Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

PWYLLGOR Y SLIDING SCALE A…

News
Cite
Share

PWYLLGOR Y SLIDING SCALE A GLOWYR ABERDAR. AT LOWYR GLO AGER DEHEUDIR CYMRU A SWYDD FYNWY. GrDWEiTHW?Rs—Diamheu eich bod wedi gweled yn y DARIAN cyn y ddiweddaf fod cyfarfod misol glowyr Cwm Aberdar, yr hwa a gynaliwyd ddydd Llun pytliefaos i'r diweddaf yn y Bute Arms, Aberdar, wedi gosod cirrtaf y gorchwyl o roddi hanes yr ymdrafodacth yn nghylch mater glowyr gwythiaTI y nn-w yn mhwli Cwmbaoh, a phwyllgcr y Sliding Scale. Gan fy mod wedi fy ngbyhuddo yn ddi. weddar gau un a eilw ei hun yn Ymgeisydd am Agency,' mai myfi oedd yn arwain y cyfarfod misol cyn y diweddaf i ymrafaeKo a pbwyllgor y Sliding Scale, yr wyf yn creda ei bod yn ddyledswydd arnaf i hys bysu yma nad oeddwn yn y cyfarfod misol diweddaf ond cofier fy mod yn hollol gyd weled a'r oil a wnawd yno. Ond yn mlaen at fater Owmbach. Do- chrouwyd gwoithio gwytbien y naw yn y rhan hon o lofa Cwmbach tua dwy flynedd yn ol. Wedi gyru trwy fault nelllduol, a phan y dechreuwyd, yr oedd y glo yn llaith, ac yn llawn o'r hyn a elwir genym ni, fel glowyr, yn slags, a gorfu ar y manager i osod y gweithwyr ar hur. Ond er ei fod yn eu gosod ar hur, yr oedd yn rhoddi rhyw bris gosodedig ar y papyr bach. Gwrthwyneb- odd y glowyr hyn, ond atebiad y manager ydoedct, nad oedd hyny yn gwneud yr un gwahaniaeth iddynt hwy, gan eu bod yn gweithio ar hur, ac addawai ef seblo a hwy am y standard pan y delai y wythien i'w lie. Ond newidiwyd y manager, pan yr hysbys- odd y gweithwyr y peth i hwn eto, am fod y standard o'i Ie, a gwnaeth yr ail yr un addewid a'r oyntaf, sef, y setlai y standard pan y delai y glo i'w le. Ond newidiwyd y manager eto, set y trydydd, yr hwn a ddy wedodd mai y standard cynygiedig oedd i fod. Ar hyn rhoddodd y gweithwyr rybuddi a daeth y mater i'm Haw i. Gwnaetimm ymdrechion i setlo yr anghydfod, ond yn aflwyddianus. Beth bynag, gwthiodd y meistri y mater i fwrdd y Sliding Scale, lie y cafodd y ddwy oohr eu gwrando. Yna aethom ni, y pwyll. gor, i ymdrin a'r mater ein hunain. Yr oodd Mr W. T. Lewis yn dadleu fod y stan dard wedi ei osod, a hwnw ydoedd, Is Bio, a minau yn dadleu nad oedd y gweithwyi wedi cydnabod y standard hwnw (Is 3ic), trwy eu bod yn ei wrthwynebu wrth bob manager. Dywedai Mr Lewis fod y wythien dan sylw wedi bod yn cael ei thori am yr nn bris a'r pedair yn Nghwm Aberdar, sef Is lie, ac nad oedd yn deg i roddi Is 3te iddynt, tra yr oeddwn i yn dweyd fod y gweithwyr wedi methu enill eu bywioliaeth ar bris y podair er ys 20 mlynedd yn ol, a'u bod wedi cael tair ceiniog y dynell arni, a'r cyfryw wedi ei osod yn standard. Modd bynag, dywedodd Mr Lewis fod y wythien wedi bod yn cael ei gweithio yn y lofa ddeg neu 12 mlynedd yn ol, ac wedi ei hatal; a'i fod yn ystyried mai y prisoedd a delidy pryd hwnw a ddylasent fod arni pan y cy- chwynwyd hi yr eilwaith. Yna, dywedodd Mabon ei fod ef yr un farn a Mr Lewis, a bod archwiliad yn cael ei wneud beth oedd y prisoedd a delid yr amser hwnw; a gofyn wyd i holl aelodau y gweithwyr, ond myfi, beth yr oeddynt yn ei feddwl am hyny, pryd yr atebasant eu bod yn gweled hyny yn deg. Yna, gofynwyd i mi beth yr oedd- wn yn ei feddwl am dano, ac atebais nad oeddwn yn cydweled &g ef, ond gan eu bod bwy oil yn troi yn fy erbyn, nad oedd genyf ddim i wneud. Beth bynag, tynodd Mr W. T. Lewis benderfyniad allan ar bapyr, yr hwn a ddarllenodd, ond ni thaflodd ef i'r gweithwyr i'w ddarllen, fel arfer; ond caf- odd y darllaniad a wnaeth ef argraff ar fy meddwl i ei fod yn golygn fod, nid yn unig y standard (pris y pedair) i'w gymeryd i fewn, ond hefyd yr allowance a roddid ar y wythien cyn iddi gael ei hatal, Cafodd ei ddarlleniad yr un argraff hefyd ar feddwl Mr John Jenkins. Yna, cynygiodd Mabon y penderfyniad, ac eiliwyd ef gan rywun- nid wyf yn cofio psvy~a phasiwyd ef. Wedi hyny, galwyd y tystion o'r ddwy ochr i fewn-y meistri a'r gweithwyr. Ar ol eu galw i fewn, dywedwyd wrthynt y penderfyniaà yn Saesonaeg, ond nid oedd y ddau frawd ar ran y gweithwyr yn deall y Saesonaeg yn dda, a dywedais inau wrthynt feddwl y penderfyniad, yn ol fel yr ooddwn yn ei ddealL Wlth fod y ddau frawd o Gwmbach yn myned allan, dywedodd Mabon wrthynt eu bod i gael y prisoedd a delid iddynt cyn i'r wythien gael ei hatal, ac os oedd allowance yn cael ei roddi, y byddai hyny yn cael ei osod i fewn i wneud y standard presenol j ac yn ol tystiolaeth y ddau frawd, cydsynioddy Mri Jno. Jenkins, Isaac Evans, ac ni wrthwynebodd Mr Phil lip Jones, ac nid yw Mr Jobs Jenkins yn gwadu yn awr, Yna neilidnwyd Mr Dalziel a minau i edrych y llyfrau ond pan y cyfarfyddais â Mr Dalziel yn Ngbwmbaoh, y peth cyntaf oedd, daillen y penderfyniad a wnawd yn Nghaerdydd, a. dywedodd am ga.el y llyfrau er cael gweled yn unig y standard a delid yn 1870. Gofynais inau iddo beth yr oedd yn ei feddwl wrth y penderfyniad—fy mod i wedi deall yn Nghaerdydd ein bod i gy meryd yr allowances i fewn gyda'r standard. AtebodA Mr Dalziel uad oedd y penderfyn. iad yn golygu byny. 1 Wei,' meddwn inau, I dyna fel y deallais i ef yn Nghaerdydd, ac os nad ydych yn mcddwl ei weithio allan yn y ffordd yna, nid wyf yn gwneud dim & ohwi ar y mater.' Beth bynag, caniataodd Mr Dalziel i fyned i fewn i'r allowances, trwy ganiafrad Mr Evan'Lew*managing diittcujf. Wedi i ni fyned i fown i'r allow- ances, gy/elvyd fod yr allowances yn rhoaai ychydig godiad i'r gweithwyr yn y standard, ond pe buasent yn cael pris y pedair, buas- ent yn cael goatyngiad o geiniog a thair ffyrling y dynoll. Dywedodd Mr Dalziel a Mr Evan Lewis na.d allcnt roddi i fyny i mi hab welad Mr W. T. Lewis Yna boddlonais i fyned ato, ond pan aethom at hwnw, yr osdd yu bendorfynol na chawa y pris yn ol yr allowances. Wedi hyuy dywedais wrth y gweithwyr nad oedd genyf ddim yn well nag iddynt ddyfod a'u hoffer allan, a hyny a wnaech- ant. Modd bynag. galwodd Mr W. T. Lewis gyfarfod o'r pwyilgor yn nghyd i Ferchyr, pan y oododd y mater i fyny, gan acrodd yr annealldwriaeth, a darllcn y pacderfyn- j iad. Yna, gofynodd fain yr holl aeiodap ar y mater, pryd yr atebodd Mabon, Phillip J ones, E. Francis, ao Isaac Elvaus, eu bod wedi daall y penderfyniad yn yr un ffordd a Mr Lewis. Mor bell ag yr wyf yu cofio, ni atebodd. Mr John Morgan ddim, ond am Mr John Jenkins a minau, dywedasom ein bod wedi deall fod ypanderfyniad yn OJ" nwya yr allowances, ond yr oedd Jenkins a minau yn cyfaddei fod y ponderfyniad yu darllen yn awr yn cynwys rneddwl Mr Lewis. Pa fedd yr oedd hyn wedi dygwyud, naa gallem roddi cyfrif am dano. Yna aeth yn ddadleu lied arw rhyngwyf a'r meistri a Mabon, ao nid wyf yn cofio yr oil o'i chy. nwysiad. Modd bynag, gwelodd y meistri mid oedd dim yn tycio arnaf i ymosiwng i berswadio y gweithwyr i fyned i'r gwaith ar bris y pedair, na dweyd ei fod yn ddrwg genyf fy mod wedi gwneud fel y gwneu thum; ond i'r gwrthwyneb, dywedais ei fod yn dda genyf fy mod wedi gwneud fel y gwneuthum. Yna cynygiodd un o'r msistri eu bod yn pasio math o bleidlais o anghymeradwyaeth arnaf ft, ond fod y gweithwyr i fyned yn ol i weithio ar y Is 3Ju, ac nid ar y Is l £ c (pris y pedair), yn ol y penderfyniad cyntaf, a bod dau o'r Bwrdd i fyned i'r lofa eto, er coisio terfynu yr anghydfod. Ond cynyg- iodd Mabon welliani, sef fod y dynion i fyned i weithio yn ol y penderfyniad cyntaf, sef ar bris y pedair, a bod dau o'r Bwrdd i ymweled a'r lofa ar y mater. Ar hyn cod- odd ystorm eto rhyngwyf a Mabon, a dy- wedais wrtho, os pasiai ei gynygiad ef, y cawsai ef fyned i'r lofa i berswadio y gweithwyr i fyned at eu gwaith, yr hyn a wnaeth i Mabon betruso beth yr oedd yn ei wneud, a dywedodd wrthyf ei fod ef wedi gorfod gwneud peth fel hyn yn ei ddosbarth ef. Yna oynygiodd ei welliant yr ail waith ond ni chafodd neb i'w eilio. Ar hyn gofyn odd un o'r meistri i mi, os buasaiy cynygiad yn pasio, i'r gweithwyr fyned i'r gwaith ar yr amod na fuasent yn oael llai na Is 3 £ c, a bod dau ddyn yn oael myned yno i geisio dyfod a'r annealldwriaeth i ben, a wnawn i gynghori y gweithwyr i fyned i weithio ar y teleraa nohod ? Atebais inau y gwnawn. Yna pasiwyd cynygiad y meistri. Ond er fy syndod, gyda bod yr uchod yn pasio, dyma un o'r meistri yn cynyg fod Mr W. T. Lewis a Mabon i fyned i setlo y mater, yr hwn oedd wedi cynyg y fynyd o'r blaen fod y gweithwyr i weithio am Is lie y dynell os na fuasai y ddau gyflafareddwr yn gallu setlo, tra yr oedd y meistri eu hun ain yn cynyg Is StC, Ar hyn gofynodd un o'r meistri i mi os dywedwn i rywbetn yn erbyn peth fel yna. Atebais, dan haner chwerthin, 'Na wnaf fi j ewoh yn mlaen.' Gyda hyn dyma Mr Isaac Evans yn dweyd ei fod ef yn gwrthwynebu i Mabon fyned yno; a braidd cyn iddo gael amser i der fynu ei frawddeg, dyma y meistr a'i cynyg iodd yn dweyd, I Pob un syd to-, coded ei law.' Cododd rhyw dri eu, Pan y cynygiodd y meistr hwnw fod Mabon a Mr W. T. Lewis i fyned i Qwmbach, yr oeddwn yn oredu fy mod yn deall y dodge, a gadewais iddynt fyned rhag eu blaen. Yna aethum Ar mater i'r cyfarfod misol, a dywedais yr oil wrthynt, a gwyr pawb pa fodd y mae pethau wedi dygwydd wedi hyny. Cofier fod y ddau dyst a ddaethant o Gwmbach yn barod i gyfarfod Mabon fel y gwnaethant o'r blaen, Nid wyf yn gwybod pa un a fydd y cy. hoedd yn fy meio am ddyfod & hyn allan ai paidio; ond cofier, ma.i angenrhaid a osod- wyd arnaf. Yr eiddoch yn ostyngedig, Aberdar. D. MORGAN.

COLEG CAERDYDD-Y FARTHING…

YR ALCANWYR.

ADOLYGIAD.,

[No title]

COLEG CAERDYDD.

.0 NE V^TtoiADURON AMEBIC.…