, Miss Julia Jones Contralto, Miss Hannah Jones Tenor, Mr. William Evans; Bass, Mr. David Hughes; yr oil o'r R.A.M. Nod yr anifail yn ol rhai,' hwrdd' yn ol ereill; bid a fyno am hynyna, mae yn dda genyf ddweyd fod y cyfeillion a'r cyfeillesau hyn, wedi gwneud eu a