Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
34 articles on this Page
Advertising
W. Williams, 29, CASTLE STREET, 3 WAITSE A. SPECIALITIES: JgSGLISH PATENT T EVERS. 22OT' GOLD WEDùIN3 RINGS. lSOT. GOLD KEEPERS. CRYSTAL SPECTACLES.
Advertising
-w" Gymry koff dewch at y Cvymiu Os am heirdd fodrwyan aur Or adcrroo ac awrleisiau, Gremaa, a eh ad wy nan claar; Yapectol gelfydd, hln-fynegydi?, Gwrês-fesorydd, Owmpawd ma Geir gan WIIAI.AM:S, Heol y Castell Trowch I mewn i wel'd elator W. WILLIAMS. WATCHMAKER & JEWELLER," 29,Castle Street, Swansea.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. A*R ddydd Sant Dewi, darfu i'r aelod- au Seneddol Cymreig, bron yn ddieithr- iad,' wisgo y geninen. MAE Ardalydd Abergavenny wedi cyflwyno Rectory Goitre i'r Parch. J. Lewis Clougber, B.A., curad, Castell- neid, yn lie y Parch. R. W. Gosse, yr kwn a wrlhodwyd gan Esgob Llandaf, am nad oedd yn deall Cymraeg. Gan fod yr Esgob wedi cael ei foddloni yn arholiad Mr. Clougher yn y Gymraeg, gan un o'i gaplaniad, y mae wedi datgan a fwriad i sefydlu y rheithior newydd ar fyr. MAE ymgais yn awr yn cael ei wneud i dyim y dwfr o lofa eang Mostyn, yr hon a orlifwydgan yr Afon Ddyfrdwy yn 1884. Y mae y lofa yn nghanol un o lo-faesydd goreu Gogledd Cymru, a bu yr helynt yn achos o dlodi mawr yn nghyiifydograeth Mostyn. LLADDWYD labrwr o'r enw John Clarke, ar reilffordd y Barry ddechreu yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi ei daraw gan y peir- a rhan o'i ymenydd wedi ei daraw 'o'i ben. MAE cyrff meirw dwy chwaer, efeill- esau, o'r enw Fielding, 20 oed, a'r ddwy wedi cael eu colli o'u cartref yn Staning- ley, ger Leeds, er ys mis, wedi eu cael -y n«ifll yn Canal Leeds a Liverpool, a'r Hall yn,yr afon yn Apperley Bridge. Y mae eu hymadawiad o dref yn ddir- gelwch. DYWED brys-hysbysiad o Tamatava, Madagascar, fod rhuthrwynt dychryn- lard wedi ymweled a'r lie hwn ar yr 22am cynfisol, yr hwn a adawodd y dref yn garneddau. Chwythwyd i lawr amryw dai, tra y didowyd nifer mawr ereill. Collwyd o leiaf 4gain o fywyd- au yn y lie. DYDD Sadwrn diweddaf, yn nghladdfa y Murribles, Abertawe, claddwyd Mr. a Mrs. Trev. Jenkins, y rhai a fuont feirw mewn diwrnod neu ddau i'w gilydd, wedi bod yn cyd-deithio anialwch bywyd am yn agos i haner can' mlyn- edd. Mae .yr amgylchiad wedi achosi teimladau dwys a chynhyrfus trwy yr holl le. Yn Stratford-on-Afon, yn ystod cyf- newidiadau ar yr hen Guild Hall, daeth- pwyd o hyd i hen ystafell, mynedfa i'r hon oedd wedi ei chau i fyny. Ar lawr yr ystafell cafwyd nifer mawr o hen ysgrifau, llawer o honynt er amseroedd y Frenhines Elizabeth a'r Frenhines Anne. Yr oedd nifer o'r ysgrifau yn y fath gyflwr dirywiedig fel mai gwaith anhawdd fydd eu darllen. Y mae yr holl ysgrifau wedi eu rhoddi o dan ofal clerk y dref, y rhai a fanwl chwilir. DYDD Mercber yr wythnos ddiwedd- af, cynaliwyd trengholiad yn y Bala ar weddillion marwol Mr. Milton Aubrey, 36 oed, yr hwn oedd yn efrydydd yn Ngholeg Annibynol y Bala, ac yn frodor o Llanerchymedd, Mon, corff yr hwn a gafwyd y boreu blaenorol yn afon Hir- nant. Yn ol y dystiolaeth a gafwyd, yr oedd y dyn ieuanc yn isel ysbryd. Gof- ynodd am ei swper y prydnawn blaen- orol, ac aeth allan i roi tro. Yn gymaint ag na ddychwelodd, gwnawd ymchwil am dano, a daeth Mr. Robert Edwards, gyda'r hwn y lletyai, o hyd i'w gorff yn yr afon rhyw. ddwy filldir o'r Bala. Yr oedd yn fardd gwych, ac yn adnabyddus dan y ffugenw Anarawd.
I'-DOSBARTH GLo AGER Y RHONDDA.
I' DOSBARTH GLo AGER Y RHONDDA. Cynaliwyd cyfarfod misol y dosbarth hwn ddydd Llun diweddaf, yn y lie arferol, dan lywyddiaeth Mr. W. Whitcomb, Mountain Ash. Yr oedd Mr. W. Abraham, AS., hefyd yn bresenol. Yr oedd cynrychiol- aeth oddiwrth Gymdeithas Lafurawi y Rhon- dda yno, a phasiwyd y penderfyniad can- lynol fel effaith eu hymweliad :—" Fod y cyfarfod hwn, wedi clywed adroddiad oy- nrychiolaeth Cymdeith'as Lafurawl a Rhycd- frydol y Rhoudda, mewn cysylltiad a sefyll- fa arianol y cyfryw gymdeithas, yn taer gymell ar y cyfeillion yn mhob glota yr angenrheidrwydd o wneud eu casgliad blyn- yddol tuag at y drysorfa Seneddol, yn gy- maint a bod y flwyddyn yn terfycu gyda mis Mawrth. Yr oedd y penderfyniadau ereill fel y cac- lyn,—"Fod y cyfarfod hwn vn diolch i'r pwyllgor neillduedag am eu llWur yn nglyn a'r rheolau neillduol, ao yn derbyn eu haw- grym i ohirio adeiladu clafdy i'r dosbarth am y presenol, yn gymaint a bod gan war- cheidwaid y plwyf gynyg i'r un perwyl." Fod y cyfarfod hwn yn protestio mewn modd'clifrifol a phendant yn erbyn y duU o gontractio am leoedd gweithio sydd yn awr .yo cael ei ddwyn i'r dosbarth, trwy yr hwn ddull y mae un dyn yn alluog i gymeryd nifer o weithleoedd yn ei enw ei hun, a chyflogi eraill i weithio iddo, ac oganlyniad, nid yw perchenogion glofeydd yn gyfrifol am y cyflogau dyledus i'r rhai a weithiant i'r cyfryw gontractors." Fod y cyfarfod hwn yn cydolygu & gweithwyr glofa yr Albion mewn cysyntiad a chael allan pa wythien maent yn ei gweithio, ac os ciint unrhyw ddiffyg wedi derbyn pen- derfyniad Mri. Forster Brown, a Baith, fod y mater i gael ei roddi o flaen y pwyllgor gweithiol neu y cyfarfod misol.
YMGAIS AT HUNANLADDIAD YN…
YMGAIS AT HUNANLADDIAD YN YNYSHIR. Gwnawd ymgais beiddgar at gyflawni hunanladdiad dydd Sadwrn diweddaf gan ddyn o'r enw John Evans. Aeth y dyn i dy yn nghefn No. 1, Aberllechau road, Ynyshir, ac amcanodd grogi ei hun. Yn ffertunus, torodd y rhaff tra yr oedd yn hongian gerfydd ei wddf. Cafwyd ef YIRydig wedi hyny mewn sefyllfa o ddiddeimladrwydd. Cymerwyd ef i'r ddalfa gan yr heddgeidwad ar y cyhuddiad o amcanu dwyn ei fywyd ei hun. Y Mae ganddo wraig a phlant.
YMLADD DYCHRYNLLYD YN SUAKIM.
YMLADD DYCHRYNLLYD YN SUAKIM. Dywed brys-hysbysiad, dyddiedig dydd Sul, fod cwmni o wrthryfelwyr wedi dyfod o Fort Sudion, ryw filldir iV gorllewin o Suakim, dydi Sadwrn diweddaf. Boreu dydd Sul, gwnaethant ymosodiad ar y dref, a gwrthwynebwyd hwynt gan gwmni o filwyr o dan y Milwriad Shakespeare. Parhaodd yr ymlad am bedair awr, pryd y gorfodwyd y gwrthryfelwyr i gilio, gan adael ar eu holau amryw ganoedd o laddedig- ion a chlwyfedigion. Lladdwyd y Milwriad W. S. Tapp a phump o filwyr ereill, a chlwyiwyd 14. Taniodd y gwn-fadau Dol- phin ac Albacore ar y gwrthryfelwyr. Y Mae y tanio yn parhau.
OFFEIRIAD YN DIANC GYDA MERCH…
OFFEIRIAD YN DIANC GYDA MERCH IEUANC. Y mae cryn gynwrf wedi ei achosi mewn tref fechan yn agos i Manchester, trwy fod gweinidog perthynol i Eglwys Loegr wedi dianc ymaith gydag aelod i gor canu ei eglwys. Aeth y gweinidog, yr hwn sydd oddeutu 36 oed, i'r He o Ddeheubarth Lloegr rhyw bedair blynedd yn ol, ac eoill- odd gymeradwyaeth neillduol yn mhlith pobl ei ofal. Ychydig fisoedd yn ol, deall wyd ei fod yn talu sylw neillduol i fonedd- iges ieuanc oddeutu 20 oed, yr hon sydd wedi canu yn gyhoeddus amryw weithiau mewn cyngherddau yn Manchester a'r gym- ydogaeth. Dydd Llun wythcos i'r diweddaf yr oedd yn myned i ganu i Southport, ac aeth y boneddwr parchedig gyda hi yno. Ni ddychwelodd y naill na'r llall o honyct, a doallwyd wedi hyny eu bod wedi cymeryd y dwfr o Liverpool tua'r America. Yr oedd y gweinidog yn fcriod.
EI SAETHU YN FARW WRTH YR…
EI SAETHU YN FARW WRTH YR ALLOR. Tra yr oedd dyn o'r enw Thompson yn myned trwy y seremoni briodasol a'i gariad- ferch yn Eglwys Knockamuckley, Iwerddon, ddydd Gwener diweddaf, saethwyd ef gan frawd-yn-nghyfraith i'w wraig gyntaf, enw yr hwn hefyd ydyw Thompson. Cymerodd yr ergyd effaith, a bu y priodfab farw. Nid ydyw achos y gyflafan weli ei gael hyd yn hyn.
MARWOLAETH MR. YEO, A.S.
MARWOLAETH MR. YEO, A.S. Am oddecttu 8.30. o'r gloch nos Sul di- weddaf, Mawrth 4ydd, bu farw y boneddwr tra adnabyddus uchod, yn ei breswylfa, Sketty Hall, ger Abertawe, pryd yr oedd y rhan fwyaf o'r teulu yn bresenol. Yr oedd wedi bod yn nychu am amser maith, a hyny fel y bernid o herwydd gor-lafur. Yn 1885, pan yr etholwyd ef yn Aelod Seneddol, ceisiodd gael ei ryddhau o lawer o'i swydd- >ogaethau lleol, ond taer erfyniwyd arno i f"^meryd a'r swydd o fod yn Faer Aber- fr'blwyddyn y Jubili, ac yn y sefyllfa c; cafodd gyflwyno i Mr. Gladstone rydcgd y fwrdeisdref, ISlc. Rai misoedd yn oJ, eynghorodd ei feddyg dysgedig ef i fyned am dro i'r Aipht, ond deallwyd yn fuan mai gwaetbygu yr oedd, ac nad oedd dim yn tycio i leddfu ei anhwyldeb, sef clefyd y galon. Ar ei ddychweliad i Lun- dain o'r Cyfandir, ymgynghorodd a phrif feddyg y Brif-ddinas ar anhwylderau y galon, yr hwn a gydolygai yn hollol a thnw- iaeth ei feddyg yn Abertawe, sef Dr. Grif- fiths. Mab ydoed'd Mr. Frank Ash Yeo i'r di- weddar Mr. Thomas Yeo, Bideford, ac a anwyd yn 1832, ond daeth i Gaerdydd pan yn ieuanc at y Corys, y rhai oeddynt yn gefnderwyr iddo. Cawn iddo fyned 1 Ffrainc i ddysgu y Efraiacaeg, ac wedi hyny i Ger- Daani i ddysgu y Germanaeg. Wedi hyny, priododd ferch i'r diweddar Mr. R. Cory.
ABERDAR—DAMWAIN ANGEUOL AR…
ABERDAR—DAMWAIN ANGEUOL AR YR IA. Ychydig wedi canol dydd, dydd Sadwrn diweddaf, aeth nifer o ieuenctyd i lyn y Forge yn agos i Abernant, i lithro. Aeth un o honynt, o'r enw Richard Moore, ar yr ia er prqjfi ei gryfder, yr hwn a dorodd o dano. Prysurodd llanc arall o'r enw Wynd- ham Charles Andrews a brawd i Moore i estyn cynorthwy iddo. Llwyddodd y ddau Moore i ddianc, ond collodd Andrews ei fywyd. Yr oedd y trancedig yn fab i Mr. J. Andrews, ac yn 13 oed.
HYSBYSIAD.
HYSBYSIAD. Cynelir Cynadledd gan Seintiau y Dyddiau Diweddaf, yn y Temperance Hall, Merthyr Tydfil, dydd Sul, Mawrth lleg, 1888, am 10.30 o'r gloch y boreu, ac am 6 yn yr hwyr. Bydd yr Apostol George Teasdale, henuriaid ereill 0 tJtal^^iT^esemDl. Gwa- henuriaid ereiIl oUts yn bresenol. Gwa- hoddir pawb.
. LLOFRUDD LLANELLI.
LLOFRUDD LLANELLI. Y mae yn fwy thebyg fod David Rees wedi dweyd rhyw gymaint yn nghylch y llofruddiaeth. Beth mewn gwirionedd a ddywedodd, nid yw yn hysbys, er fod Ihwer o ddyfalu yn nghylch hyny. Yn ystod yr wythnos a aeth heibio, y mae ei gyfreithiwr wedi dweyd yn onest wrtho nad all efe ddys- gwyl dim Dnd dedfryd y gyfraith, ac mai ofer fyddai unrhyw ymgais a wnelid ar ei ran. Dywed y dienyddwr Berry, mewn llythyr, y bydd y 13eg o'r mis hwn yn adeg gyfleus iddo ef i ddienyddio y condemniedig Rees, ar yr hwn dyddiad yn ol pob tebyg y cymer y dienyddiad Ie.
CYNRYCHIOLYDD GLOFA Y BWLLFA…
CYNRYCHIOLYDD GLOFA Y BWLLFA A CHYFARFOD Y BUTE. Y mae yn wir ddrwg genym fod y llythyr a dderbyniasom mewn eysylltiad a'r cyfaill hwn, wedi ei arwyddo gan amryw bersonau oedd yn nghyfarfod y Bute, ac yn tystio ei fod fel cynrychiolydd wedi gwneud ei waith yn ol penderfyniad ei gydweithwyr, wedi ei roddi fel nad ydym yn gallu rhoddi ein dwy- law arne. Derbyniasom y llythyr pan yn ein preswylfod, a dywedasom wrth y cenad ydd y eawsai ymddangos yr wythnos hon. Yr ydym yn cofio ei swm a'i sylwedd, ond heb fod yn sier o'r holl enwau. Cawn ei fod wedi ei arwyddo gan Mri David Morgan, Phillip D. Rees, Aberaman; John Lewis, Aberaman; a James Davies, Gadlys. Fe- allai yr anfoqir ef i ni yr ail waith os na wna hyn y tro.
EISTEDDFOD ABERDAR.|
EISTEDDFOD ABERDAR. Dechreowyd yr eisteddfod am haner awr wedi 11 o'r gloch, trwy gael anerchiad byr ond pwr- j pasol gan y llywydd, W. Thomas, YswBryn- awel. Yna pasiwyd pleidlais o gydymdeimkd a theulu y diweddar Barch. Dr. Price, Aberdar, j ar achlfsar ei farwolaeth. Y gysbadleaaeth gyntaf oedd chwareu Sona- tina ar y berdoneg, gau blant dan ddeaddeg oed, j gwobr 5p. Cystiadleuodd chwech, y buddagol oedd, W. Morgan, Dowlais, a rhoddodd Mr. Samuel, Abertawe, bob o wobr i Miss Maggie Evans, a merch fechan na chafwyd ei henw. Cystadleaaeth cana i The little Hero,' gwobr 10s. 6c., rhoadedig gan Mrs. rhomas, Bryn- awel. Cystadleuodd chwech, a'r goreu oedd Alawydd, John John, Pontypriaa. Beirniadaeth y llinellau i 4 Jiwbili el Mawr- hydl y Frenhines,' gwobr dwy gini, rhoddedlg gan Syr W. T. Lewis, Mardy. Derbyniwyd 12 o gyfansoddladau, ond y goren oedd Gwyl- ledydd, yr hwn oedd yn orea o ddigon, ac fel Saul yn uwch o'i ysgwyddau i fyay na neb arall o'i gystadlenwyr, sef y Parch. D. Onllwyn Brace, Aberdar. Anerchiad barddonol gan Brythonfryn. CystscHenaeth y Solo Contralto, '0 rest in the Lord.' gwobr 10s. 6d. Cystadienodd saith, ond y gorea oedd yr ail, sef Bronwen, Miss Morgan, Dowlais. Dymnnai Mr North roddi gwobr i'r bachgenya Hirwain Jones, a Mr. B. Evans I Annie Maria Thomas, Ferndale. i Cystadleaaeth y Selndorf Bres ar 0 Father whose almighty power,' gwobr 5p. Cystadien- odd tri seindorf, sef Seindyrf Ferndale, A ber- aman, ac Ysgnborwen. Y goren oedd Sein- dorf Ferndale, dan arweiniad W. R. Howe. Beirniadaeth y Traethawd ar Aberdar a'r amgylchoedd fel lie manteislol i sefydlu Llaw- weithfeydd Newyddion,' gwobr 3p. Derbyn- iwyd pedwar o draethodaa, ond y pedwar yn rhai Saesneg y goreu o ddigon oedd Aberdar- ian. sef Dr. Morris, Trecynon. Unawd ar y berdoneg, sef i'r sawl dan 16eg oed, a chwareno yn orea 4 Merch Megan,' gwobr 7s. 6c. Cystadleuodd wyth. a'r goreu o'r cyfryw ydoedd No. 2, saf Miss Lily Cooke, Abferaman. Solo Tenor, Love Sounds the Alarm,' gwobr lp. Cystadlenodd wyth, a phenderfynwyd cael pedwar o'r wyth i gann yr ailwaith ar yr es- gynlawr. Rhan wyd y wobr rhwug W. James, Aberaman, a William Evans, Treforris. Anerchiad y Llywydd. Bass Sole, Revenge, Timotheus cries,' gwobr lp., a gofynwyd i bedwar gann yr ail waith ar lwyfan yr eisteddfod a'r goreu o'r pedwar oedd John Sandbrook, Dowlais. Cystadleaaeth yr adroddiad, Y mor yn ceisto dianc o'i wely,' gwobr 10s. 60. Enillwyd y wobr gan W. Witby, Dowlais. Modctbynag,, rhoddodd y llywydd parohas 10s. fw rann rhwng y tri ereill, sef 5s. i Evan Jones, Aber. e&naid, a phob o 2s. 6c. i D. Duncan, Cwmdar, „ac Elizabeth Morgan, Clwydyfagwyr. Yr oedd "36 yn cystadlo. Y parti goren ar The Little Church,' gwobr 5p., oedd parti Abesaman, o dan arweinlaA Eos Morganwg. Y bnddngol ar y deoawd, 4 Flow gently, Deva,' gwobr lp ;5s., Eos Morgan wg a John Sandbrook. Daeth pedwar o gorau yn mlaec i ganu 4 Yr Haf/ gwobr 20p. Rhanwyd y wobr rhwng cor Aberaman, o dan arweiniad Eos Morganwg, a chor y Mardy, dan arweiniad Mr. John Wood. Enillwyd y wobr ar y Solo Soprano, Y 6ardotes Fach,' gan Miss Gwen Jones (Llinos y Gidlys), a rhoddedd y parchus lywydd 5s. i Miss Elizabeth Davies, Aberaman. Llywydd y dydd, W. Thomas, Yaw Bryn- awel; arweinydi a beirniad y farddoniaeth, Parch. B. Evans (Telynfab), Gadlys, Aberdar belrnbd y traethawd. W.Thomas Ysw., Gadlys; y ganiadaeth, J North, Ysw., Hnddersfield, a W. T. Samuel, Ysw, Abertawe. CyfeHydd- Me. R. Howells, Maesgwyn, Aberdar.
CYFARFODYDD PREGETRU.
CYFARFODYDD PREGETRU. Sal a Llun diweddaf, Chwefror 26, 27. Cynaliwyd cyfarfodydd pregethu yn Hebron, Dowlais, pryd y gwasanaethwyd gan y Parcbn. Lloyd, Casbach, a James, Bedwps, i gynulleld- faoedd lluosog. Cafwyd piregethau grymns a chasgliadan da.
Advertising
iasthau ereill oeddwn wedi gwneGd pflwf arnynt yn ofer, nid cedd genyf nemawr ffydd yn eich meddyginiaeth, eto cymer- &is botel 2s. 9c. Cyn i mi orphen cymer- yd hwn, teimlais y fath gyfnewidiad am- lwg er gwell, fel y penderfynais gymeryd potelaid fawr 4s. 6c. Yr oedd y lies gawswn mor amlwg fel y cymerais yn rhwydd bctelaid 4a. 6c. arall, gyda'r can- lyniadau mwyaf hapus. Yr wyf yn awr yn gryf ac yn iach-yn hollol iach, ac wedi bod -elly o'r amser hwnw hyd yn iawr,-yn gryfach mewn corff a meddwl nag oeddwn wedi bod am flynyddau yn flaetotol, a hyn oU as^dfaol oddim ond un-awllt-ar ddeg a na^ceami^; (lis. 9c). Oddiar hyny yr wyf wftdi ei gymeradwyo i ddwseni o rai ereill, ac ni welais neb eriood yn gwneud prawf teg arno beb dderbvn lies oddiwrtho a chael eu llwyr foddloni ynddo. Yr ydych at eich rhyddid i wneud pa ddefnydd bynag fynoch o'r llythyr hwn. Yr eiddoch yn ddiolchgar,-E. W. JONES (GWBBYED WYLLT.)
NEW TREDEGAR.
NEW TREDEGAR. Cynaliwyd cyfarfod pwysig gan gyfeillion glofaol y lie hwn ddydd Llun diweddaf, dan lywyddiaeth Mr. Robert Thomas Bu amryw bynciau pwysig o flaen y cyfarfod, a phen- derfynwyd cyfranu tuag at Drysorfa Gyn- rychiolaeth Seneddol Glowyr y Rhondda. Fod syniad y glofeydd i'w gymeryd trwy y tugel ar bwnc y Gymdeithas Gynorthwyol Barhaol. Hefyd, y priodoldeb. o gymeryd llywodraeth trysorfa y lofa at yr ysgol i'w dwylaw eu hunain, a gohirio y pwuc 0 gym- eryd diwrnod o seibiant ar bob mis.
Advertising
Shwd y'ch ch'i Heddy'? RWY'I WEDI GWELLA TRWY DDEFN- YDDIO QUININE BITTERS GWILYM EVANS Mae pob dyn synwyrol yn cymeryd addysg oddiwrth brofiad ereill. Profiad hynod. Dyoddefiadau trnenus. Bywyd yn faich mi, ac yn bryder i ereill." Quinine Bitters yn ei wneud yn gryfach mewn corff a meddwl nag a fa am flynyddau yn flaenorol. Hope Hall, Bethedda, Arfon, Medi 7fed, 1886. Syr,-Er nas gwelais chwi erioed, yr wyf yn teimlo fy mod dan rwymau porsonol i chwi fel darganfyddwr yr hyn sydd wedi profi yn fandith i ddynoHaeth, y byd-enwog Quinine Bitters. I'r feddyminiaeth hon yr wyf yn ddyledus am ryddhad rhag poen, ac am adferiad iechyd a nerth corfforol, pan oedd pob meddyginiaeth a meddygon ereill wedi methu rhoddi unrhyw les pa- rhaol. Nid oes ond ychydig ddynion sydd wedi dyoddet mwy Bag wyf fi wedi ddyoddef, ac yn sicr nis gall fod ond yehydig ellid eu hystyrir-d yn fwy anobeithiol r ag oedd- wn i cyn i mi wneud prawf ar eich medd- yginieeth anmhrisiadwy. Gorfodid fi i fod yn ofal us iawn pa twyd fwytawn gan fod yn mron bob pfcth gymerwn yn achosi poen mawr i mi. Chwyddid fy nghylla gan wjnt, a gwaeg- ai hyn drachefn ar y rhanau bywydol ereill n'r corff, megys yr Thgyfaint, yr Afu, a'r Galon, ar weitkrediad rheolaidd y rhai yr ymddibyna iechyd, cytur, a nerth y coriff. < ymaint oedd y gwynt ehwyddol yma ar bryoiau, ac effeithiai gymamt ar Iy nghalon, fel yr ofnwn yn ami yr ataliai fy nghalon ei churiadau am byth. Teimlwn ynwan, di-ysbryd, a di-yni. Ofnwn siarad gair yn gyhoeddus, gan y teimlwn y gallwn syrthio yn farw unrhyw fynyd. Yr oedd fy anadl yn afrwydd, cyfl^n, a gwan, tra y curai fy nghalon w^ ithiih mor uchel fel y gallai y ihai eistedds i yn yr ystafell gyda mi ei chlywtd yn rhwydd. Gellwch felly ddirnad fod fy nghyflwr yo wir dru- enus, a bod bywyd yn faich i mi, ac yn anghysur a phryder i ei eill. Yn y cyilwr truenus yma cymhellwyd fi
GWEITHFAOL A MASNACHOL.
GWEITHFAOL A MASNACHOL. AT HOLL LOWYR DEHEUDIR CYMRU A SWYDD FYNWY. Cynelir cyfarfod cyftredinoi o gycrych- iolwyr y 0.10 Mor a'r Glo Tl\i, ddydd Llun, Mawrfh 19eg, 1888, yn y Bute Arms, Aber- dar, y cyfarfod i ddechreu am 10.30 yn y boreu. 1. Er derbyn adroddiad cyfrifolygwyr y -Hding Scale, yn nghydag adolygiad ar reol- eiddiad eyflogait-o dan y Scale er 1880 hyd yr adeg bresenol. I 2. Cynyg aelodau am y flwyddyn ddy- fodol. 3. Sefyllfa arianol-ystyriaeth ar y cyf- ryw, a'r modd i'w wella. 4. Beth ydyw gwir atncan y gweithwyr yu y gwaha ol iofeydd—pa un a gyfranant yn y dyfodol tuag at gynaliaeth y Scale, neu ynte na wnant ? Os na, a fydd iddynt gy- meryd y cyfrifoldeb ) gael eu cau allan i baidio cael eu cyflogau wedi eu llywodr- aethu gan y Slidiug Scale. 5. Bydd yr aelodau, pwy bynag a fydd- aat, yn gofyn cyfarwyddiadau petiodol mewn cysylltiad a pha un a ydynt yn y dyfodol i amddiflyn bucldianau yr holl weithwyr sydd yit cael eu lly^odraethu gan y Bwrdd, neu ynte ymgymeryd yn unig a materios yn co,ii yn y glofeydd sydd yn cyfranu tuag at drysorfa y Sliding Scale. Yn y boreu, bydd cyfarfodydd ar wahan -n cael eu cynal gan weithwyr y Glo Tai a io Ager, a bydd cynrychiolwyr y ddau adran yn cydgyfarfod yn y prydnawn. Yr eiddoch yn ffyddlon, W. ABRAHAM, P. JONES, T. GRIFFITHS, W. WALTERS. J. JENKINS, J. MORGANS, L. MILES, Ysgrifenydd. D.S.—Ni bydd hawl gan unrhyw lofa i tT.didleisio yn y cyfarfod hwn ond y rhai a dalodd y levy a alwyd yn Tach 1884, neu ynte y rhai a benderfynant yn awr dalu eu dyledion i drysorfa y Scale.
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH…
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH CASTEDLNEDD AC ABERTAWE. Cynaliwyd y cyfarfod hwn dydd Sadwrn diweddaf, yn Nghasbellnedd, dan lywydd- yddiaeth Mr. Lewis Rees. Yr oedd y cy- nrychiolwyr yn lluosog, ac ymgymerwyd a'r gprchwyl y.sgrifenyddol gan Mr. Isaac Evans. Pir»e crntaf y. cyfarfod oedd rhoddi ystyr- iaetb i Beotau Neillduol Glofeydd JDosbarth y Weak jffiiewn eysymlid -A Eheoleiddiad y Mwngloddiau. Darllenodd Mr. Evans y rheolau oeddynt wedi eu tynn i fyny gaB y meistri, a'r gwolliantau yr oedd pwyllgor y gweithwyr wedi eu rhoddi i memi. Hysbysodd Mr. Evans yn mhellach fod rhai adranau eto, megys y 36, 96, a'r 98; heb eu penderfynu. Wedi llawer o siarad ar y cyfryw, pasiwyd y penderfyniad canlynol,—" Fod y cyfarfod hwn, tra yn cyflwyno pleidlais o ddiolchgarwch i bwyll- gor y gweithwyr am yr ymdrech a'r gofal y maent wedi ei arddangos mewn cysylltiad a'r rheolau newyddion, am hysbysu meis- tri ac inspectors y dosbarth eu bod yn gwrth-dystio yn y modd cadarnaf yn erbyn yr adranau uchod yn y cyfryw reolau, a hyny trwy eu goruchwyliwr, Mr. Evans; hefyd, fod y cyfarfod yn gofyn i bob glofa wrthdystno yn erbyn y cyfryw adranau mor gynted ag eu ishoddir i fyny»yn y glofeydd. Y pwnc nesaf oedd y pwnc o gymeryd un dydd segur yn mhob mis. Cymeradwywyd yr egwyddor, a phenderfynwyd ceisio ei gael trwy holl DdeheudirCymm a Swydd Fynwy, ond fod y cynrychiolwyr i'w gymeryd i'w gwahanol lofeydd i'w gael wedi ei gadarn- hau a*i ddwyn eilwaith i'r cyfarfod misol nesal. ^jYaa daeth pwnc lock out Birchgrove o flaen y cyfarfod, a chadarnhawyd y pender- fyniad oedd wedi ei basio o'r blaen, sef nad oedd yr annealldwriaeth i'w ddwyn i derfyn- iad ond trwy oruchwyliwr y dosbarth.
IAT HOLL WEITHWYR GLOFEYDD…
AT HOLL WEITHWYR GLOFEYDD Y P.D.'S. GYFEiiLiON,—CyneHr cyfarfod cyffred. inol o holl weithwyr tanddaearol y glofeydd uched nos Sadwrn nesaf, yn Saron Hall, Aberaman, pryd y bydd pwnc pwysig yn cael ei drafod. Cofied paw b-e Gwmdar i Gwmpennar-i ddyfod yno yn gryno. De- chreuir am 5 d't gioeh. « Ar ran y pwyllgor, DAVIES.
• AlL-GYCHWTMMAD GLOFA TY'NYBEDW,…
• AlL-GYCHWTMMAD GLOFA TY'NYBEDW, RHONDDA. Yr ydym yn deall fod glofa Ty'nybedw, Pentre, Rhondda, wedi bod yn segur am yn agos i ddwy flyneild,ar gael ei hail gychwyn gan y Mri. Cory, Caerdydd. Ataliwyd y lofa yn herwydd y royalty uchel oedd ar y glo, ond dywedir fod yr annealldwriaeth bellach wedi ei derfynu, ac yr ail-gychwynir yr oil.
CYFARFOD MISOL DOSBARTH ABERDAR…
CYFARFOD MISOL DOSBARTH ABERDAR A MERTHYR. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn y Full Moon InD, Merthyr, dydd Llun diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. D. Williams, Abernant, pryd y pasiwyd y peaderfyniadau canlynol: 1. Ein bod yn gwresog dderbyn gweith- wyr glofa Fforchaman, Cwmaman, Aberdar, yn aelodau o'r dosbarth. 2. Ein bod yn gefnogol, ac yn ymrwymo i gynorthwyo gweithwyr y saith yn mhwll NaBtmelyn hyd eithaf ein gallu, a bod dy- mnniad ar i bob cynrychiolydd osod y mater gerbron eu cydweithwyr, er sefydlu trysor- fa i'r perwyl hyny. Hefyd, fod Mr. D. Morgan, ein goruchwyliwr, i alw. ac anerch eyfarfodydd yn y manau y gwel yr angen. rheidrwydd am hyny. 3. Ein bod yn danfon 5p. fel cyfran at draul Cyngrair Gweithwyr Glofaol Deheu- dir Cymru a Swydd Fynwy, a bod dymun- iad ar i bob glofa ddanfon eu cyfroddion i mewn erbyn mis i heddyw,er ea trosglwyddo i'r trysorydd yn unol a'r rheol. 4. Fod Mr. D. Morgan, ein goruchwyliwr, a dau o'r lofa i fyned fel dirprwywyr at brif swyddog glofa Cwmaman ar fater y screen, ac os methant ddyfod a'r ymryson i delerau heddychlawn, ein bod yn symeradwyo ar iddynt gael prawf newydd trwy y gyfraith ar y cyfryw, a bod y mater i'w osod yn Haw Mr. T. Phillips, cyfreithiwr, Aberdar. 5. Fod traul y cyfarfodydd a gynaliwyd yn Abeidar a Merthyr, mewn cysylltiad a chael cynrychiolyid llafur, i'w dalu o'r dos- barth. Fod y mater o ddyfod a chynrychiolydd llafur allan i'w ohirio am fis yn mhellach, a bod dymuniad ar i bob glofa gymeryd y mater i'w hystyriaeth ddyfnaf erbyn hyny, y person sydd ar y maes yn bresenol ydyw Mr. D. E. Davies (Dewi Mabon), Cwmaman, Aberdar. 6. Fod y cyfarfod misol nesaf i'w gynal yn y Barley Mow Inn, Merthyr.
CYFARFOD MISOL DOSBARTH Y…
CYFARFOD MISOL DOSBARTH Y GLO CAREG. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn y lie ar- ferol yn Brynaman, dydd Sadwrn diweddaf, dan lywyddiaeth Mr. John Jenkins, Moun- tain, Gwauncaegnrwen, pryd y cytunwyd ar y penderfyniadau canlynol 1. iod y cyfarfod hwn, o dan yr amgylch- iadau, yn caniataa y bunt a dalwyd gan lowyr Hendreforgan i'r dosbarth hwn Ionawr 7fed, 1887, i dalu eu cyfraniadau am y ddau fis diweddaf, fel y byddont yn rhydd i'r dosbarth hyd heddyw—Mawrth 3ydd, 1888, ae mewn cyflawn hawl i holl freintiau y dosbarth ar amodau eu bod i gadw o fewn terfynau rheolau y dosbarth o hyn allan. 2. Fod yn flin gan y cyfarfod gael ar ddeall nad yw gweithwyr Hendrelalaus yn gweled eu fTordd yn glir i enill eu bara chaws ar y prisoedd a gynygir iddynt am weithio yn y dyfodol, a bod y cyfarfod yn rhoddi hawl iddynt i weithredu fel y gwelont yn oreu, a hyny dan nawdd a chefnogaeth y dosbarth. Hefyd, os dygwydda i un neu ragor o'r glowyr gael eu tynu allan o'u gweithleoedd, lie yr arferant weithio yn flaenorol, gan beth fydd y gorchwyl tua allan i'r face lie y gweithiant, eu bod i sefyll am y til y mae y cytuudeb newydd yn benodi i Jowyr am eu twrn hur. E. REES,, lsg.
CYFLAFAN YN MANCHESTER.
CYFLAFAN YN MANCHESTER. Cymerodd cyflafan dychrynllyd le dydd Iau diweddaf yn Mortyn, Manchester, pryd y lladdwyd menyw o'r enw Mary Miller, gan latywr o'r enw Alfred Gell, yr hwa hefyd a archollodd ei merch yn beryglus. Yr oedd y pleidiau wedi cweryla y dydd blaenorol, a'r carcharor wedi ei orchymyn i ymadael.
DOWLAIS.: 2 ------.-..""
DOWLAIS.: 2 Y GYMDEITHAS BYDDFRYDOL. Cynelir cyfarfod y gymdeithas ached yn y Coffee Tavern U nien Street, nos Ian nesaf (Mawrth 8fed), pryd y gobeithir y bydd 11a o aelodau newyddion yn ymuna a'r gymdeithas.
CYFNBWIDIABAU GWEINIDOGAETHOL.
CYFNBWIDIABAU GWEINIDOGAETHOL. Dydd Sai diweddaf, dechreuodd y Parch. J. Trevor Jones, gynt o Panteg, Ystradgynlais, ar ei weinidogaeth yn y lIe uchod. Bwrlada y Parch. B. Davies, Briton Harry, ddechreu ar el weinidogaeth yn Moriah, Dow- lais, ar y Sal cyntaf yn Mat nesaf.
PBRFFORMIO ' BABILON.'
PBRFFORMIO BABILON.' Nos Iau, cafwyd perfformiad o'r Oratorio Babilon, gan gor Bethania, c dan arweiniad yr arweinydd Iiwyddianns, Mr. John Evans (EoB Myrddin). Cyfeiliwyd gan y bachgen ienanc gobelthiol Master H. Evans (Ap Myrddin). Yragynnllodd cynulleidfa lnosog, a chafwyd perffortniad ardderchog. Cymerodd y personan canlynol ran yn y cyfarfod :—Misses M. ac S. J. Evans, Mrs. E. Jones, Miss L. Jones, Miss M. A. Davies, Miss M. Davies, Mri. W. J. Williams, Robert T. Rees, D. T. Jones, T. E. a B. Thomas, ac ereill.
CYNGBBDD YW PONTSTICILL.
CYNGBBDD YW PONTSTICILL. Nos Lun Chwefror 18, cafwyd cyngerdd yn y lie uchod. Cadeirlwyd yn fedrns a doniol, gan Mr. S. Thomas, Farmers Arms Hotel, 19owlais. Cymerwyd rhan gan y personan can- lentilMr H Rees, Miss Mabel Morgan, Mr T Evans, Misses Samuels, Mr E Jones, Miss C Morgan, Miss Bowen, Mr T Davies, Master J D Watts, Mr J Davies (Llew Dyfri), Mr Prize (Eos Cammarch), ac ereiil. Tehnla pobl Pontaticill yn ddiolchgar iawn i Mr Thomas, Farmers Arms, am el garedigrwydd yn dyfod a chyfetllion o Dowlais i'w cynorthwyo. Yr elw i fyned taag at yr Ysgol Sabbothol yn y lie.
MARWOLAETHAU.
MARWOLAETHAU. Dydd Sadwm wythnos i'r diweddaf, claddwyd yr hyn oedd farwol o Mrs Margaret Hier, Well Street. Treuliodd Mrg Hier y rhan flaenaf o'i hoes yn Rhydyfelea, ger Trefforest, lie y ba yn briod ag un William Williams, Maslwn. Ba yn flfyddioE gyda chrefydd am 50 o flynyddau, 96 o flynyddau L'hwng Bethleltero, Rhydyfelen, a Libanus, Trefforest, a 24 yn Caersalem, Dow- lais. Yr oedd yn 70 oed. Gadawodd 4 o blant i alaru ar ei hoi. Ar ol yagrifenu yr uchod, daeth i'n clustian am farwolaeth plentyn i Mr Dan Davies, A.C., Dowlais. Nis gwyddom eto pa bryd y cymer yr angladd Ie. Yr Arglwydd a gysoro ein brawd a'n chwaer anwyl yn en trallod. CEIRIOSYDD
PRIODASAU.
PRIODASAU. Mawrth y 3ydd, yn nghapel y Bedyddwyr, Ynyslwyd, Aberdar, gan y Parch. R. E. Wil- liams (Twrfab), a cherbron Mr. Jones, y cof- restrydd, Mr. David Evans (Goods Guard), Gwendoline Street, Caerdydd, a Miss Margaret Ann Davies, Sunny-Bank Place, Aberdar. Llwyddiant a'a dilyno trwy oiygfeydd amrywiol bywyd hyd y bedd. Mawrth 5ed, ya Bethania, Aberdar, gau y Parch. W. James, y gweinidog, a Mr. George G. Jones, y cofrestrydd, Mr. George Srunders, Dyifryn Street, a Miss Sarah Aun Nicholas, Craig Street, y ddan o Moantain Ash.
[No title]
MEDDYGINIAETH OREU CYMBU.
MEDDYGINIAETH OREU CYMBU. Quinine Bitters Gwilym Evans, Enwog ydynt drwy ein gwlad, Dwyn tystiolaeth 'nawr wna miloedd I'w rhinweddau er iachad; Buan cilia anhwylderau Dan en beffaith mewn modd syn Cleifion gollant eu clefydau Wrth ddefuyddio'r Bitters byn Symud wnant achosion gotid, Gwneud y bywyd trist yn lion, Puro'r gwaed, bywiogi'r ysbryd. Gyru pob rhyw loes o'r fron Poenau mewnol ac allanol, Poenau mawrion, poenau bach, Gwendid corff a gwendid meddwl, Giliant ffwrdd, daw'r dyn ya iach. Meddyginiaeth natur ydyw, Meddyginlaeth berffaith yw, Meddyginiaeth sydd yn gwella Pob anhwylder dynolryw. Ceir, tra dyfroedd Cymru'n Uifo Drwy ddyffrynoedd tlwe ein gwlad, Cleifion wedi gwella'n canmol Evans' Quinine Bitters mad.
Advertising
Peidiwch dyoddef poenautra y gellir eich gwella trwy ddefnyddio Quinine Bitters Gwllym Evans. Gwelir felly fod y Qainine Bitters hyn, I Feddyginiattth anmhrisiadwy, ac a barnn oddl- wrth brofiad doctorlaid, teithwyr, fferyllwyr, gweinidogion,a chanoedd lawer o gleifion wedi gwella, maeyn Fedd-ygirslaeth anffaeledig. Pris, poteli,2s. 9c.; eto awblfaInt, 4s. 6c. blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12s. 6c I'w gael yn mhob man. (ioruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ef am y pris- oedd uchod yn rhad a dyogel drwy y post i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn union gvrchol oddiwrth y perchenog,— Gwilym Evans, PHARMACEUTICAL CHEMIST, LLANELLY, SOUTH WALES. Gellir cael Qainine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prif oruchwyliwr, R.D. Williams, Medical Hall, Plymouth, Penn.