Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
c ^I "j f Iechyd, Llwyddiant. a Dedwyddwch Tri pheth anhebgorol yw yr uchod i ddyn os am fwynhau bywyd. Arweinia Iechyd i Lwyddiant a Llwyddiant i Ddedwyddwch. Cyfyd y cwestlwn, But i sicrhau Iechyd ? Mewn atebiad, gellir dweyd mai llwybr anffaeledig 1 gyrimedd hyny yw trwy ddefnyddfo yn brydlon Hughes' Blood Fills SEF PRIF FEDDYGINIAETH YR OES At yr holl anhwylderau ag y mae y corff dynol yn agored iddynt. Ffaith a gydna. byddir yn gyffredinol yw, mai mewn gwaed anmhur y dechreua pob clefyd. A chan fod Hughes' Blood Pills 1 Yn effeithio yn uniongyrchol ar y Gwaed, profant yn effeithiol i atal a symud unrhyw Glefyd a ddichon ymaflyd yn y cyfausoddiad dynol, ond eu cael mewn pryd. EFFAITH UNIONGYRCHOL Hughes' Blood Pills rn YW Puro, Glanhau, a Chryfhau y Gwaed a holl Hylifau y Cyfansoddiad, ac felly Dad- wreiddietot a Chliriant Afiechyd o'r Corff, cryfhant ac adnewyddant, a dygant Iechyd i'r Cyfansoddiad, gan ei ddyogelu rhag bod yn agored i ddoluriau heintus. Ceir prawfion parhaus drwy y blynyddoedd o'u rhinwedd i iachau y clefydau caulynol Diffyg Traul, Dyspepsia, Biliousness, Poen Pen, Poen Cefu a'r Ochrau, Lumbago, Pleurisy, Corfirwymedd, Fits, Nervousness, Gout, Clefyd Melyn, Gravel, Hen Ddis- temper, Spleen, Blast, Scurvy, Clefyd y Brenin, Manwynau, G-wynegon, Clefydau y Croen, Tarddiadau ar y Cnawd, Pendduynod, Cornwydon, Clwyfau, &e., &c. »' BHYBUDD. Y mae llwyddiant digyffelyb y Peleni hyn wedi achgsi llawer i'w hefelychu. Gofaler mynu gweled fod y Trade Mark, 'HUGHES' BLOOD P I L L S I A llun calon, ac enw Jacob Hughes ar Stamp y Llywodraeth ar bob blwch; heb hyn, twyll fydd. Ar werth am Is. lic., 2s. 9c., a 4s. 6c.; gyda'r Post, Is. 3c., 2s. lie., a 4s. 9c., oddiwrth y darganfyddwr a'r perchenog, JACOB HUGHES, L D.S., A.PH.S., I MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH, CARDIFF. ♦ J Gorucbwyliwr yn America,—Mr. R, D. WILLIAMS, Chemist, &c., Plymeuth, Pa., gan yr hwn y gellir cael hefyd I GOMEIDS BALM' a 'HUGHES DROPSY PILLS.' ( PRUDENTIAL ASSURANCE COMPANY, LIMITED, HOLBORN BARS, LONDON. Extracts from the THIRTY-NINTH ANNUAL REPORT, for the Year ending 31st December, 1887. THE total assets of the Company have been raisoo from £618111954 to 97,867,103, being an increase of £ 1,055,149 during the year. ORDINARY BRANCH. The number of Policies issued during the year was 37?450, assuring the sum of £ 3,903,635, and producirg a New Annual Premium Ircome of £ 192,109. The Premiums received during the year were jB555,151, being an increase of £138.191 over the year 1886. The claims of the year amounted to £158,257. The number of deaths was 1071. and 39 Endowment Assurances matured. The number cf Policies in force was 115,451. INDUSTRIAL BRANCH. The Premiums received during the year were £ 3.058.501, being an increase of £ 147,206* I r The Claims of the year amounted to £ 1,204,823 The number of Deaths was 142,665. The revision of tho Tables cf the industrial Branch (in all cases in favour of the Assured), which was alluded to last year, has been much appreciated by the Policy-holders. The effect has been to add more than £ 30,000 to the amountj paid in the year for Claims, owing to the increased benefits thus afforded. The number of Policies in force was 7,599,554, including 89.232 Free Policies. GENERAL BALANCE SHEET OF THE PRUDENTIAL ASSURANCE COMPANY, LIMITED, ON THE 31ST DECEMBER, 1887. Liabilities. £ s. d. assets. B s. d. Shareholders' Capital 200,000 0 0 British Government Securities, Ordinary Branch Funds 2225,557 5 5 Consols & New 3 per Cents 1,053,992 6 10 Industrial Branch Funds 5,409.827 11 6 Railways & other Debentures 1,080382 2 5 Claims under Life Policies Loans on Municipal and other admitted 31,717 13 11 Rates. 1516 070 19 11 Freehold Grontd Rents and Scotch Feu Duties 1,487,815 3 10 Metropolitan Board of Works Stock and City of London Bonds 160568 10 0 Rank of England Stock 44,301 16 10 Freehold & Leasehold Property 665,501 14 0 4 Indian, Colonial, and Foreign Government Securities 470,149 17 6 Reversions 124,093 6 0 Railway and other Shares 20,^3 1 10 <■:>' Mortgages 653 <W3 5 7 L Loans on the Company's Policies 61.042 5 3 Furniture and Fittings 19.500 0 0 Loans upon Parsosal Security 712 10 0 l, 1 Outstanding Premiums 168,529 14 7 Cash in hands of Superinten- dents and Agents' Balances 28,367 18 1 Outstanding Interest & Rents 66.669 2 8 Caeh—on deposit, on current accounts, and in hand 245,548 15 6 £ 7,867,102 10 10 X7 8^7.102 10 10 TffiOS. C. DEWEY, 1 EDGAR HOBNE, Chairman. WILLIAM HUGHES,)Ma 9 HENRY HARBENJ W. J. LANCASTER, Secretary. ROBERT BARNES,) -UV)ectors' WHEN IN SW-A-HsrSJEO-A- Don't forget to have your PORTRAIT TAKEN AT Goldie's Studio, Acknowledged to be THE BEST IN WALES! Prices,—Three, 2s.; Six, 3s.; Twelve, 5s. 6d. The only Studio in Wales where you can have your Portrait taken at nigkt by arti- ficial light equal to daylight. TEMPLE STUDIO, SWANSEA. Y RHONDDA GLEE SOCIETY. tc4SVE5NYDD CARADOG. IS-ARWSINYDD.. MR. T. STEPHENS. Solo Pianist & Accompanied,—MR. R {-CHARD HOWELLS, Maesgwyn. Dymuna y Gymdeithas uchod hysbyso Pwyll- gorau Cyngherddau ac Eisteddfodau, &c, ei bod yn bwriada tala ymweliad ag 11ISK1 yr haf dyfodol, a'i bod yn barod I gymeryd Engagements mewn Gyngherddau, &c. Am bob manyllon pellach, Yn nghyd a'r teleraa, ymofyner a'r Goruchwyliwr Cytfredinol, Mr. T. STEPHENS (Telorydd), PENTRE, i RHONDDA. J f EISTEDDFOD LLANDILO. fYYNELIR EISTEDDFOD GORONOG LLANDILO ar ddydd Llun, Awsfi 6ed, ISSS-Ballk Holiday. Prif Lidayn- Haliellej ah Chorus (Handel), gwobr £ 25, a ohoron arian gwerth S5 i'r arweinydd buddtigol. Ceir raanylion pellach yn fuan. C. G. PHILLIPS, Yeg Yn barod, Rhan 1, pris 3c., 4 Trysorfa r Adroddwr Yn eyawya darnau newyddion ao addas i'r dadieuwr, yr adroddwr, a'r CaLwr, at wasan- aeth cyfatfodydd chwarteyol, llenyddol, ao cisteddfodol, dan nawdd prif lenoriolt, beirdd, a cberd^ orion y genedl. Elw da i lyfrwerthwyr a dosbarthwyr, I Cyhoeddedig gaxt D. L. JONES (Cycalaw), Briton Ferry. Pob Taliadau ac Hysbysiadau i'w cyfeirio at "John Milk, TARIAN Office, Aber- dare." Pob gohebiaethau ac Ysgrifau i'w hanfon at "Editor, TARIAN Office, Aberdare."
TY Y CYFFREDIN A'R GENEDL…
TY Y CYFFREDIN A'R GENEDL GYMREIG. Yr wythnos ddiweddaf dygwyddodd peth anarferol yn y Seneed, sef dadl faith a phwysig ar gwestiwn Gymreig. Cynygiodd Mr. Rathbone, yr aelod an- rhydeddus dros Sir Gaernarfon, fod cyf- eisteddfod mawreddog (Grttnd Commit- tee) i gael ei benodi, o ba un yr oedd yr aelodau dros y Dywysogaeth a Sir Fynwy i fod yn aelodau, er mwyn gwyntyllio cwestiynau perthynol i 'Gymi'u, ac yn eu cyflwyno i Dy y Cyffredin. Darfu i Mr. Rathbone wneud araeth wit alluog dros ei gynyg- iad, ac eto yn un hollol gymedrol o ran ton. Cefnogwyd ef yn fedrus gan Mr. Osborne Morgan. Maentumiai y ddau mai nid Home Rule oeddynt yn gynyg, eu bod yn hollol wrthwynebol i drefn- iant o'r fath; ond mai cynllun ydoedd i alluogi y Senedd i ddelio ag anhaws- derau t Cymru. Galwent sylw at y ffaith nad oedd un ddeddf yn dal cys- ylltiad a'r genedl Gymreig wedi cael ei phasio y senedd-dymor diweddaf, ac nad oedd yn debyg y caffai deddf o'r fath ei phasio y tymor hwn, oddieithr i gynllun Mr. Rathbone, neu rywbeth tebyg, gael ei fabwysiadu. Dilynwyd y ddau gan Syr Hussey Vivian, Samuel Smith, a Mr. Whitbred. Boneddwr yw yr olaf a ystyrir yn aw- durdod ar faterion seneddol; nid oes yr un ag y telir mwy o sylw i'w tarn nid ydym yn gWiyboLl fod thyw gydymdeim- lad neillduol rhyngddo a'r Cymry ond datganodd yn hyf fod yr hyn a gynygiai Mr. Rathbone, nid yn unig yn rhesym- ol, ond yn hynod o gymedrol. Honai y byddai gwrthod y cais yn sicr o esgor ar floedd am Lywodraeth Gartrefol. Chwareu teg i'r aelodau Cymreig; gwnaethant eu rhan yn dda. Cyfeirias- ant at ein cenedlaetholdeb, at ein hiaith, ac at ein llenyddiaeth, ac at gallineb a hyfiforddiant ein gweithwyr. Y gwir yw, ymresymasant y pwnc fel nad oedd fawr gwerth son am dano i'w ddywedyd yn eu herbyn. Pe buasai nerth dadl a grym rhesymeg yn tycio, buasent wedi dwyn barn allan i fuddugoliaeth. Ond cododd Mr. Raikes, y Postfeistr Cyffredinol, fel Balaam gynt, i'n rhegu. Am tuag aiwr o amser, bu yn tywallt allan bob llysnafedd y medrai ddyfod o hyd iddo ar bob peth perthynol i ni;— ein hiaith, ein llenyddiaeth, a'n cenedl- aetholdeb. Ac nid digon ganddo oedd ein difrio, a'n camgyhuddo, ond rhaid iddo ein gwawdio, a'n gwneud fel Samson gynt yn bethau i beri i'r Phil- istiaid chwerthin. Yn nghanol cym- eradwyaeth fyddarol, a chwerthiniadau gwatwarus y Toriaid, honai na feddem lenyddiaeth, ond rhyw ycqydig o wedd- illioti barddonol diwerth. Trystiai a chwarddai y Saeson, fel rhai wedi cael ysglyfaeth lawer, tia yr elai Mr. Raikes yn mlaen yn ei afiaeth i'n gwarad- wyddo. Ond cafodd wers nad anghofia mo honi yn fuan gan Mr. T. E. Ellis, yr aelod anrhydeddus dros Sir Feirionydd. Honai ef na roddwyd ateb mwy ffol i gwestiwn erioed nag a wnaed ar y mater hwn gan Mr. Raikes. Yr oedd araeth Mr. Ellis yn un feistrolgar tu- hwnt. Cefnogwyd ef yn ddewrwych gan y Parnelliaid, ac yn y diwedd bu yr aelodau Cymreig bron a gorchfygu y Llywodraeth; nid oeddynt ond dau ar hugain yn fyr o gyraedd buddugoliaeth. Gallwn dynu amryw gasgliadau oddi- wrth y ddadl. Un ydyw, na chaiff y Cymru yr un gymwynas byth gan y Toriaid. Beth bynag ydym fel cenedl yn ddysgwyl,—addysg i'n dynion ieu- ainc, liawl i ddelio a thafarndai, cael ein hiaith i'r ysgolion dyddiol,-ofer i ni feddwl y cawn ddim gan y Ceidwad- wyr. Gallwn adrodd gwers y Llyfr Gweddi Cyffredin ar y mater hwn,— Megis yr oedd yn y dechreuad, y mae yr awrhon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd." Felly, nis gall un Cymro bleidleisio dros Geidwadwr heb frad- ychu ei wlad, a dibrisio buddianau uclraf y genedl' Gymreig. Gwyddom am rai Toriaid sydd yn awyddu ami gynrychioli rhanau o Gymru, ydynt yn clebran yn ddymunol am ein hiaith a'n cenedl; ond nid yw yr oil ond sebon meddal i geisio ein hudo; pe caent fyned i'r Senedd byddai plaid wleidydd- ol yn fwy pwysig yn eu golwg na'r genedl Gymreig. Y mae yn llawn bryd i ni ddeall fod ein holl obeithion yn gorwedd yn y Rhyddfrydwyr. Yn y ddadl hon, aeth pob Cymro o Don, a phob Cymro o Undebwr, yn groes i'. buddianau eenedlaethol. Safai Copn- wallis West, yr Undebwr sydd yn cyn- rychioli rhan o Sir Ddinbych, gan ddadleu nad oes arnom eisieu dim ond cyfranogi o friwsion y Saeson. Da genym weled fod y gwr hwn yn cyf- lawni mesur ei anwiredd yn gyflym. Ochr yn ochr a'r boneddwr yma elai Syr Joseph Bailey, a'r holl fan Doriaid ereill, i'r un lobi, sef yr un wrth-Gym- reig. Yr ydym yn ail ddweyd, y mae ein holl obeithion fel Cymry yn y Rhyddfrydwyr. Gallwn gael Ceidwad- wyr i lywyddu yn ein heisteddfodau, i gymeryd y gadair mewn ciniaw Gwyl Dewi, i glebran mewn cyfarfodydd cys- tadleuol am ein cenedlaetholdeb ond pan awn i ofyn ffafr ganddynt, neu yn wir, gyfiawnder, mewn ystyr wleidydd- ol, rhoddir careg i ni yn lie bara. Go- beithiwn y cofia ein hetholwyr y sarhad hwn, ac yn yr etholiad nesaf yr anfonir yr ychydig Geidwadwyr sydd yn cam- gynrychioli rhanau o'n gwlad i'w lie eu hunain. Gwers arall sydd yn amlwg yn yr amgylchiad yw fod angen gwell trefn- iadau ar yr aelodau Cymreig. Pe bu- asent wedi bod yn ddoeth, ac wedi deall eu gilydd yn dda, gan feddu llwybr i hysbysu pob un am y ddadl yn bryd- lon, buasent wedi gorchfygu y Llywodr- aeth. Nid oes dim amheuaeth ar y mater. Ond yn lie hyny, deuddeg o'r aelodau oedd yn bresenol! Ac yr oedd ugain yn eisieu Dvwedir nad oedd yr ugain yma ya gwybod fod rhaniad i gymeryd lie y noson hono ar fater Cym- reig. Sut na fuasent yn gwybod? Onid oedd Mr. Rathbone wedi rhoddi rhybudd o'i fwriad i ddwyn y pwnc yn mlaen ? Yr oedd rhyw ddiffyg enbyd yn rhywle. Gallwn hysbysu yr aelodau Cymreig nad yn y dull hwn y daeth Mr. Parnell i feddu y fath ddylanwad yn y Ty; nid dyma y modd y daeth y Gwyddelod yn allu. Nage, ond wrth feddu trefniant perffaith, a thrwy gyd- weithredu yn mhob dim. Ychydig yw yr aelodau dros Gymru, ond gallent feddu dylanwad mawr pe y cydweith- ient. Sicr yw na oddefa y Cymry i bethau barhau fel hyn. Os nad yw ein seneddwyr am wasanaethu y genedl, bydded iddynt roddi eu lie i'r rhai sydd yn barod i wneud hyny.
PWY SYDD I FOD YN OLYNYDD…
PWY SYDD I FOD YN OLYNYDD IMR.YEO? Yr ydym yn gweled enwau nifer o Saeson, ac yn mysg y llu rai o gryn allu a thalent, yn cael eu crybwyll fel ym- geiswyr am gynrychioli Gower yn Nhy y Cyffredin. Pob parch i'r Saeson yn arbenig i'r rhai sydd yn meddu talent a medr. Ond credwn mat Cymro o waed ac o dafod a ddylai fod yn olynydd i Mr. Yeo. Nid yw Tywysogaeth Cymru i fod yn ddinas noddfa i wleidyddwyr sydd wedi methu mewn manau ereill. Ac nid ydym fel cenedl ychwaith mor amddifa/d o ddynion fel ag y rhaid i ni eu benthyca oddiwrth genedloedd o gwmpas. Nid ydym yn gofalu oscawn, o herwydd ysgrifenu fel hyn, ein galw yn gul ac yn rhagfarnllyd, ac yn anghar- edig. Yr ydym yn gyfarwydd ag enwau cas nid ydynt yn tori pen neb, ac nid ydynt fynychaf ond arwydd o wendid. Nid culni at y Saeson sydd yn peri i ni ddadleu dros Gymro i gynrychioli Gower, ond awydd am weled y teimlad a'r asbri cenedlaethol yn enill nerth yn y Senedd; chwant gweled ein cdtiedl yn cael ein cynrychioli gan y meibion a fagwyd ganddi hi ei hun, y rhai sydd yn ei deall ac yn cydymdemilo a hi o waelod eu calonau. Y mae anallu gwreiddiol mewn Sais, yn arbenig os na fydd wedi rhwbio llawer yn mysg y Cymry, i'n deall fel pobl. Nid anallu moesol yw hwn, ychwaith, ond anallu naturiol. Ryw- sut, y mae yn methu gwybod sut na fyddem yn foddlon bod yn rhan o Loegr; cael ein llyncu i fyny o ran iaith, arferion, a theithi, gan y gemedl Seisnig. Ni fedr ddeall ein cariad at farddoniaeth, ein hoffder o eisteddfodau a chyfarfodydd cystadleuol, ac hyd yn nod ein crefycftlolder a'n Anghydrffuf- iaeth. Y mae hyn oil yn ddirgelwch iddo. Ond gwyr pob Cymro ynddo ei hun y rheswm am hyn. A Chymro glan gloew a ddylai gael ei anfon i fyny i Lundain i fod yn gynrychiolydd Gower. Etholwyr, peidiwch gwrando ar yr adar Seisnig, gan nad pa mor felus bynag y byddont yn canu; an- fonwch i St. Stephan un fyddo yn medru canu alawon Gwlad y Bryniau, ac os daw y gweithwyr allan a Mr. D. Randdl, nid oes genym ond gobeithio yr etholir ef.
POLITICAIDD A SENEDDOL.¡
POLITICAIDD A SENEDDOL. Gwneir tipyn o dwrw mewn cysylJtiad a phriodas arianaidd Tywysog Cymrn. Rhag 1 ofn fod rhai o'n darllenwyr heb ddeall pa beth a olygir, dywedwn fod y Tywysog wedi priodi er's pumttnlyBMd ar hugain, a hyn a'i gwna yn arianaidd, fel y gwna haner can' mlynedd hi yn biiodas euraidd. Buasid yn cael mwy o rialtwch oni bae am ddygwydd- iadau difrifol Germani, ac mae llys Prydein-1 ig, fel pob llys arall yn Ewrop, mewn galar-; wisgoedd. I'r rhai hyny nad oes ganddynt aur, bydd y flwyddyn hon yn werthfawr, canys ariaa yw y tlysau, y cadwynau, a'r m6drwy- j au, a gellir eu gwisgo heb fod neb yn meddwl mai tlodi yw yr achos. Gallai y bydd hyn dipyn o symbyliad i farchnad yr arian, yr hon sydd wedi bod yn dra Mel er's rhai blynyddoedd. Ar amgylchiaaau fel hyn, gorchymynir ar fod i'r bardd brenhmol ganu aeu brydyddu ar y testyn, ond y mae Tennyson yn hen, er yn parhau i dderbyn y can' punt yn y flwyddyn. Awgrymwyd ar fod i Mr. Lewis Morris i gyflenwi y diffyg, I a gwyddis er's llawer dydd y bydd ef yn un o'r ymgeiswyr am swydd y bardd brenhinol, ac y mae wedi canu yn dda ar amgylchiadau blaenorol. Y tro hwn, buasai yn well iddo i gadw ei gan yn ei logell, canys collfernir hi gan y wlad yn gyfiredinol. Y pwnc sydd wedi tynu sylw mwyaf gwleidyddwyr Cymru yr wythnos ddiwedd- af yw absenoldeb yr aelodau Cymreig o Dy y Cyffredin, pan y byddo pethau pwysig mewn cysylltiad a Chymru yn dyfod ger bron. Y mae hyn yn cymeryd lie mor fyn- yck, a'r dydd o'r blaen cwynwyd nad oedd ond Mr. Thomas Ellis a Mr. Osborne Mor- gan wedi cymeryd mantais at gyfleusdra. i osod anghenion Cymra o flaen y Ty. Y mae y bobl yn gyffredinol yn gwylio symud- iadau yr aelodau Cymreig, ac yn penderfynu eu dwyn i gyfrif, ac os na ddiwygiant. rhaid cael rhai gwell. Dim ond deuddeg yn pleidleisio er cael pwyllgor Seneddol Cymreig i drafed holl achosion Cymru-un o'r pynciau pwysicaf i'n gwlad. Yr esgus y tro hwn yw, fel arfer, yw, fod y mater wedi dyfod ger bron y T £ yn annysgwyliadwy. Onid rhywbeth yn gyffelyb yw y ffaith am ugeiniau o faterion pwysig bob blwyddyn ? Dyledswydd amlwg yr aelodau Cymreig yw gwylio symudiadau y Ty, a chymeryd mantais ar bob cyfleusdra, yn lie absenoli eu hunain a thrampio y wlad i ddim pwrpas Er fod gwelliant mawr yn nghynrychielaeth Cymru, eto gellir dweyd yn ddibetrus nad ydym yn cael ein cynrychioli yn briodol. Pa Ie yr oedd Mr. Alfred Thomas, Mabon, Maitland, Warmington, Rowlands Tracey, Davies, Reed, Talbot, a D. Pugh, ie, yr hen wron Mr. Dillwyn hefyd. Yr oedd Mr. James wedi ymddiswyddo, Mr. Powell yn wiel ei iechyd, a Mr. Yeo yn yn ei arch. Yr oedd y Milwriad West a'r Milwriad Mor- gan yno yn gwrthwynebu fel arfer, a chaw- sant gyuorthwy Syr Joseph Bailey, un o'r aelodau dros Swydd Henffordd, ond yn byw yn Sir Frycheiniog, ac felly yn meddwl fod ganddo hawl i siarad dros Gymru—gwlad nad yw ef yn deall dim o honi, er yn cael ei fara a chaws ynddi, ar ol i'w hynafiaid ym- besgi ac ymgyfoethogi drwy orthrymu y gweithwyr Cymreig. Nid oedd mwyafrif y Llywodraeth ond'22, a phe buasai yr aelodau Cymreig yn bresenol, buasai yn gywilyddus o fychan. Y noswaith flaenorol, gorchfygwyd yr Albaniaid ar eu pwyllgor cynygiedig hwy drwy fwyafrif o 77, a gallesid yn naturiol ddysgwyl y buasai y Cymry yn cynyg am yr un fraint, ond ni ddaeth hyn i ben ond dwsin o'r aelodau Cymreig. Edliwiwyd i'r aelodau gan Mr. Raikes ar ran y Llywodraeth, eu bod yn siarad llawer am bynciau Cymreig, ac am yr iaith Gymraeg, ond nas gailasant ei siarad, a phe Mabon yn bresenol i roddi pwt o araeth yn yr hen iaith, rhoddasid Raikes i lawr gyda dirmyg. Arosodd 45 o aelodau Gwyddelig yn y Ty i bleidleisio drosom, a thua 60 o'r Gladston- iaid. Am Mr. Talbot a Mr. Pugh, dylent ymddiswyddo ar unwaith, canys ymwybydd- ant eu hetholwyr yn hollol. Dj)Hd cael deddf i ddiarddel aelodau mor anghymwys. Ar y pwnc hwn, y mae ffaith arall nas gellir ei hanghofio, a hono yw mai aelodau Seisnig dros Gymru a ddygasant y pwnc o flaen y Ty, ac a wnaethant areithiau grymus drosto. Sais yw Mr. Rathbone, y cynyg- ydd, a Mr. Smith, yr eilydd. Sais neu Al- banwr yw Mr. Stuart Rendel, a Sais yw Syr Hussey Vivian, y rhai oeddynt brif arwyr y ddadl, as eithrio Mr. Ellis a Mr. Osborne Morgan. Rhodder i ni Gy/nry yn aelodau dros Gymru, os bydd cymwysderau ereill yn gyfartal; ond chwareu teg i'n haelodau Seisnig y tro hwn, canys hwy a ddeallasant eu dyledswydd, ac a'u cyflawnasant yn eff- eithiol, er cywilydd i'r aelodau Cymreig. Dychwelodd Mr. Joseph Chamberlain nos Sadwrn, a chafodd dderbyniad brwdfrydig gan ei gyfeillion. Bu yn absenol am tua phedwar mis, a sicrheir iddo wneud ei waith yn dra rhagorol. Y dyfodol a brawf hyn; ond y mae un peth yn sicr, sef iddo anfon cyfrif o'i dreuliau cyn eychwyn o wlad y Gorllewin. Sww lied fawr i'w wario gan Radical mewn pedwar mis yw 3,900p. I Cafwyd dadl yn y Ty ar hyn, ac y mae y bill wedi ei dalu. Yn gyffelyb am gyflog King Harman, is-ysgrifenydd yr Iw- erddon, yr hwn pan benodwyd ef tua blwyddyn yn ol, a apwyntiwyd heb gyflog; ond torodd Mr. Balfour ei addewid fel arfer, a thelir bellach i archelyn y Gwyddel- od, a'u bradychwr hefyd. Ni fyn y Wein- yddiaeth bresenol son am gywirdeb, a cheir digon o dystion heblaw Arglwydd Churchill. Y noswaith o'r blaen, eglurodd Mr. Goschen ei gynllun er talu rhan o'r ddyled wladel. Gwneir hyn drwy dalu Ilai o log i'r dynion hyny y benthyca y llywodraeth oddi- wrthynt. O'r braidd y mae hyn yn deg yn ngolwg llawer, ond bydd yn fanteisiol i'r wlad yn gyffredinol. Cefnogir ef gan Mr. Gladstone, yr hwn a wnaeth beth cyflelyb tua phymtheng mlynedd yn ol. Cynllun Radicalaidd ydyw, a chan fod Mr. Goschen yn ei gynyg pleidia y Ceidwadwyr ef. Dewiswyd tri ymgeisydd Seneddol i fyned drwy y gynrychiolaeth gan etholwyr Gower. Y mae y tri yn ddynion rhagorol. Mr. Wills, pen cwmni mawr y myglys yn Bristol, yw un, ac y mae ef wedi bod yn aelod o'r blaen. Syr Horace Davey yw un arall, yr hwn sydd un o brif gyfreithwyr y deyrnas, ac a benodwyd yn gyfreithiwr cyfffedinol yn llywodraeth ddiweddar Mr. Gladstone, ond a fethodd gael sedd. Mr. Burnie, Aber- tawe, yw v trydydd, ac efe yw trysorydd Cyngrair Rhyddfrydol Deheudir Cymru a Sir Fynwy. Y mae yn aelod o'r flyngor Trefol, ac wedi bod yn Faer y dref. Y mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr y porthladd. Er nad yn Gymro, teimla ddyddordeb mawr mewn materion Cymreig; y mae yn dra galluog, ac yn siaradwr grymus. Sonir am Mr. Dillwyn Llewelyn fel ymgefeydd Tori- aidd ond cynrychiolaeth dra Toriaidd yw un Gower. Cymer dygwyddiadau pwysig iawn le yn Germani, canys y mae yr hen Ymerawdwr William wedi gorphen ei ddyddiau ar y ddaear, a i fab, y Tywysog Coronog, wedi ei wneud yn Ymerawdwr yn ei Ie. Dymun- iad y byd gwareiddedig yw iddo i gael gwella, a hir oes i deyrnasu mewn heddwch. .Ei enw bellach yw Frederick y Trydydd, a gelwir ei wraig, set merch hynaf ein Brenines ni, yr Ymerodres Victoria. Felly ceir dwy ymerodres o'r un enw yn Ewrop-y fam a'r ferch.
!MRS. JAMES, SUNNY BANK STREET,…
MRS. JAMES, SUNNY BANK STREET, ABERDAR. Chwefror 29ain, Mrs. Mary James, yn 32 mlwydd oed, priod anwyl Mr. James James, 8, Sanny Bank Street, Aberdar. Ba ein diwedd- ar anwyl chwaer am amser hlr yn graddol ddi- hoeni o dan law wywhael y darfodedigaeth. Telmlal yn anhawdd iawn ymgymodl a'r syniad o ymadael a'i pbriod a'i dan blentyn bychan an- wyl, ac a'i mam a 1 brawd ond cyn amser el hymddatodiad, derbyniodd gynorthwy dwyfol ras i ymostwng yn slrlol ao ewyllysgar i ewyllys ei Phrynwr .byw. Ba farw yn dawel, yn hyderns, ac mewn taognefedd heddychol. Ba yn aelod ffyddlon a dichlysaidd yneglwys y Bedyddwyijf Ynyslwyd, o'i bedydd i'w bedd, a thelmlal y brodyr a'r chwlorydd hiraeth a thristweh ar el hoi. Prydnawn dydd Han, Mawrth y 5ed, ym- gynallodd torf barchus i gydhebrwng ei gwedd- lillon marwol I dy ei hir gartref i Cemetery Aberdar. Gweinyddwyd ar yr achlysur galarns gan ei gweinidog, y Parck. R. E. Williams (Twrfab). Duw pob dyddanwch gysuro y gal- arwyr yn ngwyneb eu hiraeth a'n galat ar ol un a gerid mor fawr ganddynt.
CYNADLEDD Y TONIC SOLFFA.
CYNADLEDD Y TONIC SOLFFA. Fel y mae yn wybyddus i garwyr cerddor- iaeth, y mae cynadledd gerddorol i'w chynal yn Aberdar eleni, yn debyg i'r gynadledd a gyn- aliwyd yn Merthyr y llynedd, gan y Tonic Sol- ffawyr, ac er mwyn llwyddiant y gynadledd, dymnnir ar i holl Donic SolSawyr Aberdar, Hirwain, Merthyr, Rhondda, &c., i fod yn bre- senol yn y Cardiff Castle Coffee Tavern, Aber- dar, prydnawn dydd Sadwrn nesaf, am 5 o'r gloch. Y mae perffaith roesaw I Hen Nodfant- wyr ac ereill i ymuno. Hefyd, dylem ddweyd na fydd dim cylch-lythyron yn cael eu danfon i neb, o herwydd yr ydym yn dysgwyl y daw llawer yn nghyd heb hyny. Aberdar. THOS. THOMAS.
NODION 0 AMGYLCHOEDD HIRWAIN.
NODION 0 AMGYLCHOEDD HIRWAIN. MASNACH,—Y mae awyrgylch y byd masnach- o! yn araf glirlo wedi bod dan orchudd gan gymylan duon arafwch masnach am hir flyn- yddau. Diolch am ychydig adfywiad ac am argoelion fod gwell amser yn aros y dosbarth gweithgar, yr hwn sydd wedi gorfod dyoddef llawer yn herwydd caledi yr amseroadd ond nl a obelthiwn fod y wawr wedi tori ar y byd masnachol ac y cyfyd haul llwyddiant i dywynu ar y gweithiwr tlawd nnwaith eto, meg!s ag y ba yn y blynyddoedd 1870--2; a dyna yw dy- muniad y llaaws, brysied yr adeg ddedwydd. CERDDOROL:- Well done 4 Glan Cynon Parti,' dqethoch yn fuddogoliaethwyr llwyr o Eistedd- fod Penderyn, er fod yno gor gwir dda yn elch herbyn (os gwir yr hyn a glywais) wrth gwrs yr oedd hyny yn adlewyrchu mwy o gled arnoch. Cefais y fraiot o'ch clywed nnwaith cyn yr eisteddfod, ac ni chefais fy slomi ynoch ond yr ochr oreu, yr oeddech yn cana yn rhag- orol. Clywais fod eisteddfod eto i fod yn Mhenderyn, a bod y brif wobr nesaf yn fwy dipyn. sef dwy bunt yn lie deg ar hugain fel o'r blaen, a bod awrlais yn lie cadair y tro nesaf i'r arweinydd wel ynte dyna le i chwi gynyg eto gellwch braidd fod yn sicr o'r wobr mewn lleoedd o'r fath hwn a'r Rhigos, gan nad oes sicrwydd mewn manan ereill megys Liverpool, Merthyr, ac Aberdar. Ewch rhag- och, mae bias ar beth, 'does dim ar ddim. COWMAN O'R KENDON.
LOCK OUT BIRCHGROVE,
LOCK OUT BIRCHGROVE, MR Got.—Gwalais vsgrif Iled annrhefnus a chymysglyd yn y DARIAN yr wythnos o'r blaen, gan un a gyfenwai ei hun yn Preswylydd,' yr hon ysgrif oedd yn ceisio cyfiawnhan y mefstrl, parthed yr annealldwriaeth vn mhwll No. 1, ac yn ceisio denu y cyhoedd i gredu nm nid y Lock Oat sydd yn yr hen bwll. Gwir ei fodyn orchwyl lied anhawdd i nnrhyw ddysgawdwr fedra deall yr ysgrif hon yn iawn, am fod ei syniadan yn taro yn erbyn en gilydd ac yn dangos fod ei hawdwr mewn rhyw ddyryswch mawr pan yn el ohyfansoddi. Digon hawdd adnabod y dyn wrth ei leferydd. Gellir cym- hwyso dywediad yr Ysgrythyr ato. Y mae dy "leferydd yn dy gyhuddo." Nid oes eislau detective i chwilio am dano, arweinia ei hun i'r trap y'n ddigon rhwydd. Nid oes a fynwyf yn uniongyrchol a dim yn ysgrif Preswylydd, ond y geiriau a ganlyn :—" Y mae yr hen bwll a'r No. 1 yn segar-y cyntaf am nad oes archebion am y glo, a'r olaf am fod y gwelthwyr wedi tori eu hamod a'r meistri drwy beido cario eu mis treial allan." Y mae gelriau y Manager ei han genyf i brofi fod archebion am y glo yn yr hen bwll pan yr ataliwyd ef. Gofynodd i mi y nos taliad dlweddaf cyn atal y gwaith a oedd yn bosibl gael chwech again o ddrams allan bob dydd am dri mis o leiaf. Dywedais inan ei bod yn bosibl ond cael pobpeth angenrheldiol er hyrwyddo'r gwaith yn mlaen. Dywedodd yntaa fod pobpeth i'w gael ond gofyn am dano, a dechreuwyd yr wythnos ganlynol ripio'r top er rhoddi digon o uwchder i'r ceffylaa dra- mwy gydag hawsder, ond boreu dydd Iau gyda bod y gwaith yn dechrea, ataliwyd ef, ac nid yw wedi gweithio dim wedi hyny, Fally, chwi welwch fod yr hyn a ysgrifenwyd gan Preswylydd yn anwiredd, a bod geirlau y Man- ager ei han yn profi hyny amlwg ydyw nad oedd ymgais y Preswylydd, yn ddim ond ceisio dalln y cyhoedd a'i huddagl anwireddus, a chamarwain y Samaritaniaid sydd yn ein cyn- orthwyo i sefyll am ein hlawnderau i gredu mat nid Lock Out sydd yn yr hen bwll, Dylasid myna el ddalai glyma draed a dwylaw, a'idafla i waelod llys Belial yn ddiseremoni. Yr eidd- ooh, yn rhwymau'r gwirionedd, Birchgrove. D. J. RICHARDS.
AT WEITHWYR HAIARN DOWLAIS…
AT WEITHWYR HAIARN DOWLAIS A CYFARTHFA. Dymanir galw eich sylw at y nriodoldeb a'r pwysigrwydd o gael cynrychiolyda llafur dros Fwrdeisdref Merthyr ac Aberdar. Cydnabydd- ir yn gyffredinol fod gwir angen am i'r gweith- wyr i gael eu cynrychioli gan betson ag sydd yn deall, drwy brofiad, beth ydyw eu gwir anghenion, ac a fydd yn debyg o gynllanioyn y modd gqreu taag at gael cyfreithiaa i'n ham- ddift'yn. Y peraon sydd ar y m&es yn bresen. ol yw Mr. D E Davids (Dewi Mabon), Cwm- aman, Aberdar, ac yr ydym ar air a chydwyb- od, yn credu nad oes person yn y fwrdeisdref yn fwy profiadol ac yn fwy cyfaddas i wneud y gwaith angenrheidiol. Dymanir arnoch ei gefnogi yn mhob modd y mae yn ddichon- gpdwy i chwi. Bydd pob peth a wnewch yn y cyfeiriad hwn er elw i chwi etch hunain. Ystyriwch y pwnc hwn YlJ fanwl a difrifol, gan obeithio y cawn elch cynorthwy. Bydd yn lalu ymweliad a chwi yn ystod yr wythnos hon. ITE-K BYDLER.