Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

I YR WYTHNOS. I I

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. Y MAE y senedd wedi ei gohirio o'r 19eg o'r mis hwn hvd y 5ed o Chwefror, yr adeg hono i yingyfarfod at waith neillduol. Y MAB Toriaid sir Fflmt wedi pender- fynu rhedeg dau ymgeisydd yn yr ethol- iad nesaf, sef Viscoijnt Fielding, mab larll Dinbych, a Mr Llewellyn Mostyn, wyr Arglwydd Mostyn, yn erbyn y ddau aelod Rhyddfrydol presenol. Y DYDD o'r blaen, yn Birmingham, darfu i -wasanaethferch wneud hunan- gyfaddefiad ei bod wedi llofruddio ei meistres mewn cweryl yn Wolverhamp- tontrwydorieigwddf. Darlnniodd hefyd ymodd y darfu iddi guddio y corff. Mae yr heddgeidwaid yn awr yn gwneud ym- chwiliad i'r achos. „ ODDEUTU canol dydd dydd Iau di- weddaf, yn Nhregaron, syrthiodd plentyn dwy flwydd oed, merch fechan i Mr W. Bees, saneuwr, i'r afon Brenig, ac a foddwyd. DYDD Mercher diweddaf, tra wrth ei waith yn Lefel y Werfa, perthynol Gwmni Plymouth, Merthyr, daeth cwymp ar ddyn o'r enw William Owen, ac a laddwyd yn y man. Yr oedd ei ddau fab yn gweithio gydag ef. BOREU dydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, daeth labrwr o'r enw Wil- liam Dixon i'w ddiwedd yn ngweithiau. haiarn Llynfi, Maesteg, Y mae yn ym- ddangos mai gwaith y trancedig ydoedd llanw lludw i druclcar y rheilffordd, a phan yr aeth rhwng y truck ar y siding, er eu sicrhau yn nghyd, daliwyd ef rhwng y buffers, a lladdwyd ef yn y man. Yr oedd halier o'r enw William Wil- liams yn y lie ar y pryd. CYMERODD damwain angeuol Ie ddydd Sadwrn diweddaf yn nglofa Deep Dy- ffryn, Mountain Ash. Enw y trancedig oedd Thomas Williams, halier, 21 oed, yr hwn a syrthiodd i lawr shaft can Hath o ddyfnder, yr hon sydd yn cysylltu dwy wythien. Daeth i gymydogaeth Mountain Ash ddwy flynedd yn ol o gy- mydogaeth Hwlffordd. MEWN cyfarfod mawr o gynrychiolwyr glowyr Yorkshire, a gynaliwyd yn Barns- ley ddydd Llun diweddaf, penderfynwyd yn unfrydol i ofyn am godiad o 10 y cant yn eu cyflogau. MAE yn dda genym ddeall fod cwmni glofaol Resolfen newydd brofi un o'r gwythienau glo sydd y tu uchaf i'r wythien a weithir yno yn bresenol, yr hon sydd wedi profi i fod yn wythien o 10 ager rhagorol, ac yn galetach na'r un a weithir. Mae y darganfyddiad hwn wedi rhoddi boddlonrwydd mawr i'r cwmni a'r gymydogaeth. MAE dau gorff ychwanegol wedi eu cael allan o lofa y Dinas, tra y mae saith eto yn y gweithfeydd. O'FLAEN Hedd Ynad yr Ystrad, ddydd Llun diweddaf, dygwyd un William Pugh, Pentre, yr hwn a weithia yn nglofa y Ton, ar y cyhuddiad o fod wedi cario pib a matches gydag ef i'r gwaith. Yr oedd y tanwr wedi bod yn siarad ag ef yn nghylch hyny. Dirwywyd ef o 20s Mae y New York Times, Tribune, a'r Herald, yn condemnio y cynhyrfiad sydd yn cael ei ddangos mewn cysylltiad ag achos O'Donnell, llofrudd James Carey. Dywedant ei fod yn anheilwng o'r Unol Daleithiau, ac yn gyfiawnhaol wrth- wynebus i Loegr. Y mae Dr. Annie Clark, sydd wedi bod am rai blynyddau yn gysylltiedig a gwaith ysbytol yn Birmingham, wedi ei hethol i lanw gwagder ar staff y medd- ygon gweithredol ynyrjrsbyty i blant yn y He uchod. YN yr ethoiiad a gymerodd le yn Ipswich, dydd Mercher diweddaf dy- chwelwyd Mr West, y Rhyddfrydwr, gyda mwyafrif o 450.. BOREU dydd Mercher diweddat, caf- odd yr heddgeidwaid yn Mhcntypridd allan fod ffenestr siop Mr Baron, pawn- broker, wedi ei thori, ac erbyn galw y teulu, deallwyd fod 30 o oriaduron wedi eu lladrata, hefyd, modrwyau a chad- wynau aur, gyda'u gilydd yn werth 70p,

LLONGDDRYLLIAD A CHOLLIAD…

j CWMPARK ART UNION.

I O BWYS I GANTORION.

GWERTHU GWRAIG YN NGHAS-NEWYDD.

LLOFRUDDIAETH YN NGHAERDYDD.

MARWOLAETH Y PARCH JOSEPH…

DIENYDDOD O'DONNELL.

---+--FFRAI1 0 A CHINA.

YMWELIAD AG ARABI PASHA.

. CYNRYCHIOLWYR Y GWEITHWYR…

CYFARFOD DOSBARTH Y GLO CAREG.

WEDI EI LADD AR REILFFORDD…

MARWOLiETH,

Advertising

: Teilwng o sylw pa wb!

ageklong" NEWYDD.

Manteision pellach.

.Llythyr Gymeradivyaeth.

Uuinine Blttor^

EU GWEITHHEDIAD,

GOFAEED PAWB AM am;-