Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

CYFAEFOD PWYLLGOI; Y SLIDING…

News
Cite
Share

CYFAEFOD PWYLLGOI; Y SLIDING SCALE. Cyfarfu pwyllgor ucol Sliding Scale glo feydd Deheudir Cymru a Swydd Fynwy, yn yr Angel Hotel, Caerdydd, dydd Sadwrn diweddaf,—Syr W. T. Lewis yn y gadair, Yr oedd yn bresenol, Mri, Archibald Hood, C. B Holland, W. Thomas, Edward Jones, Edward Mai tin, a W. G. DalzieJ, (Ysgrifen- ydd yn cynrychioli y meistri; a Mr. W. Abraham, A.S., (is gadeirydd), Mri. Phillip Jones, David Morgan, Isaac Evans, Thomas Griffiths, Daniel Jones, Morgan W eeks. a Lewis Miles, (Ysgrifenydd), ar ran y gweithwyr. Daeth achos yr anghydwelediad rhwng Cwmni Cwmaman a'u gweithwyr, yn nghylch gwythien y ddwy droedfedd a naw mcdfedd yn inlaen am ymdriniaeth faith. Yr oedd y gweithwyr wedi atal gweithio er's peth aro?er, ond dychwelasant hyd nes y gwneir ymchwiliad gan y pwyllgor. Ar ol cael tystiolaelh Mri White, (y goruchwyliwr), J. Lewis, M. Alexander, a John Roberts dros y gweithwyr, penderfynodd y pwyllgor apwyntio Syr W. T. Lewis a Mr. Phillip Jones i wneud ymchwiliad i'r mater, gyda bawl i setlo yr annealldwriaeth. 0 Bu yr anghydwelediad yn nglofa Court Herbert, perthynol i Gwmni Glofaol Dynefor, hefyd o dan ystyriaeth. Cynrychiolid y gweithwyr gan Mr. Isaac Evans, a'r cwmni gan Mri. W. T. Rees, H. G. Thomas, a J. Hopkins, (y goruchwyliwr). Anealldwriaeth I ydyw hwn mewn cysylltiad a chyflogau y gweithwyr nos, a derbyniodd ystyriaeth fanylaf y pwyllgor. Rhoddwyd ystyriaeth i'r anghydwelediad yn Lcwer Deep Pit, Mri. Lancaster a'i Gwmni, Swydd Fynwy, mewn perthynas i gecliad yu y cyflogau oedd yn ddyledus i'r gweithwyr yn herwydd y cyfnewidiad yn y 1 lampau. Oedwyd penderfynu y mater hwn hyd y cyfarfod nesaf, er cael ychwaneg 0 dystiolaet han. Yea daeth yr anghydwelediad a fodolayn nglofa Clydach-Merthyr, Cwm Tawe, 0 dan ystyriaeth. Yr oedd y lofa hon yn segur er aechreu y mis. Aed i mewn i'r mater yn drwyadl, a deuwyd i benderfyniad a fydd yn debyg 0 fod yn foddion i ail ddechreu gweithio yn fuan. Rhoddwyd sylw i'r annealldwriaeth yn nglofa y Morfa, Port Talbot, a threfnwyd i ail ddechreu gweithio hyd nes y ceir ym- chwiliad pellach i'r mater. Bu yr anghydwelediad a fodola yn nglofa y Mardy, Rhymni, hefyd 0 dan ystyriaeth, a hysbyswyd fod y cwmni wedi cytuno i ddychwelyd at y dull blaenorol o weithio. Bll sylw ar faterion ereill 0 bwysigrwydd llai. Deallwn na chyffyrddwyd &'r cwest- iwn 0 ddiwygio y Scale, gan nad oedd hwn one5 cyfarfod er ystyried yr annealldwriaeth- au a fodola yn y gwahanol lofeydd. Felly, nid oedd y cynrychiolwyr ychwanegol a benodwyd er diwygio y Scale yn bresenol. Cyfarfod Cynrychiolwyr y Giceithwyr. Boreu Sadwrn, cyn y cyfarfod unol, cynal- iwyd cyfarfod 0 gynrychiolwyr y gweithwyr ar y Sliding Scale Committee, yn y Grand Hotel, Caerdydd. Amean y cyfarfod ydoedd cymeryd i ystyriaeth, cyn myned i'r pwyll- gor unol, y gwahanol annealldwriaethau a ddeuent 0 dan ystyriaeth yno. Y cwestiwn cyntaf a ddaeth dan sylw ydoedd yr anneall- dwriaeth yn nghylch gwythien y ddwy-a- naw yn Cwmaman. Rhoddodd John Lewis, M. Alexander, a John Roberts, holl fanylion yr achos, a dywedent fod y glowyr, pan ddechreuwyd gweithio y wythien, yn gweithio ar gyflog dyddiol am gryn amser, ac w edi hyny ar delerau yn ol y dynellt ac nid yn ol unrhyw drefniant parhaol. Gwrth- oda y gweithwyr y telerau hyn, os na ddodir pris penodol ar y dynell. Dangoswyd darnau o'r glo, yr hwn, meddid, a gymerai fwy 0 lafur i'w dori. Yr achos nesaf a ddaeth o dan sylw ydoedd yr anghydwelediad yn nghylch yr oriau gweithio a fodolai yn mhlith hollers Tre- degar. Yn yr achos hwn, rhoddodd Mri. Henry Bowen a John Roberts swm y cyflogaa, a nifer yr oriau a weithid yn wyth- nosol, a bernid eu bod yn groes i drefniadau y Sliding Scale. Eglurwyd yr anghydwel- ediad yn nglofeydd Dynefor gan Mr. Isaac Evans, a darfu i ddau o'r gweithwyr, Mri. W. Spearring a Thomas Treharne, egluro achos y lampau yn nglofeydd Lancaster.

UNDEB YSGOLION SABBOTHOL DWYRAIN…

Advertising

LLOFRUDDIAETH AC HUNANLADDIAD…

MAM YN LLADD PUMP O'l PHLANT.

ETHOLIAD ROCHESTER.

Advertising

Advertising

YR WYTHNOS.

HUNANLADDIAD DYCHRYNLLYD,

MARWOLAETH Y PARCH. KILSBY…

GWEITHFAOL A MASNACHOL.

SEFYLLFA Y FASNACH Lo.

Yn ALCANWYR.

ICYFARFOD illISOL ABERDAR…

ETHOLIAD BIRMINGHAM.

------.-----CYMER—DAMWAIN…

HIRWAUN PRIZE DRAWING.

Advertising