Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
29 articles on this Page
Advertising
D. THOMAS Hafod, Swansea. WEDDING EINGS AND KEEPERS: GOLD & SILVER CHAINS, &c., ELECTRO-PLATE, SPECTACLES, &c., &Ct Large assortment, various qualities, lowest prices. Any article sent carriage paid.
CYMDEITHASFA PEIRIANWYR A…
CYMDEITHASFA PEIRIANWYR A STOKERS DEHEUDIR CYMRU. Dydd Mercher diweddaf, yn Caerdydd, dan lywyddiaeth Mr. W. Whitcombe, gor- uchwyliwr, Mountain Ash, cynaliodd Cym- deithasfa Peirianwyr Deheudir Cymru ei trydydd gyfarfod chwarterol, pryd yr oedd yn bresenol gynrychiolwyr o 17 o wahanol adranau, y rhai a gynryehiolent 1,400 o aelodau. Cafwyd adroddiad rhagorol o weithrediadau y gymdeithas am y chwarter diweddaf gan y Cadeirydd, ac wedi hyny cyflwynwyd anerchiad, ac alwar ac arian, gan y gymdeithasfa, i'r aelod henaf o honi, sef Mr. W. Humphreys, yr hwn sydd newydd roddi i fyny gweithio, wedi bod yn beirianydd am 50 o flynyddoedd, 48 o ba rai a dreuliodd efe yn Abercarn. Cafwyd siarad brwd ar y pwnc o fod y dosbarth pwysig hwn yn cael ei gynryehioli ar y Scale, a phenderfynwyd fod yr etholiad i gymeryd lie mor gynted ag y byddo yn ddichonadwy. Cafwyd fod sefyllfa arianol y gymdeithas yn rhagorol.
Advertising
D. THOMAS ffafod, Swansea. GKNTB* AND LADIES' SILVER WATCHES, 18/ 21/ 25/ ENGLISH LEVERS, from 52/- to 105/ Guaranteed and kept in order for three years, or exchanged (unless damaged) if not satisfactory.
-...,.-.-..--.---- --...--.…
YR WYTHNOS Y MAE Eglwys Libanus,' perthynol i'r Mesb iistiaid Calfinaidd yn Gilfach Goch, vr di rhoddi galwad unfrydol i Mr. J. H. Evans, efrydwr yn Ngholeg Caerdydd, i ddyfod i'w bugeilio. Y MAS Mr. John Roberts, A.S., awdwr I); ddf Cau y Tafarnau ar y Sab- both yn Nghymru, wedi hysbysu fod gaiiddo eisioes welliantau yn barod i'w dwyn o Haen y Senedd, yn cynwys awgrymiadau yddirprwyaeth ddiweddar ar y pwnc, er cadarnhad pellach y ddeddf, a phan y daw yr adeg gyfleus y bydd iddo ddwyn y cyfryw o flaen y Benedd. DYDDSadwrn diweddaf, yn y Thames, Llundain, cafwyd corff menyw o ym- ddangcsiad cyfrifol. Bernir ei bod yn cddeutu 38 oed, a'i bod wedi cyflawni hunanladdiad. BOBET; dydd Sadwrn diweddaf, yn Union Building, Llanelli, bu farw yn dra disymwth priod Mr. Thomas Jones. Yn teimlo yn anhwylus, hi a gododd o'r gwely ac a eisteddodd mewn cadair, yn yr hon y bu farw mewn ychydig eiliad- au. DBALTIWN fod Miss Maggie Davies, Dowlais, wedi bod yn hynod lwyddian- us yn y Royal College of Music. Saf- odd arholiad caled am anrbydedd neill- duol, ac Er bod yno 35 o ymgeiswyr, bu yn Hwyc Uanus, a gáll yn awr ddefnydd- io ar ol ei henw y Ilytbyrenau A.R.C.M. Y nme galw mawr bellach am ei gwasanaeth o bob cyfeiriad, ac y mae i tod yn inn yn y Greek Play blynyddol yn Cambridge. YN y Grand Hotel, Eastbourne, dydd Gwener diweddaf, bu farw Syr Evan Morris, yr hwn a anrhydeddwyd a'r gradd o farchog gan y Frenhines yn ystod ei arosiad yn Pale, Gogledd Cymru. Yr oedd yn enwog yn ei gy- syiltiad- a rheilffyrdd Gogledd Cymru, a.c yn Gddwadwr selog. YB ydym yn deall fod esgob Bangor bdla.cb wedi diymswyddo, ac na bydd iddo -.veithredu fel esgob ar ol y mis Cafodd ei neillduo i'r swydd Mebt-an 1859. YB y vm yn cael fod dros 70 o ber- rrhidc hvyr Pabyddol, yn cael eu har- wain y Due o Norfolk, Esgob Clifton, tic ereill o'r wlad hon, yn awr yn Paiesfcina. Y dydd o'r blaen cynygiwyd glofa Dunraven, Treherbert, ar arwerthiad, ond ni hvyddwyd yn yr amcan. Dy- wedir yn awr mai y pris am yr hwn y gwerthid y lofa ydyw 37,500p: YN llys Ynadol Castellnedd, dydd Gwener diweddaf, cyhuddwyd un T. Fox, Owmafon, o dori i dy Isaac Evans, .Miner s Row, Cwmafon. Dywedodd y i ferch. pan y deffrodd hi yn y bore iddi weled y carcharor yn y gwely o'r tu ol iodi hi a'i mam, a phan yr ysgrechodd, iddo neidio allan drwy y ffenestr. Dy- wedai y carcharor nod oedd efe yn cofio dim am yr helynt trwy ei fod wedi yfed yn drwni. Y MAE yn cael ei hysbysu fod yr Arch dderwydd Clwydfardd, i dderbyn pen- siwn o 50p y flwyddyn o'r Royal Bounty Fund, mewn cydnabyddiaeth am ei vmdrechion llenyddol i'w genedl. Y mac Clwydfardd yn awr dros 90 mlwydd oed, ac wedi derbyn o'r un drysorla ychydig yn ol 200p. Y MAE yn cael eu parotoi i awdur- dodan y llythyrdy yn y wlad hon yn flyuyddol gymaint a 313,000,000 o len- ffurfiau. brys-negeseuol. Y MÃE yn cael ei hysbysu y bydd i weili&h't ar Ysgrif Degwm y Llywodr- aeth gael ei gynyg gEn Geidwadwr os na wneir cymewidiad pwysig yn yr ysgrif, Y mae dyn o'r enw Arthur Knox Maloiiy wedi dyfod i feddiant o etifedd- i eth emg yn County Clare, Iwerddon, fel mab henaf y diweddar Mr. Henry .roni! Malony. Bu y mab hwn ar goll i'r i-iulu am flynyddoedd lawer, ac wedi bed yn forwr, yn aur gloddiwr, a labrwr yn New ZealandA Y MA3 gohebydd o Dowlais yn ein hysbysu-foci lluaws o geffylau gweithiau tandda enrol cwmni Dowlais yn dyoddef o'i.' ihjUenza, a lluaws o segurdod o'r hersvydd wedi cymeryd lie yn y gweith- iau. DYDD o'r blaen pan ar ymweliad a'i chw. er, Mrs. Davies, Goat Street, Tref- di-aeth, Sir Penfro, cyflawnodd Cadben D;"cV:d ilmon, Abertawe, bunanladdiad trwv ymgrogi. 'Roedd er's amser yn gwaelti o ran ei iechyd. Y MAB Mr. Alfred Davies, aelod o Gyngor Sirol Llundain, wedi bod yn nero! ctholwyretholaeth Christchurch. Hi odd wyd cais unfrydol iddo i ddyfod yn ymgeisydd Rhyddfrydol, ac yntau »vi:di "vdsynio. Y mae Mr. Baring, yr esenol, wedi penderfynu peidio yii ge io yn yr etholiad dyfodol. Y mae yr A-nrhydeddus Humphrey Stuart wodi i ddewis yn ymgeisydd Ceidwad- oL 1.: mae Mr. Alfred Davies yn G y: ro selog, ac yn hollol adnabyddus 1 G; an a ei wlad enedigol.
GWEITHFAOL A- MASNACHOIJ
GWEITHFAOL A- MASNACHOIJ SEFYLLFA Y FASNACH Lo. Bute Docks, Caerdydd, Ebrill 19eg, 1890. y mae marchnad glo ager Caerdydd yn parhau mewn sefyllfa isel, a phob busnes rhagfasnachol yn sefyll. Y mae y prisoedd yn wan, a phrynwyr yn rhedeg eu stocks tramor yn isel, gan ddysgwyl am prisoedd is. Y mae y tywydd yn ystod yr wythnos wedi bod yn anffafriol i long-lwythiad, a dichon y daw llawer o longau i fewn yr wythnos nesaf a ddylasent fod yma yr wythnos hon, ac felly achosi diwygiad.
--. IAT WEITHWYR ABERDAR A…
AT WEITHWYR ABERDAR A MERTHYR. Bydded hysbys i chwi oil nad oedd a fynom ni, sydd a'n henwau isod, a'rllythyr I a ymddangosodd yn y D ARIAN am Ebrill 17eg, 1890, o dan y penawd uchod. Yr eiddoch, ED. DAVIES, WM. REES, JOHN DAVIES, WM. JENKINS.
CYFARFOD MISOL DOSBARTH Y…
CYFARFOD MISOL DOSBARTH Y RHONDDA. Dymunir hysbysu yr holl lofeydd perth- ynol i'r dosbarth uchod, y cynelir y cyfar- fod nesaf dydd Llun, yr 28ain cyfisol, yn y lie arferol am haner awr wedi naw o'r gloch y boreu. YSG.
AT BEIRIANWYR AC AGERDANWYR…
AT BEIRIANWYR AC AGERDANWYR GLO- FEYDD NEDD A THAWE. Dymunir hysbysu y cynelir cyfarfod gan Beirianwyr ac Agerdanwyr Glofeydd Nedd a Thawe, yn y Landore Inn, nos Sadwrn nesaf, Ebrill 26ain. Taer ddymunir ar i bawb a all fod yn bresenol, a hyny erbyn 5 o'r gloch y prydnawn. Bydd Mr. Isaac Evans yn bresenol. DIDROI'N'OL.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Y mae gwelliant pwysig wedi cymeryd lie yn y fasnach alcan yr wythnos ddiwedd- af, er fod y prisiau i raddau yn ansefydlog, ( ond yn gwella. Credir yn gyffredin fod y prisiau wedi cyrhaedd yr iselfa, ac mai gwella a sefydlu a fydd iddynt bellach.
GLOFA Y BRITHDIR, SCIWEN.
GLOFA Y BRITHDIR, SCIWEN. G YD WEITHWYR,—Dymunaf alw eich sylw at yr anghysondeb sydd yn ein plith ni, ;j tuag at y personau hyny sydd yn cyfarfod a damweiniau, ac hefyd y rhai sydd yn cael eu cystuddio. Paham yr ydym m yn cynorthwyo rhai a gadael ereill yn ddisylw? A dyna sydd yn rhyf- edd, pan fyddo dyn nad yw yn gofalu am glwb, ac yn darpar dim mewn iechyd ar gyfer afiechyd, ond yn gwario ei arian am yr hyn nad yw fara, a'i lafur am yr hyn nad yw yn digoni, a cholli 11awer ar ei waith trwy hyny, yn cyfarfod ag afichyd neu ddwain, fe wneir casgliad iddo cyn pen mis. Ond pan fyddo dyn sobr, diwyd, ac ym- drech ynddo gyda'i waith, nid oes syhv yn cael ei wneud o hono. Dyma un yn ddi- weddar (nid oes angen rhoddi ei enw), wedi bod yn glaf am dri mis o dan y rheumatic; ond o herwydd fod ganddo glwb, ac hefyd yn ddyn ymdrechgar, nid oes sylw yn cael ei wneud o hono. Y mae hyn yn anheg a brodyr o'r un gwaith, a phob un yn cyfranu at y gwahanol achos- ion, ac fe ddylasem fabwysiadu rhyw gyn- Ilun, yn lie bod pethau fel hyn yn achosi diflasdod yn y gwaith. Fy marn i yw, os casglu, gwneuthur hyny i'r naill fel y Ilall, o herwydd y mae pawb o honom yn cyf- ranu at achosion o'r fath. UN OR LOFA.
PWYLLGOR GWEITHIOL DOWLAIS,
PWYLLGOR GWEITHIOL DOWLAIS, Cynaliwyd cyfarfod o'r pwyllgor uchod nos Sadwrn diweddaf, yn Forge Hammer Inn. Pasiwyd y penderfyniadau canlynol: i. -bod mater y taliadau byrion i'w adael am y presenol. 2. Fod y pwyllgor i ymgymeryd a'r achwyniad sydd yn Nglofa y Fochriw, No. 2, yn nglyn a'r lamps tan, ac fod cynrych- iolaeth i ymweled â'r awdurdodau ar y mater. Y gynrychiolaeth i ddatgan yr anfoddlonrwydd sydd gan y gweithwyr i ddefnyddio y lamps ond mewn achosion neillduol. Y personau canlynol i ffurfio y gynrychiolaeth Mri. Morgan Williams, Evan Davies, Griffith Price, Edward Cres- swell, ac Isaac Lewis. 3. Fod y pwyllgor yn derbyn i mewn achos yr haliers, sef gwneud ymgais i gael eu glo tai yn rhatach hefyd, fod cyfarfod o holl haliers Dowlais i'w gynal nos Sadwrn nesaf, am 5.30 o'r gloch, yn y Red Cow. 4. Fod y pwyllgor o'r farn y dylid set-! ydir tair o ysgoloriaethau i blant gweith- wyr tauddaearol Dowlais yn Ngholeg Caer- dydd, ac fod y mater i'w osod gerbron y gweithwyr yn y glofeydd. 5. Fod deisebau yr wyth awr i'w llanw yn y modd canlynol,-y lleoedd i'w rhanu yn fan-adranau, a phob glofa i ofalu am benodi personau i fyned oddiamgylch yr adran sydd wedi benodi iddynt fel y can- Iyn :—Fochriw No. 1 i ofalu am y Foch- riw, Pontlotyn a Pantywaun; Fochriw No. 2 o waelod Caeharris i top Dowlais South Tunnel i gymeryd Penydarren, hyd Bont Gellifeilog Long Work o Victoria Street i fvny at Odessa Street, ac i lawr at Sand Street; Penydarren No. 1, Penywern, Pant, Penygarnddu; Penydarren No. 2, o Vic- toria Street i fyny i top Ivor Street; Bed- linog No. 1, i gymeryd Bedlinog Bedlinog No. 2, o Bont Gellifeilog i fyny at ddrws yr Ysgol; Nant Wen, o'r Bruce Hotel i fyny i Pant Road. Yn y cyfarfod nesaf bydd adroddiad yn cael ei roddi gan ein cynrychiolydd ar bwyllgor yr hospital am y flwyddyn ddi- weddaf. YSG.
CYFARFOD MISOL FIREMEN DOSBARTH…
CYFARFOD MISOL FIREMEN DOSBARTH ABERDAR. Dymunir hysbysu y cynelir Cyfarfod Misol y Firemen prydnawn dydd Sadwrn nesaf, Elarill 26, am 5 o'r gloch yn y Foth- ergill's Arms. Taer ddymunir ar i'r holl Firemen i fod yn bresenol.
STRIKE FAWR GLOFA HIRWAUN.
STRIKE FAWR GLOFA HIRWAUN. Mae y rhai sydd ar y strike yn Hirwaun, wedi anfon at Bwyllgor Gweinyddol Glo- wyr Aberdar a Merthyr, i ofyn eu caniatad i daflu yr anghydfod i bwyllgor y Sliding Scale, ac y mae Pwyllgor Gweinyddol y Dosparth wedi penderfynu taflu y mater yn ol i'r holl Ddosparth er cael llais yr oil aelodau ar y pwnc, gan eu bod yn teimlo fod y mater yn rhy bwysig iddynt hwy. Byddis yn dysgwyl cael llais yr oil lofeydd ar y mater mewn cyfarfod a gynelir yn y Bute Arms, nos Lun nesaf, ar ol ymdrin a phwnc Addysg Ganolraddol. Daw cylch- lythyr i law holl bwyllgorau y Dosparth cyn diwedd yr wythnos, yn egluro yr oil amgylcbiadau.
I--...:...CYFARFOD MISOL GLO…
CYFARFOD MISOL GLO TAI Y RHONDDA. Cynaliwyd cyfarfod misol dosbarth y Rhondda, Gilfach, Glyncorwg, ac Ynysy- bwl, o lowyr y glo tai, yn Porth, ddydd Llun diweddaf, dan lywyddiaeth Mr. BL. Long, Rhondda. Cynrychiolid 27 o lofeydd. Derbyniwyd glowyr Duffryn Bach, Llan- illtyd, a Cefn Glas, Mynwent y Crynwyr, yn aelodau o'r dosbarth. Cynygiwyd pedwar o bersonau fel cynrychiolwyr i fyned i gynadledd Berlin,, sef Mri. D. Long, A. Robbins (ysgrifenydd), John Price a Morgan Weeks (y goruchwyliwr). Rhodd. wyd y pedwar i bleidlais y cyfarfod, a chafwyd mai Mr. M. Weeks a etholwyd. Cafwyd siarad hirfaith ar annealldwr- iaeth sydd yn awr yn bod yn Nglofa Blaenclydach, lIe y dywedir nad yw y cytundeb blaenorol, mewn cysylltiad a'r prisiau, yn cael ei gadw. JRhoddwyd y pwnc i ofal Mr. Weeks, y goruchwyliwr, gyda'r hawl, os nad ellid ei derfynu yn heddychol, ei gymeryd yn achos cyfreith- iol. Dywedai y goruchwyliwr fod yr anneall- dwriaeth yn Nglofa Llanillyd wedi ei roddi i gyflafareddiad, sef Mr. A. Lewis ar ran y meistri, a Mr. Isaac Evans, Sciwen, ar ran y gweithwyr.
AT LowYR Y GLO CAREG.
AT LowYR Y GLO CAREG. GYFEILLION,—Bydded hysbys genych y cynelir cyfarfod misol y dosbarth dydd Sadwrn nesaf, Ebrill 26, yn y Dregib Arms, Brynaman, i ddechreu am ddeg o'r gloch y boreu. Yn ol y llythyr yr wyf wedi dderbyn oddiwrth Mr. W. Abraham (Mabon), A.S., bydd ef yn y cyfarfod yn ddiffael. Hefyd, dymunwyf adgofio y Dosbarth o'r penderfyniad a basiwyd yn y cyfarfod diweddaf, sef fod y Dosbarth i gasglu 6c. yr un at gynrychiolydd ll&fur, a dyfod a'r arian i fewn i'r cyfarfod nesaf. Hyderwn y bydd y Dosbarth yn ffyddlon eleni fel arfer. Y mae yn dda genyf hysbysu fod un person wedi anfon £ 1 Is. i fi yn barod at y mudiad. Peth arall y dymunwyf alw sylw y Dos- barth mewn cysylltiad a'r list o brisoedd y Dosbarth; nid oes ond ychydig o lofeydd heb eu hanfon i mewn. Ai nid oes modd i'w cael i mewn i'r cyfarfod nesaf, neu bydd yn rhaid myned yn mlaen hebddynt, gan fod galw am danynt. ENOCH BEES, Ysg.
MR. STANLEY A PHOBL LLEIAF…
MR. STANLEY A PHOBL LLEIAF AFFRICA. 0 barthed y pobl bychain y daeth Mr. Stanley o hyd iddynt yn nghoedwigoedd Affrica, dywed mai hwynthwy ydyw y boneddigion henaf ar y ddaear. Gall brofi fod eu henafiaid yn bodoli er's haner cant o ganrifoedd. Mae eu lliw yn wyrdd, a hwy- thau yn hynod ddeallus a choeth. Y maent yn weithwyr haiarn, a'i saethau yn hynod o gelfyddydgar. Y mae ganddynt fren- hines, ac yn fenyw fechan hynod ddoeth, yr hon sydd yn gyfeillgar iawn bob amser a'r dyn gwyn. Dywedir y bydd hanes manwl am dani hi a'i phobl yn llyfu Mr. Stanley. Yr oedd efe wedi amcanu ei dwyn i Ewrop, ond aeth yn wael iawn ei hiechyd ar y ffordd, tra y bu farw yr oil o'i phobl y ceisiwyd eu dwyn gyda hi, yn fuan wedi gadael eu gwlad. Y mae eu darluniau, modd by nag, wedi eu cymeryd. Ychwanega Dr. Parke fod y pobl bychain hyn yn genedl foesol a rhinwpddol.
DAMWAIN OFIDUS YN TYLORS-…
DAMWAIN OFIDUS YN TYLORS- TOWN, I Dydd Gwener diweddaf, yn y Tylorstown Hotel, Tylorstown, cynaliodd Mr. R. J. Rhys, drengholiad ar gorff Sarah Ann Sophia Cook, wyth mlwydd oed. Aeth cerbyd oedd yn cael ei yru gan fachgen ieuanc, o'r enw Thomas Morgan, drosti, yr hon a niweidiwyd i'r fath raddau fel y I bu farw. Yr oedd y trancedig yn ceisio croesi yr heol o'r ysgol pan y daliwyd hi gan y cerbyd. I
BODDIAD YN MERTHYR.I
BODDIAD YN MERTHYR. I Nos Sadwrn, yn Merthyr, syrthiodd Mrs. Elizabeth Jones, 71 oed, Tredegar, i'r canal yn agos i Jackson Bridge. Neidiodd dau ddyn i mewn ar ei hoi, a llwyddasant i'w dwyn allan yn dra buan, ond er pob ym- drech i'w dwyn ati ei hun, bu yr oil yn ofer. Yr oedd yn hen fenyw cyfrifol, ac yn fam i Mrs. Sweet, butcher, Victoria Street, Merthyr.
.,DYNION SPOTIOG.
DYNION SPOTIOG. Oddiwrth nodyn a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill o weithrediadau y Royal Geographical Society, y mae i'w cael lwyth cyfan o ddynion spotiog mewn lie neill- duol ar lanau yr afon Purus, yn America Ddebeuol. Y mae yr hysbysiad hwn i'w gael yn y papyr a ddarllenwyd gan Dr. Crenreich ar ei daith i fyny lanau yr afon Purus. Dywed fod y bobl yn byw ar neu yn agos i'r afon, ac mai eu hynodrwydd mwyaf ydyw fod e'u crwyn yn orchuddiedig gan ysmotiau gwynion a duon.
ARTH MEWN .CAPEL.
ARTH MEWN CAPEL. Boreu dydd Sul diweddaf, yn ystod y gwasanaeth crefyddol, aeth arth mawr i mewn i- gapel rhwng Barnes a Mortlake. Dechreuodd y. gwragedd a'r plant ysgrechain, ac yr oedd yr anrhefn a'r cyffro yn fawD, Aeth y creadur, modd bynag, rhag ei Bapn yn ddistaw i eisteddle wag, ac a orwedjlodd i lawr, yn llonydd. Gwnaeth y rhan fwyaf o'r gynullédfaam y drws. JJhedodd rhai boneddigesau i'r pwlpud, lie yr oedd y pregethwr yn ceisio tawelu y cythrwfl. Gwnaeth y perchenog ei ymddangosiad yn fuan, ac aeth a'r creadur yn dawel allan. Yr oedd yr arth wedi tori allan o ystabl perthynol i dafarn cyfagos.
" .-.,,,- BBYNAMAN.
BBYNAMAN. MASNACH Y LLE.—Mae y Forge ar stop er ys wythnosau bellach, a dim argoel am gychwyniad buan, dim ond un ffwrnes flast a dwy felin alcan sydd yn gweithio yma ar hyn o bryd, ar ddwy felin hyny yn cael eu atal ar ol yr wythnos hon, tywyll yw yr argoel yn Mrynaman ar hyn o bryd oni buasai glofeydd Gwauncaegurwen a Glyn- leudy Tin Works. MARWOLAETH.-Dydd Sadwrn cyn y di- weddaf, bu farw Daniel Evans, Draper, wedi ychydig ddyddiau o gystudd caled. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn tawel a pharchus yn yr ardal, ac yn ddiacon gweithgar a chymeradwy yn eglwys Mor- iah. Teimlir colled fawr ar ei ol yn yr ardal a'r eglwys. Y dydd Mercher canlyn- ol claddwyd yr hyn oedd farwol o hono yn Mynwent Sant Catherine, pryd y gwas- anaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Davies, gweinidog, a'r Parch. J. M. Jones, Ficar. Gadawodd weddw a phedwar o blant i alaru eu colled ar ei ol. Heddwch i'w lwch. 0 Bydd agoriad y capel hardd ac eang Gibea i gymeryd lie Mehefin 22 a'r 23. GOH.
NEBO, GLYNCORRWG.
NEBO, GLYNCORRWG. Dydd Sul y 13eg cyfisol, cynaliodd yr eglwys uchod gyfarfodydd pregethu, pryd y gweinyddodd y Parch. J. Ffoulkes, Aber- afon. Teimlwyd effaith yr Ysbryd Dwyfol gyda nerth, nes yr oedd pawb a dagrau Efengylaidd y genadwri nefolaidd yn treiglo dros eu gruddiau. Bydded i Ysbryd yr Arglwydd ddilyn yr argyhoedd- iadau gwresog o enau ei was, fel ag i argy- hoeddi gwrandawyr Glyncorwg a'i rhy- buddio i ffoi rhag y Ilid a fydd. Hefyd, cawsom ddarlith ar yr enwog J. B. Gough." Ofer fyddai canmol y ddarlith I na'r darlithydd, gan y credwn nad oes J fawr o eglwysi yn ein hardal heb ei chlyw- ed. Cymerwyd y gadair gan Alderman E. Plummer, Glyncorrwg. Casglwyd yn y cyfarfodydd yn nghyd a rhoddion yr aelodau y swm o 33p.-T. L. D.
CWMAFON,
CWMAFON, MARWOLAETH SYDYN. — Yn hwyr nos Sabboth, taflwyd yr ardal uchod i brudd- der gan y newydd o farwolaeth Mr. John Griffiths, Arolygydd yr Alcanfa Isaf. Ni bu ond rhyw haner awr yn glaf, tebyg mai dolur y galon ydoedd ei afiechyd. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a ofalo yn dyner am y rhai sydd ar ei ol. Yr oedd o gylch 52 oed.
RHYMNI.
RHYMNI. Dydd Llun, Ebrill 14eg, cynaliwyd cylchwyl canu flynyddol Annibynwyr y lie hwn, dan arweiniad y byd-enwog Dr. Parry. Cynal- iwyd y cyfarfod boreuol yn Moriah, y pryd- nawn yn Seion, a'r hwyr drachefn yn Moriah. Cawsom ddiwrnod hynod ffafriol, cynulliadau tra lluosog, ac hwyliau nefolaidd ein cyn- deidiau ar y canu. 0 na welem rhagor o'r hen hwyliau yn tanio ein cynulleidfaoedd. Yn ystod y cyfarfodydd cawsom amryw o areithiau tra phwrpasol gan wahanol bersonau perthynol i'r enwad ac ereill. lEUAM GTIIAH ELYRCH. 'A
YNYSYBWL.
YNYSYBWL. Y mae gwythien y Daran Ddu, wedi cael ei tharaw yn Glanynant, ger Ynysybwl, gan y Meistri Taylor a Coles, yr hon sydd yn wythien ardderchog o lo. Buwyd am dros bum' mlynedd yn dyfod o hyd iddi. Credir y bydd yno waith yn fuan i gant neu gant a haner o weithwyr.
---'----...-GADLYS, ABERDAR.
GADLYS, ABERDAR. Y Sul a'r Llun diweddaf, cynaliodd myfyr- wyr Ysgol Uwchraddol Aberdar, eu cymanfa bregethu gyntaf yn y lie uchod trwy garedig- rwydd yr eglwys yn rhoddi benthyg y capel. Pregethwyd gan y Mri. John Thomas, Calf aria; J. Richards, Soar; J. Bowles, Bethania; E. Evans, Calfaria; T. Reed, Tylor'stown; A. Davies, Porth; Jenkins, Blaenllechau; a Davies, Treharris. Yr oedd y pregethu ar y cyfan yn dda, a llawn cystal ag a ellid ddysg- wyl gan ddynion mor ieuainc. Cesglid yn y gwahanol oedfaon tuag at gynorthwyo y myf- yrwyr i fyned rhag eu blaen a'u cwrs athrofa- ol. Duw yn rhwydd iddynt. Gwelsom yn y cyfarfodydd Mr. Stephen, Prif Athraw yr Ys- gol Uwchraddol, yn nghyd a Mr. Lewis, yr Athraw Cynorthwyol. T. J.
,< RAMOTH, HIRWAUN.
,< RAMOTH, HIRWAUN. Nos Lun yr wythnos ddiweddaf, cynaliodd Bedyddwyr y Dosparth Uchaf eu rehearsal yn y capel uchod, dan arweiniad y brawd A. Thomas, A.C., Gadlys, ac o dan lywyddiaeth y Parch. E. C. Evans, gweinidog y lie. Wedi ychydig eiriau gan y llywydd, canwyd y ton- au canlynol:—' Darwel' Gethsamane'' Kirk- land Amsterdam Lewes yn nghyd a'r anthemau 'Hosana i Fab Dafydd' (Scour- field); Da yw molianu' (P. Morgan); 'Llaw- enewch yn yr Oen' (M. De Lloyd). Cafwyd anerchiadau yn ystod y cyfarfod gan y Parch. B. Evans, Gadlys; Mri. M. De Lloyd, G.TiS.C., a Theo. Jenkins, G.L.T.S.C., Aberdar. Cafwyd rehearsal dda iawn, ac argoelion y ceir cym- anfa ragorol gydag ychydig mwy o ffyddlon- deb. YSG.
TANCHW Y MORFA.
TANCHW Y MORFA. Allan o'r 88 personau a gollwyd trwy y danchwa ddinystriol hon, nid oes dim Ilai na 69 wedi eu gadael yn weddwon, ac yn agos i 200 o blant amddifaid, ac amryw berthynasau ereill ymddibynol. Cyfrifir y bydd eisieu 20,000p. er rhoddi iddynt gynorthwy yn ol y radd iselaf. Mewn undeb a'n darllenwyr, carem fod yn offer- ynol i wneud a allwn at yr achos gwir deilwng. Yr ydym wedi derbyn y tanysgrifiadau can- lynol £ s Mills ac Evans, Swyddfa'r DARIAN. 5 0 0 Cymdeithas Ddadleuol Dynion leu. ainc Aberd&r 1 10 0 D. Davies, Aberdar 0 2 0 J. Isaac, Abercwmboy o.. 0 2 6 Ysgol Sabbothol Methodistiaid Cym- reig Aberdyfi, trwy law Mr. Wm. Jones Hughes. 1 5 0 Hefyd, (lp. 5s.) at y Llanerch, y rhai a drosglwyddir i'r man iawn D. A. Thomas, Ysw., A.S., Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Ddadl- euol Dynion Ieuainc Aberdar 1 1 0 Glowyr Gwauncaegurwen 14 14 2
Advertising
CYNELIR Eisteddfod a Chyngherdd FAWREDDoa YN MHENRHIWGEIBR, DYDD LLUN, AWST 4ydd, 1890. Ceir manylion pellach yn fuan.-T. WILLIAMS, Ysgrifenydd. LLANGENNECH. CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lie uchod Liangwyn, Mai 26tl.ín, 1890. Prif ddarn-'Ffarwel i tl Gymru fad,' Parry, gwobr ±15 a bathodyn aur (gold medal) gwerth £5 i'r arweinydd, a'r swm o 10s. i bob ar- weinydd anfuddugol. I barti o wrywod-I Rhyfelgan y Mwncod,' Parry, gwobr j35. Llywydd,-D. Randell, Yaw., A,S. Arwelnydd, a beirniad y farddonlaeth,-Mor. lelsfab, Llangennech. Beirniad y caon,—Mr Dan Davies, A.C., Dowlais. Programs yn awr yn barod, ac I'w cael gan yr ysgrifenyddion—J. J. Hughes, D. L. Joseph, a D. Owen, Llangennech, R.S.O., Carmarthen- shire. SALEM, CRYNANT. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod, dydd Llan, Mebefin 14ag, 1890 Gadelrydd,—Mr fl, Elrfyl Jones, Seven Sisters. Beirniad y ganladaeth, Mr D. T. Prosser (Eos Cynlais), Treorci. Beirniad y cyfansoddiadao, &c.,—Mr D. G. Hopkins (Dewi Glan Twrch). Cwmtwrch. Prif ddarn corawl-—I'r cor, ddlm dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu 'Molwch yr Ar- glwydd,' Dr. Parry, gwobrf;5 a chadair hardd i'r arweinydd. Programs am y pris arferol gan yr Ysgrifen- ydd,—REES HOPKINS, Mill, Crynant, Neath. ONLL WYN. TYTMUNIR hysbysa fod Eisteddfod y lie acbod yn cael el gohirlo hyd nes y ceir hysbysrwydd pallach. Dros y pwyllgor, SAMUEL EVANS, Ysg. CYFANSODDIADAU CEKDDOEOlT GAN C. MEUDWY DAVIES, LLANELLI. U TTEN GADAIR WAG Y TEULU," Can i Soprano nen Denor, y ddwy iaith, a'r ddau Nodiant. Pris 6c. "Achub fi, 0 Ddow," Anthem at wasanaeth Cymanfaoedd Oerddorol, y ddau Nodiant, pris 3c. Cilfaria Hen Alaw wedi el chynghaneddo i bedwar llais (4ydd argraffiad), yddaaNodiant, prie 10. Dolia yn awr dy Greawdwr," Anthem New- ydd i goren cynalleidfaol, y ddau Nodiant, pris 2c. Pob archebion I'w hanfon at yr awdwr,—C. MEUDWY DAVIES, Music Seller, Llanelli, i I Anhwylderau'r Gwanwyn! Mawrth a ladd, Ebrill a fling." Yn ystod misoedd oer a llaith y gauaf, y mae lluaws wedi bod yn dyoddef gan Asthma, Bronchitis, Anwyd, Peswch, ac yn OBweaig gan yr Anwydwst—yr haint sydd wedi ymdaenu mor gyffredinoI dros ein gwlad. Y mae llawer iawn o'r rhai gaweant ymosodiad o'r clefyd hwn yn dyoddef mwy oddiwrth yr effeithiau sydd yn eu dilyn, sef gweodid, diffyg yni, iselder ysbryd, &c., nag oeddynt pan dan yr haint. Y mae misoedd cyntaf y gwanwyn yn anffafriol i adferiad iechyd y rhai fnont yn dyoddef y gaDaf; y mae achwylderaa y tymhor hwnw wedi gadael aumhu^eddan yn y gwaed. Arferai ein hynafiaid yn y tymhor hwn or flvryddyn geisio ymwared oddiwrth yr achwylderaa hyn trwy agyr gwythien, a gollwDg path o'r gwaed acmhur allan, neu trwy gymeryd dognan o frwmstan, neu rhyw gyffyr arall, i buro y gwaed. MewD canlyniad i ymchwil- iadau a darganfyddiadau meddygol y blyu- yddan diweddaf, mae amryw ddarpariaethau llysieuol at buro y gwaed a symud anhwyl- derau yn cael eu cynyg i'r cyhoedd yn yr oos hon, ond tystiolaeth mtloedd yn y wlad hon a gwledydd ereill, yw nad oes un medd- yglyn adgryfhaol i'w gvstadlu a QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Mae y Quinine Bitters yn feddyginiaeth hollol lysieuol, ac yn cynwys chwerw lysiau a melus-lysiau wedi eu haddas gymysgu i ffurfio y feddyginiaeth oreu a ddyfeisiwyci erioed er cryfhau y cyfansoddiad, puro y gwaed, a symud ymaith effeithiau gwahanol glefydau. Cynwysa rinweddau iachaol Quinine, Sarasparilla, Saffrwn, Lafant, Crwynllys (Gantiac), Cynghaw (Burdock), Dact y Llew, &c.; mewn gair, y mae braidd pob llysieuyn a gweiddyn meddyginiaethol yn y meddyglyn rhyfedd hwn, ac y maent wedi cael eu parotoi a'u cyfartalu i wneud cymysgedd celfyddydgar o'r fath mwyaf hapus a llwyddianus i sicrhan cydweithred- iad yr elfenau meddyginiaethol a gynwysir ynddynt, ac i gyrhaedd yr amcan mewn golwg with barotoi y feddyginiaeth. Mae y Quinine Bitters Wedi bod gerbron y cyhoedd AM AGOS I UGAIN MLYNEDD. Y mae ei rinweddau iachaol ac adgryfhaol yn cael eu oydnabod mor gjrflfredinol yn mhob man lle y gwuaed prawf teg &rno, fel mae y galwad am dano yn cynyddu o wythnos i wythnos, ac nid oes un meddyg- iaeth mwy adnabyddus yn mhob rhan o'r byd na QUININE BITTERS GWILYM EVANs. Cymeradwyir ef yn hyderus i bawb sydd yn teimlo gwendid, ac yn ddihoeni ar ol ymosodiadau o Anwydwst! Asthma I Bronchitis I Yn ogystal ag i hawb sydd yn dueddoL i anhwylderau y Cylla, y Giau, yr Ysgyfaint, a'r Afu. Mae rEai o feddygon goreu y deyrnas yn ei gymeradwyo at yr anhwyl- derau nyn ac at buro y gwaed. Y mse GWYNT Y DWYRAIN sydd yn ffynn yn gyflredin yn ystod mis- oedd y gwanwyn yn niweidiol i lawer o bersonau o gyfansoddiadau gweiniaid, ac yn y gorphecol wedi profi yn angeuol i luaws o'r cyfryw. Nid yn ddiachos y rhoddodd ein hynafiaid fynegiad i'r ben ddywediad,- Mawrth a ladd, ac Ebrill a fling," gan fod gwyntoedd deifiol y misoadd hyn mor niweidiol i bob bywyd. Cryfhewch y eyf- ansoddiad i wrthsefyll eu heffeithiau niweid- iol, nid trwy ymaifer a gwirodydd poethion, fel Braddy, Gin, a diodydd alcoholaidd ereill, y rhai a dybia gan lawer (ond yn gamsyniol) ydynt efteithiol i gad* oeriel allan, ond trwy gymeryd rhyw gyffyr neu feddyglyn adgryfhaol a rhinweddol, wedi ei barotoi yn ofalus, ac yn cynwys elfenao gweithgar a iachaol y pnf lysiau meddygin- iaethol, y rhai ydynt ddarpariaethau natur ar gyfor pob afiechyd. Ceir y cymbwys deraa hyn oil yn QUININE BITTERS GWILYM EVANS. TYSTIOLAETH DIWEDDAR. Pontrhydyfen, Mai 18fed, 1889. Anwyl Syr)-Mae yn hyfrydwch calon genyf ddwyn tystiolaeth I rinweddau ragord eich Quinine Bitters enwog. Yr wyf wedi eu cael lawer gwaith yn gynorthwy neilldnol mewn girendid a llesgedd. Nid yw y ty yn llawn hebddynt. Nis anaf gael gelriau i'w cacmawl fel y dymnnwn, ac fel y maent hwythau yn gwlr deilyngu. Cynghovwn bawb sydd yn wan ac eiddil i roddi prawf dioedi ar Qninine Bitters Qwllym Evans, yn nnig er en lies eu hanain, Ni ddylai neb fod hebddynt. Yr eiddoch, &c., ROBERT ALLEN, Gweinidog y Bedyddwyr QUININE BITTERS GWILYM EVANS Pris poieli, 2a 9c.; eto, dwbl faint, 48 6c I'w gael yn mhob man. Gornchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ef am y pris- iau uchod yn rhad a dyogel drwy y post i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion, QUININE BITTERS MANUFACTURING CO. (LIMITED), LLANELLY, SOUTH WALES. Gellir cael Qninine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prit oruchwyliwr,— R. D. Williams, Medical Hall, Plymouth, Pa