Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
Advertising
W. Williams, 29, CASTLE STREET, a W A, ZEST S JE .A. SPECIALITIES: JgSGCISH PARENT T EVERS. 2JOT. Q0I<D ■y[7'KI>i)IN3' J>INGS. lSCT. GOLD KEEPERS. QRYSTALr gPECTAGLES.
Advertising
Gymry hoif dewcn at y Oymvc- Os am helrdd fodrweyan aur Ortadaron ao awrleisiau, Geman, a chadwynan olaer 7 ^bpectol gelfydd, hin-fynegydcL Gwr^a-fesaryda, Owmpawd mo Geii gan WILUAMS, Heol y CastfeT1 Trowch i mewn i wel'd et ator Jj W. WILLIAMS. WATCHMAKER & JEWELLER,™ 29,Castle Street, Swansea. J
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. Y MAE yn dda genym ddeall fod Mr. D. Evans, glofa yr Aber, Tynewydd, gedi derbyn oddiwrth yr Ysgrifenydd artrefol drwydded i weithredu fel gor- achwyliwr o dan Ddeddf Newydd y Mwigloddiau. Hefyd, Mr. James Adc lis, Waunafon, Brynmawr, fel is- orucbwyliwr. Borcu dydd Llun diweddaf, yn fuan wedi i'r glowyr fyned i lofa y Graigolau, Pontardawe, cyfarfyddoddDavidBowen Pheasant Bush, a'i ddiwedd mewn modd ofnadwy. Ymddengys fod careg wedi syrthio arno, gan ei anafu yn drwm. Aeth y, bachgen oedd gydag ef i ymofyn cynorthwy i'w ryddhau, ond cyn iddo gyrhaedd, syrthiodd careg fawr arall arno, gan ei lethu i farwol- aeth. Y MAE carcharor o'r enw Sissons yn awr yn ngharchar Armley, Leeds, wedi llofruddio cyd-garcharor o'r enw Taylor boreu dydd Sadwrn diweddaf. Dywed- ir fod Sissons yn wallgof, yr hwn yn foreu dydd Sadwrn diweddaf a gymer- odd gadair ac a darawodd Tayler yn ei ben nes ei la'dd. YN Sesiwn yr Amwythig ddydd Sadwrn diweddaf, dedfrydwyd amaeth- wr o'r enw Elijah B. Forester, yn byw yn Whixall, i bymtheng mlynedd o garchariad penydiol aln saethu ei frawd- yn-nghyfraith, William Powell, am- aethwr arall. Yr amddiffyniad oedd fod y ddau yn ceisio dyfod i feddiant o'r dryll, ac i'r ergyd fyned allan. Y MAE yn ofiius oddiwrth y bryshys- feysiadau sydd wedi eu derbyn fod y llestr Seisnig Earlminster' wedi ei cholli ar dueddau Awstralia, a'r oil oedd ar ei bwrdd. Y mae cyfanswm o ddryll- iau wedi cael eu pigo i fyny yn ogleddol i Ynys Keppel, ac arnynt yr enw Earl- minster,' ac hefyd fad ag arno yr un enw. Gadawodd y llong (yr hon a berthynai i Lundain) Maryborough am Newcastle, Chwefror 17eg, a'r un pryd- nawn, cymerodd ystorm ddychrynllyd Ie. Y mae ymchwiliad pellach yn cael ei wneud. Yr ydym yn cael fod Miss Mary Davies, y gantores fydenwog Gymreig, yn myned i briodi ar yr 22ain o'r mis pifcsenol, a Mr. Cadwaladr Davies, Llundain. Y mae yn cael ei hysbysu fod 600 o deu- ( luoedd, yn cynwys 3,000 o bersonau, ar Yll- ysoedd Arran, ai dueddau Galway, Iwer- ddon, yn hollol heb angenrheidian bywyd, ac oni bydd i hadau, pytatws, ac ymborth gael eu hanfon yno ar unwaith, fod yn rhaid y bydd iddynt farw o newyn wrth y can- oedd. Y mae yr awdurdodau yn deall sef- yllfa pethau, ond yr unig itebiad, a roddant ydyw, y bydd i achosion neillduol o anghen- us gael eu cynorthwyo yn y dull arferol. Nid yw y gweithdy agosaf, sef eiddo Gal- way, yn agosach na 30 o filldiroedd.
GWEIT HFAOL A MASNACHOL.
GWEIT HFAOL A MASNACHOL. Ychydig o gysur y mae Ysgrifenydd Cym- deithas Lofaol North Yorkshire a Cleveland yn gallu ei roddi i'r rhai a ddysgwyliant lawer oddiwrth Gyfraith newydd Rheoleidd- iad Mwngloddiau, yn enwedig mewn cysyllt- iad a lleihau y damweiniau tanddaearol. Fod tuedd y gyfraith newydd i'r cyfeiriad hwnw nid yw yn ameu, ond dywed mai y cyfryw yw natur gweithiau tanddaearol Cleveland, na fydd i unrhyw nifer o gyf- reithiau, dim gofal o ciddo y swyddogion, na nifer inspectors ar ran y Llywodraeth effeithio ond ychydig i leihau y damweiniau tanddaearol. Yr unig beth yn ei feddwl ef a alia dueddu i leihau y cyfryw, ydyw gofal ychwanegol o eiddo y gweithwyr am eu dy- ogelwch eu hunain. Dywed fod tlodi am- gylchiadau y glowyr yn eu gwneud yn or- awyddus i ddwyn allan gymaint ag a allant o lo yn yr amser byr sydd ganddynt i weithio, tra mai yn y glofeydd y gweithir mwyaf o lo y mae y damweiniau amlaf.
ATALIAD GWEITHIAU ALCAN ABERCARN.
ATALIAD GWEITHIAU ALCAN ABERCARN. Rhoddwyd ihybydd i fyny yn y gweith- iau hyn ddydd Sadwrn diweddaf, y byddai iddynt gael eu cau, gyda'r eithriad o'r felin ddwfr, hyd hysbysiad pellach. Y mae y gweithiau wedi bod yn myned yn mlaen ar ddealldwriaeth ddyddiol am beth amser. Felly nid oedd ond 12 awr o rybydd yn eisieu.
AT LOWYR Y GLO CAREG.
AT LOWYR Y GLO CAREG. Dymunir eich hysbysu y cynelir cyfarfod o gynrychiolwyr y dosbarth yn y He arferol yn Brynaman dydd Sadwrn nesaf, Mawrth 17eg. Prif fater y cyfarfod fydd edrych i fewn i'r Special Rules sydd wedi eu hongian i fyny wrth ein glofeydd, a dyna y rheswm ein bod yn gorfod galw ein cyfarfod yn an- ¡ amserol. Dysgwylir i bob glofa anfon 0 gynrychiolydd iir cyfarfod dydd Sadwrn, ac hefyd i edrych i fewn yn fanwl i'r hyn fydd- ant wedi cael eu gosod i fyny yn swyddfa eu glofeydd. Oa yn bosibl bydd Mr W. Abraham, A.S., yn y cyfarfod. E. REES, Ysg. E. REES, Ysg.
GLOWYR EBBW VALE A'U MEISTRI.
GLOWYR EBBW VALE A'U MEISTRI. Yn lIys ynadon Tredegar, dydd Mawrth diweddaf, cafodd yr ynadon lowyr Ebbw Vale yn euog o dori cytundeb gweithiol trwy absenoli eu hunain oddiwrth eu gwaith ar y dydd Llun cyntaf yn y mis. Yr oedd yr achos yn un ag y teimlai yr holl ddos- barth ddyddordeb mawr ynddo. Dirwywyd y naill a'r llail o'r deg a wysiwyd o Is. a'r coatau. Cynelir cyfarfod o boll aelodau Fund Pwll Tynel, Abernant, yn y Greyhound Inn, Aberdar, nos Sadwrn, Mawrth 31, 1888, i ddechreu am chwech o'r gloch, i'r dyben o benderfynu trwy bleidlais yn mha le y cy nelir y Fund yn y dyfodol. Dros y Gym- deithas,—JOHN NICHOLS, Ysg. A
AT LOWYR DEHEUDIR CYMRU A…
AT LOWYR DEHEUDIR CYMRU A SWYDD FYNWY. Gydweithwyr,—Yr wyf am gael eich sylw at y cyfarfod eyffredinol o geohadon y Glo Ager a Thai a gyaaelirdydd Llun nesaf yn y Bute Arias, Aberdar. Y mae cykhlythyrau wedi eu hanfon yn barod i'r lleoedd canlyn- ol,-Abercarn, Abertillery, Blaina, Tredegar, Rhymni, Dowlais, Merthyr, Aberdar, Ponty- pridd, Rhondda, Cwmtwrch, Brynaman, Abertawe, Cwmogwr, ac aaryw ereill. Fe ddichon nad yw yr hoM lofeydd wedi cael y cylchlythyrau, ond na fydded i hyny fod yn rwystr i anfon cenhadon i'r cyfarfod, o herwydd y mae yn bur debyg mai hwn fydd y cyfarfod pwysicaf er sefydlu y Scale, a rhoddi perffaith rhyddid i lofeydd yn y dyfodbl i ymrhyddhau oddiwrth y Scale, os mai felly y gwelont yn oreu. Taer erfynir ar holl lofeydd i roddi y sylw manylaf i'r cylch-lythyr. Bydd gweith- rediadad y cyfarfod yn cael ei gario allan yn hoMol yn ol y cylch !ythyr.—Ar ran pwyllgor y Sliding Scale, LEWIS MILES, Ysg.
CYFARFOD MISOL GLOWYR GLO…
CYFARFOD MISOL GLOWYR GLO TAI Y RHONDDA, GILFACH GOCH, A CHYMOEDD OGWY A'R GARW. Cynaliwyd y cyfarfod tcisol hwn yr wyth- nos ddiwfeddaf dan lywyddiaeth Mr M. Morgan. Pasiwyd pleidlais o gydymdeim- iad a theulu Mr. Yeo, A.S. Pasiwyd pleid- lais o ddiolchgarwch i Mr. John Morgan, y goruchwyliwr, am y dull abl y darfu iddo derfynu yr annealldwriaeth yn LeIel No. 2, Cwmclydach. Cytunwyd derbyn glowyr glofa y Red Ash, Llanilltyd Fardref, i ym- uno Ar Gymdeithas. Cytunwyd hefyd fod cyfarfod neiIlduol i'w gynal ar yr 17eg cy- fisol i'r dyben o ethol person i gael ei gynyg yn y cyfarfod cyffredinol dydd Llun nesaf, yn Aberdar, fel aelod o'r Sliding Scale.
CYNRYOHIOLAETH SENEDDOL MERTflYR…
CYNRYOHIOLAETH SENEDDOL MERTflYR AC ABERDAR. MR. D. A. THOMAS YN MERTHYR. Nos Lun diweddaf, ymwelodd Mr. IX A. Thomas, fel ymgeisydd Rhyddfrydol dewis- edig y fwrdeisdref, a Merthyr, er anerch yr etholwyr yno. Cymerwyd y gadair gan Mr. I T. Williams, ac yr oedd y Neuadd Ddir- westo! yn orlawn. Cafwyd anerchiad brwd- frydig gan y llywydd, yr hwn a dystiai mai Mr. Thomas oedd dewisedig pob dosbarth o Ryddfryddwyr gwirioneddol y fwrdeisdref; na wyddai efe ddim am yr ail berson y sonid am dano yn awr fel cynrychiolydd llafur, ac Bad oedd y gweithwyr fal corS o bobl yn gwybod dim am dano eu bod hwy yn eu cyfarfodydd yn Merthyr, Aberdar, Moun- tain Ash, Hirwaun, a lleoedd ereill, wedi penderfynu nad oedd ganddynt neb yn gyn- rychiolydd ar yr adeg bresenol, ac y gadaw- ent y dewisiad i'r Gymdeithas RyddfrydoI a phwy bynag oedd y rhai a ddygent y person anadnabyddus presenol o Cwmaman allan fel ymgeisydd, ei fod yn dweyd nad Rhyddfrydwyr y fwrdeisdref ydynt, a'i fod ef yn rhwym o gyfaddef mai ei dyb ef oedd, mai pawen Toriaid ydoedd, ac mai yr unig gymwysder y gwyddai efe am dano yn y person hwnw ydoedd, ei fod wedi bod yn aelod o Gymdeithas Doriaidd Aberdar, a'i fod wedi llawnodi ymrwymiad y gymdeithas hono i wneud pob peth yn ei allu i hyrwyddo egwyddorion y cyfryw. Galwodd y llywydd ar y Parch. H. Hughes, Cefn, a Mr. John Morgan, Merthyr, i gynyg ac eilio penderfyniad yn diolch i Mr. C. H. James am ei wasanaeth i'r fwr- deisdref yn y gorphenol, gan hydoru hefyd y byddai yn ddefnyddiol am flynyddoedd eto i'r blaid yr oedd efe wedi arfer ei gwasan- aethu. Cariwyd y penderfyniad yn unfrydol. Yn nesaf, cafwyd anerchiad yn Gymraeg a Saesneg gan Mr. Thomas, yr ymgeisydd dewisedig. Cyfeiriodd at y diffygion y dywedid oedd ynddo, megis nad oeid yn siaradwr, nad oedd efe wedi cael efcm Par- liamentary experience, a'i fod yn ieuanc, y rhai a gyfaddefai efe oil, ond nad oedd neb yn gwybod am y diffygion hyn yn well nag ef; ond ei fod yn Gymro glan, yn frodor o'r fwrdeisdref, a'i fod yn gysylltiedig a phrif fasnach y fwrdeisdref. Yn nesaf, cyf- eiriodd at bynciau Ryddfrydol y dydd, ac ar ddiwedd ei anerchiad, atebodd amryw ofyniadau a roddwyd iddo, a hyny er bodd- lonrwydd cyffiedinol. Cypygiwyd penderfyniad o gymeradwy- aeth iddo ef ac i'w olygiadau politicaidd, gan Mr. D. Davies, Gleveland, yr hwn a eiliwyd gan Mr. Arthur Daniel, Troedyrhiw, a der- byniwyd ef gydag unfrydedd nad oedd neb yn dysg#yl ei gael, gan na chododd ond rhyw chwech neu wyth eu dwylaw yn ei erbyn. .1\ Cynygiodd Mr. John Lewis, atalbwyswr, Aberaman, gael dweyd rhywbeth, ond ni roddididdo wrandawiad. Gresyn na fyddid, yn y cyfarfodydd yn ddigon boneddigaidd i roddi gwrandawiad teg i'r naill ochr a'r Tall, ac yna dangos y teimladau trwy bleid- leisio. # # # Y mae yn rhaid i ni addef nad oeddym yn dysgwyl y fath unfrydedd o blaid Mr. Thomas yn Merthyr, yn enwedig trwy hd cryn lawer o wire-pidling wedi bod gan bar- sonau o ddylanwad er prydnawn dydd Gwener-o dop Dowlais i lawr. Barn y persOIJau nad oeddynt yn adnabod Mr. Thomas o'r blaen oedd ei fod yn well gwleidiadwr ac yn well siaradwr o lawer nag y tybient ei fod, ae nad oedd amheuaeth n*4 oedd defnyddiau aelod ynddo. Y mae y wys am etholiad aelod seneddol dxos y fwrdey^ref hon wedi ei derbyn jir dydd Sadwrn. Y mae y cyt^ffiadau i w gwneud rhwng 10 a 12 o'r gfoch dydd Mercher nesaf, ac cs na fydd gWTthwyniebiad, cymer yr etholiad 1e ar yr un adeg. Os bydd ycnwaneg nag un ymgeisydd, cymer yr etholiad le ddydd Sadwrn nesaf. ♦- ■-
GOHIRIAD ST. FAGAN'S, TRECYNON,…
GOHIRIAD ST. FAGAN'S, TRECYNON, DOUBLE ART UNION PRIZE DRAWING. Anwyl Gydweithwyr,—Nid yn ami iawn y byddaf yn gwneuthnr cais atoch trwy y Wasg, er fy mod bob amser yn barod iawn i wneud yr hyn a allaf i bawb a fydde mewn angen, fel y mae yn dygwydd bod yn yr achos hwn. Gan ei fod yn wir deilwng, ac wedi cael ei osod allan o flaen y cyhoedd yn barod, byddaf yn teimlo yn ddiolchgar i bawb sydd a llyfraa ganddynt i wneud eu goreu i'w gwerthu, a dychwelyd yr arian i'r ysgrifenydd neu y trysorydd mor fuan ag y gailoch. Ar gais llawer taflwyd amser y tyn- iad, ac y mae yr amser hwnw bellach yn agoshau, a'n gobaith yw y gwna y rhai hyny, 0 yn nghyda phawb ereill, eu goreu i deulu mewn caledi. THOMAS WALTERS, Cadeirydd.
IOLYNYDD Y DIWEDDAR MR. IYEO,…
OLYNYDD Y DIWEDDAR MR. YEO, AS. Y mae Cymdeithas Ryddfrydol Dosbarth Gower wedi gwneud pob brys i ddewis cyn- rychiolydd yn lie y diweddar Mr. Yeo. Y mae y dewisiad wedi syrthio ar Syr Horace Davey, yr hwn sydd yn far-gyfreithiwr enwog a galluog, ac wedi bod am amser yn aelod Seneddol dros Christ-church. Yn 1885, trechwyd ef yno gan Mr. Young, ac wedi bod er hyny allan o'r Senedd. Credir os bydd i Mr. Gladstone gael ei ddychwelyd i swydd, y bydd i'r boneddwr hwn gael swydd bwysig o dan y Llywodraeth, ac y mao yn debyg i hyn Mel gryn effaith yn ei ddewisiad yn gynrychiolydd, yn y gobaith y gaUai efe wneud rhywbeibh mwy yn y cylch hwnw dros Gymru nag aelod y tuallan i'r Llywodraeth. Y mae cryn amheuaeth yn ein meddwl ni am ddoethineb y dewis- iad, ar draul tafln o'r neilldu ddyn mor gymeradwy ac egniol fel gwleidyddwr a Rhyddfrydwr a Mr. Burnie. Ond y mae y newydd yn ein cyrhaedd fod pwyllgor o alcanwyr a glowyr wedi ei gynal yn Treforris prydnawn dydd Sadwrn, er cymeryd dan ystyriaeth y priodoldeb o gael cynrychiolydd llafur dros yr adran, a'u dewisiad hefyd wedi disgyn ar berson fydd yn anrhydedd i'r swydd ac i'r rhai a'i dewis- odd. Yr ydym ni o egwyddor bob amser yn barod i wneud a allwn i gefnogi cyn- rychiolydd llafur yn mhob amgylchiad ag y bydd y gweithwyr, trwy fwyafrif, yn barnu hyny yn oreu, a gwnaethom hyny pan nad !^lw.ll ne}?yddiaduron Deheudir Cymru neb gyda "ni, yn achos cynrychiolydd y Rhondda. Cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr. Isaac Evans, goruchwyliwr y glowyr yn nosbarth Castellnedd ac Abertawe, a'r hwn a wnelai aelod rhagorol ei hun. Dy- weelai nad ellid cael neb gwell na Mr. D. Randell, Llanelli. Mewn atebiad i gyn- rychiolaeth a anfonwyd at Mr. Randell, dy- wedodd y byddai iddo sefyll os oeddynt o ddifrif yn y pwnc, ac os safent fel un dyn o'i blaid, ac os enillid y sedd gan gynrychiol- ydd llafur, y byddai yn foddlon eto ei rhoddi i fyny i un a berthynai yn agosach iddynt fel gweithwyr nag ef, os hyny fyddai eu dewisiad. Cynaliwyd cyfarfod mewn cysylltiad âg ymgeisiaeth Mr. Randeli, yn Treforis, pryd- nawn dydd Llun diweddaf, pryd yr oedd nifer mawr yn bresenol. L'ywydd y cyfar- fod oedd Mr. Thomas Phillips, ysgrifenydd undeb yr alaanwyr. Siaradodd y llywydd, yn nghydag ereill, yn anghymeradwyol i etholiad Syr H. Davey gan y Gymdeithas Ryddfrydol, gan feio nad oeddent wedi dewis Mr. Burnie yn gynrychiolydd, a phe wedi gwneud hyny, na fuasai y gweithwyr wedi meddwl am neb arall. Ar ei 31 ef, siaradodd Mr. Isaac Evans yn yr un cyfeiriad, gan ychwanegu na fuasai efe yn ystyfnig i wthio ymgeisydd llafur os byddai hyny yn peryglu y blaid Ryddfryd- jg» Siaradwyd gan Mr. Hughes, y Parch. W. Emlyn Jones, Mr. John Beynon, ac ereill, a phasiwyd penderfyniad yn datgan fod Mr. D. Randell yn berson cyfaddas fel cynrych- iolydd llafur yn y Senedd, [Derbyniasom ysgrif Mr. P. ar y pwnc, ond yr oedd hon wedi ei ehysodi. Bydd yn dda genym glywed oddiwrthych ar y mater kwn erbyn yr wythnos nesaf—GOL,]
CYN RYCHIOLAETH~BWRDEISDREF…
CYN RYCHIOLAETH~BWRDEISDREF MERTHYR. At bawb Qweitlnmjr o bob dosbarth yn y Fwrdeisdref. ANWYL GYDWEITHWYR,— Mewn atebiad i gwaboddiad lied gyffred- ¡ inol oddiwrth y dosbarth gweithiol, yr wyf yn rhoddi fy hun yn agored a digel yn I eich dwylaw fel Ymgeieydd Llafur i gyn- ryehioll y Fwrdeisdref yn y Senedd, yn lie I Mr. C. H. James, yr hwn sydd wedi roddi i fyny ei sedd. I Nid eeisio na deisyf yr anrhydedd hwn a wnaethum, ond cydsynio a gwahoddiad amryw o ddirprwyon a fu yn erfyn arnaf ac yn fy anog i wneud hyn, yw y rheswm fy mod wedi ymgymeryd a'r gorchwyl. Yn awr, wedi ymgymeryd a gwneud y gwaith, yr wyf yn benderfynol o weithio hyd eithaf fy ngallu. Chwi, y gweithwyr tanddaearol a'r celf- yddydwyr, sydd i benderfynu y pwnc pa un a fynwch berson i'ch cynrychioli yn uniongyrchol a'i peidio. Y mae yr hawl hon yn eich dwylaw, a chyfleusdra genych yn awr i roddi dangosiad clir o'ch hawl a'ch gallu. Yr wyf yn lied gyfarwydd a'r holl bync- iau sydd yn oyfansoddi platform y Rhydd- frydwyr a'r gweithwyr, ac, o ran fy ngol- ygiadau gwleidyddol, mewn eydgordiad hollol a'r oil o honynt. Amser a ballai i mi sylwi yn fanwl ar ddim un o'r pynciau hyn yn awr; caf gy. fleusdra ac amser i wneud hyn yn fanwl eto. Gwnaethum hyn yn nghlyw dirprwy- aeth o bedwar o'ch prif arweinwyr, y rhai sydd a'u henwau ar y cylchlythyr sydd yn cael ei ranu i bawb, a chawsanit tu boddloni yn IJwyr. Yr wyf yn honi fod y proflad eang wyf wedi ei gael mewn cysylltiad a glofeydd, wedi fy ngbymwyso i ddeall agos beth yw gwir angen y dosbarth gweithiol, yn en- wedig y glowyr, ac i awgrymu rhai cyn. llnciau i ddiwygio ac i ad-drefnu mc-surau er sicrhau mwy o gyfiawnder, llai o oth rwm, a mwy o ddiogelwch i'r dosbarth hwn nag y maent yn ei gael yn bresenol. Yr wyf wedi bod yn gweithio wrth braidd bob math o orchwylion mewn cysylltiad a glofeydd, o'r dryswr-a, b, c y gwaith glo -hyd at Reolwr Glofa, y swydd yr wyf ynddi yn bresenol. Drwy hyn yr wyf Wf di cael mantais i wybod llawer o bethau nad yw yn bosibl eu gwybod heb ddringo i fyny 'drwy yr boll swyddi hyn. Yr wyf yn proffesu fy mod yn Gymro pur, yn drwyadl o ran cydymdeimlad a'r genedl, yn benderfynol yn fy ymdrechion dros Iwyddiant y genedl, ac yn barod i wneud pob peth yn fy ngaUu er gwella y camwri y mae yr hen genedl wedi ei dderbyn. Yr wyf yn honi hefyd fy mod yn y rhes flaenaf o'r Radicaliaid. Credaf nas gall y genedl Gymreig ddysgwyl cymhorth o I un man ond oddiwrth y blaid sydd yn cawl ei haiwain gan Mr. W. E. Gladstone. Y mae y mesurau sydd yn cyfansoddi credo y genedl Gymreig yn erbyn chwaeth y blaid Doriaidd, felly ynfydrwydd fyddai ddysgwyl dim oddiwrthynt. Credaf y dylai pob adod dros Gymru fod wedi ei naws- eiddio gan egwyddorion cenedlaethol, ac yn benderfynol ar bob amgylchiad eu mynegu a gweithredu arnynt. Os yw yr ymdrech sydd wedi dechreu i godi y genedl ac i fynu chwareuteg iddi, i barhau ac i Iwyddo, nid oes dim ond argy- hoeddiad trylwyr o'n hangenion, a llon'd ein heneidiau o ysbryd ein hen deidiau at y gwaith, a wna y tro i gyrhaedd yr amcan. Yr wyf yn awr yn trosglwyddo fu hun i'ch dwylaw chwi fel gweithwyr, ac os bydd i chwi fy ethol, byddaf yn ei ystyried yn anrhydedd, a byddaf yn ystyried fy hun wedi cael fy anfon i gynorthwyo i wneud gwaith neillduol, sef gwylio, am- ddfffyn, ac hyrwyddo pob mesnr a fyddo a thuedd ynddo i wella sefylHa ac i godi y dosbarth gweithiol mewn unrhyw fodd. Byddaf yn barod ac yn awyddus i wneud pob peth, hyd eithaf fy ngallu, i'ch gwaa- gwasanaethu yn y modd mwyaf effeithiol ac anrhydeddus. Y mae yr amser yn fyr, ac eto y mae digon o amser. Gyda dymuno arnoch i wylio, ystyried, a gwotthredu yn unol a'r cynilun mwyaf tebyg o ddwyn daioni a gwelliant i chwi eich hunain, y gorphwysaf, Yr eiddoch yn ffyddlon, DAVID EVAN DAVIES (DEWI MABON),
Advertising
GYDYMAITH YR. ARODWR. Rhan 2il, 6ch, I Cynwysiad, Androcles a r llew, Bythod Cymru, Cynadledd y Bwystfilod, Cwdyn y san1¡, C ;ydd Cannle, Enwau cynghaneddol Henry Cort a gwaeuthnriant haiarn. Helyntion priodasol Choang. Hunanddiwylliant, Ifan Sion ac Ifan Sciencyn. James Watt a'r agerbeiriant, Pum' myn yd yn rhy ddiweddar, Rosser Sir Fon, Rhywbeth o'i le yn' yr esgid, Swn Corddi. Shan y Snuff, Tafarn y cawl, Y ni, Y blaidd a r oen, Y cadno a'r fran, Y cadno a'r afr, Y cadno heb gynffon, Y dyfrgi a'r eryr, Y morgrugyn a sioncyn y gwair, Y mwnci a'r cathod, Yr hen fab gweddw, Yr aderyn bach a'r bardd, a curious love letter, anfonir copi i unrhyw. &n am T itomp lc, Cyfeirier, J. Thomas, Printer, Tredega* Shwd y'ch ch'i Heddy" RWY'I WEDI GWELLA TRWY DDEFN. YDDIO QUININE BITTERS GWILYM EVANS Mae pob dyn aynwyrol, yn cymeryd addysg oddiwrth brofiad ereill. Profiad hynod. Dyoddefiadaa trnenus. Bywyd yn faich it mi, ac yn bryder i ereill." Quinine Bitters yn ei wneud yn gryfach mewn corff a meddwl nag a fa am flynyddan yn flaenorol. Hope Hall, Bethesda, Arfon, Medi 7fed, 1886. Syr,—Er nas gwelais chwi erioed, yr wyf yn teimlo fy mod dan rwymau personol i chvst fel darganfyddwr yrbyc sydd wedi profi ya fendith i ddynoliaeth, y byd-enwog Quinine Bitters. I'r feddy-iiniaeth bon yr wyf yn ddyledus am ryddhad rhag poen, ac am adferiad iechyd a nerth corfforol, pan oedd pob meddyginiaeth a meddygon ereill wedi methu rhoddi unrhyw lea pa- rhaol. Nid oes ond ychyd>g ddynion sydd wedi dyoddef mwy nag wyf fi wedi ddyoddef, ac yn sicr nis gall fod ond ychydig ellid eu hystyriod yn fwy anobeithiol ? ag oedcU wn i cyn i mi wnend prawf ar eich medd. yginiaeth anmhrisiadwy. Gorfodid fi i fod yn ofalus iawn pa myd fwytawn gan fod yn mron bob peth gymerwn yn achosi poen mawr i mi. Chwyddid fy nghylla gan wynt, a gwaeg- ai hyn dracbefn ar y rhanau bywydol ereill n'r corff, megys yt'Ysgyf&int, yr Afu, a'r Galon, ar weithrediad rheolaidd v rhai yr ymddibyna iechyd, cysur, a nerth y corff. 'oymaint oedd y gwynt chwyddol yma ar bryoiftTX, ac effeithi&i gymaint ar fy nghalon, fel yr ofnwn yn ami yr ataliai fy nghalon ei churiadau am byth. Teimlwn yn wan, di-ysbryd, a di-yni. Ofnwn siarad gair yn gyhoeddus, gan y teimlwn y gallwn Sfrthio yn farw unrhyw fynyd. Yr oedd fy anadl yn afrwydd, cyflym, a. gwan, tra y curai fy nghalon weithiau mor uchel fel y gallai y rhai cisteddai yn yr ystafell gyda mi ei olilywed yn rhwydd. Gellwch felly ddirnad fod fy nghyflwr yi wir dru- enus, a bod bywyd yn faich i mi, ac yn anghysnr a phryder i ereill. Yn y cyfliwr truenus yma <iymhellwyd fi i wneud prawf ar eich Quinine Bitters. Oddiar fy mhrofiad blac-nurol d feddygin- iaethau ereill oeddwn wedi gwneud prawf arnynt yn ofer, nid oedd genyf nemawr ffydd yn eich meddyginiaeth, eto cymer- yg! ais botel 2a. 9c. Cyn i mi oiphen cymer- yd hwn, teimlais y fath gyfnewidlad am- Iwg er gwell, fel y penderfynais gymeryd potelaid fawr 4s. 6c. Yr oedd y Ilea gawswn mor amlwg fel y cymerais yn. rhwydd bctelaid 4a. 6c. arall, gyda'r can- lyniadau mwyaf hapus. Yr wyf yn awr yn gryf ac yn iach—yn hollol iach, ac wedi bod elly o'r amser hwnw hyd yn ;awr,-yn gryfach mewn corff a meddwl nag oeddwn wedi bod am flynyddau yn flaen orol, a hyn oil am dr&ml oddim ond un-swllt-ar ddeg a naw ceiniog (lls. 9c). Oddiar hyny yr wyf wedi ei gymeradwyo i ddwseni o rai ereill, ac ni welais neb erioed yn gwneud prawf teg arno heb dderbyn lies oddiwrtho a chael eu llwyr foddloni ynddo. Yr ydych at eich rhyddid i wneud pa ddefnydd bynag fynoch o'r llythyr hwn. Yr eiddoch yn ddiolchgar ,-E. W. JONES (GWERYDD, WYWVB,) MEDDYGINIAETH OREU CYMRU. Quinine Bitters Gwilym Evans, Enwog ydynt drwy ein gwlad, Dwyn tystiolaeth 'nawr wna miloedd I'w rhinweddau er iachad; Buan cilia anhwylderau Dan eu heffaith mewn modd syn Cleifion gollant eu clefydau Wrth ddefnyddio'r Bitters hyn Symud wnant acbosion golid, Gwneud y bywyd trist yn Ilon, Puro'r gwaed, bywiogi'r ysbryd. Gyru pob rhyw loes o'r fron Peenau mewnol ac allanol, Poenau mawrion, poenau bach, Gwendid corff a gwendid meddwl, Giliact ffwrdd, daw'r dyn ya iach. Meddyginiaeth natur ydyw, Meddyginiaeth berffaith yw, Meddyginiaeth sydd yn gwella Pob anhwylder dynelryw. Ceir, tra dyfroedd Cymru'n llifo Drwy ddyffrynoedd tlwe ein gwlad, Cleifion wedi gwella'n canmol "Evans' Quinine Bitten" mad. Peldlwch dyoddef poenautra y gellir eich gwella trwy ddefnyddio Quinine Bittera GwUym Evana. Gwelfc lelly fod y Quinine Bitters hyn, I Feddygmiaeth anmhrisiadwy, ac a barnu oddl- wrth brofiad dofctoriaid, teithwyr, flferyllwyr, gweinidogion,a chanoedd lawer o gJeifion wedi gwella, maeyn Feddyginiaeth anffaeledig. Fris, poteli,2s. 9c.; eto awbl faint, 48.6c.; blwch yn cynwya tair potel ddwbl, 12s. 6c I'w gael yn mhob man. Goruphwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ef am y pris- oedd uchod yn rhad a dyogel drwy y post i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y psrehenog,— Gwilym Evans, PHARMACEUTICAL CHEMIST, LLANBLLY, SOUTH WALES'. Gellir cael Quinine Bitterp Gwilym Evana yn America oddiwrth y prif crachwyliwr, RdtD. Williams, Medical Hall, Plymouth, Pena.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Ni waawd ond ychydig fasnach yn yr alcan yn Liverpool am yr wythnos ddi- weddaf, ond yr oedd y prisoedd yn gadarn, tra nad oedd eisieu ond ychydig mwy e fyw- iogrwydd i'w gwneud yn uwch. Allforiwyd cyfanswm da o fcxes o Aber- tawe am yr wythnos, fel y mae llai o lawer yn yr ystorfeydd.
LLOFRUDDIAETH LLANELLI.
LLOFRUDDIAETH LLANELLI. Y boreu hwn, dydd Mawrth, Mawrth 13, dienyddiwyd David Rees, o fewn i furiau carchar Caerfyrddin, am lofruddio Thos. Davies, negesydd gwaith alcan Dafen, er dyfod i feddiant o'r arian oedd ganddo. Yr oedd y wlad yn awyddus neiildudl am gael gwybod mwy o'r manyl;on, a pharhaai am- ryw i gredu hyd y diwedd y buasai Rees yn gwneud cyfaddefiad clir. Y mae yr hyn sydd wedi ei gyhoeddi am Rees a'i gyfaddef- iadau yn ddiwaddar yn gyfryw nad ellir eu credu, a hyny am nad ydynt yn unol &'u gilydd. Un diwrnod dywedir ei fod wedi cyfaddef mai efe gymerodd yr hanger o waith alcan Dafen, ond nad efe gyflawnodd y weithred lofruddiog. Yn nesaf cawo ei fod wedi cario yr hanger yn Uawes ei got trwy holl foreu y llofruddiaeth, hyd yn nod i siop y barbwr, a'i fod yn llawes ei got pan yn dyfod o Llanelli o flaen Davies. Y diwrnod nessf cawn ei fod yn cyfaddef rhyw- beth am yr arian, ac yn dweyd y man y cuddiwyd y trysor; ond yn mhen ychydig oriau dywedir ei fod yo tystio na wyddai ef ddim am yr arian, ac na ddaeth dim o honynt i'w feddiant. Mai anwireid cyn- IInnedig ydoedd chwedl y bachgen Lewis nad oedd efe yn y berth pan y cyfjawnwyd y weithred; nad oedd neb yn dyfeisio nac yn cario y llofruddiaeth ond efe. Ond erbyn edrych ar y newyddiadur y boreu canlynol, ceirfod Rees yn cy-faddfiLXad.ail bersqc yn ei gynorthwyo, ond nad oes ac na cha' neb ond yr Hollwybodol ac yntau wybod pwy oedd hwnw. Y rhai hyn, a nifer ereill o bethau, a ddywedir y naill ddydd ar ol y llall am y llofrudd a'i gyfaddefiadau, ac y mae cymaint o groes ddweyd ynddynt fel nad ellir ymddiried i ddim sydd hyd yn hyn wedi ei gofnodi; ond nid oes amheuaeth na ddywedodd Rees rhyw bethau wrth yr aw- durdodau, ac y ceir y rhai hyny mewn amser cyfaddas. Yr ydym yn cael fod Rees prydnawn dydd Llun diweddaf wedi ysgrifeu amryw lythyron at ei berthynasau, ond dywedir nad oes yn yr un o honynt air yn nghylch y trosedd yr oedd efe i'w ddienyddio o'i herwydd. Dywedir ei fod, yn ychwanegol at yr hyn sydd wedi ei gyhoeddi, wedi dweyd ei fod wedi bod yn yfed trwy y dydd ddydd Gwener blaenorol i'r llofruddiaeth, ac hefyd trwy y nos, a'i fod yn hoUol dwp ei feddwl pan y cyflawnodd efe y weithred. Ond e* ei fod yn dweyd hyn, y mae yn ymddangos ei fod yn cofio yr oil oddieithr fod person yn ei gynorthwyo, a pha le y dodwyd yr arian. Dyma yr unig ddau beth sydd ar goll. Dywed y Parch. D. S. Davies mai geirian y carcharor wrtho ef a'i gyfaill y dydd yr ymwelasant ag ef oeddynt, II Gwell gen i fod yma ar gam na bod yma yn euog." Pan y gofynasant iddo, Pwy ynte a gyflawnodd y weithred ? ei atebiad oedd, Dyna sydd yn dywyll i fi, syr."
COLLIAD 28 0 FYWYDAU AR Y…
COLLIAD 28 0 FYWYDAU AR Y MOR. Y mae gwfthdarawiad dinystriol wedi cymeryd lie yn y Channel, a'r llestr City of Corinth wedi ei cholli, yn nghyd a 28 o fywydau. Y mae dau wedi llwyddo i ddianc, ac wedi cyraedd Dover, y rhai a ddywedant i'r llestr suddo yn mben dwy fynyd wedi y gwrthdarawiad a'r Tasmania.
YSTRAD RHONDDA—MARWOLAETH.
YSTRAD RHONDDA—MARWOLAETH. Mawrth laf, yo saith mlwydd oed, Arianwen Mjrfanwy Rees, merch fechan Mr. J. Rees (Nathan Wyn) a'fbriod. Arianwen dyner hnnodd,-i wlad well Engyl Daw a'i galwodd Yn saith oed syth ehedodd 0 warth byd—mae wrth ei bodd. ",1;# <w,o; 'II"
! CYMDEITHAS YSWIRIOL Y PRUDENTIAL.
CYMDEITHAS YSWIRIOL Y PRUDENTIAL. Yn y rhifyn presenol, yr ydym yn cy- hoeddi adroddiad blynyddol y Gym- deithas Yswiriol lwyddianus hon Mae y cynydd arianol ac aelodol a wnaeth y flwyddyn ddiweddaf bron yn angbred- adwy, eto y mae yn ffaith, fel y dengys yr adroddiad. Mae hyn yn gysur i fil- oedd o'n darllenwyr sydd yn aelodau o'r Gymdeithas, eu bod yn perthyn i'r Gymdeithas gryfaf a mwyaf Ilwyddian- us, fel Cymdeithas Yswiriol, o fewn ter-O fynau Prydain Fawr. Mae y llwydd- ianfc yn siarad yn uchel am ei chyfar- wyddwyr a'i swyddogion o bob gradd, ac nis gallwn lai na nodi y Gymdeithas allan fel un deilwng o ymddiriedaeth jpawb sydd yn bwriadu yswirio. Dar- llened ein darllenwyr y ffigyrau dros- tynt eu hunain.
CYNRYCHIOLYDD LLAFUR DROS…
CYNRYCHIOLYDD LLAFUR DROS FWRDEISDREF MERTHYR AC ABERDAR. Cynaliwyd cyfarfod brwdfrydig yn cefncgid i Mr. D. E. Davies (Dewi Mabon) yn y Bute Arms, nos Lun, y 12ied cyfisol. Teimlad y cyfarfod oedd fod y frwydr i fod yn fyr, ond ei bod i gael ei hymladd gyda phybyrweh, ac y byddai y gweithwyr yn sicr o roddi cyfrif o honynt eu hunain yn yr ysgarmes bresenol a chyfalaf. Hysbyswyd fod cyf- eillion o weithwyr yn barod i sicrhau traul yr etholiad, yr hyn, fel yr hysbyswyd, na fyddai ond tua 5Op.; ac hefyd, trwy gared- igrwydd cyfeillion, na fyddai un alwed ar funds y glowyr am chwe' mis, ac na fyddai hyny yn golygu ond tair ceiniog yr un. Siaradodd Dewi Mabon yn gampus ar ddeddfwriaeth mewn cysylltiad â. glofeydd a dyogeliad bywydau y glowyr. Yr oedd yn amlwg fod ganddo lygad clir a chalon fawr. Bydd cyfarfodydd yn cael e. cynal yn Merthyr, Dowlais. Mountain Ash, ac Aberaman. I'r gid I'r gad Mynegodd Mr. P. D. Rees, mae pender- fyniad Mr. Davies a'i gefnogwyr oedd peidio dyfod allan yr etholiad hwn, gan fod yr am- ser mor fyr i barotoi, hyd nos Sadwrn diweddaf, pryd y daeth dirprwyaeth ddylan- wadol o Dowlais a Merthyr yn sicrhau mwy- afrif mawr o'r gweithwyr. Eu geiriau • oeddynt, Yr ydym yn rigid yn Dowlais a Merthyr. Peidiwch bod yn llwfr." Beth 'I yw eich ateb weithwyr Cwm Aberdar, right Den wrong, na chefnwch yn nydd y frwydr. —YSG.
PRIODAS.
PRIODAS. Mawrth y 3ydd, yn nghapel y Bedyddwyr Ynyslwyd, Aberdar, gan y Parch. R. E. Williams (Twrfab), a cherbron Mr. Jones, y cofrestrydd, Aberdar, Mr David Evans (Goods Guard ar Reiltfordd Rymnf), Gwendoline St., Caerdydd, a Miss Margaret Ann Davies, merch henaf Mr. Herbert Davies, Tailor and Draper, Sanny Bank Place, Aberdar. Wedi i'r parti priodasol dreullo diwrnod difyr yn nhy rhieni y briodasfereh, ymadawodd y gwr a'r wraig ioranc gyda'r gerbydres o Aberdar i'w cartref newydd yn Nghaerdydd.