Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
[No title]
I MORGAN 'LAM MORGAN.
NOBEL NEWYDD: \ MORGAN 'LAM…
NOBEL NEWYDD: MORGAN 'LAM MORGAN, o BENCHAIG- YB-EESG: 3STEU Ofergoeledcl, Anwybodaeth., a Rhagfarn. GAN GLANFFRWD. PENOD VIII. Edrych, ddarllenydd, ar yr hen wr egwan acw ar Bencraig-yi-Hesg, a'r ddwy ffon yn araf ymlusgo i gysgod yr Hen Gelynen Fawr." Dacw fe yn eistedd mewn Leu gadair dan frig y goeden. Mae yn wylo, ac nid oes neb gerllaw iddo. Bu If an, o'r Priordy, gydag ef y ddoe, ond heddyw mae wrtho ei hun. Nid oes un amaethwr yn d'od yn agos iddo; na, nid ydynt yn edrych tua Chraig-yr-Hesg; pe gallent, ZD chwalent yr hen graig i wneud gwell gwas- asanaeth trwy lanw i fyny Bwll diwaelod y Berw. Ond dacw yr hen wr o hyd o dan y Gelynen. Ah onid oes swyn an- esboniadwy yn nglyn ag hyd yn nod ambell bren a chareg? O! oes, yr hen dderwen anwyl a ddringasom ganwaith pan yn blant!—yr hen bren iorwg tew lie yr ym- guddiem rhag ein gilydd!—yr hen gareg dros yr hon yr arferem neidio wrth fyned a d'od o'r ysgol!—maent yn anwyl i ni trwy ein bywyd! 0 wynt! bydd dirion wrth yr hen dderwen t Goedwr paid a thori y pren iorwg! 0, arbed ef! Mae ganddo iaith; oes, mae ganddo galon mae cydym- deimlad rhyngom ni. 0, na ddryllied neb yr hen faen Uwyd a neidiwn yn blentyn. Triged yna hyd ddydd y farn Mae mor anwyl i mi a'r gareg yn Peniel gynt i Jacob! Yr oedd Lleision 'Lam Morgan yn ei ddyddiau gwargrymu yn teimlo math o. gymundeb agos rhyngddo a'r Hen Gelynen. Yr oedd hi fel yn adrodd wrtho am bleserau ieuenctyd, am gyfeillion mebyd, am dad a mam hoff; ac, fel y dywedai yn fynych, am ei Walia heb un troed estron arni. Yr, oedd Lleision wedi myned mor bell nes ] edrych ar yr Hen Gelvi.ea tei 01 P: ymaith yn awi. Braidd y credai fod dim yn hen ond yr Hen Gelynen ag yntau. Mae yn brydnawn hyfryd, mae yr awel yn chwareu a brig yr Hen Gelynen, a hithau megys yn ymloni dan ei swyn, a Lleision yn eistedd dani. Mae'r ros yn .cau am y byd, ac mae Lleision dan frig y Gelynen o hyd. Nid yw Morgan gartref. Mae y gwlith yn disgyn yn drwch ar y ddaear, ac yn eneinio gwallfc a barf laes Lleision ar ben y graig. Mae boreu arall yn d'od a'r haul i edrych un walth eto ar Graig-yr-hesg; ydyw, ond i edrych ar Lleision 'Lam Morgan yn huno yn ei gad- air dan y Gelynen-huno yr hfin fawr. Bu farw yn y nos wrtLo ei hun. Cafodd nodded ei Hen Gelynen i dynu ei anadl olaf! Do, bu farw Lleision 'Lam Morgan. Daeth Morgan gartref dranoeth, ond nid oedd ei dad yno i'w roesawu nid oedd gwedd batriarchaidd ei dad fel a.rfer vn I ymloni wrth ei ddychweiiad. iNa, yr oedd I dystawrwydd trymaidd trwy y lie. Aeth Morgan dros y ty a thrwy yr erdd ond gwag y cwbl, ond yr hen gadair dan y Gelynen; yr oedd hi yn llawn o w^drhTien marwol ei dad! Yr oedd marwolaeth ei dad yn brofedig- aeth lemach i Morgan, o herwydd fod yr hen wr wedi gwneud iddo dyngu y claddai efe ef o dan y Gelynen Fawr." Yr oedd Morgan yn hollol rydd odaiwrth ddylanwad ofergoeledd, ac yf oedd yn bynod am ei annibyniaeth meadwl, yr hyn a'i gwnai i ymddangos bob amser yn ddiofn ac yn wahanol i ereill. Ond, pa fodd y gailai gladdu ei dad dan y Gelynen, heb dynu arno ei hun ofid a gwarth ? Deuai y plwyfolion i wyboc1 yn (>(rl:? "T C'rl9iH. -rm;¡':¡' ]^-UU xJjf j* | lloer yn agor yr hen dwmpath gwyrdd dan y Gelynen, ac yn rhoddi corff ei dad o'i • Oiwg am byun aati y gru a, r uy wcu cii "I- Bencraig-yr-iaesg, lieu neu OliU nau, rrior- dy, gydag ef i ddarllen y gwasanaeth claddu, a chydwylo ag ef wrth brysur droi y gro yn 01 i agen y bedd. Wylai awel yr hwyr, gruddfanai afon Taf, yr oedd llef I wylofus gan ysgydiad y dail; o'r hyn lleiaf tyb iai Morgan hyny y pryd. Y fn+b. 1-7 yw dyn fel yr yniddengye pob pcth iddo yr un liiw a'r gwydr yr edrycha trwyddo. I Yr oedd y pridd a'r dagrau yn syrthio ar yr hyn oedd farwol o'r Leisicu, pan yn sydyu cododd Morgan i fyny a'i vvedd yn wyiit, gan ofyn i Ifan, o'r Priordy, wyiit, gan ofyn i Ifan, o'r Priordy, Beth svdd yna? Beth yw y lleiaiau vna?" CLi.y\tcu ii'yiAy yr oeuu uuiii'diU yX- hesg yn ad sain yn echrydus o brudd- j glwyfus—- j Jjlwyd, a gwan, a. gwar-rwm, j Hen, ben, lwn ) Troednoeth, penoeth, oefnllwm, Hon, lieu, lien i Oer a liir y w'i: ypia, Hen, lieu, Lieu i Carwn orwedu i i Hen, hen, lieu, He;}, :.)eJ, .L Ond bedd i wella'r cyfan, Hen, hen, hen! Nid can, nid adroddiad, nid bloedd I ydoedd, ond dolef annaearol fel Ilef angel I wedi colli ei synwyrau! Siglodd y coed, I crynodd y dail, ifodd Ifan, Priordy; syrth- iodd Morgan fel marw i fedd heb haner ei chau, ac eto, clywai y llais yn dynesu ato, ac yn oernadu uwch ei ben yn waeth fyth,— Tiroedd, aur, ac arian, Hen, hen, hen! Bloeddied pob dallhuan Hen, hen, hen! Yna bloeddiodd yn ddychrynllyd,— Ellyll cadair ysbryd Hen, hen, hen! Pedwar dydd o ympryd, Hen, hen, hen! Bedd a Phwll-y-fagddu, Hen, hen, hen 1 Dyna'r fan i gysgu, Hen, hen, hea!" Erbyn hyn yr oedd Morgan yn ymwyb- odol fod y llais neu o'r hyn lleiaf awdwr y llais, yn sefyll yn ei ymyl. Cododd Morgan ei ben, a beiddiodd edrych i fyny a'r chwys fel ffa o ran maint yn tori drosto. Dysgwyliai weled un o ellyllon hyllaf y pwll yno: ond pwy oedd yno ond Catws William Evan, o Cjwm Clydach, yr hon, fel y gwyddai pawb, oedd wedi colli ei synwyrau, ac ar brydiau yn crwydro ar hyd y wlad ac ar hyd y coedydd. Yr oedd Catws heno dan ddylanwad un o'r fits gwaethaf, ac yr oedd yn difyru ei hun yn nghoed Craig-yr-hesg wrth ysgrechian y geiriau cynhyrfus uchod-adsain calon ddolurus, ffrwyth ymenydd anmharus. Ie, yr hen Gatws, druan, oedd yno. Druan o Gatws, pan yn ei hiawn bwyll yr oedd yn nodedig am eifthynerwcn a'i theimlad da, ac yr oedd plant y lie yn hoffi myned i'w thy, oblegyd fod brechdaen siwgr neu fel i'w chael yn ami yno. Ond pan fyddai yn y fits gwallgofus yr oedd yn ddychryn i bawb; ymguddiai y plant rhagddi, a gad- awai pawb hi i fyned o'r golwg ni waeth pa ie, ond peidio a i dychrynu hwy. Ad- nabyddodd Morgan hi, ond ni sylwai Catws arno ef—dim ond dolefain ei chan ac edrych ar y bedd, fel pe buasai wedi ei agor iddi i >■ Tc-,ii-ola,ifodatdyniadyne-yroeddyn cael ei sugno at ei ymyl. Mynai fyned i mewn gan floeddio,- Hen, hen, hen Bedd i wella'p cyfan." Llwyddodd Morgan i'w gyru ymaith, ond nid heb drafferth annesgrifiadwy; a'r canlyniai o'r cwbl oedd, i'r hyn a welodd Catws yn Nghraig-yr-hesg gael ei daenu ar hyd y wlad. Daeth bedd dirgel Lleision 'Lam Morgan yn fedd digon cyhoeddus— siaradai pawb am dano gan ysgwyd eu penau yn ddifrifol, a gofyn, Sut y bu cyn agor y bedd?" Druan o Lleision, diau iddo gael chwareu brwnt;" a llawer o Oiisyniadau cylTelyb. Yn fuan, chwiliwyd y bedd—codvvya gweddillion Lleision, ac aeth y si allan fod naill ai cleddyf neu wen- wyn yn y mater. Yn fuan yr oedd Morgan yn gauedig yn N gharchar Penybont-ar-ogwy, yn aros ei dreiai am ioaaduio ei dad a'i gladdu yn ddirgel. Aeth wythnosau heibio; daeth ilawer yn ystod yr amser hyny i weled y bedd o dan y Gelynen. Daeth Elen, o'r Cofn yco; gwcTo^d y bedd; aeth i'r hen ay, lie nad oedd neb yn byw yn awr; yr oedd yr hen gelfi yn drwch o lwydni. Agorodd Elen glawr hen goffr derw oedd yn un o ystafelloedd y tiT, a daeth ar draws ysgrif fawr yn llawysgrif Lleision 'Lam Morgan; darllenodd hi, a phlygodd hi, gan ei chuddio yn ei gwisg, ac ymaith â. hi tua chartref. Da.eth boren y treial, a dygwyd Morgan i'r, liys i ateb am iofruddio ei dad. Yr oedd Morgan, er yn dal yn wrol o dan y cwbl, eto heb ddweyd gair i amddiffyn ei hm.. Yr "P0;1 colli ei liw rhosynaidd jv uedd yn Ho* u.c o'r ddau yn hardd- ach nag o'r blaen yr oedd yn edrych yn fwy o ddyn-yn fwy meddylgar. Isiid oedd y weill xiunu uaiuitjuyau i'w amddiffyn; yr oeuu yn ymaairied yn ei dainiweidrwydd a'i feds ei hun. Yr oedd 'gan Elen, o'r Cefn, frawd yn ddadleuydd yn Llundain o'r enw Gwatcin ond nid oedd neb yn y cylchoedd hyn wedi ei weled er's dwy neu dair blynedd; pan oedd gartref, yr oedd VP bynod 0h"g i FVn. Yr oedd yn dcbycack i fercL nag i fachgen, ac yr oedd o ran ei alluoedd meddyliol yn mhell ar ol llaw er o ferched. ilodd bynag, agor\Tyd y llys, a gofyn- i Morgan 'Lam Morgan, Euog, neu ddieuog?" Atebodd yntau yn bwyllog ond penderfynol, gyda llais cryf, clir, "Di.eu?g. J^ynvvyd &s. oedd &auddo gyfreithiwr. Tx. ? t iSiU uoo Uil, ewt; iU-OXgdill. iiSLyn- wyd papyr i'r barnwr, a dywedodd ei ar- glwyddlae-th fod Mr. Gwatcin Gwalter w^ui u'uu i'r liys o juuudain, ac y buasai y gwr ctig yn aniauihya y carcharor. Trodd Moigan at y barnwr, gan feddwl dweyd na ctiawsai Gwatcin ei amddiffyn ef —fod geiyniaeth r.hyngddynt erioed ond dy<*rawyd ef gin y barnwr trwy ddweyd wrtho, os oedd ganddo rywbeth i'w ddweyd, fed yn r'hairl -4 fyncyi trwy ei ddadl- tmydd. Yr oodd Jlcrgan bron dyrysu [ erbyn hyn yr oedd yn credu fod ei elyn- ion wedi ymgyfamodi i'w ddinystrio. Nid oedd dim i'w wneud. "Bydd," ebe fe wrtho ei hun, cael marw yn ddiniwed yn fath o ogoniant; bydd yn fuddugoliaeth hefyd.' Holwyd y tystion. Dywedwyd llawer am gysylltiadau Morgan a'i dad. Yr oedd fel pe buasai wedi gweled y crogbren yn gwthio i'r golwg yn fwy eglur yn nhystiol- aeth pob un o'i elynion. Cododd Gwatcin i groesholi; yr oedd yn llym, sarcastic ambell waith, ond yn hollol foneddigaidd, ac yn ddeheuig iawn. Gwelwyd yn fuan, gan nad faint oedd y gelyniaeth rhyngddo a Morgan, ei fod yn penderfynu gwneud ei oreu o'i blaid. Llwyddodd dynu oddi- wrth y tystion lawer o bethau ffafriol i Morgan. Dyrysodd ei ddull o groesholi lawer o honynt. Aeth Shams, o'r Gelli, yn gelwyddog ar g'oedd y llys. Yr oedd Ifan, o'r Lan, yn gynil ar ei ddweyd: efe oedd cwnstabl y plwyf, ac efe oedd wedi dwyn Morgan i'r carchar. Gwasgodd Gwatcin yn dýn arno am gael clywed amryw bethau, ond yr oedd Ifan yn gwybod llawer llai nag arfer. Gorfu i Gwallter, o'r Cefn, tad Elen a Gwatcin, dd'od yn mlaen; holwyd ef yn fanwl a Ilym, ac atebodd yr hen wr yn onest y cwbl a wyddai; ac er nad oedd yn hoffi Morgan, eto, rhoddodd oleuni newydd i'r Ilys ar ei gymeriad. Trodd Gwatcin yn foesgar at y barnwr, ac anerch- odd ef mewn dull enillgar,- Fy Arglwydd,—Nid oes genyf dystion i'w galw yn mlaen; mae yr unig un a allasai roddi tystiolaeth bendant i glirio cymeriad y cyhuddedig yn ca441 ei dal yn gaeth mewn strait jacket, heb argoel y daw i feddiant byth o'i synwyrau oddiar y nos- waith y cafodd ofn wrth gynorthwyo Morgan 'Lam Morgan i gladdu ei dad dan y Gelynen yn ol y gorchymyn caeth a dderbyniasai gan yr hen wr lawer gwaith yn ei fywyd. Yr wyf yn apelio at y llys am gael caniatad i roddi ysgrif sydd yn fy meddiant i mewn fel tystiolaeth o blaid diniweidrwydd y cyhuddedig." Cododd y cyfreithiwr oedd yn erbyn wrthwynebiad, a dywedodd ei bod yn groes i bob rheol, deddf, ac arfer, i neb roddi ysgrif o'r fath i mewn fel tystiolaeth, heb neb yn gwybod pwy yw awdwr yr ysgrif. Yn nghylch yr ysgrif," ebe Gwatcin, ceir digon o sicrwydd mai Lleision 'Lam Morgan yw yr awdwr; ac yn nghylch y cyfreithlondeb, nid oes genyf i'w ddweya ond hyn-fod yr hyn sydd deg yn gyfreithton -yr hyn sydd yn mriotiedd yn gyfiaavn a rheolaidd, ac yr wyf yn berffaith sicr fod ei Arglwyddiaeth yma heddyw yn teimlo nad oes un arfer, rheol, na deddf uwchlaw teg- wch, uniondeb, a gwirionedd." Yr oedd yr arguments mor dda, ac wedi eu tymheru a thipyn o weniaeth, fel y rheol- odd y barnwr i'r ysgrif gael ei dwyn i mewn. Darllenodd y dadleuydd hi yn uchel; yr oedd yn faith, ond yn ddyddorol; yn rhoddi hanes ac arferion y Morganiaid -y claddu dan y Gelynen, a llw Morgan i'w dad, a'r cwbl mewn iaith oleu, rymus, fel y cariodd ei darlleniad orgyhoeddiad o'i gwirionedd trwy yr holl lys; ac ar ei diwedd yr oedd arwyddiad Lleision 'Lam Morgan. Yr oedd Morgan yn synu at y cwbl, yn enwedig at ddeheurwydd a thynerwch Gwatcin. Atebodd y dadleuydd gwrthwyaebol mewn araeth dda yn deg, ac yn dangosodd fel y safai pethau, ac fei yfVwid llawer o bethau yn edrych yn ddrwgdybus, a dweyd y Heiaf Eisteddodd gyda dweyd hen 'stori y dadleuwyr, ei fod yn gadael y mater pwysig hwn yn llaw boneddigion oedd yn alluog i wneud perffaith chwareu teg &'r mater. Hhoddwn araeth Gwatcin, a chanlymad y treial yn y benod nesaf. (Tw barhau).
PETHAU GWERTH EU DARLLEN.
PETHAU GWERTH EU DARLLEN. I Y mae gwybodaeth a chariad yn gyd- gyfnewidiol. Yr hwn a gar a wyr, yr hwn a wyr a gar. loan ydyw yr esiampl o'r blaenaf, a Paul o'r olaf. Y dyfrhad goreu ydyw yr un sydd yn dyfod o'r nefoedd. Dynion doeth fedda eu genau yn eu calon ffyliaid eu calon yn eu genau. Yd a chwibana yn y gwynt sydd yn wag yn y dywysen, felly y tafod stwrllyd a fradycha y pen gwag. Dei: "Nid wyf yn eich gweled chwi a Miss M. allan gyda'ch gilydd yn awr. A ydych wedi cweryla ?" Jack: Ddim yn hollol. 'Rym yn briod." Cyfaill: Doctor, onid ydych wedi bod yn gweini ar yr hen wr Job Davies?" Meddyg; "Y dwyf." Sut y mae e' hedd- yw?" Y mae tuhwnt i gyrhaedd cynorth- wy meddygol ?" Beth, ydi e' yn marw ?" "0, nag ydyw, nid oes ganddo ddim rhagor o arian."
STANLEY.
STANLEY. Y mae yr arwr hwn yn cael ei anrhyd" eddu yn ol ei deilyngdod, ac nid hyny yn unig, ond y mae yn cael ei goroni a thipyn o bres. Dywedir ei fod i dderbvn 30,000 o bunau am ei ddarlithoedd yn Lloegr, a chymaint arall am y rhai a draddodir gan- ddo mewn lleoedd ereill. Yn ychwanegol, y mae i dderbyn y swm gomfforddus o 40,- 000 am ei lyfr newydd, yn cynwys hanes ei deithiau.
MOESGARWCB.
MOESGARWCB. Yr oedd y llywydd y McCreary yn nod- edig am ei foesgarweh. Ar un achlysur, yr oedd yn cael ei groesawu gan ffrynd, oedd yn byw yn y wlad. Pan yr eistedd c els odd i lawr, gofynodd boneddiges y ty iddo pa un a ddewisai-coffi neu dê. Atebodd y llywydd, "Coffi, os gwelwch vn dda, madam." Gwyr ei fEryndiau yn daa am eij hoffder o goffi twym, a gallant yn Ued rhwydd ddythymygn ei deimladau, pan y dywedodd ei letyes wrtho fod y goginea wedi esgeuluso twymo y coffi, a'i fod yn oer. Ni ddarfu hyd yn nod yr hysbysiaeth or esgealusdod hwn o eiddo y gogines eff- eithio dim ar foesgarweh y llywydd, a chyda gwen, atebodd,—" Mor ffodus ydyw, madam I Wyddoch chwi beth, madam, fy mod mor od, fel ag i ddewis coffi yn oer, ac nad wyf yn malio am dano yr un -ffordd arall. Mae esgeulusdod eich cogines yn newydd dda i mi." Gellir yn rhwydd ddeall yr esmwythad a dderbyniodd y letyes fel yr estynodd y coffi i'r llywydd, yr hwn a sipiodd gyda'r pleser ymddangosiadol mwyaf. Yr oedd y tywydd dranoeth yn nodedig o oer; yr oedd yn ddiwrnod ag a fuasai yn gwneud i galon un hoff o goffi i hiraethu am ei ddiod hoffusaf. Nid oedd y llywydd McCreary yn cofio dim am ddygwyddiad y nos o'r blaen, pan eisteddodd i lawr i frecwesta. Ond os oedd wedi dianc ei gof ef, nid oedd wedi dianc o gof ei letyes. Mae gen i y coffi yn oer i chwi y boreu yma, llywydd," ebai hi yn gariadus. Yr ydych yn gweled fy mod yn cofio eich bod wedi dweyd nad oeddech yn ei hoffi yn un ffordd arall." Nid oedd y wen ar wyneb y llywydd McCreary agds can angyled ag oedd y noson flaenorol, ond yfodd y coffi oer heb rwgnachiad. Gyda chryn anhaws- der, modd bynag, y gallodd yr ymwelwyr gadw rhag chwerthin am ben y cyflwr an- nedwydd yn yr hwn yr oedd y llywydd wedi gosod ei hun drwy ei foesgarweh. Safodd dau Wyddel o flaen ffenestr, yn yr hon yr oedd cronen (globe) o eur-bysgod (gold-fishes). Wedi sylldremu ar y pysgod am beth amser, trodd un at y llall yn syn- edig iawn gan waeddi, Ar fengos i, Patsy, dyma'r tro cyntaf i mi erioed weled ysgad- an cochion yn fyw." Y mae yna duedd mewn parhaus ganmol dyn i beri i ereill ei gashau, a gwna drwg driniad parhaus godi i fyny ffryndiau iddo. Wel," meddai Tom Tanyrallt yn ddig- ofus wrth ei wraig, 'does yna yr un per- son yn y byd sy'n gofidio ei fod yn briod yn fwy na myfi." Paid a bod yn rhy siwr o hyny," ebai Betsen ei wraig, hyd nes y cei di glywed fy marn i ar y cwestiwn." Os amheuwch fod rhai pobl yn gynil, gwyliwch y ffordd y maent yn cadw y pethau gwaelion y maent wedi eu clywed am ereill.
__,i HANES DimAi.
i HANES DimAi. Haner can' mlynedd yn ol, neu yn 1840, darfu i William F. Andrews, meistr saer maen, stampio llythyrenau ei enw ar ddimai, ac a'i hanfonodd allan i'r byd, neu mewn geiriau ereill, fe'i rhoddodd mewn cylchrediad. Ond gobeithiai Mr. Andrews ei chael yn ol. Dydd Llun diweddaf, wrth gael newid, daeth i feddiant o'i goin drachefn. Wedi haner can' mlynedd o grwydro, dychwelodd, ac ni chymerai bum' cant o bunau am dani. Yr arian hawddaf i'w gwario, a'r arian anhawddaf i'w cynilo, ydyw y rhai hyny nad ydym eto wedi eu henill. 1 Y mae gweniaeth fel caws neu unrhyw beth arall y trafnidiwn ynddo,—mae'r cyf- lenwad wastad yn cael ei rheoleiddio gan y demand. Merch Wyddelig yn chwareu ar y Sul a ddaliwyd gan yr offeiriad Pabaidd: Bore da, ferch yr un drwg," ebai yr offeiriad wrthi. Atebodd hithau yn fwynaidd,—! Bore da, father." Madam, rwy'n (leall fod ichmerch wedi priodi gwr cyfoethog." Y mae fy mcrch wedi priodi dyn cyfoethog, rwy'n addef, ond y mae yn wr tlawd dychrynllyd."
O'R NEWYDDIADURON CYMREIG…
O'R NEWYDDIADURON CYMREIG AMERICAN AIDD. MARWOIIAETHAU. Columbus, Ohio, Mawrth 22,1890, am ddau o'r gloch y boreu, Mr. Edward Her- bert, o'r hemorrhage of the lungs. Ni fu yn glaf ond ychydig ddyddiau, ond gwan- aidd fu ei iechyd er's rhai blynyddau. Gadawodd wraig a phump o blant yn eu galar. Gan ei fad wedi bod yn ddiwyd a llwyddianus yn ei alwedigaeth fel adeilad- yda, cafodd ddigon o'r byd hwn i adael ei deulu mewn sefyllfa gysurus. Teimla y Cymry eu bod wedi cael colled mewn llawer ystyr, o herwydd edrychid arno fel un o'r Cymry mwyaf cyfrifol yn y ddinas; safai ei air yn mhob man yr adwaenid ef. Yr oedd yn dal swydd bwysig hyd ddydd ei farwolaeth, fel Inspector of Intercepting Sewerage, dan nawad engineer y ddinas. Er ei fod wedi ceisio ymryddhau o her- wydd ei afiechyd, ni ollyngwyd ef. Ond daeth Brenin y dyehryniadau heibio, a rhaid oedd ymryddhau i'w alwad ef. Teimla eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, o'r hon yr oedd yn aelod, golled neillduol. Ni allai fynychu moddion gras yn ami o herwydd ef afiechyd. Yr oedd yn hynod haelfrydig yn ei gyfraniadau at bawb; bu yn gynorthwy mawr yn adeiladu y capel, a chyfranodd dros 700 o ddoleri tuag ato, a cnatoad ganoedd gan ereill. Claddwyd ef yn barchus ddydd Llun, a. gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. H. P. Powell, D.D. Ganwyd Mr. Herbert mewn am- aethdy o'r enw Bryngeifr, ger Llanidloes, ac ymfudodd gyda'i rieni i'r America rhyw 45 mlynedd yn ol. Yr oedd ei dad yn frawd i'r Parchedigion Job a Richard Her- bert. Bu yr olaf fyw yn Rhymni am flynyddoedd. Milwaukee, Wisconsin, Mawrth 31,1890, yn 63 oed, Stephen James, ar ol hir nych- dod o'r asthma. Daeth yma o San Fran- cisco, tua thri mis yn ol. Yr oedd yn I frawd i'r diweddar hen flaenor enwog, John: James, Milwaukee. Genedigol ydoedd o Bontrhydfendigaid, Sir Aberteifi, Deheu- dir Cymru. Claddwyd ei weddillion dydd Mercher, Ebrill 2, yn Wales, Wisconsin, gan dyrfa luosog. Gweinyddwyd yn y capel gan y Parchn. T. Miles, D. M. Jones a Dr. Harries, Chicago. Gadawodd frodyr a chwiorydd, vn nghyda phriod hawddgar, mewn dwys alar ar ei ol. PENBY.—Mawrth 18, 1890, yn 21 mlwydd oed, wedi pythefnos o saldra, cyfyngedig i'w gwely, Miss Elizabeth Penry, nith Mrs. J. W. Jones a Thomas M. Jones, Newburgh, Ohio. Enwau eu rhienioeddynt William ac Elizabeth Penry, y rhai a breswylient yn Abertawe; ond cawsant en claddu er ys amryw flynyddau, fel yr oedd Miss Penry yn amddifad o rieni, ac yn wir yn dra amddifad o iechyd kfyd. Daeth i r wlad hon ac i Newburg tua saith mlynedd yn ol, drwy gyfarwydd- yd a chynorthwy ei modryb a enwir uchod. Bu am ychydig amser yn gwasanaethu yn yr Asylum, ond nid oedd ei hiechyd yn caniatau iddi wasanaethu ond ychydig, a chartrefai y rhan fwyaf o'i hamser gyda'i modryb a'i hewythr ar yn ail. Bu farw yn nhy ei hewythr a'i briod, wedi pythef- nos o gystudd caled, ac ar ol cael y nawdd a'r tynerwch mwyaf oddiar eu dwylaw hwynt oil. Yr oedd yn ddynes ieuanc brydferth, tawel a heddychol, ac yn aelod dichlynaidd yn eglwys yr Annibynwyr. Cymerodd ei hangladd le prydnawn dydd Gwener, pryd y dygwyd ei chorff i'r capel, ac y gweinyddwyd yn y ty, y capel, a glan y bedd gan y Parchn. R. Williams, J. Thomas, F. Elder, a Harrison, Dakota. # MORRIS.-Xawrth 23, 1890, Sheods- ville, Ohio, yn 56 mlwydd oed, Mrs. Mary Morris, anwyl briod Daniel Morris. Ei chlefyd ydoedd congestion chills, a dim ond 24 o oriau y bu byw wedi cael y cyntaf o'r L ddwy chill a gafodd. Merch ydoedd i Evan ac Hannah Harries, y rhai a drigent pan y ganwyd hi yn Cendon, o fewn plwyf Mynyddislwyn, Swydd Fynwy, D. C. Hi oedd y pedwerydd plentyn yn y teulu, yr hwn oedd yn gynwysedig o bump o ferched ac un mab. Symudodd y teulu i'r wlad hon yn 1848, a disgynasant yn Tallinadge, Ohio. Yn 1856, priodwyd y ferch ym- adawedig a Daniel Morris, a bu iddynt bump o fechgyn ac un ferch, y rhai sydd heddyw yn fyw i deimlo eu colled ar ol mam dyner, ofalus am eu cysur a'u ded- wyddweh. Dechreuodd Mrs. Morris ei bywyd priodasol yn Weathersfield, Ohio; bu yno am ddwy flynedd, yna symudasant fel teulu i Tallmadge, oddiyno i Thomas- town, yna i Hametown, ac yn ganlynol i Sherodsville, tua blwyddyn yn ol. Dech- reuodd ei gyrfa grefyddol yn Tallmadge yn 1851, Ile y bedyddiwyd hi gan y Parch. Shadrach James, ac o ddyddiad ei hym- gyflwyniad gwirfoddol i Grist a'i achos, parhaodd yn ffyddlon hyd ei bedd gyda'r Bedyddwyr, heb roddi un achos tramgwydd na dolur llygad i'r frawdoliaeth. MORGANS.—Mawrth 10, 1890, yn Bea- con, Iowa, Mrs. Elizabeth Morgans. Gan- wyd hi yn Sir Aberteifi, Deheudir Cymru, yn 1823, felly yr oedd yn 67 mlwydd oed. Merch ydoedd i Daniel ac Ann Samuel. Collodd ei mam yn ieuanc, ac yn 1837, symudodd y teulu i America, a sefydlasant yn Gallia County, lie yr ymunodd a'r eglwys Annibynol, ac y priododd John S. Morgans, 45 mlynedd yn ol. Ganwyd iddynt ddeg o blant, saith wedi blaenu eu mam i'r byd arall tri yn fyw, sef un ferch, Mrs. Ann Lewis, a dau fab yn ddyn- ion ieuainc yn eu maint. Y mae iddi saith o wyrion a dau frawd-John yn byw yn Ohio, a David yn Wisconsin. Bu ein chwaer fyw yn Beacon'dros 24 o flynydd- au, ac yn aelod o'r eglwys Annibynol yno o'i dechreuad. Dilynodd y moddion cre- fyddol yn ffyddlon tra y gallodd, ac yr oedd dyfalbarhad yn un o'i nodvveddion amlwg. Glynodd hyd y diwedd, a bu yn ffyddlon, gan enill coron y bywyd. Yr oedd yn hynod am ei lletygarwch i bregeth- wyr ac ereill. Os gwelai ddyeithriaid yn y capel, cymhellai hwynt i gael lluniaeth a gwely os ewyllysient. Bydd colled ar ei hoi mewn llawer cylch. Fel gwraig bu yn weithgar a diwyd i wneud cartref yn ddedwydd. WILLIAMS.-Mawrth 16, 1890, yn 58 mlwydd oed, yn Mahanoy City, Pennsyl- vania, David G. Williams. Ganwyd ef yn 1832, yn Rhydybedd, gerllaw Dowlais, De- heudir Cymru. Ymunodd mewn glan bri- odas ag un Mary Jones yn 1852. Daeth ef a'i deulu i'r wlad hon yn 1866. Claddodd ei wraig gyntaf, ac ymbriododd yr ail: waith a Mrs. Harret Williams, Mahanoy, yr hon erbyn hyn sydd wedi ei gadael yn weddw. Y mae iddo ddau o blant o'r wraig gyntaf-Mary Ann, ei ferch hynaf, yn Awstralia, a Thomas, ei fab, yn byw yn y dref hon. Brawd iddo oedd Thomas Williams (Eos y Dyffryn), y cerddor medrus hwnw fu yn y wlad hon ychydig flynyddoedd yn ol, ac y mae iddo ddau gefnder yn Mount Carmel, Pennsylvania. Y dydd Mercher canlynol daearwyd ei weddillion yn y fynwent ar y mynydd. Codwyd ef i fyny o dan addysg ac athraw- iaeth syml, selog a gofalus y Trefnyddion Calfinaidd yn Hermon, Dowlais. Yr oedd yn un o rai addfwyn a llonydd y ddaear. Etholwyd ef yn ddiaoon gan yr eglwys, ond ni fynai wasanaethu; yr oedd rhy wylaidd ei feddwl, tawel ei dymer, pur ei egwyddor, didwyll ei ysbryd, i gredu fod ynddo allu na chymwysder at hyny-yr oedd y swydd yn ei geisio ef yn hytrach nag ef (fel Iluaws) yn ceisio y swydd. Os oedd dim yn ddiffygiol ynddo, dyma oedd -fod yn rhy hunanymwadol a gostyngedig i ymofyn am ei hawliau fel aelod o gym- deithas. Yr oedd ei fywyd yn berarogl Crist yn y gwaith, yn yr ardal a'r eglwys.
FFEITHIAU CYWRAIN.
FFEITHIAU CYWRAIN. Y mae genym 1,016,300 o dlodion plwyfol yn y wlad hon. Y mae 250,000 o dirfeddianwyr yn yr Unol Dalaethau. Gwna blewyn sengl o wallt d/nol ddal pedwar wns heb dori. Dyfnder Mor y Canoldir ar gyfartaledd yw 1,300 o latheni. Gwybyddir am 6,000 o wahanol rywog- aethau o adar, o'r rhai hyn medda Ewrop 503, a Gogledd America 4:71. Y mae yna dros 3,000 o lythyr-gludwyr yn Llun dam, ac nis gall ond oddeutu 1,000 o honynt gyrhaedd lp. 12s. o gvflog wyth- nosol; nis gall y gweddill gyrhaedd ond lp. 8s. yn wythnosol. Allan o 60,000 o glerccd menywaidd yn Llundain, credir fod 5,000 yn type writers. Cyflogir oddeutu 600 o frys-negeseuwyr yn Llundain. Ffortiwn Syr William Gull, o 344,000p., yw y fwyaf a wnawd erioed gan waith I proffeswrol pur. Ni wnaeth yr un meddyg arall, yr un nofelydd, yr un arlun- ydd, dadleuydd dysgedig, ac ni chyrhaedd- odd yr un dyn proffeswrol arall erioed y fath ffortiwn yn unig drwy waith ei ymen- ydd. Nid yw y ffortiwn fwyaf dysglaer a gafodd ei gwneud wrth y Bar Seneddoll wedi bod yn fwy na 300,000 o bunau, tra i yr erys 100,000p. Dickens y marc uwchaf o eniUion ar dir Renyddiaeth." I
IPEIDIWCH TROI Y NWY YN ISEL.
I PEIDIWCH TROI Y NWY YN ISEL. Y mae gan lawer o bersonau yr arferiad beryglus o oddef i'r nwy losgi yn bwl drwy gydol y nos tra y byddont yn cysgu. Os y cedwir y nwy o gwbl yn oleu, fe ddylai er mwyn dyogelwch gael ei adael yn fflamio yn weddol uchel, oblegyd pan y lleiheir y mam i'r wreichionen las, dywyli, gwna y lleihad lleiaf mewn dirwasgiad yn y weithfa achosi iddi fyned allan, a phan yr adnewyddir y dirwasgiad, y mae y nwy wrth gwrs yn gyson ddianc i'r ystafell, er niwaid posibl i'r preswylyddion. Pan yr aeth Syr Edward Dailies i'r ben- 'I edd yn 1859, nid oedd ond un llwyrym- wrthodwTr arall yn y Dcteddfwrta.
I'PROTESTANIAETH A pHABYDDI.ir.T7J.
I' PROTESTANIAETH A pHABYDDI.ir.T7J. Dras y byd yn niwedd y ganrif or biaen rhifai Protestaniaeth ddim ond 40 miliwn a ymiynw7yr, ond yn awr y mae y nifer vn 150 miliwn. Ar y llaw arall, yr oedd PPvb- yddiaeth yn niwedd y ganrif o'r blaen yn meddu dair gwaith gynifer o ymlynwyr a Phrotestaniaeth. Meddai Pabyddiaeth y pryd hwilav 120 miJiwn o ganiynwvr, yn awr ni fedda ond 180 miliwn, yn union un ran o bump yn fwy na Phrotestaniaeth. Pe buasai Pabyddiaeth wedi cynyddu yn yn ol yr un raddeg a Phrotestaniaeth, bu- asai yn awr yn rbifo 450 miliwn o ymlyn- wyr. Os y parha Protestaniaeth i gynydd-Lt yn ol y raddeg bresenol, bydd wedi enill y blaen ar Babyddiaeth o ran niferi erbyn dechreu y ganrif nesaf. Y mae yn y byd lie y siaredir Saesneg ar hyn o bryd, 90 miliwn o Brotestaniaid, a IIi miliwn o Babyddion. Er yn 89 oed, parha Miss Aurora Ensor, o Withycombe, Devon, i gymeryd dosbarth ddwywaith y Sul. Telir oddeutu deuddeg miliwn o bunau yn flynyddol gan yr Ymherodraeth Bry- deinig am goed. Un o'r simneiau uchelaf yn Nghymru a Lloegr ydyw eiddo Mri. Neville, Druce, a'u Cyf., Llanelli. O'r gwaelod i'r top, y mae yn 400 o droedfeddi. Y mae capan y top ,yn pwyso 27 o dynelli, a defnyddiwyc 720,000 o briddfeini yn yr adeiladiad. I mae ei ffurf yn grwn, a phlyga gryn lawel mewn ystorm o wynt.
YSGOLION SUL PRYDEINIG.
YSGOLION SUL PRYDEINIG. Cyhoedda chwech o'r enwadau Anghyd- I ffurfiol cryfaf yn Lloegr fel a ganlynpai- thed eu hvscrolion Rabhnthnl -01 -0- Ath. Ysg. IVIethodistiaidWesleyaidd 126,203 829,779 Cynulleidfaolwyr 68,270 703,6' 5 Bedyddwyr. 47,555 469,? Methodistiaid Cyntefig 58,085 394,1 i Yr Eglwys Rydd Fethod- iataidd. 25,642 192,4^0 Methodistiaid Calfinaidd. 24,322 164,33Q Darfu i fuwchod y Due o Westminster: ei ddwy fferm artrefol yn Eaton, pedwr. ugain a phump mewn rhif, gynyrchu 51- 025 o alwyni o laeth y flwyddyn ddiwedd- af. Ar fferm y Grange y cyfartaledd oedd 648 o alwyni y fuwch, a 580 o alwyni ar fferm Woodhouse.
TEBYGRWYDD CYPLAU PRIODASO\
TEBYGRWYDD CYPLAU PRIODASO\ Y mew; yu fulel: u sylwaUacLLi ivù cypi priodasol fyddont wedi byw yn nghyd s flynyddau lawer, yn yr un cyflyrau fywyd, ac mewn cydgordiad meddyliol, ;■ dyfod yn debyg i'w gilydd o ran mynegia eu gwynebwedd. Yn ddiweddar," cyrnt. odd Cymdeithas Wawl-luniadol Gene,-P, luniau 78 o gyplau er mwyn gweled i helaethrwydd y ffyna y gwyneb-deby rwydd. Y canlyhiad oedd, fod y teby rwydd gwynebol mewn 24 o achosL rhwng gwr a gwraig yn fwy nag eid. brawd a chwaer; mewn 30 o achosion, oedd yn gyfartal fawr; ac nid oedd OL 24 Ile yr oedd hollol amddifadrwydd debygrwydd. Pan agorwyd arch gareg mewn beddrod yn Eglwys Gadeiriol Canterbury, cafw,d ei bod yn cynwys corff hen archesgob yn ei lawn wisgiad. Tybir mai eiddo Cardin. Stephen Langton ydyw, yr hwn a ochrodl gyda'r barwniaid i gael y Magna Chart oddiwrth y Brenin John. Er ei fod wed1 ei gladdu er's chwe' canrif, yr oedd 1 gwynebwedd yn aros yn berffaith, a gwisgiad yn ddilwgr. Mewn' arwerthiant o lawysgrifau v Llundain cafodd llythyro eiddo y Frenhint Victoria dyddiedig 1854, yn mynegu y fat ddifyrwch oeddid wedi ei gael gyda sJcatin parties yn Nadolig, ei werthu am bedai punt ac wyth swllt.
. LLWYDDIANT EGLWYSIG YN LLUNDAIN.
LLWYDDIANT EGLWYSIG YN LLUNDAIN. Y mae ffigyrau syJd yn siarad ffeiLhiau lied eglur am eglwysi Llundain, newyd I gael eu eyhoeddi gan Syr Henry Peek, maent yn rhoddi ar ddeall nifervnersona: presenol ar bob gwabanaeth yr., vstod mis Mawrth diweddaf, yn mhedair eglwys Billingsgate. Y cyfartalrif presenol yn eg- lwys St. Dunstan-in-the-East, oedd 43, o'i rhai yr oedd 21 yn 3wyddogion a'u tuulu- oedd. Yn Eglwys St. George, Botolph- lane, y cyfartalrif oedd 47, 21 o ba rai a bresenolent eu hunain o ddyledswydd. Yr oedd y cyfartaledd yn Eglwys St. Mary-at- Hill, yn llai fyth, sef 22 o swyddogion, a 17 o gynulleidfa. Yr oedd cyfartaledd Eg- lwys St, Margaret Pattens, gvdaswyddog- aeth yn rhifo 38, yn fwy, a hyny mewn canlyniad i berfformiad a, gymerodd le yno o Stabat Mater," a gwasgariad dail palmwydd. Ond er yr at-dyniadau hyn, nid oedd y cyfartalrif ond 111, tra nad oedd y cynulliad arferol ond rhyw 70. Y mae yn perthyn i'r pedair eglwys hyn felly gynnulleidfa o 183 p.r gyfartalcda rbYLg- ddynt, tra y mae ynddynt ddigon o Ie i eistedd 1,750. Nid oedd poblogaeth y dos- barth yn 1881, ond 1,097, ac eto y mae cyflog yr offeiriaid yn 2,160p. Dyma fel y gwastreffir y trysorfeydd eglwysig, a dyma a elwir yn gynydd eglwysyddiaeth yn y wlad.
Advertising
Am Argrayhwaith Bhad I Ewch iiSwyd'dfa'r Darian, I